9. Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf

– Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:59, 6 Gorffennaf 2022

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru, y cyntaf y prynhawn yma, ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8047 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. 

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:00, 6 Gorffennaf 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ganol haf. Pan fo'r cymylau'n codi, mae'n gyfnod o fedru gwisgo dillad ysgafn, crysau T, agor ein ffenestri, eistedd yn yr ardd, sychu'r dillad ar y lein, mwynhau barbeciw, a gwybod, fel arfer, nad yw'r biliau ynni ddim cweit mor uchel ag arfer, y mesurydd ddim yn troi cweit mor glou wrth i wres yr haul dwymo ein crwyn a'n tai. Ond eleni mae'r wybren yn llawn cymylau duon a hirddydd haf yn arwain nid at deimlad o ymryddhau ac ymlacio ond yn hytrach i ormod o bobl at gyfnod o ofid. Achos dyw storm economaidd y misoedd diwethaf heb godi, ac mae'r gwaethaf eto i ddod.

Mae effaith yr argyfwng costau byw wir yn ddychrynllyd. Mae cost llenwi tanc petrol neu ddisel y car ymhell dros £100 erbyn hyn. Mae cost bwydydd bob dydd fel pasta 50 y cant yn uwch, a bara yn 17 y cant yn uwch. Ac mae'r biliau ynni, sydd eisoes yn anghredadwy o uchel ac anfforddiadwy, ac wedi achosi sut bryder i gymaint o bobl Cymru, hyd yn oed nawr ym misoedd yr haf, yn mynd i godi'n uwch yn yr hydref. Mae angen sicrhau bod unrhyw fesurau i gefnogi pobl a fydd yn byw mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o dlodi tanwydd yn gwbl effeithiol, yn gwbl hygyrch i'r rhai sydd neu a fydd mewn angen, ac yn lleddfu y pwysau difrifol a'r dewisiadau amhosib a fydd yn wynebu gormod o aelwydydd Cymru pan fydd y storm ar ei hanterth, pan ddaw'r gaeaf.

Rydym wrth gwrs wedi croesawu cynlluniau'r Llywodraeth i geisio cefnogi pobl sydd yn llygad y storm. Ond mae ein hymchwil ni yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr sy'n credu bod modd sicrhau bod modd adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf er mwyn sicrhau cefnogaeth ddigonol i'r rhai sydd mwyaf ei hangen, ac mae rhai o'r awgrymiadau i wella'r cynllun wedi eu hamlinellu yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr.

Byddwn i yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hwn yn gynllun sydd ar gael drwy'r flwyddyn, yn hytrach na bod yn gynllun tymhorol, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd heb wres neu bŵer yn ystod y misoedd oeraf. Ac fel y soniais, er ei bod yn haf, mae yna bobl nawr sy'n methu fforddio cynnau'r ffwrn neu dwymo'r bath. Dylem ehangu nifer y bobl sy'n gymwys ar gyfer cymorth, fel bod pawb sydd angen cefnogaeth o dan y cynllun yn medru ei chael, fel y rhai ar gredydau pensiwn, er enghraifft. Mae angen hefyd adeiladu mecanwaith i mewn i'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyrraedd aelwydydd incwm isel sy'n talu am eu tanwydd fel rhan o'u taliadau rhent, er enghraifft. Gallai elfen o ddisgresiwn gael ei gyflwyno i'r cynllun, fel bod pobl a fyddai efallai ar ymyl cymhwysedd ac yn colli mas, neu yn cael eu hunain mewn sefyllfa newydd neu argyfyngus sy'n eu gwthio i dlodi, yn gallu gwneud cais am gymorth.

Mae'r Gweinidog wedi awgrymu ei bod yn gytûn bod angen sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud cyn i'r cap Ofgem gynyddu ym mis Hydref, ac mae angen felly adolygiad a gwerthusiad o'r cynllun blaenorol i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud cyn hynny er mwyn gwneud yn hollol siŵr bod taliadau yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosib. Mae angen camau i wella a chysoni sut mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag aelwydydd anghenus ac yn prosesu'r hawliadau, ochr yn ochr ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gan y Llywodraeth. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn, yn enwedig o gymharu ag ymddygiad gwarthus a didostur Llywodraeth San Steffan, rhaid sicrhau bod y camau hynny yn rhai cwbl gadarn, er mwyn arbed dioddefaint nad oes yr un ohonom ni wedi gweld ei debyg. Dyna nod ein cynnig. Rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:04, 6 Gorffennaf 2022

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn darparu £200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y cynllun cymorth costau byw.

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled Cymru.

3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwarantu bod unrhyw newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl;

b) ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn;

c) lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:04, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cynnig gwelliant 2. Mae tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol hirsefydlog yng Nghymru, ond mae'r cynnydd diweddar ym mhrisiau ynni byd-eang wedi dod â'r mater i'r amlwg. Mae National Energy Action Cymru wedi galw am wneud taliadau cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn yr hydref fel bod aelwydydd yn gwybod bod ganddynt yr arian cyn iddynt droi eu gwres ymlaen. Mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen y byddai am i'r taliad fod ar gael erbyn mis Hydref, os nad mis Medi, sef yr hyn sydd yn ein gwelliant, sy'n galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i warantu bod unrhyw newidiadau i gynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref i sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cynifer o aelwydydd cymwys â phosibl. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai dyma yw ei bwriad o hyd?

Mae Age Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn meini prawf cymhwysedd ar gyfer eu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i gynnwys pobl hŷn sy'n derbyn credyd pensiwn. Dywedodd y Gweinidog yn flaenorol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ymestyn cymhwysedd ac y bydd yn edrych nid yn unig ar y rhai ar gredyd pensiwn, ond cymhwysedd ehangach. Felly, mae ein gwelliant yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd y gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd incwm isel, bregus sydd ei angen, megis y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny?

Deallwn mai nifer gymharol isel o bobl a fanteisiodd ar y cynllun erbyn diwedd mis Ionawr, gydag amrywiadau rhwng awdurdodau lleol. Mae angen rhoi mwy o gyhoeddusrwydd hefyd i'r ffaith bod aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy, sy'n defnyddio olew neu nwy petrolewm hylifedig, yn gymwys ar gyfer y cynllun os ydynt wedi'u cysylltu â'r grid trydan. Felly, mae ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arno.

Er mwyn i bobl barhau i gynnig llety o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Cymru, bydd angen cymorth arnynt hwythau hefyd gyda'u bil tanwydd. Fodd bynnag, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol gyda'u gwelliant. Mae cefnogaeth Llywodraeth y DU i gostau byw bellach yn fwy na £37 biliwn eleni. Bydd bron bob un o'r wyth miliwn o aelwydydd mwyaf bregus yn cael o leiaf £1,200. Bydd pob cwsmer trydan domestig yn cael o leiaf £400, sydd bellach i gyd yn grant yn hytrach na benthyciad ad-daladwy. Bydd aelwydydd sy'n derbyn pensiwn yn cael £300 yn ychwanegol, a bydd tua chwe miliwn o bobl ledled y DU sy'n derbyn budd-daliadau anabledd yn cael taliad untro o £150 o fis Medi ymlaen. Yn y categori hwnnw, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rydym yn galw am fwy o gymorth, ond serch hynny mae'n gam i'r cyfeiriad iawn. Ar ben hynny, o heddiw ymlaen, bydd tua 30 miliwn o bobl yn arbed hyd at £330 y flwyddyn ar eu cyfraniadau yswiriant gwladol. Ac wrth gwrs, ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu cynyddu ei chynllun tanwydd y gaeaf heb yr arian canlyniadol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Diolch yn fawr.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:07, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Weithiau, credwn fod tlodi'n gyflwr penodol: rydych naill ai'n dlawd neu beidio. Ond nid dyna sut y mae'n gweithio o gwbl. Bydd cymaint o bobl yn gweld eu bywydau'n croesi'r ffin i anhrefn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac nid codi bwganod yw hynny—mae'n ffaith bendant. Bydd miloedd yn fwy o bobl yn ei chael hi'n anodd byw—i aros yn fyw—oherwydd pethau bob dydd fel biliau bwyd a nwy. Mae rhywbeth erchyll ac annormal am y modd y bydd pethau cyffredin yn troi'n frawychus.

Nid oes gennyf lawer o amser yn y ddadl hon, rwy'n gwybod, felly byddaf yn cadw fy mhwyntiau'n fyr. Mae angen dweud wrth aelwydydd sy'n gymwys i gael cymorth taliad tanwydd y gaeaf am y cymorth hwnnw. Fel y clywsom Cyngor ar Bopeth yn awgrymu, dylem fod yn cysylltu â phobl ar dariffau cymdeithasol ar gyfer dŵr neu ynni, a gallai'r Llywodraeth ddefnyddio eu trefniant rhannu data JIGSO neu gallent annog Dŵr Cymru i helpu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod pobl ar gredyd pensiwn yn gymwys ar gyfer y cynllun, er bod Age Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw 70,000 o aelwydydd cymwys yn hawlio'r credyd hwnnw, ac mae llawer yn credu bod y meini prawf cymhwysedd yn dal yn rhy anhyblyg.

Rwy'n poeni'n ddirfawr, Ddirprwy Lywydd, am y rheini sydd eisoes mewn dyled—y bobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n datgysylltu drostynt eu hunain eisoes. Mae un cleient Cyngor ar Bopeth yn ne Cymru yn defnyddio cannwyll ar gyfer golau, ac yn byw mewn un ystafell oherwydd eu biliau ynni. Bydd y straeon arswydus bob dydd hynny'n cael eu hailadrodd mewn tai ledled Cymru, y tu ôl i lenni sy'n cael eu cadw ar gau i gadw'r gwres i mewn, oherwydd nid yw tlodi'n gategori penodol; nid yw bywydau pobl bob amser yn ffitio i flychau taclus y gallwn ddweud yn bendant pwy sydd angen help a phryd.

Yn olaf, ni ddylai'r cynllun hwn fod ar gyfer y gaeaf yn unig. Unwaith eto, fel y clywsom, fel y mae NEA ac eraill wedi nodi, bydd angen y cymorth hwn ar bobl drwy gydol y flwyddyn. Dylid gwneud taliadau hefyd cyn i'r gaeaf daro. Dylai unrhyw un sy'n amau difrifoldeb yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ddarllen tystiolaethau 'The Cost of Cold' Age Cymru, oherwydd maent yn dorcalonnus. Dywedodd Geraldine, sy'n 77 oed, wrthynt, 'Eisoes rwy'n gwisgo menig ar fy nwylo gartref a phecyn gwres y tu mewn i fy legins'. Ac mae pobl o bob oed yn cael eu heffeithio mewn cymaint o ffyrdd. Cyrhaeddodd atgyfeiriadau i fanciau bwyd gan Cyngor ar Bopeth y lefel uchel erioed ym mis Mawrth. Mae honno'n garreg filltir gywilyddus—y nifer uchaf erioed o bobl yn byw mewn anobaith llwyr.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, gwn fod llawer o achosion yr argyfyngau hyn yn fyd-eang neu y tu hwnt i'w rheolaeth, ond mae rhai o'r pethau hyn yn bethau y gall y Llywodraeth wneud rhywbeth yn eu cylch. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n erfyn ar y Gweinidog i wrando ar y pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon, oherwydd mae pob dydd nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn yn ddiwrnod arall y bydd mwy o bobl yn anobeithio.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 5:10, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Disgwylir i tua 75 y cant o aelwydydd gael eu cefnogi mewn rhyw ffordd gan ymyriadau costau byw Llywodraeth Cymru, gyda mwy o gymorth wedi'i dargedu at aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm. Gwyddom fod taliad cymorth tanwydd y gaeaf yn cael ei werthfawrogi gan bobl a'i derbyniodd a dywedodd un derbynnydd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, 'mae'r £100 wedi lleddfu fy nhlodi ar gyfer y mis hwn a bydd hefyd yn fy nghadw'n gynnes am o leiaf mis ac ychydig. Bydd £100 arall'—a roddwyd—'yn golygu y gallaf gadw'n gynnes ym mis Mawrth, Ebrill a hyd at ganol mis Mai. Gwnaeth gymaint o wahaniaeth.'

Rydym yn wynebu heriau difrifol iawn. Gostyngodd incwm aelwydydd y DU am y pedwerydd chwarter yn ddilynol ar ddechrau'r flwyddyn hon, sef y cyfnod hiraf o ddirywio ers 1955, ac amcangyfrifir bellach y gallai hyd at 45 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd, a mwy na 100,000 o'r rheini mewn tlodi tanwydd difrifol. Mynegodd Cyngor ar Bopeth wrthyf sut yr oedd cynlluniau talebau tanwydd yn darparu achubiaeth hanfodol i'r rhai mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid hanfodol ar gael ar ffurf y cynllun talebau tanwydd a'r gronfa cymorth dewisol i gefnogi teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn, ac fe gafodd ei groesawu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i gefnogi'r rheini sydd mewn angen, ond yn y bôn, mae pobl Cymru wedi cael eu siomi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, sydd wedi methu gweithredu i atal prisiau ynni anferthol. I wneud pethau'n waeth, mae'r system les, fel y mae ar hyn o bryd, yn gwbl anaddas i'r diben, ac mae credyd cynhwysol yn methu diogelu teuluoedd. Mae blynyddoedd o gyfyngu cyllidol wedi rhoi pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac wedi erydu cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn enw cynhyrchiant. Ond nid yw'r cynhyrchiant hwnnw wedi cynyddu cyflogau a chodi safonau byw.

Ateb dros dro yw grantiau, gallant fod yn fiwrocrataidd, methu cyrraedd pawb mewn angen, ac nid ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol y mae pobl yn eu hwynebu. Sylwais fod Cyngor Sir y Fflint yn hysbysebu am 10 swyddog budd-daliadau newydd, ond mae'r rheini ar £19,200 yr un. Gallent fod yn mynd i fanciau bwyd cyn bo hir hefyd. Mae'n cynyddu drwy'r amser. Mae angen gweithredu yn awr i roi arian ym mhocedi pobl, wrth y pympiau tanwydd, ac yn eu pecynnau cyflog.

Un pryder yr hoffwn ei godi gyda'r Gweinidog, fodd bynnag, yw bod llawer o denantiaid yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu preifat, sydd wedi'u heithrio o reoliadau uchafswm pris Ofgem. Caiff ynni ei ailwerthu gan y landlord i denantiaid, gyda'r landlord yn gallu trosglwyddo tâl sefydlog dyddiol i'r tenant. Mae hyn yn sefydlu premiwm tlodi pellach a godir ar y rhai sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac nid oes gan lawer ohonynt ddewis yn y mater. Gan ei fod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar yr arfer hwn, tybed a allai'r Gweinidog wneud sylwadau ar yr arfer, os gwelwch yn dda, yn ei hymateb i'r ddadl, ac amlinellu a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â hyn, os yn bosibl. Diolch.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:14, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Nod cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r rheini sydd fwyaf bregus, ac mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhai sy'n ei dderbyn, fel y nododd Carolyn. Ond mae fy mhryder yn ymwneud â'r rhai nad ydynt yn ei dderbyn. Mae fy etholwr Michelle yn ofalwr anabl di-dâl llawn amser i'w gŵr anabl. Maent yn dibynnu ar eu taliadau annibyniaeth personol a'i lwfans gofalwr i oroesi. Fel y darganfu'n ddiweddar, nid oedd yn gymwys ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf am nad yw'n hawlio budd-dal cymhwyso sy'n dibynnu ar brawf modd a weinyddir gan y DU. Pam ein bod yn dewis dibynnu ar system yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd ag enw drwg am fod yn ddideimlad, i ddweud wrthym pwy sy'n gymwys ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, pan fyddwn yn aml yn gresynu cyn lleied o reolaeth sydd gennym dros ein system les ein hunain? A ydym o ddifrif yn gwadu'r gefnogaeth hon i rywun sy'n profi tlodi mor andwyol fel bod rhaid iddynt ddewis rhwng bwyd a thanwydd? Ni ddylai synnu'r Siambr o gwbl i wybod ei bod yn bosibl na fydd llawer o bobl sy'n profi tlodi yn gallu cael y budd-daliadau arferol sy'n dibynnu ar brawf modd. Drwy'r meini prawf cymhwysedd a ddewiswyd gennym ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, rydym mewn perygl o weithredu fel un o adrannau darparu lles yr Adran Gwaith a Phensiynau, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd yn dweud wrthym pwy sy'n gymwys i gael cymorth.

Rhaid inni ddangos blaengaredd yma yn y Senedd hon i sicrhau bod pawb sydd angen ein cefnogaeth yn ei gael. Mae gennym bŵer i wneud hynny gyda chynllun cymorth tanwydd y gaeaf drwy ehangu'r meini prawf cymhwysedd. Efallai y gallem hyd yn oed ychwanegu elfen ddisgresiwn at y gronfa ar gyfer y rhai sy'n methu'r meini prawf cymhwysedd o drwch blewyn. Yn achos Michelle, cefais gyfarwyddwyd i'w hysbysu bod y gronfa cymorth dewisol ar gael ar gyfer argyfyngau lle byddai angen iddi, yn ddelfrydol, wneud cais newydd am bob argyfwng gwahanol. Mae'n dda fod y gronfa yno, ond rhaid imi ofyn: pa argyfwng y dylai Michelle wneud cais amdano? Ei hanallu i oleuo ei chartref bob dydd? Ei diffyg dŵr poeth? Mae'r rhai sydd mewn tlodi yn profi argyfyngau fel y rhain bob dydd. Wrth inni nesáu at y gaeaf eleni, rhaid inni sicrhau bod y cynllun hollbwysig hwn yn addas i'r diben. Mae pobl fel Michelle a'i gŵr angen yr hwb ariannol y mae'r cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn ei ddarparu. Gadewch i ni newid y meini prawf cymhwysedd er mwyn inni allu helpu'r rhai mwyaf bregus drwy'r argyfwng costau byw hwn, a sicrhau hefyd fod taliadau'n rheolaidd ac yn amserol drwy gydol y flwyddyn, fel bod cymorth ar gael bob amser. Oherwydd, dyn a ŵyr, mae Michelle ac eraill ei angen. 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:16, 6 Gorffennaf 2022

Galwaf ar y Gweindog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac mae'n amserol iawn. Diolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad o fewn y pythefnos nesaf ar y cynllun cymorth tanwydd newydd. Mae'n mynd i fod yn gynllun cymorth tanwydd—nid cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond cynllun cymorth tanwydd newydd i Gymru, gan ddysgu o'r cynllun yr ydym eisoes wedi'i ddatblygu dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd—fel y dywed Carolyn Thomas, mae'r £200 hwnnw wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl. A hefyd, yr hyn y byddaf yn ei gyhoeddi yn ystod y pythefnos nesaf yw'r meini prawf cymhwysedd ehangach ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd newydd, a bydd yn agor yn yr hydref. Felly, mae hyn yn bwysig, fod yr holl ymgysylltu a'r ymgynghori sydd wedi digwydd yn dylanwadu ar y cam nesaf. 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:17, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn meddwl tybed a gawn eich holi beth oedd y nifer a fanteisiodd ar y cynllun gwreiddiol. Oherwydd fe wnaethoch sôn am y 350,000 o bobl neu ddeiliaid tai a oedd yn gymwys, a chyfeiriodd y Gweinidog Cyllid at 200,000 o aelwydydd a oedd wedi manteisio arno. A ydym yn siarad am yr un nifer o bobl, neu a wnewch chi egluro faint o bobl y credech eu bod yn gymwys ac y gallwyd rhoi gwybod iddynt mewn gwirionedd eu bod yn gymwys?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:18, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Nid oeddem yn siŵr faint fyddai'n gymwys—rydym yn ddibynnol iawn ar ddata a gwybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau am hynny. Fel y cofiwch, fe wnaethom greu hyn i ddilyn y toriad i'r £20 o gredyd cynhwysol, felly roeddem yn edrych, ar y dechrau un, ar deuluoedd sy'n gweithio, a dyna pam y mae angen inni ei ehangu y tu hwnt i hynny yn awr. Ond roedd y niferoedd yn cyrraedd 200,000. Byddaf yn sicr yn rhoi arwydd cliriach o hynny pan gawn yr ymateb terfynol gan ein hawdurdodau lleol, a gyflawnodd y cynllun hwn i ni. Cyfarfûm â'r cyngor partneriaeth, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y bore yma, nid yn unig i ddiolch iddynt am ddarparu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond i'w hysbysu y byddem yn awr yn disgwyl iddynt gyflawni hyn. Ac wrth gwrs, mae'r niferoedd sy'n manteisio arno, y cyhoeddusrwydd, yr ymwybyddiaeth ohono, yn hanfodol bwysig, fel y dywedwyd. 

Nawr, rydym wedi bod drwy'r cyd-destun—ers i Ofgem gynyddu'r cap ar brisiau ynni 54 y cant ym mis Ebrill, mae ein dadansoddiad wedi dangos bod nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 12 y cant yn 2018 i tua 45 y cant. A bydd y cynnydd arfaethedig mewn prisiau ynni ym mis Hydref, wrth gwrs, yn gwaethygu ymhellach y problemau ariannol y mae aelwydydd yn eu hwynebu. Cynhaliwyd uwchgynhadledd costau byw gennym ym mis Chwefror, ac rwy'n cynnal digwyddiad dilynol ddydd Llun, ond hefyd yn cyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, fforwm hil Cymru, yn ogystal â'r grŵp trawsbleidiol, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, er mwyn deall effaith yr argyfwng ar lawr gwlad a datblygu atebion gwybodus i'n harwain, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cadernid aelwydydd bregus ar yr adeg hon. 

Felly, mae'r adborth wedi helpu i lywio datblygiad y cynllun cymorth tanwydd pellach hwn i Gymru, sut y gall gyrraedd mwy o aelwydydd fel y gall mwy o bobl gael y £200, sy'n cynnig cymorth mor hanfodol, ond gan ehangu ei gymhwysedd. Ond dim ond un mewn cyfres o fentrau yw'r cynllun cymorth tanwydd i gefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd talu cost gynyddol eu biliau ynni. Ac rwy'n falch iawn fod cyfeiriad wedi'i wneud at y cyhoeddiad a wneuthum am ein partneriaeth yn awr gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd—bron i £4 miliwn o gyllid, ar 10 Mehefin y gwnaethom gyhoeddi hynny, ar gyfer y cynllun talebau tanwydd a chynllun y gronfa wres yng Nghymru. Felly, mae hynny hefyd yn mynd i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd—y rhai sydd â mesuryddion rhagdalu, y rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy sy'n ei chael yn anodd talu ymlaen llaw am eu tanwydd.

Af ar drywydd y pwyntiau a'r cwestiynau hynny sydd wedi'u codi heddiw ynglŷn â chymhwysedd a'r effeithiau o ran landlordiaid a'r taliadau sefydlog, sydd wedi codi fwyaf yng ngogledd Cymru. A chyhoeddais hyn ym manc bwyd Wrecsam, oherwydd gwn sut roedd y cynnydd yn y taliadau sefydlog yn taro aelwydydd mewn ardaloedd gwledig ac yn y gogledd yn enwedig. Ond hefyd, mae'r arian hwnnw'n mynd i ariannu'r gwaith o ehangu'r rhwydwaith partner i gefnogi cyngor cofleidiol ar ynni ac arbedion. Mae hyn, unwaith eto, ac rydym wedi trafod hyn mewn ymateb i gwestiynau yn fy nghwestiynau llafar yn gynharach, yn ymwneud â'i gwneud hi'n bosibl lledaenu'r neges, rhoi'r gefnogaeth, pob cyswllt sydd wedi'i wneud, ond hefyd yr arian ychwanegol i sicrhau y gall ein cronfa cymorth dewisol ddarparu'r cymorth drwy gydol yr haf a'r gaeaf. Rydym wedi cytuno i wneud hynny hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i bobl nad ydynt yn gallu fforddio, er enghraifft, eu cyflenwad nesaf o olew neu nwy petrolewm hylifol oherwydd caledi ariannol eithafol. Felly, mae'r mentrau hyn yn cyflawni ochr yn ochr â'n taliad costau byw o £150, ein cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, ein rhaglen Cartrefi Clyd a 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.

Nawr, yn olaf, Lywydd, fy rheswm dros ddiwygio'r cynnig oedd i sicrhau bod y ddadl yn cydnabod mai yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r prif ddulliau o fynd i'r afael â'r argyfwng tanwydd, a diolch i Sioned Williams am gydnabod hyn hefyd. Amharodrwydd Llywodraeth y DU i weithredu'n gynnar ar hyn a wnaeth ddwysáu effaith y cynnydd ym mhrisiau tanwydd. Hyd yn oed yn awr, er gwaethaf y dystiolaeth o'r effaith y mae'n ei chael, mae bylchau o hyd yn y cymorth y maent wedi'i gynnig. Felly, rwyf eisoes wedi ymateb, yn gynharach heddiw, i ddweud ein bod yn galw am ddileu'r holl gostau polisi amgylcheddol cymdeithasol o filiau ynni aelwydydd, er mwyn i'r costau hynny gael eu talu o drethiant cyffredinol a chyflwyno cap pris is ar gyfer aelwydydd incwm is er mwyn sicrhau y gallant dalu eu biliau ynni. Ond mae angen i ni hefyd gynyddu cyfraddau lwfans tai lleol, er mwyn cynyddu'r cyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai er mwyn atal nifer cryn dipyn yn fwy o bobl rhag dod yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried cefnogi'r gwelliant hwn—nid yn unig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond mae'n ddyletswydd hefyd ar Lywodraeth y DU i wneud cymaint mwy gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau, ac nid ydynt yn gwneud hynny. Ond bydd ein cynllun yn cael ei gyhoeddi ac mae wedi ymateb i lawer o'r materion sydd wedi'u codi heddiw. Diolch yn fawr. 

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Felly, mae prisiau ynni wedi codi i lefelau digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill, gwelwyd cynnydd cyfartalog yn y bil nwy a thrydan i dros £2,000 y flwyddyn, cynnydd o £700. Yn ystod y 18 mis diwethaf yn unig, mae cost gwresogi cartref wedi dyblu. Bydd hyn yn taro'r aelwydydd tlotaf a mwyaf bregus galetaf, gyda llawer yn gorfod mynd heb bethau, yn gorfod dogni neu ddatgysylltu drostynt eu hunain hyd yn oed, fel y soniodd Delyth. Ar ben hyn, mae ôl-ddyledion biliau ynni yn fwy yng Nghymru ar hyn o bryd nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Ddoe, gofynnodd Jordan, disgybl o Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth i mi, 'Pam y mae tanwydd mor ddrud, a beth rydych chi'n ei wneud yn ei gylch yn y Senedd?' Mae plant yn sôn am hyn, ac mae'n achosi pryderon enfawr. Weinidog, a wnewch chi ateb Jordan yn onest a dweud, fel Llywodraeth, eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu? Dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod y rheini sydd â hawl i fanteisio ar y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn ymwybodol ohono yn y lle cyntaf, gyda rhai amcangyfrifon fod y nifer sy'n manteisio arno mor isel â 50 y cant. Do, dywedodd y Gweinidog yn ei hymateb fod ymwybyddiaeth yn hanfodol, felly dylai Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gydgysylltiedig i wella'r ffigur hwn, a rhyddhau ystadegau ynghylch y nifer sy'n manteisio arno i ganiatáu gwella a chraffu priodol. 

Gwyddom hefyd y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella, a rhagwelir y bydd biliau ynni'n codi tua £2,800 ar gyfartaledd ar ôl yr adolygiad nesaf o'r cap ar brisiau ym mis Hydref, ac mae'n ddigon posibl y byddant yn codi eto ym mis Ionawr os bydd Ofgem yn penderfynu adolygu bob tri mis, yn hytrach na phob chwe mis. A heddiw mae'r BBC yn adrodd bod arbenigwyr ynni yn dweud eu bod yn disgwyl i filiau ynni gyrraedd £3,000 y flwyddyn. Hyn i gyd tra bo cwmnïau ynni'n gwneud yr elw mwyaf erioed. 

Byddai canlyniadau'r codiadau hyn yn ddinistriol i gymaint o bobl. Rhaid inni sicrhau bod gan bawb sydd angen cymorth hawl iddo, drwy ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ac ychwanegu elfen ddisgresiwn i'r rheini sydd mewn angen annisgwyl. Yn fy etholaeth i, mae gennym rai o'r cyfraddau tlodi tanwydd uchaf yn y DU. Yn y cyfamser, rydym yn cynhyrchu cymaint o drydan, ond eto nid ydym yn elwa ar yr enillion. Cymerwch Tanygrisiau, er enghraifft—cymuned dlawd iawn gyda lefelau annerbyniol o uchel o bobl mewn tlodi tanwydd. Ac eto, uwchben Tanygrisiau mae cronfa ddŵr Stwlan, sy'n eiddo i ac yn cael ei rhedeg gan First Hydro-Engie UK, gyda chapasiti cynhyrchu o 360 MW, sydd i gyd yn mynd i'r grid tra bo'r gymuned yn union oddi tani'n dioddef o dlodi tanwydd eithafol. Sut y gall hyn fod yn deg? 

Gwnaeth y Gweinidog gyhoeddiad am gynllun cymorth tanwydd newydd, ac mae hynny'n wych ac i'w groesawu'n fawr. Ond mae tlodi gwledig yn broblem enfawr nad yw cynllun cymorth tanwydd y gaeaf a'r cynlluniau cymorth presennol yn mynd i'r afael â hi. Yn gyntaf, nid yw pob awdurdod lleol yn cynnig cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i drigolion sydd oddi ar y grid, oherwydd geiriad cynllun Llywodraeth Cymru. Ac yn ail, i'r rheini sy'n rhoi'r cymorth i bobl oddi ar y grid, mae'r terfyn wedi'i osod ar £200, a fydd yn prynu 200 litr i chi ar brisiau olew heddiw, ond ni fydd dosbarthwyr olew yn darparu llai na 500 litr. Felly, nid yw £200 yn ddigon da i bobl oddi ar y grid. Mae'r un problemau'n amlwg yn berthnasol i'r cynlluniau talebau tanwydd a thaliadau disgresiwn. Mae gwahaniaethu'n digwydd yn erbyn preswylwyr sydd oddi ar y grid oherwydd hyn a rhaid ei ddatrys.

Felly, mae prisiau ynni uchel yma i aros ac nid yw cyflogau'n codi'n unol â hynny, gyda'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn gwneud popeth yn ei gallu i atal twf cyflogau am ei bod yn ofni chwyddiant. Felly, mae angen inni fod yn rhagweithiol a bod yn barod i barhau i wella'r cymorth a ddarparwn yma. Felly, rydym yn croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ac yn derbyn mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif ddulliau, ond mae angen inni wneud y gorau o'r hyn y gallwn ei wneud yn y Senedd hon. Diolch. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 6 Gorffennaf 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.