– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 4 Hydref 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar adroddiad blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22. A galwaf ar Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Ar ddechrau'r chweched Senedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein rhaglen waith pum mlynedd ar gyfer gweithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod 2021-26. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, felly, yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y rhaglen honno ac ar ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.
Roedd y pandemig yn parhau i gael effaith ar ein ffordd o weithio yn ystod y cyfnod hwn. Er y bu llai o sôn am adael yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy o drafod effaith costau byw cynyddol arnom ni. Er gwaethaf pob newid, ein gwaith ni, doed a ddelo, yw ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg ac, yn bwysicach fyth, cynyddu'r defnydd dyddiol o'n hiaith ni.
Roedd hon yn flwyddyn brysur arall ym maes polisi iaith wrth i ni weithio ar draws y Llywodraeth a chydag amrywiol bartneriaid ar hyd a lled y wlad a thu hwnt. Ac mae heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gyfle i mi ddiolch i bawb a fu'n cydweithio â ni gydol y flwyddyn. Rhaid sôn am y partneriaid grant a fu wrthi'n ddiflino, ac yn llawn egni a chreadigrwydd, er mwyn ein cefnogi ni i wireddu 'Cymraeg 2050'. Yn dilyn cyfnod prysur o gynnig cyfleoedd i ni ddefnyddio'n Cymraeg o bell, mae pob un wedi bod yn gweithio i adfer ac ailadeiladu, ac wedi parhau i arloesi a chadw rhai o arferion gorau'r cyfnodau clo. Cewch fanylion lawer o'r gwaith yn yr adroddiad.
Nawr, dyma droi at rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn dan sylw. Fe wnaethom ni ymgynghori ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg—cynllun uchelgeisiol sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth gyfan, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â pholisïau newydd eraill ym maes cynllunio a threthi.
Yr wythnos nesaf, byddaf i'n lansio'r cynllun terfynol, a byddaf i'n rhannu'r manylion gyda chi bryd hynny. Ond teg dweud ei fod e'n gynllun arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i gymunedau, ac, yn wir, i'n hiaith ni, ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y comisiwn cymunedau Cymraeg newydd yn ein herio ni wrth i ni weithredu'r cynllun ac yn ein cefnogi er budd yr ardaloedd hynny sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg.
Daeth y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd newydd i rym yn ddiweddar. Dirprwy Lywydd, nid ar chwarae bach y digwyddodd hyn. Bu cryn baratoi yn ystod y flwyddyn adrodd wrth i ni gynnal sesiynau i gefnogi awdurdodau lleol, i gydweithio â nhw i fireinio eu cynlluniau drafft, a chyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dim ond y cam cyntaf yw cyhoeddi'r cynlluniau; byddwn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn eu cefnogi nhw i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Yn ystod y flwyddyn adrodd hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein bwriad i gynnig arian o'r newydd er mwyn gallu, yn gyntaf, cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25 oed ac i'r gweithlu addysg, er mwyn rhoi ail gyfle i bobl. Bydd rhai yn dysgu o'r newydd ac eraill yn magu hyder yn eu Cymraeg. Gwnaed hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio, a bydd pob un yn cyfrannu at y miliwn ac at ddyblu defnydd iaith. Yn ail, cafodd cyllid ei neilltuo i ehangu darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn adrodd ac wedi hynny. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gymaint mwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg ni.
Fe wnes i gyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg fis Mai eleni, a bu gwaith paratoi manwl gydol y flwyddyn adrodd. Mae hwn yn faes anodd, heriol. Mae'r cynllun, felly, yn galw am weithredu radical ac arloesol gan nifer ohonom ni. Tua diwedd y cyfnod adrodd, fe wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant, o'r enw Adnodd. Bydd y cwmni'n gweithio i sicrhau bod digon o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi'r cwricwlwm newydd.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaed gwaith manwl i baratoi safonau ar gyfer rheoleiddwyr y sector iechyd. Canlyniad hyn oedd cyflwyno'r rheoliadau gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf eleni er mwyn iddyn nhw ddod i rym ar ddiwedd mis Hydref. Fe fues i hefyd yn trafod y Gymraeg ar lefel y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gyda chyd-Weinidogion, a hefyd gydag arweinwyr yr aelod-wladwriaethau mewn uwch-gynhadledd yn Sain Ffagan. Roedd clywed penaethiaid gwlad yn trafod y Gymraeg, ac yn wir yn defnyddio'r Gymraeg a'u hieithoedd nhw ar y lefel uchaf bosib, yn bwysig ac yn bleser.
Ym mis Chwefror, ar Ynys Môn, fe wnes i draddodi 'Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd', lle bues i'n gosod fy ngweledigaeth ar gyfer y Gymraeg i nodi 60 mlynedd ers darlith 'Tynged yr Iaith', Saunders Lewis, yn 1962. Dyma flas ar y prif negeseuon. Dwi am i ni gofio bod y Gymraeg, a'r cyfrifoldeb dros weithredu er mwyn ei gwarchod, yn perthyn i ni i gyd. Mae gan bawb ei rôl, waeth ble maen nhw'n byw na faint o Gymraeg sydd ganddyn nhw. Dwi am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith hefyd. Mae ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog yn un ffordd o wneud hyn. A byddwn ni fel Llywodraeth gyfan yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng ngwaith pob tîm ac adran ar draws y sefydliad, bob tro. Dwi wedi sefydlu cyfres o gyfarfodydd Cabinet tymhorol ar hyd oes y Senedd hon i drafod gyda fy nghyd-Weinidogion beth mwy y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at 'Cymraeg 2050' yn eu meysydd polisi nhw.
Ddirprwy Lywydd, gan edrych tua'r dyfodol, rŷn ni'n aros i glywed canlyniadau cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg—cyn y Nadolig, gobeithio. Byddwn ni'n craffu ar y canlyniadau cyn bwrw ati i adolygu'n cynlluniau a'r taflwybr tuag at y miliwn, yn ôl y galw. Dwi wedi sôn am yr heriau byd-eang sy'n effeithio ar Gymru yn gynharach, felly nawr, yn fwy nag erioed, dwi'n galw ar bobl i dynnu ynghyd. Rhaid i ni gydweithio, cynnig help llaw pan ddaw heriau a chyfleoedd, a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rhaid inni estyn croeso, Ddirprwy Lywydd, i bawb o bob cefndir ddod gyda ni ar y daith tua'r miliwn. Yn bwysicach na dim, rhaid inni gofio bod gan bob un ohonom ni'r cyfrifoldeb a'r gallu—yn unigolion ac yn sefydliadau—i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ei adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ac hefyd y datganiad y prynhawn yma.
O'r dechrau, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon am atebolrwydd y rhaglen hon. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bosibl na fydd ef na minnau yn y Siambr hon ymhen 28 mlynedd, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: pwy fydd yn atebol os na fydd y targed uchelgeisiol hwn yn cael ei gyrraedd? Wedi dweud hynny, mae'r camau sydd wedi eu cymryd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn adlewyrchu'r uchelgais a'r bwriad sydd ei angen arnom i gyrraedd y targed pwysig hwnnw.
Rwy'n ymwybodol ein bod yn dal i aros am gyhoeddi data cyfrifiad 2021—cyn y Nadolig, dwi'n credu—ond heb neidio o flaen hynny, hoffwn glywed, ac mae gen i ddiddordeb gwybod, os yw'r Gweinidog yn gwybod mwy am y cyfanswm o siaradwyr Cymraeg ym yng Nghymru. Yn ganolog i hybu niferoedd, wrth gwrs, mae addysg Gymraeg, yn benodol o oedran cynnar. Er gwaethaf y cynnydd yn y cyfleoedd i'r Mudiad Meithrin, rwy'n pryderu bod nifer y plant sydd yn mynd i gylch meithrin yn parhau i fod yn llawer is na'r lefelau cyn y pandemig. O ystyried hyn, pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod presenoldeb yn uwch yn erbyn yr adroddiad nesaf?
Yn olaf, mae addysgu dosbarthiadau Mudiad Meithrin— addysg Gymraeg yn gyffredinol—wrth gwrs yn holl bwysig i lwyddiant eich rhaglen 'Cymraeg 2050'. A allwch amlinellu pa gamau a gymerir i recriwtio mwy o athrawon sy'n gallu addysgu'n rhugl yn y Gymraeg, ac a yw'r niferoedd hyn wedi cynyddu ers lansio rhaglen 'Cymraeg 2050'? Beth yw'r KPIs a thargedau i sicrhau bod gennym ddigon o athrawon yn gallu addysgu yn yr iaith Gymraeg i gyflawni'r galw y bydd rhaglen y Llywodraeth, gobeithio, yn ei greu? Os ydym am wireddu'r polisi hwn, yna mae'n rhaid i 'Cymraeg 2050' fod yn rhan o raglen ehangach sydd nid yn unig yn cryfhau ein hunaniaeth yma yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ymgorffori ein lle unigryw o fewn y Deyrnas Unedig.
Ac rŷch chi'n iawn, Weinidog; mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, beth bynnag eich cefndir, eich hunaniaeth neu eich gwleidyddiaeth, mae ganddi'r gallu i'n clymu ni gyda'n gilydd, gan sicrhau bod ein diwylliant, ein cymunedau a'n traddodiadau yn gallu tyfu a ffynnu. Felly, mae dyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr yma i sicrhau bod gan y rhaglen hon bob cyfle o fod yn llwyddiannus. Diolch.
Diolch i Sam Kurtz am ei gwestiynau. Gaf i ategu ac uniaethu fy hun gyda'r sylwad olaf yn ei gyfraniad ef yn fanna? Mae gan bawb gyfle ond hefyd cyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas dros yr iaith ac mae gennym ni gynllun yn fan hyn sydd yn gosod y seiliau ar gyfer hynny.
Fe wnaeth e agor ei gyfraniad drwy ofyn am atebolrwydd. Doeddwn i ddim cweit yn gwybod os oedd e'n datgan ei gobaith y byddwn i'n Weinidog y Gymraeg yn 2050—doeddwn i ddim cweit yn gwybod os dyna beth yr oedd yn ei ofyn. Ond ar y thema honno, mae lot o gyfleoedd o ran—. Mae'r profiad hwn yn un o'r ffyrdd rŷn ni'n atebol am gynnydd yn y maes polisi hwn. Mae ffigurau yn cael eu cyhoeddi yn gyson am ble ŷm ni o ran defnydd yr iaith. Wrth gwrs, gan ein bod ni wedi dewis y cyfrifiad fel y ffordd o fesur cynnydd yn siaradwyr yr iaith, mae hynny wrth gwrs yn digwydd bob 10 mlynedd, ond byddwn ni'n gweld yn hwyrach eleni beth yw'r ffigurau.
Ac o fewn cynllun ehangach 2050, roedd e'n sôn yn ei gyfraniad pa mor bwysig mae gweld y rhaglen hon fel rhan o'r ystod ehangach o raglenni sy'n ymwneud â ffyniant yr iaith. Ym mhob un o'r rheini, mae meini prawf er mwyn ein bod ni fel Gweinidogion, fel Senedd ac fel cenedl ehangach yn gweld lle rŷn ni ar y llwybr. Er enghraifft, fe wnaeth e ofyn cwestiwn ynglŷn â lle rŷn ni o ran recriwtio. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd. Rydyn ni wedi cyhoeddi beth rŷn ni'n darogan sydd ei angen o ran nifer athrawon ac rŷn ni'n cyhoeddi hefyd faint o athrawon sy'n cymhwyso, felly mae'r ffigurau hynny'n gyhoeddus ac ar gael i bobl fel ein bod ni'n atebol am hynny. Ond byddaf hefyd yn datgan bob dwy flynedd, o fewn y cynllun 10 mlynedd, ddiweddariad ar le rŷn ni o ran beth yw impact y cynllun penodol hwnnw, a gobeithiaf wneud hynny ar lefel llywodraeth leol fel ein bod ni'n gweld dosbarthiad y cynnydd, gobeithio, yn yr hyn rŷn ni'n gallu recriwtio trwy'r cynllun hwnnw. Felly, rwy'n cytuno gyda fe; mae wir yn bwysig sicrhau bod cyfleoedd i fod yn atebol, ac rwy'n sicr bod y cyfleoedd hynny'n bodoli.
O ran y buddsoddiad mewn blynyddoedd cynnar, rwy'n cytuno gyda fe ei bod hi'n bwysig inni sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cymryd y cyfle i gael addysg blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Rŷn ni wedi cyrraedd y targed o sefydlu 40 o grwpiau newydd yn ystod tair blynedd gyntaf rhaglen Sefydlu a Symud, a hynny er gwaethaf impact COVID. Cafodd 12 darpariaeth newydd eu sefydlu yn ystod 2021-22 fel rhan o'r targed ehangach o 60 darpariaeth yn ystod y tymor Seneddol hwn. Felly, rŷn ni ar drac i sicrhau ein bod ni'n ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar hefyd.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Hoffwn ategu hefyd eich diolch chi i bawb sydd ynghlwm efo'r ystadegau o fewn yr adroddiad yma. Mae'n dangos ôl partneriaeth ledled Cymru, ac mae hynny i'w ymfalchïo ynddo. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cytuno hefyd bod gan Gymru hanes hir a balch a bod ein hiaith yn ffynnu heddiw, a'i bod yn rhan ganolog o’n hunaniaeth ac wedi goroesi er gwaethaf y rhwystrau sydd wedi ei hwynebu dros y canrifoedd. Mae’r iaith, ac mi ydyn ni, 'yma o hyd', chwedl Dafydd Iwan, ac, fel rydych chi wedi dweud eisoes, mae’r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, p’un ai a ydyn nhw yn ei siarad neu beidio.
Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, i'w dathlu yn yr adroddiad. Mae nifer yr unigolion sy’n parhau i ddysgu Cymraeg tu hwnt i lefel mynediad yn codi; mae’r rhaglen Cymraeg i Blant a’r Mudiad Meithrin yn ehangu. Mae'n wych gweld bod mwy o bobl yn dysgu Cymraeg ac yn chwilio am gyfleoedd i'w defnyddio. Mae dyfodol yr iaith yn obeithiol, er, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, mae yna heriau mawr yn parhau os ydym am wireddu’r targed o filiwn o siaradwyr a chynyddu defnydd bob dydd.
Fel y gwnaethoch hefyd sôn yn y datganiad, mae’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau o ran y Gymraeg er mwyn cryfhau ein hiaith a’n diwylliant, ac yn benodol mynediad at a defnydd o'r iaith. A dyma’r adroddiad cyntaf, wrth gwrs, i gynnwys cyfeiriad at y cytundeb a nodi cynnydd cychwynnol. Drwy’r ffaith ein bod ni'n cydweithio, dwi'n gobeithio ein bod ni'n medru gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig am fywyd y cytundeb a thu hwnt, gan greu amodau ffafriol i'r iaith. Yn bellach, mae gwaith ar y gweill i gryfhau safonau’r Gymraeg, sydd mor bwysig, a bwysicach fyth, wrth gwrs, yw Bil addysg y Gymraeg—Bil fydd yn penderfynu dyfodol yr iaith am genedlaethau i ddod.
Fel sy’n amlwg yn yr adroddiad hefyd, os ydym am wireddu’r weledigaeth o ran y Gymraeg, mae gan bob adran o’r Llywodraeth gyfraniad pwysig i'w wneud, ynghyd ag unigolion a sefydliadau ledled Cymru. Ac rydych yn nodi yn eich datganiad eich bod am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith. Rhanddeiliad pwysig, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, ydy arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru, a rhaid cyfaddef, er gwaethaf y ffaith bod peth cynnydd i'w weld yn y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae rhai cynghorau yn parhau i fod, yn fy marn i, â diffyg uchelgais neu gamau gweithredu pendant o ran sut maen nhw’n mynd i chwarae eu rhan. Mae hyn yn arbennig o wir mewn rhai ardaloedd lle rydym yn parhau i weld cynlluniau ar waith ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion Saesneg, gan ddiystyru ceisiadau lleol i gyflwyno ffrwd Gymraeg yn yr ysgolion newydd hyn. Byddwch yn ymwybodol o enghraifft arfaethedig o hyn yn fy rhanbarth, lle mae dal pwyslais ar ateb y galw yn hytrach na chreu neu gefnogi’r galw. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr am ddiweddariad gennych chi a’r aelodau dynodedig o Blaid Cymru wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar y Bil addysg y Gymraeg. Rhan greiddiol o hyn, wrth gwrs, bydd defnydd y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a symud yr ysgolion hyn ar y continwwm iaith. Ac mi fydd y degawd nesaf yn hanfodol os ydym am wireddu hyn.
Hoffwn eich holi am ddwy elfen benodol, os gwelwch yn dda: yn gyntaf, trochi hwyr. Mae’r cynnydd heb os i'w groesawu a da gweld y bydd buddsoddiad pellach. Mae’r pwyslais yn yr adroddiad o ran trochi hwyr neu drochi i hwyrddyfodiaid, ond un peth sydd wedi ei godi gyda mi yw’r angen am lefydd ar gyfer trochi ar gyfer plant sydd efallai ar ei hôl hi o ran y Gymraeg yn sgil COVID, ac sydd ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 erbyn hyn gyda’u rhieni unai wedi—neu yn ddwys ystyried—eu symud i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan ofni nad yw eu plant yn cyflawni fel y dylent. Oes trochi ar gael iddyn nhw, ac yw hyn yn cael ei gynnig ledled Cymru os yw rhieni neu ofalwyr yn gwneud cais i symud eu plant o addysg Gymraeg i addysg Saesneg? Ac oes gwaith yn cael ei wneud i ddeall pam bod newid yn digwydd ac os yw diffyg darpariaeth o ran trochi neu wrth gwrs anghenion dysgu ychwanegol yn ffactor?
Croesawaf hefyd yn yr adroddiad y pwyslais ar bwysigrwydd addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Heb os, mae ehangu defnydd y Gymraeg yn y sector hwn yn hanfodol. Rydych yn cyfeirio at gyllideb o ran prentisiaethau Cymraeg yn yr adroddiad, neu rai dwyieithog. Gaf i ofyn pa ganran o’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau yw hyn, os gwelwch yn dda, Weinidog, ac oes bwriad cynyddu’r buddsoddiad hwnnw?
Fel chithau, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at ganlyniadau’r cyfrifiad, er hefyd fy mod yn betrusgar. Beth sy’n glir o’r adroddiad hwn yw ein bod ni'n dal heb ddeall llawn effaith COVID chwaith ar y Gymraeg, boed yn gadarnhaol neu ddim, na chwaith beth fydd effaith yr argyfwng costau byw o ran mynediad cydradd i'r Gymraeg. Yr hyn y gallaf warantu ichi, Weinidog, yw ein bod ni fel Plaid yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif o ran yr iaith, a’r targed o filiwn o siaradwyr, ac yn barod iawn i barhau i gydweithio â chi ar hyn.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r croeso mae hi wedi ei ddatgan i'r datganiad heddiw, ac i'r adroddiad ar gyfer y flwyddyn adrodd gyntaf.
O ran y cynlluniau strategol, byddwn i'n dweud, a dweud y gwir, fod llawer o uchelgais wedi cael ei ddangos gan bob un awdurdod, a dweud y gwir, felly dwi ddim yn cytuno gyda'r disgrifiad wnaeth hi ddefnyddio yn ei chwestiwn fod diffyg uchelgais wedi bod. Ond mae hefyd yn gwbl sicr nid dim ond uchelgais o ran datganiad a'r cynllun sydd ei angen; mae angen uchelgais o ran gwireddu hynny hefyd, fel ein bod ni'n gweld y cynnydd yn digwydd ar lawr gwlad, nid jest yn unig o ran uchelgais. Felly, mae hynny'n sicr yn wir. Mae gyda fi fwriad dros yr wythnosau nesaf i gael cyfarfodydd gyda phob arweinydd yng Nghymru ac aelodau cabinet dros addysg a'r Gymraeg i sicrhau ein bod ni'n deall beth sydd yn digwydd o ran gwireddu'r cynlluniau sydd gyda nhw, a fy mod i'n cael cyfle fel Gweinidog i ddatgan beth yw fy nisgwyliadau i o fewn y cynllun sydd wedi cael ei gytuno. Yn sicr, bydd y trafodaethau hynny yn rhai adeiladol a phositif.
O ran buddsoddiad yn yr ystâd Gymraeg, dwi eisoes wedi dweud yn y Siambr hon fy mod i'n disgwyl gweld cynnydd o ran cynlluniau strategol ar y cyd gyda'r cynllun buddsoddi ehangach mewn ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru, ac felly bydd hwnna'n un o'r meini prawf byddaf i'n eu defnyddio fel Gweinidog i sicrhau bod ni'n cymeradwyo'r cynlluniau hynny sydd yn cymryd llawn ystyriaeth o gyfrifoldebau ac ymrwymiadau cynghorau lleol o fewn y cynlluniau strategol yn addysg Gymraeg. Mae e'n bwysig bod pob un ohonom ni, ond ein partneriaid ni mewn llywodraeth leol hefyd, yn hyrwyddo manteision addysg Gymraeg—nid jest ateb y galw, ond helpu i greu'r galw ar gyfer addysg Gymraeg hefyd.
Mae llawer o'r ffocws o ran y cynlluniau strategol wedi bod ar nifer yr ysgolion Cymraeg newydd gaiff eu hagor dros y ddegawd, ond mae llawer hefyd o ysgolion yn sôn eu bod nhw'n bwriadu symud ar hyd y continwwm ieithyddol o ran categoreiddio, felly mae hynny hefyd yn bwysig, fel roedd yr Aelod yn cydnabod yn ei chwestiwn hi.
O ran y pwyntiau penodol, gwnaeth hi sôn am drochi. Mae pob un awdurdod yng Nghymru wedi cynnig am gyllideb trochi. Mae £2.2 miliwn eisoes wedi ei ddyrannu ac mae £6.6 miliwn yn ychwanegol wedi ei ymrwymo tan ddiwedd tymor y Senedd hon. Mae pob un awdurdod wedi danfon cais. Wrth gwrs, fel byddech chi'n disgwyl, mae hynny'n edrych yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae pob awdurdod mewn man gwahanol ar eu llwybr tuag at drochi, ond rwy'n rhannu gyda hi fy nghefnogaeth o ddull trochi dysgwyr yma yng Nghymru. Mae'n ffordd unigryw i ni yma yng Nghymru o wneud yr hyn rŷn ni'n ei wneud. Mae'n rhywbeth i ni ei ddathlu. Mae hefyd yn sicr yn wir fod gan amryw o lefydd yng Nghymru le i ddysgu wrth ardaloedd eraill sydd efallai wedi bod yn paratoi a darparu trochi ers cyfnodau hirach. Felly, rwy'n ffyddiog bydd awdurdodau lleol yn moyn manteisio ar y cyfle i wneud hynny, a hefyd gwnes i gytuno gyda hi mor bwysig yw buddsoddi mewn cyfleoedd Cymraeg ôl-16. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'r ddeddfwriaeth a wnaethom ni ei phasio fel Senedd ar ddiwedd tymor yr haf a hefyd yn rhan bwysig o'r cytundeb cydweithio, gan gynnwys y buddsoddiad pellach yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn gwneud llawer o waith da ym maes ôl-16, gan gynnwys prentisiaethau.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma, a diolch hefyd i'r Gweinidog am ei arweinyddiaeth yn y maes polisi yma. Rôn i wedi treulio rhywfaint o amser yn yr Eisteddfod dros yr haf ac rôn i'n impressed iawn gyda'r ffordd roeddech chi'n arwain y drafodaeth a hefyd y tôn dŷch chi wedi ei gymryd wrth y llyw fan hyn. Ambell i waith, mae tôn y drafodaeth yn gallu bod yr un mor bwysig â'r polisïau dŷch chi wedi bod yn arwain arnyn nhw. Felly, dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig.
Mae wedi bod rhyw dipyn o drafodaeth y prynhawn yma ynglŷn â'r cyfrifiad, a dwi'n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau fel y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Beth dŷch chi'n disgwyl ei weld pan fydd e'n cael ei gyhoeddi? Beth yw eich disgwyliadau chi?
Yr ail gwestiwn sydd gen i yw ynglŷn â'r pwyslais rhwng rheoleiddio a hyrwyddo'r Gymraeg. Mi ydych chi'n gwybod fy mod i'n meddwl bod y safonau sydd gyda ni yn adlewyrchu gormod o fiwrocratiaeth a bod yr iaith ambell i waith yn cael ei defnyddio fel rhywbeth dŷn ni'n rheoleiddio yn lle rhywbeth dŷn ni'n siarad a defnyddio. I fi y peth pwysig i ni ei wneud yw hyrwyddo'r Gymraeg. Sut ydych chi'n gweld y cydbwysedd, felly, a sut ydych chi'n bwriadu hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn lle mynnu does yna ddim defnydd o'r Gymraeg trwy ormod o fiwrocratiaeth?
Diolch i Alun Davies am y cwestiynau hynny ac am ei gyfraniad e at yr hyn rŷn ni'n ei drafod heddiw. Fydden ni ddim yn cael y drafodaeth hon oni bai am y gwaith wnaeth e pan oedd e'n Weinidog y Gymraeg. O ran disgwyliadau ar gyfer canlyniadau'r cyfrifiad, rhaid inni aros, wrth gwrs, i weld beth fydd y canlyniadau. Mae ychydig yn gynnar inni ragdybio beth fyddan nhw un ffordd neu'r llall. Byddwn i'n disgwyl, gobeithio, gweld hyn cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yn rhaid asesu gyda gofal a phwyll.
Mae'n bum mlynedd ers i'r strategaeth newydd fod yn ei lle, fel mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gwybod, sef hanner y cyfnod ers y cyfrifiad diwethaf cyn hwn. Am hanner y cyfnod mae'r strategaeth wedi bod yn ei lle, rŷn ni wedi bod yn byw dan amgylchiadau COVID, felly dyna'r cyd-destun o ran impact polisi ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld yn yr wythnosau sydd i ddod. Ond, o ganlyniadau'r cyfrifiad rŷn ni eisoes wedi eu gweld wedi eu cyhoeddi, rŷn ni wedi gweld bod lleihad wedi bod ym mhoblogaeth y rhannau o Gymru sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg—Gwynedd a Cheredigion, er enghraifft—ac, yn amlwg, byddwn i'n disgwyl bod hynny'n cael impact ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld cyn diwedd y flwyddyn—gobeithio taw dyna pryd y cân nhw eu cyhoeddi.
Beth gallaf i ei ddweud yn gwbl glir yw rŷm ni wedi ymrwymo yn llwyr i'r strategaeth ac i sicrhau nid jest ein bod ni'n cynyddu’r nifer sy'n gallu medru'r Gymraeg, ond defnydd y Gymraeg hefyd.
O ran y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, mae'n sicr yn wir wnawn ni ddim rheoleiddio'n ffordd at ffyniant y Gymraeg. Mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng y ddau. Mae gan safonau rôl i chwarae ond mae rhan bwysig iawn gan hyrwyddo'r Gymraeg, a'i gwneud yn hawdd i bobl gael mynediad at y Gymraeg a chael cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Diolch iddo fe am gydnabod yr hyn roedd e'n sôn amdano o ran tôn. Dwi'n gwbl glir wnawn ni ddim llwyddo yn yr uchelgais sydd gennym ni os yw'r Gymraeg yn destun dadl a chynnen rhwng pobl. Mae pawb yn y Siambr hon yn ymrwymedig i'r syniad bod y Gymraeg yn berthyn i bawb, ac mae hynny wir yn bwysig. Dyna'r feddylfryd sy'n sicrhau, pa bynnag faint o Gymraeg sydd gennych chi, defnyddiwch hi cymaint ag y gallwch chi mor aml ag y gallwch chi. Ac mae hynny'n creu cyd-destun sydd yn annog pobl eraill i ddysgu ac, yn bwysig, yn annog pobl eraill i'w defnyddio.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n cytuno gyda fy ffrind Alun Davies ar y pwynt am y tôn ac ar y neges hefyd. Weinidog, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw ac ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i greu iaith fyw yng Nghymru sy'n rhan o fywyd bob dydd—yn ein gwaith, yn ein horiau hamdden ac o'n cwmpas ym mhob man. Rhan o'r prawf o lwyddiant yn y maes hwn fydd helpu mwy a mwy o ddisgyblion yng Nghymru i gael mynediad at addysg Gymraeg fel dewis naturiol a hwylus. Yn Ogwr, sydd â dau gyngor lleol, bydd angen mwy a mwy o gydweithio trawsffiniol ynghylch teithio i'r ysgol, cydweithio ar leoliadau ysgolion uwchradd a sicrhau bod ein hysgolion Cymraeg mor fodern ac mor rhagorol ag unrhyw ysgol arall, a hynny fel rhan o raglen twenty-first century schools. Felly, Weinidog, a gaf i ofyn: sut y gallwch chi helpu cynghorau lleol i gydweithio'n well gyda'i gilydd fel y gallwn sicrhau bod addysg Gymraeg yn ymestyn yn ddyfnach ac yn ddyfnach i'n holl gymunedau?
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw ac am yr esiampl mae e'n dangos i ddysgwyr y Gymraeg hefyd wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr heddiw, fel mae e wedi'i wneud. Mae'r pwynt mae'n ei wneud yn bwynt pwysig iawn o'r angen i gydweithio yn rhanbarthol er mwyn sicrhau ffyniant y cynlluniau strategol. Mae enghraifft, er enghraifft, ym Merthyr, lle mae Merthyr a'r cynghorau cyfagos yn cydweithio o ran feasibility ar gyfer ysgol uwchradd, felly mae enghreifftiau eisoes yn y cynlluniau strategol.
Mae'r pwynt wnaeth e ddweud am drafnidiaeth yn bwysig iawn rwy'n credu, oherwydd, mewn lot o lefydd yng Nghymru, dyw'r ysgol Gymraeg agosaf ddim yn y sir rydych chi'n byw ynddi—mae'n digwydd. Es i ysgol Ystalyfera ac roedd lot o blant o Gwmtwrch yn dod, o Bowys, dros y ffin, achos mai dyna oedd yr ysgol, ac mae'n rhaid sicrhau nad ŷn nhw'n cael eu hamddifadu o'r cyfle i gael addysg Gymraeg oherwydd y ffiniau hynny sy'n bodoli. Felly, byddaf i eisiau trafod gydag arweinwyr yn ystod yr wythnosau nesaf lle mae'r enghreifftiau hynny. Maen nhw yn enghreifftiau penodol. Rŷn ni'n gwybod lle mae'n digwydd. Dyw e ddim yn digwydd ym mhob man. Mae'n benodol i gymunedau mewn rhannau o Gymru. Dwi eisiau trafod gyda nhw beth mwy allwn ni ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn y cymunedau hynny—bod hawl hafal gan bobl i fynd i addysg Gymraeg lle bynnag maen nhw'n byw.
Diolch i'r Gweinidog.