– Senedd Cymru am 5:27 pm ar 11 Mai 2022.
Yn symud ymlaen i eitem 9, eitem 9 fydd y ddadl fer, a dwi'n galw ar Hefin David i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis i siarad amdano. Hefin David.
Diolch, Lywydd.
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n gadael yn dawel—
Fe arhosaf yn amyneddgar.
—os oes rhaid iddynt adael. Nid oes angen i chi glirio'r gwydrau, Joyce Watson.
Dyna 'iechyd da' gan Joyce Watson yno. Diolch, Lywydd. Fe ddechreuaf os gallwch osod fy amserydd yn awr, os gwelwch yn dda. Rwy'n falch o roi munud o fy amser i Laura Anne Jones ac i Mark Isherwood ar eu cais, felly rwy'n meddwl y bydd hynny'n fy ngadael gydag oddeutu 12 munud, felly rwy'n cymryd bod hynny'n gywir. Ni allaf byth gofio'r amser iawn.
Pan fyddwn yn sefyll etholiad, rydym yn sefyll er mwyn cefnogi'r bobl yn ein cymuned a'r achosion y credwn yn gryf ynddynt, a phan oeddwn i'n sefyll etholiad, awtistiaeth oedd un o'r pethau yr oeddwn yn awyddus i sefyll drosto, ac ni freuddwydiais erioed y byddai'n effeithio'n uniongyrchol arnaf fi a fy nheulu, oherwydd cefais fy ethol yn 2016, ac ni chafodd fy merch ddiagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig tan 2018. Ac fel rhiant, mae'n rhyw lun o sleifio i fyny arnoch chi—yn sicr fel rhiant i blentyn cyntaf, heb linell sylfaen ar gyfer cymharu—fy rhieni mewn gwirionedd a ddywedodd wrthyf, ar wyliau, 'Rwy'n credu y gallai Caitlin fod yn awtistig', oherwydd oedi sylweddol gyda'i lleferydd ac iaith. Ac yn sicr ddigon, dyna oedd y diagnosis a gawsom.
Felly, rwy'n rhyw fath o fyw'r llwybr y mae rhieni yn fy etholaeth yn ei fyw hefyd, ac ymhell o fod yn hunanol yn cyflwyno'r ddadl hon, yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yw ei chodi ar ran y rhieni y gweithiais gyda hwy yn sgil fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd dros etholaeth, ac rwy'n credu bod cael mewnwelediad fy hun wedi bod yn bwysig iawn imi allu eu cynrychioli'n effeithiol am fy mod ar yr un daith. Bu'n rhaid i Caitlin aros am flwyddyn am ddatganiad, ac ni ddylai fod wedi gorfod gwneud hynny. Bu am flwyddyn yn y brif ffrwd pan ddylai fod wedi bod mewn canolfan adnoddau, felly rwyf wedi cael y profiad, y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo am yr oedi sy'n digwydd oherwydd natur amlddisgyblaethol awtistiaeth a gofyn i gynifer o bobl mewn cynifer o rannau o'r sector cyhoeddus gytuno ar yr hyn sydd ei angen.
Felly, ceir heriau enfawr, heriau enfawr, er ein bod yn cael hwyl hefyd. Yn fy nghymuned i, mae gennym lawer o grwpiau gwirfoddol. Mae dau yn arbennig yn dod i'r meddwl: Valleys Daffodils, sy'n cyfarfod yn YMCA Gilfach, yn union o dan fy swyddfa. Maent yn cyfarfod bob bore Sadwrn ac yn gwneud gwaith gwych. Rydym wedi bod yno. A hefyd y grŵp anghenion dysgu ychwanegol, Sparrows, sy'n weithgar ar draws fy etholaeth, ac sy'n cael ei redeg gan Nana Deb. Roedd Nana Deb yn mynd i fynd i Balas Buckingham i weld y Frenhines, ond yn anffodus nid oedd yn ddigon iach i fynd, ac rwy'n tybio mai dyna pam na fydd y Frenhines yn mynychu'r arddwest eleni. Rydym yn mynychu pwll nofio Cefn Fforest bob dydd Sadwrn. Ar y dechrau, arferai Caitlin ddweud wrthyf, 'Ta-ta, nofio. Ta-ta, nofio.' Ac rwy'n falch o ddweud nawr, bob bore Sadwrn, mae'n dweud, 'Helo nofio. Helo nofio', sy'n golygu ei bod hi eisiau mynd. Ni allwn fyw heb y gefnogaeth sy'n bodoli yn yr etholaeth. Mae cwrdd â rhieni sydd â phroblemau tebyg iawn i fy rhai i a chlywed eu straeon yn bwysig iawn, ac mor debyg—er bod effeithiau'r cyflwr i'w gweld mewn ffyrdd gwahanol, mae'r problemau y mae rhieni'n eu hwynebu ar y daith i ddod o hyd i gymorth ar gyfer awtistiaeth mor debyg.
Mae gennym hefyd ysgol arbennig Trinity Fields, ac rwy'n llywodraethwr arni, ond cymaint yw'r galw, rwy'n credu ein bod angen ysgol arbennig arall yn y fwrdeistref. A byddaf yn gwthio hynny gerbron arweinwyr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydym hefyd yn ddigon ffodus i gael hyb Autistic Minds, sy'n sefydliad elusennol, ac maent yn gadael imi gynnal cymorthfeydd yno yn nhref Caerffili. Unwaith bob deufis, byddaf yn cynnal cymhorthfa yno ac rwy'n cwrdd â rhieni ac oedolion ag awtistiaeth ac yn ceisio eu helpu drwy rai o'r adegau anodd hyn a welwch pan fydd naill ai aelod o'r teulu, neu chi eich hun, wedi cael diagnosis o awtistiaeth.
Un peth yr oeddwn am ei grybwyll oedd effaith y cyfyngiadau symud. Rwy'n falch iawn fod Lynne Neagle yma heddiw. Roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr oeddwn yn aelod ohono y tymor diwethaf, ac fe fydd yn cofio ein bod ar ben ein tennyn yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, lle'r oedd y diffiniad cul o 'blant sy'n agored i niwed' yn golygu bod llawer o blant ag awtistiaeth a chyflyrau anghenion dysgu ychwanegol eraill gartref pan ddylent fod mewn hybiau, oherwydd roedd plant a âi i hybiau yn agored i niwed yn yr ystyr y gallent gael eu niweidio gartref, yn hytrach na phlant a oedd yn agored i niwed gyda chyflyrau fel anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Cefais fy nghyflwyno gan Lynne Neagle i'r bartneriaeth Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, a'r cadeirydd, Carol Shillabeer. Ac fel grŵp o rieni o Gaerffili, cawsom gyfarfod â Carol Shillabeer. Yn yr ail a'r trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud, aeth y plant hynny yng Nghaerffili i'r ysgol ac roeddent i'w gweld mewn hybiau ac mewn ysgolion. Diolch, Lynne Neagle, am wneud i hynny ddigwydd, a diolch i Carol Shillabeer yn ogystal am wrando a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y diffiniad hwnnw'n ehangach. Roedd yn wirioneddol bwysig i bobl yng Nghaerffili. A sylwais yn ein grŵp Facebook, roeddent yn dweud, 'Er syndod i mi, cafodd fy mab neu fy merch le y tro hwn.' Ac nid wyf yn credu y gallwch ddod yn agosach at ddemocratiaeth a gwneud i ddemocratiaeth weithio i chi na hynny.
Ond ceir heriau o hyd, ac mae diagnosis a chymorth parhaus yn un ohonynt. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi bod yn ddigon caredig i roi papur i mi sy'n briffio ar rai o'r pethau sydd eu hangen, ac maent yn tynnu sylw at adroddiad y comisiynydd plant ar gyfer 2022, 'Gwneud Cymru'n Genedl Dim Drws Anghywir—i ba raddau rydyn ni'n llwyddo?' Maent yn tynnu sylw at ran ohono:
'Mae’r amserau aros ar gyfer asesiad o gyflwr niwroddatblygiadol (yn achos plant yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau eraill tebyg) yn eithriadol o hir, ac yn y cyfamser gall plant a’u teuluoedd dderbyn ychydig iawn o gefnogaeth, os o gwbl... Pan fydd gan blant o bosib gyflwr niwroddatblygiadol yn ogystal â iechyd meddwl gwael, maen nhw’n aml yn derbyn gwasanaeth darniog iawn, er bod y cyfuniad hwn yn un cyffredin iawn.'
Y rheswm am hynny yw nifer y gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses. Profais hynny, wrth fynd o'r elfen lleferydd ac iaith i'r elfen seicolegydd plant, i'r athrawon, i gynhwysiant yn yr awdurdod lleol. Mae cymaint o wahanol bobl yn rhan o'r broses fel ei bod yn anodd i riant fapio eich ffordd drwy'r broses honno. Dyna pam y mae'r syniad o 'ddim drws anghywir' yn un da. Ac mae'r amrywiaeth o symptomau bob amser yn wahanol. I Caitlin, nid yw'n cael pyliau mawr o chwalfa oherwydd ysgogiadau allanol; os rhywbeth, nid yw'r amgylchedd yn ei hysgogi ddigon. I blant eraill a welaf yn Sparrows, cânt eu gorysgogi, a dyna pam y gallech weld plant yn gwisgo myffiau clustiau neu glustffonau i geisio boddi'r sŵn allanol—er bod Caitlin wedi dechrau eu gwisgo, ond credaf ei fod yn fwy o ddatganiad ffasiwn ar ei rhan, oherwydd ei bod yn gweld pawb arall yn ei wneud. [Chwerthin.]
Hefyd ceir prinder o seiciatryddion plant a phobl ifanc yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, sy'n broblem allweddol o ran cefnogi plant ac oedolion ag awtistiaeth, oherwydd mae hynny'n rhan allweddol o'r hyn sydd ei angen. Gallaf weld Paul Davies yn y Siambr, a chawsom gryn dipyn o drafodaeth pan gyflwynodd ei Fil awtistiaeth. Daethom at bwynt lle'r oeddem yn anghytuno ar hynny mewn gwirionedd. Bûm mor hy â mynd at wraidd nodau'r Bil, ac un ohonynt oedd cyflwyno strategaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion â chyflyrau anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Yn bennaf oll, roedd yn ymwneud â sicrhau llwybr clir at ddiagnosis o awtistiaeth mewn ardaloedd lleol.
Fy mhroblem i, a'r broblem a welais mor aml, yw ei fod yn ymwneud gormod â cheisio diagnosis a thrin y symptomau wedyn, yn hytrach na'r darn cyntaf, sy'n edrych ar yr hyn sydd yno—beth yw'r ymddygiadau sy'n bresennol, beth yw'r ymddygiadau a welwn, sut y gallwn eu cefnogi a'u trin. Mae diagnosis bron—nid yn hollol, ond bron—yn eilradd i hynny. Ni ddylem ruthro i gael diagnosis. Yn wir, yn achos anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), nid yw rhai pobl ag ADHD am gael diagnosis o awtistiaeth, oherwydd nad ydynt yn ystyried eu hunain yn awtistig; mae ganddynt ADHD. Os byddwn yn gorddiagnosio, fe allant geisio diagnosis o awtistiaeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau, ac ni fyddai hynny'n iawn. Felly, gyda'r parch mwyaf—ac nid gwahaniaeth ar sail bleidiol wleidyddol ydyw—nid oeddwn yn cefnogi'r Bil awtistiaeth am y rhesymau hynny. Credaf fod y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn anghywir ynglŷn â hynny, a bod yn onest. Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu mai hen hanes yw hynny erbyn hyn ac rydym wedi symud ymlaen o'r fan honno.
Un peth yr hoffwn ei ddweud am lawer o'r achosion sy'n cyrraedd fy nesg a chan bobl rwy'n eu cyfarfod yn y cymorthfeydd, pobl rwy'n cwrdd â hwy yn Sparrows, yw ysgolion, a phrofiad eu plant o ysgolion. Mae gwahardd yn beth enfawr. Anfonodd Steffan Davies, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yr adroddiad hwn ataf, ac mae'n bosibl fod llawer ohonoch wedi'i gael, sef 'Addysg Disgyblion Awtistig yng Nghymru'. Mae'n werth ei ddarllen oherwydd dyma ganfyddiadau rhagarweiniol ei astudiaeth PhD, ac ynddo mae yna ystadegyn syfrdanol y credaf fod angen inni fod yn ymwybodol ohono, sef bod 76 y cant o blant a phobl ifanc awtistig yn yr arolwg wedi dweud wrthynt eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol. Ac nid yn unig hynny, dywedodd 20 y cant o rieni wrth yr arolwg fod eu plentyn wedi'i wahardd dros dro yn allanol. Ac mae rhieni hanner y bechgyn a brofodd waharddiadau cyfnod penodol yn dweud mai'r rheswm a roddwyd gan yr ysgolion oedd na allent reoli ymddygiad y plentyn, gydag ymddygiad aflonyddgar yn ail reswm mwyaf cyffredin.
Dyma un o'r problemau y mae plant yn eu hwynebu gydag awtistiaeth. Cânt eu gwahardd o'r ysgol am fod eu hymddygiad yn cael sylw, yn hytrach na'u hanghenion. Rhaid mynd i'r afael â'u hangen. Cefais y pleser o weithio gydag arweinydd cynhwysiant Caerffili, Sarah Ellis—cyfarfûm â hi heddiw, y prynhawn yma—a Claire Hudson, y mae ei mab Jack yn y sefyllfa hon. Dywedodd mai'r hyn y mae ysgolion yn tueddu i'w wneud yn rhy aml yw edrych ar ymddygiad aflonyddgar a chymryd camau yn erbyn yr ymddygiad. Yn hytrach, mae yna reswm dros yr ymddygiad bob amser. Beth yw'r rheswm hwnnw? Dyna'r cwestiynau y mae angen eu hateb. Cefnogwch yr angen, nid yr ymddygiad.
Daw hynny â mi at ADHD a Tourette's, dau gyflwr sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth. Mae fy merch yn defnyddio ymddygiad hunanysgogol geiriol. Mae'n swnio fel ticiau geiriol. Weithiau, fe gewch hynny gydag awtistiaeth. Weithiau, nid awtistiaeth ond Tourette's a fydd gennych ac mae gennych ADHD yn gyfan gwbl ar wahân, a dyma lle y gall pobl ddisgyn drwy'r bylchau braidd. Heddiw siaradais â Helen Reeves-Graham, sydd wedi adrodd am ei phlentyn ei hun gyda Tourette's, a dywedodd nad yw'n ymddangos bod llwybrau ar gael ar gyfer plant nad oes ganddynt anhwylderau'r sbectrwm awtistig fel cydafiachedd. Rwy'n credu bod honno'n her wirioneddol i'r sector ei goresgyn, ac mae adroddiad ar wefan y BBC ar hynny. Gan fy mod yn sôn am Tourette's, rwyf hefyd am sôn am Lucy-Marie, sydd wedi ysgrifennu llyfr—mae hi'n 12 oed—i blant â Tourette's yn esbonio rhai o'r heriau y mae'n eu hwynebu er mwyn i blant eu deall. Mae darn ar wefan y BBC hefyd gyda fideo ohoni'n siarad. Mae hi'n un o blant ein grŵp Sparrows. Rydym yn eu galw'n 'fledglings' ac mae hi'n rhan o'r grŵp hwnnw.
Felly, am beth y gofynnaf? Wel, mae rhai argymhellion allweddol yr hoffwn eu gweld. Yn gyntaf oll, pwynt allweddol yw mynd i'r afael ag anghenion, nid ymddygiadau, a lleihau nifer y plant yr effeithir arnynt gan anhwylderau'r sbectrwm awtistig, Tourette's ac ADHD yn yr ysgol sy'n cael eu gwahardd—lleihau'r nifer hwnnw. Mae angen i ddiagnosis fod yn amlddisgyblaethol ac nid yn ar wahân i bopeth, felly mae arnom angen i bobl weithio gyda'i gilydd yn drawsddisgyblaethol, nid yn unig ar gyfer awtistiaeth, ond ar gyfer ADHD, a dealltwriaeth gynyddol o Tourette's hefyd. Ac mae angen inni gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r risg sy'n gysylltiedig pan fo cyflyrau niwroddatblygiadol a phroblemau iechyd meddwl yn cyd-ddigwydd. Mae angen i hynny fynd y tu hwnt i bolisi ac arferion. Gwyddom fod problemau gydag aros am CAMHS yn rhan o hynny, a gwn ein bod wedi cael sgyrsiau am hynny hefyd. Fe gofiwch yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'; mae'r cyfan yn hwnnw—y gwaith a wnaeth Lynne Neagle ac y mae Julie Morgan yn ei wneud.
Yn y fan honno, rwy'n mynd i roi amser i Laura Anne Jones a Mark Isherwood, felly rwy'n mynd i ddod i ben yn awr a dweud nad dyma ddiwedd y ddadl. Rwy'n credu bod y Pwyllgor Deisebau yn mynd i gyflwyno dadl arall ar Tourette's. Cyfle i grafu'r wyneb yn unig a gefais heddiw, ond rwy'n gobeithio dod â mwy i'r ddadl honno hefyd.
Daw awtistiaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr gwasanaethau awtistiaeth gael eu deall a bod addasiadau'n cael eu gwneud ar eu cyfer, gan fod pob un ohonynt yn unigolion unigryw a chanddynt anghenion unigol, yn union fel pawb arall. Fodd bynnag, er nad yw cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth yn gyflyrau iechyd meddwl, rwy'n dal i glywed yn ddyddiol gan bobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes, gan gynnwys awtistiaeth, neu eu teuluoedd, fod cyrff cyhoeddus wedi methu deall anghenion unigol a gwneud addasiadau yn unol â hynny, gan achosi mwy o bryder a phyliau o chwalfa. Er enghraifft, yn sir y Fflint, cafodd plant a gafodd eu derbyn i ofal lle'r oedd y rhieni ar fai adroddiad arbenigol yn nodi bod ymddygiad y plant yn gyson ag awtistiaeth, ond mae'r cyngor yn gwrthod eu hatgyfeirio i gael diagnosis. Yn sir Ddinbych, ysgrifennodd un fam fod ei mab wedi bod yn aros am brawf diagnostig ar gyfer awtistiaeth ers 18 mis, ond gan nad yw wedi cael ei asesu, nid yw'r ysgol yn gallu cael cymorth fel seicoleg addysg ac allgymorth awtistiaeth. Ac un enghraifft olaf yn sir y Fflint: teulu y cafodd eu mab, sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth, chwalfa ddifrifol iawn, ac ar ôl hynny ysgrifennodd gweithrediaeth gyfreithiol y cyngor, 'Byddai'n amhriodol i'r awdurdod lleol ragdybio cyflwr iechyd meddwl eich mab heb ddiagnosis iechyd.' Yn anffodus, hyd nes y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu darparu a'u monitro'n iawn gyda phobl niwroamrywiol, eu teuluoedd a'u gofalwyr, bydd bywydau'n parhau i gael eu niweidio fel hyn.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Hefin David am ddod â'r ddadl bwysig hon i'n Siambr heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y gwrandewir ar ei brofiadau personol gyda'i ferch brydferth, a'r wybodaeth sydd ganddo bellach. Am y rhan fwyaf o'r hyn a ddywedoch chi, rydych wedi cael y profiad hwnnw, yn wahanol i'r rhan fwyaf ohonom yma, ac rydych yn gwybod beth sydd ei angen i unioni camweddau'r system. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld rhestr aros o ddwy flynedd a mwy i blant weld arbenigwr tîm niwroddatblygiadol, sy'n crynhoi problemau mawr ar gyfer y dyfodol ac yn fy marn i, yn rhoi dysgu a chyfleoedd bywyd plant mewn perygl sylweddol. Heb y penodiadau tîm niwroddatblygiadol, mae gennym bellach blant nad ydynt yn cael eu hadnabod yn glinigol fel rhai awtistig neu ag ADHD, gan arwain at lefelau gwael o ddealltwriaeth a darpariaeth, a chreu sefyllfa lle nad yw plant yn cael digon o gymorth i ffynnu. Dywedwyd wrthyf hefyd am achos un rhiant a allai orfod mynd i ddyled i ariannu atgyfeiriad preifat ar gyfer eu plentyn. Dywedwyd wrthyf hefyd y gall penaethiaid ac athrawon roi mesurau ar waith eu hunain i gefnogi llythrennedd a rhifedd—nid dyna'r broblem—ond yr hyn y maent wedi'i bwysleisio a'r hyn y maent yn ymrafael ag ef yw nad yw penaethiaid nac athrawon wedi cael hyfforddiant ac nid oes ganddynt gapasiti i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar ddysgwyr sy'n agored i niwed, gan arwain yn aml at waharddiadau, am na allant ymdrin â'r ymddygiad hwnnw. Gan fod gennym system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn dod yn weithredol yn awr, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn destun archwiliadau manwl a rheolaidd a rhoi mesurau diogelu ar waith, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn lleddfu ein holl bryderon yma heddiw, ac nad ydym yn gadael i ragor o blant lithro drwy'r bylchau. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Julie Morgan.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin, am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Gwn fod llawer o ddiddordeb yn y Siambr yn y pwnc. Yn amlwg, mae hyn mor bersonol iddo, a hoffwn ddiolch yn fawr iddo am rannu ei brofiadau personol gyda phob un ohonom yma heddiw. Diolch, Hefin.
Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu unigolion sy'n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, a chlywais am brofiadau'n uniongyrchol gan rieni plant ag awtistiaeth ac ADHD. Cyfarfûm hefyd â rhieni plant ag anhwylderau tic a syndrom Tourette's—cyfarfod lle'r oedd fy nghyd-Aelod dros Gaerffili yn gallu ymuno â mi. Credaf fod cael y cyfarfodydd hynny gyda rhai o'r lleisiau mwyaf pwerus yn pwysleisio'r angen am yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud ac mae'r cyfarfodydd lle mae rhieni wedi dweud wrthyf am y trafferthion y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth ar flaen fy meddwl wrth inni ymdrechu i wneud newidiadau cadarnhaol.
Felly, yn gyntaf, gadewch imi ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn niwroamrywiol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae llawer i'w wneud, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond rydym wedi cymryd camau breision i symud ymlaen, ac mae hyn yn cynnwys llwyddiant y gwasanaeth awtistiaeth integredig sy'n darparu gwasanaethau asesu a chymorth i oedolion a chymorth i deuluoedd, a chefnogir hyn gan £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Cyflawnwyd ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth hefyd, cod a ddaeth yn weithredol ar 1 Medi y llynedd, ac rydym yn gweld ymrwymiad clir gan sefydliadau statudol i groesawu'r cod a gwella gwasanaethau a chymorth yn rhagweithiol. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol yn gweithio'n uniongyrchol gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i'w helpu i ddatblygu seilwaith awtistiaeth a phenodi hyrwyddwr awtistiaeth ym mhob ardal. Mae'r cod wedi rhoi sylfaen inni allu gwneud newid gwirioneddol a gwella gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill.
Wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid pan oeddem yn datblygu'r cod, fe wnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym, er gwaethaf y cynnydd a wnaed mewn gwasanaethau awtistiaeth, fod llawer o bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn dal i'w chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, er bod eu hanghenion yn aml yn debyg neu'n cyd-ddigwydd ag awtistiaeth. Adleisiwyd y sefyllfa hon yn fy nghyfarfod â rhieni plant ag ADHD a syndrom Tourette's.
Felly, dyma pam ein bod yn ehangu ein dull o weithredu, o ganolbwyntio ar awtistiaeth i geisio gwelliannau ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, felly mae gennym dîm polisi pwrpasol bellach sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes addysg. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd yn ehangu ei gylch gwaith a'i arbenigedd i ddarparu cyngor ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym am sicrhau bod y cynnydd a wnaed gydag awtistiaeth yn cael ei ymestyn i'r cyflyrau eraill a'u bod i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, a chredaf fod hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn. Fe wyddom, ac mae nifer o'r Aelodau wedi crybwyll hyn yn y ddadl heddiw, fod gwasanaethau asesu'n profi galw cynyddol gydag amseroedd aros hir ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion, ac mae angen llwybrau gwasanaeth newydd ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, er mwyn deall y maes cymhleth hwn yn well a nodi opsiynau ar gyfer gwella, comisiynwyd adolygiad gennym y llynedd o'r galw a chapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol ac mae'r awduron bellach wedi cyflwyno eu canfyddiadau i mi. Rwy'n ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad ar hyn o bryd, adolygiad sydd wedi darparu tystiolaeth gref o'r angen am raglen wella i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy sy'n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. A chredaf fod Hefin wedi sôn am bwysigrwydd y gefnogaeth sydd ei hangen wrth i chi aros am ddiagnosis, a theimlaf fod hynny'n gwbl allweddol.
Fe ddof yn ôl at fy nghyd-Aelodau'n fuan pan fyddwn yn cyhoeddi'r adolygiad a byddaf yn gwneud cyhoeddiad am y camau gweithredu tymor canolig a hirdymor y byddwn yn eu cymryd i gefnogi gwelliannau. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar frys i leihau'r pwysau ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth a chefnogaeth gynnar ar waith i deuluoedd sydd angen cymorth yn awr.
Mae'n bwysig cydnabod y bydd diwygio gwasanaethau niwroddatblygiadol yn adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a'i ffrwd waith niwroddatblygiadol, sy'n dod i ben ddiwedd mis Medi eleni. Rhaid imi ddiolch i bawb a fu ynghlwm wrth hynny am bob dim y maent wedi'i wneud. Rydym yn gweithio i sicrhau pontio llyfn o'r rhaglen i sicrhau bod yr holl arferion da yn cael eu cofnodi a bod y cysylltiadau cryf a ffurfiwyd gan dîm y rhaglen yn cael eu cynnal a'u cryfhau ymhellach.
Caiff polisi a darpariaeth yn y dyfodol eu cydgynllunio gydag unigolion a theuluoedd sydd â phrofiad byw o gyflyrau niwroddatblygiadol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd arolwg gennym drwy ein rhwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol i gasglu profiadau cyfredol y rhai sy'n ceisio cael asesiad a chymorth ar restr aros neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau. Roedd yr arolwg yn fyw am dros wyth wythnos a chawsom dros 370 o ymatebion. Rydym yn adolygu'r adborth a ddaeth i law ar hyn o bryd, ac mae un thema gynnar a nodwyd yn atgyfnerthu'r angen am well cymorth cyn ac ar ôl diagnosis, rhywbeth a gaiff ei adlewyrchu yng nghanfyddiadau'r adolygiad o'r galw a chapasiti.
Maes allweddol arall yn yr adborth gan rieni yw cymorth mewn ysgolion, a soniwyd am hynny, a soniodd Hefin am hynny'n rymus iawn heddiw. Gwnaeth y ffigurau argraff fawr arnaf: 76 y cant o blant awtistig yn cael eu bwlio yn yr ysgol; 20 y cant o waharddiadau. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae rôl addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn gwbl allweddol. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes addysg sy'n cyflawni gwelliannau drwy'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn cael eu cydnabod, a bod gan staff wybodaeth a sgiliau i'w cefnogi. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd y rhieni yn y grŵp y cyfarfûm â hwy a oedd â phlant ag ADHD gryn argraff arnaf, a'r sôn hefyd am ba mor allweddol yw'r ffordd y mae'r ysgol yn ymateb i'r plant hynny, a'r gwahaniaeth a wnâi i'w bywydau.
Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â dwy ysgol yr wythnos nesaf yn ardal sir Gaerfyrddin sy'n gweithio'n galed i gefnogi disgyblion niwroamrywiol i wneud y gorau o'u potensial ac ehangu'r cyfleoedd iddynt. Mae un o'r ysgolion wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan y Sefydliad ADHD am ei gwaith, ac rydym am rannu profiad yr ysgol honno, oherwydd credaf fod llawer o ffyrdd y gallai ysgolion symud tuag at fod yn ystyriol o ADHD; byddai'n gwneud cymaint o wahaniaeth.
Ac rwyf hefyd am gydnabod rôl y trydydd sector, sydd wedi bod yn allweddol yn y cynnydd a wnaethom gyda'r cod ymarfer awtistiaeth, a bydd iddo rôl ganolog yn ein diwygiadau niwroddatblygiadol, yn enwedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau cymorth cyn ac ar ôl diagnosis.
Felly, i gloi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym am lwyddo i leihau'r pwysau sy'n effeithio ar wasanaethau niwroddatblygiadol, a sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gynnar yn gyflym, yn ogystal ag asesiadau amserol. Felly, rydym am i blant, pobl ifanc ac oedolion niwroamrywiol deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u harfogi i ymateb i heriau bywyd bob dydd yn awr ac yn y dyfodol. Hoffwn orffen eto drwy ddiolch i Hefin am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gyfraniadau Laura Anne a Mark. Diolch.
Diolch yn fawr. Dyna ddiwedd ar ein gwaith am heddiw.