4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:49, 5 Gorffennaf 2022

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym yn nodi cam hanesyddol arall ar daith ddeddfu ein gwlad. Dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf i’w gyflwyno fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, rydym yn parhau â'r broses o greu llyfr statud i Gymru. Mae'r Bil cydgrynhoi hwn yn nodi dechrau prosiect uchelgeisiol i roi trefn ar ein deddfwriaeth. Mae hon yn rhaglen hirdymor, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb yn gweld bod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn dangos y manteision niferus a fydd yn deillio o gynhyrchu deddfwriaeth fodern a dwyieithog sy'n benodol i Gymru. 

Mae cydgrynhoi yn ymwneud â dwyn deddfwriaeth berthnasol ynghyd sy'n gysylltiedig â phwnc, egluro ei strwythur a mabwysiadu dulliau mwy dealladwy o ddrafftio ac iaith. Yma, mae'r prif Ddeddfau ar yr amgylchedd hanesyddol wedi'u dwyn ynghyd, ynghyd â darpariaethau o Ddeddfau perthnasol eraill ac offerynnau eilaidd. Mae'r gyfraith wedi'i hailgyflwyno mewn strwythur rhesymegol a, lle bynnag y bo modd, mae wedi'i hailddatgan mewn iaith syml, bob dydd. Hefyd, mae'r Bil a'i ddogfennaeth ategol yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn cynnwys tua 200 o dudalennau, ac mae'n un o'r darnau hiraf o ddeddfwriaeth sydd wedi'i gyflwyno i'r Siambr hon hyd yma. Mae hyn yn gryn gamp.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:52, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Nid yw cydgrynhoi yn ymarfer mecanyddol o wneud dim mwy na chopïo'r darpariaethau presennol i Fil newydd gydag ambell newid. Yn hytrach, mae'r gyfraith bresennol wedi'i harchwilio'n ofalus i ddeall ei bwriad a'i chymhwyso fel y gellir ei hailddatgan heb newid ei heffaith. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Siambr hon, nid Bil diwygio yw hwn; nid yw'n newid polisi. Felly, rhaid gwerthuso ei lwyddiant drwy gyfeirio at y graddau y mae'n gwella strwythur ac eglurder y gyfraith bresennol, gan gadw ei heffaith gyfreithiol.

Amlygodd yr archwiliad o'r gyfraith bresennol rai mân broblemau ac, er mwyn mynd i'r afael â nhw, gwnaed newidiadau yn unol â'r hyn a ganiateir gan Reol Sefydlog y Senedd ar Filiau cydgrynhoi. Mae'r gwaith hwn wedi'i grynhoi yn nodiadau'r drafftiwr. Mae tablau tarddiad a thrawsleoli hefyd wedi'u cynhyrchu, yn bennaf i helpu Aelodau ddeall o ble y daeth y gyfraith newydd ac, i'r gwrthwyneb, i sut mae'r gyfraith bresennol wedi esblygu. Os daw'r Bil yn gyfraith, bydd y rhain yn parhau i fod yn adnodd ar gyfer y dyfodol ar wefan deddfwriaeth am ddim y DU, legislation.gov.uk.

Hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru. Mae adroddiad y comisiwn, 'Cyfraith Cynllunio yng Nghymru', sy'n llunio'r cydgrynhoi cynllunio presennol, hefyd wedi'i ystyried ym Mil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Rydym hefyd yn ddiolchgar bod Comisiwn y Gyfraith, ar gais Llywodraeth Cymru, wedi gwneud pedwar argymhelliad ar gyfer newidiadau i'r Bil hwn yr oedd yn eu hystyried yn briodol mewn Bil cydgrynhoi. Mae hyn eto'n gyson â'r hyn a ganiateir o dan y Rheol Sefydlog.

Tynnaf eich sylw hefyd at adran gyntaf y Bil, sy'n datgan ei fod yn rhan o god cyfreithiol sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Ochr yn ochr ag atgyfnerthu, mae codio yn offeryn i greu a chynnal trefn yn llyfr cyfraith Cymru. Os caiff ei phasio gan y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth hon, ynghyd â'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, yn ffurfio cod cyfraith Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae hyn yn golygu y caiff y gyfraith i gyd ei chyhoeddi gyda'i gilydd fel cod ac, yn y dyfodol, byddai'n rhaid i'r Aelod sy'n gyfrifol gyfiawnhau unrhyw awydd i wyro o'r strwythur sefydliadol a grëwyd. Gan mai hwn yw'r Bil cydgrynhoi cyntaf i ddod gerbron y Senedd, gwn y bydd Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn rhoi sylw gofalus i'w chynnydd ac yn dysgu o'r broses hon er budd Biliau cydgrynhoi yn y dyfodol.

Felly, i gloi, rwy'n cyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i chi ac yn eich annog i gefnogi Bil a fydd yn rhoi cyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog i Gymru ar gyfer diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:55, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am eich datganiad. Wrth gwrs, rydym yn croesawu mesurau i gyflwyno, yn y derminoleg a ddefnyddir, gyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog at y diben a nodir. Ond, wrth gwrs, yn aml, yn y manylion y mae'r anawsterau. Felly, yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar gyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i'r Senedd hon, fe ddywedoch chi eich bod

'wedi nodi cyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru fel pwnc addas ar gyfer y prosiect cyntaf mewn rhaglen uchelgeisiol o gydgrynhoi deddfwriaethol.'

A allwch chi gadarnhau felly ar goedd—ac fe wnaethoch chi hynny'n rhannol, ond nid yn llwyr, yn eich cyflwyniad—mai Bil cydgrynhoi yn unig yw hwn ac na fydd y gyfraith ei hun, nid polisi'n unig, yn cael ei newid na'i diwygio i ddarparu ar gyfer hyn? Os caiff ei newid neu ei diwygio—y gyfraith, yn benodol—mewn unrhyw ffordd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi sut.

Fel y nodais yma fis Medi diwethaf, wrth ymateb i'ch datganiad ar hygyrchedd cyfraith Cymru:

'Roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) yn ymwneud â chasglu cyfraith i wahanol gabinetau ffeilio pwnc, gyda phrif statud a phopeth arall yn cyfeirio at y statud hwnnw—gwaith enfawr a gynlluniwyd i helpu'r cyhoedd i ddod o hyd i gyfraith a'i defnyddio eu hunain.'

Felly, i ba raddau y bydd y Bil cydgrynhoi hwn yn ategu neu'n cyflawni hyn a pha gapasiti sydd gennych chi a'ch adran i weinyddu'r ymgymeriad dan sylw a allai fod yn sylweddol?

Yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi:

'Mae ein deddfwriaeth bresennol ar yr amgylchedd hanesyddol wedi datblygu’n gasgliad dryslyd o ddarpariaethau sydd wedi'u diwygio droeon.' 

Ac, wrth gwrs, mae ein hanes presennol ei hun wedi dod yn gasgliad dryslyd o ffeithiau, gwirioneddau, chwedlau a chamsyniadau. Fis Medi diwethaf, fe wnaethoch chi ddyfynnu o Lyfr Iorwerth, testun o gôd Gwynedd neu Venedotaidd cyfraith Cymru'r oesoedd canol, lle'r oedd teyrnas Gwynedd, neu Venedotia, yn wladwriaeth a olynodd yr ymerodraeth Rufeinig a ddaeth i'r amlwg ym Mhrydain ôl-Rufeinig yn y bumed ganrif. Wrth gwrs, mae testunau eraill yn ein hatgoffa mai nod y bobl Frythonig, neu'r Brytaniaid, yn y gorllewin, bryd hynny a thros ganrifoedd olynol, oedd adennill y tiroedd coll yn y dwyrain ac ailuno â'u brodyr Prydeinig ar draws ein hynys. Mae testunau diweddarach yn ein hatgoffa o sut y bu i oresgynwyr Normanaidd gamdrin y Brytaniaid ledled ein hynys a sefydlu codau cyfreithiol newydd. Sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau, wrth gyfuno deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, y caiff y cofnod hanesyddol hanfodol hwn, sy'n aml yn ddryslyd a chymhleth, ei gadw a'i egluro?

Pan oeddem yn derbyn tystiolaeth ar Fil—Deddf, bellach—yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn 2015, cyfeiriodd un o fy nghwestiynau i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd at bryderon a ddygwyd i'n sylw bod i'r cynigion, ac rwy'n dyfynnu,

'oblygiadau enfawr o ran capasiti ac adnoddau', gan ychwanegu bod hyn yn ailadrodd

'pryderon a grybwyllwyd ynghylch deddfwriaeth arall...ble, beth bynnag fo bwriad y ddeddfwriaeth, mae'r gost a nodwyd...yn llawer mwy na'r hyn a nodir yn y memorandwm esboniadol.'

Felly, ailadroddaf fy nghwestiynau ichi pan ymatebais i'ch datganiad ar hygyrchedd cyfraith Cymru fis Medi diwethaf: beth yw cyfanswm cost ariannol y rhaglen atgyfnerthu ddeddfwriaethol hon, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi nad rhywbeth a fydd o fantais i ddim ond y sector cyfreithiol ar gost fawr i'r pwrs cyhoeddus yw hyn? Ac yn olaf, pa ymgynghori ydych chi wedi'i wneud gyda'r sector amgylchedd hanesyddol ei hun ynghylch y Bil hwn?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:59, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch ichi am y cwestiynau hynny? Rwyf innau hefyd yn croesawu'r daith drwy ein hanes, sydd bob amser o gryn ddiddordeb. 

Mae'r ddeddfwriaeth, y Bil cydgrynhoi hwn—. Yn gyntaf, i ddelio â mater diwygio, rydych chi yn llygad eich lle, nid diben y Bil penodol hwn yw newid y gyfraith, i ddiwygio'r gyfraith. Yr hyn y mae yn ei olygu, wrth gwrs, yw, ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei chydgrynhoi, ei bod yn gwneud yr holl broses ddiwygio yn llawer haws, oherwydd ei bod wedi casglu'r holl gyfraith, yr holl gyfreithiau perthnasol, mewn un lle penodol, ac felly bydd hi gryn dipyn yn rhwyddach gwneud unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau drwy ddiwygio diweddarach. Felly, mae'n llawer haws diwygio a newid cyfraith yn y dyfodol, ond mae hynny'n adeiladu ar y broses o gydgrynhoi ei hun. Ac, wrth gwrs, mae'n arwain, fel y dywedwch chi, fel y gwnaethoch chi ei nodi yn gwbl briodol, at drefniadaeth well o'r gyfraith, oherwydd mae hon yn broses hirdymor a fydd yn parhau am flynyddoedd lawer, lle'r ydym ni'n ceisio codio'r gyfraith, i ddod â'r gyfraith o wahanol feysydd—yn hytrach na'i bod wedi gwasgaru mewn amrywiaeth eang o wahanol feysydd—i un lle mewn modd wedi'i godio. Ac mae hynny eto nid yn unig yn golygu bod hygyrchedd yn well, mae'n gwneud y gyfraith yn symlach ac yn haws ei deall, ond mae hefyd yn golygu, pan fydd angen diwygio, y gellir gwneud hynny mewn ffordd lawer mwy adeiladol a symlach, rwy'n credu.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:00, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r cydgrynhoi'n cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth sy'n mynd yn ôl ymhell cyn datganoli, ond fel y gwelwch chi o adran 1 o'r Bil, sy'n rhoi trosolwg, mae'n nodi, mewn gwirionedd, beth yw'r ddeddfwriaeth, ond hefyd beth yw'r amcan a beth yw diben y cydgrynhoi a sut y bydd hynny'n gweithredu. Felly, y Rheolau Sefydlog yr ydym ni'n gweithio gyda nhw i ganiatáu inni ailddatgan y gyfraith; maen nhw'n caniatáu inni egluro'r gyfraith; dileu'r darnau hynny o ddeddfwriaeth sydd wedi darfod, darnau o ddeddfwriaeth nad ydyn nhw'n berthnasol mewn gwirionedd; gall wneud mân newidiadau lle mae angen—weithiau o ran iaith ryweddedig rhai o'r ddeddfwriaeth hŷn; ac, wrth gwrs, gwneud rhai newidiadau a argymhellir gan Gomisiwn y Gyfraith sy'n briodol i'w cydgrynhoi. Gall hefyd i bob diben eithrio deddfwriaeth na chaiff ei harfer mwyach, sydd wedi dyddio neu ddarnau o ddeddfwriaeth yn y gorffennol nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiben ymarferol—rhai darnau nad ydyn nhw erioed wedi'u gweithredu.

Felly, mae'n dwyn ynghyd Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953. Nid yw'n mynd yn ôl cyn belled â'r meysydd yr oeddech chi'n ymdrin â nhw yn eich araith—credaf fod hynny'n gwbl ddealladwy. Mae'n dwyn ynghyd Rhannau I a III o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Mae'n dwyn ynghyd darnau o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ac mae'n ailddatgan rhai darnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes yma mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref, cynllunio a phrynu gorfodol.

Ac, wrth gyflwyno'r Bil, wrth gwrs, yn ogystal â'r memorandwm esboniadol, mae tablau sy'n sylfaenol yn nodi ac yn dangos o ble y daeth y gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Ond, fel y dywedais i, nid yw hyn yn ymwneud â diwygio neu newid y gyfraith; mae'n ymwneud â dod â'r gyfraith bresennol i un lle, a dyna fydd yr her. Prawf yw hwn ac, fel y nodwyd eisoes gan y Prif Weinidog, dyma'r cyntaf o'r darnau hyn o ddeddfwriaeth gydgrynhoi. Ni ddylai effeithio o ran unrhyw faterion o ran y cofnod hanesyddol, oherwydd y cyfan y mae'n ei wneud yw cyflwyno'r rhannau hynny o ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli.

Ac o ran y pryderon a godwyd o'r blaen o ran a oes goblygiadau cymhleth ynghylch adnoddau a chapasiti ac yn y blaen, credaf mai'r gwrthwyneb yn union yw'r effaith. Credaf fod hyn mewn gwirionedd yn symleiddio pethau. Yn sicr, fyddem ni ddim eisiau dod â Bil cydgrynhoi a oedd mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n fwy cymhleth neu'n creu costau ychwanegol, ac mewn gwirionedd, dylai hyn fod yn rhywbeth sy'n lleihau costau mewn gwirionedd. Mae'n ei gwneud yn haws i gyfreithwyr ddeall, mae'n ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n ymarfer yn y maes, neu sy'n ymwneud â'r maes amgylchedd hanesyddol, weithredu'n fwy effeithlon, yn fwy syml a gyda llai o gost.

Ac o ran, mae'n debyg, y sylw yr ydych chi'n ei wneud am y sefydliadau hynny, megis Cadw, er enghraifft—sefydliadau'r amgylchedd hanesyddol—wrth gwrs, nid yw'r Bil cydgrynhoi hwn yn briodol ar gyfer ymgynghoriad yn yr un modd â diwygio deddfwriaeth, oherwydd yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd yw sôn am ddod â'r ddeddfwriaeth bresennol i un lle, ond roedd gweithgor a ddygwyd ynghyd o gyrff perthnasol i edrych yn fanwl ar y ddeddfwriaeth ac i fod yn fodlon â chyfeiriad cyffredinol hynny. Yn sicr, yr holl argoelion sydd gennyf i yw bod hynny'n rhywbeth a gefnogir yn fawr, bod croeso mawr i'r Bil cydgrynhoi hwn gan y rheini ym maes yr amgylchedd hanesyddol, eu bod yn y broses eu hunain o wneud newidiadau i roi'r ddeddfwriaeth a'r newidiadau fydd yn digwydd ar eu gwefannau. Felly, gobeithio bod hynny wedi ateb yr holl sylwadau allweddol a wnaethoch chi.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:05, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rhys ab Owen. Rhys, dydych chi heb droi eich meicroffon ymlaen eto, arhoswch funud.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cwnsler Cyffredinol, gaf i ddechrau trwy eilio sylwadau'r Arglwydd Ustus Green, cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, a llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cam pwysig yma i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch? Nawr, efallai bod hwn ddim o ddiddordeb i bawb, ond dwi'n excited iawn am y cam pwysig yma. Mae hwn yn gam sy'n mynd i weddnewid y gyfraith yng Nghymru. I ymateb i bwynt Mark Isherwood, wrth gwrs mae gan gydgrynhoad effeithiol fanteision amlwg i'r proffesiwn cyfreithiol ac mae ganddo hefyd fanteision amlwg i ni fel seneddwyr, ichi, Cwnsler Cyffredinol, fel Llywodraeth, ond hefyd, yn bwysicach fyth, fanteision amlwg i ddinasyddion Cymru.

Fel y Bil cydgrynhoad cyntaf yng nghyfraith Cymru, mae e'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau ei fod e'n gywir, ac edrychaf ymlaen, Cwnsler Cyffredinol, at gydweithio â chi ac i graffu'r Bil fel aelod o'r pwyllgor deddfwriaethol. Dwi'n credu, fel deddfwrfa ifanc, fod yna gyfle arbennig gyda ni yma yng Nghymru i sicrhau bod ein cyfraith ni mor hygyrch â phosibl. Dŷn ni ddim fel San Steffan, sy'n mynd nôl i'r ddeuddegfed ganrif; mae cyfraith Cymru yn ifanc, felly mae modd i ni gydgrynhoi, mae modd i ni ei chodeiddio mewn ffordd sydd bron a bod yn amhosib yn San Steffan. Mae hwn hefyd yn dangos bod cyfraith Cymru yn aeddfedu a bod gennym system o gyfraith am y tro cyntaf sy'n fyw am y tro cyntaf ers y Deddfau Uno.

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn hygyrch ac yn glir, ac yn darparu ar gyfer codeiddio. Yn hynny o beth, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi mewn llinach teilwng iawn. Braf, fel mae Mark Isherwood wedi sôn, oedd gweld dyfyniad yn y memorandwm esboniadol o ragymadrodd Llyfr Iorwerth yn 1240 a oedd yn sôn am gyfraith Hywel Dda o'r ddegfed ganrif, ond efallai hyd yn oed yn fwy braf, Cwnsler Cyffredinol, oedd y ffaith bod yr hen ddyfyniad gyda chi wedi ei foderneiddio i Gymraeg ddealladwy, i Gymraeg fodern ein hoes ni, ac i ddyfynnu,

'A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd eraill o'r newydd.'

Da iawn yn wir. Dwi'n credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n atgoffa ein hunain dro ar ôl tro o'r traddodiad cyfreithiol gyfoethog sydd gennym ni yma yng Nghymru, a chael ein hysbrydoli gan ein hanes i sicrhau bod cyfraith Cymru yn bwrpasol i'r oes fodern.

Mae'r cyhoeddiad heddiw, fel rwyf fi'n dweud, yn gam pwysig ymlaen i godeiddio'r gyfraith. Dwi wedi gweld pob math o sôn am amserlennu'r codeiddio, gydag un dyfyniad yn dweud ei fod e'n mynd i fod yn waith generation cyfan. Oes unrhyw amserlen gyda chi yn eich meddwl, Cwnsler Cyffredinol, am ba mor hir fydd y broses codeiddio yn digwydd a beth yw'r amserlen am y Biliau cydgrynhoi eraill?

I orffen, Dirprwy Lywydd, yn dilyn lleihad amlwg mewn cymorth cyfreithiol, mae angen cyfraith sydd wedi ei drafftio mewn ffordd ddealladwy ac sydd wedi ei threfnu mewn ffordd fel bod y gyfraith berthnasol mewn un lle, bod dim rhaid i bobl fynd i edrych mewn llefydd gwahanol. Mae'r gwaith yn enfawr, fel ŷch chi'n dweud, mae'r Bil yma a'r memorandwm esboniadol yn y ddwy iaith yn dros 500 o dudalennau. Dwi'n eich llongyfarch chi, Gwnsler Cyffredinol, gan obeithio mai dyma'r cyntaf o nifer fawr o Filiau o'r fath i ymddangos ger ein bron ni fel Senedd. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:09, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau, ac yn enwedig gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a fydd yn craffu ar y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, bydd amryw wedi sylwi nad yw hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n cael ei ddiwygio yn y ffordd arferol. Hynny yw, y prif waith fydd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn sylfaenol graffu ar y Bil yn y bôn, asesu'r Bil, drafftio'r Bil, edrych ar nodiadau'r drafftiwr, ac i fod yn fodlon bod hyn yn cyflawni ei ddiben—ei fod yn cydgrynhoi, ac nid yn diwygio. Ac, wrth gwrs, mae'r gwelliannau, byddwn i'n disgwyl—byddwn i'n gobeithio—yn fach iawn, ond efallai eu bod o natur dechnegol mewn gwirionedd, ond, wrth gwrs, mae dewis o gael cyfnod diwygio pellach. Y pwynt arall, rwy'n credu, y gwnaethoch chi ddechrau sôn amdano oedd, wrth gwrs, fod hyn yn arloesol, bod y broses hon o hygyrchedd i ryw raddau yn unigryw o fewn y Deyrnas Unedig, o fewn y pedair gwlad.

Cafwyd enghreifftiau o geisio cydgrynhoi yn y gorffennol mewn meysydd cyfreithiol, ond yr hyn sydd wedi tueddu i ddigwydd yw bod hynny wedyn wedi'i danseilio gan gyfres o ddeddfwriaeth nad yw wedyn yn diwygio'r ddeddfwriaeth gyfunol ac yn y blaen—mae addysg, mae'n debyg, yn enghraifft, yn enwedig yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, ystyr 'codio' yw drwy roi cyfraith mewn categorïau y caiff y gyfraith ei diwygio o fewn y cod hwnnw yn hytrach na chreu darn newydd o ddeddfwriaeth. Felly, mae hynny'n gofyn am ddisgyblaeth o'r Senedd hon ac ymrwymiad i'r cysyniad o gydgrynhoi a dealltwriaeth ohono. Mewn gwirionedd, ni fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, ac efallai ei bod yn briodol iawn bod hynny yn holl faes yr amgylchedd hanesyddol, sydd mor bwysig i bob un ohonom ni ac i'n holl gymunedau.

Fe wnaethoch chi sôn am y pwynt iaith a rhoddwyd sylw penodol wrth ddrafftio hyn i ddefnyddio iaith syml, i ddefnyddio iaith sy'n fodern ac yn ddealladwy, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y creffir arno yn ystod y broses. Ac, unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i wneud, rhaid imi ganmol y cyfreithwyr a'r holl swyddogion a fu'n rhan o'r broses hon oherwydd bod hyn—. Mewn rhai ffyrdd, pan ddechreuom ni edrych ar hyn, y cwestiwn oedd, 'Wel, beth yw buddugoliaeth gyflym i gydgrynhoi?' Wel, pan gyrhaeddwch chi 200 tudalen, rydych chi'n sylweddoli'n sydyn nad oes unrhyw ddeddfwriaeth byth mor syml â hynny, yn enwedig pan fyddwch yn mynd yn ôl dros gyfnod mor hir ac yn chwilio am femoranda esboniadol ar gyfer deddfwriaeth nad oedd ganddi femoranda esboniadol erioed, lle nad oedd unrhyw ddogfennau cefndirol clir o ran yr hyn y bwriadwyd i rai rhannau o'r ddeddfwriaeth ei gyflawni mewn gwirionedd na'r hyn yr oedden nhw'n ei olygu mewn gwirionedd.

O ran yr amserlen codio, wel, i ryw raddau, mae bron yn beth fydd yn cymryd cenhedlaeth, onid yw, oherwydd mae'n rhaid inni ddelio â rhaglen ddeddfwriaethol enfawr ynddo'i hun, ond fel y gwyddoch chi o'r datganiad y gwnes i y llynedd, rydym ni'n edrych ar dri darn o gydgyfnerthu. Byddwn yn ceisio symud ymlaen y tu hwnt i hynny i sesiwn nesaf y Senedd nesaf gyda rhagor o gydgrynhoi. Felly, mae hon yn broses a fydd yn parhau am gryn nifer o flynyddoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym ni ymrwymiad cyson o un Senedd i'r Senedd nesaf mai dyma'r ffordd yr hoffem ni ailstrwythuro'r gyfraith, er mwyn gwneud y gyfraith yn hygyrch dros genedlaethau. Felly, nid proses tymor byr, dros ddwy flynedd yw hon; mae hwn yn fodd o wneud y gyfraith yn well, i'w gwneud yn fwy hygyrch, a fydd yn cymryd cenhedlaeth. A'r sylwadau a wnaethoch chi am hygyrchedd, maen nhw'n rhai yr ydym ni wedi'u trafod droeon, ac rwy'n cytuno'n llwyr â nhw.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:13, 5 Gorffennaf 2022

Yn olaf, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:14, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolchwn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad rhagarweiniol a hefyd am ychwanegu at raglen graffu brysur ein pwyllgor drwy gyflwyno'r Bil cydgrynhoi cyntaf hanesyddol hwn—mewn mwy na theitl yn unig—yng Nghymru. Nawr, mae dyfodiad y Bil cydgrynhoi Cymreig cyntaf hwn yn rhywbeth y bu rhai yn eiddgar ddisgwyl amdano, ac, mewn gwirionedd, fel yr ydym ni newydd glywed, os oes un gair sydd wedi cael ei ddefnyddio fwyaf gan fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor Rhys, James ac Alun mewn perthynas â'r agenda uchelgeisiol hon, dyma fo: cyffro. Nawr, efallai fod hyn yn adlewyrchiad arnom ni, deddfwyr unigol, ond byddwn yn dweud ei fod yn adlewyrchu arnom ni mewn ffordd dda iawn. Rydym yn cymryd hyn o ddifrif. Rydym ni'r pwyllgor yn deall y gall fod mwy o Fesurau cydgrynhoi o'r fath dan ystyriaeth, felly bydd y Cwnsler Cyffredinol yn deall ein bod yn awyddus iawn i graffu ar yr un cyntaf hwn yn gwbl gywir.

Roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, y craffwyd arni gan ein pwyllgor blaenorol, a basiwyd gan y pumed Senedd, yn gosod dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru yn barhaus. Yna, cytunodd y pumed Senedd wedyn ar Reol Sefydlog 26C ar gyfer Deddfau cydgrynhoi'r Senedd ym mis Mawrth 2021, a sefydlodd brosesau craffu newydd yn y Senedd hon. Felly, dyma ni â Bil cydgrynhoi cyntaf nodedig, ac mae'n un sylweddol hefyd. Rydym yn wirioneddol werthfawrogi'r gwaith a'r amser aruthrol y bydd Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i baratoi'r Bil hwn, sydd, wrth gwrs, wedi dilyn gwaith sylweddol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.

Mewn unrhyw faes, mae cydgrynhoi cyfraith Cymru yn dasg frawychus, ond mae'n bwysig. Gall ymddangos yn sych, ond mae bod â llyfr statud hygyrch yn hanfodol bwysig i wella mynediad at gyfiawnder i'n dinasyddion. Mae ein pwyllgor yn wynebu materion sy'n tynnu sylw'n rheolaidd at gymhlethdodau ein llyfr statud. Mae llawer o resymau dros gymhlethdod. Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn un digwyddiad o'r fath. Mae wedi sbarduno mwy o gyfraith yn cael ei gwneud yn gaclwm gwyllt—cyfraith nad yw wedi'i llunio'n daclus nac yn syml yn aml. Ac, yn fwy diweddar, mae'r achosion cynyddol o Lywodraeth y DU a Senedd y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod at lyfr statud sydd eisoes yn anhygyrch.

Dyma'r tro cyntaf y bydd gan y Senedd ran ffurfiol a bwriadol yn y gwaith o atgyfnerthu cyfraith Cymru, ac, fel y pwyllgor cyfrifol, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at wneud ein rhan. Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth gydgrynhoi'r gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru ac, yn yr un modd, rydym yn rhoi pwys mawr ar graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf hwn yn ddiwyd ac yn effeithiol, ac yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog. Mae hyn, Cwnsler Cyffredinol, yn wirioneddol gyffrous, i ddefnyddio'r gair hwnnw eto, dim ond i ddangos bod ein pwyllgor yn cyffroi weithiau. Mae'n gam cyffrous i ddeddfwriaeth yng Nghymru, ac os cawn hyn yn iawn gyda'n gilydd, Cwnsler Cyffredinol, byddwn yn gosod esiampl o arfer da ar gyfer Seneddau eraill ledled y DU a thu hwnt. Felly, edrychwn ymlaen at ein gwaith craffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), gan ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:17, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau cefnogol iawn hynny? Rwy'n sicr yn cytuno â'r holl sylwadau hynny am y cyffro. Yn wir, roeddwn yn gallu gweld y cyffro'n tonni drwy'r Siambr wrth imi sefyll i siarad ac i'r Aelodau adael yr ystafell. Yn natur rhai o'r prosesau deddfwriaethol hyn, nid ydyn nhw ynddynt eu hunain yn creu cyffro naturiol, ond yr hyn a wnânt yw creu cyffro gwirioneddol am bwysigrwydd y ffordd y gallwn ni wneud y gyfraith yn well, yn gliriach, yn symlach ac yn fwy hygyrch. Credaf, o ran ein cyfrifoldebau i bobl Cymru ac i'r Senedd hon, fod hynny, yn amlwg, yn bwysig iawn. Mae'r sesiwn gyntaf sydd gennyf gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yr wyf yn edrych ymlaen ato, ar 11 Gorffennaf, rwy'n credu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ynghylch yr hyn sy'n rhywbeth a fydd yn brofiad dysgu pwysig pan symudwn ymlaen i feysydd eraill, megis, er enghraifft, cynllunio. Felly, edrychaf ymlaen at hynny, a diolch ichi am y sylwadau hynny.