– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 25 Mai 2022.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1249, 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod yn dod i arfer â hyn y prynhawn yma.
Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.
Ddirprwy Lywydd, teitl y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod heddiw yw 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Mae'r ddeiseb hon wedi derbyn 10,393 o lofnodion. Mae'n dweud bod Syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, nad yw'n gyflwr prin ac mae gan Gymru un arbenigwr nad yw'n gweld plant. Mae'r ddeiseb yn galw am
'[l]wybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru.'
Wrth imi sefyll yma heddiw, Ddirprwy Lywydd, rydym 10 diwrnod i mewn i Fis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, ymgais i godi ymwybyddiaeth o syndrom Tourette a'r anawsterau y gall eu hachosi i un o bob 100 o blant ac oedolion. Hoffwn ddiolch yn awr i'r Pwyllgor Busnes am amserlennu'r ddadl hon mor brydlon, er mwyn inni allu cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth.
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at yr anawsterau y gall dioddefwyr eu hwynebu yng Nghymru. Mae lefelau isel o ymwybyddiaeth yn golygu y gall fod yn anodd cael diagnosis, mae diffyg gofal arbenigol yn golygu y gall fod yn anodd cael mynediad cyflym at gymorth a all wneud bywyd ychydig yn haws, a gall fod anghysonderau enfawr yn y triniaethau, yn dibynnu ar lle rydych yn byw yng Nghymru. Gallwn wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well.
Nawr, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan ymgyrchwyr i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys enwogion fel Billy Eilish a'n Hefin David ein hunain, sydd wedi rhannu profiad ei deulu o awtistiaeth gyda'r Siambr yn ddiweddar, a'r cysylltiad sydd yno hefyd. Ond yn union fel Billy Eilish a Hefin David, yr hyn y mae'r deisebydd, Helen Reeves-Graham, eisiau ei weld mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol, ac nid codi ymwybyddiaeth yn unig, Ddirprwy Lywydd—newid yn eu cymunedau a newid gwirioneddol yn eu bywydau a bywydau'r bobl y maent yn eu caru. Os caf ddefnyddio geiriau Helen ei hun:
'Yn ddelfrydol, byddem wrth ein bodd yn gweld clinig arbenigol ar gyfer Syndrom Tourette yng Nghymru a fyddai'n cynnig pecyn gofal cyflawn o therapi, mynediad at feddyginiaethau, cymorth gyda chysgu, anawsterau ymddygiad, anawsterau symudedd, rheoli poen a help gyda chydafiacheddau eraill. Mae angen i gymorth a chefnogaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae angen i'r bobl a fyddai'n darparu'r gwasanaethau hyn gael eu hyfforddi'n llawn. Mae gwir angen mynediad at arbenigwr yng Nghymru.'
A gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i wella asesiadau a gwasanaethau cymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette, a'i bod wedi cyfarfod â'r deisebydd ac eraill i glywed yn uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu.
Mae gwrando ar y rhai sydd â phrofiad byw yn hanfodol os ydym am ddeall yr anghenion a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi rhannu gofid ei theulu oherwydd diffyg gwasanaethau cymorth. Disgrifiodd ei mab wyth oed a sut y mae syndrom Tourette yn effeithio ar ei fywyd. Mae'n dweud nad yw ei mab yn rhegi, ond mae ei gyflwr yn llawer mwy heriol ac yn ei geiriau hi, Lywydd:
'Mae'n dioddef gyda gorbryder eithafol ac mae'n cael meddyliau ymwthiol. Mae wedi siarad am sut y mae eisiau marw. Mae'n dweud wrthyf mai ei diciau sy'n dweud hyn yn ei ben ac mae'n teimlo ei fod eisiau estyn cyllell i drywanu ei hun.'
Ar y pryd, roedd ei mab yn saith oed, a chafodd ei atgyfeirio gan yr ysgol ar unwaith at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond dywedwyd wrthynt y byddai ar restr aros hir iawn. Lywydd, mae ei mab yn dioddef o diciau ffrynig yn ei ben, ei wyneb a'i ên. Mae ei lygaid yn llosgi, mae'n curo ei ben, mae ganddo sgiliau echddygol gwael, prin y mae'n gallu ysgrifennu, mae ei reolaeth ar gael ei weithio yn wael iawn ac mae'n dioddef llawer iawn o boen yn ei gorff o ganlyniad i symudiadau anwirfoddol sydyn, ymhlith amryw o heriau eraill. Ac er gwaethaf ei holl ddioddefaint, nid yw'r teulu wedi gallu cael gafael ar wasanaethau arbenigol, ar wahân i gefnogaeth gyson cydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ysgol. Mae'n disgrifio darlun llwm iawn o'r modd y mae ein system iechyd yn gwneud cam â'i mab ac mae'n ofni ynghylch ei ddyfodol. Mae'n galw am addysg well i bob gweithiwr proffesiynol ynglŷn â'r cyflwr andwyol hwn. Mae hefyd yn galw am gymorth addas, cefnogaeth a llwybr meddygol clir, o'r meddyg teulu i fyny. Dyma mae ei mab ac eraill sy'n dioddef o syndrom Tourette yn ei haeddu—yr hawl i gael eu deall, eu parchu ac i gael y gofal a'r gefnogaeth y maent eu hangen mor daer.
Lywydd, bydd canlyniadau'r adolygiad gallu a galw o wasanaethau niwroddatblygiadol i rai o bob oed, a oedd i fod i adrodd ar ddiwedd mis Mawrth, yn llywio'r dull o weithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu yn y blynyddoedd a'r misoedd nesaf. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn gallu rhannu rhai o'i syniadau wrth ymateb i'r ddadl hon.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gan Aelodau eraill y prynhawn yma, ac wrth gwrs, at glywed gan y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.
Mae'n bleser mawr gennyf siarad o blaid y ddeiseb arbennig hon. Nawr, trefnydd y ddeiseb hon yw Helen Reeves-Graham, sy'n un o fy etholwyr ac mae'n ymgyrchydd aruthrol dros wella gwasanaethau i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru, ac rwy'n falch o gael pobl fel Helen yn byw yn fy etholaeth.
Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, credir bod tua un o bob 100 o blant yng Nghymru yn byw gyda syndrom Tourette, ac mae'r cyflwr i'w weld yn wahanol mewn gwahanol bobl. Efallai y bydd gan un person symudiadau pen anwirfoddol, efallai y bydd gan un arall diciau lleisiol, ac felly ni cheir un darlun sy'n gymwys i bawb o ran sut y mae syndrom Tourette yn edrych. Fel y gwyddom, gall symptomau amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol, ac yn achos ticiau corfforol, gall y symptomau hyn fod yn boenus weithiau. Nawr, gall byw gyda chyflwr cymhleth fel syndrom Tourette fod yn llethol, yn enwedig i blant, ac felly mae'n gwbl hanfodol fod gofal arbenigol ar gael yng Nghymru. Mae rhai rhieni'n troi at y rhyngrwyd am gymorth i ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd orau o gefnogi eu plant gyda syndrom Tourette, ac mae dibynadwyedd peth o'r wybodaeth honno, wrth gwrs, yn amheus. Ond ni ddylai fod wedi dod i hynny mewn gwirionedd. Dylai fod gwasanaethau cymorth ar gael yng Nghymru o ddiagnosis ymlaen, ac mae darllen adroddiadau am blant a'u teuluoedd yn teimlo'n unig ar ôl cael diagnosis yn destun pryder gwirioneddol, ac mae'n rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau nad yw hyn yn parhau.
Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod mwy a mwy o blant ledled y DU yn cael diagnosis o diciau a syndrom Tourette, gan fod arbenigwyr yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain wedi cofnodi cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n profi symptomau tic a phyliau tic ers dechrau'r pandemig. Nawr, cyn y pandemig COVID, byddai Ysbyty Great Ormond Street fel arfer yn derbyn pedwar i chwe atgyfeiriad y flwyddyn, ond erbyn mis Ionawr 2021, roeddent yn cael tri i bedwar atgyfeiriad yr wythnos. Ac felly, wrth i nifer yr atgyfeiriadau gynyddu, mae'r galw am fwy o gymorth a dealltwriaeth hefyd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn sicrhau bod plant yn gallu cael gafael ar gymorth corfforol, meddyliol ac emosiynol hanfodol yma yng Nghymru. Gall peidio â chael gafael ar y gofal a'r cymorth meddygol priodol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor, ac fel y mae'r deisebydd wedi nodi'n briodol, gall pobl â syndrom Tourette gael anawsterau gyda gorbryder, trafferthion cysgu, cynddaredd ac ynysu cymdeithasol. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae diffyg cymorth a gwasanaethau yn ei chael ar blant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru a'u teuluoedd.
Nawr, fel y dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau eisoes, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau asesu a chymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, a bydd y gwaith hwnnw'n cael ei lywio gan ganlyniadau'r adolygiad gallu a galw. Wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith penodol hwnnw. Serch hynny, rwy'n falch iawn o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod â Helen Reeves-Graham i drafod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn well i gefnogi teuluoedd yma yng Nghymru, ac er bod yr ymgysylltu'n gadarnhaol iawn, mae amser yn hanfodol i blant sy'n byw gyda syndrom Tourette, a pho hiraf y byddant yn mynd heb gymorth a gwasanaethau, y mwyaf difrifol fydd yr effaith ar eu bywydau. Dyna pam y mae angen inni weld camau gweithredu yn awr, a pham y mae angen inni weld syndrom Tourette yn cael ei flaenoriaethu yn hytrach na'i grwpio gyda chyflyrau niwroddatblygiadol eraill. Ni fydd dull un ateb i bawb yn mynd i'r afael ag anghenion pobl â syndrom Tourette yn ddigonol. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith o sefydlu canolfan arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael gafael ar gymorth, therapi a'r gofal sydd ei angen arnynt.
Ni ddylai pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru, a phlant yn enwedig, orfod teithio dros y ffin i gael triniaethau arbenigol, a fan lleiaf, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu mwy o ôl-ofal a chymorth ar ôl cael diagnosis. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno fframwaith newydd i wella mynediad at y cymorth cywir, ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud mwy wrthym am y ffordd y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo hefyd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i waith caled a phenderfyniad Helen Reeves-Graham yn dosbarthu'r ddeiseb hon a sicrhau bod syndrom Tourette ar agenda wleidyddol Cymru? Rydym wedi clywed eich llais, a llais teuluoedd ledled Cymru sy'n byw gyda syndrom Tourette. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle i wneud hyn yn iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau y bydd plant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol yng Nghymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i Helen am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'r hyn y mae'n galw amdano'n hollol gywir—caiff syndrom Tourette ei anwybyddu gan nifer ac mae'r rhan fwyaf yn ei ystyried yn gyflwr sy'n golygu eich bod yn rhegi'n afreolus, ac rwyf fi fel llawer o bobl eraill wedi bod yn euog o feddwl hynny yn y gorffennol, ond mae llawer mwy iddo. Mae'n gyflwr niwrolegol sy'n gallu bod yn boenus iawn. Dyna pam y mae'n bwysig bod diagnosis yn cael ei wneud a bod gofal a chymorth meddygol yn dilyn hynny. Ond yng Nghymru nid oes llwybr clinigol clir ar hyn o bryd i asesu darpariaeth a gofal arbenigol, yn enwedig i blant. Dim ond un meddyg ymgynghorol a geir yng Nghymru sy'n arbenigo ar syndrom Tourette, a hynny mewn oedolion yn unig. Mae hon yn broblem fawr. Mae'r ticiau y mae pobl yn eu datblygu yn aml yn fwyaf difrifol yn ystod plentyndod a'r glasoed, ac o ganlyniad, gallant effeithio ar yr hyn rydym i gyd yn ei gydnabod fel cyfnod tyngedfennol mewn datblygiad dynol a'r broses o gymdeithasoli.
Y gwir amdani yw y gall aros nes eich bod yn oedolyn i gael diagnosis achosi llwyth o broblemau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall cael diagnosis o syndrom Tourette helpu unigolion i ddeall eu hymddygiad eu hunain a'u helpu i esbonio eu hymddygiad i eraill. Dywed rhai eu bod wedi teimlo'n fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl cyn iddynt gael eu diagnosis, ac mae tystiolaeth yn dangos bod unigolion â syndrom Tourette yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Ochr yn ochr â phroblemau iechyd meddwl, nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i astudiaeth yr arolwg o effaith syndrom Tourette, a oedd yn cynnwys plant ac oedolion, eu bod wedi cael o leiaf un tic a achosodd boen a niwed corfforol. Dyna pam y mae mynediad at therapi galwedigaethol sy'n gallu mynd i'r afael â rheoli poen, yn ogystal ag anawsterau lleferydd a phroblemau synhwyraidd, yn hanfodol. Yn ogystal ag agor mynediad at wasanaethau a chymorth, mae diagnosis yn caniatáu i bobl gyfarfod ag unigolion eraill sydd â syndrom Tourette, gan eu helpu felly i ddatblygu ymdeimlad o gymuned a pherthyn na fyddent wedi'i deimlo fel arall o bosibl.
Os caf fynd yn ôl at bwynt cynharach a wneuthum, mae llawer mwy i syndrom Tourette nag y byddem yn ei feddwl i ddechrau. Mae llawer i'w ddweud am addysg, yn ogystal â'r modd y siaradwn amdano a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef. Credaf fod y ddeiseb hon eisoes wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud hynny, a dylai Helen ymfalchïo yn hynny. Felly, unwaith eto, diolch i Helen am dynnu sylw'r pwyllgor at y mater, ac edrychaf ymlaen at weld sut y mae'r Llywodraeth yn ymateb i'r ddeiseb a'r hyn y mae'n galw amdano. Diolch.
Cefais y pleser, cyn fy nadl fer ar awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette bythefnos yn ôl, o siarad â Helen Reeves-Graham ar y ffôn a chlywed ei stori hi'n bersonol, ac mae'n dangos yr anhawster sy'n bodoli yn y gymuned hon. Ac un o'r pethau a grybwyllais yn fy nadl, yn fwyaf arbennig, oedd teimlo fel pinbel. Fel rhiant i rywun ag awtistiaeth, fel y mae Jack wedi'i grybwyll yn garedig—er iddo fy ngalw'n enwog hefyd, ac nid wyf yn credu fy mod yn cytuno â hynny—mae'r her o fod yn rhiant i blentyn ag awtistiaeth yn fawr, ac rydych yn teimlo fel pinbel yn sboncio rhwng gwahanol arbenigwyr. Ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud wrthym fod gan 20 y cant o bobl sydd â syndrom Tourette anhwylder ar y sbectrwm awtistig hefyd. Mae hynny'n gadael 80 y cant nad oes ganddynt anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac felly nid oes ganddynt fynediad at y llwybr awtistiaeth hwnnw.
A dof yn ôl at hynny mewn eiliad, ond rwyf wedi cael e-bost gan Nicola Hall, sy'n etholwr, ac mae'n dangos yn union beth a olygwn wrth binbel yn sboncio. Mae'n dweud am ei mab:
'Fe wnaethom sylwi ar diciau geiriol Aled am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2020. Roedd yn bedair oed ar y pryd. Gwnaethom roi gwybod i'r meddyg teulu am hyn, a chadarnhawyd bod hyn yn gyffredin ac y byddai'n debygol o ddiflannu ar ei ben ei hun. "Dewch yn ôl ar ôl 12 mis os ydynt yn dal i ddigwydd", meddent. Dros y 12 mis, gwaethygodd ei diciau, roeddent yn newid yn gyson ac roeddent bellach yn cynnwys ticiau echddygol. Aethom yn ôl at y meddyg teulu, cawsom ein hatgyfeirio at banel SPACE. Fe'n cyfeiriwyd at y blynyddoedd cynnar. Apeliais ar SPACE am atgyfeiriad CAMHS. Fe wnaethant wrthod. Ar ôl dod yn rhan o Dudalen Gymorth Syndrom Tourette a Thiciau De Cymru, a siarad â theuluoedd eraill ac ymchwilio, daethom i wybod mai CAMHS oedd angen inni eu gweld. Ni allai'r blynyddoedd cynnar ein helpu ac fe wnaethant ein cyfeirio'n ôl at SPACE. Cawsom ein cyfeirio gan SPACE at y gwasanaeth gofal iechyd meddwl sylfaenol, lle y cawsom ein hasesu a'n derbyn gyda'r addewid o chwe sesiwn rithwir gyda nyrs seiciatrig. Yn sesiwn tri, fe'n hysbyswyd gan y nyrs nad oedd mwy y gellid ei wneud ac y byddai'n ein hatgyfeirio at CAMHS. Rydym yn awr ar y rhestr aros am CAMHS. Mae'r rhwystredigaeth, fel y gallwch weld, rwy'n siŵr, yn deillio o'r ffaith ein bod wedi gofyn am gael ein hatgyfeirio yno i ddechrau ac mae amser wedi'i wastraffu.'
Nawr, rwyf wedi elwa o fynd at seicolegydd addysg, cymorth ysgol, lleferydd ac iaith ac amryw o wahanol leoedd, ond bob tro bydd y rhestr aros yn cynyddu a'r canlyniad terfynol yn mynd ymhellach i ffwrdd, fel y dywedais wrth y Gweinidog ddoe. Yn achos syndrom Tourette, lle mae llai yn hysbys am y cyflwr hwnnw, mae'r daith honno'n mynd hyd yn oed yn fwy cymhleth, ac weithiau efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at wasanaethau er nad rheini yw'r rhai iawn yn y lle cyntaf. A dywedodd Nicola wrthyf mai rhieni sy'n gwybod orau. Gwrandewch ar rieni yn gyntaf, oherwydd hwy sy'n treulio'r rhan fwyaf o amser gyda'u plant ac mae angen gwrando ar eu safbwyntiau hwy yn gyntaf ac yn bennaf oll. Nawr, mae rhestrau aros yn y system, gwyddom hynny, ond cânt eu gwaethygu gan yr effaith binbel honno.
A dyna pryd y gallwch gael triniaeth, oherwydd rwyf wedi cael gohebiaeth arall gan Byron Thomas am ei fab. Roedd ei fab yn 13 oed cyn iddo gael triniaeth, er eu bod yn gwybod bod yna broblem pan oedd yn bump oed.
A soniais am awtistiaeth, a dywedais fod gan bobl ar y llwybr awtistiaeth lwybr cliriach, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond rwyf wedi cael llythyr gan Sally Smith, sy'n dweud ei bod yn cadw dyddiadur o diciau a symptomau ei mab, a ddilynodd yr un llwybr yn union, fel pinbel yn sboncio, fel Nicola, a chymerodd flwyddyn a hanner i'w mab gael diagnosis ar ôl y cyfnod hwnnw. Ond dywedodd wrthyf hefyd fod yr unig gymorth y mae'n ei gael yno oherwydd ei awtistiaeth; nid oes y fath beth â chymorth ar gyfer syndrom Tourette. Felly, mae problemau'n wynebu'r rheini ohonom sy'n rhieni i blant ag awtistiaeth hyd yn oed, ac mae'r llwybr hwnnw'n dal i fod yn ddryslyd ac yn aneglur iawn.
Ac yn olaf, hoffwn sôn fy mod wedi cael, gan Jane Hutt—. Gan ei bod yn Weinidog, ni all siarad yn y ddadl hon, ond anfonodd fanylion ataf am un o'i hetholwyr y mae gan ei mab, Ben, broblemau. Mae Jane wedi'u hanfon i'r Gweinidog, ond addewais y byddwn yn codi'r mater yn y ddadl hefyd. Weinidog, dyna ni, dyna'r e-bost ei hun. Dyna ni. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y Dirprwy Weinidog yn clywed y straeon hyn. A byddwn yn dweud bod gennym y person iawn yn swydd y Dirprwy Weinidog, oherwydd rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd gyda rhieni a'r Dirprwy Weinidog, ac wedi'i gweld yn gweithredu. Mae hi wir eisiau datrys y problemau hyn. Mae llawer o rannau cymhleth, rhannau symudol cymhleth, i hyn, ond mae pethau y gellir eu gwneud. Ac i gloi, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw gwrando ar rieni a'r rhai sy'n profi syndrom Tourette.
Hoffwn innau hefyd longyfarch Helen Reeves-Graham am godi'r mater hwn, oherwydd heb hynny, ni fyddem wedi'i drafod. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Diana Beljaars, arbenigwr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi gwneud ymchwil ar y pwnc hwn, yn rhannol oherwydd bod aelod agos o'i theulu yn dioddef o syndrom Tourette, felly, yn amlwg, mae hynny wedi ysgogi ei diddordeb yn hyn. Ac o siarad â hi, dysgais lawer iawn am hyn. Roeddwn bob amser yn gwybod am y gweiddi a'r rhegi, ond nid oeddwn yn gwybod unrhyw beth am y ffyrdd eraill y mae'n arddangos ei hun ar wahân i diciau. Felly, dywedir wrth blant am roi'r gorau i symud, i aros yn llonydd yn yr ystafell ddosbarth, ac yna cânt gerydd am ymddygiad na allant wneud unrhyw beth yn ei gylch, am nad ydynt yn gwybod pam eu bod yn ei wneud.
Fy nealltwriaeth i yw bod syndrom Tourette yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol, felly mae'n amlwg fod angen llawer mwy o waith ymchwil. A oes cysylltiad, er enghraifft, â llygredd aer? Mae cymaint yr ydym yn dechrau ei ddeall am effaith llygredd aer ar wahanol agweddau ar iechyd pobl.
Yn amlwg, mae'n bwysig fod gennym wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'n rhaid inni wrando ar y bobl sy'n gofalu am y plant hyn, a rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hyn y maent yn ei ddweud. Nawr, nid oes y fath beth a chyfarwyddiadau i rieni, felly efallai na fydd rhiant am y tro cyntaf yn sylweddoli bod unrhyw beth o'i le am symptomau penodol plentyn gyda syndrom Tourette. Ond yr hyn a nododd Diana wrthyf oedd bod pobl yn aml yn cael gwybod nad oes angen triniaeth ar y rhan fwyaf o blant, felly mae'n ymateb tebyg i droi cefn: 'Rydym wedi gwneud diagnosis, mae gennych syndrom Tourette, ond ni chewch unrhyw beth gennym ni', ac mae'n amlwg fod yn rhaid i hynny ddod i ben.
Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf y gallwn i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch yw mynd i'r afael â'r gwahaniaethu y gall pobl â syndrom Tourette ei brofi, yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle, oherwydd gall pobl golli eu swyddi o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cyflogwr yn deall bod y symudiadau anarferol y gallai rhywun fod yn eu harddangos yn rhai na allant wneud unrhyw beth yn eu cylch, ond nad yw hynny'n eu hatal rhag bod yn wych yn eu swydd.
Ac mae dwy enghraifft dda iawn y dysgais amdanynt, sy'n ddiddorol iawn, oherwydd roeddwn wedi tybio, os oes gennych syndrom Tourette, na allech fod yn llawfeddyg. Nid yw hynny'n wir. Mae'n debyg bod yna niwrolawfeddyg enwog iawn, Peter Hollenbeck, sy'n gweithio yn yr Unol Daleithiau, ac sydd wedi ennill pob math o wobrau, gan gynnwys y wobr athro gorau ym Mhrifysgol Purdue gan y Coleg Gwyddorau, a sawl gwobr arall am ei waith ar y system nerfol.
A'r ail berson sydd efallai'n haws ei ddilyn i'r rhan fwyaf o bobl yw Tim Howard, a arferai fod yn gôl-geidwad i Glybiau Pêl-droed Everton a Manchester United, ac aeth ymlaen wedyn i fod yn un o gôl-geidwaid Clwb Pêl-droed Memphis 901 yn yr Unol Daleithiau. Mae'n cael ei ystyried yn eang fel un o'r gôl-geidwaid mwyaf yn hanes pêl-droed America.
Felly, yn amlwg, dyma ddau unigolyn sy'n gwneud swyddi lle mae cydsymud llaw a llygaid yn gwbl hanfodol, a'r rheswm pam eu bod yn gallu rhagori yn eu proffesiwn dewisol, mae'n debyg, yw oherwydd, pan fyddwch yn canolbwyntio ar rywbeth—ac yn amlwg, pan fyddwch o flaen y gôl, rydych yn canolbwyntio—nid oes gennych syndrom Tourette, ond os ydych yn cysgu gallwch brofi ticiau neu beth bynnag yw'r symptomau o syndrom Tourette. Mae'r cyfan yn ddiddorol iawn i mi, ond mae hefyd yn ffordd wych iawn o ddweud, os oes gan eich plentyn syndrom Tourette, nad yw hynny'n golygu na allant ragori yn eu gyrfa ddewisol.
Diolch i Helen Reeves-Graham am greu'r ddeiseb hynod bwysig hon. Fel y dywedodd Jack, gwyddom fod syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, felly nid yw gweld dros 10,000 o lofnodion o blaid darparu llwybr clinigol, gofal meddygol ac arbenigwyr i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru yn syndod. Dywed Coleg Brenhinol y Seiciatryddion y bydd hyd at 85 y cant o bobl â syndrom Tourette hefyd yn profi cyflyrau sy'n cyd-ddigwydd, gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth.
Yn ystod fy nghyfnod yn y byd addysg, gweithiais gyda nifer o blant a gafodd ddiagnosis, ac mewn rhai achosion, rhai na chafodd ddiagnosis, o syndrom Tourette. Gwelais yn uniongyrchol sut y mae byw gyda syndrom Tourette yn cael effaith ar yr unigolyn a'r teulu sy'n ymdrin â'r cyflwr hwn. Roedd yn ofidus gweld plentyn bach yn brwydro'n ddyddiol â'r cyflwr hwn, ac roedd yr un mor ofidus clywed y rhieni'n erfyn am gymorth a chefnogaeth.
Gall y senarios bob dydd a gymerwn yn ganiataol fel tasgau gweddol hawdd fod yn anodd iawn i blant sy'n dioddef gyda syndrom Tourette—cymysgu â chyfoedion yn y dosbarth ac yn ystod amser egwyl, cwblhau gwaith ysgol. Disgwylir i blant â syndrom Tourette ddal y bws ysgol gyda phlant eraill gyda dim ond un gofalwr, pan fydd y rhan fwyaf o rieni a gwarcheidwaid yn dweud wrthych fod plant â syndrom Tourette angen gofalwr ar eu cyfer hwy yn unig. Gall fod yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol i bawb dan sylw.
Mae'r diffyg ymwybyddiaeth o syndrom Tourette yng Nghymru yn gwneud pethau fel mynd i siopa neu gerdded drwy'r parc yn brofiad anodd iawn, gan wybod y bydd llygaid yn debygol o'ch dilyn. Mae angen inni sicrhau bod pobl sydd â syndrom Tourette yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, nid eu gwawdio. Gall y pwysau ychwanegol o chwilio'n gyson am gymorth a chefnogaeth, a methu cael gafael ar y gofal a'r cyfleusterau meddygol cywir, arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor. Nid rhegi'n unig yw syndrom Tourette. Gall fod yn flinedig. Drwy symudiadau anwirfoddol, sy'n boenus ac yn wanychol, gall arwain at anawsterau cysgu, gorbryder, ynysu cymdeithasol a phyliau o gynddaredd. Mae'n gyflwr cymhleth, a dylid ei drin felly.
Mae angen inni wneud yn well, yn gyntaf, mewn perthynas â gwneud diagnosis o'r cyflwr, codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, a sicrhau bod y driniaeth a'r cymorth cywir ar gael i unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb hon a byddaf yn gweithio i sicrhau bod y rhai sy'n dioddef gyda syndrom Tourette yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Fel y dywedodd Jack Sargeant yn ei gyflwyniad, mae heddiw'n amserol gan ein bod ar hyn o bryd yng nghanol Mis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, a gorau po fwyaf o ymwybyddiaeth y gallwn ei godi.
Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar, yr wythnos ddiwethaf mewn gwirionedd, â Helen a chyda rhieni eraill i blant ag anhwylderau tic a syndrom Tourette, a dyma'r ail dro i mi gyfarfod â'r grŵp hwn o rieni. Yn y cyfarfodydd hyn, dywedodd rhieni wrthyf am y trafferthion y maent wedi'u cael wrth geisio cymorth i'w plant, ac mae Aelodau heddiw wedi disgrifio rhai o'r anawsterau y mae pobl wedi gorfod eu hwynebu. Ac mae'r materion a godwyd ganddynt, ynghyd â'u cryfder a'u penderfyniad, ar flaen fy meddwl wrth inni ymdrechu i wneud newidiadau cadarnhaol.
Fel y dywedodd Hefin, rwy'n credu, 'Gwrandewch ar rieni yn gyntaf,' a dyna beth rwy'n ei wneud, a chredaf na all neb egluro'r sefyllfa yn well na'r rhieni eu hunain. Ac rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud am brofiadau unigol eu hetholwyr, ac wrth gwrs rwyf wedi darllen y llythyr a roddodd Hefin i mi am Ben o Fro Morgannwg, yn etholaeth Jane Hutt.
Felly, yn gyntaf, mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn niwroamrywiol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu manteisio ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae gwasanaeth cynaliadwy wedi ei adeiladu ar seiliau da ac mae'r gwaith a wnaed i ddarparu'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth wedi rhoi sail gadarn i ni wneud newidiadau gwirioneddol er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette. Rwy'n credu bod gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth yn bendant wedi gwella, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyflyrau eraill yn cael eu gwella hefyd.
Pan oeddem yn siarad â rhanddeiliaid, pan oeddem yn datblygu'r cod awtistiaeth, fe wnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym, er gwaethaf y cynnydd a wnaed yn y gwasanaethau awtistiaeth, fod llawer o bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, er bod eu hanghenion yn aml yn debyg neu'n cyd-ddigwydd gydag awtistiaeth, fel y crybwyllwyd eisoes y prynhawn yma. Ac adleisiwyd y negeseuon hyn yn fy sgyrsiau â rhieni plant â syndrom Tourette. Felly, dyna pam ein bod yn ehangu ein dull o weithredu o ffocws ar awtistiaeth i geisio gwelliannau ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, megis syndrom Tourette a hefyd Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Mae gennym dîm polisi penodedig, sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gysylltu'n agos ag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, megis addysg. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol yn ehangu ei gylch gwaith a'i arbenigedd i ddarparu cyngor ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, a gwn ei fod wedi cael ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma, ein bod wedi comisiynu adolygiad gallu a galw o wasanaethau niwroddatblygiadol y llynedd i geisio cael gwell dealltwriaeth o'r amseroedd aros cynyddol a'r pwysau ar y gwasanaeth niwroddatblygiadol ac i geisio nodi opsiynau ar gyfer gwella. Ar ôl derbyn cyflwyniad ar ei ganfyddiadau, rwy'n ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi'n fuan ac rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad am y camau gweithredu uniongyrchol, tymor canolig a hirdymor y byddwn yn eu cymryd i gefnogi gwelliant. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar frys i leihau'r pwysau ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth a chefnogaeth gynnar ar waith i deuluoedd sydd angen cymorth ar unwaith. Yn fy nhrafodaethau gyda'r teuluoedd, cefais dy nharo gan daerineb eu hangen am gymorth a pha mor anodd oedd cael gafael ar y cymorth hwnnw pan wnaethant sylweddoli fod yna broblemau yr oedd yn rhaid ymdrin â hwy. Bydd gan y trydydd sector rôl allweddol yn darparu cymorth i deuluoedd ac rydym wedi dechrau gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau fel Tourettes Action UK ar hyn.
I gloi, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth niwroddatblygiadol cynaliadwy i Gymru a fydd yn ei hanfod wedi'i gydgynllunio gydag unigolion a theuluoedd sydd â phrofiad byw o'r cyflyrau hyn, gan gynnwys syndrom Tourette. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad am ein cynigion cyn gynted ag y gallaf wneud hynny.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddiolch i’r holl Aelodau, gan gynnwys aelodau o'r pwyllgor ac Aelodau o’r Senedd, am eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, i’r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb, ond am ei hymrwymiad i gefnogi’r teuluoedd hynny a'r bobl sy’n dioddef o gyflyrau niwroddatblygiadol.
Rydym wedi clywed, onid ydym, o bob rhan o'r Siambr, y rheswm pam fod angen inni ddarparu llwybr clinigol—y gofal meddygol hwnnw a'r arbenigwyr hynny ar gyfer pobl â syndrom Tourette—a pham ei bod mor hanfodol gwella ansawdd bywyd pobl, boed gan Helen Reeves-Graham, y deisebydd ac un o fy etholwyr, neu un o etholwyr Jane Hutt, Ben. Fel y nododd Hefin David yn gwbl gywir yn ei gyfraniadau, mae hyn yn hollbwysig i fywydau’r bobl hynny a’u teuluoedd. Disgrifiodd Hefin yr effaith pinbel a disgrifiodd un o'i etholwyr hynny hefyd.
Felly, credaf ein bod yn aros am eich cyhoeddiad gyda diddordeb, Weinidog, ond rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth i hyn. Fel y dywedoch chi, rydych wedi gwella gwasanaethau awtistiaeth, ond mae llawer o waith ar ôl i'w wneud. A dylem fod yn gwrando, yn gwbl briodol, nid yn unig ar y 10,000 o bobl a lofnododd y ddeiseb hon neu a gefnogodd ac a rannodd y ddeiseb hon, ond y rheini na wnaethant ac sydd hefyd yn dioddef o gyflyrau niwroddatblygiadol. Felly, a gaf fi ddiolch eto i’r holl Aelodau, i bawb a lofnododd ac a gefnogodd y ddeiseb hon, ond yn bennaf i Helen Reeves-Graham—un o etholwyr Paul Davies—a’r rheini sydd wedi ei chynorthwyo i ddod â hyn i lawr eu Senedd ac i gael ymateb y Gweinidog? Ac wrth gwrs, rydym yn aros gyda chryn ddiddordeb am y gwaith rydych yn ei wneud. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.