– Senedd Cymru am 5:09 pm ar 27 Medi 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Dwi’n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae'n bleser mawr gennyf gyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru), ynghyd â'i ddogfennau ategol. Mae'r Bil yn ganlyniad i flynyddoedd o waith polisi, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Canlyniad hyn yw darn o ddeddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol sy'n diwygio degawdau o gymorth ffermio'r UE, gan ddatgan newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn cefnogi'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Dyma Fil amaethyddol cyntaf Cymru, y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael cyfle i ddod â deddfwriaeth gerbron y Senedd i ddeddfu ar gyfer ein sector amaethyddol, ac yn arwyddocaol, mae'r Bil yn cynnwys diffiniad modern a chynhwysfawr o amaethyddiaeth, gan adlewyrchu amaethyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.
Fel y dywedais droeon, rwy'n hynod falch o'r sector amaethyddol yng Nghymru. Dyma'r fframwaith polisi cyntaf i'w wneud yng Nghymru sy'n cydnabod amcanion ategol o gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ochr yn ochr â gweithredu i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan gyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir.
Wrth wraidd y Bil mae'r amcanion rheoli tir cynaliadwy, a'r ddyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru. Mae hyn wedi'i wreiddio mewn pedwar amcan sy'n gweithio i gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ein sector amaethyddol yma yng Nghymru. Yr amcanion yw: cynhyrchu bwydydd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy; lliniaru ac addasu i newid hinsawdd; cynnal a gwella cydnerthedd ein hecosystemau; gwarchod a gwella cefn gwlad a diwylliant Cymru, a hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg; a byddant yn cyfrannu at gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd y fframwaith yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi ein ffermwyr a'u cyfraniad, nid yn unig fel cynhyrchwyr bwyd hanfodol, ond hefyd fel gwarchodwyr tir, ecosystemau a diwylliant Cymru. Bydd yn cydbwyso ein diogeledd bwyd â'r gweithredoedd sydd eu hangen yn daer yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd. Yn graidd iddo mae rheoli tir cynaliadwy yn gweithio i sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i gynhyrchu bwyd a nwyddau amaethyddol o ansawdd uchel am genedlaethau i ddod.
Er mwyn sicrhau bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn cael yr effaith y dylen nhw, mae'r Bil yn cynnwys gofynion adrodd a monitro cadarn. Gan weithio i olrhain y cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar amcan drwy ddefnyddio dangosyddion a thargedau, bydd yn sicrhau atebolrwydd, tryloywder a goruchwyliaeth, yn ogystal â darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer penderfyniadau polisi'r dyfodol. Drwy sicrhau cyfleoedd parhaus a chadarn i graffu, mae'r darpariaethau adrodd a monitro yn helpu i sicrhau bod cefnogaeth a deddfwriaeth yn gweithio'n effeithiol i'n sector amaethyddol yng Nghymru, gan ymateb i heriau ac annog arloesedd.
Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddais gynigion amlinellol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Er mai'r cynllun arfaethedig fydd prif ffynhonnell cefnogaeth Llywodraeth yn y dyfodol i ffermwyr yng Nghymru, mae'r Bil yn darparu'r fframwaith lle bydd pob cymorth amaethyddol yn y dyfodol yn cael ei gyflawni. Dywedodd ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru y byddem yn ceisio cydweithio ar y trefniadau tymor hirach ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod cynhyrchu bwyd lleol, sy'n gynaliadwy yn ecolegol. Mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn benodol yn cynnwys y pŵer i Weinidogion ddarparu cefnogaeth gyda'r diben o annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy. At hynny, mae heddiw'n nodi dechrau taith ddeddfwriaethol y Bil hwn, a gallaf gadarnhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar welliannau pellach i'r Bil yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi ar y cyd â Phlaid Cymru yn ystod Cyfnod 1.
Mae'r Bil hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cefnogaeth yn y dyfodol i'r sector mewn ffordd sy'n gweithio i'n ffermwyr a'n tir i gefnogi'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Mae'n gyfrwng allweddol yn ein dull o gefnogi ffermwyr a'r sector i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hyn yn cefnogi ymrwymiadau amgylcheddol a hinsawdd y Llywodraeth hon, yn ogystal â'n sector amaethyddol a hefyd y cymunedau gwledig y mae'n chwarae rhan annatod ohonyn nhw. Drwy'r darpariaethau yn y Bil, rwyf eisiau sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ac annog ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr i greu a chynnal sector amaethyddol ffyniannus.
Fel rhan o unrhyw lywodraethu da, mae monitro ac adrodd rheolaidd yn hanfodol. Mae'r Bil yn sicrhau, ar gyfer yr holl gefnogaeth a ddarperir, bod rhaid cael adroddiadau blynyddol sy'n ymdrin â gwariant ac adrodd cyfnodol i fonitro a gwerthuso effaith y gefnogaeth ar draws y sector, yn ogystal â mesur o gymharu â'r dibenion cymorth a roddir wrth gyfrannu at amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus a chefnogaeth sy'n addasol i anghenion y sector.
Bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n darparu llwybr i denantiaid i ddatrys anghydfod er mwyn sicrhau nad yw tenantiaid amaethyddol, er enghraifft, wedi'u cyfyngu'n annheg rhag cael cymorth ariannol a ddarperir o dan bŵer darpariaethau cymorth yn y Bil. Bydd y broses newydd yn cynnig cymhelliant i denantiaid a landlordiaid ddod i gytundeb a drafodwyd er mwyn osgoi costau datrys anghydfod, gan ddarparu cam deddfwriaethol wrth gefn a ffordd o ddatrys anghydfod i'r tenantiaid hynny na allant ddod i gytundeb rhesymol gyda'u landlord.
Mae'r Bil yn disodli'r pwerau amser cyfyngedig yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 i Weinidogion Cymru, gan gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru alluogi parhad y gefnogaeth amaethyddol sy'n bodoli eisoes, i gasglu a rhannu data o'r sector amaethyddol, ac ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol a safonau marchnata y mae'n rhaid i gynnyrch amaethyddol penodol gydymffurfio â nhw. Mae'r Bil hefyd yn disodli pwerau amser cyfyngedig i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer dosbarthu carcasau ac addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, safonau marchnata a dosbarthu carcasau.
Yn dilyn ein rhaglen o ymrwymiad y llywodraeth, rwy'n falch o gadarnhau bod y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Mae'n bwysig nodi arwyddocâd y darpariaethau hyn. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud yn llwyr. Dyma benllanw blynyddoedd lawer o ymgysylltu ar leihau niwed a gwella lles anifeiliaid. Rwyf bellach wedi fy argyhoeddi mai gwaharddiad yw'r unig ffordd ymlaen. Mae maglau a thrapiau glud yn ddyfeisiau diwahân pan ddaw at yr anifeiliaid y maen nhw'n eu dal. Maen nhw'n gynhenid annynol i rywogaethau targed a rhai nad ydyn nhw wedi eu targedu ac, o'r herwydd, maen nhw'n anghydnaws â safonau uchel lles anifeiliaid yr ydym yn ymdrechu i'w cyrraedd yma yng Nghymru.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio Deddf Coedwigaeth 1967, gan alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ychwanegu amodau er mwyn diwygio, atal neu ddirymu trwyddedau torri coed, i atal torri a fyddai'n mynd yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth amgylcheddol arall. Mae hyn yn cefnogi CNC yn eu gwaith hanfodol o reoli ein tir a'n hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Rwyf hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau a'u hetholwyr bod yna gyfle o hyd i helpu i lywio'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rwy'n annog ffermwyr i gwblhau ein harolwg sydd wedi ei gynllunio ar y cyd, sydd ar agor tan ddiwedd mis Hydref. Mae hwn yn ddarn o waith hanfodol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn wir yn cefnogi'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Yn olaf, Llywydd, rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i weithio gyda ni hyd yn hyn, boed yn un o'r miloedd o ffermwyr a ymatebodd i'n tri ymgynghoriad, y rhai a weithiodd gyda ni trwy ein cyfnod cyntaf o gyd-ddylunio, neu'r rhai sydd wedi fy hebrwng o amgylch eu ffermydd gan drafod eu barn a rhannu eu harbenigedd â mi. Rwy'n gwybod bod ffermwyr yn wynebu llawer o heriau, o newid hinsawdd a chytundebau masnach newydd i gynydd mewn costau mewnbynnau a ddaw yn sgil y rhyfel yn Wcráin. Rwyf hefyd yn cydnabod eu bod yn wynebu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch ein cynigion, yn enwedig ynglŷn â'r cyfraddau talu sydd ynghlwm â'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rydw i wastad wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid newydd llawn yn cael ei ddarparu i'r sector, fel yr addawyd. Adlewyrchir yr egwyddor sylfaenol hon yn y dadansoddiad sy'n cyd-fynd â'r Bil. Dyma Fil sydd nid yn unig yn effeithio ar y sector amaethyddol ond ar ein cenedl fawr yn ei chyfanrwydd, o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta i sut mae wedi ei dyfu, ei gynaeafu, ei storio a'i baratoi ar gyfer ei werthu. Am y tro cyntaf, mae gennym gyfle i greu system o gymorth a deddfwriaeth sy'n gweithio i'n ffermwyr, ein sector, ein tir a'n pobl. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'i datganiad a Bil Amaethyddiaeth (Cymru), yn enwedig gan ei bod wedi cael prynhawn prysur iawn yn y Siambr.
Nid yw'n danddatganiad i ddweud bod y ddogfen 45 tudalen hon, ynghyd â'r memorandwm 475 tudalen, yn cynrychioli'r ailwampio mwyaf a mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol ers geni'r sefydliad hwn. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, dyma'r cyfle cyntaf i gael Bil amaethyddiaeth wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru, darn penodol o ddeddfwriaeth sy'n ceisio adlewyrchu natur unigryw y diwydiant. Mae'r tair blynedd diwethaf wedi gweld llu o ddigwyddiadau daearwleidyddol, o bandemig byd-eang i oresgyniad anghyfreithlon Wcráin. Yn gyson drwy bob un o'r digwyddiadau hyn oedd y tarfu ar gadwyni cyflenwi byd-eang. Rhaid i ni geisio cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu, hyrwyddo a darparu ar gyfer ffermwyr Cymru, y diwydiant amaethyddol, ein cymunedau gwledig a'n hamgylchedd ledled Cymru. Mae angen i ni gynnig sefydlogrwydd a thwf i'r diwydiant a gwneud y penderfyniad cywir i roi diogeledd bwyd a chynaliadwyedd wrth galon agenda'r Llywodraeth hon.
Fel yr amlygoch chi yn eich datganiad, Gweinidog, elfen allweddol o fewn y ddeddfwriaeth fframwaith hon yw datblygu rheoli tir cynaliadwy. Nawr, rwy'n falch o nodi bod amcanion y fframwaith rheoli tir cynaliadwy wedi symud i ffwrdd o fframio cynaliadwyedd o fewn cyfyngder cul y ddadl amgylcheddol yn unig, ac, mewn gwirionedd, rwy'n croesawu pwyslais newydd ar werth a chynhyrchu bwyd, yn ôl amcan 1 o fewn fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Nid oedd yr amcan hwn wedi bodoli mewn fersiynau blaenorol o'r ddogfen hon, felly mae hwn yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir, a gobeithio ei fod yn adlewyrchu agwedd agored a chydweithredol o ran sut y bydd y ddogfen hon yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf. Mae'r amcanion hyn hefyd yn cyd-fynd yn dda ag amcanion Bil bwyd Peter Fox.
Er hyn, rwy'n siomedig bod y tri amcan sy'n weddill yn methu â chydnabod pwysigrwydd economaidd ehangach ffermio Cymru, yn enwedig ein ffermydd teuluol. Yn wir, Gweinidog, rydych chi a fi wedi cael sawl trafodaeth am bwysigrwydd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach ffermio yng Nghymru, wrth i gyfraniad economaidd y ffermwr unigol fynd ymhell tu hwnt i gât y fferm. Felly, pan fyddwn yn sôn am ffermio yng Nghymru fel diwydiant, yr hyn sydd gennym yw cymuned sy'n cyfrannu tua £6 biliwn at economi Cymru, diwydiant sy'n cyflogi 17 y cant o holl weithlu'r genedl hon. Ond eto, er gwaethaf hyn, mae eich pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy ar hyn o bryd yn methu â chydnabod pwysigrwydd economaidd ehangach y diwydiant. O ystyried hyn, byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod os yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylid rhoi pwyslais cyfartal ar gyflawni canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae dull cyfannol yn allweddol i weithredu'r agenda hon, ond mae'n rhaid ei gynnal drwy gydol y ddogfen gyfan. Yn anffodus, ar gyfer rhannau o'r ddeddfwriaeth hon, nid yw hynny o reidrwydd yn wir. Fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae'r amcanion rheoli tir cynaliadwy yn datgan yn glir eu hymrwymiad i warchod a gwella adnoddau diwylliannol, yn enwedig mewn ymgais i gynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso'i defnydd—yn wych—ac eto, ym mhennod 1 y ddogfen ddeddfwriaethol hon, ymddengys nad oes cyfeiriad at y Gymraeg o fewn cwmpas eich 11 o ddibenion allweddol, er gwaethaf y cyfeiriad at amcanion rheoli tir yn gynaliadwy allweddol eraill, megis cynhyrchu bwyd, newid hinsawdd a chadwraeth ecosystemau. O ystyried hyn, sut ydych chi'n bwriadu gwarchod a thyfu'r Gymraeg o fewn y pwerau a nodir yn y Bil amaethyddiaeth heddiw?
Heb amheuaeth: mae hwn yn fframwaith deddfwriaethol uchelgeisiol, sy'n ceisio cefnogi diwydiant amaethyddol ôl-UE sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. 'Diogelu, hyrwyddo a darparu' yw'r tri marc allweddol y byddaf yn eu defnyddio i fesur gwerth ac addasrwydd y Bil a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Yng ngeiriau'r FUW, Gweinidog, 'Rydym hanner ffordd yno', ac, wrth i ni graffu ar y ddeddfwriaeth hon a'i diwygio yn y misoedd nesaf, edrychaf ymlaen at chwarae rhan bositif wrth gyfrannu at ei esblygiad i sicrhau'r fargen orau bosibl i ffermwyr Cymru, y diwydiant a'n cefn gwlad. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n chwarae eich rhan yn llawn wrth symud y Bil hwn ymlaen. Fel y dywedais i, dim ond dechrau proses, o bosibl flwyddyn o hyd, yw hyn o fynd â'r Bil drwy'r Senedd, ac rwy'n ddiolchgar am eich sylwadau cefnogol a'r trafodaethau yr ydym wedi eu cael o'r blaen.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni wedi cael tri ymgynghoriad yn mynd yn ôl i—rwy'n ceisio cofio nawr—2017, 2018 mae'n debyg. Dydw i ddim yn siŵr fy mod yn cytuno â chi ynghylch cynhyrchu bwyd, oherwydd roeddwn i'n awyddus iawn, fel oedd yr undebau amaethyddol a llawer o ffermwyr y cwrddais â nhw, i weld y gair 'bwyd' yno drwyddi draw. Fe wnaethom ni wneud pethau'n iawn yn yr ymgynghoriad cyntaf, yn 'Brexit a'n tir', ac rwyf wedi bod yn falch iawn o adeiladu ar hynny. Roedd un o'r materion yn ymwneud â'r cwestiwn a oedd gan fwyd—a allai fod yn farchnad? Oherwydd bod ganddo farchnad, yna ni allai fod yn rhan o'r Bil yn y ffordd yr oedd ei angen, ond rwy'n credu bod swyddogion wedi gweithio'n wirioneddol galed iawn i sicrhau bod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn rhan o reoli tir cynaliadwy ac mae gennym y Bil nawr ar y ffurf y mae ar hyn o bryd. Felly, dwi'n credu ei bod hi'n deg dweud bod bwyd wedi bod yno drwy'r cyfan.
Yn sicr, mae'r materion yn ymwneud â ffermydd teuluol—ac rydych chi wedi codi hyn gyda fi, fel y gwnaeth Plaid Cymru, yn y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael ers y cytundeb cydweithredu, ac rydw i wedi dweud ar hyd yr amser pe na bai hyn a'r cynllun yn gweithio i ffermwyr yna ni fyddai'n gweithio i unrhyw un, na fyddai? Mae'n bwysig iawn ei fod yn gwneud hynny. Fe wnes i weld datganiad i'r wasg yr FUW, ond maen nhw wedi chwarae rhan fawr hefyd wrth fy helpu i a swyddogion gyda'r Bil hwn, fel y gwnaeth yr undebau ffermio eraill.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn ynghylch yr heriau sy'n ein hwynebu. Pan fyddaf i'n meddwl yn ôl i—. Mae wedi cymryd blynyddoedd yn llythrennol i greu'r Bil hwn, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod yno o'r dechrau, a phan edrychwch chi ar yr heriau a ddaeth ar ein traws: cawsom sychder ac yna fe gawsom ni—. Gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna rhyfel Wcráin, rydym ni wedi cael y pandemig—mae wedi bod yn un her ar ôl y llall a drwy gydol y cyfnod hwnnw, mae ein ffermwyr ni wedi bod yno yn gwneud yn siŵr bod gennym ni fwyd ar y bwrdd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn eu helpu gyda'r heriau.
Rwy'n credu un o'r materion—. Rydym ni'n wirioneddol wedi cael ein hunain mewn sefyllfa lle yr ydym wedi cael pum mlynedd o ddryswch ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod hynny wedi effeithio'n fawr ar ein busnesau ffermio. Fe wnaethoch chi sôn am sefydlogrwydd a thwf, a dyna'r ddau beth yr ydw i wir eisiau eu rhoi i'r sector, ac mae'n anodd pan fydd gennych chi'r holl heriau hyn. Rwy'n gwerthfawrogi—ac fe wnes i gyfeirio ato yn fy sylwadau agoriadol—rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn rhoi ansicrwydd, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n trafod y Bil hwn gyda'n ffermwyr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gymaint ohonyn nhw am fy helpu gyda hyn. Mae 'na gyfleoedd hefyd, ac rwy'n credu mai dyna'r hyn yr wyf i'n dymuno ei weld yn digwydd yn sgil y Bil hwn. Mae'r cyfleoedd hynny yno hefyd, ac mae angen gafael ynddyn nhw.
Mewn cysylltiad ag amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, rwyf i'n credu bod rheoli tir yn gynaliadwy yn ymgorffori cyfraniad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ffermwyr i gymdeithas yng Nghymru. Mae'n gysyniad a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi adeiladu arno. Mae'n ymwneud ag annog defnyddio ein tir a'n hadnoddau mewn ffordd sy'n cwrdd—. Mae angen cydbwyso, onid oes, yr anghenion presennol nawr a chenedlaethau'r dyfodol sy'n mynd i ddilyn. Felly, rwy'n credu ei fod e yno.
Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, ynghylch y Gymraeg, a soniais y byddwn yn cyflwyno gwelliannau pellach yng Nghyfnod 1.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rydym ni'n byw mewn cyfnod digynsail, onid ydym? Mae’r sector amaeth a’r cymunedau a theuluoedd sydd ynghlwm â’r sector o dan bwysau rhyfeddol ac, yn fwy na dim arall, maen nhw'n chwilio am sefydlogrwydd, tra, ar yr un pryd, mae cymdeithas ehangach yn galw allan am ddiogelwch a fforddiadwyedd bwyd. Mae rhyfel Wcráin, Brexit a COVID-19 wedi dwyn ffocws ar freuder y gadwyn fwyd. Ar yr un pryd, mae'r Llywodraeth wedi gosod targedau clodwiw i sicrhau twf y Gymraeg, a gwyddom hefyd fod y sector amaethyddol yn greiddiol i gynnal yr iaith a'n diwylliant. A goruwch hyn oll, mae'r argyfwng newid hinsawdd angheuol, sydd yn taflu cysgod dros bob dim. Nid tasg hawdd felly mae cadw’r balans yma rhwng y gwahanol elfennau, ond dyna mae'n rhaid trio ei wneud. Nid gormodaeth felly ydy dweud fod y Bil yma a fydd yn cael ei gyflwyno yn drobwynt hanesyddol, a bydd yn gosod y cywair ar gyfer amaeth yng Nghymru am sawl cenhedlaeth i ddod.
Roeddwn i'n pryderu yn arw yn ystod y trafodaethau blaenorol na fyddai'r Bil yn cydnabod rôl ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd. Wedi'r cyfan, dyma pam mae ffermwyr yn ffermio—maen nhw’n cynhyrchu bwyd er mwyn i'r gweddill ohonom ni fedru bod allan yn gweithio fel nad ydym ni'n gorfod bod ar y tir. Diolch iddyn nhw am eu gwaith. Dwi’n croesawu felly fod annog cynhyrchu bwyd yn ddeilliant penodol yn y dibenion cymorth, ac mi fyddaf yn edrych yn arbennig yn ystod proses craffu'r Bil ar sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu asesu diogelwch ein cyflenwad bwyd. Ond mi fyddaf i'n canolbwyntio fy ngwaith craffu ar y ddwy adran gyntaf. Dyma’r adrannau sy’n gosod y sylfaen, wedi'r cyfan. Bydd y Bil yn llwyddo neu yn methu yn ddibynnol ar gynnwys yr adrannau yma.
Dwi’n croesawu’r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y gwaith pellach sy'n digwydd gyda Phlaid Cymru, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwelliannau pellach sydd am gael eu cyhoeddi.
Rŵan, dywed y memorandwm esboniadol, yn rhan 1, fod o’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer rhai swyddogaethau yn y modd maent yn ystyried sy'n cyfrannu orau at gyflenwi amcanion rheoli tir yn gynaliadwy—yr SLM—i'r graddau bod hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno'n briodol. Y cwestiwn i ni felly ydy: a yw hyn yn rhoi gormod o rym i'r Gweinidog? Sut fydd y Gweinidog ar y pryd yn penderfynu beth sydd yn cyfrannu orau at gyflawni amcanion yr SLM? Beth fydd y ffon fesur? Mae'n sôn am dri philer cynaliadwyaeth—sôn am economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol—felly y rôl i ni wrth graffu fydd sicrhau bod y balans yma yn cael ei gynnal ac nad ydy un elfen yn gorbwysleisio yr elfennau eraill. Sut mae'r Gweinidog felly’n cynnig y bydd hynny yn cael ei wneud yn effeithiol? Felly, er enghraifft, dywed y memorandwm esboniadol:
'Mae cynhyrchu bwyd yn elfen sylfaenol o SLM, fel rhan o gynhyrchu nwyddau i ddiwallu anghenion dyn. Mae gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy yn golygu bod ffermwyr yn sicrhau canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol'.
Ymhlyg yn y datganiad yna, mae'r pwyslais yn cael ei roi ar anghenion amgylcheddol, nid o reidrwydd anghenion cynhyrchu bwyd. Ydy'r balans yn gywir yma, felly? Dyna'r cwestiwn i ni wrth inni ddechrau ar y gwaith craffu, oherwydd mae yna glorian, onid oes? Yr amcan ydy sicrhau bod y glorian honno yn hafal rhwng anghenion cynhyrchu bwyd a phopeth sydd ynghlwm â hynny yn economaidd ac yn gymdeithasol, ac anghenion amgylcheddol. Pa sicrwydd all y Gweinidog felly roi fod y Bil fel y'i cyflwynwyd yn taro'r cydbwysedd cywir yn y glorian honno?
Mae'r adran ariannu yn benagored. Tra'n adran hollbwysig, ychydig iawn o gig sydd wedi cael ei roi ar yr asgwrn. Bydd y gwaith ar hynny yn digwydd maes o law, wrth gwrs, wrth i reoliadau felly gael eu gosod. Felly, dwi am ofyn i'r Gweinidog pryd mae hi'n rhagweld bydd y manylion ar ariannu a thaliadau ar gael i ni yn y Senedd ac i'r sector amaethol. A pha sicrwydd fedrith hi ei roi y cawn ni fel Senedd gyfle i graffu ar y rheoliadau yma yn llawn pan ddaw'r amser?
Ac i gloi, felly, mae'n afraid dweud fod amaethyddiaeth o bwys anferthol i Gymru, i'n hanes, i'n hunaniaeth, i'n hiaith, i'n heconomi ac i'n dyfodol. Y Bil yma fydd yn golygu naill ai ein bod yn gweld parhad y ffarm fach deuluol Gymreig neu a fyddwn ni'n gweld amaeth yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd ag y mae e wedi gwneud mewn cynifer o wledydd eraill, gan arwain at ffermydd mawr a ffermio dwys. Mae'r risg felly yn un mawr ac mae'n rhaid inni sicrhau bod dyfodol ffermio teuluol Cymru yn parhau am genedlaethau i ddod tra bod y ffermydd yma yn chwarae eu rhan yn llawn yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n mawr obeithio mai dyma fydd pen draw'r daith yma, ac rwy'n edrych ymlaen i chwarae rhan yn y broses.
Diolch, ac unwaith eto rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda chi'n wrth fynd â'r Bil hwn ymlaen.
Rwy'n mynd i ddechrau gyda'ch darn olaf ynghylch cyllid. Fe wnaethoch chi ofyn pryd y byddwch chi'n gallu craffu ar yr elfennau cyllido ohono. Rydym yn gwneud rhywfaint o ddadansoddiad economaidd a modelu. Bydd hynny'n cael ei wneud dros weddill eleni ac mae'n debyg i mewn i ddechrau'r flwyddyn nesaf, felly byddwn yn dychmygu y bydd tua gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae ansicrwydd enfawr ynghylch cyllid, fel y gwyddoch chi. Roeddem ni wedi cael addewid gan Lywodraeth y DU na fyddem ni'n colli ceiniog; rydym ni wedi gweld nad yw hynny'n wir. Ond hoffwn i pe byddai modd i ni gael rhywfaint o sicrwydd gan Lywodraeth y DU. Af yn ôl at yr hyn yr oedd Sam Kurtz yn ei ofyn ynghylch sefydlogrwydd a thwf. Mae'n anodd iawn cynnig sefydlogrwydd. Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i gadw cynllun y taliad sylfaenol, er enghraifft, am ychydig mwy o flynyddoedd nag oedd rhannau eraill o'r DU yn ei ystyried, ond mae'n anodd iawn rhoi'r sefydlogrwydd hwnnw yr hoffwn i ei roi mewn gwirionedd, heb wybod. Ac fe fyddwch wedi gweld cyhoeddiadau Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon ynghylch torri eu Bil amaethyddol. Nid dyma'r sefyllfa y bydden nhw'n ei dymuno rwy'n siŵr; na neb arall. Ond, yn anffodus, oherwydd diffyg cadarnhad ynglŷn â'r cyllid amaethyddol gan Lywodraeth y DU, mae'n anodd iawn i wneud hynny, ond gobeithio bod hynny'n ateb eich cwestiwn.
Rwy'n credu mai un o'r pethau yr wyf wedi bod yn awyddus iawn i'w osgoi, a digwyddodd hyn yn gynnar, ar ddechrau'r gwaith polisi ynghylch y darn hwn o ddeddfwriaeth, pan es i i Seland Newydd, i siarad â ffermwyr yno a oedd yn cofio'r dibyn hwnnw oedd ganddyn nhw ym 1984 pan wnaethon nhw roi gorau i'w cynllun talu sylfaenol, ac roeddech chi'n gweld y ffermydd bach oedd newydd gael eu llyncu'n llwyr gan y ffermydd mawr, ac fe gollon nhw'r teimlad hwnnw o gymuned, ac wrth gwrs does ganddyn nhw ddim yr iaith i'w chadw fel sydd gennym ni yma yng Nghymru. Felly, roeddwn i'n glir iawn o'r dechrau bod rhaid amddiffyn y ffermydd bach teuluol yna a pheidio â chaniatáu iddyn nhw gael eu llyncu ac felly colli'r teimlad hwnnw o gymuned, ac roedden nhw'n gweld clybiau rygbi yn diflannu oherwydd nad oedd y ffermydd yno i'w cynnal. Felly, roedd hynny'n rhan fawr o feddwl cynnar mewn cysylltiad â'r Bil.
Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud ynghylch y ffaith bod yna bwerau rhy eang, ac mae'n debyg nad oes ateb perffaith y gallaf ei roi i chi, ond mae'n ymwneud â'r cydbwysedd hwnnw. Rwy'n credu bod angen i ni gael yr hyblygrwydd hwnnw i gefnogi'r sector yn y ffordd yr ydym ni'n ei wneud gyda pholisïau sefydlog, ac rwy'n credu mai'r ffordd o wneud hynny yw'r ffordd yr ydym ni wedi ei nodi. Mae'r adran yr ydych chi'n cyfeirio ati o ran canlyniadau rheoli tir cynaliadwy; cyfeirir atyn nhw fel dibenion o fewn y Bil ac maen nhw'n adlewyrchu'n llwyr ganlyniadau rheoli tir yn gynaliadwy y gellir rhoi cefnogaeth iddyn nhw, ac mae rhestr o gefnogaeth y gellir ei darparu. Mae hynny'n ariannol neu fel arall, mewn gwirionedd, a dyna fydd y Bil hwn yn galluogi Gweinidogion i'w wneud, i ddarparu'r gefnogaeth honno i amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol mewn ffordd a fydd wedyn yn cyfrannu at yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.
Wrth gwrs, ein prif ddull cyflawni fydd y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyna pam y mae mor bwysig mewn gwirionedd. Fe wnes i ei hybu eto heddiw. Gwnewch yn siŵr bod cymaint o bobl—etholwyr a ffermwyr—os gwelwch yn dda, yn ein helpu ni gyda'r cyd-ddylunio hwnnw, oherwydd mae angen iddo weithio iddyn nhw.
Dylwn i ddweud bod y rhestr o ddibenion o fewn y Bil yn ceisio bodloni'r gofyniad yr ydym yn chwilio amdano, ond nid yw'r rhestr o ddibenion yn gynhwysfawr. Felly, mae lle i fwy yno. Rwy'n credu mai dyna bopeth.
Gweinidog, a gaf i ddweud 'llongyfarchiadau', nid yn unig i chi, ond i bawb sydd wedi helpu i ddod ag ef i'r cyfnod hwn? Mae hon yn foment arwyddocaol ac, fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd, rydym yn edrych ymlaen at gael rhoi ein dannedd i mewn i ddarn o ddeddfwriaeth yma yng Nghymru, a wnaed yng Nghymru, ac i fynd i'r afael â hwn mewn gwirionedd. Ac mae hi wedi bod yn daith hir i gyrraedd yma, ac mae eich dyfalbarhad i'w edmygu.
A gaf i droi, Gweinidog, oherwydd nid yw'r pethau hyn yn sefyll ar wahân i gyd-destun ehangach deddfwriaeth a pholisi, yma ac ar draws y DU hefyd, sy'n eithaf diddorol? Felly, mewn ymateb i lansiad Bil Amaethyddiaeth Cymru, dywedodd RSPB Cymru fod RSPB Cymru yn croesawu'r Bil Amaethyddiaeth Cymru newydd, a fydd yn gweithio i bobl, natur a'r hinsawdd. Bydd yn helpu i lunio ffermio yng Nghymru, a thynged bywyd gwyllt Cymru am genedlaethau i ddod. Maen nhw'n credu bod hwn yn gyfle mawr i Gymru sicrhau dyfodol positif o ran natur. Bu ymateb gwirioneddol gyferbyniol yr wythnos hon yn Lloegr. Ymatebodd RSPB Lloegr i'r ffaith y cafodd cynigion tebyg eu dileu yn Lloegr, ond hefyd yr amddiffyniadau amgylcheddol a gyhoeddwyd yn y gyllideb fach, gan ddweud,
'Heb os nac oni bai, rydym ni'n ddig. Heddiw mae'r Llywodraeth hon wedi lansio ymosodiad ar fyd natur. Nid ydym yn defnyddio'r geiriau sy'n dilyn ar chwarae bach. Rydym yn mynd i mewn i diriogaeth hollol ddieithr.'
Y rheswm pam y mae hyn yn bwysig yw oherwydd eu bod yn troi at fater deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n cael ei gynnig a'r bwriad yno y maen nhw'n ei weld fel gostwng y gwastad, nid yn unig yn Lloegr, ond yng Nghymru hefyd. Gweinidog, tybed a wnewch chi ystyried y pryderon hynny. A ddylem ni boeni? A yw'r RSPB yn poeni'n briodol y gallai fod—efallai—bwriad yma i'r goelcerth hon o ddadreoleiddio yn Lloegr ymestyn hynny ar draws Cymru hefyd?
Nid wyf wedi gweld manylion y cyhoeddiad a ddaeth o DEFRA ddoe. Ni allaf ddweud fy mod wedi fy synnu. Yn amlwg, cafwyd Ysgrifennydd Gwladol newydd; rwy'n credu y gallwn weld newid cyfeiriad hefyd gan Lywodraeth Liz Truss. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud—nid wyf yn credu fy mod i'n annheg yma—mai nhw oedd y cyntaf allan o'r trap, mewn gwirionedd, gyda'u cynlluniau rheoli tir er budd yr amgylchedd ac roedden nhw'n cael rhywfaint o anhawster eu cyflwyno. Felly, rwy'n clywed beth mae sefydliadau amgylcheddol yn ei ddweud, ac mae unrhyw beth sy'n tynnu oddi ar yr argyfyngau natur a hinsawdd yr ydym ni gyd yn eu hwynebu yn amlwg yn faes sy'n peri pryder.
Rwy'n edrych ymlaen at gael sgwrs. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn benodol i Gymru, ac wedi ei gwneud yng Nghymru, yn bwrpasol i Gymru ac yn iawn i ni. Yr hyn a wnaiff Lloegr yw'r hyn a wnaiff Lloegr, ond wrth gwrs rwy'n cymryd diddordeb mawr yn yr hyn y mae Lloegr yn ei wneud, ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi cyfarfod yn rheolaidd fel pedwar Gweinidog amaethyddol, ac rydym i gyd wedi rhannu'r ddeddfwriaeth yr oeddem yn ei chyflwyno yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac felly mae'n fy mhryderu i, yr hyn yr wyf yn ei ddarllen, ond fel y dywedais i nid oes gennyf y manylion. Yn anffodus, rwyf wedi ymdrechu'n galed iawn i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, ond canslwyd cwpl o gyfarfodydd. Ond mae gennym ni gyfarfod pedairochrog fis nesaf ac rwy'n edrych ymlaen at glywed ychydig mwy o fanylion ynghylch hwnnw.
A gaf i ddweud hefyd nad atebais i Mabon—roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi gadael rhywbeth allan—ar ddiogeledd bwyd a fforddiadwyedd bwyd? Wrth gwrs, y ddau beth hynny—. Mae diogeledd bwyd yn cael lle amlwg yn y Bil ac mae'n faes lle mae angen i ni, eto, fel yr oedd Huw Irranca-Davies yn dweud, weithio ar lefel y DU ar ddiogeledd bwyd gan ei bod yn system mor integredig. Mae pobl yn poeni am ddiogeledd bwyd, a gobeithio y bydd hyn yn tawelu eu meddyliau, ac wrth gwrs fforddiadwyedd nawr, gyda'r argyfwng costau byw. Eto, wrth fynd yn ôl at DEFRA, roedd tipyn o godi ysgwyddau ynghylch pris bwyd yn codi. Pam na ddylai ffermwyr gael y pris iawn am eu bwyd? A'r teimlad oedd efallai y dylem ni fod yn edrych ar fwyd rhatach. Wel, i fi, nid dyna'r broblem. Rwy'n gwerthfawrogi bod pobl yn mynd i'r archfarchnad ac yn chwilio am fwyd rhatach gan ein bod mewn argyfwng costau byw, ond i mi mae'n bwysig iawn bod ffermwyr yn cael pris teg oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw forgeisi ac maen nhw angen prynu bwyd a phethau eraill i'w teuluoedd hefyd. Felly, rwy'n credu, ar ddiogeledd bwyd, ein bod ni wedi cymryd ein hamser o ran diogelwedd bwyd, oherwydd unwaith eto, gan fynd yn ôl at heriau sy'n ein hwynebu, y gwahanol heriau, mae wir wedi amlygu diogeledd bwyd.
Mae'n gadarnhaol iawn gweld y ddeddfwriaeth hon yn dod ymlaen. Mae ychydig yn hwyr, ond rwy'n falch o weld ei bod yn dod ymlaen. Mae un rhan o'r Bil yn ymwneud â lles anifeiliaid, ac yn y memorandwm esboniadol mae pwyntiau 7.514 i 7.531 yn nodi camau gweithredu a thargedau i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y bydd y Bil yn ei wneud ynghylch TB, clafr defaid, ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac ati. Ydych chi'n meddwl, Gweinidog, bod y Bil yn mynd yn ddigon pell i helpu i ddod â TB i ben yng Nghymru, i roi diwedd ar y clafr defaid yng Nghymru a rhoi'r fframwaith rheoleiddio hwnnw ar waith i'n helpu i gael y safonau lles anifeiliaid uchaf yn y wlad?
Diolch. Felly, rwy'n credu mai Bil fframwaith yw hwn ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn cefnogi'r rheiny. Yn amlwg, mae gennym gynlluniau a mentrau penodol o ran dod â chlafr defaid a TB i ben. Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud ynghylch TB, ond wrth gwrs, mae gennym y math yna o fannau lle ceir achosion y mae gwir angen i ni fynd i'r afael â nhw, ac roeddwn i'n falch iawn ein bod wedi cael y digwyddiad yn sioe Sir Benfro—rwy'n credu y cadeiriodd Sam ef—ynghylch hynny, oherwydd mae hynny'n amlwg yn faes sy'n peri pryder yn Sir Benfro. Ac mae clafr defaid, eto, yn rhywbeth rwy'n credu y mae angen i ni weithio'n agos iawn gyda'r diwydiant i'w ddileu, ac rwy'n credu bod y diwydiant wedi dangos rhywfaint o arweiniad go iawn mewn cysylltiad â chlafr defaid a byddwn yn parhau i weithio ar hynny.
Felly, fel y dywedais i yn fy ateb i Mabon, mae'r pwerau yn eang iawn, ond rwy'n credu eu bod nhw yno i helpu i gefnogi cynlluniau a mentrau eraill hefyd.
Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn a'r ffaith mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar faglau a thrapiau glud. Rwy'n falch hefyd o weld amcan yn cael ei gyflwyno er mwyn hyrwyddo mynediad cyhoeddus i gefn gwlad. A fydd y Gweinidog yn cadarnhau i mi y bydd cydymffurfio â chynnal a chadw hawl tramwy yn rhan greiddiol o'r cynllun, a nodi sut y bydd y cynllun yn helpu i annog ymgysylltu â swyddogion a cherddwyr hawliau tramwy cyhoeddus, sy'n helpu i'w cynnal? Diolch.
Diolch a diolch am eich sylwadau. Mae mynediad i gefn gwlad newydd ddod yn ôl i fy mhortffolio. Roedd e gennyf i o'r blaen, ac mae'n faes yr wyf yn edrych ymlaen at gael ambell i drafodaeth arno, i weld sut eto allwn ni—. Wrth fynd yn ôl i'r hyn yr oedd James Evans yn ei ddweud, bydd gan y Bil hwn y pwerau i'n helpu ni gyda hynny, felly mae'r rheiny'n sgyrsiau nad ydw i wedi'u cael hyd yma, ond fe fyddaf yn eu cael wrth i ni fynd â'r Bil ymlaen.
Prynhawn da eto, Gweinidog. Tri chwestiwn cyflym iawn gennyf i: rydym ni'n croesawu'r Bil hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ar draws pleidiau er mwyn gweld y Bil hwn yn mynd drwodd. Mae'r cwestiwn cyntaf wir yn ymwneud â chynhyrchu bwyd. A yw bellach yn cael ei ddiffinio fel nwydd cyhoeddus i ffermwyr, ac a fyddan nhw'n cael y taliad sylfaenol hwnnw?
Mae'r ail fater o ran y gorchudd coed 10 y cant. Fyddech chi'n ystyried cynnwys gwrychoedd o fewn y gorchudd coed 10 y cant hwnnw? Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn fater arbennig.
Ac yn olaf, parthau perygl nitradau: mater pwysig iawn ac un y gwn sydd ar wefusau bron pob ffermwr yr wyf yn siarad ag ef. Allech chi egluro beth yw sefyllfa rheoliadau llygredd dŵr mewn cysylltiad â'r Bil amaethyddiaeth fel y'i nodir heddiw?
Yn olaf, diolch am eich datganiad. Edrychaf ymlaen at ragor o gyfleoedd i weithio gyda chi ac ar draws y Siambr hefyd i greu'r system orau i'n ffermwyr, sy'n gwobrwyo ffermwyr am nwyddau cyhoeddus ac yn sicrhau dyfodol hyfyw yn economaidd i'r sector hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch o galon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi hefyd, ar draws y Siambr, ar y Bil hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, oherwydd nid oes gan yr un ohonom ni'r syniadau i gyd, felly mae'n wych pan ddown at ein gilydd a gweithio tuag at nod cyffredin.
O ran cynhyrchu bwyd, af yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud o'r blaen, a'r ymadrodd yr oeddwn i'n ceisio meddwl amdano oedd 'nwydd cyhoeddus'. Felly, dyna un o'r anawsterau, oherwydd bod gan fwyd farchnad, ni ellid ei ystyried yn nwydd cyhoeddus, felly y ffordd yr ydym wedi ymdrin â hyn yw gwneud yn siŵr bod cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a bydd hynny'n rhan o'r cynllun.
Rydym ni'n edrych ar wrychoedd, felly gwrychoedd ac ymylon; rydym yn sicr yn edrych ar gynnwys y rhai sydd yn y gorchudd 10 y cant, ynghyd â'r hyn sydd yno'n barod, yn ogystal â gwrychoedd ac ymylon newydd.
Rwy'n casáu clywed y geiriau 'parthau perygl nitradau'. Nid ydyn nhw'n bodoli mwyach. Mae gennym ni'r rheoliadau llygredd amaethyddol ac, yn amlwg, maen nhw'n rhan bwysig iawn o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r sector amaethyddol. Fel y gwyddoch chi, rydym yn edrych ar y ffordd yr ydym yn defnyddio'r rheoliadau hynny nawr fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithredu nawr, oherwydd rydym yn dal i gael nifer o ddigwyddiadau llygredd amaethyddol sylweddol bob wythnos, rhywbeth nad ydy unrhyw un ohonom ni eisiau ei weld.
Felly, eto, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn edrych ar yr holl gynlluniau sydd gennym mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth a sicrhau bod y Bil—fel Bil fframwaith, ac yna gobeithio y bydd yn dod yn Ddeddf—yn sicrhau y gallwn gefnogi'r sector amaethyddol yn y ffordd y byddem eisiau gwneud hynny.
Joyce Watson, yn olaf.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n mynd i siarad i groesawu cynnwys y gwaharddiad ar faglau a thrapiau glud, a'r ffaith mai Cymru fydd y genedl gyntaf un i'w gwahardd yn llwyr. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi siarad ar hyn droeon. Rwy'n falch iawn, Gweinidog, eich bod wedi gwrando ar y gynulleidfa ehangach yma sydd wedi dadlau bod hyn yn annynol ac wedi dod i'r un penderfyniad eich hun ei fod yn ddiangen ac mae'n gwbl anghydnaws â safonau uchel lles anifeiliaid. Mi fydda i, wrth gwrs, yn sôn am lawer o bethau eraill wrth i'r Bil fynd trwyddo, ond, am y tro, rwyf eisiau diolch i chi am gynnwys hyn. Diolch.
Diolch i Joyce Watson am y sylwadau yna. Mae hyn yn benllanw blynyddoedd o waith. Dydw i ddim yn credu y dylem ni danbrisio nifer y blynyddoedd yr ydym ni wedi ceisio gweithio gyda defnyddwyr maglau i leihau niwed a gwella lles. Ond, fel y dywedwch chi, mae maglau yn bethau diwahân o ran yr anifeiliaid y maen nhw'n eu dal. Gallant ddal moch daear, gallant ddal dyfrgwn, cŵn, cathod, ac maen nhw'n gynhenid annynol o ran y rhywogaethau sy'n cael eu targedu ac nad ydyn nhw'n cael eu targedu. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn eu cynnwys yn y Bil hwn.
Diolch i'r Gweinidog.