– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 23 Mawrth 2022.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Heledd Fychan i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Edrychaf ymlaen heddiw, gobeithio, at argyhoeddi'r Senedd o fanteision sefydlu fforwm llifogydd i Gymru. Mae John Griffiths, Delyth Jewell a Llyr Gruffydd wedi gofyn am funud o amser yr un fel rhan o'r ddadl, a byddaf yn sicrhau bod amser iddynt gyfrannu ar ddiwedd fy araith heddiw.
Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi dioddef llifogydd neu sydd wedi ymweld ag unrhyw eiddo neu gymuned sydd wedi dioddef llifogydd, mae'n brofiad ysgytwol. Heb weld yr effaith gyda'ch llygaid eich hun, mae'n amhosib dirnad maint y dinistr a sut mae'r dŵr budr yn treiddio mewn i bopeth. Hyd yn oed gydag yswiriant, gall gymryd misoedd ac weithiau blynyddoedd i gael trefn unwaith eto ar eiddo, ond, wrth gwrs, erys bod rhai pethau o bwys wedi eu colli am byth, megis lluniau neu bapurau personol. Wnaf i fyth anghofio, yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, ymweld â thŷ lle'r oedd dau berson oedrannus yn eu dagrau gan fod yr holl luniau o'u merch, a fu farw yn ei thridegau, wedi eu dinistrio yn y llifogydd. Roeddynt dramor pan darodd y llifogydd heb unrhyw fodd symud unrhyw beth i fan diogel. Does dim geiriau o gysur yn bosib mewn sefyllfa o'r fath.
Mae'r effaith seicolegol hefyd yn rhywbeth sydd yn para am flynyddoedd wedi llifogydd. Rwyf yn cyfarfod yn gyson â phobl yn fy rhanbarth sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi a'u busnesau, ac mae'n amlwg hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach eu bod yn dioddef trawma parhaus. Bob tro mae'n bwrw glaw yn drwm, dydyn nhw ddim yn cysgu. Maen nhw'n gwylio'r glaw, gwylio'r afon, gwylio draeniau a chwlferi, yn ofni bod y gwaethaf am ddigwydd unwaith eto. Dywed nifer hefyd fod eu plant yn dioddef hunllefau cyson. Ar ben hyn i gyd, mae nifer yn cael trafferth cael yswiriant, gan olygu eu bod hefyd yn dioddef poen meddwl o ran yr effaith ariannol pe byddai'r gwaethaf yn digwydd eto. Rhaid cofio hefyd am y rhai sy'n methu â fforddio yswiriant—rhywbeth sydd yn siŵr o fynd yn waeth yn sgil yr argyfwng costau byw.
Rwyf wedi casglu tystiolaethau dirifedi gan y rhai y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, a chan fod gennym amser heddiw, hoffwn ddarllen tri dyfyniad yn llawn, gan gynnwys y cyntaf, sy'n dod gan un o drigolion Rhondda Cynon Taf chwe mis ar ôl llifogydd 2020, sy'n dangos yr effaith emosiynol a seicolegol:
'Rwy'n teimlo'n onest fod y profiad hwn wedi fy ngwthio at yr erchwyn. Mae wedi bod yn un o'r pethau gwaethaf imi eu profi erioed ac mae'n dal i effeithio arnaf bob dydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Hyd yn oed wrth lenwi'r arolwg hwn a chofio'r cyfan, rwyf wedi crio. Cefais 6 wythnos i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen, ni allaf gysgu nac ymlacio pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Nid wyf yn gwybod a fyddaf byth yr un fath eto, rwyf wedi siarad â llawer o gymdogion ac maent i gyd yn cytuno ei fod fel pe baem yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Mae straen meddyliol ac emosiynol yr holl sefyllfa wedi fy synnu'n fawr, rwyf bob amser wedi ystyried fy hun yn berson cryf iawn ond fe ddaeth hyn yn agos at fy nhorri. Deffro am 5 y bore i glywed sŵn dŵr yn rhedeg a mynd i lawr y grisiau i weld dŵr budr yn llifo i mewn i'ch tŷ ac edrych drwy'r ffenest a gweld afon yn rhuo heibio i'ch tŷ gan gario ceir gyda hi, heb unrhyw rybudd o fath yn y byd, mae'n gwneud i mi deimlo'n sâl yn meddwl am y peth hyd yn oed yn awr. Sut y mae disgwyl i ni ymlacio yn ein tai eto pan fo'r tywydd yn wael? Ni allwn ymddiried yn Cyfoeth Naturiol Cymru na Rhondda Cynon Taf o ran hynny. Mae teimlo'n ddiogel yn fy nghartref yn rhywbeth sydd wedi'i ddwyn oddi arnaf fi a fy nheulu. Cawsom ein symud i fflat heb ddodrefn mewn ardal ddieithr ac yna cafodd y cyfyngiadau symud eu cyflwyno hefyd, yr unig bethau sydd gennym yw gwely a theledu am ein bod wedi colli popeth arall, a chyda'r cyfyngiadau symud roedd ceisio cael gafael ar ddodrefn yn amhosibl. Yna, ar ben yr holl straen hwnnw, mae gennym y straen o geisio ailadeiladu ein tai a'n bywydau, ymdrin â chwmnïau yswiriant sydd, yn y bôn, yn angenfilod dienaid mewn rhai achosion, dod o hyd i 2 gar newydd. Pe bai'n rhaid i mi brofi hyn eto... wel, nid wyf yn credu y byddwn yn gallu. Byddwn mewn ysbyty seiciatrig. Mae angen iddynt ein diogelu cyn iddynt gymryd mwy ohonom a mwy oddi wrthym nag y maent wedi'i wneud eisoes, ni allwn oroesi digwyddiad arall fel hwn.'
Mae'r ddau ddyfyniad arall yn fyrrach, ond maent yn dal i grynhoi'r un ymdeimlad o drawma. Ysgrifennodd preswylydd:
'Fe gollon ni ein hanifail anwes. Roedd ein ci i lawr y grisiau. Mae ein plant wedi'u trawmateiddio wrth wybod iddi ddioddef a boddi.'
Ac yn olaf:
'Mae ein merch hynaf (20) wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma o ganlyniad i'r llifogydd. Mae hi ar feddyginiaeth, yn derbyn gwasanaeth cwnsela ac er iddi geisio, nid yw wedi gallu dychwelyd i'r gwaith ac o ganlyniad mae wedi gorfod gadael ei swydd gyda BT. Ei llesiant yw ein ffocws... Mae rhywun yn gyfrifol, rydym yn poeni'n ofnadwy y gallai hyn ddigwydd eto... Mae lefelau gorbryder yn uchel bob tro y mae'n bwrw glaw.'
Fe wnaeth tystiolaeth o'r fath fy argyhoeddi o'r angen am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, ac rwy'n falch, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y bydd adolygiad annibynnol yn ogystal â buddsoddiad pellach mewn mesurau amddiffyn rhag llifogydd. Ond rwy'n gadael sylwadau a thrafodaethau ar y rheini at ddiwrnod arall. Yn hytrach, hoffwn ganolbwyntio heddiw ar sut rydym yn darparu cymorth i gymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd yn y dyfodol cyn, yn ystod ac ar ôl y llifogydd a dadlau'r achos dros sefydlu fforwm llifogydd i Gymru i gyflawni'r rôl hon.
Pam mae angen fforwm o'r fath? Yn Lloegr a'r Alban mae fforymau llifogydd sefydledig sy'n cefnogi ac yn cynnig cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen. Tra bod peth cefnogaeth ar gael yng Nghymru—peth drwy rai cynghorau sir neu drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy'r National Flood Forum os yw'n cael ei ariannu i weithio mewn ardal—teg dweud mai eithaf ad hoc ac anghyson yw hyn ar y funud. Ac nid beirniadaeth mo hyn ar gynghorau lleol na chwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi eu llethu gan y dyletswyddau statudol sydd ganddynt o ran llifogydd. A hyd yn oed pe bai ganddynt y capasiti i wneud mwy i gefnogi cymunedau, rhaid gofyn os mai hwy ddylai fod yn darparu hyn, gan fod cymunedau yn aml yn gweld bai arnynt os yw llifogydd yn digwydd. Yn wir, hyd yn oed pan fydd cynghorau neu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio cyflawni rôl gyffelyb i'r National Flood Forum yng Nghymru, mae cymunedau yn aml wedi bod yn amheus ohonynt gan nad ydynt yn eu hystyried yn ddiduedd. Gadewch i ni edrych, felly, ar beth mae fforwm llifogydd yr Alban a National Flood Forum Lloegr yn ei wneud, a pham wyf fi'n credu bod gwerth efelychu hyn yng Nghymru.
Mae Fforwm Llifogydd yr Alban yn elusen a sefydlwyd yn 2009, ac fe'i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, gan dderbyn £200,000 y flwyddyn, gyda rhoddion ychwanegol a grantiau bach eraill. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth yr Alban cyn mynd ymlaen i fod yn elusen—model y gallem ei efelychu yng Nghymru. Mae'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u deall fel rhan o'r cynlluniau lliniaru llifogydd ac ymatebion adfer wedi llifogydd—cam hanfodol i sicrhau nad yw llifogydd mor drawmatig a difrifol i lawer ag y mae ar hyn o bryd. Rhoddir cymorth a chyngor i gymunedau lleol lle bo angen i helpu i reoli'r perygl o lifogydd, ac mae'r fforwm hefyd yn eirioli ar eu rhan. Maent yn darparu cyngor a gwasanaethau annibynnol, ac maent yn gallu darparu cymorth mwy datganoledig a lleol i'r rhai sydd ei angen. Maent hefyd yn rhoi canllawiau llifogydd i gymunedau lleol ac yn rhoi cyngor ar yswiriant ac adfer wedi llifogydd. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid oes gennym unrhyw ganllawiau swyddogol ar gyfer rhai sy'n wynebu perygl llifogydd ac sy'n dymuno diogelu eu heiddo. Mae ganddynt hefyd system rybuddio fyw ar waith drwy Twitter, ac er bod hon yn debyg i system rybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n ymddangos ei bod yn fwy effeithiol. Maent hyd yn oed yn gweithio gyda chymunedau i osod systemau rhybudd rhag llifogydd hyperleol, gan rymuso cymunedau i gymryd rhan uniongyrchol mewn cynlluniau o'r fath.
Deilliodd Fforwm Llifogydd yr Alban o'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, a sefydlwyd fel elusen yn 2002. Er mai Llywodraeth y DU oedd yn ei ariannu'n wreiddiol, caiff ei ariannu erbyn hyn drwy godi arian a rhoddion gan y cyhoedd. Er eu bod yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, mewn gwirionedd mae eu hymwneud â Chymru yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd ac mae'n dibynnu ar bocedi o gyllid iddynt allu gwneud rhywfaint o waith penodol. O ganlyniad, maent yn gweithio yn Lloegr yn bennaf, ac mae eu hadnoddau ar gael yn Saesneg yn unig. Os edrychwch ar eu cyfryngau cymdeithasol, fe welwch sut y maent yn ymweld â chymunedau sydd wedi dioddef llifogydd gyda'u cerbyd adfer i gynnig cymorth a chyngor yn uniongyrchol i drigolion a busnesau yn dilyn llifogydd. Eu prif ffocws yw cynorthwyo unigolion yr effeithiwyd arnynt, ac maent hefyd yn helpu i lywio deddfwriaeth sy'n ymwneud â llifogydd. Maent yn darparu gwybodaeth glir a gwasanaethau i ddioddefwyr llifogydd ac maent wedi lansio gwefan, ynghyd â chyfrif Twitter, yn ogystal â llinell rybuddion llifogydd 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i bobl allu cysylltu mewn argyfwng, yn ogystal â darparu cyngor annibynnol ynghylch amddiffyn rhag llifogydd ac yswiriant. Maent yn gweithio law yn llaw â Flood Re i roi cyngor ar yswiriant i'r rhai sy'n byw mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.
Lle y cawsant eu hariannu i weithio yng Nghymru, mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt. Ac er y gallem ariannu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i ehangu ei waith yma yng Nghymru, os edrychwch ar y manteision a gafwyd yn yr Alban o gael fforwm llifogydd ar gyfer yr Alban, credaf eu bod yn cefnogi'r angen i gael un yng Nghymru. Yn wir, os edrychwch ar y model, mae Fforwm Llifogydd yr Alban a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, ac mae gan y ddau fforwm gynrychiolydd ar fyrddau ei gilydd. Rwyf wedi siarad â phobl sy'n gysylltiedig â'r ddau ac maent yn cytuno y byddai Cymru'n elwa'n fawr o gael fforwm llifogydd penodol a allai hefyd weithio ar y cyd â hwy. Nawr, gwn fod arian yn gyfyngedig, ond mae profiadau cymunedau sydd mewn perygl yng Nghymru a'r Alban yn dangos gwerth arfogi cymunedau i ymdopi ag effeithiau a bygythiadau llifogydd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ac y dylem ei wella yma yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid yw pobl yn ein cymunedau sydd mewn perygl yn siŵr pwy y gallant gysylltu â hwy am gyngor a chymorth mewn perthynas â lleihau perygl llifogydd i'w cartref neu eu busnes. Ac fel y soniais, mae llawer yn dweud yn agored nad oes ganddynt hyder y gall awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni rôl o'r fath, yn enwedig pan fydd y sefydliadau hynny'n cael eu llethu gan y galw am gymorth pan fo llifogydd yn taro, yn enwedig gydag adfer wedyn. Byddai fforwm llifogydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn golygu y byddai gennym well dealltwriaeth ynghylch pam fod llifogydd yn dechrau a beth y gellir ei wneud i gefnogi a helpu cymunedau lleol. Mae lleisiau a phrofiadau'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl yn ffactor pwysig i allu deall pam fod llifogydd mor ddifrifol mewn rhai ardaloedd, ac eto mae hyn yn rhywbeth y mae llywodraeth leol yn aml yn ei anwybyddu. Hefyd, mae angen ystyried y gefnogaeth leol. Mae llawer o unigolion sy'n dioddef llifogydd mewn cymuned yn rhoi ac yn derbyn cymorth emosiynol. Fel y dywedais, mae llifogydd yn ddigwyddiad trawmatig dros ben, a bydd llawer yn ei chael yn anodd ymdopi â'r canlyniadau. Drwy gael y cymorth yno i'w helpu, fe allant wella.
Mawr obeithiaf, felly, fy mod wedi argyhoeddi'r Dirprwy Weinidog heddiw o werth edrych yn bellach i mewn i'r mater hwn a'r manteision a fyddai'n dod i'n cymunedau ni yn sgil sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai munud yr un sydd ganddynt? John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd heddiw, a chytunaf yn llwyr fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o rymuso ein cymunedau lleol yn well o ran atal llifogydd, oherwydd hwy sy'n adnabod eu cymunedau lleol orau. Ym mis Rhagfyr 2020, profodd gwastadeddau Gwent lifogydd ym Magwyr a rhannau eraill, ac roedd pryder mawr nad oedd y ffosydd sy'n draenio'r ardal honno'n cael eu rheoli a'u cynnal yn briodol, a gwelwyd nad oedd asiantaethau fel CNC yn cyflawni fel y dylent. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y gallwn sicrhau cynnydd a gwell cefnogaeth gan ein cymunedau lleol, cefnogaeth y mae ei hangen yn ddirfawr mewn perthynas â pherygl llifogydd, yw drwy eu grymuso a'u rhoi wrth y llyw, a grymuso cynghorau cymuned, megis Magwyr gyda Chyngor Cymuned Gwndy, oherwydd y bobl hyn sy'n adnabod yr ardal orau—maent wedi byw yno ers blynyddoedd maith yn aml iawn—a pha fecanwaith bynnag a ddefnyddir, mae angen iddynt fod wrth y llyw i raddau mwy nag y maent ar hyn o bryd.
Diolch, Heledd, am gynnal y ddadl hon, sydd mor bwysig.
Roeddwn eisiau ychwanegu at y pwyntiau am y creithiau ffisiolegol a achosir gan lifogydd. Ym mis Chwefror 2020, ymwelais â strydoedd yn Ystrad Mynach a oedd wedi cael eu taro gan lifogydd. Roedd cartrefi cyfan yn llawn dŵr a cheir wedi'u difetha. Ond y peth a arhosodd gyda mi yw'r effaith ar blant preswylwyr. Dywedodd nifer ohonynt wrthyf fod eu plant wedi'u trawmateiddio, eu bod wedi colli eu teganau, ac roeddent yn gofyn a allai eu hanifeiliaid anwes gysgu i fyny'r grisiau am eu bod yn poeni y byddai'r un peth yn digwydd eto ac y byddai eu hanifeiliaid anwes yn boddi, ac roeddent yn ofnus bob tro y byddai'n bwrw glaw. Ar y pryd, galwais am gymorth cwnsela i fod ar gael i blant yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw fforwm yn y dyfodol yn mynd i'r afael â hyn. Mae angen inni sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed ac y ceir penderfyniad i gefnogi iechyd meddwl preswylwyr yn ogystal â mentrau i adfer a diogelu adeiladau.
A jest diolch yn fawr iawn i Heledd eto am y ddadl yma. Fe wnes i ffeindio rhai o'r pwyntiau roedd hi wedi'u gwneud a'r pethau roedd hi'n dyfynnu yn dorcalonnus ond mor, mor bwysig inni fod yn dysgu amdanyn nhw.
Mi wnaeth adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn Chwefror 2020, wrth gwrs, amlygu bod angen rhyw 60 neu 70 o staff uwchben y waelodlin staffio a oedd ganddyn nhw ar yr adeg hynny er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy, hirdymor i'r gwasanaeth rheoli llifogydd. Nawr, mi wnaeth y Llywodraeth, er tegwch, ddarparu'r ariannu hynny ar drefniant dros dro. Mi godais i gyda'r Prif Weinidog rai misoedd yn ôl y byddai'n ffôl iawn peidio parhau â'r ariannu hynny gan fod y swyddi wedi'u creu, ac mi wnaeth e gytuno y byddai'n gwneud synnwyr i barhau â'r rheini. Nawr, dwi'n ymwybodol bod yr adolygiad yn digwydd rhwng y Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu hariannu nhw ar hyn o bryd, ond dwi jest eisiau tynnu sylw at adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw, fel mae'n digwydd, yn dilyn ein craffu blynyddol ni ar Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn amlygu barn y pwyllgor y dylai ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gymesur â'i rolau a'i gyfrifoldebau, ac, wrth gwrs, diolch i Heledd, mae llifogydd yn un enghraifft amlwg o hynny, a rŷn ni'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn diwallu'r angen hwnnw ar ddiwedd yr adolygiad ariannu y maen nhw wrthi'n ei gynnal ar hyn o bryd.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Wel, diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac a ydym yn teimlo ei bod yn bryd sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
Drwy'r strategaeth llifogydd a gyhoeddwyd yn 2020, mae gennym strategaeth gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Roedd y strategaeth ei hun yn pwyso ar wersi a ddysgwyd o stormydd mis Chwefror 2020 a effeithiodd yn drasig ar lawer o'n cymunedau. Ac yn awr, drwy'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rydym wedi nodi amcanion clir a phecyn buddsoddi ategol sylweddol i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio'n agos i ddatblygu cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 awdurdodau lleol ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o'i ymateb i lifogydd mis Chwefror 2020. Rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad ar yr adolygiad gydag Aelod dynodedig maes o law, ac mae'n debygol y bydd yr adolygiad hwn yn ystyried mater fforwm llifogydd i Gymru. Felly, credaf y byddai'n well peidio â rhwystro'r broses hon a chaniatáu i'r adolygiad ddatblygu argymhellion inni eu hystyried a'u gweithredu. Ar wahân i'r adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19, y mae'r Aelod dynodedig a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei arwain, mae pwyllgor annibynnol Cymru ar lifogydd ac erydu arfordirol, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn cynnal adolygiadau fel rhan o'i raglen waith, gan gynnwys egluro rolau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoli perygl llifogydd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil yn 2013 o'r enw 'Gwasanaeth Eiriolaeth a Chymorth Llifogydd i Gymunedau yng Nghymru'—nid yw'n deitl bachog iawn, ond mae'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun. Cynlluniwyd hwn i ddarparu argymhellion ymarferol ar gyfer datblygu darpariaeth cymorth llifogydd yng Nghymru ac arweiniodd at ein cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r gwaith o godi ymwybyddiaeth a meithrin cydnerthedd o fewn cymunedau. Ac nid wyf yn teimlo bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Fforwm Llifogydd yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym eisoes yn ei gyflawni yma yng Nghymru drwy weithredu ein strategaeth llifogydd. Mae'r broses o weithredu ein polisi yn cael ei hadolygu'n gyson ac rydym ni a'n partneriaid cyflawni yn ceisio mynd i'r afael â bylchau lle mae'r rhain yn bodoli a dysgu o arferion da. Ac rydym yn parhau i ddysgu o'r digwyddiadau a'n systemau sy'n gwella. Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn falch o weld pa mor dda y mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig wrth gynnal eu hymchwiliadau ond hefyd wrth gyflawni gwelliannau i'r cymunedau hynny yr effeithir arnynt, ac rwy'n disgwyl gweld y math hwn o gydweithio'n parhau wrth i ni gynyddu ein hymgysylltiad a'n darpariaeth ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru.
Nid yw buddsoddi yn y maes hwn erioed wedi bod mor bwysig, a dyna pam y cyhoeddasom becyn ariannu ar gyfer rhaglen llifogydd 2022-23 yr wythnos diwethaf, a dyma ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, gyda chyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf, gyda dyraniad tair blynedd o dros £214 miliwn, a fydd yn helpu i ddarparu llif cryfach o gynlluniau llifogydd yn y dyfodol a galluogi blaengynllunio gwell. Bydd y pecynnau hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni'r ymrwymiad i fynd i'r afael â llifogydd fel y nodir yn y cytundeb cydweithio rhyngom ni a Phlaid Cymru.
Ac rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, am gyfraniad enfawr staff awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan i ddiogelu ein cymunedau drwy ymateb a thrwy gyflwyno mesurau i leihau perygl llifogydd. Wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bob un ohonom ddysgu addasu. Rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau ar yr un pryd fod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben, a byddaf yn eich gweld yr wythnos nesaf.