– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 15 Mehefin 2022.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.
Diolch. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael sylw gan wledydd eraill a chan sefydliadau Cymreig nad yw'r Ddeddf yn eu cynnwys. Er enghraifft, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod polisi amaethyddiaeth NFU Cymru yn y dyfodol wedi'i lunio yng nghyd-destun saith egwyddor y Ddeddf, ac mae'n ardderchog iawn gweld hynny'n digwydd. Ond o ystyried y diddordeb allanol hwn yn llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n bwysig iawn fod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweld yn gweithredu'n llawn yn unol â'n Deddf ni ein hunain. Ni allwn gael, 'Gwnewch yr hyn a ddywedaf, nid yr hyn a wnaf.' Mae'r adeg ddifrifol hon yr ydym yn byw ynddi, beth bynnag, yn gyson yn ein gorfodi i gyd i archwilio ffyrdd doethach o weithio er mwyn inni allu gwneud y gorau o'n gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw digynsail a'r argyfwng hinsawdd, sydd, ill dau, yn galw am ymateb cyhoeddus yn ogystal ag ymateb personol a phreifat.
Felly, i'ch atgoffa, ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddadl ar y cyd â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar weithrediad y Ddeddf, gan adlewyrchu gwaith yr archwilydd cyffredinol a gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd. Mae cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn benodol yn cynnwys craffu ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y chweched Senedd, er, fel y dywedais ym mis Tachwedd, rhaid i bob pwyllgor ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ymgorffori egwyddorion a nodau'r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ac mae'n amlwg bod mwy y gallwn i gyd ei wneud i sicrhau ei fod yn rhan annatod o bob agwedd ar ein gwaith.
Cododd yr adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw o waith craffu blynyddol ein pwyllgor ar y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl ym mis Chwefror. Mae pob un o'i bedwar argymhelliad wedi'u derbyn mewn sawl ffordd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Llywodraeth Cymru, felly nid yw hyn yn ymwneud â holi ymhellach pam fod argymhelliad x neu y wedi'i wrthod neu wedi'i dderbyn mewn egwyddor yn unig. Heddiw, rhaid i'r Senedd fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n deillio o dderbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r rhain yn mynd ymhell y tu hwnt i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol presennol fel deiliad y swydd, a'i swyddfa. Rhaid inni sicrhau bod ein holl gomisiynwyr annibynnol a'u swyddfeydd yn defnyddio eu hadnoddau a'u pwerau craffu i'r eithaf.
Felly, wrth i gyfnod saith mlynedd Sophie Howe ddod i ben ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae'n adeg dda iawn i adolygu'r trefniadau ariannu ar gyfer comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r holl gyrff craffu annibynnol eraill hyn. Rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gyda'i gyfrifoldebau gweinyddu cyhoeddus ychwanegol, fynd i'r afael â'r rhesymeg sy'n sail i drefniadau ariannu pob un o'r pum comisiynydd yng Nghymru. Crëwyd yr holl swyddi hyn ar wahanol adegau a chyda gwahanol ysgogiadau deddfwriaethol. Mae tudalen 7 o'n hadroddiad yn nodi bod gan gomisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol gyllideb o £1.5 miliwn, ac mae hynny'n cymharu â £3.3 miliwn, er enghraifft, ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a dros £5 miliwn ar gyfer yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Crëwyd y comisiynydd plant yn y Senedd gyntaf, cafodd y lleill eu creu mewn Seneddau dilynol, ac nid oes unrhyw gydlyniad, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y mae'r cyllid a'r adnoddau wedi'u darparu iddynt. Felly, dyma gyfle da i sicrhau sylfaen briodol yn hynny o beth, ac felly rhaid inni edrych ymlaen at yr adolygiad systematig o sut y darperir adnoddau i gomisiynwyr Cymru ac a yw hyn yn adlewyrchu eu cylch gwaith presennol yn ddigonol. A ydynt yn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posibl yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau ar gyfer Cymru gyfan, ynteu a allent fod yn gwneud pethau'n wahanol, gan rannu rhai o'u treuliau ystafell gefn, ac yn y blaen?
Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru oedd argymhelliad 2. Ni allwn ddal ati i ychwanegu at gawl o gyrff cyhoeddus heb fod goblygiadau ychwanegol o ran adnoddau. Mae tirwedd weinyddol sydd wedi'i gorgymhlethu yn ei gwneud yn anodd i sefydliadau rhanddeiliaid ddeall sut a lle y gwneir penderfyniadau, felly mae'n rhaid ei fod yn ddyrys i ddinasyddion Cymru. Roeddwn wrth fy modd yn clywed y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dweud y bore yma fod y cynllun ynni morol wedi'i symud i'r cynllun sero net, ond mae arnom angen llawer mwy o'r cydlyniad deallusol hwnnw i sicrhau bod pobl yn deall prosesau llywodraethu a sicrhau eu bod yn hawdd i'w craffu.
Argymhellodd adroddiad cenedlaethau'r dyfodol yn ôl yn 2020 y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi dweud wrthym y bydd llai na 10 corff cyhoeddus ychwanegol yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae adolygiad ar y gweill, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, ar weithrediadau'r Ddeddf a'r comisiynydd. Rhaid inni gofio bod goblygiadau ariannol i unrhyw gynnydd yn nyletswyddau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, neu fel arall gallai wanhau gallu'r comisiynydd i graffu ar y rhestr gynyddol o gyrff y mae'n gyfrifol amdanynt.
Felly, mae swyddogion yn ymchwilio i gwmpas a chyfrifoldebau'r Ddeddf a ph'un a oes angen diwygio'r Ddeddf ai peidio. Mae'n bosibl y bydd buddiannau'n gwrthdaro, ac mae angen i'r Senedd fod yn ymwybodol o hynny. Yn ôl ym mis Chwefror, yn ein sesiwn graffu, cododd y comisiynydd bryderon penodol am yr haen fwyaf newydd, sef y cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac mae'r gydberthynas rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyd-bwyllgorau corfforaethol yn aneglur hyd yn oed i'r comisiynydd, sydd â'r gwaith o graffu ar ba mor dda y maent yn rhyngweithio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Cawsom ein hatgoffa gan y comisiynydd hefyd am y bwlch gweithredu, rhywbeth yr ydym yn sôn amdano'n aml—y duedd sydd gan y Llywodraeth i wthio deddfwriaeth, polisi, arweiniad a chyfeiriad heb lawer o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y caiff ei gyflawni na'i ariannu'n ddigonol yn ymarferol. Yn ystod ein gwaith craffu, fe'n hatgoffwyd gan y comisiynydd hefyd o'i phwerau o dan adran 20 o'r Ddeddf.
Canfu ei hadolygiad o gaffael nad yw cyrff cyhoeddus yn cymhwyso Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ddigonol yn eu penderfyniadau caffael. Mae hyn yn rhywbeth y bydd ein pwyllgor, wrth gwrs, yn ailedrych arno yn ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Sophie Howe bellach yn cynnal adolygiad adran 20 o beirianwaith Llywodraeth Cymru, sy'n waith amserol yng nghyd-destun y ddadl hon.
Galwai argymhelliad 3 ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae'n defnyddio hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod ei gweithwyr ei hun yn deall ac yn cydymffurfio â'r Ddeddf yn llawn. Mae'n sefydliad mawr iawn, ac ni all y Gweinidog fod yn gyfrifol am bopeth y mae swyddogion yn ei wneud. Felly, mae'n bwysig iawn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn sicrhau bod pob haen o Lywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y Ddeddf.
Mae argymhelliad 4, a gafodd ei dderbyn gan y Llywodraeth hefyd, yn nodi cynlluniau ar gyfer ymgorffori'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a allai gael ei llunio gan y ddeddfwriaeth hon a sicrhau bod gweithrediad y Ddeddf yn addas i'r diben.
Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at weld y ffordd y bydd y Gweinidog yn bwrw ymlaen â'r cyfathrebu hwnnw, ac yn enwedig gyda'r gymdeithas yn ehangach yng nghyd-destun yr holl bethau eraill sy'n digwydd yn ein bywydau, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd. Felly, ceir arwyddion cadarnhaol o gynnydd ar weithredu'r Ddeddf, ac mae'n wych fod ein holl argymhellion wedi'u derbyn. Fodd bynnag, mae digon o le i wella, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch rhwng polisi ac ymarfer. Ac o ystyried natur drawsbynciol y Ddeddf, rydym yn falch iawn o allu codi'r materion hyn ar lwyfan y Senedd, oherwydd mae'n gyfrifoldeb i bawb ohonom yn y pen draw.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fel y nodoch chi yn garedig iawn. Mae gan y pwyllgor hwnnw, sydd â'r acronym PAPAC, ddiddordeb hirdymor yng ngweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyflwynodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd adroddiad, 'Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn' ym mis Mawrth 2020.
Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn falch o arwain ar y cyd ar ddadl ar y cyd gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw, yn ogystal â'i ymatebion i'r adroddiad statudol cyntaf ar y Ddeddf gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. Dangosodd y ddadl honno, a gynhaliwyd gan y pwyllgorau ar y cyd, y gyntaf o'i bath, yr ymrwymiad trawsbleidiol i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni'n effeithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith yn y maes hwn ac rwy'n croesawu'r adroddiad hwn ganddynt, sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol ac sy'n atgyfnerthu llawer o'r pryderon a godwyd ganddo.
Mae argymhelliad 1 yr adroddiad wedi'i gyfeirio at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a gofynnwyd inni gynnal adolygiad o drefniadau ariannu comisiynwyr Cymru. Nodaf fod yr adroddiad yn cydnabod bod gan bob comisiynydd rolau a chyfrifoldebau gwahanol a bod anghenion ariannu'n amrywio'n unol â hynny, ond ni cheir digon o eglurhad ynghylch y cyfiawnhad sy'n sail i ddyraniadau ariannol gwahanol ac mae'n haeddu craffu pellach.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gwahanol rolau a swyddogaethau comisiynwyr Cymru wedi tyfu fesul tipyn. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyfiawnhau'n well sut y dyrennir adnoddau i bob comisiynydd, ond rwy'n cytuno y byddai adolygiad gan PAPAC, sef y tro cyntaf i waith craffu o'r fath gael ei gyflawni, yn fuddiol ac y byddai'n darparu mewnwelediad pwysig ar gyfer penodi comisiynwyr yn y dyfodol. Felly, rwy'n falch o gadarnhau bod PAPAC wedi derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn craffu ar waith comisiynwyr Cymru yn ystod yr hydref eleni.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cyfeirio at y dirwedd gymhleth y mae'r Ddeddf yn gweithredu ynddi. Mae hwn yn fater a godwyd gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd, a ddaeth i'r casgliad fod
'tirwedd gymhleth a biwrocrataidd cyrff partneriaeth a llu o ofynion deddfwriaethol ac adrodd wedi’i gwneud yn fwy anodd i gyrff cyhoeddus fabwysiadu’r Ddeddf hon ac, ar brydiau, wedi peidio â’i chymell yn weithredol.'
Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i PAPAC yn ddiweddar ar weithrediad yr argymhelliad hwn, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o bartneriaethau strategol yn cynnwys argymhellion clir ar gamau ymarferol i symleiddio tirwedd y bartneriaeth. Fe wnaethom nodi hefyd, o'r diweddariad, yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru i barhau i adolygu trefniadau partneriaethau rhanbarthol, sy'n gorgyffwrdd ag argymhellion y pwyllgor a'n rhagflaenodd. Gobeithiwn felly y bydd casgliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o arweiniad ac eglurder ynghylch sut y bydd y modd y mae gwahanol gyrff yn rhyngweithio o fewn cyd-destun a fframwaith y Ddeddf yn rhoi hwb pellach i symleiddio'r dirwedd or-gymhleth ac yn dileu rhwystr sylweddol i weithrediad y Ddeddf.
Yn ystod y ddadl ddiwethaf yn y Cyfarfod Llawn ar weithredu'r Ddeddf, nodais fod gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar newid diwylliannol y mae angen iddo ddechrau gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar bob lefel mewn cyrff cyhoeddus. Mae'n siomedig fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dod i'r casgliad, er bod cynnydd calonogol yn cael ei wneud ar weithredu'r Ddeddf, fod digon o le i wella, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch rhwng polisi ac ymarfer. Ategaf felly argymhelliad 4 yn adroddiad y pwyllgor, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau ar gyfer ymgorffori'r Ddeddf i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd cyhoeddus yn cael ei llunio gan y ddeddfwriaeth a bod y mesurau sydd ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd ar weithredu'r Ddeddf yn addas i'r diben.
I grynhoi, mae'n hanfodol fod gwaith cydweithredol yn parhau i graffu ar weithrediad y Ddeddf ar draws y Senedd wrth symud ymlaen. Gobeithiwn y bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn a'r gwaith sy'n mynd rhagddo mewn ymateb i adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynnydd tuag at weithredu gwell, ond mae hyn yn parhau i fod yn araf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac at sicrhau y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal rôl allweddol yn monitro cynnydd a dwyn Llywodraeth Cymru, ac eraill sydd â'r dasg o weithredu'r Ddeddf, i gyfrif. Diolch yn fawr.
Mae yna nifer o bethau i'w dathlu am sut y mae blaengaredd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn helpu i lywio gweledigaeth a gweithrediad polisi, ond rŷn ni'n gwybod hefyd bod yna nifer o heriau. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a fu'n craffu ar waith y comisiynydd, rwy'n cytuno bod nifer o gwestiynau pwysig y mae'n hanfodol eu harchwilio a'u datrys os ydym wir am weld y Ddeddf yn cyrraedd ei llawn botensial, a'r angen gwirioneddol am feddylfryd hirdymor wrth lunio polisi sydd yn briodol ac, o'r diwedd, wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar yn sgil y pandemig, yr argyfwng costau byw, ac wrth i ni ymrafael â'r argyfwng hinsawdd.
Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, fe wnaeth y comisiynydd osod mas nifer o broblemau ymarferol sy'n rhwystro effeithlonrwydd y Ddeddf a gwaith ei swyddfa yn sicrhau ffocws ar effaith hirdymor polisïau, a grym cydweithio i ragweld problemau posib. Un o'r materion mwyaf arwyddocaol, dwi'n meddwl, a mwyaf pryderus efallai, yw'r bwlch gweithredu yma rhwng polisi a'r camau ymarferol sy'n cael eu cymryd. Roedd yn destun pryder gwirioneddol bod y comisiynydd yn gallu disgrifio mewn termau mor eglur wrthym dueddiad y Llywodraeth o greu deddfwriaeth, polisïau a chyhoeddi canllawiau heb fawr o ddealltwriaeth o sut byddai hyn i gyd yn cael ei gyflawni, nac o sut y byddai adnoddau digonol ymarferol yn cael eu darparu.
Mae'n ymddangos o'i thystiolaeth hi i ni nad oes yna ddealltwriaeth ddigonol gan rai cyrff cyhoeddus na llawer o'r gwasanaeth sifil ei hun o'r hyn mae'r Ddeddf yn gofyn iddyn nhw ei wneud, a bod gorddibyniaeth felly ar ei swyddfa hi yn sgil y diffyg arbenigedd yma o fewn cyrff cyhoeddus, sy'n llyncu capasiti ac adnoddau. Mae'n dda clywed felly gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei ymateb i argymhellion y pwyllgor bod yna ailddyblu yn yr ymdrechion i gywiro hyn, a chyflymu'r newid sydd ei angen i helpu ailffocysu cyrff cyhoeddus, ac i hyfforddi'r gwasanaeth sifil pan fo'n dod i ddealltwriaeth o'r Ddeddf.
Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tynnu'r pwysau ymgynghori yma oddi ar ysgwyddau swyddfa'r comisiynydd, a fydd yn ei rhyddhau hi i osod a ffocysu ar gyflawni ei chylch gwaith ei hun wrth sicrhau gweithrediad y Ddeddf, gan gynnwys ei hymchwiliadau adran 20 grymus a gwerthfawr. Rhaid i'r bwlch gweithrediad yma ddod yn ganolbwynt, dwi'n meddwl, ar gyfer sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wir yn deilwng o'r ganmoliaeth hael a haeddiannol y mae wedi ei chael yn rhyngwladol.
Mae'r adroddiad craffu, fel rŷm ni wedi clywed, hefyd wedi codi'r cyfle yma i gymryd stoc o'r adnoddau a gynigiwyd i weithredu amcanion y Ddeddf, ac mae'n glir bod y gyllideb sydd ar gael i swyddfa'r comisiynydd yn anghytbwys o gymharu â'r hyn sydd ar gael i'r comisiynwyr eraill, ac yn annigonol i'r gwaith—gwaith, fel rŷm ni wedi clywed, sydd yn cynyddu. Mae gwaith y comisiynydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn, ac ni fyddwn i'n dymuno gweld adnoddau yn cael eu cymharu mewn modd simplistig. Ond mae'n galonogol bod yna gytundeb i asesu cyfrifoldebau a chyllideb yr holl gomisiynwyr, fel awgrymwyd gan y pwyllgor.
Dyma gyfle, cyfle go iawn, i ni adlewyrchu ar un o'n cyfreithiau mwyaf unigryw, ac i rymuso'r Ddeddf. Gallwn ni ddangos i genhedloedd eraill sut i ddiogelu ein cymunedau, ein hamgylchedd, a sut i wneud datblygu cynaliadwy yn gonglfaen i'n trefniadau llywodraethu. Gobeithio bod awydd i wneud hyn i roi dannedd i Ddeddf, a nerth felly i'r comisiynydd i'w galluogi i flodeuo i'w llawn botensial. Diolch.
Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, fy nghyd-Aelodau a chlercod ac ymchwilwyr y pwyllgor. Fel pwyllgor, rydym wedi gosod yr amcan i'n hunain o hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar draws y Senedd, felly mae craffu ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhan hanfodol o hyn. Ac wrth inni agosáu at saith mlynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, mae nawr yn amser arbennig o addas ar ddechrau ein chweched Senedd i fyfyrio a chyflwyno syniadau ar gyfer gwelliannau yn y ffordd y caiff ei deddfu. Mae gan adroddiad ein pwyllgor bedwar argymhelliad allweddol, felly efallai ei fod yn fach, ond mae hefyd yn gryf, er mwyn sicrhau bod ein deddfwriaeth, y gyntaf o’i bath, mor effeithiol â phosibl i bawb.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn falch fod argymhelliad 2 wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru—cynnal gwerthusiad a fydd yn edrych ar gwmpas gwaith a chyfrifoldebau’r comisiynydd, gyda’r bwriad o gefnogi unrhyw ehangu yn y dyfodol. Fel rydych newydd ei ddweud, Sioned, mae llawer o resymau pam fod angen gwneud hyn. Yn fwyaf arbennig, credaf y gallai archwilio’r posibilrwydd y gallai swyddfa’r comisiynydd ymgymryd â gwaith achos fod o fudd aruthrol i bobl Cymru. Gwn ein bod, yn fy etholaeth i, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ymgyrch yn ddiweddar lle roedd y gymuned leol yn awyddus i ddiogelu caeau Bracla, fel rydym yn eu galw, a gwnaethant ysgrifennu at gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a ysgrifennodd lythyr yn ôl yn rhoi hwb mawr iddynt gyda'u hymgyrch. Ond pe baent wedi cael mwy o arweiniad ar sut y gallent fod wedi ymladd dros eu hymgyrch yn unol â’r ddeddfwriaeth, credaf y byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn ychwanegol at hynny, rhan o’r argymhelliad yw y dylid cynnal gwerthusiad cyn penodi comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol newydd yn 2023. Felly, wrth inni ddechrau edrych at gyfnod y comisiynydd nesaf yn y swydd, hoffwn ddiolch i’n comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol cyntaf, Sophie Howe, a’i thîm am bopeth y maent yn parhau i’w wneud yn darparu tystiolaeth ac awgrymiadau ar sut i gryfhau’r swydd wrth symud ymlaen, a’r nodau.
Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4, ac yn benodol, ymrwymo i nodi cynlluniau ar gyfer sut i fonitro a gwerthuso cynnydd ar weithredu’r Ddeddf a sicrhau ei bod yn addas i'r diben ar draws cyrff cyhoeddus. Unwaith eto, cyfeiriaf at yr hyn sy’n digwydd yn fy etholaeth i, lle mae gennym lawer o brosiectau a chynlluniau gwych ar y gweill ar gyfer adfywio. Fodd bynnag, pan gyfarfûm â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i gael sgwrs am rai o’r rhain a ph'un a oeddent yn cyd-fynd â’r cynlluniau a’r ddeddfwriaeth ai peidio, nid yw’n rhywbeth y gallant ymchwilio iddo ar y pryd; mae'n rhywbeth a fydd yn cael ei asesu'n ddiweddarach gyda'r adroddiadau cyfnodol hyn a gynhyrchir. Yn anffodus, er ei bod efallai'n anfwriadol nad yw wedi cyd-fynd, golyga hynny ei bod yn ddiffygiol, a bod penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud na ellir eu dadwneud.
Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Parhaol am ymateb i argymhelliad 3, sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod cyflogeion Llywodraeth Cymru yn deall y Ddeddf yn llawn ac yn cydymffurfio â hi, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf am raglen tair blynedd 2025 Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sefydliadol a lansiwyd yn ddiweddar, yn ogystal â llwyfan i’r gweithlu allu rhoi adborth a sôn am y newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, gwnaeth y comisiynydd y pwynt ei bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu cryn dipyn ar eu swyddfa am gymorth, ac i roi adborth ar y gwaith y mae’n ei wneud a ph'un a yw’n cyd-fynd â’r nodau a'r ddeddfwriaeth. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd hyfforddiant yn golygu bod hynny’n lleihau a bod gan swyddfa’r comisiynydd amser i wneud gwaith arall.
Rwyf am gloi drwy ddweud, er nad yw wedi'i dderbyn, y credaf y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, pan fydd ganddo gapasiti, gynnal adolygiad o drefniadau ariannu comisiynwyr Cymru. Clywsom gan Jenny a Sioned ynglŷn â'r rhesymau pam fod hyn yn berthnasol iawn, a chredaf o bosibl y gallai hynny gynnwys rhannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa a staff yn gyffredinol.
Ar y cyfan, rwy’n fodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru—diolch, Weinidog—ac rwy’n hyderus y cânt eu cymryd o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd ein deddfwriaeth, y gyntaf o'i bath yn y byd, yn cryfhau ac yn gwella canlyniadau ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, a chyd-Aelodau ar y pwyllgor. Wrth i dymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol ddod i ben, mae’n ddefnyddiol ystyried yr effaith y mae’r comisiynydd a’i swyddfa wedi’i chael. Er nad yw bob amser yn hawdd bod y cyntaf mewn rôl mor arloesol, mae'n gyfle i osod safon. Nid yw’r comisiynydd wedi osgoi cyfrannu at bynciau heriol ac anodd fel ffordd liniaru’r M4, newid hinsawdd a gwasanaethau cyhoeddus. Yn naturiol, byddai’n hawdd i wleidyddion ymosod ar y comisiynydd am beidio â chanolbwyntio ar y pethau y maent hwy am iddi eu gwneud, neu i ddisgwyl i’r comisiynydd ochri â hwy ar faterion penodol. Ond nid dyna ddiben y rôl hon; rôl y comisiynydd yw herio pob un ohonom ar y penderfyniadau a wnawn, a sut i sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd, diogelu at y dyfodol, yr hyn a wnawn a’r hyn a wariwn wrth wraidd y penderfyniadau hynny er mwyn diogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol a fydd yn wynebu cymaint o heriau.
Rydym wedi disgwyl i’r comisiynydd wneud cymaint yn y tymor cyntaf hwn. Rwyf i wedi bod yn bryderus iawn am y lefel barhaus o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru, ac efallai y bydd y comisiynydd nesaf yn nodi hyn. Yn 2018, argymhellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y dylid gweithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol. Golyga hyn fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau cymdeithasol. Gwnaethant nodi cyfres o amcanion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac un ohonynt oedd sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl wedi eu llesteirio gan rwystrau. Mae’r ffeithiau’n syml: mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol; mae chwarter y rhieni'n mynd heb brydau bwyd yn aml; ac mae 45 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Gall tlodi gael effaith fawr ar blant yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gall tlodi gael effaith andwyol ar eu haddysg, felly bydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus yn anoddach. Os yw plentyn yn mynd heb brydau bwyd, gall hynny gael effaith ar eu hiechyd cyffredinol yn ddiweddarach. Cyflwynwyd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i wella bywydau pobl ar incwm isel. Mae’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn gwario 26.2 y cant o’u hincwm ar ynni a bwyd. Dyma un o'r ffigurau uchaf yn y DU. Gyda'r argyfwng costau byw, bydd hyn yn siŵr o godi. Mae’r darlun economaidd newidiol yn golygu bod angen i Lywodraeth a chyrff cyhoeddus feddwl, gweithio a chyflawni’n wahanol os ydym am fod yn ddigon ystwyth a chreadigol i ymateb i’r heriau presennol hyn sy’n bygwth datblygiad cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Wrth inni ddod at flwyddyn olaf tymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol, mae angen adolygiad ar fyrder o’r modd y darperir adnoddau ar gyfer y rôl. Mae’r comisiynydd wedi dangos didueddrwydd sylweddol wrth gyflawni ei dyletswyddau, gan fynd i’r afael â materion pwysig sydd wedi dangos gwerth y swydd, a meddwl am y darlun ehangach a sut i sicrhau bod pob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd arnynt. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ei galluogi i gyflawni ei rôl oherwydd diffyg cyllideb. Ac yn fy marn i, os ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rôl hon yn llwyddiant, mae'n rhaid i'r adnoddau fod yn ystyriaeth. Mae rôl y comisiynydd yn cynnwys cefnogi 44 o gyrff cyhoeddus, 16 o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gyda 368 o amcanion llesiant. Yn ei geiriau ei hun, disgrifiwyd hyn fel tasg amhosibl. Yn ei chyflwr presennol, ni chredaf fod rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn addas i'r diben er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar Gymru. Os yw rôl y comisiynydd i barhau, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y swydd yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni gofynion y Ddeddf. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn innau ddiolch i'r Cadeirydd, i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r ymchwilwyr am y gwaith a gyflawnwyd. A hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei gwaith arloesol, am herio llunwyr polisi yn gyson ac yn adeiladol, ac am fod yn ffyrnig o annibynnol.
Hoffwn sôn yn gryno am argymhelliad 1, os caf. Fel y gwelwch yn adroddiad y pwyllgor, mae £13 miliwn o arian trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi yn swyddfeydd y comisiynwyr a’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. A chredaf y byddai’n hynod fuddiol archwilio pa swyddogaethau y gellid eu cydweithredu a’u cyfuno er mwyn darparu arbedion i’r rheng flaen, i sicrhau bod rhagoriaeth yn cael ei rhannu ar draws pob un o’r swyddfeydd, gan eu bod yn rhagori mewn llawer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, credaf fod swyddfa cenedlaethau’r dyfodol yn rhagori o ran cyfathrebu a rhagoriaeth ymchwil; mae swyddfeydd eraill yn rhagori o ran gwaith eirioli. A chredaf y byddai’n werthfawr iawn pe gallai pob un o swyddfeydd y comisiynwyr archwilio pa fath o ragoriaeth, pa gryfderau penodol y gellir eu rhannu a’u cyfuno. Ond ni ddylid cynnal adolygiad o'r fath ar ei ben ei hun; ni ddylid ei ystyried yn waith sy’n annibynnol ar bopeth arall. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar swyddogaethau cyrff a sefydliadau eraill y gellid eu rhannu yn ysbryd cydweithredu, yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn ysgogi rhagoriaeth, rhannu rhagoriaeth a sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad â phosibl yn mynd i'r rheng flaen. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad ar y gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac am eich cyfraniadau heddiw. Rwy'n croesawu parhad y sgwrs y buom yn ei chael yn y Senedd ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio deddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol i roi Cymru ar lwybr mwy cynaliadwy.
Mae’r ddadl heddiw'n ymwneud â gwaith y comisiynydd a’i hadroddiad blynyddol, a hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar am waith y comisiynydd a’i swyddfa yn cefnogi newidiadau cynaliadwy ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru, a diolch iddi hi a'i thîm am sefydlu’r swyddfa mewn ffordd mor bwerus ac arwyddocaol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn herio ac yn galluogi pob un ohonom i feddwl am y tymor hir, fel y dywedwyd, fel y gallwn adael etifeddiaeth well gyda’n gilydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac mae rôl y comisiynydd yn rhan hanfodol, sydd bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, o'r gwaith o weithredu’r Ddeddf, o ganlyniad i waith a dylanwad y comisiynydd a’i thîm, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan adroddiadau’r comisiynydd, sy’n tynnu sylw at arferion da ledled Cymru o ran rhoi'r Ddeddf hon ar waith.
Mae ein camau gweithredu a’n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i gyflawni ein hamcanion llesiant, gan nodi meysydd lle y gallwn integreiddio dulliau gweithredu a chyfrannu at lunio dyfodol Cymru. Rwy’n arbennig o falch fod y pwyllgor a’r comisiynydd wedi croesawu’r ffaith ein bod yn parhau i gryfhau ein hymrwymiad gwleidyddol a’n harweinyddiaeth ar yr agenda hon, ac mae’n ymrwymiad trawslywodraethol, yn amlwg, gan fod gwelliannau o ran integreiddio a gweithredu'r Ddeddf wedi’u gwreiddio yn y ffordd y mae hynny wedi'i gyflwyno, unwaith eto, gan y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, fel y gellir ei rhoi ar waith i'r diben hwnnw ar lefel polisi strategol.
Gan droi at adroddiad y pwyllgor, fel y nodwyd, rydym wedi derbyn argymhellion 2 a 4. Yn argymhelliad 2, rydym yn cydnabod y bydd ehangu’r rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf yn cynyddu nifer y cyrff y mae dyletswydd a swyddogaethau cyffredinol y comisiynydd yn berthnasol iddynt. A hoffwn roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor a'r Aelodau ein bod yn cael trafodaethau gyda swyddfa'r comisiynydd ynglŷn â'r goblygiadau ariannol ar gyfer ei swyddfa. Ond rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio’r cwmpas a’r angen i werthuso’r Ddeddf, a allai gynnwys asesiad o rôl a swyddogaethau’r comisiynydd, a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth i’r pwyllgor am y gwerthusiad hwn maes o law, a byddwn yn croesawu cyfraniad y pwyllgor yn y gwaith hwn.
Mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad yn ymwneud â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Mae’n fater i’r Ysgrifennydd Parhaol, sydd wedi rhoi ymateb ar wahân i’r pwyllgor. Ond credaf fod gennym enghreifftiau, ac rwyf am roi un neu ddwy, o’r newid cyfeiriad a’r ffordd y caiff Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol ei rhoi ar waith, ac wedi cael effaith enfawr ar waith datblygu polisi a chyflawni polisi, a datblygu gwasanaethau wedyn, gan ein gwasanaeth sifil.
Ar argymhelliad 4, mae a wnelo â chynlluniau ar gyfer ymwreiddio’r Ddeddf. Hoffwn amlinellu rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a chydnabod hefyd fod hwn yn bwynt allweddol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda’r 10 amcan llesiant sydd wrth ei gwraidd, yn dangos rôl hollbwysig y Ddeddf yn ein ffordd o feddwl a’n polisïau. Mae gennym bellach 50 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol a naw carreg filltir genedlaethol ar waith, ac mae hynny’n ein helpu i fonitro cynnydd tuag at ein saith nod llesiant. Ochr yn ochr â’n hadroddiad tueddiadau’r dyfodol, mae’r mecanweithiau hyn yn adlewyrchu’r arferion gorau wrth ymateb i agenda’r Bil datblygu cynaliadwy a sicrhau bod fframwaith llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i fod yn berthnasol i Gymru yn 2022 ac yn hirdymor. Mae ein fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig iawn. Mae’n parhau i’n cynghori a’n cefnogi, ac yn ddiweddar, mynychais un o sesiynau'r fforwm a oedd yn trafod pwysigrwydd amrywiaeth o fewn agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw ein hymgais i gyrraedd y nodau llesiant yn dal unrhyw yn ôl nac yn gadael unrhyw un ar ôl. Ac roedd y digwyddiad hwn yn bwysig ynddo'i hun gan ei fod yn allweddol wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhannu arferion da gyda'i gilydd, ac nid yn unig yn mynd i'r afael â'r rhain o'u safbwyntiau eu hunain, ond yn rhannu arferion da, fel bod hynny'n arwain at lawer o waith dilynol, a dangos sut y gellir rhoi pethau ar waith, yn aml, pan fydd hynny'n digwydd mewn partneriaeth. Felly, roedd honno’n enghraifft wirioneddol dda o sut rydym yn ymwreiddio’r Ddeddf. Ond gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad, fe fyddwn, ac rydym, yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyfathrebu'n well y camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ymhellach yn y ffordd y gweithiwn.
Ychydig enghreifftiau nodedig o lle mae’r Ddeddf wedi bod yn sail i’n gwaith ar lefel leol: cawsom ambell enghraifft gan yr Aelodau heddiw, yn ogystal ag ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn Llywodraeth Cymru. Ac unwaith eto, diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am gydnabod hefyd yr enghreifftiau hynny o arferion da lle mae cyrff cyhoeddus wedi newid y ffordd y maent yn gweithio, a chanlyniadau hynny yw'r hyn yr edrychwn amdano. Mae cymunedau a rhanbarthau ledled Cymru wedi’u hysbrydoli gan fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac mae’n enghraifft dda sy'n dod â phartneriaid ynghyd i feddwl am y cydweithio hirdymor gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys cymunedau er mwyn cael y gorau o dirweddau unigryw a gwerthfawr Cymru, a chyfuno natur gydag ysbryd cymunedol, datblygu economaidd, addysgu pobl am faterion hinsawdd a sicrhau bod sgiliau'n cael eu haddysgu ar draws yr ardal. A diolch, Gadeirydd, am gyfeirio at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn mabwysiadu fframwaith y Ddeddf hon.
Mae ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus hefyd wedi defnyddio’r Ddeddf fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol. Un enghraifft: partneriaeth ymchwil a deall gogledd Cymru, sy'n dod â thimau o bedwar bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru ynghyd, ynghyd â'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol—diddorol sut y mae hynny wedi dod at ei gilydd. Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Data Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru—maent yn datblygu dulliau arloesol o ymgysylltu â dinasyddion, gan gynnwys y peilot dadansoddiad dinasyddion, gan ddangos ymrwymiad cadarn i gynnwys dinasyddion yn eu gwaith.
Felly, yn olaf gennyf fi, Ddirprwy Lywydd, mae gennym ddwy enghraifft yn Llywodraeth Cymru o ffyrdd yr ydym wedi defnyddio'r Ddeddf yn rhagweithiol iawn: cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, y cynllun peilot ar incwm sylfaenol—byddaf yn gwneud datganiad ar hyn cyn bo hir—ac rydym yn rhannu uchelgais y pwyllgor a'r comisiynydd ynglŷn â sut y defnyddiwn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i barhau i ddysgu a gwella'r ffordd y mae'r Llywodraeth a'r sector cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud, yn amlwg, ond rwy'n gobeithio y bydd fy enghreifftiau wrth ymateb i’r ddadl o arferion sy'n cyflawni daliadau allweddol y Ddeddf yn rhoi anogaeth i Aelodau. Rwy'n croesawu craffu cydweithredol ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y gall y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a alluogir gan y Ddeddf chwarae eu rhan yn y gwaith o gyflawni saith nod llesiant i Gymru.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Felly, dechreuasom drwy glywed gan Mark Isherwood, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Yn amlwg, llawer o eiriau cynnes am bwysigrwydd y gwaith hwn. Yr hyn na chlywais yn eich cyfraniad oedd amserlen ar gyfer y gwaith y mae angen i chi ei wneud. Oherwydd mae gwir angen inni wybod sut yr ewch ati i'w gyflawni a phryd y gallech ddod i gasgliadau sy'n mynd i fod yn bwysig iawn wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o benodi'r comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nesaf.
Mae'n ddrwg gennyf os gwnaethoch ei golli. Dywedais ei bod yn ein rhaglen waith, ac y byddwn yn ei wneud yn sesiwn y Senedd yn yr hydref. Byddwn yn trin hyn fel mater blaenoriaethol yn hytrach na rhywbeth a fydd yn cymryd wythnosau a misoedd cyn bod gennym unrhyw beth i'w adrodd.
Diolch, Mark, ac mae'n ddrwg gennyf os collais hynny—mae hynny'n bwysig iawn i'w gael wedi'i gofnodi'n gyhoeddus, gan ei bod yn hanfodol—. Mae hwn yn amser da iawn i wneud y gwaith hwn, gan y gwyddom fod Sophie Howe wedi bod yn benodiad cwbl ragorol i'r rôl arbennig hon, oherwydd yr amlygrwydd y mae wedi’i roi i’r Ddeddf a’r ffordd y mae angen i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â hi.
Felly, nawr yw'r amser i adolygu rôl swyddfa comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond hefyd i edrych ar yr holl bobl annibynnol eraill sy'n gyfrifol am graffu'n annibynnol ar gyrff cyhoeddus. Felly, diolch yn fawr iawn ichi am hynny, ond rwy'n cytuno gyda chi hefyd ar y pwyntiau a wnaethoch am bwysigrwydd newid diwylliannol, gwneud pobl yn ymwybodol a deall hefyd beth y mae'r geiriau ar y dudalen yn ei olygu mewn gwirionedd yn y ffordd yr ydym yn trosi polisi'n weithredu.
Soniodd Sioned Williams am argymhelliad 2 mewn perthynas â hyfforddiant a—3, mae'n ddrwg gennyf, ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff Llywodraeth Cymru a phwysigrwydd sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru'n or-ddibynnol ar swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sy'n digwydd bod wedi ei chydleoli yn ein prifddinas. Credaf fod agosrwydd daearyddol, yn amlwg, yn aml yn chwarae rhan yn yr holl bethau hyn. Mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl swyddogion yn deall pwysigrwydd ei Deddf ei hun. Llywodraeth Cymru a gynigiodd y Ddeddf hon. Gwnaeth Carl Sargeant ei llunio'n rhywbeth sydd wedi bod yn fenter wirioneddol bwysig, ond mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon o waith ar ei phen ei hun i gyfarwyddo ei swyddogion er mwyn rhyddhau amser i'r comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol allu ymdrin â chyrff cyhoeddus eraill. Mae 45 o gyrff eraill yn rhan o hyn, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ystyried eu hanghenion hwy, ac yn aml maent yn sefydliadau llawer llai, sy'n llawer llai tebygol o gynnwys arbenigwyr.
Gofynnodd Sarah Murphy gwestiwn diddorol, sef: a ddylai comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol ymgymryd â gwaith achos? Dangosodd hynny gydag ymgyrch leol yn ei hetholaeth, gan ein hatgoffa hefyd am bwysigrwydd ymgynghori â'r gweithlu ynglŷn â sut y mae hyn yn edrych iddynt hwy. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a bydd yn codi eto mewn perthynas â'r Bil partneriaeth gymdeithasol.
Canolbwyntiodd Altaf Hussain ar y Gymru fyd-eang a mwy cyfartal, sy'n bwysig iawn, a'r penderfyniadau anodd y mae rhieni'n gorfod eu gwneud, gan fynd heb brydau bwyd er mwyn bwydo eu plentyn, a'r ffaith bod cynifer o aelwydydd bellach dan fygythiad tlodi tanwydd. Felly, mae'n gwbl bwysig ein bod yn sicrhau bod gwaith comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn canolbwyntio ar hynny lawn cymaint ag unrhyw beth arall. Ond mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain hefyd nad yw cynhyrchu adroddiadau trwchus o reidrwydd yn mynd â ni i lle mae angen inni fod, a bod 365 o amcanion llesiant—diolch am ein hatgoffa o hynny—yn ei gwneud yn dasg amhosibl. Mae gwir angen inni fireinio'r rheini'n niferoedd llai er mwyn iddynt allu bod yn fwy effeithiol.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Ken Skates fod Sophie Howe wedi bod yn ffyrnig o annibynnol ac wedi gwneud gwaith gwych yn gosod y bar ar gyfer unrhyw olynydd, a phwysigrwydd mynd i'r afael â'r ffordd yr ydym yn rhannu rhagoriaeth ac yn cael adnoddau i'r rheng flaen. Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau—. Mae'r cynllun gweithredu economaidd a gynigiwyd gan Ken Skates, yn amlwg, yn debygol o gael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth drwy'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael. Bydd yn dod â chyrff preifat sydd am gontractio gyda chyrff cyhoeddus i mewn i'r Ddeddf, ac felly, rhaid inni gael hyn yn iawn a'i wneud yn rhywbeth sy'n gydlynol ac yn hylaw, yn dreuliadwy.
Unwaith eto, rhoddodd Sophie Howe enghreifftiau rhagorol o'r ffordd y mae ei swyddfa wedi gweithredu'r Ddeddf, y cynllun gweithredu gwrth-hiliol, y cynllun peilot o'r warant isafswm incwm, ac rwy'n gwbl hyderus fod y Gweinidog yn arwain yr ymrwymiad trawslywodraethol hwnnw mewn gwirionedd. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld y Gweinidog cyllid yn gwrando'n astud ar y ddadl hon, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn gwbl berthnasol i'r penderfyniadau anodd iawn y mae'n rhaid i Rebecca eu gwneud wrth lunio'r gyllideb nesaf.
Felly, cytunaf yn llwyr â'r Gweinidog fod cwmpasu a gwerthuso gweithrediad y Ddeddf yn garreg filltir bwysig iawn i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Felly, mae gennym dasg anodd o'n blaenau, ond mae gwir angen inni fod yn gydlynol ac yn gynhwysol, ac fel y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ein hatgoffa'n briodol, ni allwn allanoli ein hallyriadau carbon byd-eang. Mae gennym gyfrifoldeb byd-eang, felly nid yw dweud, 'Rydym yn mynd i wneud x fel bod gennym lai o allyriadau yng Nghymru'—. Rhaid inni sicrhau ein bod yn byw ein bywydau'n wahanol er mwyn inni fod yn gyfrifol yn fyd-eang a rhannu baich—
Mae angen i chi ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—yr heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.