6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol — 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'

– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:33, 29 Mehefin 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM8039 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. 

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:33, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch y prynhawn yma ein bod yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw i.

Yr hyn sy'n bwysig i'w ddweud yw bod pobl eisoes yn aros yn llawer rhy hir am ddiagnosis, gofal a thriniaeth cyn y pandemig. Wrth gwrs, mae COVID wedi gwneud y sefyllfa'n waeth ar draws pob arbenigedd a phob cam o lwybrau cleifion. Dywedir yn aml fod yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros am ddiagnosis neu driniaeth. Y tu ôl i'r niferoedd hynny wrth gwrs mae unigolion y mae oedi cyn cael diagnosis neu ofal yn effeithio ar eu bywydau bob dydd ac o bosibl bywydau eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr. Ochr yn ochr â thystiolaeth ysgrifenedig a llafar, roedd yr astudiaethau achos pwerus a gasglwyd gan dîm ymgysylltu'r Senedd yn dangos profiadau pobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth eu hunain, neu ar gyfer rhywun y maent yn gofalu amdanynt, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a oedd yn barod i rannu eu profiadau gyda ni fel pwyllgor.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:35, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Clywsom am bobl sydd mewn poen, anesmwythder neu sy'n profi pryder. A chlywsom am bobl y mae eu hanghenion yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd ac ar ofalwyr di-dâl, y gallai fod gofyn iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu mwy cymhleth. Clywsom hefyd am bobl sy'n llai abl i weithio, astudio neu ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofalu arferol, ac y mae eu costau byw wedi cynyddu, wrth gwrs, o ganlyniad i'w cyflwr. Clywsom hefyd am y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, a chan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, wrth iddynt fynd i'r afael â'r pandemig a'r ôl-groniad o ran amseroedd aros. Ac wrth gwrs, rydym yn diolch i'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr, am yr holl waith y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud. Heb weithlu cynaliadwy, ymgysylltiedig ac wedi'i gefnogi—rhaid inni gofio bod y gweithlu'n llawer ehangach na meddygon a nyrsys yn unig—ni fyddwn yn gallu sicrhau'r trawsnewidiad y mae angen inni ei weld yn ein gwasanaethau iechyd a gofal. 

Roedd ein hadroddiad yn canolbwyntio ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros, a'r hyn y gellir ei wneud i helpu pobl i aros yn iach. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 26 o'n hargymhellion yn llawn, a'r un argymhelliad sy'n weddill mewn egwyddor. Y cyfrwng i fynd i'r afael â llawer o'n hargymhellion yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi casglu barn ysgrifenedig ar y cynllun, ac yn gynharach heddiw, mewn gwirionedd, cyfarfuom ni fel pwyllgor, fel Aelodau, â rhanddeiliaid yma yn y Senedd. Mae rhanddeiliaid yn croesawu'r cynllun yn gyffredinol; maent eisiau ei weld yn llwyddo, fel rwyf innau, wrth gwrs, ond mae ganddynt bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn ddigon manwl, a yw'n darparu gweledigaeth ddigon clir ar gyfer trawsnewid ein gwasanaethau iechyd, ac a oes digon o gapasiti i'w gyflawni. Ac mae honno'n neges allweddol, mewn gwirionedd, gan y grŵp o randdeiliaid y siaradais â hwy y bore yma. Y neges allweddol oedd bod y cynllun yn wych, mae'r cynllun yn uchelgeisiol, ond roeddent yn pryderu nad oes digon o gapasiti i gyflawni'r cynllun. 

Fe wyddom i gyd y bydd yn cymryd amser i leihau amseroedd aros. Mae Archwilio Cymru, yn ei adroddiad diweddar ar ofal wedi'i gynllunio, yn amcangyfrif y gallai gymryd saith mlynedd neu fwy i restrau aros ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn cael eu cefnogi i aros yn iach. Mae hynny'n rhan o argymhelliad 1. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith bod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i wella'r wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl wrth iddynt aros am ddiagnosis a gofal.

Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu'r datblygiadau megis yr ymrwymiad i wella cyfathrebu â chleifion, a gafodd ei gyfleu'n arbennig y bore yma gan randdeiliaid hefyd, maent wedi dweud wrthym fod angen mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer cyflawni, sut y caiff pŵer a phrofiad y trydydd sector eu harneisio a sut y caiff risgiau allgáu digidol eu rheoli. Bydd angen i rywfaint o wybodaeth a chyfathrebiadau gael eu personoli a'u haddasu i anghenion unigolion er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth gywir ar gyfer eu hamgylchiadau. Clywais am brofiad brawychus y bore yma ynghylch sut y mae llythyr templed weithiau'n gorfod mynd drwy 20 cam cyn y cytunir arno yn y pen draw. Fodd bynnag, dywedodd rhanddeiliaid wrthym y bore yma y bydd angen amser, adnoddau ac arbenigedd er mwyn i gyfathrebu fod yn effeithiol ac yn hygyrch, a byddwn yn croesawu eglurhad pellach gan y Gweinidog ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael, a sut y caiff cydbwysedd ei sicrhau o ran cydgysylltu cenedlaethol er mwyn sicrhau bod negeseuon yn gyson ac i osgoi dyblygu.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth allweddol i ni, a gofynnwyd i'r Gweinidog egluro sut y byddai cymorth yn cael ei dargedu at bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Rydym yn croesawu'r awgrym bod grŵp cenedlaethol yn cael ei sefydlu i ddatblygu atebion i gefnogi poblogaethau lleol a nodi sut y bydd bylchau anghydraddoldeb mewn atal a gofal wedi'i gynllunio yn cael eu cau. Edrychwn ymlaen at glywed mwy am waith y grŵp pwysig hwn maes o law. Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Meddygon, a Chymorth Canser Macmillan, wedi dweud wrthym eu bod yn pryderu nad oes gan gynllun Llywodraeth Cymru ddigon o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd ac yn mynd i'r afael â hwy. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth heddiw am waith y grŵp cenedlaethol a sut y bydd hwnnw'n llywio gweithrediad cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio.

Mae ein hadroddiad yn galw am gyhoeddi data amseroedd aros yn rheolaidd, wedi'i ddadgyfuno yn ôl arbenigedd ac ysbyty. Roedd argaeledd, tryloywder a manylion data yn fater allweddol a godwyd gan randdeiliaid y bore yma. Fel ninnau, maent eisiau gweld mwy o fanylion am y mathau o driniaethau y mae pobl yn aros amdanynt, ac maent eisiau i'r data hwnnw gael ei ddadelfennu ymhellach. Derbyniodd y Gweinidog ein hargymhelliad, ond dywedodd ei bod yn dal i ystyried ei dull gweithredu, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod angen gwell data am y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ein rhybuddio y bore yma hefyd fod proffil oedran staff mewn rhai arbenigeddau ar ymyl y dibyn o ran capasiti'r gweithlu. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym y prynhawn yma am yr amserlenni ar gyfer gwella argaeledd data mewn perthynas ag amseroedd aros a'r gweithlu.

Bydd lleihau amseroedd aros yn galw am arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym eu bod yn cefnogi uchelgais y cynllun yn gyffredinol, ond bod angen rhagor o fanylion am y trefniadau arwain a sut y caiff newid ei gyflawni, gan gynnwys sut y bydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yn cael eu cynnwys. Mae'r materion allweddol a godwyd yn cynnwys rôl byrddau partneriaethau gweithredol a rhanbarthol newydd y GIG, a'r angen am fwy o eglurder ynghylch sut y caiff atebolrwydd cyffredinol am gyflawni ei rannu rhwng gwahanol raglenni cynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, grwpiau prosiect a rhwydweithiau. Clywsom bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn gwneud digon i gydnabod effaith heriau ym maes gofal cymdeithasol.

Yn ei hymateb i argymhelliad 26, esboniodd y Gweinidog y byddai'n dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn eu cynlluniau tymor canolig integredig, a bod cyfarwyddwr cenedlaethol newydd ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gwelliant ac adferiad wedi'i benodi i weithio gyda'r GIG i sicrhau bod cynlluniau gwella lleol yn bodloni ymrwymiadau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu barn y Gweinidog y prynhawn yma ar awgrymiadau rhanddeiliaid y dylid gosod adroddiad cynnydd blynyddol gerbron y Senedd, a bod angen gwneud mwy i annog byrddau iechyd i gydweithio a chyflymu'r broses o ddatblygu modelau rhanbarthol.

Yn olaf, yn ein hadroddiad, buom yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y mae'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yn effeithio ar wahanol gyflyrau a gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym nad yw'n glir iddynt hwy a yw pob arbenigedd yn dod o dan gynllun Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Cymru Versus Arthritis yn nodi nad yw'n glir fod orthopedeg wedi'i chynnwys, ac mae Mind Cymru wedi galw am eglurhad ar frys ynglŷn ag a yw'r targedau adfer yn berthnasol i wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig gan fod oedi i'r set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl yn golygu nad oes amseroedd aros manwl ar gael ar gyfer llawer o wasanaethau iechyd meddwl. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro a yw orthopedeg a gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y targedau adfer yng nghynllun Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau y prynhawn yma.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:44, 29 Mehefin 2022

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor am gael cydweithio efo chi ar yr adroddiad yma? Diolch i'r tîm clercio a thîm cefnogi'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, ac wrth gwrs i bawb wnaeth rannu efo ni fel pwyllgor eu profiadau nhw a'u harbenigedd nhw wrth inni drio deall yn well effaith aros yn hir am driniaeth. 

Rydyn ni mewn perygl ar hyn o bryd o dderbyn, bron iawn, mai aros yn hir mae pobl yn mynd i'w wneud am driniaeth. Mae'n endemig. Mae rhywun yn gallu mynd i feddwl ei fod o'n anochel, ond dydy o ddim. Ac mae'r adroddiad yma, dwi'n credu, yn ei gwneud hi'n glir mewn nifer o argymhellion fod rhaid peidio â derbyn y sefyllfa fel y mae hi, a pheidio â derbyn mai mynd yn ôl i ddyddiau cyn pandemig dŷn ni eisiau ei wneud, fel dywedodd y Cadeirydd.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion y gallech eu rhoi dan ryw bennawd eang o leihau rhestrau aros. Dŷn ni'n rhoi sylw i gomisiynu capasiti uwch i gryfhau'r gweithlu, i annog diagnosis cynnar, i daclo anghydraddoldebau iechyd—y pethau yma sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn yr hirdymor—ond mi oedd hi'n amserol, dwi'n credu, i wneud darn o waith ar ddelio efo'r amseroedd hir sydd gennym ni a sut maen nhw'n effeithio ar bobl. Mae'r ystadegau'n frawychus, onid ydyn, efo rhywbeth fel 0.75 miliwn o boblogaeth Cymru ar ryw fath o restr aros? Ac mae'n bwysig iawn cofio bob amser mai pobl go iawn ydy'r rhain, nid ystadegau, a bod llawer ohonyn nhw'n aros mewn poen, yn bryderus, yn gweld eu hiechyd yn dirywio'n waeth, yn methu byw eu bywydau fel y dylen nhw, yn methu gweithio o bosib, ac felly mae angen meddwl am eu lles nhw bob amser wrth aros. Dŷn ni'n gwneud argymhellion ar sut i gefnogi cleifion wrth aros, ar fuddsoddi mewn helpu cleifion i reoli poen—rhywbeth lle mae yna danfuddsoddi mawr wedi bod. Mae angen rhoi gwybod i bobl am gefnogaeth amgen y gallen nhw ei chael yn eu cymunedau wrth aros, cefnogaeth drwy fferyllwyr ac ati, ac mae yna argymhellion penodol ynglŷn â'r meysydd hynny. 

Mi ddaeth hi'n amlwg iawn i ni fod yna wendidau sylfaenol iawn yn y cyfathrebu sy'n digwydd efo cleifion. Faint o weithiau ydyn ni fel Aelodau o'r Senedd yma wedi gweithredu ar ran etholwr sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn am nad ydy o'n gwybod lle mae o arni yn y siwrnai drwy'r gwasanaeth iechyd, neu wedi gwrando ar rywun sydd yn egluro ei boen neu ei boen meddwl? Mae argymhelliad 19 yn ymwneud â defnyddio technoleg fel rhan o'r gwaith cyfathrebu yna. Ac yn gwisgo het arall fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Gymru ddigidol, mi wnaf i'ch atgoffa chi o eiriau'r Dirprwy Weinidog Lee Waters yn y Senedd yn cymharu'r math o wasanaethau dŷn ni wedi'i gael wrth archebu rhywbeth ar-lein, yn gwybod yn union le mae'ch parsel chi arni hi, efo'r hyn y dylen ni allu ei ddisgwyl yn yr unfed ganrif ar hugain yn ein gwasanaeth iechyd a gofal, siawns. Mi ydych chi'n gwybod bod eich siopa Nadolig chi yn mynd i gyrraedd am 3.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, ond os ydych chi eisiau gwybod pryd dŷch chi'n mynd i gael rhywbeth llawer pwysicach, fel clun newydd, gallech, mi allech chi guro ar ddrws eich cynrychiolydd yn y Senedd, ond y drefn fyddai mynd at eich meddyg teulu, fyddai wedyn yn ysgrifennu at y bwrdd iechyd a fyddai'n ysgrifennu yn ôl—cynhyrchu gwaith. Mae'r system yn aneffeithiol ac mae'n gadael cleifion yn y tywyllwch. Mae'n ychwanegu at y straen emosiynol y mae cleifion oddi tano yn aml iawn wrth aros am driniaeth.

Dirprwy Lywydd, mae taclo rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd yn gorfod bod yn un o flaenoriaethau mawr Llywodraeth Cymru, os nad y flaenoriaeth, ac mae eu dal nhw i gyfrif am y gwaith maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yn gorfod bod yn flaenoriaeth i ni fel Senedd. Dyna bwysigrwydd yr adroddiad yma. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn 26 o'n 27 argymhelliad ni, a derbyn y llall yn rhannol, ond mae'n rhaid inni beidio â bodloni ar hynny, wrth gwrs. Ac yn aml iawn, wrth dderbyn argymhellion, beth mae Llywodraeth yn ei ddweud ydy, 'Dŷn ni'n gwneud hyn yn barod.' Ond mae hwn yn fynydd i'w ddringo, ac mae'n neges ni fel pwyllgor yn glir: dydy'r Llywodraeth ddim yn gwneud digon yn barod, ac mae pobl Cymru yn dioddef yn sgil hynny.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 3:49, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chadeiryddiaeth Russell George, am gyflwyno'r ddadl a'r adroddiad heddiw, 'Aros yn Iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn eithriadol o bwysig i mi, gan fod yr amseroedd aros presennol ledled Cymru yn effeithio ar bawb, ac yn anffodus yn effeithio fwyaf ar fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae'n debyg. Wrth gyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw, hoffwn dynnu sylw at dri maes penodol y mae'r pwyllgor wedi ymchwilio iddynt sy'n allweddol yn fy marn i.

Yn gyntaf, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ceir yr ystadegau mewn perthynas â'r amseroedd aros a'r data y dylid sicrhau ei fod ar gael. Ac fel yr amlinellwyd eisoes, mae tua un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros—yn sicr nid yw'n ddigon da, fel y mae'r Gweinidog yn derbyn, rwy'n siŵr. A thu ôl i'r niferoedd hyn, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i ddweud, mae pobl go iawn yn dioddef o ddydd i ddydd. Ac yn sicr, wrth edrych ar fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, yn gynharach eleni ym mis Ionawr 2022, sydd, wrth gwrs, yn adeg brysur i fwrdd iechyd, ond serch hynny, roedd tua 148,000 o lwybrau cleifion, pobl yn aros i ddechrau triniaeth—mae 148,000 o bobl mewn poblogaeth o tua 700,000 yn nifer go syfrdanol. Wrth gwrs, mae'r niferoedd hyn yn cael eu hailadrodd mewn byrddau iechyd eraill, ond mae gennyf ddiddordeb plwyfol fel Aelod rhanbarthol o Ogledd Cymru, ac rwyf eisiau gweld y nifer hwn yn gostwng cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, nid yw'n iawn fod pobl yn talu eu trethi a'u hyswiriant gwladol am y gwasanaethau iechyd hyn, ac eto, maent yn gorfod aros cyhyd i gael eu gweld, ac yn ystod y cyfnod hwnnw o aros i gael eu gweld, maent yn cael amser anodd wrth gwrs, ac yn anffodus, maent yn dioddef. Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â'r data ac adrodd ar y data a sicrhau bod yr ystadegau hynny ar gael yn rhwydd fel y gellir eu dadansoddi'n gyflym ac yn hawdd.

Mae'r ail faes, wrth edrych ar effaith amseroedd aros, ar hyn y mae'r adroddiad yn nodi ei fod yn fater hirsefydlog, yn ymwneud â recriwtio a chadw staff. Fel y gwyddom, mae cadw staff presennol yn broblem enfawr i wasanaethau iechyd ar hyn o bryd, sy'n golygu bod y sector yn parhau i'w chael hi'n anodd cynnal y lefelau staffio presennol, heb sôn am eu cynyddu, ac mae'n sicr yn broblem yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn y gogledd. Wrth gwrs, os ydym eisiau denu mwy o nyrsys a meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill i ddod i weithio yn y GIG, yn sicr mae angen inni weld rhywfaint o weithredu i wneud y gwasanaeth yn fwy deniadol ac amlygu'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Ac rwy'n sicr eisiau gweld ein byrddau iechyd yn perfformio'n dda fel y gallwn ddenu mwy o bobl i'r gwasanaeth iechyd a sicrhau ein bod yn llenwi'r swyddi pwysig hynny a'n bod yn gallu eu cadw yn y swyddi hynny hefyd.

Yn olaf, y trydydd maes, sydd eisoes wedi'i amlinellu yn yr adroddiad heddiw a'i grybwyll gan y Cadeirydd ychydig yn gynharach, yw'r angen am arweiniad gwirioneddol glir a chynllun clir i ymdrin yn effeithiol â'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yng Nghymru. Oherwydd, fel y gwyddom, yn sicr, cafodd y broblem ei gwaethygu gan bandemig COVID-19, ond roedd yn sicr yno cyn COVID. Ac yn anffodus, pryd bynnag y gwelwn unrhyw ystadegau rhestrau aros, pobl gogledd Cymru sy'n parhau i ddioddef fwyaf. Felly, mae arnom angen arweiniad clir ar frys i gymryd cyfrifoldeb am gynllun gweithredu i unioni hyn a sicrhau nad yw'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn cael eu hanghofio. Ac yn y cynllun hwn, mae angen mesurau effeithiol i foderneiddio'r gwasanaeth iechyd—unwaith eto, fel y crybwyllwyd eisoes gan Aelodau blaenorol—gan ganolbwyntio o'r newydd ar arloesedd a digidol, a symud ymlaen gyda'r syniadau arloesol hyn, a fydd yn gwneud gwaith ein gweithwyr rheng flaen gymaint yn haws.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor am eu hymdrechion ac am y gwaith hwn. Hefyd, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi derbyn 26 o argymhellion y pwyllgor yn llawn a'r llall mewn egwyddor, wrth gwrs. Oherwydd nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da ac ni all barhau; ni allwn fforddio gadael iddo barhau, er mwyn ein pobl yma yng Nghymru. Felly, gallai gweithredu adroddiad y pwyllgor arwain at welliannau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ran rhestrau aros sy'n peri pryder mawr yng Nghymru, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 3:54, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eich adroddiad ac am y cyfle i drafod amseroedd aros ar lawr y Senedd heddiw.

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith ddwys ar ein gwasanaeth iechyd, gydag amseroedd aros yn broblem wirioneddol. Croesawaf y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni, gan sicrhau na fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn 2025. A chytunaf yn llwyr â'r argymhellion yn yr adroddiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, ond mae angen inni weld camau gweithredu ar fwy o fyrder ar amseroedd aros ar gyfer canser. Cysylltodd etholwr â fy swyddfa y mis hwn. Dywedwyd wrthynt eu bod wedi cael atgyfeiriad brys am ganser yn dilyn ymweliad â'u meddyg teulu, a chawsant wybod wedyn fod atgyfeiriadau brys bellach yn 16 wythnos neu fwy. Mae'r pryder a'r gofid a achosir dros y pedwar mis hyn yn cael effaith andwyol enfawr, nid yn unig i'r unigolion ond i'w teuluoedd a'u ffrindiau hefyd. Yn eich ymateb i'r ddadl hon, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i wneud datganiad ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau nifer yr wythnosau a'r misoedd y mae pobl yn aros am atgyfeiriadau canser?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cefais fy syfrdanu gan gyfraniadau a thystiolaethau'r rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau amseroedd aros yma yng Nghymru. Nid yw'r rhwystredigaeth y mae fy nghyd-Aelodau yn y GIG yn ei mynegi yn ymwneud yn unig â'r ffaith nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith, ac yn wir, y swyddi y maent yn eu caru; mae fy nghydweithwyr yn teimlo eu bod yn gwneud cam â'u cleifion, yn eu gadael mewn poen, ac eto er gwaethaf eu hymdrechion gorau a'u gwaith caled mewn llawer o achosion, nid oes dim y gallant ei wneud. Ac ar ôl 11 mlynedd yn gweithio yn y GIG i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rwy'n gwybod yn union sut y maent yn teimlo. Ond er bod y Llywodraeth eisiau rhoi'r bai i gyd ar bandemig COVID-19, hoffwn atgoffa'r Siambr hon, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i wneud, fod amseroedd aros yng Nghymru wedi dyblu yn y flwyddyn cyn i'r pandemig daro. Ar ran y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru, rwy'n annog y Gweinidog i wrando go iawn ar argymhellion y pwyllgor, a rhaid imi bwysleisio bod angen mynd i'r afael â'r trychineb amseroedd aros a bod angen gwneud hynny'n gyflym.

Mae pob un o'r un o bob pump o bobl yng Nghymru sydd ar restr aros, y 148,884 o bobl o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n aros i ddechrau eu triniaeth, yn annwyl i rywun, yn anwylyd sy'n dioddef yn ystod yr oedi hwn. Ac o ran gofal brys, dim ond 54.5 y cant o'r ymatebion i alwadau lle roedd bywyd yn y fantol a gyrhaeddodd o fewn wyth munud, i lawr o 60.6 y cant ym mis Mai 2021, ac fe gymerodd cymaint â 58.3 y cant o alwadau ambr i gleifion, sy'n cynnwys y rhai sy'n dioddef strôc, dros awr i gyrraedd. Gall y Llywodraeth hon feio prinder ambiwlansys, bylchau staffio neu'r pandemig, ond roedd y problemau hyn a'r ôl-groniad hwn yn bodoli cyn COVID, yn enwedig felly yng ngogledd Cymru, fel y nododd Sam Rowlands yn ei araith. Ac mae gwledydd eraill y DU sy'n wynebu'r un heriau yn gwneud yn well mewn perthynas â hyn, gyda'r amser aros canolrifol yn 12.6 wythnos o'i gymharu â 22.5 yng Nghymru—mae'n ddrwg gennyf, roedd y 12.6 wythnos yn cyfeirio at y cyfraddau yn Lloegr. Roedd yn destun siom i mi a llawer o rai eraill pan ddywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol y byddai'n ffôl ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn yn gynharach. Fodd bynnag, yr hyn y mae fy etholwyr a fy nghydweithwyr yn y GIG ei eisiau, ni waeth beth fo achos yr ôl-groniadau, yw i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r ateb.

Weinidog, mae'n gadarnhaol eich bod wedi derbyn 26 o 27 argymhelliad y pwyllgor yn llawn, a'r olaf mewn egwyddor, ond rwy'n siomedig na wnaethoch roi digon o fanylion am weithredu yn eich ymateb, ac nid fy safbwynt i yn unig yw hwn ond safbwynt llawer o randdeiliaid allweddol hefyd, ac roeddwn yn ffodus i gyfarfod â rhai ohonynt y bore yma yn y pwyllgor iechyd. Ac mae'n rhwystredig hefyd mai'r rheswm a roddwyd dros dderbyn yr argymhelliad arall yn rhannol, sef argymhelliad 23, oedd oherwydd y byddai'n gymhleth. O adnabod y Gweinidog, gwn nad oes unrhyw beth yn rhy gymhleth ichi fynd i'r afael ag ef a'i ddatrys, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych eto ar hynny. Hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd argymhelliad cychwynnol adroddiad y pwyllgor hwn, a oedd yn gofyn

'Yn ogystal â nodi sut yr eir i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros, rhaid i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio yn cynnwys ffocws ar gefnogi cleifion i aros yn iach.'

A hoffwn rannu trafferthion fy etholwr, sef Miss Isolde Williams, gyda chi. Mae hi'n un o'r nifer fawr o bobl sy'n dioddef oherwydd oedi cyn cael triniaeth ac mae wedi bod yn aros ers ei hapwyntiad cychwynnol yn 2017 am driniaeth arbenigol a phen-glin newydd. A rhannodd hyn gyda mi:

'Mae ansawdd fy mywyd yn parhau i ddirywio. Rwy'n gwbl ddibynnol ar fy nghar i fynd allan, ac mae arnaf ofn pa mor ddrwg y byddaf yn mynd cyn imi gael y driniaeth hon. Mae'r oedi wedi arwain at broblemau pellach yn fy nghoes a fy nghlun, ac rwy'n meddwl tybed pryd y bydd hyn i gyd yn dod i ben. Rwy'n colli ffydd yn ein gwasanaeth iechyd.'

I gloi, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i Isolde a chymaint o bobl eraill ledled Cymru sydd yn yr un sefyllfa y byddant yn cael y driniaeth y maent ei hangen cyn gynted â phosibl ac na ddylai neb orfod dioddef oedi o'r fath heb gymorth digonol yn y dyfodol? Diolch.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:00, 29 Mehefin 2022

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig yma? Dwi'n meddwl ei fod o'n anodd i'w ddarllen ond mae o'n adlewyrchu'r gwaith achos rydyn ni i gyd yn ei dderbyn, a dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn ein bod ni'n atgoffa ein hunain yn aml fod yna bobl tu ôl i bob ystadegyn ac, er ein bod ni yn gweld bod yna gynllun ar waith, dydy hynna ddim yn ei wneud o'n ddim haws i'r bobl sy'n byw mewn poen neu gyda sefyllfa sydd yn peryglu eu bywydau nhw.

Y cwestiwn oedd gen i oedd yn benodol o ran adran 3 o'r adroddiad, sydd ynglŷn â'r rhai sydd yn talu i fynd yn breifat ar y funud, a'r syniad oedd yn dod drosodd yn gryf iawn o'r system ddwy haen yma, y two-tier system, a'r ffaith eithaf brawychus dwi'n meddwl ein bod ni'n gweld un o'r ymgynghorwyr mewn ysbyty yn ystyried, pan ydyn nhw'n edrych ar glaf, 'Ydy'r person yma'n mynd i allu fforddio i fynd yn breifat neu beidio?', a bod hynny'n mynd drwy eu meddwl. Mae hynny'n ategu rhywbeth dwi wedi ei glywed drwy waith achos, efo pobl yn dweud wrthyf fi eu bod nhw'n cael eu hannog i fynd yn breifat, ac efallai eu bod nhw'n edrych fel eu bod nhw'n gallu ei fforddio, ond y gwir amdani yw eu bod nhw'n methu ei fforddio.

Un o'r pethau a wnaeth eu cynddeiriogi nhw'n ddiweddar—efallai fod amryw o bobl yn y Siambr wedi gweld y rhaglen BBC Wales Investigates am yr NHS, ac yn benodol y cyfweliad gyda phrif weithredwraig yr NHS yng Nghymru, lle gwadodd bod y gwasanaeth iechyd mewn crisis. Y cwestiwn ofynnwyd imi gan etholwraig yr adeg honno oedd, 'Pam nad oes neb yn fodlon cydnabod y crisis? Os byddai pobl yn cydnabod bod yna grisis ac argyfwng, o leiaf y bydden nhw'n cydnabod maint y broblem a maint y boen rydyn ni'n eu hwynebu.' Dwi'n meddwl bod yna rywbeth o ran hynny, ein bod ni angen bod yn onest efo pobl yn lle trio cuddio o dan gynlluniau gwahanol. Un o'r pethau gofynnodd yr un etholwraig imi oedd, 'Ydw i fod i jest dderbyn bod fy mywyd i yn llai pwysig, gan na all y gwasanaeth iechyd ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen arnaf am ddwy flynedd?' Mae hi'n gwybod bod doctoriaid wedi dweud bod angen triniaeth arni cyn gynted â phosib a bod perig iddi farw, ond mae'n rhaid iddi ddisgwyl dwy flynedd am y driniaeth yma, a methu â fforddio ei wneud.

Felly, gaf i ofyn ichi, Weinidog, beth fyddech chi yn ei roi fel neges i bobl sydd mewn sefyllfa o'r fath heddiw? Ac ydych chi'n fodlon gwneud yr hyn a fethodd prif weithredwraig yr NHS ei wneud, a chydnabod heddiw fod yna grisis a'n bod ni'n uno fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n dod drwy hynny a sicrhau bod pethau'n gwella i bobl sydd yn y sefyllfa argyfyngus hon?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 4:03, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor, Russell George y cadeirydd, a chyfranogwyr am eu gwaith yn cyflwyno'r adroddiad hwn? Mae'n adroddiad pwysig iawn. Diolch yn fawr iawn. Ac a gaf fi groesawu rhaglen gofal wedi'i gynllunio y Llywodraeth a'r ymateb i'r adroddiad hefyd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni?

Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw'n benodol at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, o fewn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Deallaf fod Powys yn eithriad i restrau aros cynyddol ac mae wedi llwyddo i dorri oddeutu 5,000 o unigolion sy'n aros am driniaeth oddi ar yr ôl-groniad yn ei restrau aros dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond mae hynny'n gwrthgyferbynnu â byrddau iechyd eraill, lle mae eu rhestrau aros, ar gyfartaledd, tua 26 gwaith yn hirach na rhai Powys. Felly, hoffwn ganmol Powys yn hynny o beth.

Ym mis Mehefin 2022, roedd gennym nifer uwch nag erioed o dros 700,000 o bobl yng Nghymru yn aros am ddiagnosis neu driniaeth, ac fel y gwyddoch, Weinidog, golyga hyn fod oddeutu un o bob pump o bobl yn aros am driniaeth. Nid yw'n cynnwys yr hyn y dyfalwn ei fod tua 550,000 o atgyfeiriadau a allai fod ar goll a nodwyd mewn adroddiad archwilio yng Nghymru sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod y misoedd nesaf, ac wrth gwrs, rydym yn croesawu hynny, ac rydym am annog y bobl hynny i roi gwybod.

Yn ôl yr adroddiad hwn, nid yw'r rhestr aros bresennol wedi cyrraedd ei hanterth eto, ac ni fydd ond yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig erbyn 2029 os cyflawnir amcanion y Llywodraeth. Rwy'n pryderu nad yw'r pum uchelgais a amlinellir yn y rhaglen yn adlewyrchu'r pwysau gwirioneddol ar gapasiti a'r cyfyngiadau ar gyllid cyfalaf y GIG, ond hoffwn bwysleisio ein bod yn gwybod, o adroddiad y pwyllgor, nad yw'n ymwneud â chyllid yn unig, ac nad yw'n ymwneud ag arian yn unig. Gyda'r cynnydd a ragwelir yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth, a gweithlu sydd eisoes wedi blino'n lân, a'n GIG gorlawn, a gaf fi ofyn i chi pa gamau sydd eisoes wedi'u cymryd ac a fydd yn cael eu cymryd yn y pum mis nesaf i gyflawni'r amcan hwn? 

Mater arall yr hoffwn ei godi, y gwn ei fod eisoes wedi'i godi, yw iechyd meddwl gofalwyr. Fel y dangosodd adroddiad y pwyllgor, mae'r amseroedd aros hir yn effeithio'n ddifrifol ar gyflyrau iechyd a diogelwch ariannol cleifion a gofalwyr. Rwy'n llwyr gefnogi cynllun cydnerthedd ariannol y Llywodraeth ar gyfer gofalwyr, a amlinellwyd mewn ymateb i'r adroddiad, ond rwy'n poeni nad yw gofalwyr wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Llywodraeth. Mae'n rhaid i ofalwyr wynebu'r ansicrwydd ynglŷn ag a fydd eu hanwyliaid yn cael y driniaeth sydd ei hangen ar frys yn ddigon buan. Nid yw'r amser aros disgwyliedig ar gyfer y driniaeth yn cael ei gyfleu iddynt, nac unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt, sy'n eu gadael yn teimlo'n ynysig ac ar eu pen eu hunain, rhywbeth y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, ato hefyd. Maent yn aml yn cael eu gorfodi i adael eu cyflogaeth neu eu haddysg, a dod yn weithlu sydd bron wedi'i broffesiynoli, gan roi meddyginiaeth, efallai heb unrhyw gymorth meddygol ac iechyd rheolaidd. Fel y mae Mind Cymru yn pwysleisio, mae'n hanfodol nad yw'r Llywodraeth yn gadael ein gofalwyr heb fynediad cyson at gymorth clinigol, emosiynol a llesiant drwy gydol y cyfnod hwn.

Felly, i grynhoi, tybed a wnewch chi ymateb i'r canlynol. Y tu hwnt i'r cymorth ariannol ychwanegol, sut y byddwch yn sicrhau bod digon o gymorth i ofalwyr 'aros yn iach' hefyd? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i nodi unigolion y dylid eu cydnabod yn ffurfiol fel gofalwyr, fel eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo? Mae'r nod na fydd neb yn aros yn hwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol erbyn diwedd 2022 yn ofyn mawr, a tybed sut y mae'r Llywodraeth wedi symud ymlaen tuag at y targed hwn. Ac yn olaf, Weinidog, mae GIG Cymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi gorfod dychwelyd bron i £13 miliwn i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Pa newidiadau sy'n cael eu gwneud o ran math a chwmpas y cyllid sy'n cael ei ddarparu i fyrddau iechyd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr adnoddau cywir i gyflawni'r cynllun? Diolch yn fawr iawn. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:07, 29 Mehefin 2022

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch ichi am roi'r cyfle imi ymateb i'r ddadl bwysig hon ynghylch yr adroddiad 'Aros yn iach?' ac amseroedd aros. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu derbyn bron bob un o'r argymhellion, 26 allan o 27. Yn amlwg, nid ydym wedi manylu ar y manylion yn yr ymateb, ond mae'n amlwg fod llawer mwy o fanylion yn y cynllun gofal wedi'i gynllunio. Nawr, cyhoeddais ein cynllun i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio ym mis Ebrill. Ac rwy'n siŵr bod y pwyllgor yn falch o weld bod llawer o'r camau gweithredu yn y cynllun hwnnw'n adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion y pwyllgor. Nawr, rydym eisoes yn gwneud cynnydd da ar y cynllun hwn, er mai dim ond ym mis Ebrill y cafodd ei gyhoeddi, ac mae'r ystadegau sydd gennym yn dechrau o fis Ebrill ymlaen, felly, mae'n amlwg y bydd yn cymryd ychydig o amser i fagu momentwm. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw canolbwyntio ar yr hyn a wnawn i gefnogi pobl tra byddant yn aros i gael eu gweld.

Nawr, rwy'n ymwybodol iawn, fel Gweinidog iechyd, fod pob un o'r miloedd o bobl hynny sy'n aros am driniaeth yn unigolion. Maent yn aml yn aros mewn poen, mewn pryder, mae eu teuluoedd yn poeni amdanynt, ac wrth gwrs mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod byrddau iechyd yn cefnogi pobl wrth iddynt aros. Nawr, rydym yn gwybod na fydd adferiad gofal wedi'i gynllunio yn digwydd dros nos. Bydd yn cymryd amser, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi gosod rhai cerrig milltir clir, ond uchelgeisiol iawn i adfer ac i leihau'r rhestrau aros hir hynny, ond fel y dywedais o'r blaen, nid yw hyn yn mynd i fod yn hawdd.

Mewn ymateb i Heledd Fychan, edrychwch—. A ydym mewn argyfwng? Edrychwch, nid yw'n wych, ond nid wyf yn credu ein bod mewn argyfwng, a dywedaf wrthych pam. Oherwydd ein bod yn gweld 315,000 o bobl mewn gofal eilaidd yn unig bob mis. Nid yw hynny'n cynnwys meddygon teulu. Tri chant a phymtheg o filoedd. Nid yw honno'n system sydd wedi torri. Dyna system sy'n gweithio'n dda iawn. Ac rwy'n credu y byddai'r holl filoedd o bobl sy'n gweithio yn y GIG yn derbyn ei fod o dan bwysau aruthrol. Mawredd, maent yn gweithio dros y 315,000 o bobl y maent yn eu gweld yn fisol.

Ac o ran ariannu, wel, dros dymor y Senedd hon, rydym wedi dweud ein bod yn mynd i wario £1 biliwn. Rwyf wedi darparu £680 miliwn hyd yn hyn—£170 miliwn am bob blwyddyn, yn ogystal â £15 miliwn bob blwyddyn i gefnogi prosiectau trawsnewid gofal wedi'i gynllunio ac £20 miliwn i gefnogi llwybrau sy'n seiliedig ar werth. Nawr, cafodd ein cynllun ei ddatblygu ar y cyd â staff y GIG i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y pethau sy'n mynd i wneud gwahaniaeth i bobl a'r staff, ac maent yn bartneriaid allweddol wrth weithredu'r cynllun. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod wedi ei adeiladu gyda hwy. Rwy'n glir fod yn rhaid inni gefnogi a pharhau i adeiladu ein gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf. Maent wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae angen inni barhau i fuddsoddi a chefnogi eu llesiant. Rwy'n deall ac yn clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud ynghylch pryderon am gapasiti i gyflawni, mai dyna a glywsoch gan y rhanddeiliaid. Nawr, byddwn yn llunio cynllun cyflawni'r gweithlu i gefnogi'r cynllun adfer, a bydd hynny'n barod yn ddiweddarach yr haf hwn, pan fyddwn yn nodi ein dull o ymdrin â staff cymorth. Rwy'n poeni; rwy'n poeni bob dydd am y cannoedd o filoedd o bobl sy'n llythrennol ond yn aros am eu hapwyntiadau, ac mae'n bwysig ein bod yn rhoi gwybod i bobl nad ydym wedi'u hanghofio, ein bod yn mynd i estyn allan atynt a'u cefnogi tra byddant yn aros.

Rydym yn gwneud cynnydd mawr—mae gwasanaeth newydd, y gwasanaeth gwella lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn gyffrous iawn yn fy marn i. Mae'r rhaglen yn cefnogi cleifion i reoli eu cyflyrau drwy ddull ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella eu lles meddyliol a chorfforol, ac rydym yn gwerthuso manteision nifer o fodelau gwahanol i gefnogi cleifion wrth iddynt aros, gan gynnwys cynllun peilot y Groes Goch ar draws tri bwrdd iechyd. 

Nawr, mae dileu cyfyngiadau COVID ym mis Mai yn golygu y gallwn ddechrau gweld a thrin mwy fyth o gleifion bellach, ond mae COVID yn dal i fod gyda ni ac mae cyfraddau eithaf uchel yn ein cymunedau ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun ar hyn o bryd sydd â COVID, ac mae hynny'n mynd i effeithio ar weithwyr iechyd. Felly, mae'n rhaid inni gofio ein bod yn dal i fyw gyda phandemig, ac mae hynny'n mynd i effeithio ar ein gallu i gyflawni. Ar 27 Mehefin, roedd dros 600 o gleifion COVID yn yr ysbyty. Yn ffodus, dim ond wyth oedd mewn gofal critigol.

Nawr, gwn nad yw amseroedd aros yn agos at ble y dylent fod. Ddiwedd mis Ebrill, roedd 707,000 o lwybrau agored. Rydym yn dechrau gweld rhai gwelliannau yn awr, diolch byth, a dangosodd data mis Ebrill am y tro cyntaf fod nifer y llwybrau sy'n agored am dros ddwy flynedd bellach yn gostwng. Nawr, fel y rhagwelwyd gennym, rydym yn dechrau gweld mwy o bobl angen gofal eilaidd ac yn cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd, a'r broblem sydd gennym, wrth gwrs, yw eu bod yn dal i ddod ar y rhestrau. Felly, rydym wedi gweld y galw'n cynyddu—o'i gymharu â dwy flynedd yn ôl, i fyny 13 y cant. Felly, mae'r ffigurau o fis Ionawr i fis Ebrill 13 y cant yn fwy na'r hyn a welem yn yr un cyfnod y llynedd. Felly, lleihau amseroedd aros a chefnogi cleifion tra byddant yn aros yw fy mlaenoriaeth; dyna yw blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:13, 29 Mehefin 2022

Rŷn ni wedi sefydlu tîm sy'n ymroddgar. Fe fydd y cyfarwyddwr adfer cenedlaethol yn arwain y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod ein cynllun adfer yn cael ei wireddu. Mae pob bwrdd iechyd wedi cael mwy o arian, arian sydd i'w ddefnyddio i'w helpu nhw i drawsnewid ac i gyflawni'n lleol, a bydd rhywfaint o'r arian yna'n cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion sy'n aros.

Nawr, yn yr wyth wythnos ers i ni lansio'r cynllun, mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud, a dwi eisiau jest rhoi rhai enghreifftiau i chi. Mae'r capasiti i gynnal llawdriniaethau wedi cynyddu yn Hywel Dda—maen nhw wedi prynu theatrau dros dro ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip—ac mae dwy theatr newydd wedi cael eu sefydlu ar gyfer gofal cataract yng Nghaerdydd a'r Fro, gan olygu y bydd hi'n bosibl i gynnal 4,000 yn fwy o lawdriniaethau y flwyddyn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:14, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd Buffy Williams yn fy holi am ofal canser, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod canolfannau diagnostig cyflym newydd ym mhob bwrdd iechyd erbyn hyn. Bydd yr un yng Nghaerdydd yn mynd ar-lein yn ddiweddarach eleni. Mae £75 miliwn wedi'u darparu i uwchraddio capasiti diagnostig, gan gynnwys offer MRI a CT newydd. Buddsoddwyd £12 miliwn ar gyfer cyflymyddion llinellol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe, a chyda Llywodraeth Cymru, Aneurin Bevan a Chaerdydd, rydym yn buddsoddi £16 miliwn ychwanegol ar gyfer endosgopi.

Fe gyfeirioch chi at gymaint o faterion: cyfathrebu â phobl, y data, diweddariadau misol. Rwy'n cael diweddariadau misol, felly rwy'n cadw llygad ar sut rydym yn symud ymlaen bob cam o'r ffordd, ac yna gallaf roi pwysau ar bobl. Felly, roeddwn yn siomedig iawn, os wyf yn onest, gyda'r cyfraddau canser ym mis Ebrill, ac roeddwn yn gallu mynd yn syth at y byrddau iechyd a dweud, 'Edrychwch, mae angen i chi wella yma.' Felly, mae'r cyfarfodydd sicrwydd misol hynny, i mi, yn mynd i fod yn hollbwysig. Gallaf eich sicrhau bod ein horthopedeg yn y targedau.

Ac atal, ni allwch roi popeth yn y cynllun gofal wedi'i gynllunio, ond wrth gwrs, mae atal yn allweddol. Os ydych am atal canser, mae angen ichi atal pobl rhag ysmygu, mae angen ichi sicrhau eu bod yn bwyta'n dda—yr holl bethau hyn—ond ni allwch roi'r cyfan yn y cynllun gofal wedi'i gynllunio. Mae gennym lawer o feysydd eraill lle rydym yn gwneud hynny. Yr un peth gyda gofal. Rwy'n treulio llawer o fy amser yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yn ceisio mynd i'r afael â'r mater gofal sydd mor ganolog i'n gallu i fynd i'r afael â'r broblem hon.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:16, 29 Mehefin 2022

Rŷn ni wedi cyflwyno trefniadau electronig ar gyfer cynghori ac atgyfeirio cleifion ar draws Cymru. Ac, o ganlyniad, mae bron i 15 y cant o atgyfeiriadau nawr yn cael eu rheoli drwy gynghori cleifion yn hytrach nag apwyntiadau newydd i gleifion mewnol. Bydd pob un o'r mesurau yn dechrau mynd i'r afael â materion sydd wedi codi yn yr adroddiad pwysig yma. Mae rhai pobl yn dal yn mynd i orfod aros, mae arnaf ofn, yn rhy hir am beth amser i ddod. Ond, dwi'n edrych ymlaen at barhau i adrodd ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws ein system gyfan i leihau amseroedd aros a gwneud pethau yn haws i bobl. Diolch yn fawr i'r pwyllgor unwaith eto am yr holl waith.

Photo of David Rees David Rees Labour

Dwi'n galw ar Russell George i ymateb i'r ddadl.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:17, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw? A gaf fi hefyd ychwanegu fy niolch i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil yn y Senedd, sy'n ein cefnogi'n fedrus iawn ac yn gwneud cymaint o waith y tu ôl i'r llenni? Felly, diolch yn fawr iawn am eich gwaith yn ein cefnogi fel Aelodau.

Credaf fod Gareth Davies wedi tynnu sylw yn ei gyfraniad, wrth gwrs, at y ffaith bod pobl yn aros yn rhy hir o lawer am driniaeth a diagnosis ymhell cyn i'r pandemig ddechrau, felly mae'n rhaid inni gadw hynny mewn cof bob amser.

Credaf mai un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn y cyfraniad heddiw oedd cyfathrebu. Credaf mai Rhun ap Iorwerth a Heledd Fychan a siaradodd am lefel yr ohebiaeth i'w swyddfeydd, ac mae gennyf yr un peth, ac rwy'n siŵr bod gennym i gyd, gyda phobl yn cysylltu â ni lle na ddylai hynny fod yn digwydd mewn gwirionedd. Mae angen inni gael gwell cyfathrebu â chleifion sy'n aros a'u cefnogi i aros yn iach. Clywsom y bore yma yn y cyfarfod rhanddeiliaid sut, yn aml, y caiff llythyrau amhriodol eu hanfon allan a llythyrau wedi'u geirio'n amhriodol. Felly, credaf ei bod yn werth edrych ar ein byrddau iechyd a chefnogi byrddau iechyd gyda'u cyfathrebu—sut y maent yn dweud ac yn trosglwyddo eu negeseuon i gleifion sy'n aros. Ac wrth gwrs, fod y llythyrau hynny'n cael eu hanfon mewn modd amserol hefyd. Credaf imi ddweud yn fy sylwadau agoriadol sut y soniodd un rhanddeiliad fod 20 drafft wedi'u creu cyn i lythyr fynd drwy broses. Fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar fod y Gweinidog yn edrych ar hynny ac yn ei gwestiynu, a chredaf ei bod yn werth cwestiynu'r broses honno, oherwydd mae hynny wedyn yn creu oedi. Efallai y byddwch am gael y llythyr yn iawn, ond mae'n creu oedi cyn i gleifion gael y llythyr.

Thema arall a ddaeth i'r amlwg yn eithaf clir y prynhawn yma, wrth gwrs, oedd y gweithlu a chadw staff. Nid yw hyn yn ymwneud â recriwtio staff yn unig; mae'n ymwneud â chadw staff. Credaf iddo gael ei grybwyll gan Buffy Williams a Sam Rowlands, ac unwaith eto mae'n ymwneud â'r amodau gwaith gwell hynny efallai. Ond drwy'r amser, roedd mater capasiti yn codi drwy gydol ein gwaith, ac eto yn y cyfarfod rhanddeiliaid y bore yma. Ac unwaith eto, y cwestiwn mewn gwirionedd yw: a oes digon o gapasiti i gyflawni'r cynllun yr ydych am ei weld? Felly, mae rhanddeiliaid yn dweud, 'Ydw, rwy'n effeithlon'—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:19, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Russell, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Altaf Hussain?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Yn sicr, gwnaf.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am ofyn i'r Gweinidog, ond mae'n dda y gallaf ofyn i'r Cadeirydd, wrth edrych ar y pryderon hyn, a ydych wedi ystyried hawliau dynol y cleifion ar unrhyw adeg. Diolch.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymyriad, Altaf. Credaf nad yw'n rhywbeth yr edrychwyd arno'n benodol yn ein hadroddiad pwyllgor, ond o'n safbwynt ni, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw bod yr ôl-groniad yn gostwng. Wrth glywed cyfraniadau Aelodau eraill y prynhawn yma, gwyddom y gallwn siarad am ystadegau, ond mae'n ymwneud â'r effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Unwaith eto, gwnaeth tîm ymchwil y Senedd waith gwych i ddangos rhai o'r union faterion yr oedd pobl yn ymdopi â hwy, a'u teuluoedd, wrth fod ar restr aros.

Ond rwy'n meddwl mai un o'r materion eraill—. Credaf fod Jane Dodds wedi sôn, yn ddiddorol, am ddychwelyd cyllid i Lywodraeth Cymru, a thynnodd Archwilio Cymru sylw at hyn hefyd, wrth gwrs. Ond y cwestiwn yw: pam y digwyddodd hynny? Pam? Oherwydd nad ydynt yn gallu gwario'r arian. Pam na allant wario'r arian? A yw hwnnw'n fater sy'n ymwneud â chapasiti? Nid oes ganddynt ddigon o gapasiti i gyflawni hynny efallai.

Ond gellid dadlau mai her fwyaf y Senedd hon yw lleihau'r ôl-groniad o ran amseroedd aros. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn a chyfrifoldeb y Senedd hon yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn hynny o beth. Clywais gyfraniad y Gweinidog—ychydig o enghreifftiau penodol yn y byrddau iechyd. Ond efallai mai'r hyn na ddywedoch chi ormod amdano, Weinidog, oedd yr hyn y gellid ei wneud ar lefel fwy rhanbarthol yn ogystal efallai. Felly, gallwn weld bod enghreifftiau unigol o fewn byrddau iechyd, ond ceir mater byrddau iechyd yn cydweithio, a beth y gellid ei wneud i gyflwyno'r arferion gorau hynny, ond bod byrddau iechyd rhanbarthol yn cydweithio ar draws ei gilydd hefyd.

Ond rwy'n gwerthfawrogi eich didwylledd, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd ynghylch y ffigurau cyfraddau canser siomedig. Daliwch ati i fod yn onest gyda ni am y sefyllfa, Weinidog, a chredaf fod hynny'n ddefnyddiol yn hynny o beth. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw na allwn anelu'n syml at ddychwelyd i'r man lle roeddem yn ôl ym mis Mawrth 2020. Mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfle hwn i aildrefnu, ac mae angen inni weld buddsoddiad cynaliadwy mewn gwasanaethau, yn y gweithlu, yr ystad a'r seilwaith, ffocws o'r newydd ar arloesi, trawsnewid gwasanaethau dilys a chynaliadwy, a chynnydd ar atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:22, 29 Mehefin 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.