2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Mawrth 2022.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y plediau ac, yn gyntaf, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae dwy flynedd ers inni gyflwyno cyfyngiadau symud COVID ledled Cymru a ledled y DU, ac yn sicr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, credaf y gallwn i gyd gytuno ar draws y Siambr hon—. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cadw'n ddiogel, ac rydym yn cydymdeimlo, wrth gwrs, heddiw yn enwedig, â ffrindiau a theuluoedd y rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Yn ogystal â hynny, mae blwyddyn a diwrnod ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi'r cynllun adfer iechyd a gofal cymdeithasol. A gaf fi ofyn, Weinidog, pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn eich barn chi ers cyhoeddi'r cynllun adfer hwnnw flwyddyn yn ôl?
Diolch yn fawr iawn, Russell, a hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor ddiwyd i'n cadw'n ddiogel ac i ddiogelu'r bobl yn eu gofal dros y cyfnod anodd iawn hwnnw, ond hefyd i gydymdeimlo â'r rhai sydd wedi colli anwyliaid mewn amgylchiadau anodd iawn, lle nad oeddent hyd yn oed yn gallu ffarwelio â hwy yn y ffordd y byddent wedi'i ddymuno, i ddathlu eu bywydau.
Mae'r cynllun adfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei roi ar waith. Mae'n rhan o raglen sy'n mynd rhagddi. Mae rhan o hynny wedi cynnwys gweithredu pethau fel y cyflog byw gwirioneddol, i wneud yn siŵr, ac mae hynny wedi digwydd yn gyflymach nag y gobeithiem. Nodwyd hynny yn y cynllun adfer iechyd a gofal hwnnw. Hefyd, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi nodi rhai disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth o ran cyflawniad. Byddwn yn cryfhau rhai o'r disgwyliadau hynny yn y rhaglen adfer gofal wedi'i gynllunio y byddwn yn ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n ategu rhan gyntaf eich ateb yno.
Ar y cynllun adfer, sylwais fod Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi sôn heddiw fod amseroedd aros y GIG yng Nghymru yn achosi argyfwng iechyd cyhoeddus. Felly, yn sicr, fy marn i yw bod gennym ffordd bell i fynd cyn dechrau ar gynllun adfer hyd yn oed. Ac i mi, dylai cynllun adfer ymwneud yn helaeth â lleihau'r ôl-groniadau yn ein GIG yng Nghymru, ac ni wnaethoch roi sylw i hynny yn eich ateb. Pan soniais wrthych am hyn ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi, 'Dim ond cynnydd o 0.2 y cant a welsom ym mis Rhagfyr ar gyfer rhestrau aros GIG Cymru', ond fy marn i yw na ddylem fod yn dathlu'r math hwnnw—. Wel, nid yw'n gyflawniad o gwbl. Mae angen inni ganolbwyntio'n bendant iawn ar leihau'r ôl-groniadau amseroedd aros yn sylweddol, ac wrth gwrs dylid cynorthwyo GIG Cymru a'r byrddau iechyd ar bob lefel i leihau'r ôl-groniadau hynny. Ac wrth gwrs, y tu ôl i bob ystadegyn—. Rydym yn sôn am ystadegau, onid ydym, Weinidog? Rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno â mi fod yna bobl go iawn y tu ôl i bob ystadegyn, pobl go iawn sy'n aros mewn poen am fisoedd a blynyddoedd am driniaeth, a gwn y byddwch yn ystyried hynny'n annerbyniol eich hun. Ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd i leihau'r ôl-groniadau sylweddol hynny.
Weinidog, rwy'n deall eich bod wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau nad oes yr un o'u cleifion yn aros mwy na dwy flynedd erbyn diwedd mis Chwefror, sydd newydd fod, a sicrhau hefyd nad oes yr un o'u cleifion yn aros am fwy na blwyddyn am apwyntiadau cleifion allanol brys erbyn diwedd mis Ionawr, y mis Ionawr sydd newydd fod. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog, a yw'r targedau hyn wedi'u cyrraedd, a pha gamau uniongyrchol y bwriadwch eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd a'r gwasanaeth iechyd yn lleihau'r amseroedd aros iechyd brawychus hyn—ac maent yn frawychus—ar frys, er mwyn inni allu cefnu ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn?
Diolch yn fawr. Rwy'n pryderu'n fawr am yr ôl-groniadau; maent yn fy nghadw'n effro yn y nos. Y gwir amdani yw fy mod yn treulio'r rhan fwyaf o fy amser y dyddiau hyn yn ceisio sicrhau bod gennym gynllun adfer clir iawn. Bydd y rhaglen gofal wedi'i gynllunio, fel y dywedais, yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn ceisio cwblhau'r manylion ar hynny.
Yfory, fe fyddwch yn ymwybodol y bydd rhestrau aros newydd yn cael eu cyhoeddi, y canlyniadau hynny. Rwyf wedi bod yn gwbl glir ac agored a gonest. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rheoli disgwyliadau yma. Y gwir amdani yw ein bod newydd gael amrywiolyn omicron sydd bellach ar gynnydd eto, ac rydym yn gweld mwy o bobl yn ein hysbytai ar adeg pan oeddem, a bod yn onest, wedi gobeithio y gallem fwrw iddi'n egnïol ar hyn.
Rydym ar fin cwblhau ac edrych drwy argymhellion y cynllun tymor canolig integredig gan y byrddau iechyd, lle maent yn nodi'r targedau y maent yn gobeithio eu gosod. Gwyddom nad yw targedau wedi'u cyrraedd. Nid ni yw'r unig wlad yn y byd sydd heb gyrraedd ei thargedau. Nid wyf yn credu bod unrhyw wlad yn y byd wedi cyrraedd targedau yn wyneb argyfwng COVID. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n unrhyw syndod. Yr her yn awr yw canfod sut y gallwn fynd yn ôl ar y trywydd cywir. A rhan o'r hyn a wnawn yw sicrhau bod gennym staff ar waith i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r ôl-groniadau hynny, yn enwedig a ninnau'n gwybod bod y staff eisoes wedi ymlâdd. Fe wnaethom gyhoeddi'r ffaith ein bod, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi £0.25 biliwn i hyfforddi pobl newydd, rhywbeth a gafodd ei adael allan yn llwyr o gynllun Lloegr, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall na allwn fynd i'r afael â'r ôl-groniadau hyn heb y sgiliau cywir a'r bobl iawn i'n helpu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n deall wrth gwrs eich bod wedi cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn pan ddaethoch yn Weinidog iechyd, oherwydd gadawodd eich rhagflaenydd y swydd mewn cyflwr anodd tu hwnt. Roeddem mewn sefyllfa anodd ymhell cyn inni wynebu'r pandemig, ac rwy'n deall pa mor anodd yw'r dasg sy'n eich wynebu yn awr, Weinidog.
Pan soniais am gyrraedd targedau, fe ddywedoch chi 'Nid oes neb yn cyrraedd targedau; nid yw targedau'n cael eu cyrraedd ledled y byd', ond mae'r rhain yn dargedau a gyflwynwyd gennych chi eich hun—yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond dywedwch os ydw i'n anghywir—i fyrddau iechyd yn ystod y misoedd diwethaf, neu'n sicr y llynedd, i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd erbyn y mis Ionawr a'r mis Chwefror sydd newydd fod, fel yr amlinellais. Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol imi ofyn a yw'r targedau hynny wedi'u cyrraedd a deall y sefyllfa o ran hynny.
Rydych wedi sôn am y ffigurau newydd ar gyfer amseroedd aros a fydd yn cael eu cyhoeddi yfory, a deallaf hynny wrth gwrs. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd yn dangos bod bron i 50,000 o gleifion yng Nghymru yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth—dros ddwy flynedd am driniaeth. Ac mae'r ffigur hwnnw'n ddwbl—dwbl—nifer y bobl sy'n aros yn Lloegr gyfan, ac mae gan Loegr boblogaeth 18 gwaith maint Cymru. Felly, a gaf fi ofyn i chi—ac mae hyn yn mynd yn ôl at fy mhwynt cynharach eich bod wedi cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn a'n bod ni mewn sefyllfa anodd cyn dechrau'r pandemig—a wnewch chi egluro sut y cododd y gymhariaeth gwbl enbyd hon yn y lle cyntaf?
Fe allaf ei egluro. Ac yn gyntaf oll hoffwn eich cywiro ar rywbeth, sef ein bod mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau heriol hynny. Yn wir, dim ond 9,000 o bobl oedd yn aros am 36 wythnos cyn y pandemig. A do, fe wnaethom nodi rhai targedau, ond mewn gwirionedd, roedd hynny cyn i delta ein taro a chyn i omicron ein taro a chyn i BA2 ein taro. Felly, mae'r holl bethau hynny wrth gwrs wedi taflu pa gynlluniau bynnag a oedd gennym ar y domen. Roedd yn rhaid inni ddargyfeirio pobl i sicrhau bod pobl yn cael y pigiad atgyfnerthu er mwyn eu diogelu. Mae'n gwneud synnwyr perffaith, pan fyddwch yn wynebu'r math hwnnw o sefyllfa, eich bod yn newid eich tacteg a cheisio gwneud eich gorau o dan yr amgylchiadau.
A gallaf egluro pam fod ein rhestrau aros yn hwy na rhai Lloegr. Yn gyntaf oll, rydym yn cynnwys diagnosteg a therapi yn y ffordd yr ydym yn cyfrif; rydym yn cynnwys apwyntiadau dilynol ar ôl profion diagnostig—unwaith eto, ni chânt eu cynnwys yn Lloegr. Rydym yn cyfrif pobl os cânt eu trosglwyddo rhwng meddygon ymgynghorol ac os ydynt yn dechrau ar lwybr newydd. Felly, mae'r rhain i gyd yn rhesymau da pam ein bod yn cyfrif mewn ffordd lawer mwy gonest, rwy'n credu—ffordd agored a thryloyw—nag y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Peredur Owen Griffiths ar ran Plaid Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fis diwethaf, cofnododd Cymru ei chanlyniadau gwaethaf erioed ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Dangosodd eich ffigurau eich hun fod 78 y cant o gleifion a atgyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed wedi gorfod aros dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n annerbyniol. Hoffwn glywed pa gamau sydd wedi'u cymryd i wella'r sefyllfa. Hoffwn glywed mwy hefyd am yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio ar brofi'r model noddfa. Byddai hyn yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn argyfwng neu sydd â phroblem iechyd meddwl brys drwy ddarparu cyfleusterau cymunedol yn cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig y trydydd sector, gyda llwybrau atgyfeirio clir i wasanaethau'r GIG lle bydd angen. Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Peredur. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, wrth gwrs fy mod yn pryderu bod gennym bobl ifanc yn aros yn hwy nag y dylent. Credaf fod y sefyllfa gydag amseroedd aros yn cael ei hystumio rhywfaint gan Gaerdydd a'r Fro. Fel y dywedais wrth Andrew, mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru ar y rhestr aros yng Nghaerdydd a'r Fro mewn gwirionedd. Ond rydym yn rhoi ystod eang o gamau ar waith i leihau amseroedd aros. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth bob bwrdd iechyd ein bod yn disgwyl iddynt roi camau ar waith i leihau amseroedd aros. Rydym yn cefnogi hynny gyda chyllid, ac am hynny rydym yn disgwyl gweld cynlluniau datblygedig i nodi sut y byddant yn lleihau amseroedd aros. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hefyd, serch hynny, na fydd angen gwasanaeth arbenigol ar lawer o'r bobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, a dyna pam ein bod hefyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau lefel is hynny fel y gallwn ymyrryd yn gyflymach o lawer. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai pob Aelod annog eu hetholwyr sy'n cysylltu â hwy i fanteisio ar y cymorth lefel is hwnnw sydd ar gael, oherwydd, yn anffodus ac yn ddealladwy, mae rhai teuluoedd yn gweld CAMHS arbenigol fel y tocyn aur, mewn gwirionedd, ac rydym yn awyddus iawn i deuluoedd gael y cymorth yn gynharach. Dylwn ddweud hefyd, yn ogystal â'r camau y mae byrddau iechyd yn eu cymryd i leihau amseroedd aros, y dylai pob un ohonynt gael mesurau ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu brysbennu'n briodol, fel eu bod yn cael eu gweld yn gyflymach os bydd eu hanghenion yn newid.
Roeddech yn gofyn am yr ymrwymiad yng nghytundeb cydweithio Llafur-Plaid Cymru. Fel yr amlinelloch chi, yr ymrwymiad hwnnw yw i brofi darpariaeth noddfa i bobl ifanc yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae gennym ddarpariaeth noddfa i oedolion, ond nid ar gyfer pobl ifanc, ac mae datblygu'r modelau hynny'n bwysig iawn fel rhan o'n llwybr gofal mewn argyfwng i blant a phobl ifanc. Felly, fel rhan o'r cytundeb, byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau peilot hynny mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y gallwn eu harchwilio. Ond dylwn fod yn glir iawn hefyd mai'r hyn yr ydym ei eisiau yw i blant ifanc a phobl ifanc beidio â chyrraedd pwynt argyfwng, a dyna pam ein bod yn buddsoddi cymaint o arian a hefyd yn canolbwyntio cymaint o ymdrech ar ddiwygio ein system gyfan, felly ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, a chyhoeddwyd £12 miliwn arall ar gyfer hynny heddiw. Mae hynny'n cysylltu â'r cymorth cynnar a'r gefnogaeth ychwanegol yn ein menter NEST/NYTH. Felly, bydd y niferoedd y disgwyliwn eu gweld yn defnyddio'r ddarpariaeth noddfa yn fach, a dylem anelu i sicrhau eu bod hyd yn oed yn llai, oherwydd nid ydym eisiau i anawsterau pobl ifanc waethygu.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog.
Yn fuan iawn, bydd niferoedd sylweddol o Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru wrth i'r DU dynnu ei bys allan o'r diwedd a gwneud ei rhan dros ffoaduriaid sy'n dianc rhag rhyfelgarwch Putin. Yn ddealladwy, bydd llawer o'r bobl hyn sy'n ffoi o'u gwlad wedi dioddef trawma o ganlyniad i'r hyn y maent wedi'i brofi yn ystod y mis diwethaf, a bydd angen cymorth arbenigol arnynt i ymdrin â'r hyn y maent wedi'i weld a'i brofi. Bydd plant yn ffoi o Wcráin. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y paratoadau a wnaed cyn i ffoaduriaid Wcráin gyrraedd? Mae'r bobl druenus hyn eisoes wedi cael cam gan y Llywodraeth Dorïaidd oherwydd yr ymateb araf a thruenus i'r argyfwng ffoaduriaid. Gobeithio na chânt gam eto pan fyddant yn cyrraedd y glannau hyn. Diolch.
Diolch, Peredur. Rydym i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn a welwn, ac mae'r trawma y mae pobl yn ei brofi yn Wcráin yn rhywbeth na allwn ei ddychmygu mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wahanol yng Nghymru gyda'n rhaglen uwch-noddwr, a fydd yn golygu, pan fydd ffoaduriaid Wcráin yn cyrraedd Cymru, y byddant yn cael eu cysylltu â gwasanaethau priodol. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cofrestru gyda meddyg teulu, a byddant yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau iechyd prif ffrwd. Bydd hynny'n cynnwys cymorth iechyd meddwl. Bydd y cymorth iechyd i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn 2018 ar iechyd a llesiant ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwyf hefyd yn falch o nodi ein bod eisoes wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsieg ar sefydlogi cychwynnol i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin, deunyddiau a fydd yn bwysig iawn pan fydd pobl wedi dioddef trawma. Ni allwch ddisgwyl i bobl ddod i mewn a bod yn barod i gael therapi; bydd yn rhaid iddynt fod yn teimlo'n ddiogel a sefydlog. Felly, mae hynny wedi'i wneud, ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu gyda sefydlogi yn ystod y cyfnod adsefydlu cychwynnol. Mae gennym hefyd ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL—mae honno hefyd ar gael i gefnogi pobl sy'n cyrraedd Cymru a'u teuluoedd, ac mae gan CALL fynediad at rywbeth o'r enw Llinell Iaith, sy'n golygu y bydd modd i rywun ddod o hyd i wasanaethau drwy ddefnyddio iaith fel Rwsieg neu Wcreineg os ydynt eisiau gwneud hynny.