– Senedd Cymru am 4:22 pm ar 29 Mehefin 2022.
Symudwn ymlaen at eitem 7, dadl ar ddeiseb P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn y Senedd am ganiatáu i ni drafod y ddeiseb y prynhawn yma.
Cafodd y ddeiseb, P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol' ei chreu gan Jacqueline Doig a chafodd 10,678 o lofnodion. Mae'r ddeiseb ei hun yn datgan:
'Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed. Mae'n gwastraffu amser hollbwysig pan nad yw amser ar ein hochr ni.
'Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau yn fwriadol. Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf peryglus: ffermio.
'Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r “Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith. Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir, yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei angen.'
Mae'r ddeiseb yn mynd ymlaen, Ddirprwy Lywydd, i egluro mwy o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd y mae'r deisebydd ac eraill wedi'u profi.
Ond un o'r datblygiadau arloesol y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i gyflwyno eleni yn ein proses ddeisebu yn y Senedd yw mapiau gwres, a gwn fod hynny efallai'n swnio'n ddiflas i rai, ond mewn gwirionedd, mae'n bwynt pwysig iawn yr wyf am ei wneud y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae'r mapiau'n dangos yn glir iawn ble mae deisebau wedi'u llofnodi ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae gan y ddeiseb benodol hon un o'r mapiau mwyaf clir a welsom erioed fel pwyllgor, gyda dros 85 y cant o'r llofnodion yn dod o ddwy etholaeth sir Benfro. Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n ysgogi angerdd cryf yn lleol—cryf iawn—ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau y prynhawn yma yn archwilio'r materion hynny'n fanylach.
Ond dylwn ddweud nad yw'r angerdd lleol hwnnw dros ein gwasanaethau iechyd yn gyffredinol wedi'i gyfyngu i sir Benfro: mae'n bodoli ym mhobman, ym mhob cwr o Gymru. Ac mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn angerddol iawn am yr ardaloedd a gynrychiolwn, ac rydym yr un mor angerddol am ein gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i ni. Rydym i gyd yn cynrychioli ardaloedd lle mae ein hetholwyr yn angerddol am eu gwasanaethau a'r gwasanaethau a gânt, a'r ffordd y cânt eu darparu.
Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl heddiw. Cefais y pleser o groesawu'r ddadl heddiw i'r Siambr, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am bryderon pobl, yn enwedig yn sir Benfro, lle cafodd y ddeiseb hon ei llofnodi gan gymaint o bobl, ac ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn ehangach. Ond edrychaf ymlaen hefyd at glywed gan Aelodau ar draws y Siambr am faterion a phryderon cysylltiedig mewn rhannau eraill o Gymru. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog.
Ddirprwy Lywydd, er bod y ddeiseb hon yn ymwneud ag ysbyty yn Hwlffordd a'r gwasanaethau a ddarperir yno, mae'r mater yn un sy'n taro tant ledled y wlad. Felly, rwy'n falch o allu agor y ddadl heddiw. Rwy'n falch o roi cyfle i'r 10,678 o bobl a lofnododd y ddeiseb, yn enwedig, godi eu llais yn eu Senedd, cartref democratiaeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar y bydd eu pryderon yn cael eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed gweddill y ddadl. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a siarad o blaid y ddeiseb i sicrhau bod ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei adran damweiniau ac achosion brys. Nid y ddeiseb hon yw'r gyntaf i alw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg, a sicrhau nad ydynt yn cael eu symud ymhellach i ffwrdd. Ac eto, er i Weinidogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol ddweud bod Llwynhelyg yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, y realiti yw ein bod wedi gweld mwy a mwy o wasanaethau'n cael eu hadleoli i fannau eraill dros y blynyddoedd, ac mae'r cynnig yn awr i symud yr adran damweiniau ac achosion brys yn mynd yn rhy bell.
Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, mae sir Benfro yn gartref i burfa olew, dwy derfynell nwy naturiol hylifedig, porthladdoedd fferi, meysydd tanio a nifer fawr o weithwyr mewn diwydiannau risg uwch, fel ynni a ffermio, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau newydd ei ddweud. Mae sir Benfro hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr i'r sir bob blwyddyn, rhywbeth, gyda llaw, nad yw'r dogfennau ymgynghori i adeiladu ysbyty newydd yn ei ystyried wrth sôn am symud gwasanaethau damweiniau ac achosion brys tua'r dwyrain.
Mae'n rhaid bod y miloedd ar filoedd sy'n ymweld â sir Benfro hefyd yn ffactor wrth benderfynu israddio cyfleusterau damweiniau ac achosion brys. Byddai cael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg heb os yn atal pobl rhag ymweld â'r ardal os nad yw'r cyfleusterau brys ar gael yn yr ysbyty lleol. Yn gwbl amlwg, mae arnom angen y gwasanaethau hanfodol hyn yn ysbyty Llwynhelyg er mwyn cefnogi pobl leol, a ddylai barhau i allu cael mynediad at wasanaethau brys o'r radd flaenaf, ac er mwyn cefnogi'r degau o filoedd o ymwelwyr sy'n ymweld â ni'n rheolaidd.
Bydd Aelodau'n gwybod bod canlyniadau'n gwella'n sylweddol os yw pobl yn cael y gofal cywir a'r driniaeth gywir o fewn yr awr aur gyntaf o fynd yn sâl neu gael eu hanafu. Ac mewn llythyr diweddar a gyhoeddwyd gan y bwrdd iechyd lleol, mae'n cydnabod y bydd amseroedd teithio i gael gofal brys ar safle ysbyty newydd yn hirach i rai o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Felly, os caiff adran damweiniau ac achosion brys ysbyty Llwynhelyg ei throsglwyddo ymhellach i ffwrdd, mae'n annhebygol iawn y bydd rhai o fy etholwyr yn cael y gofal a'r driniaeth gywir o fewn yr awr aur gyntaf o fynd yn sâl neu gael eu hanafu.
Yn sir Benfro, rydym yn derbyn eisoes fod rhaid inni deithio ymhellach i ffwrdd i gael triniaeth arbenigol, ond mae ein gorfodi i deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer triniaeth sy'n achub bywydau a gwasanaethau brys yn gwbl annerbyniol, a gallai beryglu bywydau. Yn ôl cyfaddefiad y bwrdd iechyd ei hun, mae gwir angen uwchraddio seilwaith trafnidiaeth sir Benfro, ac mae hynny'n golygu y bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Tyddewi neu Abergwaun, er enghraifft, yn cymryd llawer mwy nag awr i gyrraedd cyfleusterau damweiniau ac achosion brys os nad ydynt yn aros yn ysbyty Llwynhelyg.
O bryd i'w gilydd, gwelwn yr A40 ar gau oherwydd damweiniau, a byddai mynd ymhellach tua'r dwyrain o fewn yr awr aur o leoedd fel Abergwaun, Tyddewi a Dale, o dan yr amgylchiadau hynny, yn amhosibl. Fel y dywedais yn y Siambr hon droeon yn ddiweddar, mae'r gwasanaeth ambiwlans yn sir Benfro eisoes o dan gymaint o bwysau, maent yn ei chael yn anodd ymdopi, ac felly, os caiff gwasanaethau damweiniau ac achosion brys eu symud ymhellach i ffwrdd, caiff hynny effaith enfawr ar gyfraddau ymateb a'r gallu i gael pobl i'r adran damweiniau ac achosion brys cyn gynted â phosibl.
Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach wedi nodi pum safle posibl fel lleoliadau i adeiladu'r ysbyty newydd hwn ac mae'r safleoedd hynny bellach yn destun ymgynghoriad. Serch hynny, ni allaf fod yn gliriach—nid oes yr un o'r safleoedd hyn yn dderbyniol. A dywedaf wrthych pam: yn y ddogfen ymgynghori, fe'i gwneir yn gwbl glir nad oedd ysbyty Llwynhelyg wedi'i nodi fel safle oherwydd, yn gwbl gywir, ni fyddai'n briodol i drigolion sir Gaerfyrddin deithio'r pellter hwn ar gyfer y math hwn o ofal. Felly, nid yw'n briodol i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn sir Benfro deithio ymhellach tua'r dwyrain ar gyfer y math hwn o ofal ychwaith. Felly, erfyniaf ar y Gweinidog a Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn y mater hwn a sicrhau bod gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn aros yn ysbyty Llwynhelyg.
Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli am ei weld yw bod Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol yn datblygu ac yn moderneiddio seilwaith ysbyty Llwynhelyg ac yn sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o'r radd flaenaf yn sir Benfro. Rhaid rhoi diwedd ar y modd y caiff gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg eu herydu'n barhaus. Rhaid dychwelyd yr uned gofal pediatrig dydd, rhaid diogelu'r adran damweiniau ac achosion brys, a rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i ganiatáu cynigion sy'n mynd â gwasanaethau hanfodol oddi wrth y bobl sydd eu hangen.
Ddirprwy Lywydd, diogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yw blaenoriaeth bennaf y bobl rwy'n eu cynrychioli, ac felly rwy'n annog y Gweinidog i ymyrryd yn awr a datblygu dull newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd yn sir Benfro—dull sy'n seiliedig ar wrando ar bobl sir Benfro a rhoi sicrwydd iddynt y bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu ac y buddsoddir ynddynt yn y dyfodol.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i ymateb i’r ddeiseb hon. Mae llawer iawn o'r hyn roeddwn i'n bwriadu ei ddweud wedi cael ei ddweud yn barod. Ond yn sicr, yn ystod yr ymgyrch etholiadol rhyw flwyddyn yn ôl, roedd pryderon am ddyfodol ysbyty Llwynhelyg, yn arbennig dyfodol yr adran damweiniau brys, yn rhywbeth a oedd yn codi ar garreg y drws yn aml iawn pan oeddwn i'n canfasio yn sir Benfro. Ac yn anffodus, mewn sawl rhan o’r sir, mae’r ansicrwydd, yr ad-drefnu diweddar, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, a cholli gwasanaethau fel gwasanaethau pediatrig ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi arwain at golli ffydd a hyder yn gyffredinol ym mwrdd iechyd Hywel Dda a'r Llywodraeth.
Yn y cyfamser, mae'r trigolion, gan gynnwys y bregus a’r henoed, yn pryderu am y posibilrwydd o golli’r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys, sydd yn llythrennol wedi bod yn wasanaeth achub bywyd i lawer iawn ohonyn nhw, a'u teuluoedd a'u cymdogion. Ers i mi gael fy ethol i fan hyn, mae’r cryfder teimlad hwn tuag at ddiogelu dyfodol ysbyty Llwynhelyg wedi dod yn fwyfwy amlwg. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch iawn o fynychu rali ar safle'r ysbyty i gefnogi cadw gwasanaethau brys yn ysbyty Llwynhelyg. Yn y cyfamser, mae'r pryderon hynny wedi cynyddu.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylai fod gan bobl yr hawl i wasanaethau hanfodol, sy’n amlwg yn cynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi ym mhob rhan o Gymru. Mae’r potensial ar gyfer diwygio gofal iechyd yn yr ardal drwy adeiladu ysbyty newydd, o bosibl, yn creu mwy o ansicrwydd yn sir Benfro. Er fy mod yn cydnabod y cyfleoedd y byddai agor ysbyty newydd sbon yn eu cynnig i orllewin Cymru o ran recriwtio staff arbenigol, darparu gwell cyfleusterau clinigol a chyfleoedd ymchwil, nid oes unrhyw amheuaeth, er gwaethaf ymdrechion y bwrdd iechyd, fod pryderon gwirioneddol a dybryd o hyd y gallai hyn olygu bod trigolion bregus sy'n byw ar ymylon pellaf gorllewin sir Benfro mewn perygl pe bai angen gwasanaethau iechyd brys.
Mae cryfder y teimladau'n amlwg, fel y clywsom eisoes gan Jack Sargeant. Gallai colli darpariaeth damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg i rai o’r safleoedd ysbyty arfaethedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf olygu bod pellteroedd i drigolion sy’n byw yn Nhyddewi yn mwy na dyblu, o 16 i 36 milltir. Byddai hyd y teithiau hefyd yn dyblu o ardaloedd fel Aberdaugleddau, Abergwaun ac Angle. Gwn fod llawer o drigolion yn bryderus iawn am effaith y cynnydd hwn mewn amseroedd teithio i adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig wrth ystyried y mewnlifiad sylweddol yn y boblogaeth yn sir Benfro, fel y clywsom eisoes, pan fo'r tymor twristiaeth ar ei anterth, yn ogystal â'r crynodiad o weithgarwch diwydiannol a geir ar ddyfrffordd Aberdaugleddau.
Mae’n bwysig nodi hefyd, Ddirprwy Lywydd, nad anecdotaidd yn unig yw’r pryderon hyn ynghylch effaith colli darpariaeth A&E. Mae tystiolaeth yn bodoli sy’n cefnogi pryder ehangach, heb sôn am bwysigrwydd yr awr aur, y golden hour, fel mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol ohono. Dangosodd un astudiaeth gan Brifysgol Sheffield, a edrychodd ar 10,500 o achosion brys, fod cynnydd o 10 km mewn pellter llinell syth o uned damweiniau ac achosion brys yn gysylltiedig â chynnydd absoliwt o tua 1 y cant mewn marwolaethau, yn enwedig i'r rhai â chyflyrau anadlu. Gyda rhai cynigion yn gweld ardaloedd fel Aberdaugleddau a Doc Penfro yn wynebu cynnydd o dros 30 km, mae’n ddealladwy pam fod cymaint o bobl yn pryderu am ddyfodol y gwasanaethau iechyd lleol.
Rwy’n cydnabod yr heriau y mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn eu hwynebu yn rhy aml o lawer, yn enwedig wrth ystyried y diffyg buddsoddiad cyfalaf cronig sydd wedi bod yn y bwrdd iechyd yng ngorllewin Cymru o gymharu â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth i’r trafodaethau am ysbyty newydd posib barhau, mae’n hanfodol bod y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw manwl o’r pryderon gwirioneddol hyn gan drigolion sir Benfro, a mynd ati i gymryd camau pendant i sicrhau nad yw mynediad a hawl trigolion yr ardal at wasanaethau brys yn cael ei danseilio gan unrhyw newidiadau i wasanaethau iechyd yn yr ardal.
A gaf innau hefyd ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn? Adleisiaf eich pwyntiau, os caf, Gadeirydd, ynghylch y ffaith bod cau unrhyw ysbyty, unrhyw drawsnewid, unrhyw newid neu leoliad newydd yn peri pryder a heriau. Rwy'n rhoi cydbwysedd yma. Fe fyddaf yn onest, a dweud nad wyf wedi clywed galwadau uchel, o ran y bobl sydd wedi cysylltu â mi, o blaid cadw ysbyty Llwynhelyg, ond mae wedi bod yn gydbwysedd. Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod am i ysbyty Llwynhelyg aros, ond mae eraill hefyd wedi derbyn yr angen i newid. Maent yn deall her daearyddiaeth yr ardal, prinder gwasanaethau, proffil y trigolion, a’r ymchwydd tymhorol yn y boblogaeth, fel y clywsom, sy’n golygu bod angen newid o ran y dull gweithredu. Rwy'n adleisio llawer o’r sylwadau a wnaed hyd yma.
Mae pobl yn wirioneddol bryderus am y pellter y byddai’n rhaid i drigolion ei deithio, yn enwedig yng ngorllewin sir Benfro, a’r gwasanaethau newydd a’r broses o bontio i’r gwasanaethau hynny. Mae angen sicrwydd ac ymrwymiad ar breswylwyr, fan lleiaf, na fydd y ganolfan gofal brys yn ysbyty Llwynhelyg yn cael ei hisraddio tan y bydd unrhyw ysbyty newydd arfaethedig yn gwbl weithredol, ac wedi’i brofi gyda chyfnod o adolygu ac ymgysylltu clir â chleifion a’u teuluoedd, a bod y canolfannau iechyd a lles integredig newydd hefyd yn gwbl weithredol. Fel y clywsom, mae amseroedd ymateb ambiwlansys wedi cael sylw yn y penawdau dro ar ôl tro am y rhesymau anghywir, felly mae'n ddealladwy iawn fod pobl yn codi pryderon ynghylch pellter cleifion o safle unrhyw ysbyty newydd neu adran ddamweiniau ac achosion brys.
I gloi fy nghyfraniad byr iawn i’r ddadl hon, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog am unrhyw sicrwydd y gall ei roi ynghylch unrhyw fodel newydd a gynigir gan fwrdd Hywel Dda, a’r lleoliadau posibl hefyd, gan sicrhau y bydd cleifion yn gallu cael y gofal iawn ar yr adeg iawn, yn enwedig cleifion sydd angen gofal brys. Diolch yn fawr iawn.
Rwy’n falch fod gennym gyfle arall i godi mater cadw adran damweiniau ac achosion brys sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn.
A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i ymdrechion pobl leol sir Benfro, sydd wedi cydgysylltu a threfnu’r ddeiseb ddiweddaraf hon, sydd wedi arwain at gyflwyno’r pwnc ar lawr y Senedd unwaith eto? Ar sawl ffurf, mae’r ymgyrch leol wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd ac wedi llwyddo i gydgysylltu cymorth i gynnal gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg. Rydym wedi gweld deisebau’n cael eu llofnodi, ralïau’n cael eu cynnal y tu allan i’r Siambr hon, a gorymdeithiau drwy drefi sir Benfro, ac rwyf wedi mynychu pob un ohonynt, a'r cyfan er mwyn tynnu sylw at y bygythiadau i wasanaethau iechyd lleol. Rwy’n falch o weld sawl ymgyrchydd yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r staff, sydd, er gwaethaf degawd o fygythiad i israddio a chael gwared ar wasanaethau, yn parhau i gyflawni eu rolau gyda phroffesiynoldeb llwyr. A byddai’n esgeulus imi beidio â diolch i Paul Davies, fy nghymydog etholaethol a ffrind da, am bopeth y mae wedi’i wneud ar y mater hwn. Mae’r Aelod wedi dadlau'n wiw dros yr ysbyty hwn.
Mewn bron i 14 mis yn Aelod o'r lle hwn, rhaid imi ddweud nad oes wythnos wedi mynd heibio heb i etholwr gysylltu â mi i nodi eu pryderon ynghylch cael gwared ar adran damweiniau ac achosion brys o'u hysbyty lleol. Er nad yw ysbyty Llwynhelyg wedi'i leoli yn fy etholaeth i, mae llawer o fy etholwyr yn gleifion yno, ac yn briodol iawn, mae'n uchel iawn ei barch yn eu plith. Ond er gwaethaf yr holl ystrydebau ac ymgyrchoedd, rydym yn dal yn yr un sefyllfa ag y buom ynddi dros y degawd diwethaf, gyda dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili dan fygythiad. Mae ysbyty Llwynhelyg, gadewch inni gofio, wedi colli nifer o wasanaethau dros y blynyddoedd, diolch i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur hon. Ond er eglurder, mae'n werth imi ailadrodd eto fod dadl heddiw yn canolbwyntio ar gadw'r adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg yn unig. Rwy'n annog y Gweinidog, yn ei hymateb, i beidio â syrthio i’r fagl o siarad am gynlluniau ehangach ar gyfer ad-drefnu, gan nad yw hynny’n gwneud unrhyw beth i leihau pryderon pobl leol sy’n ymwneud yn benodol â darpariaeth gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.
Nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon ynghylch pwysigrwydd gwasanaethau hanfodol yng ngorllewin Cymru, yn enwedig i’r bobl leol sy’n dibynnu ar wasanaeth damweiniau ac achosion brys cwbl weithredol o ansawdd da yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried y mewnlifiad o ymwelwyr sy’n golygu bod poblogaeth gorllewin Cymru yn chwyddo dros fisoedd yr haf, wrth iddynt fwynhau holl atyniadau gwych ac arfordir a chefn gwlad y sir. Mae rhai cymunedau yn sir Benfro o leiaf 45 munud oddi wrth ysbyty Llwynhelyg yn barod, a chyda safleoedd posibl ar gyfer ysbyty newydd yn cael eu cyhoeddi o’r diwedd, nid oes unrhyw obaith y bydd y gwasanaethau hyn yn dod yn nes. Ond gadewch imi fynd â chi'n ôl at y tactegau y mae'r rheini sy'n dymuno cael gwared ar yr adran damweiniau ac achosion brys yn eu defnyddio.
Bydd sefydliadau yn aml yn anfon papur briffio ataf cyn dadleuon. Dychmygwch fy syndod pan gyrhaeddodd papur briffio bwrdd Hywel Dda fy mewnflwch yn gynharach yr wythnos hon. Bu’n rhaid imi ei ddarllen fwy nag unwaith i sicrhau bod yr wybodaeth yr oeddent yn ei rhoi yn berthnasol i’r ddadl hon, gan eu bod yn anwybyddu teitl y ddeiseb ac yn mynd i’r afael â mater cau adran damweiniau ac achosion brys mewn ffordd sydd, pa ryfedd, yn peri i bobl leol boeni a phryderu am ddyfodol eu hadran damweiniau ac achosion brys. Yn hytrach, roedd y briff yn canolbwyntio ar ad-drefnu'r bwrdd iechyd yn fyw cyffredinol, gan werthu’r freuddwyd o uwchysbyty newydd ar gyfer gorllewin Cymru—yr un freuddwyd ag y maent wedi bod yn ei gwerthu am y degawd diwethaf, ac na fydd, yn eu geiriau hwy, yn cael ei ‘gwireddu’ tan ddiwedd y degawd hwn ar y cynharaf.
Weinidog, rwy’n derbyn yn llwyr fod angen i’r ffordd y darperir gofal iechyd newid, ond rydym bob amser yn mynd i fod angen adran damweiniau ac achosion brys. Bydd cleifion bob amser angen gofal brys yn agos i'w cartrefi, o drawiad ar y galon a strôc i dorri coesau ac anafiadau i'r pen. Mae symud y gwasanaeth hwnnw ymhellach oddi wrth gymunedau yn ffôl a dweud y lleiaf, ac yn ddideimlad ar y gwaethaf. Os bydd addewidion yn cael eu cadw, ac os bydd yr ysbyty’n parhau i fod ar safle Llwynhelyg pan fydd yr ysbyty newydd wedi’i adeiladu, pam na all gynnwys adran damweiniau ac achosion brys? Pam na all yr ysbyty newydd a gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg gydfodoli? Mae’r pum safle a ffefrir ar gyfer yr ysbyty newydd wedi'u lleoli ar hyd darn 12 milltir o’r A40, gyda sawl rhan ohoni'n ffordd unffrwd, ac yn cael traffig trwm a llawer o ddamweiniau, ac nid wyf wedi crybwyll y pwysau sydd ar ein gwasanaethau ambiwlans ar hyn o bryd.
Weinidog, gallwn fynd ymlaen, ond ers gormod o amser ac yn rhy aml, caiff gorllewin Cymru ei anghofio ym mholisïau eich Llywodraeth. Mae pobl leol yn haeddu gwell, ac maent yn teimlo nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae gennyf arolwg barn ar fy ngwefan a chyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi llais i bobl leol, ffordd i leisio eu barn ar ble yr hoffent weld ysbyty newydd yn cael ei leoli. Er nad yw’n hynod wyddonol, yn llai felly na’r map gwres y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau amdano yn gynharach, mae’n glir: mae 82 y cant wedi pleidleisio i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ar y safle presennol.
Mae'n rhaid i’r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Weinidog, nid fy etholwyr i nac etholwyr Paul yn unig yw’r rhain, maent yn etholwyr i chi hefyd. Nid ydynt yn cefnogi'r cynigion i gael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys. A fyddech cystal â chynnig rhywfaint o sicrwydd i fy etholwyr i, Paul, Joyce, Jayne, Cefin, a chithau, na fydd bywydau’n cael eu peryglu pe bai gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn symud ymhellach i ffwrdd o lle maent wedi'u lleoli ar hyn o bryd, gan nad oes unrhyw beth a glywais hyd yma gan y Llywodraeth neu'r bwrdd iechyd yn rhoi unrhyw hyder i mi fod newid polisi neu newid cyfeiriad yn mynd i ddigwydd? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae pobl Cymru yn haeddu gwasanaethau iechyd sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth glinigol orau a mwyaf diweddar i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel hwnnw. Mae’r ddadl heddiw yn bwnc a drafodwyd gennym droeon, ac felly nid wyf yn ymddiheuro i’r Aelodau y byddant yn clywed unwaith eto pam fod yn rhaid i wasanaethau newid. Mae angen gwelliannau arnom os ydym am ddarparu gwasanaethau iechyd y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Dyna oedd casgliad yr adolygiad Seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yr adolygiad yn argymell yn glir yr angen am chwyldro yn ein system iechyd a gofal i fodloni gofynion y dyfodol, a hoffwn atgoffa’r Ceidwadwyr am y ddadl flaenorol, yr un cyn hon, pan oeddent yn gofyn am drawsnewid radical: ymrwymodd pleidiau'r Senedd hon i’r argymhellion hynny, a gadewch imi ddweud wrthych nad yw gorllewin Cymru wedi’i anghofio. Pe bai cynlluniau i ddatblygu ysbyty newydd yn mynd yn eu blaenau, dyna fyddai’r buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector cyhoeddus yng ngorllewin Cymru, a byddai'n darparu cyfleuster newydd sbon, glanach, gwyrddach, a chyfleoedd enfawr i bobl leol, a gwn ar ba ochr i'r ddadl honno yr hoffwn fod. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer ei boblogaeth leol, gan gynnwys gwasanaethau acíwt a gwasanaethau brys. Mae wedi bod yn ymgynghori ar ystod o gynigion fel rhan o'i strategaeth iechyd 20 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n craffu ar achos busnes eu rhaglen, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto.
Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i nodi'n gwbl glir fod dyblygu gwasanaethau ar ei safleoedd yn arwain at freuder. Ni all safleoedd lluosog gynnal yr arbenigedd angenrheidiol na'r raddfa angenrheidiol i ddarparu'r gofal gorau posibl 24/7. Ac fel rhywun sy'n byw yn Nhyddewi gyda mam 90 oed, gwn y byddai’n well gennyf deithio ychydig filltiroedd yn rhagor i weld arbenigwr yn gyflymach na threulio oriau yn yr adran damweiniau ac achosion brys, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae rhaglen drawsnewid y bwrdd iechyd wedi’i llunio gan glinigwyr yn benodol i sicrhau bod cynigion yn ddiogel i gleifion. Lluniodd y bwrdd iechyd y cynnig cyfredol hwn ar ôl yr hyn a ystyrid yn batrwm o broses ymgysylltu gyda llawer o gymunedau dros fisoedd lawer. Nawr, bwriad y cynnig i adeiladu ysbyty newydd yn meddu ar gyfleusterau gofal brys o'r radd flaenaf yw gwella safonau gofal. Golyga'r cynnig y bydd modd cael mynediad amserol at bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch ac sy’n gallu asesu cleifion, a bydd hefyd yn arwain at wella cyfleoedd hyfforddi i’n staff proffesiynol, ac mae denu staff, pan fo gennym weithlu sy'n heneiddio, yn mynd i fod yn anodd. A gadewch inni fod yn onest ynglŷn â pa mor anodd yw denu pobl ar hyn o bryd.
Yn unol â'n disgwyliadau, a pholisi o bob bwrdd iechyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn datblygu ei gynllun chwe nod ar gyfer gofal iechyd brys ac argyfwng. Mae hwn yn cynnwys yr holl system gofal brys ac argyfwng, o ofal sylfaenol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, sydd wrth galon ein cymunedau. Blaenoriaeth y bwrdd iechyd yw cynnal gwasanaethau diogel. Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio drwy fanylion ei gynlluniau. Mae'n ymgysylltu â rhanddeiliad, cleifion, gofalwyr, dinasyddion a phartneriaid i helpu i siapio'r cynigion, a dwi'n annog pawb sydd â diddordeb i barhau i gymryd rhan yn y broses yna.
Wrth gwrs, dwi'n deall y pryderon sydd gan bobl yn lleol yn sir Benfro am ysbyty Llwynhelyg, felly dwi eisiau bod yn hollol glir y bydd yr ysbyty yn parhau i chwarae rhan bwysig yn nyfodol gwasanaethau gofal iechyd yn yr ardal. Allwn ni ddim cadw popeth fel y mae a hefyd sicrhau'r newid sydd ei angen. Mae'n gamarweiniol i awgrymu bod hynny'n bosibl.
Bob dydd dwi'n cael gwybod ble mae'r pwysau mwyaf ar yr NHS yng Nghymru, ac mae Hywel Dda yn ymddangos yn rheolaidd. Bob dydd, er gwaethaf ymdrechion arwrol y staff, mae pobl yn aros yn hirach nag y bydden nhw'n dymuno oherwydd eu bod yn anodd recriwtio i ysbyty Llwynhelyg. I'r nifer fawr o bobl yn y gorllewin sy'n aros am lawdriniaeth, byddai'r gallu i wahanu achosion brys oddi wrth ofal sydd wedi'i gynllunio yn gam cadarnhaol, yn sicr. Ac unwaith eto, a gaf i atgoffa'r Torïaid eu bod nhw'n gofyn inni wneud mwy o'r gwahanu hyn drwy'r amser? Rŷch chi'n gofyn inni wneud hyn, a byddai hyn yn caniatáu inni wneud hynny. Mae'n golygu nad oes cymaint o darfu ar drefniadau llawdriniaeth sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw.
Felly, mae angen i'r bobl sy'n aros am lawdriniaethau clun mewn lleoedd fel sir Benfro ddeall, wrth gael adran damweiniau ac achosion brys a gofal wedi'i gynllunio yn yr un lle, fod tarfu'n digwydd yn gyson. Ac mae gennym arbenigwr yn ein plith, sy'n llawfeddyg orthopedig, sy'n ymwybodol mai dyna'r sefyllfa. Rydych yn parhau i ofyn inni wahanu pethau; dyma gyfle i wneud hynny—
Weinidog, mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
i fynd i’r afael go iawn â’r rhestrau aros. Gadewch imi ddweud yn glir nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar yr ysbyty eto. Rwy’n eistedd wrth ymyl y Gweinidog cyllid yma, a byddai’n rhaid iddi ddod o hyd i lawer iawn o arian. Nid yw hyn yn syml o gwbl. Ac wrth gwrs, fel rhywun sy'n cynrychioli'r ardal, ni fyddwn yn cael gwneud penderfyniad, ond gadewch imi ddweud wrthych, fel yr unigolyn sy'n gyfrifol am iechyd yng Nghymru, ni allaf fod mewn sefyllfa lle nad ydym yn trefnu ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhaid inni gynllunio rhywbeth sy’n gynaliadwy. Gadewch imi ddweud yn gwbl glir y bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn aros yn ysbyty Llwynhelyg hyd nes y bydd ysbyty newydd wedi'i adeiladu. Mae gennym lawer iawn o ffordd i fynd a bydd angen inni fynd trwy'r felin cyn inni gyrraedd y pwynt hwnnw, ac wrth gwrs, byddai uned mân anafiadau dan arweiniad meddyg yn parhau o dan y cynlluniau a gynigir gan y bwrdd iechyd.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, a’r holl Aelodau sy'n cynrychioli etholwyr yno ac sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg, gan gynnwys y Gweinidog, fel y dywedodd? Mae hyn wedi galluogi i fater pwysig gael ei godi heddiw. Rydym wedi clywed eisoes nad dyma’r tro cyntaf iddo gael ei godi yn y Siambr; rwy’n siŵr nad dyma’r tro olaf y bydd yn cael ei godi yn y Siambr, yn ôl pob tebyg.
Credaf fod Paul Davies wedi sôn yn ei gyfraniad mai dyma’r brif flaenoriaeth i’w etholwyr. Mae hynny'n gyson, onid yw, â'r 85 y cant o lofnodwyr a ddangosir ar y mapiau gwres? Ac yn ei gyfraniad pwerus, nododd Sam Kurtz fod Paul Davies yn hyrwyddwr gwiw ar ran yr ysbyty, ac mae cyfraniad pwerus Sam ei hun, a’i ffigur o 82 y cant o'r arolwg barn ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos fod hwn yn bwnc sy'n amlwg o ddiddordeb i bobl sir Benfro. Cyfeiriodd Cefin Campbell hefyd at bwysigrwydd hyn ar garreg y drws, a sawl gwaith y codwyd y gwasanaethau a'r angen i ddiogelu'r gwasanaethau gydag ef. Nododd ymdrechion a heriau bwrdd iechyd Hywel Dda, ond nododd hefyd fod yr ansicrwydd yn parhau, a galwodd am eglurder ynghylch hynny. Darparodd fy nghyd-Aelod, Jane Dodds, gydbwysedd i’r ddadl y prynhawn yma, gan ddeall unwaith eto fod angen newid y dull gweithredu, ond nododd y pryderon a godwyd gan Aelodau eraill, ac rydych chi wedi cael rhai ohonynt eich hun. A chredaf eich bod wedi galw am ymrwymiad i beidio ag israddio gwasanaethau, os wyf yn iawn i ddweud, hyd nes y ceir lleoliad ac ysbyty newydd cwbl weithredol, ac yna ar ôl adolygiad o'r ysbyty penodol hwnnw. A dywedodd y Gweinidog, mewn ymateb, yn glir iawn yn fy marn i, y bydd y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn parhau i fod ar waith hyd nes y bydd ysbyty newydd ar agor, ac mae hynny beth amser i ffwrdd. A phe bai hynny'n digwydd, dyna fyddai'r buddsoddiad mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, un a fyddai wedi'i gynllunio gan glinigwyr yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol.
Ond fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi heddiw, hoffwn ddiolch yn arbennig i'r deisebydd sydd, dros y degawd diwethaf, wedi sicrhau bod hyn ar ein hagenda, ac roedd yn gyfle arall i wneud hynny eto, ac rwy'n siŵr nad hwn fydd yr olaf. Diolch i bawb a gefnogodd y broses. Ond a gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, os caf, drwy roi rhywfaint o amser yma i ddiolch i'r holl staff a'r rheini sy'n cefnogi ysbyty Llwynhelyg, a holl staff y GIG ledled Cymru, gan fod angen inni ddiolch iddynt—maent yn mynd y tu hwnt i'r galw ar ein rhan ni, ein teuluoedd a'n hetholwyr bob dydd, a chredaf fod angen inni atgoffa ein hunain o hynny a'u canmol ar bob cyfle? Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.