– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 26 Ebrill 2022.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i amlinellu sut yr ydym ni'n bwriadu trawsnewid a moderneiddio'r ffordd y mae'r GIG yn darparu Gofal a Gynlluniwyd yma yng Nghymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun a fydd yn helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Fe fydd hwn yn sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth iawn ar y tro cyntaf ac yn sicrhau eu bod nhw'n cael gofal mor agos i'w haelwyd â phosibl, â llai o ymweld ag ysbytai.
Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Mae wedi ymestyn y GIG i'r eithaf, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y DU. Mae'r GIG wedi bod yn wych yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r pandemig. Mae wedi darparu gofal anhygoel o dan amgylchiadau eithriadol o anodd ac, ar ben hynny, mae wedi cyflawni'r rhaglen frechu COVID-19 sy'n achub bywydau. Rydym ni wedi gweld y gorau o'r GIG a'i staff yn ystod y pandemig. Maen nhw wedi gweithio yn ddiflino i gynnal cymaint o wasanaethau â phosibl. Y nhw yw'r rheswm yr aethom ni i sefyll ar garreg y drws i gymeradwyo bob wythnos ar ddechrau'r pandemig.
Ond fe ddaeth y pandemig â llawer o newidiadau i'r GIG. Ar ddechrau'r pandemig, fe wnaethom ni'r penderfyniad anodd i ganslo apwyntiadau a thriniaethau a gynlluniwyd i ganiatáu staff i ganolbwyntio ar ofalu am yr holl bobl sâl iawn hynny oherwydd COVID-19. Mae pob ton ddilynol o heintiau wedi golygu bod y GIG wedi gorfod canolbwyntio ar COVID-19 yn hytrach na gallu darparu'r gymysgedd lawn ac arferol o apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau a gynlluniwyd. Bu'n rhaid i wasanaethau addasu hefyd oherwydd y nifer fawr o weithdrefnau ac arferion i reoli heintio, a'r holl fesurau angenrheidiol i helpu i gadw cleifion a staff yn ddiogel. Mae'r rhain hefyd wedi cyfyngu ar niferoedd y bobl y gellir eu gweld ac sy'n gallu cael triniaeth ar unrhyw amser arbennig.
Wrth i ni ddechrau symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig, mae'r GIG yn darparu mwy o ofal a gynlluniwyd nawr nag ar unrhyw amser arall yn ystod y pandemig. Ond, hyd yn oed heddiw, mae bron i 1,400 o gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, er mai dim ond tua 16 y cant o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol oherwydd COVID. Ar y lefel hon, mae pwysau'r pandemig hwn yn parhau i effeithio ar faint a math y gofal a gynlluniwyd y gall y GIG ei ddarparu.
Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros yn gostwng yn gyson ledled Cymru, yn anffodus, heddiw mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir o lawer am driniaeth, a honno yw'r sefyllfa ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae bron i 700,000 o lwybrau agored, gyda llawer o bobl yn aros am fwy na 52 wythnos. Fe fydd y rhifau hyn yn parhau i gynyddu wrth i bobl, yn briodol felly, barhau i fynd i weld eu meddygon teulu. Fe fydd hi'n cymryd tymor Senedd llawn a llawer o waith caled i adfer wedi effaith y pandemig. Honno yw fy mlaenoriaeth i erbyn hyn a blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd.
Mae'r cynllun i adfer Gofal a Gynlluniwyd yn cael ei gefnogi gan £170 miliwn ychwanegol y flwyddyn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fe fydd yn ailgychwyn ac yn trawsnewid gwasanaethau Gofal a Gynlluniwyd ac fe gafodd ei ddatblygu gyda mewnbwn gan glinigwyr. Mae'n nodi ystod eang o gamau gweithredu i ailgynllunio gwasanaethau ac, mewn llawer o achosion, ailgynllunio'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan y GIG wrth gael eu hatgyfeirio gan eu meddygon teulu neu weithiwyr gofal iechyd proffesiynol arall ar gyfer triniaeth a gynlluniwyd. I'r rhai sydd eisoes yn disgwyl, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y gefnogaeth ar gael. I'r rhai sy'n dod i mewn i'r system, fe fyddwn ni'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau eu hunain a, lle bynnag y bo hynny'n briodol, fe fyddwn ni'n darparu mwy o ddewisiadau triniaeth amgen fel nad llawdriniaeth yw'r unig ddewis sydd ar gael. Fe fyddwn ni'n gwneud mwy hefyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal.
Heddiw, rwyf i'n gwneud pedwar ymrwymiad i bobl, i'w helpu nhw i gael gafael ar y cyngor a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw mewn da bryd. Fe fyddwn ni'n cynyddu gallu'r gwasanaethau iechyd. Fe fydd hi'n haws cael mynd at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn nes adref, felly mae pobl yn cael y gofal cywir gan yr unigolyn cywir. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth. Fe fydd triniaethau a gweithdrefnau diagnostig ar gael yn gynt. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu pobl a allai fod â chanser a chyflyrau brys eraill ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu plant. Fe fydd clinigwyr yn gweithio gyda phobl i wneud yn siŵr mai dewis triniaeth yw'r peth gorau iddyn nhw.
Fe fyddwn ni'n trawsnewid y ffordd rydym ni'n darparu gofal sy'n cael ei gynllunio. Fe fydd mwy o ofal a chymorth ar gael gan amrywiaeth ehangach o wasanaethau lleol a gweithwyr proffesiynol i helpu pobl i gadw'n iach ac i aros adref. Fe fyddwn ni'n sefydlu cyfleusterau llawfeddygol pwrpasol ac yn gwahanu gofal a gynlluniwyd oddi wrth ofal brys a gofal argyfwng, pan fo hynny'n bosibl. Fe fyddwn ni'n darparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl, yn enwedig y rhai sy'n aros am driniaeth.
Dwi hefyd wedi gosod targedau clir ac uchelgeisiol i leihau amseroedd aros. Erbyn diwedd 2022, eleni, ni fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf. Erbyn gwanwyn 2024, fe fyddwn ni wedi cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi. Erbyn gwanwyn 2025, ni fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am lawdriniaeth yn y rhan fwyaf o feysydd arbenigol. Erbyn 2026, fe fydd 80 y cant o'r bobl sy'n cael diagnosis canser yn dechrau'r driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o’r pwynt cyntaf pan amheuir fod canser. Fe fyddwn ni'n gwneud yn siŵr mai'r rhai sydd â'r angen mwyaf sydd yn cael eu gweld gyntaf. Ond, gadewch i mi fod yn glir, mae'r dasg o'n blaenau ni yn enfawr.
Mae'r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd o dan bwysau di-baid yn sgil y pandemig a'r gaeaf. Mae'n staff iechyd yn flinedig ar ôl gweithio o dan bwysau enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cynyddu nifer y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru 54 y cant yn rhagor, ond mae angen mwy arnom ni. Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i hynny drwy gyllideb gwerth £0.25 biliwn i hyfforddi mwy o arbenigwyr. Fe fyddwn ni'n cefnogi’r gwasanaeth iechyd wrth inni ofyn iddo roi'r cynllun hwn ar waith. Fe fyddwn ni'n parhau i recriwtio staff medrus i ymuno â'r gweithlu ac yn parhau i hyfforddi'r to nesaf o weithwyr gofal iechyd.
Fe fydd gan ofal sylfaenol ran hanfodol i’w chwarae yn llwyddiant y cynllun hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth e-gyngor i feddygon teulu, i’w helpu i gael cyngor cynnar gan dimau arbenigol i gefnogi penderfyniadau a rheoli gofal cleifion. Fe fyddwn ni hefyd yn gwneud defnydd ehangach a gwell o sgiliau ac arbenigedd ein staff nyrsio a'n gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gefnogi pobl tra maen nhw'n aros am apwyntiad a thra maen nhw'n adfer ar ôl llawdriniaeth. Does dim ateb sydyn i leihau amseroedd aros hir. Fe fydd angen gwaith caled, fe fydd angen cefnogaeth pobl ar draws Cymru a'r gwasanaeth iechyd, ac fe fydd angen amser i weld canlyniadau gwirioneddol a pharhaol. Gyda'n gilydd, fe wnawn ni adfer o'r pandemig yma. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ategu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gweithlu'r GIG a'r gwaith aruthrol y maen nhw wedi'i wneud? Ni allwn ailadrodd hynny ddigon, sef ein diolch am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun i leihau amseroedd aros, a diolch hefyd i'r Gweinidog, wrth gwrs, am y sesiynau briffio technegol y mae wedi'u darparu hefyd? Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Byddaf yn dechrau drwy groesawu'r cynllun hwn yn fawr. Rwyf i yn croesawu'n fawr y ffaith bod gan y cynllun hwn dargedau. Mae hynny'n gwbl hanfodol, ac mae hynny'n elfen gadarnhaol o'r hyn yr wyf wedi'i ddarllen heddiw. Rwy'n bryderus iawn ynghylch gosod targed nad oes neb yn aros mwy na blwyddyn, mor bell i ffwrdd â 2025. Ychydig iawn o gysur y bydd hynny'n ei roi, wrth gwrs i'r rhai sy'n aros, yn aml mewn poen ac anesmwythder. Rydym yn 2022 yn awr, ac maen nhw'n edrych ac yn gweld y flwyddyn 2025—mae hynny'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw ei dderbyn. Rwyf hefyd yn pryderu nad yw'r targed o 80 y cant ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod erbyn 2026 yn ddigon uchelgeisiol. Mae pobl eisoes, wrth gwrs, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn troi at ofal preifat.
Sut a phryd, Gweinidog, y byddwch yn sicrhau bod byrddau iechyd Cymru'n cyfathrebu'n effeithiol â'r cannoedd ar filoedd o'r rhai hynny sy'n aros am gymorth ar restrau aros—y rhai hynny y mae eu hiechyd corfforol a meddyliol, efallai, yn dirywio yn y cyfnod hwnnw hefyd? Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyfathrebu'n effeithiol â'r bobl hyn sy'n aros am wybodaeth? Oherwydd eu bod yn cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros sawl blwyddyn cyn cael triniaeth. Sut caiff y targedau hyn eu monitro? A fydd adroddiad blynyddol? Rwy'n gwybod, Gweinidog, y byddwch yn dwyn eich swyddogion i gyfrif am lawer o'r targedau hyn yr ydych wedi'u cyflwyno; sut ydym ni yn y Senedd hon yn mynd i'ch dwyn chi i gyfrif? Sut y gallwn ni wneud hynny? A fyddwch yn cael adroddiad blynyddol? Dywedwch ychydig mwy wrthym am sut y gallwn fonitro cynnydd.
Rwyf i yn croesawu'r defnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â rhai o'r pwysau ar weithlu'r GIG, ond mae wedi bod yn bedair blynedd ers i'r cyn Weinidog iechyd gynnig cynlluniau tebyg, ac ers hynny dim ond newydd weld y cynlluniau amlinellol ar gyfer e-bresgripsiynau ydym ni, a allai fod wedi codi llawer o'r baich biwrocrataidd oddi ar feddygon a fferyllwyr. Mae technoleg yn ddefnyddiol, wrth gwrs ei bod, ond nid yw'n mynd i fynd i'r afael â sut y bydd gweithlu'r GIG sydd eisoes dan bwysau a dan straen, yn ymdopi, ac ni fydd ychwaith yn darparu gweledigaeth gyflawn ar gyfer GIG mwy hyblyg ac ymgysylltiol. Sut bydd eich cynllun yn canolbwyntio ar gadw? Pa dargedau ydych chi'n eu rhoi ar waith ar gyfer recriwtio? Sut ydych chi'n meddwl y bydd apwyntiadau rhithwir yn helpu rhywun sydd angen llawdriniaeth ar glun sydd wedi bod yn aros am sawl blwyddyn mewn poen, neu rywun sydd wedi bod yn colli ei olwg? Sut bydd eich gwasanaethau ar-lein yn helpu'r rhai nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd? Sut byddwch chi'n sicrhau bod apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda meddygon yn ddewis?
A bod yn deg, Gweinidog, mae rhai uchelgeisiau cadarnhaol, uchel iawn yn eich cynllun. Nid wyf yn amau hynny am eiliad. Mae rhai targedau heriol wedi'u gosod yn eich cynllun, mewn rhai agweddau. Ond, ar y darlleniad cyntaf, i mi, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwn yn fwy nag ateb dros dro yn unig. Nid yw'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau hirdymor yr ydym wedi eu hwynebu o fewn GIG Cymru. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod eisiau i ni ailgodi'n gryfach, onid ydym, yng Nghymru, ar ôl y pandemig. Nid ydym yn dymuno dychwelyd i'r man lle'r oeddem ni cyn i'r pandemig ddechrau, rydym eisiau bod mewn gwell sefyllfa. Felly, sut bydd eich cynllun yn gwneud hynny? Rhowch rywfaint o sicrwydd i ni nad ateb dros dro i broblemau cyfredol yn unig ydyw.
Ydy, mae COVID, wrth gwrs, wedi effeithio ar ein gwasanaethau. Rwy'n gwybod eich bod wedi dechrau eich datganiad heddiw, Gweinidog, drwy ddweud eich bod wedi cyhoeddi eich cynllun i helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Mae hynny'n ffeithiol gywir. Ond, yr hyn sy'n bwysig ei ddweud hefyd yw yr oeddem ni mewn sefyllfa anodd iawn cyn i'r pandemig ddechrau. Roedd nifer y bobl ar y rhestrau aros wedi dyblu hyd yn oed cyn i'r pandemig daro Cymru. Roedd gennym ni ddwywaith yn fwy o bobl yn aros am fwy na blwyddyn o'i gymharu â Lloegr gyfan ym mis Mawrth 2020. Mae hynny'n ystadegyn eithaf syfrdanol o ystyried maint Cymru o'i chymharu â phoblogaeth Lloegr.
Mae angen i'r Aelod ddod i ben nawr, oherwydd bod gennym ni gryn dipyn o siaradwyr.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe af i drwyddyn nhw'n gyflym felly.
A gaf i ofyn, Gweinidog, am ganolfannau rhanbarthol sy'n rhydd o COVID? Rwyf wedi sôn am hyn droeon—fe wn i fy mod wedi sôn am hyn droeon, a gwnaeth fy rhagflaenydd yn y swydd hon yr un peth hefyd. Dywedwch wrthym pryd maen nhw'n mynd i ddigwydd. Dywedwch pryd fyddan nhw yn eu lle, oherwydd hoffwn wybod yr ateb i hynny heddiw, Gweinidog.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros, ac mae chwarter ohonyn nhw yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth. Mae gennym amseroedd aros cyfartalog sydd 10 gwaith yn uwch na'r rhai yn Lloegr. Mae gennym yr amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys a welsom erioed yng Nghymru, a'r ffigurau gwaethaf ond un o ran amseroedd ymateb ambiwlansys erioed wedi'u cyhoeddi. Mae'r rhain i gyd yn recordiau arwyddocaol sy'n cael eu torri i'r cyfeiriad anghywir. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pryd y bydd y Llywodraeth Lafur yn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn ac yn rhoi'r gorau i dorri'r holl dargedau anghywir a sicrhau bod eich cynllun yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd?
Diolch, Russell, am eich cyfraniad. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei bod yn bwysig cael targedau. Rydych yn llygad eich lle bod ein targedau'n glir na ddylai neb aros mwy na blwyddyn erbyn 2025, ond mae targed interim, a hynny yw y dylem weld diwedd ar y nifer sy'n aros am fwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Felly, mae hynny'n ffordd y gallwch ein dwyn i gyfrif yr adeg hon y flwyddyn nesaf, a gofynnaf i chi fy nwyn i gyfrif yn yr ystyr y byddaf yn dwyn fy swyddogion i gyfrif, a byddwn yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif. Rwy'n credu ei fod yn gwbl glir. Rydym wedi adeiladu'r targedau hyn ochr yn ochr â'r byrddau iechyd. Maen nhw'n dweud wrthym ni y gallan nhw gyrraedd y targedau hyn. Mae'n bwysig iawn nawr ein bod ni'n cynnal y pwysau arnyn nhw o ran hyn.
Gofynnoch chi am strategaeth gyfathrebu. Byddwch yn gwybod bod strategaeth gyfathrebu weithgar iawn wedi bod eisoes, yn enwedig gyda'r rhai sy'n aros hiraf. Mae eich pwyllgor wedi ysgrifennu adroddiad diddorol iawn, a byddwch yn gwybod o hynny fod y rhaglen Byw'n Dda yn rhoi cyngor i bobl ar sut y gallan nhw fyw'n dda tra byddan nhw'n aros am eu llawdriniaethau. Yn amlwg, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld a fydd byrddau iechyd eraill yn cymryd sylw o hynny a phryd. Byddaf yn gofyn am sesiynau briffio misol gan fy nhîm, ond rwy'n siŵr y byddan nhw'n monitro mewn amser real yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Os oes cyfleusterau nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio—yn enwedig rhwng 9 a.m. a 5 p.m. llawn amser, drwy'r amser—byddaf eisiau gwybod pam, ac rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod pam hefyd. Mae targed hefyd y gallwch fy nal i at fy addewid ar ddiwedd y flwyddyn hon, mewn gwirionedd, sef ein bod yn dweud y dylai pobl gael eu hapwyntiad cyntaf erbyn diwedd eleni. Rydym yn gwybod bod llawer—tua 50 y cant, os nad mwy—yn aros am yr apwyntiad cychwynnol cyntaf hwnnw. Felly, gobeithio y bydd hynny'n ein helpu.
O ran e-ragnodi, fe wyddoch chi fy rhwystredigaeth ynghylch hyn, Russell. Byddwch chi'n gwybod fy mod i wedi rhoi arian ar y bwrdd, ond gallaf eich sicrhau fy mod ar drywydd hwn. Cefais gyfarfod ddoe i fynd drwy'r ffordd y gallwn gyflymu'r broses, oherwydd, fel y gwyddoch, nid wyf yn fodlon aros am dair blynedd i hynny ddigwydd, ac rwy'n credu y gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr o bosibl o ran amser pobl.
Rydych yn llygad eich lle wrth ganolbwyntio nid yn unig ar recriwtio, gan fy mod i'n credu bod gennym biblinellau recriwtio parhaus. Mae gennym tua 78 y cant yn fwy o nyrsys dan hyfforddiant nag a oedd gennym o'r blaen. Mae gennym tua 97 y cant yn fwy o fydwragedd dan hyfforddiant nag a oedd gennym o'r blaen. Y broblem wirioneddol i mi yw cadw—sut ydym yn cadw pobl yn y system. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gymell, mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd iddyn nhw wneud mwy o arian, efallai, drwy weithio oriau hwy. Felly, mae'r holl bethau hynny'n gyfleoedd iddyn nhw.
Rydych yn llygad eich lle wrth ofyn pa gymorth y gall ymgynghoriad rhithwir ei roi. Yr hyn y gall ei wneud yw'r gwaith paratoi. Yn amlwg, nid yw'n mynd i helpu ar gyfer y llawdriniaeth ei hun, ond mae llawer o waith cyn llawdriniaeth y gellir ei wneud yn rhithwir, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod hynny'n cael ei wneud. Ond hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael pobl i ddeall nad llawdriniaeth yw'r unig ddewis bob tro na'r dewis gorau bob tro. Rwy'n edrych ar eich cyd-Aelod y tu ôl i chi sy'n arbenigwr yn y maes hwn, felly rwyf bob amser yn ymwybodol iawn o'r ffordd rwy'n siarad pan fydd gen i arbenigwr o'r fath yn y Siambr. Roeddwn i'n siarad â rhywun yr wythnos hon a gafodd wybod i ddechrau y gallai fod angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd, a nawr, mewn gwirionedd, mae rhywfaint o ffisiotherapi dwys wedi cywiro'r broblem. Rwy'n credu bod angen i ni gael pobl i ddeall bod dewisiadau eraill heblaw llawdriniaeth.
Wrth i chi sôn am ailgodi'n gryfach, roeddwn i'n aros am eich canolfannau llawfeddygol, roeddwn i'n aros am eich cwestiwn ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID, a gallaf ddweud wrthych fod rhai o'r rhain eisoes ar waith. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae gennym theatr cataract lle byddwn, rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn gweld 600 o bobl y mis. Mae honno eisoes ar waith. Byddwn yn gweld canolfan trawma ac orthopedeg newydd yn cael ei datblygu yn Aneurin Bevan yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd honno'n cael £1 miliwn, a bydd yn gweld tua 3.650 o bobl yn rheolaidd. Bydd uned lawfeddygol orthopedig ac asgwrn cefn newydd yn Abertawe a Hywel Dda. Bydd honno'n ardal werdd a fydd ar wahân, felly ni fydd gofal brys sy'n dod i mewn drwy'r drws yn torri ar ei thraws. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae llawfeddygon wedi bod yn gofyn amdano. Rydym yn mynd i geisio sicrhau ein bod yn gwahanu'r llwybrau hyn gymaint â phosibl. Mae'n eithaf anodd pan fydd yr holl welyau'n llawn. Mae'n bwysig i ni geisio cynnal y llif hwnnw drwy'r system, ond hefyd fod gennym welyau wrth gefn, os gallwn, er mwyn i lawdriniaeth allu parhau.
Yna, o ran rhestrau aros, yn amlwg, mae'r pandemig wedi difetha ein holl gynlluniau. Roeddem mewn gwirionedd yn gwella wrth i ni fynd i mewn i'r pandemig. Yn 2019 dim ond 9,000 o bobl oedd yn aros am 36 wythnos. A byddwn yn gofyn i chi, Russell, roi'r gorau i gymharu afalau a gellyg. Mae'r ffordd yr ydym yn cyfrif yng Nghymru yn wahanol iawn i'r ffordd y maen nhw'n cyfrif yn Lloegr. Yn gyntaf, nid yw'n ymwneud â nifer y bobl yn unig. Felly, pan welwn ni 700,000 o bobl—
Yn wahanol yn fwriadol.
Mae'n wahanol iawn.
Yn fwriadol felly.
Nid yw'n fwriadol. Rydym eisiau—[Torri ar draws.]
Nid oes angen i chi ateb rhywun sy'n eistedd.
Mae angen i ni fod yn dryloyw gyda'r cyhoedd. Rydym ni'n credu, er enghraifft, ei bod yn bwysig cynnwys pethau fel diagnosteg a therapïau yn ein hamseroedd rhestrau aros oherwydd, mewn gwirionedd, mae miloedd o bobl yn aros amdanyn nhw. Nid ydyn nhw wedi'u cynnwys yn ffigurau Lloegr, felly gofynnaf i chi roi'r gorau i gymharu afalau a gellyg.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Y peth cyntaf y dywedaf i yw dwi ddim yn meddwl bod posib imi ofyn pob cwestiwn dwi eisiau ei ofyn heddiw yma, ac a bod yn deg, does dim modd i'r Gweinidog roi bob ateb heddiw yma. Ond heddiw ydy dechrau proses ar ddal y Llywodraeth i gyfri ar y dasg fwyaf pwysig, am wn i, sydd gan y Llywodraeth o'i blaen ar hyn o bryd.
Hefyd, peth pwysig iawn i'w ddweud ar y dechrau fel hyn, wrth ymateb i gyhoeddiad y cynllun hirddisgwyliedig yma ydy mai'r problemau dŷn ni'n siarad amdanyn nhw rŵan yw'r un problemau yn union â'r rhai a oedd yn bodoli cyn y pandemig. Ydyn, maen nhw'n waeth, ac mae'r ffigurau cymaint â hynny'n waeth—y rhestrau aros yn hirach a'r amseroedd aros yn fwy—ond yr un problemau ydy'r rhain. Fel y dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon mewn datganiad heddiw:
mae'r pandemig wedi gwaethygu'r broblem yr oeddem eisoes yn ei hwynebu.
Dyna ydy gwirionedd y sefyllfa, ac mae hynny'n dweud cymaint, onid ydy hi, am fethiant Gweinidogion, un ar ôl y llall, i roi y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar y seiliau cynaliadwy dŷn ni eu hangen. Beth mae'r pandemig wedi'i wneud ydy dangos pa mor anghynaladwy oedd pethau cynt. Os mai bwriad y Gweinidog ydy mynd â ni nôl i sut oedd pethau cyn i'r pandemig daro, wel, dyn â'n helpo ni.
Mi af i drwy rai o wahanol elfennau'r datganiad heddiw yma. Dwi'n falch bod hwn gennym ni o'r diwedd, y cynllun yma. Dwi'n cytuno efo llawer o'r naratif dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog—yr angen i roi'r driniaeth gywir yn y lle cyntaf; yr angen i gynnig gofal mor agos at gartref â phosib—ond mae yna lawer o gwestiynau yn codi ynglŷn â sut yn union mae rhai o'r addewidion yn mynd i gael eu cyflawni.
Os ydyn ni'n sôn am roi blaenoriaeth i gynyddu capasiti o fewn y gwasanaeth iechyd, mae o'n bryder mawr i mi nad sôn am gynyddu capasiti o fewn gwasanaethau iechyd a gofal dŷn ni yn fan hyn, achos mae'n rhaid meddwl am y ddau fel un. Mi ddywedodd un prif weithredwr bwrdd iechyd wrthyf i yn ystod y pandemig, pan oedd y Gweinidog yn rhoi tipyn o arian ar gael i'r gwasanaeth iechyd, 'Mi fyddai'n well gen i pe bai'r arian yma yn mynd i wasanaethau gofal, oherwydd yn y fan honno y mae'r broblem.' Hynny ydy, mae'n rhaid meddwl am y gwaith o godi nôl ar ein traed ar ôl y pandemig yma fel her i'r gwasanaethau iechyd a gofal.
Blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth, a chyflwyno rhai targedau newydd—dwi'n croesawu'r ffaith bod yna dargedau. Dwi'n hynod o siomedig efo lefel yr uchelgais o ran targedau canser. A bod yn deg, mae'r lefel o uchelgais yn adlewyrchu'r sefyllfa dŷn ni ynddi hi, ond dŷn ni erioed wedi cyrraedd y targed o 75 y cant i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod hyd yma. Y cwbl sy'n digwydd ydy cynyddu hynny o 75 i 80, a dwi'n methu â deall sut mae'r Gweinidog yn credu y gall hi gyrraedd y targed hwnnw, hyd yn oed, heb gael cynllun canser, fel mae pawb heblaw Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, yn galw amdano fo.
O ran y targedau ehangach—
Rwyf wedi cael rhai sylwadau heddiw gan Cymru Versus Arthritis, yn poeni am y targedau sy'n ymwneud â thorri amseroedd aros ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau, yn hytrach na phob un. O ystyried pa mor hir yw amseroedd aros orthopedig, dyma dipyn o esgus i beidio â gwneud rhywbeth gan Lywodraeth Cymru: 'Byddwn yn rhoi trefn ar amseroedd aros ac eithrio'r bobl hynny sy'n aros hwyaf'. Byddwn yn gwerthfawrogi ymrwymiad i gyhoeddi targedau ar gyfer pob arbenigedd, ond gan gydnabod bod yr her yn fwy i rai arbenigeddau, ond, unwaith eto, mae'n ymwneud â gwybod i ble y mae angen i ni fynd.
Technoleg, yn fyr iawn—roeddwn i am bwyso arnoch chi i sôn dipyn am dechnoleg a defnyddio technoleg. Dwi'n falch o'r ymrwymiadau i ddatblygu'r portal i gleifion gael gwybod lle maen nhw arni o fewn y system. Mae ambell i gwestiwn yn codi yn sgil hynny. Pa bryd fydd y portal yma yn barod? A fyddwch chi'n defnyddio staff rheng flaen i helpu datblygu'r cynllun hwnnw? A hefyd, fydd e'n caniatáu cyfathrebu rhwng gofal sylfaenol a gofal eilradd, achos mae'n rhaid inni gael y cyfathrebu di-ffin yma rhwng gwahanol rannau'r gwasanaeth iechyd?
Dwi'n ymwybodol bod fy amser i yn rhedeg allan; mi adawn ni o yn fanna, oherwydd, fel dwi'n dweud, dechrau'r broses ydy hyn o ddal y Llywodraeth i gyfri. A dwi wedi eu dyfynnu unwaith, ac mi wnaf i unwaith eto—Coleg Brenhinol y Meddygon: mae yna syniadau da yma, medden nhw, ond beth sydd ddim yn glir ydy sut mae gwireddu y syniadau yma, yn cynnwys ar beth mor sylfaenol â chynllunio gweithlu. Dŷn ni'n clywed am yr angen i gynllunio gweithlu; wel, dŷn ni'n gwybod bod yna angen i gynllunio gweithlu, ond beth dŷn ni eisiau ei wybod ydy sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd i gael ei wneud. Mae yna her enfawr o flaen y Llywodraeth.
Diolch yn fawr, Rhun. Yn sicr, mae pethau wedi newid ers i'r pandemig fwrw. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd yn defnyddio technoleg mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd roedden ni cyn y pandemig yn golygu bod yna bosibiliadau nawr nad oedd yna cyn y pandemig. Ac felly rŷn ni eisiau manteisio ar y rheini er mwyn newid y system ymlaen. Ond rŷch chi'n eithaf reit, beth sydd angen arnon ni yw datblygu gwasanaethau sy'n gynaliadwy am y tymor hir a dyna pam taw beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud fan hyn yw cynyddu capasiti. Ac rŷch chi'n sôn am drawsnewid; dyna beth rŷn ni'n trial gwneud yw trawsnewid, ond mae eisiau i'r cyhoedd ddod gyda ni ar hwn hefyd, i ddeall bod rhaid inni wneud pethau'n wahanol a bod y ffordd rŷn ni wedi gwneud popeth yn y gorffennol—pobl yn jest cymryd yn ganiataol mai yn yr ysbyty fyddan nhw'n cael gofal—mae hwnna'n mynd i newid. Rŷn ni eisiau i'r gofal fod yn agos at bobl, rŷn ni eisiau i'r diagnostics ddigwydd yn ein cymunedau ni, a dim ond mynd i'r ysbyty os oes wirioneddol angen gwneud hynny. Felly, mae blaenoriaeth gyda ni o ran diagnosis a thriniaeth, ac mae hwnna yn bwysig, achos mae yna lot o bobl yn aros am eu diagnosis cyntaf. Mae eisiau inni wybod pwy sy'n aros, er mwyn gwybod os yw hwnna'n mynd i fod yn broblem ddifrifol neu beidio, ac felly dyna pam rŷn ni'n canolbwyntio ar hynny yn ystod y misoedd cyntaf.
Mae, fel y gwyddoch chi, arian mawr eisoes wedi mynd mewn i'r gwasanaeth gofal. Bydd angen mwy, yn sicr, ond fel rŷch chi'n ymwybodol, rŷn ni am y tro cyntaf yn talu'r real living wage i'r bobl sy’n gweithio yn y sector yma. A dyna yw'r her fwyaf, dwi'n meddwl, o ran gofal—talu cyflog sy'n deg i bobl, achos yn y ffordd yna y byddwn ni'n denu mwy o bobl i mewn i'r system. Ond rŷn ni yn gweithio gyda Plaid Cymru i ddod lan â rhaglen ar sut y byddwn ni'n mynd ati i edrych ar ofal yn y tymor hir.
Beth rŷn ni wedi ceisio ei wneud fan hyn yw rhoi mesurau a thargedau mewn lle sy'n realistig, ond sydd hefyd yn rhoi gobaith i bobl, ac mae hynny'n hollbwysig. Ar hyn o bryd, dyw pobl ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, ond gyda'r targedau yma, dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cael gwell syniad. Ac mae e'n rili bwysig, a dwi eisiau ei gwneud hi'n glir, yn enwedig gyda orthopaedics, er enghraifft—mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol, rŷn ni'n dal mewn sefyllfa sydd yn eithaf argyfyngus. Does dim ond angen ichi fynd i A&E ar nos Wener, fel y gwnes i ddydd Gwener diwethaf, jest i weld y pwysau arnyn nhw, ac mi allwch chi weld pam fod pobl yn canslo operations, achos bod yna gymaint o bwysau wrth y drws cefn. Felly, mae cael gwelyau yn hollbwysig os ydych chi'n mynd i barhau.
Dyna pam, o ran orthopaedics, er enghraifft, beth fyddwn ni'n ei wneud yw newid y ffordd rŷn ni'n gwneud hyn, i sicrhau bod yna wasanaethau yn cael eu darparu, lle byddwn ni'n gweld lot o cataracts yn cael eu gwneud mewn ffyrdd cyflym; yr un peth gydag orthopaedics, fel rŷn ni'n bwriadu datblygu, er enghraifft, yn Abertawe. Ond mae'n bwysig hefyd fod pobl yn deall mai'r median wait ar hyn o bryd yw 42 o wythnosau. Felly, er bod rhai pobl yn aros yn hir, y median wait yw 42 o wythnosau. Felly, mae hi'n bwysig bod pobl yn deall hynny.
Mae technoleg a'r ffordd mae'r systemau'n siarad gyda'i gilydd—unwaith eto, rŷn ni wedi bod yn trafod hwn yr wythnos yma. Unwaith eto, mae'n anodd troi hwnna ymlaen dros nos, ond mae yna gynlluniau mewn lle a dwi wedi trio rhoi pwysau ymlaen i weld os gallwn ni symud yn gyflymach yn y system yna.
Ac o ran cynllunio'r gweithlu, byddwch chi'n ymwybodol bod rhaglen gyda ni, ond beth sy'n bwysig yw bod yna action plan i'r rhaglen yna. Dyna pam rŷn ni'n gweithio gyda HEIW. A rhan o beth rŷn ni'n mynd i'w roi mewn lle fan hyn yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n hollol glir ynglŷn â beth yw'r gweithlu sydd angen ei roi mewn lle. Ac felly dwi'n siŵr byddai gan y pwyllgor ddiddordeb gweld beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes yna.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod eisoes wedi mynd y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd. Gofynnaf i'r holl Aelodau sy'n weddill—byddaf yn eich galw—i gadw'ch cyfraniadau'n gryno ac o fewn yr amser a neilltuir, ac i'r Gweinidog hefyd fod yn gryno yn ei hatebion, os gwelwch yn dda. Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n eich llongyfarch am beidio â cheisio trwsio system sydd wedi torri, ond yn hytrach i gael newid system gyfan. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r gwaith yr ydych yn ei amlinellu yn eich cynllun.
Cataractau, cluniau a phengliniau yw'r materion mwyaf yr wyf i'n ei chael yn anodd iawn cynghori etholwyr arnyn nhw, gan eu bod nhw'n amlwg yn bethau y mae angen i arbenigwyr eu gwneud. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yn y gogledd wedi arloesi llawdriniaeth ben-glin gofal dydd. Pa mor dda y mae'r gwaith arloesol hwnnw'n ymledu i sicrhau bod pobl eraill hefyd yn gwneud y math hwnnw o lawdriniaeth ben-glin, sy'n cynnwys, yn amlwg, dîm amlddisgyblaethol o nyrsys ac eraill, i sicrhau bod pobl, gan gynnwys teulu'r claf, yn gwybod sut i wneud yr ymarferion i alluogi hynny i gyd ddigwydd?
Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am bethau ein hunain. Clywais Peter Fox yn gynharach yn difrïo'r ffaith mai dim ond yr hylenydd yr oedd plant ei etholwr wedi cael ei weld, pan mai'r hylenydd, oni bai fod gan y plentyn anghenion arbennig, yw'r person gorau i roi archwiliad i blentyn a rhoi archwiliad arferol iddyn nhw.
Yn yr un modd, mae'n sicr bod yr optometrydd sy'n darparu gwasanaeth manylach yn mynd i'n helpu i sicrhau y bydd y rhai hynny sydd â'r angen mwyaf brys i weld yr offthalmolegydd yn cael eu gweld. Ond mae'n rhaid i'r offthalmolegydd edrych ar y lluniau y mae'r optometrydd wedi eu hanfon ato. Rwy'n gwybod bod hyn yn digwydd ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, a dyna pam mae ganddyn nhw lefel mor isel o amseroedd aros. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y math hwnnw o arfer da yn cael ei ymgorffori ar draws y system fel bod pobl, y rhai y mae angen triniaeth cataract gwirioneddol frys arnyn nhw, yn mynd i frig y rhestr?
Diolch yn fawr iawn, Jenny. Ac, yn sicr, mae cataractau yn faes yr ydym yn canolbwyntio'n fanwl arno, oherwydd, fel y dywedwch, mae miloedd o bobl yn aros, yn llythrennol. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn ymdrin â nhw mewn system o flaenoriaeth, felly mae'r rhai sy'n fwy tebygol o golli eu golwg yn mynd i flaen y ciw. Cefais brawf llygaid y bore yma ac roedd fy optegydd wrth ei fodd o glywed ein bod yn mynd i fod yn newid y gyfraith i sicrhau eu bod yn gallu gwneud llawer mwy na phrofion llygaid yn unig. Ac rydym yn gobeithio, drwy newid y gyfraith, y byddwn yn gallu lleihau'r rhestrau aros i ddwy ran o dair o'r hyn yr oedden nhw. Felly, mae arbenigwyr nad ydym yn eu defnyddio i'w llawn gapasiti ar hyn o bryd, a dyna yr ydym yn bwriadu ei wneud.
Ac rydych yn llygad eich lle i hysbysu, mae arnaf ofn, Mr Fox ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i fod yn gwneud pethau'n wahanol. Efallai na fyddwch yn gweld deintydd yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn gweld rhywun gwahanol sydd yr un mor abl i ddarganfod a oes angen triniaeth fwy arbenigol arnoch ai peidio. Mae hyn yn ymwneud â newid gwahanol iawn, dull gwahanol, ac rwy'n falch o weld eich bod wedi cydnabod hynny. Felly, byddwn yn gwneud pethau'n wahanol.
O ran gofal dydd, rydych yn llygad eich lle. Treuliais ddiwrnod diddorol iawn yn Ysbyty Glan Clwyd yr wythnos diwethaf gyda'r pennaeth clinigol yno—diddorol iawn o ran yr hyn y maen nhw yn ei wneud, gofal dydd. [Torri ar draws.] A hefyd y math o—. Beth sy'n bwysig i mi, os nad oes ots gennych roi'r gorau i'r grwgnach ar yr ochr yna—. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod ni—[Torri ar draws.] A wnewch chi roi'r gorau iddi, Darren, os gwelwch yn dda?
Gweinidog—. Darren, mae yn deg. Mae ein hamser eisoes ar ben. Rwyf eisiau clywed yr atebion ac rwyf eisiau i siaradwyr eraill gael gofyn eu cwestiynau.
Rwy'n fwy na pharod i'ch ateb chi, Darren. Ond gadewch i ni ei wneud mewn ffordd ffurfiol.
I mi, y peth pwysig yw ein bod yn edrych ar effeithlonrwydd ond hefyd ar y costau. Felly, gall Cwm Taf osod clun newydd yn rhad iawn o'i gymharu â rhai o'r ardaloedd eraill, felly mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrthyn nhw ac mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â gofal dydd. Felly, yn sicr, byddai hynny'n osgoi'r broblem o ran gwelyau, sy'n cyfyngu ar y system. Felly, mae llawer i'w ddysgu a dyna beth fyddwn ni'n ysgogi'r system i'w wneud yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae gen i dri chwestiwn a byddaf yn gyflym iawn. Gweinidog, rydych chi'n sôn am recriwtio. Mae'n eithriadol o anodd recriwtio deintyddion a nyrsys, yn enwedig mewn lleoedd fel Aberhonddu a Sir Faesyfed, felly a ydych yn credu bod prentisiaethau gradd y GIG yn rhywbeth y byddech yn ei gyflwyno i geisio cael mwy o bobl i mewn i'r GIG? Hoffwn gael sylw ar hynny, os gwelwch yn dda. Mae'r arian ychwanegol sy'n mynd i gymorth iechyd meddwl i'w groesawu, ond hoffwn wybod i ba feysydd penodol y mae'r arian hwnnw'n mynd i sicrhau nad yw'n cael ei lyncu mewn biwrocratiaeth ond yn mynd i'r rheng flaen i gefnogi pobl sy'n dioddef. Ac yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am ddatblygu canolfan lawfeddygol orthopedig yn Abertawe, a hoffwn wybod pa mor gyflym y mae honno'n cael ei datblygu a lle yr ydym ni, heddiw o ran sefydlu honno. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Dyna'r ffordd i ofyn cwestiynau, James. Diolch yn fawr. [Chwerthin.] Fe gawn ni weld os gallaf ateb mewn ffordd sydd yr un mor effeithlon. Yn gyntaf, o ran deintyddion, edrychwch, rydym eisoes ar drywydd hyn o ran prentisiaethau. Felly, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym yn gofyn iddyn nhw edrych yn wirioneddol ar beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw, lle rydym yn defnyddio technegwyr yn hytrach na deintyddion. O ran iechyd meddwl, gwn fod fy nghyd-Aelod Lynne yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi'r pwyslais ar atal, gan atal y broblem rhag datblygu yn y lle cyntaf. Dyna pam yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion, gan sicrhau bod ymyrraeth gynnar a sicrhau bod gennym fwy o bethau fel rhagnodi cymdeithasol i'n helpu ni. Ac o ran canolfannau orthopedig, rwy'n gwybod bod Abertawe wrthi'n ymdrin â hyn o ran datblygu eu canolfan orthopedig a byddan nhw'n gwneud hynny o ganlyniad i'r £250 miliwn y gwnaethom ei fuddsoddi y llynedd, ac rwy'n gwybod eu bod yn awyddus iawn i ddatblygu honno, rwy'n credu yn ardal Castell-nedd, oherwydd ei bod i ffwrdd o'r adran damweiniau ac achosion brys.
Gweinidog, rwy'n credu iddo ofyn am nyrsys gradd mewn gwirionedd, yn hytrach na phrentisiaethau gradd mewn deintyddiaeth.
Does dim ots. [Chwerthin.] Gadewch i ni symud ymlaen—[Anghlywadwy.]
Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel y gwnaethom ni drafod yn y Siambr hon yn ystod mis endometriosis, mae'r clefyd yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Mae un o fy etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod wedi cael gwybod gan ei meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddoe nad yw'r GIG yn gwneud unrhyw lawdriniaethau o gwbl i fenywod ag endometriosis—felly, dim laparosgopïau diagnostig, dim trychiadau, dim abladiad thermol. Roedd hi i fod i gael llawdriniaeth wythnos cyn y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020 a chwe mis yn ôl cafodd alwad gan yr ysgrifennydd meddygol yn gofyn a fyddai hi'n barod i fynd i Spire am driniaeth y byddai'r GIG yn talu amdani, a dywedodd, 'wrth gwrs.' Ond ddoe dywedwyd wrthi am roi'r gorau i obeithio cael llawdriniaeth—dim amserlenni o gwbl. Mae'n rhaid iddi gael pigiad bob mis i ysgogi'r menopos yn gemegol a bydd yn cael ei rhoi ar therapi adfer hormonau, rhywbeth y mae'n pryderu'n fawr amdano oherwydd yr holl adroddiadau yn y wasg am brinder HRT ar hyn o bryd, a hefyd am ei bod wedi cael y driniaeth hon 15 mlynedd yn ôl a oedd wedi ei gwneud yn sâl iawn. Dywedodd wrthyf, 'Rwy'n teimlo'n gwbl anweledig.' Sut mae sicrhau nad yw hi ac eraill fel hi yn teimlo'n anweledig?
Diolch yn fawr. A gaf i ddweud wrthych fod endometriosis yn faes yr wyf i wedi ceisio canolbwyntio arno mewn gwirionedd, gan fy mod i'n credu ei fod yn faes sydd wedi'i esgeuluso am lawer gormod o amser? A dyna un o'r rhesymau pam, erbyn diwedd y tymor hwn, y byddaf yn llunio cynllun iechyd menywod, gan fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar iechyd menywod. Mae cymaint o feysydd y mae angen i ni eu deall. Beth yw diabetes mewn menywod? Sut mae hynny'n effeithio ar fenywod? Asthma mewn menywod, awtistiaeth mewn menywod, pob un o'r gwahanol feysydd hyn—mae angen i ni osod lens menywod ar bob un o'r cyflyrau gwahanol hyn. Ond mae endometriosis yn faes lle mae gennym ni grŵp gweithredu'r menywod eisoes, sydd wedi'i sefydlu ers nifer o flynyddoedd, ac maen nhw wedi dechrau cyflawni mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch iawn bod gennym ni arbenigwyr eisoes, erbyn hyn, o ran nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd. Wrth gwrs, mae angen mwy o lawfeddygon arnom sy'n gallu ymdrin â hyn, ond mae hyn i gyd yn rhan o gynllun. Ni allwn ei droi ymlaen dros nos, ond mae'r nyrsys hynny yn eu lle. Rwyf wedi bod i'w clywed ac wedi bod i gyflwyniadau gyda nhw, yn esbonio ac yn disgrifio sut i ddweud wrth gleifion sut i reoli poen. Rwy'n falch iawn ein bod ni eisoes wedi penodi dau arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer rheoli poen, un yn Aneurin Bevan ac un ym Mhowys, a gobeithio y bydd y bobl hynny sy'n byw ag endometriosis yn gallu defnyddio eu gwasanaethau nhw hefyd. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud ar endometriosis, ond rwy'n falch iawn o'r cynnydd yr ydym eisoes yn ei wneud.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac fe wnaf gadw fy nghwestiwn yn fyr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, rydw i'n croesawu'r cynllun, oherwydd mae'n rhoi gobaith, yn enwedig gyda'r targedau, ond mae'n rhaid i'r rheini bellach fod nid yn unig yn gyraeddadwy ond maen rhaid iddyn nhw gael eu cyflawni hefyd. Oherwydd mae llawer ohonom ni sy'n credu'n gryf, hyd ddydd ein marwolaeth, yn y GIG yn gwybod bod yn rhaid i ni roi hyder yn ôl nad yw'r system wedi torri. Mae wedi crymu, ond gallwn ni drwsio hyn a gallwn ni ei gael yn ôl ar ei draed. A fy nau gwestiwn sy'n ymwneud â hyn yw'r rhain: yn gyntaf oll—ac mae'n myfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf—rydym ni'n rhoi'r arian rydym ni'n gallu i'r GIG sy'n dod o symiau canlyniadol Barnett. Mae dadansoddiad trylwyr sydd wedi'i wneud wedi dangos, dros y 10 mlynedd cyfartalog yn arwain at ddechrau'r pandemig, fod y cynnydd tua 1.4 y cant y flwyddyn o'i gymharu â 3.7 y cant. Roedd £37 biliwn yn brin, Dirprwy Lywydd. Felly, ydy'r cwantwm sydd gennym ni yn awr wrth symud ymlaen? Ac yn ail, sut mae'r staff yn barod i gyflawni hyn? Ar ôl dod allan o bandemig, yn yr holl amodau creulon mae staff wedi eu profi, nawr i wneud hyn—. A ellir ei wneud? Pa gymorth fyddwn ni'n ei roi i'r staff i'w wneud, ac a oes digon o arian yn y system yn awr i'w wneud hefyd? Ond rwy'n croesawu'r ffaith nad oes dim wedi'i ddiystyru o hyn. Rydych chi wedi taflu popeth dan haul ato.
Wel, rydym ni'n sicr yn ceisio taflu popeth dan haul ato, a gallaf i ddweud wrthych chi nad wyf i'n credu bod y system wedi torri. Dydw i ddim yn meddwl fod system sy'n gweld 200,000 o bobl y mis yn system sydd wedi torri. Ac rwy'n credu y dylem ni werthfawrogi'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud yn wythnosol gan yr arwyr sydd yn ein system, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n bychanu'r system yn ormodol. Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl yn aros, ond gadewch i ni hefyd ganmol y system am y pethau anhygoel maen nhw wedi gallu eu cyflawni.
O ran y gyllideb, yr hyn rwy'n gallu ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario tua £10 biliwn y flwyddyn ar y GIG, sy'n fwy na hanner cyllideb Cymru. Felly, mae'n llawer o arian, a'r hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, os edrychwch chi ar y swm rydym ni'n ei wario ar iechyd a gofal, yna rydym ni'n gwario mwy na Lloegr. I mi, nid faint yr ydym ni'n ei wario yw'r peth pwysig ond a ydym ni'n ei wario'n dda. Mae'n rhaid i ni ddechrau gwneud yn siŵr nad yw'n ymwneud â thaflu arian ato; mae'n wir yn, 'Ydy e'n gwneud gwahaniaeth?' Mae'n rhaid iddo fod ynghylch effeithlonrwydd. A rhan o'r hyn rydw i'n bwriadu ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi hwb i effeithlonrwydd drwy'r rhaglen hon ac yn gwneud newid enfawr o ran cael y gwerth mwyaf am ein harian.
Diolch i'r Gweinidog.