Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:35, 9 Mawrth 2022

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn 2019, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £1.29 miliwn i gefnogi a thyfu sector moch Cymru, gyda Cyswllt Ffermio yn dweud bod cynhyrchiant moch yn profi adfywiad yng Nghymru. Yn anffodus, mae digwyddiadau byd-eang, megis colli'r farchnad allforio i Tsieina yn achos rhai proseswyr moch, yr aflonyddwch rhyngwladol i gyflenwadau carbon deuocsid, a'r prinder llafur byd-eang, wedi golygu bod diwydiant moch Cymru wedi wynebu sawl her dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n benodol am y ffermwyr moch sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd proseswyr sy'n gwrthod cyflawni eu contractau. Gan fod hwn yn sector y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb arbennig ynddo, fel y nodais, rwy'n synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gefnogaeth uniongyrchol i'r sector ar yr adeg hon. Mae ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yn yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl wedi cael cefnogaeth gan eu Llywodraethau. Pam nad ydych chi wedi cefnogi ffermwyr moch sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y sector moch. Fel Gweinidog, credaf mai dim ond dwy fferm foch yr ymwelais â hwy erioed, am ei fod yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Pan oeddem yn ystyried a ddylem gefnogi'r sector moch ai peidio—fe sonioch chi am broblemau gyda'r cyflenwad carbon deuocsid yn arbennig, ac rwy'n credu mai o gwmpas yr adeg honno pan oedd hynny'n cyrraedd uchafbwynt y gwnaethom edrych ar hynny—penderfynwyd peidio â gwneud hynny, oherwydd nifer y ffermydd a oedd wedi bod mewn trafodaethau gyda swyddogion ynglŷn â hynny. Ond rwyf bob amser yn agored i hynny; os oes gennych ffermwyr moch penodol yn eich etholaeth, cysylltwch â mi yn eu cylch. Ond nid oedd yn rhywbeth a laniodd ar fy nesg yn yr un ffordd ag y gwnaeth gyda phethau eraill, megis y sector llaeth, er enghraifft.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n galonogol gwybod, hyd yn oed os oes llai ohonynt, nad ydynt yn cael eu trin yn llai cyfartal na rhannau eraill o'r diwydiant amaethyddol. Wrth symud ymlaen, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r angen i ddiogelu cyllid ar gyfer swydd cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru droeon, swydd sy'n cael ei gwneud gan Rob Taylor ar hyn o bryd. Rwy'n falch fod eich cyd-Weinidog, y Gweinidog newid hinsawdd, ar ôl fy ngalwadau mynych, wedi cadarnhau wrthyf fod cyllid wedi'i gadarnhau am dair blynedd arall. Mae hwn yn newyddion cadarnhaol. Un o'r materion allweddol y mae Rob a minnau wedi'i drafod yw ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid fferm, a defaid yn arbennig. I ddefnyddio eich rhanbarth eich hun yn y gogledd fel enghraifft, yn 2018, cafodd 52 o gŵn eu saethu o ganlyniad i ymosodiadau ar anifeiliaid fferm, sy'n cyfateb i 648 o anifeiliaid unigol a laddwyd gan gŵn afreolus. Os cymharwn hyn â Dyfnaint a Chernyw, ardal gyda chefndir gwledig tebyg, ond gyda phoblogaeth lawer mwy, dim ond 10 ci a gafodd eu saethu, a dim ond 205 o anifeiliaid unigol a gollwyd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod yr effeithiau ariannol ac emosiynol y mae ymosodiadau o'r fath yn eu cael ar ein cymuned ffermio. O ystyried y pryderon hyn, a oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth ar waith sy'n gweithio ochr yn ochr â ffermwyr a'r cyhoedd i fynd i'r afael â'r duedd hon sy'n peri pryder mewn ymosodiadau ar anifeiliaid fferm?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:38, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n duedd bryderus iawn, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Rob Taylor wedi bod yn ei wneud, ynghyd â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, yn arbennig. Rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelod Julie James wedi cyflwyno cyllid ar gyfer y swydd am dair blynedd arall. Tua phedair blynedd yn ôl mae'n debyg, cyn i Rob ddechrau yn y swydd hon, ond pan oedd ganddo ddiddordeb penodol yn y mater yn y tîm troseddu gwledig yn y gogledd, ceisiais lobïo'r Ysgrifennydd Cartref ynglŷn â hyn, oherwydd fe fyddwch yn deall bod llawer o'r ddeddfwriaeth yn nwylo Llywodraeth y DU. Credaf fod rhywfaint ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1800au, yn llythrennol—mae wedi dyddio'n llwyr, ac nid yw'n addas i'r diben o gwbl. Credaf y byddai'n dda iawn pe gallai Llywodraeth y DU edrych ar y ddeddfwriaeth honno, a'n bod yn gallu cynorthwyo yn y ffordd honno. Yn sicr, pan oedd yr Arglwydd Gardiner yn Weinidog yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, roedd yn rhywbeth yr oedd yn awyddus iawn i'w ddatblygu, ond credaf fod pethau wedi arafu ychydig. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun, a byddwn yn falch iawn o weld a oes unrhyw beth pellach y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei wneud, gyda'r Ysgrifennydd Cartref, i geisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r diben ac yn addas ar gyfer 2022.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:39, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, oherwydd gwn fod Rob yn angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, ac mae wedi siarad yn helaeth amdano yn San Steffan, mewn sesiynau pwyllgor dethol yno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech godi'r mater yn eich cyfarfod rhynglywodraethol.

Yn olaf, rwy'n falch eich bod yn y Siambr ddoe pan gododd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies y pryderon ynghylch sefyllfa ansicr diogelwch bwyd Cymru, o gofio'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Mae'r rhyfel wedi dangos bod y gorllewin wedi mynd yn orddibynnol ar nwyddau a gwasanaethau a fewnforir, a bydd yr ymosodiad ar Wcráin, basged fara Ewrop, yn cael effaith ar wledydd ledled y byd, ac effaith ar brisiau bwyd yn enwedig. Yn wir, mae arbenigwyr wedi dweud bod prinder bwyd ar y gorwel, sy'n peri pryder o gofio bod y gyfradd o gynhyrchiant bwyd sy'n hunangynhaliol yng Nghymru oddeutu 60 y cant.

Weinidog, mae'n rhwystredig oherwydd ceir beirniadaeth, ar y naill law, o gytundebau masnach y DU, sy'n llenwi'r bwlch cynhyrchiant hwn, ac eto, ar y llaw arall, ein nod yma yng Nghymru yw cyflwyno Bil amaethyddiaeth sy'n cynyddu ein dibyniaeth ar fewnforion. Credaf fod gwir angen inni ailfeddwl am gyfeiriad teithio polisi amaethyddol Cymru, a chredaf yn gryf fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i gynyddu ein hunangynhaliaeth ein hunain yma yng Nghymru i dros 80 y cant fan lleiaf. O ystyried hyn, a'r galwadau gan fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies, a wnewch chi ymrwymo i uwchgynhadledd fwyd i ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr fel y gallwn feithrin cadernid, diogelwch bwyd a hunangynhaliaeth ym mholisi amaethyddol Cymru?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:40, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu bod angen uwchgynhadledd fwyd arnom ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn bwysig fy mod yn parhau i gael trafodaethau gyda'r sector ffermio, gyda chynhyrchwyr, a chyda phroseswyr hefyd. Credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd mae'r gadwyn cyflenwi bwyd mor hanfodol ledled y DU. Soniais yn fy ateb i gwestiwn Andrew R.T. Davies yn ystod y datganiad busnes fy mod wedi gofyn i hyn gael ei gynnwys ar agenda grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun. Fodd bynnag, mae pethau'n symud yn gyflym iawn mewn gwleidyddiaeth, onid ydynt; mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddaf yn cyfarfod â DEFRA a fy nghymheiriaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon yfory, oherwydd mae'n amlwg fod hwn yn rhywbeth sy'n peri mwy a mwy o bryder.

Credaf fod y DU gyfan, y byd i gyd yn wir, yn wynebu cyfnod hir ac ansefydlog o aflonyddwch mewn perthynas â bwyd oherwydd yr ymosodiad ar Wcráin. Fel y dywedwch, mae'n cyflenwi llawer iawn o wenith i'r byd. Felly, rwy'n awyddus iawn i ofyn i DEFRA beth yw eu hasesiad diweddaraf o'r sefyllfa, sut y gallai effeithio ar y diwydiant bwyd-amaeth, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r cyhoedd. Rwy'n siŵr ei fod yn golygu prisiau uwch am fwyd ledled y byd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gadw llygad arno. Nid wyf yn credu bod angen uwchgynhadledd fwyd yn y ffordd yr awgrymodd Andrew R. T. Davies ar hyn o bryd. Soniais mewn ateb cynharach fy mod yn cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun. Rwyf hefyd yn cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, felly mae'n bwysig iawn clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud ar y mater hwn hefyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:42, 9 Mawrth 2022

Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor. 

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am barhau efo thema'r diciâu, os caf fi. Droeon dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth yma wedi sôn am yr angen i ddilyn y wyddoniaeth pan fo'n dod at COVID. Dylid, wrth gwrs, defnyddio'r un egwyddor wrth ymdrin â heintiau eraill, megis y diciâu. Mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, lle mae moch daear wedi cael eu rheoli, wedi dangos gostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn y nifer o achosion o'r diciâu mewn gwartheg ar ôl pedair blynedd o weithredu. Mae Iwerddon, Seland Newydd a gwledydd eraill wedi canfod ffyrdd o fynd i'r afael â'r haint yma. Mae angen felly tynnu'r arbenigedd sydd gennym ni yng Nghymru, ac yn rhyngwladol, at ei gilydd yma er mwyn datblygu polisi a fydd yn gweithio i Gymru. A wnewch chi, Weinidog, ystyried sefydlu tasglu annibynnol i gynghori'r Llywodraeth a datblygu ymateb effeithiol sydd yn seiliedig ar y wyddoniaeth?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dilyn y wyddoniaeth. Efallai eich bod yn gwybod bod gennym Glyn Hewinson yn ei le erbyn hyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ein cynghori mewn perthynas â'n rhaglen i ddileu TB. Unwaith eto, nid wyf am achub y blaen. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion cynharach i Aelodau Ceidwadol fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym wedi cael 246, sy'n nifer go arwyddocaol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwrando ar farn pobl.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Ond i barhau efo'r diciâu, ddwy flynedd yn ôl, fe gyhoeddodd DEFRA adroddiad yn dangos effaith ariannol y diciâu ar ffermydd gwartheg yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'n dangos bod canolrif y gost sy'n cael ei thalu'n uniongyrchol gan eu busnesau yn anferthol. Dros naw mis, mae fferm sydd yn gorfod ymdopi ag achos cronig o'r diciâu yn gorfod talu £16,000. Er mwyn rhoi'r ffigwr yna yn ei gyd-destun, incwm cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl oedd £26,200. Mae'n rhaid gwneud mwy felly i gefnogi ffermwyr sy'n gweld yr haint yma ar eu ffermydd. Mae hyn heb sôn am yr effaith ar iechyd meddwl y teuluoedd ar y ffermydd yma ac ar y gymuned. Ond eto, er hyn, dydy'r Llywodraeth ddim wedi nodi'r costau yma neu unrhyw effeithiau a ddaw o'r cynigion ar fusnesau amaethyddol Cymru yn yr ymgynghoriad diweddar. Bydd cynigion y Llywodraeth ar y diciâu yn arwain at effeithiau sylweddol ar amaeth yma, ond eto, dydy'r Llywodraeth ddim wedi cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol llawn na chynhwysfawr ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori. Mae'n rhaid cael asesiad effaith rheoleiddiol. Weinidog, pryd gawn ni un? 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:45, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Soniais fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi a'u hadolygu ar hyn o bryd. Fy nghynllun wedyn yw cyflwyno'r rhaglen adnewyddedig i ddileu TB, a byddaf yn gwneud datganiad. Rwy'n dychmygu y bydd y ddau'n mynd law yn llaw—cyhoeddi'r rhaglen adnewyddedig a'r datganiad—ym mis Gorffennaf eleni, a dyna pryd y caiff yr holl ddogfennau ynglŷn â hynny eu cyhoeddi, er y byddaf yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn hynny.