– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 28 Mehefin 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein camau i ymdrin â mater cymhleth a sensitif. Bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymdrin â diogelwch adeiladau yng Nghymru ac yn parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglen adfer adeiladau, ochr yn ochr â rhaglen sylweddol o ddiwygio, i sefydlu gweithdrefn diogelwch adeiladau addas i'r diben yng Nghymru.
Wrth wraidd ein dull o adfer mae'r egwyddor y dylai datblygwyr gyfrannu at gostau datrys y problemau hyn, ac ni ddylai lesddeiliaid orfod talu am broblemau diogelwch tân nad ydyn nhw wedi eu creu eu hunain. Ers agor cronfa diogelwch adeiladau Cymru, rydym ni wedi derbyn 258 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bersonau cyfrifol sy'n gwybod neu'n amau y gallai fod gan eu hadeilad ddiffygion diogelwch tân.
Rydym ni wedi cwblhau arolygon digidol ar gyfer pob un o'r rhain ac wedi nodi 161 o adeiladau sydd angen gwaith arolygu ymwthiol arall. Bydd hyn yn golygu bod ein syrfewyr yn cynnal ymchwiliad manwl i faterion diogelwch tân mewnol ac allanol, fel cladin ac adraniadau. Mae'r gwaith wedi dechrau a bydd yn parhau dros yr haf.
Er ein bod yn parhau i dderbyn datganiadau o ddiddordeb, rwy'n deall bod rhai personau cyfrifol o hyd nad ydyn nhw wedi ymgysylltu ac sy'n dal i drosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae hyn yn siomedig dros ben, ac rwy'n annog unrhyw lesddeiliad yn y sefyllfa hon, sy'n gwybod neu'n amau bod materion diogelwch tân yn effeithio ar eu hadeilad, i gysylltu â fy swyddogion, a all eu cefnogi i ddatblygu datganiad o ddiddordeb.
Rwyf i wedi siarad â llawer o lesddeiliaid ac yn parhau i gwrdd â thrigolion mewn adeiladau y mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnyn nhw ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith costau yswiriant uwch, taliadau gwasanaeth uwch, a'r anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth ailforgeisio neu werthu eu cartrefi. Rwyf i wedi ysgrifennu at bob asiant rheoli yng Nghymru i'w gwneud yn glir fy mod wedi neilltuo £375 miliwn i dalu am gostau adfer adeiladau, ac rwyf i wedi datgan yn gyhoeddus dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiffygion diogelwch tân.
Rwyf i hefyd yn cymryd camau ar ddatblygwyr. Roeddwn i'n siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig, er gwaethaf nifer o gyfarfodydd lle'r oedd y Llywodraethau datganoledig yn ei gwneud yn glir mai dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan oedd y gorau i lesddeiliaid. Rwy'n falch o ddweud, fodd bynnag, ein bod ni wedi symud Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn a'n bod ni hefyd wedi symud yn gyflym i weithredu dull tebyg yma yng Nghymru.
Rwyf i wedi ysgrifennu at ddatblygwyr a'u gwahodd i gwrdd â mi. Rwy'n falch o ddweud bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi cytuno i gyfarfod a thrafod eu cynlluniau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi rhestr o ddatblygwyr sydd wedi dewis peidio ag ymgysylltu, ac rwy'n archwilio pa gamau eraill y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd gyda datblygwyr sy'n parhau i beidio ag ymgysylltu.
Rwy'n deall, serch hynny, i rai trigolion mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio arnyn nhw, na fydd y newidiadau hyn yn dod yn ddigon buan. Er mwyn cefnogi'r rheini sydd yng nghanol y caledi ariannol mwyaf brys, neu sydd yn ei wynebu, agorodd y cynllun cymorth lesddeiliaid ddoe ar gyfer ceisiadau. Bydd y cynllun newydd hwn yn darparu cyngor annibynnol yn benodol ar gyfer lesddeiliaid mewn cartrefi sydd wedi'u heffeithio. Mae'r pecyn cymorth wedi'i dargedu at lesddeiliaid sy'n berchen-feddianwyr, a'r rhai sydd wedi dod yn breswylwyr sydd wedi'u dadleoli. Fodd bynnag, byddwn ni'n monitro ceisiadau ac yn adolygu meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn cael cyfle i fanteisio ar y cynllun.
Bydd pob lesddeiliad sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol, gyda'r costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyngor yn eu cefnogi i wneud y dewis cywir iddyn nhw, gan gydnabod y bydd yr amgylchiadau'n wahanol i bob aelwyd. Os mai gwerthu eu heiddo yw'r llwybr cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am werth teg i'r farchnad. Mae canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, nawr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu'r cynllun hwn yn gyflym. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyso cywir a'r prosesau cymorth.
Ochr yn ochr â'r rhaglen hon o gefnogi ac adfer adeiladau, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar y newidiadau diwylliannol a'r diwygiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i atal y sefyllfa hon rhag codi eto. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd elfennau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn berthnasol yma yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn ein galluogi ni i ddiwygio'r system rheoli adeiladu, er mwyn helpu i atal trychineb fel Grenfell rhag digwydd eto. Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno nifer o ddarpariaethau pwysig sydd â'r nod o wella hawliau prynwyr cartrefi, gan gynnwys ymestyn hawliau gweithredu a chreu'r ombwdsmon cartrefi newydd.
Rwyf i eisiau sicrhau bod ein diwygiadau diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hygyrch i bobl. Byddwn yn parhau i ymgymryd â chyfres o fesurau i ymgysylltu'n uniongyrchol â lesddeiliaid a thenantiaid er mwyn cael amrywiaeth eang o safbwyntiau preswylwyr. Bydd y gwaith hwn yn helpu i gryfhau llais y preswylydd ymhellach fel ei fod yn parhau i fod wrth wraidd ein datblygiad polisi.
Yn anffodus, nid oes atebion cyflym na hawdd, ac ni allaf i gyfaddawdu ar gyflawni'r ateb cywir, cynaliadwy. Mae unrhyw beth arall yn gadael y drws yn agored i faterion eraill sy'n codi. Mae'n bwysig bod y materion hyn yn cael eu datrys unwaith ac am byth. Rhaid i ni wneud hyn yn iawn i'w gael yn iawn nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Croesawaf i'r ymrwymiad parhaus gan Blaid Cymru i'r agenda hon ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'u Haelod dynodedig ar ein nod cyfunol, i sicrhau bod ein hadeiladau mor ddiogel â phosibl o'r cychwyn cyntaf. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae'n anodd sylweddoli, Gweinidog, on'd yw hi, bum mlynedd yn ddiweddarach wedi trasiedi Grenfell, fod trigolion yng Nghymru yn dal i wynebu baich ariannol cladin a risgiau diogelwch tân eraill, oherwydd, rwy'n credu, weithiau, mae'r agenda newydd fod yn sôn am gladin, ac rydych chi wedi tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod agweddau eraill ar rai adeiladau sy'n risg o ran diogelwch tân.
Rydym ni nawr yn gweld pobl mewn perygl o fethdaliad ac o bosibl yn colli eu cartrefi. Fel y gwyddoch chi, mae lesddeiliaid wedi gweld eu taliadau gwasanaeth ac yswiriant yn cynyddu'n sylweddol. Ddoe ddiwethaf, cefais i e-bost gan rywun y tu allan i fy etholaeth, a gododd gyda mi ei phryderon fel lesddeiliad yn berchen ar fflat, wedi'i phrynu gan Redrow, ac wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae trigolion yno wedi gweld costau gwasanaethau'n cynyddu o £3,000 i bron £7,800 y flwyddyn, ac adroddiadau'n dangos bod premiymau yswiriant adeiladu yn cynyddu'n esbonyddol hyd at 1,000 y cant.
I'r gwrthwyneb, os edrychwn ni ar y gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, mae pecyn o fesurau i ddiogelu lesddeiliaid rhag costau ariannol adfer cladin ac agweddau eraill wedi'i gyflwyno. Fel rhan o'r mesurau a gafodd eu cyhoeddi, gwnaeth Llywodraeth y DU roi mewn cyfraith ei gwarant ei hun, sef na fyddai'n rhaid i unrhyw lesddeiliaid sy'n byw mewn adeiladau canolig neu uchel dalu am gael gwared ar y cladin hwn. At hynny, mae datblygwyr a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb i ariannu gwaith atgyweirio diogelwch adeiladau. Mae dros 35 o ddatblygwyr mwyaf y DU wedi addo adfer adeiladau y maen nhw wedi'u hadeiladu o fewn y 30 mlynedd diwethaf. Felly, gallwch chi ddeall—. Ac mae braidd yn annifyr pan fyddwch chi'n gwneud hyn yn wleidyddol drwy sôn am Blaid Cymru, oherwydd, yn y pen draw, rwy'n credu'n onest nad oes neb wedi eich dal i gyfrif am hyn fwn na'r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, mae angen dewisiadau ariannu pendant ar ein trigolion yng Nghymru.
Gan fynd yn ôl at eich datganiad, gwnaethoch chi sôn am 258 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl gyfrifol sy'n gwybod neu'n amau bod gan eu hadeilad ddiffygion diogelwch tân, a bod angen gwaith arolygu ymwthiol arall ar 161 o adeiladau. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: pa mor sicr ydych chi eich bod chi'n cyrraedd yr holl bobl hynny sydd wedi'u heffeithio mewn gwirionedd? Rwy'n deall bod rhai personau cyfrifol nad ydyn nhw wedi ymgysylltu ac sy'n dal i drosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae hyn yn siomedig iawn, rydych chi'n ei ddweud, ac rydych chi'n annog unrhyw lesddeiliaid yn y sefyllfa hon sy'n gwybod neu'n amau bod materion diogelwch tân yn effeithio ar eu hadeilad i gysylltu â'ch swyddogion. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn mwyaf yw: beth fyddwch chi'n ei wneud os nad ydyn nhw?
Yn amlwg, rydym ni'n ddiolchgar iawn o weld eich bod chi wedi rhoi £375 miliwn i dalu am gostau adfer adeiladau, a'ch bod chi wedi datgan yn gyhoeddus dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiffygion diogelwch tân. Ond pan fyddaf i wedi gweld pobl eraill dan sylw, sy'n byw yn rhai o'r eiddo hyn, maen nhw'n teimlo ar eu pennau eu hunain o ran sut y maen nhw'n gwybod y byddan nhw'n cael eu cynnwys yn eich cynlluniau os nad yw'r bobl sy'n gyfrifol am eu hadeiladau—efallai'r cwmnïau rheoli—yn cysylltu â chi mewn gwirionedd. Felly, gallwch chi ddeall y pryderon yno.
Yn y bôn, mewn gwirionedd, gwelaf i fod y cynllun cymorth lesddeiliaid wedi agor ddoe ar gyfer ceisiadau. A wnewch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, Gweinidog? A gwnaf i ddweud hyn eto: mae'r Ceidwadwyr Cymreig ar eich ochr chi o ran y datblygwyr hyn, sydd wedi gadael y trigolion hyn, y perchnogion cartrefi tlawd hyn mewn sefyllfa mor drasig. Felly, byddwn i'n dweud eto: ni ddylai hyn gael ei wneud yn wleidyddol; rwy'n argyhoeddedig bod gennym ni gefnogaeth o bob plaid yn y Siambr hon, ond mae gwir angen i ni sicrhau nad oes yr un deiliad tŷ yn cael ei adael ar ôl pan ddaw'n fater o sicrhau bod eu cartrefi'n ddiogel i fyw ynddyn nhw. Diolch.
Diolch, Janet. Rwy'n credu imi ateb eich holl gwestiynau yn fy natganiad. Ond i ailadrodd, os oes unrhyw un yn credu nad yw eu cwmni rheoli, neu'r trefniadau rheoli ar gyfer eu hadeilad—oherwydd bod amrywiaeth enfawr o ffyrdd cymhleth o reoli'r adeiladau hyn—wedi'u cynnwys, yna cysylltwch yn uniongyrchol â ni. Mae'n ddigon hawdd i'w wneud—gallwch chi anfon e-bost ataf yn uniongyrchol os oes angen. Felly, mae'n hawdd ei wneud. Byddwn ni'n cadarnhau bod yr adeilad wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn y datganiadau o ddiddordeb, er mwyn tawelu meddyliau pobl os yw wedi'i gynnwys ac nad ydyn nhw'n gwybod hynny, ac mae hynny wedi digwydd. Neu, os nad ydyn nhw wedi'u cynnwys, yna byddwn ni'n mynd y filltir ychwanegol i gysylltu â'r trefniadau rheoli ar gyfer yr adeilad hwnnw, a sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud i'r bobl hynny wneud cais. Ond yn y diwedd, alla i ddim gwneud iddyn nhw, a dyna un o'r problemau.
Felly, un o'r materion sy'n ymwneud â'r ffordd y caiff yr adeiladau hyn eu rheoli yw un o'r pethau y mae angen i ni ymdrin ag ef, ac un o'r pethau yr ydym ni'n aros amdano ar hyn o bryd yw gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y pecyn diwygio lesddaliad ehangach y mae angen iddo ddod yn sgîl y rhain i gyd. Roeddwn i'n siomedig nad oedd hynny yn Araith y Frenhines, ond rydym ni'n dawel ein meddwl ei fod yn dod, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny, oherwydd mae gennym ni broblemau eithriadol o debyg ledled Cymru a Lloegr. Mae'n wahanol iawn yn yr Alban, lle mae ganddyn nhw system wahanol.
Felly, rwyf yn gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni ar hynny. Roeddem ni'n siomedig eu bod nhw wedi ein hepgor ni o'r cynlluniau gwreiddiol, ond, a bod yn deg, maen nhw nawr bellach wedi penderfynu gweithio gyda ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ac yn ogystal â hyn, rydym ni wedi bod yn gwneud nifer o bethau ein hunain. Felly, roeddwn ni eisoes yn cyfarfod â'r datblygwyr cyn i Lywodraeth y DU ddechrau. Pan ddechreuodd Llywodraeth y DU gyfarfod â datblygwyr, yna, yn amlwg, mae ganddyn nhw bocedi llawer dyfnach na ni, ac felly, yn anffodus collodd datblygwyr ddiddordeb mewn siarad â ni. Fodd bynnag, maen nhw wedi adennill y diddordeb hwnnw, ac rwyf i'n falch iawn o hynny. Ac mae gennym ni amrywiaeth o ddatblygwyr yn dweud y byddan nhw'n llofnodi'r addewid ar gyfer Cymru hefyd; mae Redrow yn un o'r rheini. Mewn gwirionedd, nid yw'r contract wedi'i gwblhau'n derfynol gyda Llywodraeth y DU eto, felly, pan fydd hynny'n digwydd, caiff ei ymestyn i Gymru gan y datblygwyr hynny sydd eisoes wedi dweud ar goedd y byddan nhw'n gwneud hynny. Ac mae gennyf i amrywiaeth o gyfarfodydd gyda datblygwyr beth bynnag, wrth symud ymlaen, yng Nghymru, i geisio gweld beth y gallwn ni ei wneud.
O ran y pwynt yswiriant, yn fyr iawn, rydym ni wedi trafod hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen cynllun tebyg iawn i'r cynllun Flood Re arnom ni, ac felly, mewn gwirionedd, mae arnaf i ofn, dim ond Llywodraeth y DU all wneud hynny. Nid oes gennym ni'r grym i allu gwneud hynny. Felly, rydym ni wedi bod yn eu gwthio i wneud hynny, ac rwyf i'n obeithiol y byddwn ni, yn y grŵp rhyng-weinidogol nesaf, yn gallu trafod sut a phryd y byddan nhw'n gallu dod â'r yswirwyr i'r bwrdd. Ac, a dweud y gwir, Janet, byddwn i’n ddiolchgar iawn, iawn am unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i'n helpu ni i gael Llywodraeth y DU i wneud hynny.
Ar ran Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf. Ac rwy'n siŵr bod unrhyw gefnogaeth i lesddeiliaid yn cael ei groesawu'n fawr. Rwyf i hefyd yn gwerthfawrogi'r angen i wneud hyn yn gywir. Roedd yn torri corneli, trachwant â chamarfer a arweiniodd at y sefyllfa drasig hon yn y lle cyntaf, a Llywodraethau olynol yn San Steffan o bob lliw gwleidyddol a anwybyddodd rybuddion diogelwch adeiladu, tra bod datblygwyr yn dewis elw dros bobl. I roi enghraifft: dim ond £10 miliwn y costiodd adnewyddu peryglus Grenfell, a gafodd ei gomisiynu gan gyngor cyfoethocaf y DU. I'r gwrthwyneb, mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r drychineb honno eisoes wedi costio £150 miliwn, ac mae disgwyl iddo basio'r marc £1 biliwn erbyn y diwedd.
Rydym ni wedi gweld, yn dilyn Grenfell, gylch cyflawn o basio'r bai, ac mae cymhlethdod datblygiadau o'r fath wedi gwneud atebolrwydd gwirioneddol bron yn amhosibl. Mae'n sicr yn llawer rhy anodd. Rhaid i ni sicrhau na fydd trychineb o'r fath, a'r cyfle i basio'r baich, fel yr ydym ni wedi'i weld mor aml, byth yn digwydd eto. Mae Michael Gove wedi dweud y byddai'n defnyddio pwerau i fynd ar drywydd asiantau rheoli a datblygwyr nad ydyn nhw'n cydymffurfio. A wnewch chi? A phryd ydych chi'n rhagweld y bydd yr amddiffyniadau lesddeiliad yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn cael eu gweithredu yng Nghymru?
Y cwestiwn yr ydych chi'n ei gael, a'r cwestiwn yr wyf i'n ei gael, ac y mae pob Aelod yma sydd wedi siarad â lesddeiliaid yn ei gael, yw, 'Pryd y daw'r hunllef hon i ben?' Maen nhw'n teimlo eu bod mewn limbo, ac ni allan nhw weld, er gwaethaf y datganiadau gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf yr hyn sy'n cael ei ddweud yn San Steffan, ddiwedd yr hunllef hon. A allwch chi ddarparu unrhyw fath o amserlen i'r lesddeiliaid hyn ynghylch pryd y bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau yng Nghymru?
Roeddwn i'n eithaf balch o ddarllen eich bod chi wedi cysylltu â'r holl asiantau rheoli yng Nghymru a'ch bod chi wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddwch chi'n ymdrin â'r gwaith. Fodd bynnag, rydym ni'n dal i glywed gan lesddeiliaid am asiantau rheoli sy'n dal i wario swm enfawr o'u harian. A gawsoch chi ymateb cadarnhaol gan y rhan fwyaf o'r asiantau? A beth allwn ni ei wneud i sicrhau na fydd mwy o alwadau ariannol yn cael eu rhoi ar lesddeiliaid yn ystod y cyfnod hwn?
Mae gennych chi gefnogaeth drawsbleidiol yma, Gweinidog, ynglŷn â'r egwyddor rhaeadru: rydym ni i gyd yn cytuno mai'r lesddeiliad ddylai fod yr un olaf, ac rydym ni i gyd yn cytuno mai'r datblygwyr eu hunain yw'r bobl gyntaf a ddylai fod yn talu. Yn dilyn eich trafodaethau gyda nhw, a ydych chi'n rhagweld y bydd Llywodraeth Cymru yn arbed rhywfaint o'r £375 miliwn yr ydych chi wedi'i ymrwymo i'r gwaith hwn? Ac, o ran y datblygwyr nad ydyn nhw wedi ymgysylltu, rwyf i'n falch eich bod chi wedi'u henwi, a gobeithiaf y bydd hynny'n eu cywilyddio i weithredu. Os nad yw'n gwneud hynny, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad ydyn nhw'n cael ceiniog yn fwy o gontractau sector cyhoeddus ac nad ydyn nhw'n cael ceiniog yn fwy o waith yma yng Nghymru. Nid ydym ni eisiau i bobl sydd wedi dangos difaterwch llwyr i ddiogelwch adeiladu, ac yna difaterwch llwyr i ofid meddwl a chaledi ariannol, fod yn rhan o'r diwydiant adeiladu yma yng Nghymru.
Mae'n dda clywed am y cynllun cymorth i lesddeiliaid a agorodd ddoe. Beth yr ydych chi'n bwriadu'i wneud gyda rhai o'r fflatiau y byddwch chi'n eu prynu yn y pen draw gan y lesddeiliaid? Ac fe orffennaf gyda hyn, Dirprwy Lywydd: mae'r sgandal hon, unwaith eto—ac mae'n debyg mai dyma lle yr wyf yn wahanol i fy nghyfaill ar y meinciau gyferbyn—mae'r sgandal hon, unwaith eto, wedi taflu goleuni ar annhegwch lesddaliadau. Gobeithiaf, wrth ystyried diwygiadau yn y dyfodol, fod Llywodraeth Cymru yn dod â'r crair ffiwdal hon i ben.
Cefais sgwrs hyfryd ddydd Gwener gyda'r cyn Weinidog Sue Essex, ac roedd hi'n sôn am yr ymgyrch y cafodd gyda fy nhad yn y 1970au ar gyfer diwygio lesddaliad yng Nghaerdydd. Oherwydd ymgyrchoedd fel hynny ar draws y Deyrnas Unedig, roedd lesddaliad yn fath o ddeiliadaeth a oedd yn trengi, ac eto mae wedi dychwelyd yn gryfach byth, er anfantais i filoedd o bobl, llawer ohonyn nhw'n gymdogion i ni yma ym Mae Caerdydd. Mae'n bryd i Gymru ymuno â'r llwyfan rhyngwladol i wrthod yr arfer annheg, hen ffasiwn hwn, fel y mae'r Alban, Iwerddon ac Awstralia wedi'i wneud—diwedd ar lesddaliad yn ein gwlad, diwedd ar rent tir, a diwedd ar gwmnïau rheoli dibreswyl. Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch traethiad ar y pwnc. Fodd bynnag, mae hi ychydig yn fwy cymhleth. Pan oedd Sue Essex yn cyflawni ei darn o waith, un o'r meysydd yr oeddem ni'n edrych arno oedd cyfunddaliad a system yr Alban, ond mewn gwirionedd mae'r sgandal diogelwch adeiladau wedi tynnu sylw at rai diffygion difrifol yn y ffordd y mae cyfunddaliad yn gweithio a'r ffordd y caiff yr atebolrwydd ei drosglwyddo. Felly, mae angen i ni ddysgu'r gwersi o'r Alban ynghylch pam nad yw'r system honno wedi gallu cynhyrchu ateb syml, unedig, oherwydd yn sicr nad yw wedi gwneud hynny. Mae Llywodraeth yr Alban, gallaf eich sicrhau chi, yn y cyfarfodydd gyda ni a Llywodraeth y DU gyda'r holl broblemau sydd gennym. Felly, mae angen i ni ddod o hyd i system sy'n gweithio i bawb ac nad oes ganddo hynny.
Mae'n gyfuniad o bethau, on'd yw e? Mae gwir angen i ni ddiwygio lesddaliad. Nid yw hi yma nawr, ond rwyf i newydd ddweud wrth Janet Finch-Saunders mai un o'r pethau yr ydym ni eisiau'i wneud yn yr achos hwn mewn gwirionedd yw gweithio gyda Llywodraeth y DU. Nid oherwydd nad wyf i eisiau'i wneud fy hun, mae hynny mewn gwirionedd oherwydd bod y rhan fwyaf o'r datblygwyr sy'n adeiladu'r adeiladau uchel yn arbennig yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, a dweud y gwir, nid ydyn nhw'n adeiladu digon ohonyn nhw yma er mwyn i ni allu cael effaith ariannol sylweddol arnyn nhw, felly mae angen grym ehangach Llywodraeth y DU arnom ni yn yr achos hwnnw i'w cael nhw i ufuddhau. Yr hyn nad wyf i eisiau'i weld yn digwydd yw ein bod ni'n rhoi darpariaethau ar waith yma yng Nghymru, fel ardoll, er enghraifft, a'r cyfan y mae'n ei olygu yw eu bod yn adeiladu'r adeiladau 1 troedfedd yn is na hynny ac mae'r ardoll yn aneffeithiol. Felly, rhaid i ni fod ychydig yn ofalus ynghylch graddfa rhywfaint o hyn, ond fel arall rwy'n cytuno yn llwyr â chi.
Y peth arall y mae angen i ni ei wneud yw sefydlu cyfundrefn sy'n sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto, fel bod timau arolygu ar y cyd ac yn y blaen. Bydd defnyddio technoleg fodern, a dweud y gwir, ffilmio'r holl beth ac yn y blaen, yn sicrhau ein bod ni'n gwybod yn iawn beth sydd y tu mewn i'r adeiladau hynny heb orfod gwneud twll enfawr yn wal eich ystafell fyw i gael golwg, a bod gennym ni gyfundrefnau arolygu priodol a systemau atebolrwydd priodol ar gyfer pwy sy'n atebol ar ba gam o'r adeiladu. Felly, dylunio, datblygu, meddiannu—mae angen cyfundrefnau gwahanol arnom ni ar gyfer y rheini. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny'n galed iawn ers amser maith. Rydym ni wedi bod yn ymgynghori â phartneriaid ac awdurdodau lleol. Bydd yn wahanol yng Nghymru; rydym ni'n ymddiried yn ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol, felly byddwn ni'n eu gwneud yn arolygwyr ac yn y blaen. Felly, rydym wedi datblygu'n dda ar y gwaith hwnnw.
Ac yna dim ond ar yr amserlen ar gyfer y cyfnod adfer, rydym ni yng nghanol yr arolygon ymwthiol. Mae'n hawdd dweud, gan sefyll yma, onid yw? Ond mae arolwg ymwthiol yn ymwthiol. Mae pobl mewn gwirionedd yn cael tyllau mawr wedi'u torri yn eu cartrefi. Felly, mae angen i ni wneud hynny ar y cyd â'r preswylwyr hynny a sicrhau eu bod yn gallu byw gyda hynny. Ond dylai'r rheini i gyd fod wedi'u cwblhau erbyn diwedd yr haf, ac yna byddwn ni'n mynd i'r cyfnod adfer. Rwy'n gwbl hyderus y bydd yr adeiladau cyntaf yn mynd i'r cyfnod adfer yn gynnar yn nhymor yr hydref, ar gyfer y lle hwn. Yr hyn na allaf i ei ddweud wrthych chi yw pryd y byddwn ni'n cael yr un olaf, oherwydd mae'n amlwg bod gennym ni 161 o adeiladau ar hyn o bryd â datganiadau o ddiddordeb. Dim ond hyn a hyn o adeiladwyr sydd gennym ni sy'n gallu gwneud y gwaith hwn ac yn y blaen, felly mae arnaf i ofn na allaf i roi ôl-stop arno, ond gallaf i roi'r dechrau i chi. Pan fydd yr adeiladu yn dechrau, byddwn ni'n amlwg yn dysgu o hynny, byddwn ni'n cynyddu'r gweithlu ac yn y blaen.
Y pwynt olaf yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd fy mod i eisiau i'r datblygwyr dalu amdano, ond nid wyf i eisiau dal y gwaith i fyny, felly mae gennym ni gynllun ar waith nawr sy'n caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yn rhaid i'r datblygwyr ddod i gytundeb â ni ynglŷn â sut y maen nhw'n talu am hynny, yn hytrach na'n bod ni'n mynd drwy ailadroddiad arall eto o ddadleuon ynghylch pwy sy'n mynd i dalu'r adeiladwyr sy'n gwneud y gwaith. Felly, dim ond dweud ein bod ni'n gwneud hynny, ond mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd yn iawn ac nad yw'n dal y gwaith i fyny.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Rwyf i a fy etholwyr hefyd yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig. Onid oeddem ni'n arfer cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol ganddyn nhw? Mae gennyf i ddwy ardal yn fy etholaeth sydd ag adeiladau wedi'u heffeithio. Rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai datblygwyr gyfrannu at y gost o ddatrys y problemau hyn—nhw oedd y rhai a greodd y problemau hyn yn y lle cyntaf. Byddwn i'n mynd ymhellach ac yn dweud fy mod i'n credu y dylai'r datblygwyr ariannu'r gwaith adfer yn llawn. Yn anffodus, yn Nwyrain Abertawe, mae adeiladau wedi'u hadeiladu gan Carillion, sydd wedi mynd allan o fusnes. Pwy sy'n mynd i ariannu unioni'r adeiladau hyn? Cefais wybod hefyd fod adeiladau eraill wedi'u hadeiladu gan gyfrwng un pwrpas nad yw bellach yn bodoli. Rwy'n croesawu'r £375 miliwn i dalu am y gost o adfer adeiladau. Rydych chi'n datgan yn gyhoeddus na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiogelwch tân, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n falch iawn o glywed hynny. I ba raddau y bydd y swm hwnnw'n mynd i unioni'r problemau diogelwch tân? Yn olaf, onid yw hyn yn rheswm arall dros gyflwyno cyfres newydd o reolaethau adeiladu a rhoi terfyn ar lesddaliad?
Diolch, Mike. Rydych chi'n gwybod fy mod i wedi cwrdd â nifer o'r trigolion a chithau yn yr adeiladau sydd wedi'u heffeithio yn eich etholaeth chi, ac rydym ni'n awyddus iawn bod y trigolion hynny sydd wedi gwneud y peth iawn yn cael gofal priodol yn y cynllun hwn hefyd, felly mae hynny'n gymhlethdod arall eto. Rydych chi'n tynnu sylw at broblem lluosogrwydd gwahanol drefniadau. Mae un adeilad yn fy etholaeth i fy hun yr ydych chi'n gyfarwydd iawn ag ef lle mae pawb wedi mynd yn fethdalwr, gan gynnwys y dylunydd, tri grŵp o ddatblygwyr, y cwmnïau yswiriant—mae'n drychineb llwyr. A dyna pam y mae'n rhaid i ni gael ôl-stop i'r bobl hynny, oherwydd pe baem ni'n dibynnu ar ddatblygwyr i wneud hynny, nid oes endid o'r fath ar ôl er mwyn bwrw ymlaen â hynny. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn barod i roi arian cyhoeddus i'w wneud, oherwydd i rai pobl nid oes unrhyw un.
Cymhlethdodau'r cwmni adeiladu cyfrwng un pwrpas sy'n dwyn enw corfforaeth fawr arno ond mewn gwirionedd, yn gyfreithiol, mae'n gwmni ar wahân yw un o'r materion mwyaf y bu'n rhaid i ni ei wynebu. Soniodd Rhys, rwy'n credu, ynghylch ceisio atal pobl rhag cael contractau eraill ac yn y blaen, ond pan ewch chi i mewn i gyfraith y peth, nid ydyn nhw yr un cwmni, ac mae hynny wedi bod yn broblem wirioneddol. Felly, rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i newid rhywfaint o'r gyfraith nad yw wedi'i datganoli i Gymru o ran amddiffyniadau o dan yr amgylchiadau hynny, yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 a meysydd eraill, fel y gallwn ni wneud hynny. A byddwn ni'n ceisio gwella'r ffordd yr ydym ni'n galluogi pobl i wneud cais a gweithredu caniatâd cynllunio—mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n siarad â dau berson gwahanol yma nawr. Yn y bôn, yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw dyblygu'r hyn y mae Llywodraeth Lloegr yn edrych arno, sef atal pobl rhag gallu manteisio ar ganiatâd cynllunio sydd ganddyn nhw eisoes os oes ganddyn nhw adeiladau heb eu hadfer sy'n dwyn eu henw corfforaethol. Ond mae'n fwy cymhleth na dim ond dweud, 'Ni all y cwmni hwn ei wneud', oherwydd mae lluosogrwydd ohonyn nhw.
Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â diwygio lesddaliad, ond fel y dywedais i wrth Rhys, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw dysgu o brofiad yr Alban, oherwydd roeddem ni wedi cael ein denu'n fawr at hynny, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi cael nifer o broblemau gyda'r system honno hefyd.
Prynhawn da, Gweinidog. Mae'n ddrwg gennyf i y bydd yn rhaid i chi annerch y cylch hwn o bobl eto. Diolch am y datganiad, Gweinidog, a diolch i chi hefyd am gyfarfod â pherchnogion tai a minnau ychydig wythnosau'n ôl—rwy'n ddiolchgar iawn. Mae ychydig o faterion yr oeddwn i eisiau eu codi. Gwn i o ohebiaeth â chi a'ch swyddogion yn ystod yr wythnosau diwethaf eich bod chi i fod i gyflwyno strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr. Rwy'n croesawu hyn, a gwn eich bod chi wedi ymrwymo i hynny, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi hefyd yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaethau sydd gan lawer o'r perchnogion tai a'r lesddeiliaid, sy'n amlwg yn gwaethygu eu hiechyd meddwl a'r straen y maen nhw'n ei deimlo. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymrwymo i'r grŵp eang, agored hwn o berchnogion tai i ymgysylltu'n uniongyrchol, er fy mod i'n cydnabod ei fod yn gymhleth a bod gwahanol haenau. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allwch chi amlinellu'n fyr iawn yr hyn y byddai eich cynllun yn ei olygu a pha fath o fecanweithiau neu gyfleoedd fydd ar gael i'r perchnogion tai hynny ymgysylltu â chi a chyfathrebu â chi. Diolch yn fawr iawn. Diolch.
Yn sicr, Jane. Roedd yn bleser cwrdd â chi a'r grŵp a ddaeth gyda chi. Rwyf i wedi bod yn cyfarfod â nifer o grwpiau—gyda Mike ac eraill—ers amser maith nawr. Yr hyn yr ydym ni eisiau'i sicrhau yw bod y grwpiau hynny o bobl nad ydyn nhw wedi llwyddo i wneud eu ffordd i ni ar ryw ffurf neu'i gilydd hefyd yn cael eu cynnwys. Nid ydym ni o reidrwydd eisiau ymgysylltu â'r bobl â'r lleisiau uchaf bob amser, felly yr hyn yr ydym ni'n bwriadu'i wneud yw gweld a allwn ni gael strategaeth lle mae gennym ni gynrychiolwyr o'r amrywiaeth ehangaf o bobl y gallwn ni gael gafael arnyn nhw—mae gennyf i ddiddordeb arbennig mewn cysylltu â'r rhai nad ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad arbennig â ni—a sicrhau bod gennym ni'r amrywiaeth honno o leisiau. Rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod gennym ni breswylwyr o bob math o drefniant rheoli, fel bod gennym ni lu o leisiau. Mae gennym ni bob math o wahanol drefniadau rheoli, o gwmnïau cydweithredol i gwmnïau rheoli hierarchaidd gwirioneddol a phob math o beth y gallwch chi feddwl amdano. Felly, ceisio cael amrywiaeth o leisiau i sicrhau bod gennym ni bob safbwynt, mae'n debyg, yw'r hyn yr ydym ni ar ei ôl. Rwy'n arbennig o awyddus i wneud hynny, yn rhannol oherwydd ein bod ni eisiau sicrhau bod y gwaith adfer yn mynd yn dda, ond yn bwysicach o lawer, rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n deall o'u profiad nhw yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i drwsio, fel ein bod ni, wrth gynllunio ein system newydd, yn gwbl sicr ein bod ni wedi ymdrin â'r holl faterion sydd wedi codi ac wedi gwneud yn siŵr na allan nhw ddigwydd eto. Dyna'r ddelfryd, onid yw, i wneud yn siŵr bod y system newydd yn gadarn iawn, a dyna'r hyn y byddwn i'n mwyaf diolchgar amdano ynghylch mewnbwn y trigolion iddi, yn ogystal ag yn amlwg ar y cyfnod adfer.
Diolch i'r Gweinidog.