1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 1 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y mis diwethaf, adroddodd nifer o gwmnïau cyfryngau am ddarganfyddiad dogfen ddamniol yr ymgyrchydd tomen lo o 2014, a oedd yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd yn blaenoriaethu'r economi dros ddiogelwch lle byddai ariannu gwaith yn gwneud gwahaniaeth mawr i domenni glo yn y Cymoedd. Mae'r ddogfen hon yn dweud bod y cyllid i adfer tomenni glo yn annhebygol o gael ei ddarparu gan Weinidogion Llafur oni bai fod achos busnes. Yn benodol, mae'n nodi tomen Tylorstown, lle bu tirlithriad peryglus yn sgil storm Dennis yn 2020, fel un â phroblemau sefydlogrwydd nad oedd cyllid ar eu cyfer. Mae'n amlwg nad chi oedd y Prif Weinidog yn ystod y cyfnod hwn, ond roeddech chi wrth gwrs yn aelod o'r Llywodraeth. A ydych chi'n gresynu at y penderfyniad a'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn gan y Llywodraeth ar y pryd, Prif Weinidog?
Llywydd, nid oedd unrhyw benderfyniad o'r fath.
Wel, mae llawer iawn o wleidyddiaeth yn cael ei chwarae gan eich Llywodraeth yn enwedig pan ddaw i ariannu a diogelwch tomenni glo, Prif Weinidog, ond mae'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. Eich plaid chi wnaeth ddatganoli'r cyfrifoldeb hwn yn y setliad datganoli gwreiddiol mewn gwirionedd, er fy mod i'n derbyn bod materion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Serch hynny, gellid fod wedi ariannu a datrys hyn erbyn hyn.
Gellid fod wedi defnyddio'r cyllid ar gyfer y maes awyr, er enghraifft, ar domenni glo, tua £200 miliwn a mwy. Mae hwnnw yn arian y gwnaethoch chi ddewis ei roi mewn prosiect arall y gellid bod wedi ei ddefnyddio i wneud tomenni glo yn ddiogel yn y Cymoedd. Felly, Prif Weinidog, o ystyried y cynnydd sylweddol—. Rwy'n gallu eich gweld chi'n chwerthin, Prif Weinidog, ond mae llawer o gymunedau yn y Cymoedd sy'n edrych ar hyn fel sefyllfa hunllefus iddyn nhw ac sydd ddim yn gallu cysgu'r nos. Felly, efallai eich bod yn chwerthin, yn sefyll yn y Siambr hon, Prif Weinidog, ond nid yw'n fater i chwerthin yn ei gylch. Mae gennych chi'r cyfrifoldeb—
Ewch ymlaen â'r cwestiwn.
Wel, nid oes angen brathu yn ôl, Prif Weinidog. Chi sydd 'r cyfrifoldeb. Chi sydd â'r cyfrifoldeb, roedd yr arian gennych chi ac fe gawsoch chi'r dewis i'w wneud. Pam nad ydych chi wedi ei wneud?
Wel, Llywydd, mae'r hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud yn hurt. Mae'n dechrau gyda chyhuddiad nad yw'n wir o gwbl. Ni chafodd cais am gyllid ei wrthod gan Lywodraeth Cymru erioed gan na wnaed cais am gyllid erioed. Felly, dyna'r darn cyntaf o nonsens y dylem ni ei roi o'r neilltu y prynhawn yma.
Yna, yr awgrym hurt y gallai buddsoddiad yn y maes awyr yng Nghaerdydd—ac, wrth gwrs, buddsoddiad y mae ei blaid wedi ei wrthwynebu erioed, heb ddiddordeb erioed mewn gwneud yn siŵr bod y darn hanfodol hwnnw o seilwaith ar gyfer ein cenedl ar gael i ni—y gellid fod wedi dargyfeirio hwnnw rywsut i ddiogelu tomenni glo.
Gadewch i mi ymateb i'w bwynt gwreiddiol. Roedd y rhaglen y cyfeiriodd ati yn rhaglen a sefydlwyd o dan Lywodraeth Geidwadol yn y 1980au, fe'i rhedwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru ac roedd yn dibynnu ar achos busnes. Wel, glywsoch chi'r fath beth, cyn i chi wario arian cyhoeddus, mae angen achos busnes arnoch chi; gwerth £4.5 biliwn, wrth gwrs, o dwyll yn arwain at ymddiswyddiad Gweinidog Torïaidd yn Llundain, heb achos busnes i'w weld yn unman. Rydym ni'n deall y ffordd y mae ei blaid yn mynd i'r afael â'r cyfrifoldebau hyn. Yma yng Nghymru, os ydych chi'n gwario arian cyhoeddus, wrth gwrs y byddech chi'n disgwyl cael achos busnes.
Y gwir amdani o ran diogelwch tomenni glo yng Nghymru yw hyn, Llywydd, nad yw'r safonau a oedd yn ofynnol yn y 1980au a'r 1990au bellach yn addas yn ystod oes y newid hinsawdd. Rydym ni wedi gweld dros y ddau aeaf diwethaf effaith digwyddiadau tywydd eithafol yng nghymunedau'r Cymoedd. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i unioni'r etifeddiaeth yr ydym ni wedi ei gweld yma yng Nghymru ac maen nhw wedi gwrthod darparu un darn ceiniog. Dyna'r gwir amdani. Ni fydd unrhyw nonsens am wario arian maes awyr ar adfer tomenni glo yn celu'r ffaith bod y cyfrifoldeb am unioni'r etifeddiaeth yr ydym ni'n ei gweld yng Nghymru—gyda'r holl hanes sydd gennym ni yma yng Nghymru, gyda'r holl ofn y mae hynny yn ei achosi yng nghymunedau'r Cymoedd—yn dibynnu ar Lywodraeth Geidwadol y DU, a'r ateb y maen nhw'n ei roi yw, 'Does dim darn ceiniog i helpu.'
Rydych chi'n gwybod yn iawn fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer adfer tomenni glo, Prif Weinidog, felly rydych chi wedi camarwain y Cynulliad yn y fan yna drwy ddweud bod 'dim darn ceiniog' ar gael. Ond byddwn yn dweud wrthych chi, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n sôn am achosion busnes, nad oedd yr achos busnes dros gymryd y maes awyr drosodd yn gadarn iawn, oedd e'? Ond, rydych chi wedi buddsoddi bron i £200 miliwn yn y maes awyr, ac yn parhau i orfod ei achub, dro ar ôl tro. Byddai hynny wedi bod yn flaendal sylweddol i wneud tomenni glo yn ddiogel ar draws cymunedau'r Cymoedd.
Nawr, rwy'n barod i weithio gyda chi, Prif Weinidog, ar hyn i wneud yn siŵr fod cymunedau ar hyd a lled y Cymoedd yn gallu cysgu'n dawel yn y nos a chael gwneud y tomenni hynny yn ddiogel drwy weithio gyda chydweithwyr ar ddau ben yr M4. Ond, hyd yma, nid ydych chi wedi cyflwyno amserlen ac nid ydych chi wedi cyflawni eich cyfrifoldebau. Felly, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda mi i wneud yn siŵr y gallwn ni roi amserlen ar waith, fel y gall cymunedau y mae aelodau eich meinciau cefn yn eu cynrychioli gael y diogelwch hwnnw a'r hyder hwnnw bod y Llywodraeth yma yn gweithio er eu budd pennaf? Oherwydd eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Roedd hynny yn rhan o'r setliad datganoli ac nid yw'r dewisiadau a wnaed gennych chi wedi sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i wneud tomenni glo yn ddiogel yma yng Nghymru, Prif Weinidog.
Llywydd, mae amserlen ar waith, sef yr amserlen a luniwyd gan yr Awdurdod Glo sydd heb ei ddatganoli, yn gweithredu o dan gyfarwyddyd y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid oes angen unrhyw wersi arnaf i gan arweinydd yr wrthblaid yma am weithio gydag eraill pan fyddaf i'n cyd-gadeirio'r grŵp gyda'r Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi goruchwylio'r gwaith hwn. Rydym ni wedi ariannu, fodd bynnag, nid Llywodraeth y DU, rydym ni wedi ariannu gwaith ychwanegol yr Awdurdod Glo, ac mae'r Awdurdod Glo yn dweud wrthym ni mai amserlen 10 mlynedd yw'r amserlen, y bydd angen rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y cyfnod hwnnw er mwyn adfer tomenni glo yng Nghymru, lle nad yw'r safonau presennol yn addas ar gyfer oes lle mae'r newid hinsawdd yn achosi'r mathau o effeithiau yr ydym ni wedi eu gweld yn Nhylorstown ac mewn rhannau eraill o gymunedau'r Cymoedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Felly, mae'r amserlen yno. Mae'r gwaith sydd ei angen yno. Yr hyn yr ydym ni'n brin ohono yw yr un geiniog tuag ato. Nawr, mae'r Aelod yn dweud fy mod i wedi camarwain y Senedd, nad wyf i'n hapus iawn yn ei gylch, Llywydd, oherwydd gallaf ddweud wrthych na wnes i ddim o'r fath beth. Roedd yr arian a gawsom ni gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r gwaith brys a oedd yn angenrheidiol yn Nhylorstown. Nid yw'n ddarn ceiniog tuag at y rhaglen hirdymor honno y mae'r Awdurdod Glo wedi ei hargymell sy'n angenrheidiol yma yng Nghymru. Pan ddaw Llywodraeth y DU at y bwrdd i helpu cymunedau Cymru, byddan nhw'n canfod partner parod. Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i'r Senedd hon ddod o hyd i'r arian hwnnw oherwydd nid wyf i'n fodlon i gymunedau glo fynd heb y gwaith adfer sydd ei angen arnyn nhw, a bydd yn rhaid i'r arian hwnnw ddod o arian a ddarperir fel arall i ni ar gyfer ysgolion, ar gyfer ysbytai, ar gyfer seilwaith trafnidiaeth a'r holl bethau eraill sydd wedi'u datganoli i'r Senedd hon. A dyna'r ateb y mae ei Lywodraeth ef, yn y llythyrau y maen nhw'n eu hysgrifennu ataf i, yn cynnig y dylem ni ei weithredu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nos Iau wythnos diwethaf, bues i mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth a alwyd yn sgil prynu fferm leol, Frongoch, gan gronfa fuddsoddi Foresight er mwyn plannu coed ac ennill credydau carbon. Mi oedd yna deulu ifanc yno oedd wedi gwneud cynnig i brynu'r fferm a ffermio'r tir nes bod Foresight wedi cynnig swm sylweddol yn fwy. Mae'n wir flin gen i orfod dweud hyn, Prif Weinidog, ond nid pantomeim yw hi pan fod cymuned gyfan yn cael ei 'gazump-io', ond trasiedi. Mi oedd angerdd yn y cyfarfod hwn a geiriau enwog Gwenallt am bentref gerllaw yn adleisio,
'Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed... / Coed lle y bu cymdogaeth, / Fforest lle bu ffermydd'.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU y bore yma wedi darparu gwybodaeth i ni sydd yn awgrymu bod hyn yn digwydd ar raddfa sylweddol, yn arbennig yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Ydy'r Llywodraeth yn foldon adolygu'r wybodaeth yma ar fyrder i ganfod gwir faint y broblem?
Wel, wrth gwrs, Llywydd, unrhyw wybodaeth sy'n helpu ni i weld maint y broblem, bydd hwnna yn ddefnyddiol. Mae'r wybodaeth sydd gen i yn mynd fel hyn:
Yn ystod 10 ffenestr gyntaf cynllun creu coetir Glastir, roedd 1,121 o fuddiolwyr. Roedd gan 35 o'r rheini gyfeiriadau y tu allan i Gymru, ac ymhlith y 35 hynny mae sefydliadau fel Coed Cadw. Nawr, os oes rhagor o wybodaeth sydd ar gael drwy'r undebau ffermio, yna wrth gwrs byddai hynny yn ddefnyddiol iawn, ac edrychaf ymlaen at ei gael.
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd yr Athro John Healey a'i dîm yn ysgol gwyddorau coedwig Prifysgol Bangor adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gennych fel Llywodraeth, a oedd yn gosod mas dwy senario o berchnogaeth bosibl ar gyfer dyfodol coedwigaeth yng Nghymru. Senario 1, ac fe ddyfynnaf i yn Saesneg:
'trosglwyddo unedau tir mwy...o amaethyddiaeth i goedwigaeth...drwy werthu daliadau tir amaethyddol cyfan...i fuddsoddwyr coedwigaeth. Gall hyn achosi pryderon ynghylch colli gwerthoedd diwylliannol amaethyddol a'r defnydd is-optimaidd o adnoddau tir'.
A senario 2:
'blociau coedwig llai o fewn daliadau tir amaethyddol parhaus yn rhan o strategaeth tuag at arallgyfeirio ffrydiau incwm ar gyfer daliadau fferm. Gall lleiniau coetir llai a mwy ynysig o'r fath hefyd fod â manteision o ran lleihau'r risg o haint pathogen coed.' a
'manteisio ar gyfalaf cymdeithasol presennol yn y sector ffermio a'i wella, drwy reoli cydweithredol'.
Ydy Llywodraeth Cymru yn barod i ymrwymo i gefnogi'r ail fodel a gwrthwynebu'r cyntaf?
Wel, dwi'n meddwl, Llywydd, fod hanes beth rŷn ni wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai'r ail awgrym yw'r un rŷn ni wedi mynd ati i'w wneud. Beth rŷn ni eisiau ei weld yw ffermwyr Cymreig yn arwain y ffordd, ffermwyr Cymreig yn plannu coedwig a pherchnogaeth yn aros yn lleol.
Pe bai pob ffermwr yng Nghymru yn plannu 25 hectar o goetir, felly, nid yr ateb cyntaf y mae'r Aelod—. Mae'n ddrwg gen i, 5 hectar o goetir, mae'n flin gen i. Pe bai pob ffermwr yn plannu 5 hectar o goetir—coetir cymysg, coetir llydanddail ar gyfer dal carbon a choetir cynhyrchiol ar gyfer adeiladu tai yma yng Nghymru—byddem ni ymhell ar ein ffordd i gyrraedd y targedau y mae'n rhaid i ni eu cyrraedd yma yng Nghymru oherwydd y newid hinsawdd, gan gadw cyfoeth a rheolaeth yn lleol. Dyna'r union fath o batrwm y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei weld yn y dyfodol.
Mae stripio asedau carbon yn ffenomen fyd-eang. Ychydig cyn y Nadolig, cynigiodd Llywodraeth Awstralia feto weinidogol ar ddatblygiadau credyd carbon coetir dros 15 hectar neu lle maen nhw'n ffurfio mwy na thraean o fferm. A ydych chi'n barod i ystyried diwygio'r system gynllunio neu gyflwyno dimensiwn cymdeithasol ac ieithyddol i'r broses asesu effaith i atal conwydd a sbriws rhag gwneud i'n cymunedau amaethyddol yr hyn y mae ail gartrefi wedi ei wneud i'n rhai arfordirol?
Gwers y profiad ail gartrefi yw na allwch chi fforddio aros. Ar ôl i'r tir amaethyddol gael ei golli, ni fydd byth yn dod yn ôl. Ar ôl i'r credydau carbon, sydd mor hanfodol yn ein taith ein hunain i sero net, yn cael eu tynnu o Gymru, ni fyddan nhw byth yn dychwelyd. A wnewch chi archwilio ar frys y cynnig, eto mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o 2014, o farchnad credyd carbon yng Nghymru, a fyddai'n golygu mai dim ond endidau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru fyddai'n gallu defnyddio credydau a gynhyrchir gan goedwigaeth yng Nghymru?
Llywydd, gwn y bydd Adam Price yn gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol eisoes wedi sefydlu grŵp arbenigol o bobl i'n helpu i weld sut y gallwn ni ddod â buddsoddiad pellach i greu coetiroedd yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n arwain at y mathau o ddifrod a nododd, a bydd yn gwybod bod gan y grŵp hwnnw lawer o fuddiannau wedi'u cynrychioli ynddo—Llais y Goedwig, Woodknowledge Wales, yn ogystal ag arbenigwyr fel yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion.
Mae'r grŵp hwnnw wedi cyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo gyfres o gynigion yr oedd Gweinidogion yn eu trafod dim ond yr wythnos diwethaf: lleihau cyfraddau talu yn y cynllun creu coetir newydd i bobl nad ydynt yn ffermwyr, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i bobl sy'n ffermwyr gweithgar ar y tir yma yng Nghymru; y dewis o leihau taliadau yn y cynllun creu coetir newydd i bobl sy'n cael credydau carbon, i ymdrin â'r pwynt a godwyd gan yr Aelod; a gweithio i ddiffinio coetir llai cynhyrchiol, fel bod dyfodol i ffermio yng Nghymru lle mae'n gwneud ei gyfraniad, drwy blannu coed, i ymdrin â'r newid hinsawdd, ond nad yw'n ymwthio ar dir y gellid ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd cynhyrchiol, y gellir ei werthu yn fasnachol hefyd.
Nawr, nid yw'r adroddiad hwnnw yn argymell newidiadau i'r system gynllunio, gan gredu y byddai'n ffordd aneffeithiol o ymdrin â'r materion y gofynnwyd i'r adroddiad ymateb iddyn nhw. Ond bydd Gweinidogion yn bwrw ymlaen â hynny, ynghyd â syniadau eraill sydd ar gael o ffynonellau eraill, er mwyn gwneud yn siŵr, fel y dywedais, mai'r hyn yr ydym ni'n ei gyflawni yma yng Nghymru yw plannu coed ar y raddfa y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei hargymell i ni. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud bod yn rhaid i ni blannu 86 miliwn o goed yng Nghymru dros y degawd nesaf, os ydym ni'n mynd i sicrhau sero net, nid erbyn 2035 ond erbyn 2050. Os ydym ni'n mynd i wneud hynny, gallwn ei wneud dim ond gyda chefnogaeth frwd maes amaethyddiaeth Cymru. Er mwyn gwneud hynny a chadw cefnogaeth cymunedau o'r math y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—ac roedd yn ddiddorol clywed am ei gyfarfod â phobl leol yn ardal Cwrt-y-cadno—wrth gwrs mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r buddsoddiad hwnnw mewn ffordd sy'n mewn perchnogaeth leol. Ac nid wyf i'n golygu perchnogaeth ffisegol yn unig, rwy'n golygu perchnogaeth yn yr ystyr o bobl eisiau ei gefnogi hefyd, oherwydd dyna'r ffordd y byddwn ni'n gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni ein huchelgeisiau newid hinsawdd heb wneud niwed i gymunedau lleol a dyfodol ffermio yng Nghymru.