– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 15 Mawrth 2022.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 6: dadl y Llywodraeth ar ail gyllideb atodol 2021-22. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n dangos cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru, cynnydd pellach o 4.4 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Yn y gyllideb hon, mae ein cynlluniau gwariant cyllidol wedi gweld cynnydd o gyfanswm o £2.409 biliwn. Mae dros 150 o ddyraniadau unigol gwerth bron i £2 biliwn wedi eu cymeradwyo o'r gronfa wrth gefn i gefnogi cyllidebau adrannol a sicrhau'r gwariant mwyaf posibl. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ac i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, rydym ni wedi gweithredu'n gyflym ac wedi defnyddio'r gyllideb atodol hon i ddyrannu £152 miliwn i helpu pobl â chymorth hanfodol yn wyneb yr argyfwng costau byw a £25 miliwn arall fel cronfa ddewisol i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd.
Yn ogystal, rydym ni wedi gwneud dyraniadau sylweddol i ariannu ystod o fesurau sydd nid yn unig yn cefnogi adferiad Cymru yn dilyn y pandemig, ond hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys: £70 miliwn i gefnogi costau rhaglenni cyfalaf awdurdodau lleol; dros £65 miliwn ar gyfer bargeinion dinesig a thwf; £50 miliwn wedi ei ddarparu i helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf; a dros £19 miliwn i helpu i dalu costau ymdrin ag adfer yn dilyn effeithiau'r llifogydd ym mis Chwefror 2020.
Wrth gwrs, rydym ni wedi dyrannu cymorth i barhau â'n hymateb i'r pandemig ac i liniaru ei effaith—mae £1.4 biliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi dyrannu dros £8.4 biliwn. Rydym ni wedi darparu £551 miliwn ychwanegol ar gyfer pecyn o fesurau i helpu'r GIG nid yn unig gyda chostau ymdrin â'r pandemig a chynyddu capasiti yn ein hysbytai, ond hefyd i helpu i symud ymlaen. Rydym ni wedi dyrannu dros £135 miliwn i'r gronfa galedi llywodraeth leol, fel cymorth ar gyfer costau ychwanegol a cholli incwm sydd wedi ei achosi gan effaith y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r amrywiolyn omicron. Ar gyfer economi Cymru, rydym ni wedi dyrannu £125 miliwn ar gyfer pecyn cymorth brys, a £14.75 miliwn i gefnogi'r gwaith o redeg cylch arall o'r gronfa adfer diwylliannol. Rydym ni wedi dyrannu £8 miliwn o refeniw a £4 miliwn o gyfalaf i gefnogi cyfres o gamau gweithredu fel bod y rhan fwyaf o fusnesau a rhwydweithiau'r gadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod yn ddigon cadarn i oroesi.
Rydym yn cydnabod y tryblith y mae'r pandemig wedi parhau i'w gael ar ddysgwyr, ac rydym yn cefnogi'r sector addysg drwy ddyrannu dros £45 miliwn i helpu i reoli ei effeithiau, a £33 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, i gefnogi adferiad dysgwyr a buddsoddi mewn adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Mae cyfyngiadau a roddwyd ar waith i liniaru effeithiau'r pandemig yn parhau i gael effaith ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a refeniw teithwyr. Ac rydym yn dyrannu dros £53 miliwn i gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd a £22 miliwn ar gyfer y diwydiant bysiau.
Unwaith eto, mae diffyg eglurder Llywodraeth y DU ar benderfyniadau ariannu, y tro hwn ynghylch y gefnogaeth ar gyfer yr argyfwng costau byw, yn arwain at oblygiadau enfawr i Gymru, ac rydym ni wedi gorfod newid ein rhagdybiaethau ar gyfer y flwyddyn yn sylweddol. Mae'r diffyg hyblygrwydd parhaus i reoli gwariant dros nifer o flynyddoedd ariannol yn golygu ein bod unwaith eto o dan anfantais wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb o ganlyniad i hynny.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad, a byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, ond rwyf yn bwriadu derbyn pob un o'i 11 o argymhellion. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu gwaith ar y pwyllgor. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 2 Mawrth, a diolch i'r Gweinidog am fod yn bresennol.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd i'r dyraniadau a ddarperir gan y gyllideb atodol hon, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau'r heriau economaidd anodd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei ddwyn gerbron y Senedd ddoe, ac, fel y clywsom gan y Gweinidog yn awr, fe wnaethom 11 o argymhellion.
Hoffwn ddechrau drwy gefnogi ymdrechion y Gweinidog. Mae'r pwyllgor yn credu'n gryf mai dim ond pan roddir gwybodaeth gywir i Lywodraeth Cymru am y cyllid y mae'n ei gael gan y Trysorlys y gellir rheoli cyllidebau'n dda. Yn anffodus, mae hon yn broblem sy'n codi dro ar ôl tro, felly rydym ni wedi ein siomi bod y mater hwn yn parhau ac nad oes unrhyw welliannau wedi eu gwneud. Felly, rydym yn rhannu barn y Gweinidog bod angen mwy o eglurder gan y Trysorlys am faint o arian a gafwyd o fewn blynyddoedd ariannol, yn ogystal ag amseriad trosglwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn derbyn nad yw'n ddigon pwyntio bys at Lywodraeth y DU yn unig; gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy yn y maes hwn hefyd. Dyna pam mae'r pwyllgor yn ailadrodd galwadau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chyfrifiadau ei hun ar symiau canlyniadol yn ystod y flwyddyn a throsglwyddiadau y mae'n disgwyl eu cael gan Lywodraeth y DU. Byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau cyllid yn cael eu cyfrifo yn unol â'r fethodoleg y cytunwyd arni, ac mae'n arbennig o bwysig pan fydd ffigurau gwahanol yn cael eu dyfynnu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
Mae rheoli'r gyllideb yn effeithiol ar draws blynyddoedd ariannol hefyd yn gofyn am hyblygrwydd. Yn flaenorol, mae'r Trysorlys wedi rhoi blwyddyn lawn i Lywodraeth Cymru wario unrhyw arian a dderbyniwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Roedd y pwyllgor felly wedi ei siomi na chafodd hyn ei ganiatáu eleni, ac mae'n cefnogi galwadau i hyn gael ei ddarparu fel mater o drefn, fel y gall Llywodraeth Cymru ddyrannu cyllidebau'n strategol heb fod ofn colli cyllid.
Gan droi at y materion penodol, mae'r Gweinidog, a hynny'n gwbl briodol, wedi blaenoriaethu ymdrechion i gefnogi'r rhai hynny y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnyn nhw drwy'r gyllideb atodol hon. Fel Cadeirydd, rwyf i wedi pwysleisio o'r blaen yn y Siambr hon fod datblygu polisi 'dim drws anghywir' yn hanfodol, fel bod cymorth ariannol yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Nid oes angen atgoffa'r Aelodau bod aelwydydd yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac y bydd galw cynyddol, yn anffodus, am gymorth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Felly, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi proffiliau grantiau a chynlluniau sydd wedi eu llunio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ac mae'n ailadrodd ei alwad am ddatblygu system integredig o gymorth mewn ymateb i'r pwysau ariannol y mae llawer o aelwydydd yn ei ddioddef.
Wrth i ni barhau i adfer yn dilyn y pandemig, mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd drwy'r gyllideb atodol hon. Er ei bod yn galonogol clywed gan y Gweinidog bod yr arian ychwanegol hwn eisoes yn cael effaith, yn enwedig ar amseroedd aros, roedd manylion gwirioneddol yn brin. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi ei thargedau ar gyfer lleihau amseroedd aros yn ei dogfennau cyllideb o hyn ymlaen, gan gynnwys y canlyniadau a'r effeithiau a ddisgwylir o'r cyllid ychwanegol i’r GIG.
Yng nghanol y pandemig, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen, a bod angen rhagor o fesurau i gydnabod gwaith gwych ein gweithlu gofal cymdeithasol a chymryd camau i wneud y proffesiwn yn fwy deniadol. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i wobrwyo gweithwyr gofal yn ariannol, fodd bynnag, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i hyrwyddo'r cymorth ariannol sydd ar gael i bob gofalwr, ond yn enwedig gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n gweithio mewn hosbisau.
O ran trafnidiaeth, mae'r pwyllgor yn nodi bod colli refeniw a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau bysiau a threnau ac mae'n croesawu'r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gefnogi parhad y gwasanaethau allweddol hyn. Fodd bynnag, nid oedd y pwyllgor wedi ei argyhoeddi bod y £22 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer gwasanaethau bysiau yn ddigonol, ac mae'n gofyn i'r Gweinidog roi rhagor o wybodaeth am sut y penderfynwyd ar y swm hwn, yn ogystal â'r amcanion a'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y cyllid hwn.
Yn olaf, clywodd y pwyllgor y bydd cyllideb staff Llywodraeth Cymru yn cynyddu £20 miliwn ar sail reolaidd o eleni ymlaen. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac, o ganlyniad, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac a fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i fodel gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad iddo.
Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi cael siarad yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Fel y crybwyllwyd ar ddechrau'r cyfraniad hwn, rydym yn wynebu cyfnod economaidd cynyddol anodd. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i weithredu ar ein hargymhellion ac i sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau ar y gyllideb? Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron. Wrth gwrs, mae'n diwygio cyllideb 2021-22, yr ydym ni wedi nodi ein safbwynt arni o'r blaen.
Cafodd llawer o'r dyraniadau a nodir yn y gyllideb atodol hon eu gwneud yng nghyd-destun ein hymateb parhaus yn erbyn pandemig COVID-19 ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y dyraniadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru—rhyw £2.1 biliwn ychwanegol—o'i gymharu â'r gyllideb wreiddiol. Fodd bynnag, rwyf i’n gwneud y pwynt bod yr ymateb hwn, i raddau helaeth, o ganlyniad i'r adnoddau sylweddol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain: beth mae dyraniadau Llywodraeth Cymru wedi ei gyflawni? Er enghraifft, mae dros £550 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi adferiad y gwasanaeth iechyd, ond gyda channoedd o filoedd o bobl yn dal i aros am driniaeth a sefyllfaoedd gwarthus yn cael eu cofnodi am bobl yn aros mewn ambiwlansys am oriau lawer, fel y nodwyd yn gynharach heddiw gan Paul Davies, a'r sefyllfa ofnadwy o ran deintyddiaeth, fel y codwyd gan Alun Davies yn gynharach, mae angen mwy o fanylion yn wirioneddol am yr hyn y bydd y cyllid hwn yn ei gyflawni, gyda thargedau caled yn cael eu gosod i leihau amseroedd aros. Yn y cyfamser, mae dros £80 miliwn wedi ei ddyrannu i fynd i'r afael â phwysau gofal cymdeithasol, ond rydym yn gwybod bod y sector yn dal i'w chael yn anodd o dan bwysau'r galw, sy'n achosi tagfeydd yn y system iechyd ehangach, yn amlwg. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rwy’n awyddus iawn i wthio Gweinidogion ar gyflawni; mae'n ddigon hawdd dyrannu symiau trawiadol i wasanaethau, ond mae angen iddo gyflawni ei amcanion.
Dirprwy Lywydd, mae rhai dyraniadau wedi eu nodi yn y gyllideb atodol yr hoffwn i holi'r Gweinidog yn fyr yn eu cylch. Mae gwladoli Trafnidiaeth Cymru yn parhau i sugno arian oddi wrth wasanaethau cyhoeddus eraill—mae £53 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon, ar ben dros £70 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. Pa mor hir y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn cynnal Trafnidiaeth Cymru a phryd y bydd Gweinidogion yn cyhoeddi cynllun i roi Trafnidiaeth Cymru yn ôl ar sail gynaliadwy fel nad oes angen cymorthdaliadau cyhoeddus arno mwyach i'w gadw ar ei draed?
Fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae cynnydd o £20 miliwn yng nghostau staffio Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys talu am 20 o uwch weision sifil newydd. Rwy’n pwysleisio dadl y Pwyllgor Cyllid bod y gost o gefnogi'r swyddi hyn yn sylweddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pam roedd angen y swyddi hyn ac a fydd canlyniadau adolygiad yr Ysgrifennydd Parhaol newydd o fodel gweithredu Llywodraeth Cymru ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol ar gael i'r Senedd i graffu arnyn nhw?
Yn olaf, mae £1.1 miliwn wedi ei ddyrannu i waith paratoi ymchwiliad COVID-19. Ar gyfer beth yn union y mae'r arian hwn wedi ei ddefnyddio ac oni fyddai'n well gwario'r arian hwnnw ar ymchwiliad sy'n benodol i Gymru, fel y mae'r teuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru yn galw amdano? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dwi, wrth gwrs, yn awyddus i groesawu unrhyw ddyraniadau ychwanegol sydd yn y gyllideb atodol, er fy mod i'n rhannu rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y siaradwr blaenorol, a hefyd gan Gadeirydd y pwyllgor, yn enwedig sicrhau bod modd dangos y gwerth mae'r buddsoddiadau yna'n dod â nhw, o safbwynt, efallai, targedau neu'r impact maen nhw'n eu cael ar y gwahanol feysydd lle mae'r buddsoddiad yn digwydd. Ond dwi jest eisiau defnyddio fy amser i, os caf i, jest i wneud dau pwynt mwy eang, efallai, ynglŷn â'r gyllideb atodol, oherwydd mae'r gyllideb yma, i fi, yn tanlinellu sut mae'r cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio dyraniadau ychwanegol o gyllid canlyniadol yn cael effaith ar ei gallu, mewn gwirionedd, i ddefnyddio y pres yna yn effeithiol.
Rŷn ni'n gwybod bod cyllideb wanwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fin digwydd. Dwi'n tybio bod y Gweinidog yn dal heb gael unrhyw sicrwydd ynglŷn ag efallai'r flwyddyn ychwanegol yma i wario unrhyw gyllid canlyniadol. Ac rŷn ni'n gwybod bod maint y Wales reserve yn cyfyngu ar hyblygrwydd Llywodraeth Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, jest yn amlygu unwaith eto, onid yw e, sut mae'r gyfundrefn bresennol a'r trefniadaeth gyllido rhwng y ddwy Lywodraeth, sut mae e'n milwrio yn erbyn gwneud y defnydd gorau o gyllid canlyniadol, ac yn milwrio yn erbyn cael y gwerth gorau am arian o ddyraniadau ychwanegol fel hyn. Ac mae angen tynnu'r hualau yna er mwyn gwneud i bres trethdalwyr Cymru weithio'n galetach ac er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael yr impact mwyaf posib allan o bres y trethdalwyr.
Rwyf i hefyd yn dymuno ailadrodd pwynt y pwyllgor am dryloywder gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n siarâd rheolaidd, onid yw, gan Lywodraeth y DU yn bennaf, pan fyddan nhw'n cyhoeddi cyllid ychwanegol, maen nhw'n rhoi mwy o arian, ond, fel y gwyddom ni, maen nhw hefyd yn cymryd gyda'r llaw arall yn aml iawn. Ond mae'r dryswch cyson hwn yr ydym yn ei wynebu ynghylch p'un a yw arian yn arian newydd neu p'un a yw'n arian ychwanegol ai peidio, mae'n arwain at gecru diddiwedd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n ddiraddiol, ac nid yw'n edrych yn dda ar y naill Lywodraeth na'r llall, a bod yn onest. Mae'n drysu'r cyhoedd, mae'n ein drysu ni wleidyddion yn aml iawn, ac mae angen mynd i'r afael ag ef unwaith ac am byth.
Pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom ni geisio bwrw pennau gyda'i gilydd ynghylch hyn, ond heb ddim lwc, yn anffodus, ac felly rwyf i'n awyddus i bwysleisio fy nghefnogaeth i alwadau'r pwyllgor presennol am fwy o eglurder ynghylch y cyhoeddiadau hyn—fel y dywedais i, i ddechrau ac yn bennaf gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan Lywodraeth Cymru—lle mae anghytundeb. Mae angen i'r ddwy ddangos eu gwaith cyfrifo i ni, fel bod gennym ni dryloywder gwirioneddol ac eglurder llawer gwell ynghylch p'un a yw'r symiau canlyniadol hyn a'r dyraniadau hyn yn ychwanegol ai peidio.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r ail gyllideb atodol? Hoffwn i wneud dau bwynt byr iawn, a'r ddau yn dilyn pethau sydd wedi eu dweud yn gynharach. Ar 3 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fesurau i helpu gyda chostau byw yng ngoleuni'r cynnydd yn y terfyn uchaf ar brisiau ynni. Roedd hyn yn cynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 o fis Ebrill 2022 ymlaen ar gyfer aelwydydd yn Lloegr sydd ym mandiau cyngor A i D. Nododd cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £175 miliwn o gyllid canlyniadol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn, gan nodi y byddai'r weinyddiaeth ddatganoledig yn gallu dewis gwario'r arian hwn eleni neu'r flwyddyn nesaf. Ar 9 Chwefror, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn. Mewn ymateb, adroddodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys nad oedd hyn yn wir ac y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £180 miliwn o symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i ad-daliad y dreth gyngor.
Mae angen tryloywder o ran y symiau yr ydym yn eu cael gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys a ydyn nhw’n ymwneud ag arian newydd ai peidio. Mae'r materion sy'n ymwneud â'r cyllid canlyniadol a gafodd Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r ad-daliad treth gyngor a gyhoeddwyd yn Lloegr yn enghraifft dda iawn. Yr hyn sy'n gyffredin i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yw amharodrwydd i ddangos eu gwaith cyfrifo. Heb y gwaith cyfrifo, nid yw'n bosibl i'r Pwyllgor Cyllid na'r Senedd wybod pwy sy'n gywir. Er y byddaf i’n credu Llywodraeth Cymru, ac y bydd eraill yn y lle hwn yn credu Llywodraeth San Steffan, nid oes gan neb y ffeithiau i'w cefnogi. Rwy'n siŵr fy mod i’n eich diflasu wrth ddweud hyn wrth Weinidogion Llywodraeth Cymru, fel yr oeddwn i’n ei wneud yn fy swydd flaenorol i fy myfyrwyr: 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo; dangoswch sut yr ydych yn cyrraedd y ffigurau hyn.'
Rwy'n rhannu siom y pwyllgor bod y Gweinidog yn parhau i wynebu anawsterau o ran cael gwybodaeth amserol a chywir gan y Trysorlys am newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru, a gall y Gweinidog wynebu anhawster arbennig tua diwedd y flwyddyn ariannol. Er gwaethaf dros 20 mlynedd o ddatganoli, mae'n ymddangos bod y Trysorlys yn dal i drin y Llywodraeth ddatganoledig fel adran arall o wariant San Steffan, ac rwy’n credu bod diffyg parch anhygoel gan y Trysorlys ynghylch hyn.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn i ei godi yn gysylltiedig â'r cyntaf. Nid ydym yn cael swm canlyniadol Barnett ar HS2, gan nad yw'r rheilffyrdd wedi eu datganoli, ac nid yw hynny'n arwain at swm canlyniadol i gyllideb Cymru. Fodd bynnag, pe bai'n cael ei drin fel trafnidiaeth, byddem yn cael swm canlyniadol, gan fod trafnidiaeth wedi ei datganoli'n rhannol. Mae hyn yn arwain at fy mhryder mawr: symud arian yn ystod y flwyddyn rhwng adrannau'r Llywodraeth, er enghraifft o feysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli i feysydd sydd wedi eu datganoli, e.e. materion tramor i iechyd, er mwyn cydbwyso'r gyllideb; sut ydym ni’n gwybod ein bod ni’n cael yr hyn y dylem ni fod yn ei gael? Rwy’n deall bod gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn credu bod y Trysorlys, sy'n ailddyrannu arian, yn sicrhau bod y Llywodraethau datganoledig yn cael eu cyfran gywir. Yn anffodus, mae gen i lai o ymddiriedaeth ynddyn nhw; hoffwn i weld y ffigurau—gan ddychwelyd eto at fy mhwynt, 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo.'
Yn olaf, pan gaiff arian ei ddileu, fel gorwariant byrddau iechyd yn Lloegr o gyllideb iechyd Lloegr, hoffwn i weld sut y gwnaeth yr arian hwnnw gyrraedd cyllideb iechyd Lloegr. Oherwydd y sefyllfa a oedd gennym ni mewn gwirionedd oedd bod cyllideb iechyd Lloegr o dan bwysau enfawr, roedd ganddyn nhw’r holl orwariant hwn, ac, yn sydyn, un flwyddyn, pan nad oedd hi’n ymddangos ein bod ni wedi cael cynnydd mawr iawn, roedd yn ymddangos fel bod digon o arian wedi ei roi iddyn nhw er mwyn dileu gwerth sawl blwyddyn o orwariant, ac felly hoffwn i weld y gwaith cyfrifo. Nid wyf i'n dweud bod pobl yn anghywir, ond rwy’n credu bod ychydig o anhryloywder yn hyn o beth, ac rwy’n credu y byddai o fudd i bawb, yn enwedig Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol, weld y rhifau gwirioneddol, ac yna gallem ni gael dadl fwy gwybodus.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl fer hon, a byddaf yn cadw fy sylwadau'n gymharol gryno. I ailadrodd y ffaith y byddaf i a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig heddiw. Fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Aelod dros ddwyrain y de sôn mai gair allweddol yw 'natur weladwy', ac mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad cyllidebol sy'n cael ei wneud gael effaith ar reng flaen y sectorau, ac mae wedi ei grybwyll yn y gyllideb atodol am hyfforddiant a gweithlu'r GIG, felly a fyddai'r Gweinidog yn gallu ateb pa hyfforddiant penodol sy'n cael ei gynnig i weithlu'r GIG? Oherwydd, yn eithaf aml, mae llawer o sectorau yn y proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n torri eu boliau i wybod y manylion, ac rwy'n credu bod y byrddau iechyd yn haeddu gwybod a chael cyfeiriad penodol ynghylch ble maen nhw'n mynd i hyfforddi'r gweithluoedd hyn, oherwydd bod llawer o weithwyr proffesiynol yn teimlo'n siomedig weithiau gyda'r diffyg hyfforddiant, ac yn aml gall hynny fod yn rhan allweddol o ddatblygiad gyrfa a hefyd i ehangu gwybodaeth gweithiwr proffesiynol.
A hefyd, cyllid Gofal Cymdeithasol Cymru a CAFCASS, a beth fydd hyn yn ei wneud i gefnogi llif cleifion iach a'u rhyddhau i leoliadau gofal cymdeithasol yn benodol, oherwydd rydym yn aml yn gweld achosion o flocio gwelyau, amseroedd aros ambiwlansys oherwydd y gwir amdani yw na all pobl sy'n cael eu rhyddhau o ochr arall y sector gael eu rhyddhau i rywle diogel yn y sector gofal cymdeithasol. Felly, beth yn benodol fydd yr arian hwnnw'n ei wneud i gefnogi'r mater hwn?
Yn olaf, o ran cefnogi plant, rydych chi wedi dweud o'r blaen eich bod chi wedi dymuno diddymu'r ddarpariaeth gofal plant preifat sydd, mewn gwirionedd, yn ffurfio 80 y cant o'r sector. Felly, a yw'r gronfa honno tuag at blant yn cefnogi gwaith o wireddu'r fendeta ideolegol yn erbyn y darparwyr gofal plant preifat, neu a yw hynny'n ei herio mewn gwirionedd, Gweinidog? Hoffwn i chi ateb y cwestiynau penodol hynny pan fyddwch chi'n cau'r ddadl yn nes ymlaen. Diolch.
Byddaf i'n hynod o gryno. Gweinidog, gyda'r £100 miliwn ychwanegol sy'n mynd tuag at fyrddau iechyd i helpu gydag amseroedd rhestrau aros, a allwn ni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd yr arian hwnnw yn mynd yn wirioneddol i'r rheng flaen i sicrhau ein bod ni yn mynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG mewn gwirionedd ac nad yw'n cael ei amsugno mewn biwrocratiaeth o fewn byrddau iechyd, lle mae arian yn mynd fel arfer mewn gwirionedd? A hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd gennych chi o sut y mae'r adran gyllid yn mynd i sicrhau bod arian yn cael ei wario yn y ffordd orau. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Rwyf i'n cytuno â'r hyn mae cyd-Aelodau wedi ei ddweud o ran na ellir rheoli cyllidebau yn dda oni chawn ni wybodaeth gywir gan y Trysorlys, ac rwy'n gwybod bod nifer o'r Aelodau wedi ailadrodd hynny yn y sgwrs yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma. Rwyf i'n cytuno bod yn rhaid i ni gael mwy o dryloywder, ac yn aml mae'n wir bod yn rhaid i chi aros tan ddiwedd oll y flwyddyn ariannol, yn yr amcangyfrifon atodol ddiwedd mis Chwefror, cyn i chi gael y darlun llawn, ac nid yw hynny'n gadael fawr o amser bryd hynny i ddeall yn iawn beth yw eich opsiynau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Felly, gall hynny fod yn anodd, yn enwedig pan fydd symudiadau sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol nad ydym ni wedi cael gwybod amdanyn nhw ac nad ydym ni wedi gallu cynllunio ar eu cyfer, ac rydym ni wedi cael y profiadau hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n gwerthfawrogi ac yn cytuno â'r alwad honno i ddangos eich gwaith cyfrifo, ond dim ond yn hwyr iawn yn y flwyddyn y gallwn ni wneud hynny, yn yr ystyr y byddai gennym ni hafaliad gyda rhannau ar goll ohono. Felly, mae'n anodd iawn darparu'r darlun llawn hwnnw nes i ni gael y tablau tryloywder hynny gan Drysorlys EM, ac yna ar y pwynt hwnnw, pan fydd gennym ni'r holl wybodaeth, y gallwn ni rannu hynny i gyd.
Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma o ran hyblygrwydd. Ailadroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gefnogaeth y Pwyllgor Cyllid i'n cais i gael blwyddyn galendr lawn i ymdrin â dyraniadau hwyr, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond am ryw reswm mae Llywodraeth y DU wedi atal hynny rhag digwydd, ac, unwaith eto, mae i hynny oblygiadau difrifol, yn fy marn, i'n gallu ni i gynllunio a gwario cystal ag y gallwn. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn dweud y dylem ni gael yr hyblygrwydd hwnnw fel mater o drefn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae gennym ni gyfarfod rhwng y pedwar Gweinidog cyllid, neu drefniant newydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos nesaf, ac mae Cymru'n cyflwyno papur yn y cyfarfod hwnnw sy'n ymwneud yn benodol â'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen arnom er mwyn rheoli ein cyllideb yn briodol. Felly, byddaf i’n glir iawn i adlewyrchu'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael y prynhawn yma a'r cyfraniadau o ran hyblygrwydd, fel bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd yn ei gefnogi'n fawr hefyd.
O ran rhai o'r meysydd penodol a godwyd yn y ddadl, cafwyd nifer o sylwadau ynglŷn ag iechyd, ac mae hwn yn faes lle rwyf i’n cytuno unwaith eto, rwy’n credu, â'r holl heriau a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau yn ystod y ddadl, yn yr ystyr y gallwn ni wneud dyraniadau, ond mewn gwirionedd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw beth mae'n ei gyflawni i bobl yng Nghymru. Felly, fe welwch chi’r arian ychwanegol mewn cysylltiad ag iechyd—felly, mae hynny'n £411 miliwn o refeniw i gefnogi cynlluniau cenedlaethol a lleol mewn cysylltiad â'r pandemig. Mae'r cyllid yno hefyd ar gyfer sefydlogi'r GIG yn dilyn y pandemig, olrhain COVID parhaus, costau brechu, cyfarpar diogelu personol a gwaith arall i ymateb i COVID. Felly, mae hynny'n fuddsoddiad pwysig iawn yn y GIG. Ac yna, mae £100 miliwn hefyd wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau adfer, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £100 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, a bydd hynny, unwaith eto, yn cefnogi gwaith y GIG.
O ran y dyraniad cyfalaf, y nod yno yw gwella llif cleifion, gwella systemau awyru a mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros drwy'r theatr orthopedig ychwanegol, a fydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chanolfan ddydd offthalmoleg newydd yn Singleton. Felly, byddwn yn gwneud y buddsoddiadau penodol hynny i wella'r sefyllfa o fewn y GIG ac ymdrin â rhai o'r ôl-groniadau hynny. Rydym ni wedi cael amcangyfrifon am nifer y bobl a fyddai wedi bod ar y rhestr aros pe na byddem ni wedi cael y buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Gohiriwyd pethau rywfaint oherwydd yr amrywiolyn omicron—fe wnaeth hynny dynnu pethau yn ôl rhywfaint o ran y cynnydd yr oeddem ni’n ei wneud—ond roeddwn i’n gallu rhannu â'r Pwyllgor Cyllid, wrth graffu, rai enghreifftiau o'r ffyrdd yr ydym yn gwybod bod y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn gweithio.
Roedd llawer o ddiddordeb eto yn ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol. Mae gennym ni becyn gwerth £42.7 miliwn ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, sy'n helpu i fynd i'r afael â rhywfaint o bwysau'r system, a'r meysydd penodol lle bydd hynny’n cael ei fuddsoddi yw'r meysydd y nododd ein pwyllgor gweithredu gofal lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae hynny'n cynnwys £20 miliwn i ariannu gwasanaethau cymorth i blant; mae cyllid ychwanegol o £3.8 miliwn i gefnogi camau ymyrryd ac atal cynnar, ac mae hynny wedi ei ddyrannu i sefydliadau'r trydydd sector; ac £1 miliwn i gefnogi ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain, ynghyd ag amrywiaeth o fuddsoddiadau eraill hefyd.
Roedd rhywfaint o ddiddordeb eto yn y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r gyllideb yn darparu £53.1 miliwn ychwanegol mewn cysylltiad â'r rheilffyrdd, a'r rheswm pam rydym ni wedi gorfod rhoi cymaint o arian ychwanegol i drafnidiaeth gyhoeddus, rheilffyrdd a bysiau, yn y gyllideb atodol hon ac yn ystod y pandemig, yw oherwydd yr effaith a gafodd y pandemig ar y blwch tocynnau. Pan fyddwn ni’n meddwl yn ôl i'r cyfnod clo, arweiniodd hynny at ostyngiad o 95 y cant i'r defnydd o fysiau a threnau, ac wrth i'r cyfyngiadau lacio, rydym ni wedi gweld adferiad araf ond nid ydym yn ôl i'r ffigurau blaenorol o hyd. Felly, mae'n wir bod angen cymorth Llywodraeth Cymru ar y sectorau hynny o hyd.
Felly, rwy’n credu fy mod i wedi ymateb i amrywiaeth o'r materion hynny a gyflwynwyd y prynhawn yma, ond rwyf i yn awyddus i ddweud ac ailadrodd y byddaf yn derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddaf yn darparu ymateb manylach i bob un o'r argymhellion hynny ar ffurf ysgrifenedig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.