– Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau COVID. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7891 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.
2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:
a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;
b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;
c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Cyflwynwyd y cynnig hwn, wrth gwrs, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ychydig cyn i'r Llywodraeth wneud ei chyhoeddiad ar lacio'r cyfyngiadau. Rwyf bob amser yn falch pan fydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i'n cynigion ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwadau gennym ni ein hunain a chan eraill i amlinellu map ffordd ar gyfer llacio cyfyngiadau. A boed eich bod yn ei alw—. Gallaf weld y Gweinidog yn chwerthin, ond rwy'n falch, Weinidog; rwy'n bod yn bositif yma. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi rhoi sylw i'n galwadau.
Russell, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae Huw Irranca-Davies eisiau gwneud ymyriad.
Gwnaf, Ddirprwy Lywydd.
Russell, diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rwyf fi, fel llawer o bobl, yn dilyn cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae'r ffaith eich bod yn cymryd y clod am hyn—. Chwarae teg i chi. Ond sylwodd un person, mewn ymateb i hynny, ei fod yr un peth â gweiddi, am 25 munud yn ddi-stop, o res Z yn y stand, 'Rhowch y bêl i Shane, rhowch y bêl i Shane' ac yna mae Biggar yn sgorio gôl adlam i ennill yn y funud olaf, ac rydych chi'n curo eich cefn eich hun ac yn dweud 'Da iawn'. Nid ef oedd yr unig un, Russell.
Diolch, Huw. Rwy'n falch eich bod yn dilyn ac yn ymddiddori yng nghyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n falch o glywed hynny. Credaf mai'r hyn rwyf am ei amlinellu, efallai, yn ystod y ddadl hon, yw nid yn unig ein bod yn curo ein cefnau ein hunain oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi talu sylw i'n galwadau, ond y rhesymau pam ein bod wedi cwestiynu pam fod y cyfyngiadau ar waith yn y lle cyntaf. Roeddwn am ddweud, Huw, hefyd, fy mod yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gael map ffordd allan o'r cyfyngiadau. Mae hyn bob amser yn bwysig. Boed eich bod yn ei alw'n gynllun neu'n fap ffordd, nid oes ots gennyf beth rydych yn ei alw, ond mae angen i'r cyhoedd a busnesau wybod lle mae'r pen draw pan gaiff cyfyngiadau eu gosod.
Gyda rhai o'r rheoliadau hyn, Huw, ac eraill, a'r Gweinidog, byddwn yn dweud bod llawer o rannau i'r rheoliadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan rydym yn eu cefnogi. Roedd rhai ohonynt yn gytbwys. Roedd rhai ohonynt yn gymesur. Felly, nid ydym yn awgrymu o gwbl ein bod yn anghytuno â'r holl reoliadau a roddwyd ar waith. Yr hyn rydym yn ei ddweud yw, ar ôl i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith, ac ar ôl iddynt ddigwydd, fod yn rhaid inni graffu ac mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn a oedd yn gytbwys a'r hyn a oedd yn synhwyrol. Dyna pam ein bod yn edrych yn arbennig ar rai o'r rheoliadau dryslyd ac anghyson a oedd yn rhan o'r rheoliadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan.
Credaf ein bod ni i gyd yn ymwybodol—mae wedi'i ddweud yn y Siambr—o'r mater a gododd yng nghlwb rygbi Caerffili, lle caniatawyd i 50 o bobl fynd tu allan i wylio gêm rygbi, ond caniatawyd i 140 ei gwylio ar ffrwd fyw yn y clwb ar fyrddau o chwech. Felly, mae'n rhaid inni gwestiynu hyn, onid oes? Onid yw'n iawn cwestiynu cyfyngiadau sy'n cyfyngu'n arbennig ar weithgarwch awyr agored? Ac mae arnaf ofn fod y rheol chwech, wrth gwrs, a gyflwynwyd yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn i letygarwch yn niweidiol iawn i lawer o fusnesau, yn anffodus. Mae llawer o'r busnesau hyn yn defnyddio'r cyfnod hwn—fel y gwyddom ni i gyd, maent yn defnyddio'r refeniw i'w cario drwy'r misoedd tawelach sydd i ddod. Cofiaf yn ôl i'r Nadolig diwethaf pan welsom lawer o siopau'n cau ychydig ddyddiau cyn Dydd Nadolig.
Yng Nghymru, nid wyf yn credu bod y pecyn busnes wedi bod yn ddigon. Ac nid fi yn unig sy'n dweud hynny, na'r Ceidwadwyr Cymreig; dyma farn busnesau ledled Cymru. Dywedodd prif swyddog gweithredol y Grŵp Lletygarwch Creadigol hyn—ac rwy'n ei ddyfynnu yma:
'O safbwynt fy musnes fy hun, efallai y bydd gan y Grŵp Lletygarwch Creadigol hawl i £90,000 dros y naw wythnos. Ni fydd hyn hyd yn oed yn talu fy nghostau talu staff, rhent ac ad-dalu benthyciadau am un wythnos. Mae angen mwy o gymorth arnom, mae angen mwy o eglurder ac yn bwysicaf oll mae angen y dystiolaeth sy'n dangos pam fod ein sector wedi'i dargedu mor llym.'
Clywsom hefyd gan brif weithredwr cymdeithas gwrw Cymru, sydd wedi amcangyfrif y bydd pob tafarn ledled Cymru yn colli £16,000 yr un ar gyfartaledd oherwydd y cyfyngiadau presennol, ac ni fyddant yn ei adennill; dyna'r pwynt pwysig yma. Unwaith eto, mae busnesau Cymru wedi cael eu siomi gan y diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Os ydych yn cyflwyno cyfyngiadau, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r cymorth cywir i fusnesau. Ac wrth gwrs, dywedaf hyn mewn cyd-destun lle mae busnesau yn economi Lloegr yn parhau i gael agor yn rhydd.
Pan fyddwch yn cyflwyno cyfyngiadau, mae'n rhaid ystyried y cydbwysedd cywir. Yr hyn rwy'n ei ddweud a'r hyn rydym yn ei ddweud fel Ceidwadwyr Cymreig heddiw yw bod Llywodraeth Cymru y tro hwn wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n anghywir. Pan gyflwynir cyfyngiadau, rhaid ichi feddwl am y canlyniadau i fusnesau, yn enwedig ar hyd y ffin. Mae llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn mynd dros y ffin am letygarwch, ac yn ne Cymru maent yn mynd i rannau eraill o Loegr. Yn fy etholaeth i, maent yn teithio ychydig funudau i fyny'r ffordd am letygarwch yn yr Amwythig ac i mewn i swydd Amwythig. Felly, unwaith eto, rhaid i chi feddwl am yr effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei chael ar fusnesau pan fyddwch yn gwneud y dewisiadau cytbwys hynny.
Mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod wedi bod yn dilyn y wyddoniaeth a'r cyngor ar y cyfyngiadau hyn, ond gwyddom fod cyngor gan Goleg Prifysgol Llundain a gyflwynwyd i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ym mis Rhagfyr yn awgrymu bod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema lle nad oedd cyfyngiadau ar waith. Sylwaf hefyd, yn yr Alban, fod y cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol wedi dweud, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, nad oedd cyfyngiadau'r Alban ar letygarwch a digwyddiadau chwaraeon wedi gwneud fawr o wahaniaeth i niferoedd yr achosion o'r coronafeirws yr Alban o'i gymharu â'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn Lloegr. Wrth gwrs, unwaith eto, mae'n rhaid ystyried cydbwysedd, ond y tro hwn, roedd y cydbwysedd yn anghywir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n ymwneud â mwy na chaniatáu i bobl fynd i dafarndai a bwytai a chymysgu'n rhydd, mae'n ymwneud â mwy na ph'un a ydych yn mynd i wylio gêm bêl-droed neu rygbi; mae'n ymwneud â'r pethau y dylai fod gennym hawl gyfreithiol i'w gwneud. Mae'n ymwneud â'n llesiant corfforol a meddyliol. Cafodd gwirfoddolwyr ledled Cymru eu siomi am na roddwyd ystyriaeth briodol i sesiynau parkrun ledled Cymru. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ac eraill o'r blaen—y gall sesiynau parkrun barhau o dan y rheoliadau. Ond yn ymarferol, ni allent barhau. Golygai ystyriaethau ymarferol na allent barhau fel yr awgrymwyd. Unwaith eto, mae pobl yn derbyn cyfyngiadau pan fo'u hangen, yng nghyd-destun y cydbwysedd cywir, ond unwaith eto, roedd y cydbwysedd yn anghywir gyda'r cyfyngiad penodol hwn hefyd.
Ar basys COVID, unwaith eto, rydym yn dal i aros am y dystiolaeth. Dywed y Llywodraeth, 'Byddwn yn gweithio ar y data, byddwn yn darparu'r data'; nid ydym wedi gweld y data ar basys COVID a lle mae'r effaith yn llwyddiannus neu lle nad yw'n llwyddiannus. Mae'n rhaid inni gwestiynu pam nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno'r data hwnnw hefyd. Mae yna gost enfawr, wrth gwrs. Ni wnaf ailadrodd fy marn a barn y Ceidwadwyr Cymreig ar y pasys COVID; maent wedi'u cofnodi'n dda. Ond rhaid inni hefyd ystyried y gost i'r trethdalwr wrth i her gyfreithiol gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pasys COVID.
Yn bersonol, ac fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn croesawu'r ffaith bod Gweinidogion wedi llacio'r cyfyngiadau. Rydym wedi croesawu'r map ffordd, i fod yn gadarnhaol. Rwy'n dweud yn glir fy mod yn falch fod gennym fap ffordd allan o'r cyfyngiadau. Ond wrth gwrs, byddwn yn dweud bod y cyfyngiadau presennol, y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan, yn orymateb. Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi newid ei safbwynt ar lacio'r cyfyngiadau yn awr, ond mae'n rhaid inni asesu ar ba gost y cyflwynwyd cyfyngiadau hyn. A byddai'n braf pe bai'r Gweinidog yn derbyn efallai nad oedd rhai o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn briodol, ac efallai na fyddai'n gwneud hynny eto pe baem yn yr un sefyllfa eto. Credaf y byddai'n braf pe gallai'r Gweinidog roi rhyw syniad o leiaf a yw'n credu bod rhai o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn mynd gam yn rhy bell. Diolch, Lywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gynnig yn ffurfiol y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Dawn Bowden.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:
a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;
b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;
c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a
d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.
Yn ffurfiol.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Sylwadau digon byr, dwi'n meddwl, sydd eu hangen gen i heddiw. Mae'n amlwg bod y cynnig yma wedi dyddio braidd. Mae o'n galw am gyfres o bethau sydd eisoes yn digwydd, felly ymatal byddwn ni heddiw. Mae hindsight yn rhyfedd o beth, onid ydy? A gwrando ar Russell George yn fanna rŵan yn dyfarnu ar rywbeth wythnosau lawer wedi'r dystiolaeth oedd yn cael ei chyflwyno inni ar y pryd ynglŷn â'r bygythiad yr oedd y gwyddonwyr sydd yn cynghori'r Llywodraeth yn meddwl yr oedden ni yn ei wynebu ar y pwynt hwnnw, ac yn dod i gasgliadau yn seiliedig ar yr hyn roedd ganddyn nhw o'u blaenau nhw—. Ac mae'r awgrym efallai y dylai Cymru ddim fod wedi cymryd camau oherwydd bod Lloegr yn cymryd agwedd mwy cavalier yn od iawn i mi. Gwarchod pobl Cymru a gwasanaeth iechyd Cymru ydy gwaith Llywodraeth Cymru, ac, yn gyffredinol hefyd, mae'n rhaid nodi bod pobl yn mynd i ffeindio hi'n anodd iawn cymryd gwersi gan blaid y partïon yn Downing Street ynglŷn â sut i—
Russ, a oeddech eisiau ymyrryd?
—i fod yn—[Anghlywadwy.]—ynglŷn â'n hymateb ni i COVID.
Rhun, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Dwi'n hapus i dderbyn ymyriad.
Diolch, Rhun. Rwy'n llwyr dderbyn eich pwynt ynghylch ffurfio barn wrth edrych yn ôl, ond fel Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno hefyd nad ydym eisiau bod â barn wrth edrych yn ôl ar y rheoliadau hyn; rydym eisiau gallu pleidleisio arnynt pan gânt eu cynnig. Ac nid oes unrhyw reswm pam na all hynny ddigwydd yn awr. Gyda'r cyfarfodydd rhithwir, gellir cynnig hynny'n hawdd. Gellid bod wedi'i gynnig dros gyfnod y Nadolig. Felly, os gwelwch yn dda, ystyriwch hynny. Nid ydym eisiau siarad am y pethau hyn wrth edrych yn ôl; byddem wedi gallu mynegi ein barn yn gyhoeddus iawn yn y Senedd pe bai'r rheoliadau hyn wedi cael eu cynnig ar yr adeg y cawsant eu rhoi mewn grym.
Ac mae hwnnw'n bwynt rwyf wedi'i wneud fy hun: mae'n bwysig i ddemocratiaeth ein bod yn cael pethau'n iawn ac yn gwneud pethau yn y drefn gywir. Ond mae dadlau yn awr fod yr hyn y cafwyd tystiolaeth briodol ar y pryd ei fod yn briodol yn anghywir yn enghraifft dda iawn o gamddefnyddio ôl-ddoethineb, rwy'n credu.
Mi fyddwn ni'n pleidleisio dros welliant y Llywodraeth achos y cwbl mai o yn ei wneud, dwi'n meddwl, ydy gosod allan y broses o godi mesurau gwarchod sydd eisoes wedi cael ei chyhoeddi a'n wir wedi dechrau cael ei gweithredu.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth amlinellu eto'r egwyddorion dwi a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi cael ein harwain ganddyn nhw dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae eisiau mesurau gwarchod a rheoliadau mewn lle sydd yn ddigon tyn a digon cryf i ymateb i'r risg iechyd dŷn ni'n ei wynebu, ond mae eisiau sicrhau nad oes yna fwy na sydd ei angen mewn lle chwaith, oherwydd yr impact maen nhw yn eu cael ar lesiant, ar iechyd meddwl, ar yr economi, ar letygarwch, ac yn y blaen. Dwi wedi annog y Llywodraeth i wthio y ffiniau o'r hyn mae'n bosib ei ganiatáu a'r normalrwydd mae pawb ohonon ni'n dyheu amdano fo wedi'r cyfan. Wythnos i ddoe, dwi'n meddwl, cyn i'r cynnig yma gael ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr, mi oeddwn innau'n galw ar y Gweinidog i ganolbwyntio ar beth roedden ni'n ei obeithio oedd yn arwyddion addawol iawn yn yr ystadegau—mi drodd hi allan eu bod nhw'n addawol iawn—ac i baratoi i allu codi'r rheoliadau mor fuan â phosib. A dwi'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny mewn difri ar yr achlysur yma.
Rhun, a wnewch chi aros eiliad, os gwelwch yn dda? Janet, rydych chi wedi codi eich llaw. A ydych eisiau ymyrryd? Rhun, a ydych yn barod i dderbyn ymyriad arall?
Wrth gwrs.
Diolch. Rhun, rwyf mewn penbleth, oherwydd hyd y gwn i, a'r ddadl rydym wedi'i gwneud fel Ceidwadwyr Cymreig yw nad oeddem wedi gweld cell cyngor technegol ar y pryd—ni welsom unrhyw dystiolaeth ar y pryd. Felly, os gwelwch yn dda, cofnodwch y dystiolaeth a oedd yno nad ydym ni fel Aelodau etholedig, rywsut, wedi cael gwybod amdani.
Wel, yn fy mhrofiad i ac o brofiad cyd-Aelodau i chi, gwn fod yna ddeialog agored y gallwch ei chael gyda chynghorwyr i'r Llywodraeth, ac rydym yn ei chael drwy'r pwyllgor iechyd ac yn y blaen. Hefyd, roeddem yn sôn am don fyd-eang a thystiolaeth fyd-eang o don o amrywiolyn newydd nad oeddem yn gwybod dim amdano, ac er eich bod efallai'n meddwl eich bod yn gwybod popeth amdano yn awr, Janet, ond nid oeddech ar y pryd. Ac roedd hwn yn ymateb i sut i gadw'n ddiogel, ac rwy'n argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud a chredaf ei fod hefyd wedi'i gadarnhau yn yr ystadegau rydym wedi'u gweld ar y niferoedd a aeth i'r ysbyty yng Nghymru ac yn y blaen. Nid oes neb eisiau unrhyw un o'r rheoliadau hyn; gadewch inni atgoffa ein hunain o hynny. Ond ar adegau, drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf, bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith, a chredaf fod y rhain yn fesurau rhesymol i fod wedi'u rhoi ar waith mewn ymateb i'r bygythiad roeddwn i yn sicr yn bendant ei fod yn cael ei gyfathrebu i ni mewn gwahanol ffyrdd, er, yn bendant, rwy'n cytuno bod angen inni fod yn pleidleisio arnynt mor agos at yr adeg y byddant yn cael eu gweithredu—yn ddelfrydol cyn eu gweithredu wrth gwrs, ond weithiau, rhaid i ymateb y Llywodraeth fod yn gyflym iawn.
Mi wnaf i ddirwyn fy sylwadau i ben drwy edrych ymlaen at y camau nesaf. Mae eisiau cadw at yr un egwyddorion—dwi wedi sôn amdanyn nhw—o ran gwneud digon ond dim gormod. Mae'n wir am yr amser ynysu: dowch â fo lawr gymaint â phosib, ond dim ond pan fo'r dystiolaeth yn caniatáu y gallwn ni wneud hynny, a dwi'n gobeithio y gall hynny ddigwydd yn fuan, wrth gwrs. Rhaid cofio ein bod ni'n dal yn byw mewn pandemig a bod cryfhau'r elfennau hynny, efallai lle mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhy araf yn gweithredu arnyn nhw o bryd i'w gilydd, yn bwysicach nag erioed—cyflwyno offer glanhau awyr fel bod unrhyw donnau yn y dyfodol yn cael llai o impact, bod yn gwbl gadarn mewn canllawiau awyr iach mewn ysgolion ac ati. Dŷn ni'n amlwg mewn lle llawer mwy addawol, rŵan, fel mae'r penderfyniad cywir, dwi'n meddwl, i lacio'r rheoliadau wedi'i ddangos. Ond drwy fod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, cario ymlaen i baratoi, rhoi camau ataliol mewn lle ac ymateb yn gyflym a phriodol i sefyllfa sy'n newid o hyd—dyna sut mae ein galluogi ni i fod mor wydn â phosib wrth wynebu problemau eraill a all godi yn y dyfodol.
Rwy'n falch o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon, gan ein bod wedi dioddef cylch arall o gyfyngiadau niweidiol ac afresymol.
Mae dull y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd o rannu negeseuon ers i'r amrywiolyn omicron gyrraedd Cymru wedi bod yn anhrefnus ac yn anghyson. Mae wedi codi ofn a gellid dadlau ei fod yn benderfyniad gwleidyddol mewn rhai ffyrdd. Yn fwyaf pryderus, nid oedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'r penderfyniadau hyn yn seiliedig ar wyddoniaeth, gyda diffyg tystiolaeth amlwg i ategu unrhyw benderfyniadau a wnaed. Mae cydbwysedd anodd i'w daro wrth bwyso a mesur gwahanol fathau o niwed, pan fyddwn yn gwneud y penderfyniadau anodd hyn ac maent yn benderfyniadau anodd—mae pawb yn cydnabod hynny. Ond pan fyddant yn benderfyniadau sydd â goblygiadau mor enfawr i fywydau a bywoliaeth pobl, mae angen rhywfaint o esboniad ynghyd â thystiolaeth i egluro pam eich bod, mewn rhai achosion, yn dinistrio busnes rhywun drwy wneud penderfyniad penodol.
Unwaith eto, ymateb uniongyrchol Llywodraeth Cymru i'r amrywiolyn newydd oedd cau busnesau'n frysiog a chyfyngu ar ryddid. Nid yw'n syndod i mi gan fod gennym Brif Weinidog sydd wedi treulio ei yrfa'n damcaniaethu am sosialaeth yn hytrach na rhedeg busnes neu orfod poeni am dalu staff. Fe wnaeth y penderfyniad i symud yn ôl i reoliadau lefel 2 orfodi digwyddiadau chwaraeon gwylwyr awyr agored i gau eu drysau i gefnogwyr unwaith eto, a chyfeiriwyd at gynulliadau a digwyddiadau chwaraeon cymunedol eraill fel 'digwyddiadau lle heintir llawer', er na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth, ac yn ddealladwy, fe greodd hynny gryn ddicter. Roedd y cyfyngiadau hyn yn atal mwy na 50 o bobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored, ac eto roedd yr un cyfyngiadau'n caniatáu i fwy na 50 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiad dan do, ar yr amod eu bod yn eistedd, lle byddai awyru ar lefel lawer is. Nid yw'n syndod fod pobl yn ddig ac wedi cael llond bol ar y cyfyngiadau disynnwyr hyn ar ein bywydau.
Ddirprwy Lywydd, ni allwn ddeall pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w penderfyniad, ond o weld y data drosof fy hun ac edrych ar sut y bu i Loegr ymdopi heb gyfyngiadau, gallaf weld pam yn awr. Ni all pobl a busnesau Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol na byw eu bywydau tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi—
Laura, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Anghlywadwy.]—heb ryddhau unrhyw dystiolaeth. Gwnaf.
Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Un rygbi arall?
Wel, na, mewn gwirionedd, oherwydd, Laura, rydym i gyd wedi cael llond bol ar y mesurau mewn ymateb i COVID. Mae pob un ohonom wedi cael llond bol, oherwydd yr effaith ar ein teuluoedd, ar fusnesau ac yn y blaen. Ond oni fyddech yn cytuno mai un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu o donnau cynharach o'r pandemig hwn yw'r angen i symud ymlaen yn ofalus, a hefyd, rhaid imi ddweud, i wneud ymyriadau'n gynnar, er mwyn atal canlyniadau gwaeth? Ac a gaf fi eich cyfeirio at ddata arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr wythnos diwethaf, sy'n dangos bod nifer yr achosion yn awr yng nghymunedau Cymru yn un o bob 25, o'i gymharu ag un o bob 20 yn Lloegr a gweddill y DU? Os yw hynny wedi arbed pwysau ar y GIG, wedi achub bywydau, ac yn awr yn caniatáu inni agor busnesau'n gynharach, a yw hynny, wrth edrych yn ôl, yn rhywbeth a allai'n sicr fod yn werth rhywbeth, hyd yn oed gydag anhawster hyn, ac yn rhywbeth nad oedd yn ddisynnwyr, ond a oedd, mewn gwirionedd, yn benderfyniad da a'r penderfyniad cywir, yn ôl pob tebyg?
Na, rwy'n derbyn bod y rhain yn benderfyniadau anodd, fel yr amlinellais yn gynharach, ac mae'n anodd—mae'n anodd gwneud y penderfyniadau hyn a chydbwyso'r gwahanol fathau o niwed. Ond roedd yn amlwg o'r ffigurau, Huw, fod y nifer a oedd yn mynd i'r ysbyty yn is a bod y ffigurau'n mynd y ffordd honno. Pe baech yn edrych ar y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd yn Llundain gyda'r un amrywiolyn, ac yn Ne Affrica, roedd tuedd amlwg o'r hyn a oedd yn debygol o ddigwydd, a bellach, gwelwn mai dyna ddigwyddodd mewn gwirionedd.
Mae'r sector lletygarwch wedi bod dan warchae'n gyson gan Lywodraeth Cymru, gyda diffyg cefnogaeth ac ailgyflwyno'r rheol chwech. Amcangyfrifir bod 86,000 o swyddi wedi'u colli o'r diwydiant nos diwylliannol, ac roedd cost gyfartalog o £45,000 i fusnesau dros gyfnod yr ŵyl yn sgil y mesurau newydd hyn.
Dangosodd ymchwil ym mis Rhagfyr gan Goleg Prifysgol Llundain fod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema. Ni ellir cyflwyno cyfyngiadau heb reswm, ac yng ngoleuni'r ffaith bod amrywiolyn omicron yn llawer ysgafnach, ochr yn ochr â chynnydd y broses o gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu, mae'n rhaid imi gwestiynu'r sail resymegol dros benderfyniadau Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fo'r dystiolaeth yn dal i fod yn absennol.
Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y Ceidwadwyr Cymreig, fel y dywedodd Russell yn gynharach, ac wedi gwrando ar ein galwadau i lacio'r cyfyngiadau, rydym yn dal i orfod aros wythnosau am y newidiadau hyn, a hynny i gyd am fod Mark Drakeford eisiau arbed wyneb a pheidio â chyhoeddi unrhyw dro pedol. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl i iechyd meddwl a llesiant, nac i economi Cymru. Mae'n bryd inni edrych tua'r dyfodol a dechrau ailadeiladu ein bywydau ac economi Cymru. Mae arnom angen map ffordd manwl ar gyfer adfer yn awr, nid yr ansicrwydd cyson y mae Llywodraeth Cymru wedi'i greu drwy gydol y pandemig.
Mae angen inni gynllunio i ddysgu byw gyda COVID, mae angen inni gadw plant yn yr ysgolion a'u cynorthwyo i fynd yn ôl ar y trywydd cywir. Mae angen inni gael gwared ar basys COVID, ac mae angen inni gefnogi ein GIG a'n staff wrth iddynt fynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y rhestrau aros. Bydd yr adferiad yng Nghymru yn cymryd amser, ac rwy'n deall hynny, ond mae angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli ei bod yn bryd inni fyw gyda COVID a chanolbwyntio ar ddiogelu ein dyfodol economaidd. Os oes tystiolaeth yn datgan bod angen cyfyngiadau penodol arnom, iawn, ond mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn anghywir gyda'r cyfyngiadau diweddaraf hyn.
Mae'n dda gweld pethau'n newid o'r diwedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn clywed mwy yfory ar fasgiau mewn ystafelloedd dosbarth a mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio yn gynt. Yn syml iawn, mae'n bryd ceisio dechrau rhoi sicrwydd yn hytrach na mwy o fygythiadau o gyfyngiadau sy'n arwain at golli swyddi. Mae angen inni ddysgu byw gyda COVID. Roedd hon yn ddadl bwysig i'w chael heddiw er ei bod wedi dyddio mewn ffordd. Byddai'n dda gallu trafod cyfyngiadau a phleidleisio arnynt cyn iddynt ddigwydd yn y dyfodol. Diolch.
Mae cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ddadleuol, yn anghyson ac yn llawn o fylchau sydd wedi achosi niwed di-ben-draw i economi ein gwlad, yn ogystal â'n diwydiant lletygarwch hanfodol, unigolion, busnesau a sefydliadau, sydd i gyd wedi cael eu taro'n galed gan y gyfres hon o gyfyngiadau. Ar ôl wythnosau o alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i lacio'r cyfyngiadau hyn, ac fel y dywedodd Huw Irranca, hyd yn oed os oedd o'r 12 rhes uchaf yn stadiwm y mileniwm, rwy'n falch fod Cabinet Llywodraeth Lafur Cymru o'r diwedd wedi rhoi cynllun ar waith ar 14 Ionawr. Fodd bynnag, mae arnom angen mwy na hyn a mwy o sicrwydd wrth symud ymlaen.
Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru geisio atal y cyhoedd rhag ymweld â'n lleoliadau lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac eto roedd y cymorth a ddarparodd yn druenus. Gwariodd tafarndai a bwytai filoedd o bunnoedd ar fwyd ac roedd ganddynt stociau da ar gyfer cyfnod yr ŵyl, ac mae llawer ohono wedi'i wastraffu gan greu cost i'r gadwyn gyflenwi ehangach. Yr hyn sydd hyd yn oed yn anos i'r unigolion a'r busnesau a gafodd eu dal gan y cyfyngiadau hyn yw dysgu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i eistedd ar gronfa o arian parod, arian parod sydd i fod yno i gefnogi ein busnesau lleol a'r diwydiannau cysylltiedig sydd wedi cael eu taro gan y cyfyngiadau hyn. O'r gronfa gwerth £500 miliwn, £120 miliwn yn unig sydd wedi'i ddarparu i fusnesau. Mae'r ffigur hwn yn annigonol iawn, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar adeg pan fo'r busnesau hyn yn brysur fel arfer.
Dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, aeth miliynau o bunnoedd allan o Gymru, gydag unigolion yn teithio i Loegr i fwynhau dathliadau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd, i gyd ar adeg pan oedd rhai busnesau yng Nghymru, megis clybiau nos, ar gau ac eraill dan gyfyngiadau llym. Cyflwynwyd y cyfyngiadau hyn gan ddarogan gwae, a'r cyfan y maent wedi'i wneud yw darogan gwae i economi ein gwlad. Mae'n bryd dysgu byw gyda COVID yn awr, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i nodi heddiw, wrth inni ddechrau dychwelyd i normalrwydd. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn nodi'n eglur beth fydd llwybr Llywodraeth Cymru yn ôl i fel oedd hi cyn y pandemig.
Oherwydd llwyddiant cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu, mae 90 y cant yn llai o gleifion wedi cael eu derbyn i ysbytai'r DU. Yng Nghymru, mae dwy ran o dair o bobl wedi cael pigiad atgyfnerthu, sy'n dangos, oherwydd ymdrechion diflino staff y GIG, meddygon teulu a fferyllwyr a pharodrwydd y cyhoedd, y dylai Cymru allu cefnu ar gyfyngiadau bellach, ac nid yw ond yn iawn inni ganmol Llywodraeth Cymru ar y modd y cyflwynwyd y pigiadau atgyfnerthu. Mae COVID wedi dwyn llawer o fywydau ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid a ffrindiau. Rhaid inni ddysgu o gamgymeriadau'r pandemig. Rhaid inni gael ymchwiliad COVID penodol yng Nghymru a chredaf y dylai Llywodraeth y DU newid ei safbwynt yma ac annog Cymru a Phrif Weinidog Cymru i gynnal ein hymchwiliad cyhoeddus ein hunain yma yng Nghymru.
Gobeithio ein bod bellach yn cefnu ar COVID. Rydym wedi gwneud yr aberth i gadw'r cyhoedd yn ddiogel, ond mae'n rhaid inni roi gobaith i bobl yn awr. Rhaid i'r wasg roi'r gorau i godi bwganod ac mae'n rhaid i bob Llywodraeth ddechrau'r broses o lywodraethu'r wlad a mynd i'r afael â materion heblaw COVID. Mae gennym ddyletswydd i roi eu rhyddid yn ôl i bobl, a rhoi gobaith yn ôl i bobl, ledled Cymru ac ar draws y wlad. Hoffwn annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn gyfeirio’r Aelodau at fy ffurflen ddatgan buddiant fy hun. Wel, rwy'n sicr yn croesawu'r diweddariad a gafwyd bellach i'r cyngor technegol, gyda'r gwaith modelu i'w weld yn dangos yn fwy cadarnhaol y gallai brig y don omicron hon fod y tu ôl i ni bellach. A chredaf fod pob un ohonom yn croesawu hynny. Gyda chyfanswm nifer y cleifion yn yr ysbyty yn gostwng a chyfanswm y derbyniadau i ysbytai yn gostwng am fwy nag wythnos, credaf mai yn awr yw’r amser i Lywodraeth Cymru edrych yn fwy rhagweithiol ar gyflwyno map ffordd ar gyfer adferiad hirdymor.
Yn anffodus, mae Cymru'n dal i fod yn allanolyn gyda'i pholisi iechyd cyhoeddus. Er gwaethaf y dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae’n parhau i beri pryder i lawer o fusnesau fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn eu barn hwy, wedi gorymateb i omicron, ac mae hyn wedi achosi cryn dipyn o boen i deuluoedd a llawer o ofid i’n busnesau. Mae’r amserlen a argymhellir ar hyn o bryd yn golygu y bydd gan ein busnesau lletygarwch dan do bythefnos arall o gyfyngiadau, a bydd hynny'n gyrru'r bunt Gymreig dros y ffin i Loegr, a gŵyr pob un ohonom am achosion lle digwyddodd hyn nos Calan.
Mae prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru wedi amcangyfrif bod tafarndai, ar gyfartaledd, wedi colli £16,000 yr un dros gyfnod y cyfyngiadau presennol. Euthum i salon trin gwallt y diwrnod o'r blaen, ac roedd dwy gadair nad oeddent yn cael eu defnyddio, gyda thâp drostynt, oherwydd y cyfyngiad cadw pellter o 2m. A chredwch fi, roedd perchennog y salon trin gwallt yn ddigalon iawn pan ddywedodd wrthyf faint o arian yr awr roedd hi'n ei golli ar y ddwy gadair hynny.
O ystyried gwaith ymchwil Coleg Prifysgol Llundain, a gyflwynwyd i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ym mis Rhagfyr, a awgrymai fod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa, o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema, pan nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar waith, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymddiheuro i'r diwydiant lletygarwch am wneud camgymeriad gyda chyfyngiad y rheol chwech? A pham ar y ddaear na wnaeth y Prif Weinidog ddiddymu'r mesur 2m yr wythnos diwethaf fel y gall busnesau wneud cymaint o incwm ag y gallant? Mae ton o ganslo trefniadau yn parhau i amharu ar hyfywedd ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Nawr, er ei bod yn ddealladwy fod ymddygiad cwsmeriaid wedi newid, mae'r straen digynsail y mae busnesau'n ei deimlo yn peryglu eu bywoliaeth eu hunain, eu hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain, a chyfleoedd cyflogaeth i rai.
Mewn sgyrsiau â llawer o fusnesau lleol, mae’n amlwg fod angen eglurder o hyd ynghylch pam ei bod yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth fod incwm wedi gostwng 50 y cant, pan wyddom y gall gostyngiad llai o lawer fod yn hynod niweidiol. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio y gall cyfnod y Nadolig ddarparu oddeutu 20 y cant o drosiant blynyddol busnes. Ceir pryderon dilys hefyd gan berchnogion busnesau llety hunanddarpar bach am eu cymhwystra, gyda Llywodraeth Cymru wedi atal awdurdodau lleol rhag gallu dewis rhoi unrhyw grantiau i fusnesau hunanddarpar sy'n darparu ar gyfer 29 o bobl neu lai, ac rwy'n falch fod y Prif Weinidog o ddifrif ynghylch y pwynt a godais ddoe, ac y bydd yn edrych ar hynny. Hoffwn ofyn hefyd i chi ystyried darparu mwy o arian ar gyfer y busnesau sydd wedi dioddef oherwydd eu hymateb i omicron, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU wedi darparu £270 miliwn ychwanegol ym mis Rhagfyr, ar ben y swm a gyhoeddwyd yng nghyllideb yr hydref.
Mae sut y bydd Cymru’n dechrau byw gyda COVID-19 yn y dyfodol yn parhau i fod ar feddwl y cyhoedd, fel yr amlinellodd Syr Keir Starmer ac Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid eu hunain. Roedd yn rhaid i’r DU ddysgu byw gyda COVID er lles ein plant. Mae’r Athro John Watkins, sy'n uwch epidemiolegydd, hefyd wedi dweud y dylai Cymru geisio alinio â Lloegr—
Janet, mae gennyf gais am ymyriad. A wnewch chi dderbyn un?
Gwnaf, wrth gwrs, gwnaf.
Mabon.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Janet ydy'r trydydd siaradwr efo'r Ceidwadwyr sydd wedi sôn am ddysgu byw efo'r haint yma. Pa lefel o farwolaethau sydd yn dderbyniol i chi?
Yn y pen draw, mae unrhyw farwolaeth yn peri gofid i bob un ohonom, Mabon. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli bellach, yn unol â gwledydd eraill—. Os edrychwch ar Loegr a'r hyn y maent yn ei wneud, maent yn gallu cadw'r economi i fynd gan ddiogelu bywydau pobl ar yr un pryd. Felly, mae'n rhaid inni roi'r gorau i fod eisiau gwneud pethau'n wahanol, am ddim rheswm heblaw ei fod i'w weld yn well. Ni chafwyd unrhyw gyngor na thystiolaeth pan gafodd y cyfyngiadau hyn eu cyflwyno, ac rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelodau y dylem fod wedi cael lleisio barn ar hyn. Gallem fod wedi gwneud hynny ar Zoom dros gyfnod y Nadolig. Ond mae arnaf ofn fod hyn oll yn rhy hwyr yn bellach.
Gyda dros 1.8 miliwn o bigiadau atgyfnerthu a thrydydd dosau wedi’u rhoi yng Nghymru, nawr yw’r amser i roi hwb i hyder busnesau a’r cyhoedd ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau. Mae trigolion yn gofyn i mi beth oedd pwynt y brechlynnau hyn—
Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, Janet.
—pan fo Llywodraeth Cymru yn dal i fod eisiau cadw mesurau llym ar waith, gan ddwyn ein rhyddid. Gofynnaf i’r Prif Weinidog fod yn ddewrach yn ei gyhoeddiad nesaf a chaniatáu i bobl Cymru fyw eu bywydau. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu ymateb heddiw i'r ddadl hon, a hoffwn ddweud ar y cychwyn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig cyffredinol sydd ger ein bron heddiw. Ond rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn cefnogi ein cynllun i newid i lefel rhybudd 0, fel y nodir yn ein gwelliant. O safbwynt personol, edrychaf ymlaen yn arbennig at weld digwyddiadau chwaraeon yn dychwelyd yn y ffordd arferol, ac fel y mae Gweinidogion wedi'i nodi'n glir drwy gydol ein gwaith ymgysylltu â'r sectorau yr effeithir arnynt, nid oes unrhyw un yn Llywodraeth Cymru yn dymuno parhau gyda mesurau diogelwch pandemig am yn hwy nag y bo'u angen, ac mae'n gywilyddus fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i awgrymu fel arall. Mae eu dadleuon yn aml yn llithro i mewn i awgrymiadau fod penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu llywio gan gymhellion cudd, sy'n arwydd eu bod yn gwyro tuag at ffurf baranoiaidd, negyddol a mwyfwy amherthnasol o wleidyddiaeth adain dde, ac roedd cyfraniad Laura Jones y prynhawn yma'n enghraifft glir o hynny.
Lywydd, mae eu crebwyll gwael yn golygu eu bod yn diystyru'r aberth gyfrifol a wnaed gan bobl Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Cyn y Nadolig, cyflwynwyd tystiolaeth bryderus iawn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â phob un o Lywodraethau eraill y DU, ynglŷn â lledaeniad a chyflymder heintiau amrywiolyn newydd omicron a oedd yn sgubo drwy ein cymunedau. Roedd y dystiolaeth honno ar gael drwy adroddiadau'r Gell Cyngor Technegol a'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a gyhoeddir yn rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru ac a oedd yn dod gyda'r cyhoeddiadau a gâi eu gwneud ar y pryd. Yn wir, cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, at gyngor TAC a SAGE wrth gyfeirio at y ffaith bod y cyfraddau heintio'n gostwng erbyn hyn. Janet, dyna'r un cyngor TAC ac adroddiadau SAGE ag a ddefnyddiwyd gennym i wneud y penderfyniadau ar gyfyngiadau yn ôl ym mis Rhagfyr.
Mae’r consensws iechyd cyhoeddus, nid yn unig—
Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn.
Janet.
Y pwynt rwyf wedi'i wneud yw, ar y pryd, ni chawsom unrhyw dystiolaeth ac ni chawsom wybod—. Soniodd Rhun yn gynharach amdanom yn cyfarfod â swyddogion iechyd y cyhoedd. Gwnaethom gyfarfod â swyddogion iechyd y cyhoedd—yr wythnos diwethaf. Nid yw hyn yn ddigon da, a dylem fod wedi cael llawer mwy o ran yn hyn. Dylem fod wedi cael pleidlais arno dros gyfnod y Nadolig. Nid oedd unrhyw esgus, gan y gallem fod wedi ei wneud drwy ddulliau rhithwir, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi. Efallai nad yw eich etholwyr chi, Dawn, yn gandryll ynglŷn â phwysigrwydd hyn i chi, ond gallaf ddweud wrthych fod y gweddill ohonom yma—
Janet, rydych wedi gwneud eich araith; ymyriad yw hwn. Felly, rydych yn gofyn cwestiwn iddi, y Dirprwy Weinidog.
Iawn, wel nid yw trigolion Aberconwy yn hapus o gwbl.
Yr ateb yw'r hyn rwyf wedi'i roi eisoes. Roedd cyngor TAC a chyngor SAGE ar gael pan oeddem yn gwneud y penderfyniadau hynny. Fel y dywedais, y consensws iechyd cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, oedd ei bod yn annhebygol y byddai rhaglen y brechlynnau atgyfnerthu ar ei phen ei hun yn atal llawer iawn o niwed uniongyrchol yn gysylltiedig â COVID yn y cyfnod yn syth ar ôl y Nadolig a bod angen inni wneud mwy wrth inni ddwysáu'r rhaglen frechu ac atgyfnerthu. Yn wir, roedd y dystiolaeth a oedd gennym ar y pryd yn dweud wrthym y dylai'r cyfyngiadau y dylem eu cyflwyno fynd ymhellach na'r lefel rhybudd 2 a gyflwynwyd gennym. Roedd yn awgrymu—yn wir, yn argymell—y dylem ystyried lefel rhybudd 4. Y rheswm nad oedd modd inni fynd i lefel rhybudd 4 oedd am na fyddai Llywodraeth y DU yn ariannu'r cynllun ffyrlo a fyddai'n angenrheidiol er mwyn inni allu rhoi lefel rhybudd 4 ar waith, oherwydd, fel y gwyddom, pan fydd ei angen yn Lloegr yn unig y mae Llywodraeth y DU yn cynnig lefelau o gymorth ac nid pan fydd ei angen yn y gwledydd datganoledig, eraill.
Fe wnaeth cyflwyno mesurau amddiffynnol ar lefel rhybudd 2 ym mis Rhagfyr ein helpu i wneud hynny. Fe wnaethant helpu i wastatáu cromlin yr heintiau a rhoddodd fwy o amser inni frechu pobl, gan gadw cymaint o fusnesau â phosibl ar agor ac atal y GIG rhag cael ei orlethu.
Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau, Ddirprwy Lywydd.
Felly, mae'r ddadl na chafodd y camau a gymerwyd gan bobl Cymru unrhyw effaith ar drosglwyddiad omicron nid yn unig yn sarhaus, ond ni chaiff ei chadarnhau gan y ffeithiau. Yn wir, gwelwn bellach fod ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau heintiadau yng Nghymru yn is o lawer nag yn Lloegr, gyda chyfraddau heintio Cymru yn 3.7 y cant ar hyn o bryd, o gymharu â 5.7 y cant yn Lloegr, a hynny er gwaethaf y ffaith ein bod, yn wahanol i Loegr, yn cyfrif pobl sydd wedi cael eu hailheintio yn ein hystadegau. Felly, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn ei ymyriad, golyga hynny fod un o bob 25 wedi'u heintio yng Nghymru, o gymharu ag un o bob 20 yn Lloegr. Felly, os gwelwch yn dda, gadewch inni roi diwedd ar y nonsens nad yw'r mesurau a roddwyd ar waith gennym wedi cael unrhyw effaith ar ein cyfraddau heintio.
Lywydd, er gwaethaf y newyddion da heddiw am gyfraddau heintio—
Esgusodwch fi am eiliad. Mae'n rhithwir, felly—. Mae Darren Millar yn gofyn, ac mae’r Gweinidog eisoes wedi nodi na fydd yn derbyn rhagor o ymyriadau.
Na, nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, nac ydw.
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Weinidog.
Lywydd, er gwaethaf y newyddion da heddiw am gyfraddau heintio, mae teuluoedd wedi colli anwyliaid i COVID dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl ym mhob cymuned ledled Cymru wedi parhau i aberthu'n fawr er mwyn helpu i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod Cymru’n dod allan o’r don omicron hon mewn sefyllfa gryfach. A thrwy gydol yr amser, rydym wedi gweld canlyniadau'r dull amgen o weithredu, a ffafrir gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd ar waith yn Lloegr.
Fe’i nodweddwyd gan ddryswch—cyfarwydd bellach—Llywodraeth y DU nad yw’n gallu gweithredu. Trodd y sioe o gynadleddau i'r wasg a ganslwyd ar ôl cyfarfodydd y Cabinet oherwydd methiant i wneud penderfyniadau yn ddewis yn y pen draw i beidio â gweithredu. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, yr hyn a welsom a'r hyn rydym yn parhau i’w weld yw Llywodraeth y DU sydd wedi’i pharlysu gan rwygiadau yn ei rhengoedd, sy'n golygu bod Lloegr yn allanolyn yn y DU pan ddaw'n fater o ddiogelu ei dinasyddion. Nid am y tro cyntaf, cafodd gwleidyddiaeth fewnol y Blaid Geidwadol ei thrin fel blaenoriaeth bwysicach na lles gwlad. Ac onid yw'n rhyfeddol, ar ôl digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, fod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu o ddifrif y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn arweiniad ac esiampl Prif Weinidog y DU? Prif Weinidog y DU a dorrodd y rheolau, a dorrodd y gyfraith, a ddywedodd gelwyddau wrth Senedd y DU a phobl Prydain, Prif Weinidog y DU a fu'n cael partïon wrth i'r wlad aberthu, pan na allai pobl weld eu hanwyliaid, a phan oedd pobl yn marw.
Gallai’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, ddewis argymell eu dull eu hunain o weithredu, a gallent wneud hyn heb ofni cynhyrfu eu meistri yn Llundain, oherwydd, fel y gwyddom bellach, nid yw eu meistri yn Llundain yn gwybod pwy ydynt hyd yn oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn codi'r cwestiwn: os nad yw eich arweinwyr eich hun yn eich cymryd o ddifrif, pam y dylai’r Senedd hon, y Llywodraeth hon, neu bobl Cymru eich cymryd o ddifrif? Neu gallent ddilyn esiampl Christian Wakeford AS, yr AS dros Dde Bury, a groesodd y llawr heddiw i ymuno â phlaid sydd o ddifrif ynghylch y mater hwn. Neu gallent ymuno â’r AS Torïaidd, David Davis, a galw ar Brif Weinidog y DU, sydd wedi gwneud cam mor druenus â'r wlad hon, i roi’r gorau i'w swydd, neu i’w ddyfynnu’n fwy cywir,
'Yn enw Duw, ewch.'
Byddai unrhyw un o'r gweithredoedd hyn yn well na'r seboni rydym wedi'i weld ganddynt hyd yn hyn.
Lywydd, mae ein dull gweithredu wedi’i arwain yn gyson gan y dystiolaeth, felly mae’n ddrwg gennyf siomi Russell a James a Laura a phawb arall sydd wedi siarad o blith y Torïaid y prynhawn yma nad eich safbwyntiau chi oedd y safbwyntiau a ystyriwyd gennym wrth wneud ein penderfyniad—ond y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni. A phan oeddem yn credu bod Lloegr wedi dilyn y llwybr anghywir, ni wnaethom ochel rhag rhoi camau pendant a gwahanol ar waith i gadw Cymru’n ddiogel. Ar brofi ac olrhain a chyfarpar diogelu personol, rydym wedi sicrhau canlyniadau gwell am lai o gost. Caniataodd y dull hwn inni ailgyfeirio cannoedd o filiynau o bunnoedd tuag at gymorth i fusnesau drwy’r gronfa cadernid economaidd, nad yw’n bodoli yn Lloegr.
Ddirprwy Weinidog, mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr.
Mae canfyddiadau interim arolwg a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod 85 y cant o ymatebwyr yn cytuno bod cymorth o’r gronfa cadernid economaidd yr un mor bwysig â ffyrlo.
Felly, i fod yn glir, ni wnaethom y penderfyniadau diweddaraf i newid i lefel rhybudd 2 heb ystyried y canlyniadau i fusnes neu'r canlyniadau i'n sectorau diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno gwerth £120 miliwn o becynnau ar gyfer busnesau, £15.5 miliwn ar gyfer y sector diwylliannol, a £3 miliwn o gymorth ar gyfer chwaraeon yr effeithiwyd arnynt. Ac roedd y cronfeydd hynny hefyd yn cydnabod effaith ymddygiad mwy gofalus y cyhoedd a ddechreuodd cyn i'r mesurau gael eu cyflwyno. Felly, bydd y cymorth ar gyfer 13 Rhagfyr ymlaen, cyn i’r mesurau hynny gael eu cyflwyno. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae omicron yn dal i fod gyda ni, ac mae lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn eithriadol o uchel, ond rwy’n falch fod y Llywodraeth hon wedi cymryd y camau pendant a gymerwyd gennym ar y pryd, a oedd yn caniatáu inni gadw Cymru’n ddiogel a symud ar ein llwybr tuag at lefel rhybudd 0.
I gloi, Lywydd, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau â’i dull gofalus o reoli’r pandemig hwn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna sydd wedi gwneud ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn arweinydd gwleidyddol mwyaf poblogaidd y DU, sy'n parhau i ennyn cefnogaeth a hyder y rhan fwyaf o bobl Cymru o hyd. Ond fel pawb arall, edrychaf ymlaen at ddychwelyd yn raddol at fwy o normalrwydd dros yr wythnosau nesaf ac edrychaf ymlaen at fynd i wylio’r Scarlets a’r Bristol Bears yn chwarae ddydd Sadwrn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. O bosibl, yr hyn y gallai’r Dirprwy Weinidog fod wedi’i anghofio yw bod un Ceidwadwr Cymreig arall i siarad i gloi’r ddadl, felly byddaf yn ymateb i rai o’r pwyntiau a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach yn fy araith glo.
Felly, yr wythnos nesaf fe fydd hi'n ddwy flynedd ers i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod yr achosion o goronafeirws newydd ar dir mawr Tsieina yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol, a'r Swyddfa Dramor yn cynghori yn erbyn teithio i dalaith Wuhan yn Tsieina. Ers hynny, rydym wedi gweld y cyfyngu mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch ar hawliau a rhyddid sifil, mewn ymdrech i atal lledaeniad yr hyn rydym bellach yn ei alw'n COVID-19. Er bod cyfiawnhad i hyn ar y dechrau, pan oeddem yn aros i driniaethau a brechlynnau gael eu datblygu er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, bellach, wrth inni ddechrau ar ein trydedd flwyddyn o gyfyngiadau, a chyda dros 90 y cant o’r boblogaeth oedolion wedi’u brechu yn erbyn COVID, a allwn ni barhau i ddweud bod cyfyngiadau o'r fath yn angenrheidiol? A allwn ni o ddifrif gyfiawnhau cyfyngiadau llym ar ein rhyddid?
Gwyddom yn iawn fod mesurau fel y rhai a roddwyd ar waith unwaith eto yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn gwneud niwed, niwed gwirioneddol, i bobl Cymru. Byddai'n anodd dod o hyd i unrhyw un a all ddweud yn onest nad yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio ar eu lles meddyliol. Faint o blant sydd byth yn mynd i ddod dros y niwed a wnaed i'w haddysg a'u datblygiad o ganlyniad i gau ysgolion? Faint o deuluoedd a orfodwyd i fyw mewn tlodi am fod cyfyngiadau wedi gorfodi busnesau i roi’r gorau i fasnachu? Faint o genedlaethau a gaiff eu gorfodi i fyw gyda'r dyledion sydd wedi cronni er mwyn mynd i'r afael ag effaith y cyfyngiadau symud? Rydym wedi gwario, ac rydym yn parhau i wario, symiau syfrdanol o arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn cau rhannau helaeth o'n heconomi. Meddyliwch sut y gallai'r biliynau hynny fod wedi cael eu gwario. Gallem fod wedi cael sector gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf, i ddechrau. Ni allwn barhau i wneud hyn am byth ac nid yw feirws SARS-CoV-2 yn mynd i ddiflannu. Mae'n rhaid inni ddysgu byw gydag ef, ac efallai mai fi yw’r pedwerydd neu’r pumed Ceidwadwr Cymreig i ddweud hynny yn awr, felly efallai yr hoffech nodi hynny hefyd ar feinciau Plaid Cymru.
Gallwn ddiogelu pobl agored i niwed drwy sicrhau eu bod wedi’u brechu’n llawn a bod ganddynt fynediad uniongyrchol at driniaeth COVID os ânt yn sâl. Ond mae'n rhaid i'r gweddill ohonom fwrw ymlaen â'n bywydau. Ni allwn gael cyfyngiadau symud bob tro y cawn dymor ffliw gwael. Ydy, mae COVID yn waeth na'r ffliw, ond dim ond i rai heb eu brechu a'r rhai mwyaf agored i niwed. I bawb arall, nid oes llawer o wahaniaeth.
Nid yw'r cyfyngiadau symud diweddar wedi atal y clefyd rhag lledaenu, felly pam fod Llywodraeth Cymru yn mynd am yr opsiwn niwclear ar unwaith bob tro y daw amrywiolyn newydd i'r amlwg? Digon yw digon, ac mae'n bryd inni ddysgu byw gyda COVID. Mae arnom angen map ffordd tuag at adferiad a—
Gareth, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rhun.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi ffieiddio, a dweud y gwir, ag agwedd y Ceidwadwyr yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dyma'r enghraifft waethaf imi ei chlywed erioed o wadu COVID, y fwyaf diystyriol o realiti colledion y blynyddoedd diwethaf. A ydych yn teimlo cywilydd fod arweinydd eich plaid yn gwneud hwyl am ein pennau drwy ddiystyru'n ddifrifol yr holl aberth y bu'n rhaid i bob un ohonom ei gwneud? A ydych chi o ddifrif yn meddwl mai’r hyn y dylem fod yn ei wneud bellach yw dymuno rywsut na fyddai hyn erioed wedi digwydd? Ai dyna’r gorau sydd gan y Ceidwadwyr Cymreig asgell dde i’w gynnig bellach?
A dweud y gwir, rwy'n ffieiddio at farn yr Aelod dros Ynys Môn a Phlaid Cymru ar y mater yn ei gyfanrwydd, gan eu bod wedi penderfynu ymatal rhag pleidleisio ar hyn. Maent yn dweud mai edrych yn ôl yw'r cyfan ac nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth, ond yn syth ar ôl hynny, maent yn dweud, 'O, rydym yn dal i fyw gyda COVID ac rydym yn ymdrin â phethau mor berthnasol.' Felly, credaf fod gennych frwydr fewnol braidd o ran pa lwybr rydych yn ei ddewis. Felly, credaf ei bod braidd yn rhagrithiol i’r Aelod dros Ynys Môn alw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn ffiaidd pan nad ydynt yn barod i arddel eu safbwynt eu hunain ar y mater.
Ar y penwythnos, datgelodd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, gynllun 10 pwynt ei blaid ar gyfer byw gyda COVID, a mynnu diwedd ar gyfyngiadau symud. Siaradodd cyfres o Weinidogion yr wrthblaid ar y cyfryngau, gan feirniadu cynllun B y DU fel un diangen. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru yn rhoi mesurau llymach ar waith ar bob cyfle. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun 10 pwynt ei hun ar unwaith a diystyru unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol.
Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod Russell George wrth agor y ddadl, fe ganmolodd Lywodraeth Cymru am gyflawni galwad y Ceidwadwyr Cymreig am fap ffordd allan o gyfyngiadau symud, ac rydym yn croesawu map ffordd tuag at fwy o ryddid. Soniodd am rai o’r effeithiau ar fusnesau ac y bydd pob tafarn yng Nghymru yn colli £16,000, a rhai o’r materion a oedd yn codi ger y ffin, gyda phobl yn teithio i’r Amwythig o’i etholaeth ei hun, ac i Gaer o fy etholaeth innau, er mwyn cael noson allan a rhywfaint o ryddid am benwythnos. Ni chredaf fod hynny’n ormod i'w ofyn pan fo’r dystiolaeth yn ei gefnogi.
Soniodd Laura am yr anhrefn, ochr wleidyddol y penderfyniadau nad ydynt yn seiliedig ar wyddoniaeth, y ffaith eu bod mor llym, cydbwyso niwed a rhai o’r manylion wrth godi rhai o’r cyfyngiadau—
Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr.
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Ac yna, Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn siomedig iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwleidyddoli’r holl fater ac yn creu rhaniadau ar hyd y ffin, gan ddweud mai bai Llywodraeth y DU yw’r cyfan. Chi yw Llywodraeth Cymru, mae gennych y pwerau datganoledig. Ers y cychwyn cyntaf, rydych wedi bod eisiau i hwn fod yn fater datganoledig i Gymru, ac eto rydych yn penderfynu ymateb i ddadl am COVID-19 a gwleidyddoli'r holl beth a siarad am raniadau. Ac mae hynny mor wir am Lywodraeth Cymru, y ffordd y maent wedi ymdrin â'r pandemig cyfan a pham fod angen inni gael ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.
Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru ac i gefnogi ein cynnig heno. Mae angen inni sicrhau bod Cymru ar agor ac ar y llwybr tuag at adferiad, a rhoi’r ddwy flynedd ddiwethaf y tu ôl i ni. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.