6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc

– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:12, 5 Hydref 2022

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21—effaith meigryn ar blant a phobl ifanc. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8074 Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth, Sam Rowlands, Tom Giffard, Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;

b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol;

c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:

a) cryfhau'r canllawiau;

b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a

c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:12, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin, poenus a gwanychol sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10 plentyn neu unigolyn ifanc. Yn ôl Brain Research UK, enw gweithredol Ymddiriedolaeth Ymchwil yr Ymennydd, mae meigryn yn un o'r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin. Er bod meigryn yn cael effaith sylweddol ar fywydau oedolion sy'n byw gydag ef, gall ei effaith gynnar ar blant a phobl ifanc fod hyd yn oed yn fwy difrifol. 

Mae'n gyflwr cymhleth, gydag amrywiaeth eang o symptomau. I lawer o bobl, y brif nodwedd yw cur pen poenus. Mae symptomau eraill yn cynnwys nam ar y golwg; sensitifrwydd i olau, synau, ac arogleuon; teimlo cyfog; a chyfogi. Bydd y symptomau'n amrywio o berson i berson, ac fe allai unigolion gael symptomau gwahanol yn ystod gwahanol byliau. Gall pyliau amrywio o ran hyd ac amlder hefyd. Mae pyliau meigryn fel arfer yn para rhwng pedair a 72 awr. Gall meigryn effeithio'n helaeth ar waith, teulu a bywyd cymdeithasol.

Ni wyddys beth sy'n achosi meigryn, ond credir ei fod yn gyfuniad o ffactorau genetig, amgylcheddol a ffordd o fyw. Yn ôl ymchwil yn yr Unol Daleithiau, os oes gan blentyn un rhiant sy'n cael pyliau meigryn, mae'r perygl y byddant hwy'n dioddef 50 y cant yn uwch. Mae hyn yn neidio i 75 y cant os yw'r ddau riant yn cael pyliau meigryn. Mae cysylltiad hefyd rhwng hanes teuluol o meigryn a chael pyliau meigryn yn gynharach.

Meigryn yw'r trydydd clefyd mwyaf cyffredin yn y byd, y tu ôl i bydredd deintyddol a chur pen tensiwn, gydag amcangyfrif o achosion byd-eang o 14.7 y cant—tua un o bob saith o bobl. Yn ôl GIG Lloegr, mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda meigryn. Mae meigryn yn effeithio ar dair gwaith cymaint o fenywod â dynion, gyda'r gyfradd uwch yn fwyaf tebygol o fod yn deillio o achosion hormonaidd. Mae ymchwil yn awgrymu bod 3,000 o byliau meigryn yn digwydd bob dydd ym mhob miliwn o'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn gyfystyr â dros 190,000 o byliau meigryn bob dydd yn y DU. 

Mae gwahanol driniaethau ar gael i blant sy'n cael meigryn, a bydd y driniaeth fwyaf addas yn dibynnu ar eu hanes meddygol, eu hoedran a'u symptomau. At hynny, caiff meigryn warchodaeth y gyfraith. O'r herwydd, os yw plentyn yn cael pyliau meigryn dros gyfnod o flwyddyn gan effeithio'n negyddol ar eu gallu i gyflawni eu gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gellir eu hystyried yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan roi rhwymedigaeth ar ysgolion i wneud addasiadau rhesymol i blentyn anabl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais fawr. Ac os nad oes gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi eu heffeithio gynllun gofal iechyd unigol, gallai fod angen trafod datblygu cynllun sy'n nodi eu hanghenion a gwneud addasiadau priodol wedi'u teilwra ar eu cyfer. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:15, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Oherwydd bod meigryn mewn plant yn gallu cynnwys symptomau ychydig yn wahanol i feigryn mewn oedolion, mae'r Ganolfan Meigryn Genedlaethol yn dweud nad yw hanner y rhai yr effeithir arnynt byth yn cael diagnosis. Gyda meigryn mewn plant a phobl ifanc, mae poenau stumog yn digwydd yn amlach. Mae astudiaethau'n awgrymu bod tua 60 y cant o blant rhwng saith a 15 oed yn cael cur pen, ond gall diagnosis o feigryn gael ei ohirio oherwydd bod poen bol, chwydu, salwch teithio, poen yn y breichiau a'r coesau a phyliau o bendro oll yn gallu drysu'r darlun. Gall plant ddioddef meigryn heb gur pen, rhywbeth sy'n llai cyffredin mewn oedolion. 

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn y mis diwethaf, lansiodd y Migraine Trust ymchwil newydd a ganfu fod plant yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o'u gofal iechyd eu hunain ac yn meddwl bod eu gofal yn wael. Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu y gall meigryn gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan mewn addysg, gweithgareddau cymdeithasol ac agweddau pwysig eraill ar dyfu i fyny. Mae 90 y cant o bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt yn dweud bod meigryn yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, tra bod 76 y cant o weithwyr addysg proffesiynol a holwyd yn teimlo nad oedd eu hysgol yn darparu gwybodaeth, adnoddau a phrosesau i helpu'r plant hyn. Gall hefyd fod yn anodd i blant ddeall ac egluro eu poen, a cheir llai o opsiynau triniaeth ar eu cyfer nag a geir i oedolion. Mae adroddiad y Migraine Trust, 'Dismissed for too long: the impact of migraine on children and young people', yn galw am arweiniad cliriach a hyfforddiant i weithwyr iechyd ac addysgwyr proffesiynol ar ddeall a chefnogi pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt, ac am fwy o adnoddau i rieni a gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn. Maent yn awgrymu bod angen mwy o wybodaeth am eu cyflwr ar bobl ifanc eu hunain a sut i reoli eu gofal eu hunain, ac y dylai llwybrau ac adolygiadau o ofal meigryn lleol yn y GIG ystyried yr effaith ar blant a phobl ifanc. 

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys nad oes gan ysgolion yr wybodaeth na'r polisïau ar waith i helpu plant sy'n cael meigryn. Canfu arolwg o rieni a gofalwyr sydd â phlentyn sy'n byw gyda meigryn fod 70 y cant yn poeni am effaith meigryn ar addysg eu plentyn. Pan ofynnwyd iddynt pa mor aml y bu'n rhaid i'w plentyn aros adref o'r ysgol oherwydd eu meigryn, dywedodd dros hanner—51 y cant—o leiaf unwaith y mis. Ac roedd 85 y cant o rieni a gofalwyr wedi siarad ag ysgol eu plentyn am eu meigryn, ond dim ond 17 y cant ohonynt oedd yn gwbl fodlon gyda'r gefnogaeth gan yr ysgol i ymdopi â'u meigryn. 

Canfu arolwg o blant gyda meigryn fod 90 y cant yn dweud bod eu meigryn yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol. Ond pan ofynnwyd a ydynt yn meddwl bod gan eu hysgol yr wybodaeth am feigryn i allu eu helpu i'w reoli yn yr ysgol, dywedodd 64 y cant nad oedd. Pan ofynnwyd iddynt a oeddent erioed wedi cael eu dysgu am feigryn yn yr ysgol, dywedodd 90 y cant nad oeddent. Yn ôl arolwg o 64 o weithwyr addysg proffesiynol, roedd tri chwarter, 76 y cant, o'r farn nad oedd gan eu hysgol yr wybodaeth, yr adnoddau a'r prosesau i helpu plant yn yr ysgol gyda meigryn. Er enghraifft, yn aml nid oedd polisïau ysgolion wedi'u hanelu at helpu plant i reoli'r pethau a allai sbarduno eu meigryn ac osgoi cael eu hanfon adref yn ddiangen. Mae hyn yn cymharu â chyflyrau hirdymor cyffredin eraill, fel asthma, y mae gan ysgolion yn aml gynlluniau ar waith ar eu cyfer. 

Nid yw plant yn teimlo eu bod yn cael y gofal iechyd y maent ei angen. Mae symptomau cyffredin meigryn mewn plant, fel poen yn yr abdomen, yn aml yn edrych yn wahanol i symptomau oedolion a gellir eu methu, sy'n gallu arafu diagnosis ac arwain at fethu adnabod symptomau plentyn. O'r plant a'r bobl ifanc a ymatebodd i'w harolwg, roedd 33 y cant yn teimlo bod y driniaeth ar gyfer eu meigryn yn wael, dywedodd 30 y cant ei fod yn weddol, dywedodd 23 y cant ei fod yn dda, a dim ond 8 y cant a ddywedodd ei fod yn dda iawn. Ni ddywedodd unrhyw un ei fod yn 'rhagorol'. Mae 72 y cant o'r plant sy'n cael meigryn wedi dweud ei fod yn gwneud iddynt deimlo'n bryderus. Mae plant, yn enwedig plant iau, yn aml angen help gydag esbonio eu meigryn ac mae angen eu cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â'u triniaeth. Mae angen gwell cyfathrebu, lle bo hynny'n bosibl, rhwng gwasanaethau iechyd ac ysgolion a cholegau. Fel y dywed astudiaeth achos yn yr adroddiad,

'Collais lawer o ysgol y llynedd oherwydd fy meigryn ac ni allwn wneud y pethau rwy'n eu mwynhau fel pêl-droed a dawnsio ac fe wnaeth hynny imi deimlo'n drist.'

Un o argymhellion yr adroddiad ynglŷn â sut y gellid mynd i'r afael â phroblemau yw y dylai byrddau iechyd lleol,

'gynnwys plant a phobl ifanc mewn adolygiadau o anghenion meigryn lleol a sicrhau bod ganddynt wasanaethau i ddiwallu'r anghenion hynny.' a dylai byrddau iechyd lleol,

'sicrhau bod cysylltiadau cryf rhwng gofal meigryn a gwasanaethau iechyd meddwl. Rhaid i iechyd meddwl hefyd fod yn elfen o'r llwybr gofal iechyd i blant sy'n cael meigryn'.

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd y gallai gefnogi hyfforddiant fferyllwyr ar reoli meigryn mewn oedolion a phlant, a gweithio gyda phartneriaid addysg i sicrhau bod staff addysgu yn cael hyfforddiant a gwybodaeth am y cyflwr, fel y gallant gefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol. Fel y mae adolygiad academaidd 2021 i blant a meigryn yn datgan,

'Mae meigryn yn dylanwadu'n negyddol ar ansawdd bywyd y plant yr effeithir arnynt. Mae angen diagnosis cynnar a phenderfyniadau ynglŷn â rheoli'r cyflwr er mwyn lleihau'r baich a gwella canlyniad triniaeth cymaint ag y bo modd.'

Byddai'r Migraine Trust yn falch o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd i wneud cynnydd yn y meysydd hyn, ac fel y dywed ein cynnig, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru,

'i weithio gyda'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: (a) cryfhau'r canllawiau; (b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a (c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.'

Mae meigryn yn gyflwr cyffredin mewn plant a phobl ifanc, ac mae'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd, ond eto ni wneir diagnosis ym mhob achos ac mae ansawdd triniaeth yn wael. Bydd llai na 10 y cant o blant sy'n cael cur pen problemus yn cael cymorth meddygol ar gyfer eu problem. Gall meigryn effeithio'n ddifrifol ar fywyd plentyn, gan effeithio ar ei berthynas ag aelodau o'r teulu, bywyd ysgol a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae patrwm meigryn mewn pobl ifanc yn eu harddegau yn dechrau newid. Mae meigryn yn effeithio ar fechgyn a merched i'r un graddau nes y glasoed, ac ar ôl hynny mae meigryn yn fwy cyffredin mewn merched. Gall diagnosis hwyr neu fethu cael diagnosis ohono arwain at fethu rheoli eu symptomau'n dda, pryder ynghylch pyliau yn y dyfodol, lefelau presenoldeb gwael yn yr ysgol, defnydd amhriodol neu aneffeithiol o feddyginiaeth, colli hyder a lefelau isel o hunan-barch. Gall poen difrifol a chyfogi na chaiff ei drin yn effeithiol olygu bod plant yn aml yn gorfod aros gartref yn ystod eu pyliau a methu cymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol arferol. Rwy'n cynnig ac yn cymeradwyo'r cynnig hwn yn unol â hynny.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:23, 5 Hydref 2022

Diolch i Mark Isherwood am y cyflwyniad yna i'r cynnig. Wrth gwrs, chwarae teg iddo fe—yn ddyn gwybodus iawn; rydyn ni wedi clywed nifer fawr o ystadegau am bobl sydd yn dioddef o feigryn. Ond mae yna wyneb tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny. Mae yna fywydau yn cael eu heffeithio yn eistedd y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny, ac mae gen i anwyliaid sydd yn byw efo meigryn, ac yn perthyn felly i'r ystadegau hynny.

Rŵan, mae'n siŵr ein bod ni i gyd, o dro i'w gilydd, wedi clywed am feigryn mewn modd ysgafn iawn—hwyrach, fod mwydro rhywun neu'i gilydd yn ddigon i ddod â meigryn ymlaen, fel mae rhai yn ei ddweud, neu pan fod rhywun yn dioddef o feigryn, hwyrach, mai'r cyngor ydy i eistedd yn y gornel a chymryd ambell i barasetamol. Ond dydy o ddim yn gur pen yn unig; mae meigryn yn fwy na hynny. Mae hynny yn gwneud annhegwch llwyr, felly, â'r cyflwr ac efo'r dioddefwyr, oherwydd fod o yn fwy na chur pen yn unig, ac felly mae'r cynnig yma heddiw ger ein bron yn nodi ei fod o'n cael effaith andwyol ar fywydau dyddiol pobl a phlant.

Ges i'r fraint o gynnal digwyddiad galw i mewn efo'r Migraine Trust yn ddiweddar—a diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y diwrnod a'r digwyddiad hwnnw—ac roedd y cyfle yna i gael siarad gyda phobl a oedd yn deall y pwnc ac yn arbenigo yn y maes yn agoriad llygaid. O ddeall y gwahanol bethau yna sy'n medru arwain at feigryn, megis straen neu hyd yn oed anghysondeb patrwm bwyta, i’r ffaith, fel y soniodd Mark Isherwood, bod meigryn yn medru bod yn y bol, o bob man, efo'r cyswllt yna rhwng yr ymennydd a'r bol yn amlygu ei hun unwaith eto. Ond, yn anffodus, does yna ddim llawer o bobl yn gwybod pam eu bod nhw yn dioddef o'r meigryn neu beth sydd yn arwain at ymosodiad ohono fo. Mae'r dealltwriaeth o'r clefyd yn fas iawn yn y byd gwyddonol, heb sôn, felly, am ymhlith pobl leyg, ac os ydy’r dealltwriaeth yna mor fas yn y byd arbenigol, yna sut mae disgwyl i athrawon neu gydweithwyr i adnabod y symptomau a medru sicrhau bod camau mewn lle i gynorthwyo pobl sydd yn cael ymosodiad meigryn?

Mae'r cynnig yma, felly, yn un gwylaidd yn ei natur; dydy o ddim yn gofyn am lawer, ond mae'n gam cyntaf pwysig i'r cyfeiriad cywir a fyddai'n helpu i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Yn olaf, felly, gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i'r Migraine Trust am eu gwaith yn y maes yma a'u parodrwydd i gydweithio efo'r Llywodraeth, y byrddau iechyd ac awdurdodau eraill er mwyn cyflawni'r hyn maen nhw'n gofyn amdano? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 3:26, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae meigryn yn felltith i'r rhai sy'n dioddef ohono. Mewn oedolion, gall fod yn wanychol, ond i bobl ifanc, i'r glasoed yn arbennig, gall effeithio'n fawr ar eu haddysg, eu teuluoedd a'u bywydau cymdeithasol.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn hollol sicr beth yw canllawiau presennol Llywodraeth Cymru i ysgolion ynglŷn â rheoli meigryn. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru; mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn brin o wybodaeth ar y pwnc. Ceir cyfeiriad byr at feigryn yn y gwaith, ond ni allwn weld unrhyw beth ar ysgolion a sut i ymateb. Fy nheimlad i yw bod y cynnig yn iawn i alw am gryfhau'r canllawiau, ac rwy'n credu y dylem ystyried sut i gynorthwyo ysgolion a'u hathrawon i fynd i'r afael ag ystod o faterion a fyddai'n effeithio'n gadarnhaol ar y rhai sy'n dioddef gyda meigryn.

Yn fwyaf arbennig, hoffwn i'r Gweinidog ystyried: beth y gellir ei gynghori ynghylch natur amgylchedd yr ysgol, yn enwedig diffyg awyru digonol; cefnogaeth i ddisgyblion unigol i fwyta ac yfed er mwyn goresgyn y risgiau sy'n gysylltiedig â diffyg maeth a diffyg hylif, a allai fod yn un o achosion meigryn; a datblygu polisïau ysgol i'r rhai sydd â chyflyrau parhaus fel meigryn a sut y gall yr ysgol reoli hyn, yn enwedig cefnogi unrhyw driniaeth y gallai person ifanc fod yn ei dilyn. Dylem hefyd geisio dysgu mwy am niferoedd y bobl ifanc sy'n cael meigryn—pa ddata sydd gennym, beth y mae'n ei ddweud wrthym, a beth arall sydd angen i ni ei wybod?

Hoffwn feddwl y gallai rhai camau cymharol syml atgoffa ein hysgolion am yr heriau y mae pobl ifanc sy'n cael meigryn yn eu hwynebu, a chefnogi ffyrdd o leddfu'r risg o bwl o feigryn. Mae hwn yn fater pwysig. Nid yw'n un sydd wedi cael llawer o sylw, ac rwy'n falch ein bod yn ystyried hyn heddiw. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:28, 5 Hydref 2022

Mi roeddwn i'n falch iawn o'r cyfle i gyd-gyflwyno'r ddadl yma heddiw. Mae'n glir i fi ac Aelodau eraill, fel rydyn ni wedi clywed, fod yna lawer mwy sydd angen ei wneud er mwyn helpu'r nifer uchel o blant a phobl ifanc sy'n dioddef efo meigryn yn rheolaidd yng Nghymru. Mae'n broblem fawr sydd wedi cael ei hanwybyddu'n rhy hir, os ydyn ni'n bod yn onest, ac yn rhy aml, mae'n cael ei drin fel unrhyw salwch tymor byr arall, ond wrth gwrs mae o'n fwy na hynny.

Y gwir amdani ydy bod meigryn yn gyflwr ymennydd hirdymor all gael canlyniadau difrifol tu hwnt ar berfformiad addysgol plentyn, heb sôn am eu hunanhyder a'u bywyd cymdeithasol. Mae plant sy'n dioddef o feigryn yn gallu methu hyd at dri mis o ysgol bob blwyddyn—rydyn ni'n gweld hynny yn yr ystadegau. Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael efo hynny, yn amlwg. A dyna rydyn ni'n ei alw amdano fo heddiw yma.

Mae'r Migraine Trust a chyrff eraill yn cynnig ffordd ymlaen, gan gynnwys darparu'r gefnogaeth gywir, nid yn unig i'r rhai sy'n dioddef eu hunain, ond hefyd i'r athrawon, i'r rhieni, i'r gofalwyr sy'n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae ymchwil yn dangos bod athrawon yn ansicr iawn pan fo'n dod at helpu unigolion efo meigryn, ond mae camau mewn gwirionedd sy'n ddigon syml y mae posibl eu cymryd er mwyn lleihau'r poenau—yfed digon o ddŵr, cael mynediad i ystafell dywyll, o bosib. Ond, ar hyn o bryd, dydy ysgolion ddim yn cael eu hyfforddi yn ddigonol i helpu disgyblion drwy'r poenau yma. Mae bron i 17,000 o dripiau diangen yn cael eu gwneud i ysbytai bob blwyddyn oherwydd meigryn. Drwy gynnig gwell hyfforddiant, dwi'n hyderus bod modd lleihau'r nifer yna, lleihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, lleihau absenoldeb plant o ysgolion hefyd—mae hynny'n allweddol.

Mae yna enghreifftiau o arfer da yng Nghymru. Yn y gogledd, er enghraifft, mae cleifion wedi gweld budd o agor Canolfan Walton yn Nhreffynnon. Mae o wedi lleihau amseroedd aros i gleifion sydd efo salwch niwrolegol difrifol. Ond, yn anffodus, dydy'r un gwasanaethau ddim ar gael ym mhob rhan o'r wlad—hynny'n stori gyffredin, wrth gwrs. Ac yn gyffredinol, mae yna broblemau enfawr o hyd yn nhermau amseroedd aros, yr adnoddau sydd ar gael i gleifion, a hynny'n cynnwys plant. Mi all pobl fod yn aros hyd at ddwy flynedd am driniaeth mewn rhai achosion. Ar hyn o bryd, dim ond tri o'r saith bwrdd iechyd, dwi'n credu, sydd â'r adnoddau i drin yr achosion niwrolegol mwyaf difrifol. Mae angen, yn syml iawn, gynllun cenedlaethol i ehangu gwasanaethau ar gyfer meigryn, a hynny i gyfateb i'r ffaith bod yna gymaint o bobl yn dioddef ohono fo.

Ond mae camau ymarferol eraill y mae'n bosibl eu cymryd i wella ansawdd bywyd plant a phobl sy'n dioddef: gwella adnoddau hyfforddiant i athrawon, fel dwi wedi ei ddweud; rhannu canllawiau cliriach i blant a phobl ifanc ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain; ac, ie, gwella'r ddarpariaeth gofal drwy'r gwasanaeth iechyd i'r rhai sy'n dioddef yn fwyaf difrifol. Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r hyn sydd yn gur pen mwyaf cyffredin y wlad, ond, fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod, sy'n llawer mwy na hynny, a hynny er mwyn trio sicrhau nad ydy o'n amharu'n fwy nag sydd ei angen iddo fo ar fywydau addysg a chymdeithasol ein plant a'n pobl ifanc. A dyna pam rydym ni'n gofyn i'r Senedd nid yn unig nodi'r cynnig yma fel sydd o'n blaenau ni, ond hefyd i gefnogi'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r hyn rydym ni'n ei gyflwyno o'ch blaenau chi heddiw yma.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:32, 5 Hydref 2022

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. A hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am godi'r mater hynod bwysig hwn. Mark, gallaf bob amser ddibynnu arnoch i ddysgu rhywbeth newydd i mi yn y dadleuon hyn—mae gennych bob amser gymaint o ffeithiau a ffigurau ar flaenau eich bysedd, ac maent bob amser yn ddefnyddiol iawn inni eu nodi, ac yn sicr, byddaf sicrhau ein bod yn nodi’r rheini ac yn mynd i'r afael â rhai o’r materion hynny. Maddeuwch i mi am beidio â bod yn y Siambr heddiw.

Mae meigryn, fel y clywsom, yn un o’r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin, ond anaml iawn y byddwn yn siarad amdano a’i effaith yn y Siambr hon. Bydd llawer ohonom wedi cael profiad uniongyrchol o feigryn, neu ryw gipolwg ar yr effaith hynod nychus y gall ei chael ar ddioddefwyr ac ansawdd eu bywyd. Ac fel y clywsom y prynhawn yma, mae meigryn yn gyflwr iechyd hirdymor difrifol a phoenus—mwy o lawer na dim ond cur pen drwg iawn. Ac yn anffodus, i'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sy'n cael meigryn, bydd y cyflwr yn parhau i fod gyda hwy pan fyddant yn oedolion.

Ac efallai mai’r agwedd greulonaf ar y cyflwr yw ei allu i daro heb fawr o rybudd os o gwbl, heb sail na sylwedd, gan darfu ac amharu ar achlysuron arbennig a digwyddiadau bob dydd. A gellir deall yn glir ei allu i darfu ar blant, fel y mae llawer ohonoch wedi’i nodi, ac addysg pobl ifanc, eu gallu i ddysgu a’u gallu i gymryd rhan ym mhob agwedd arall ar fywyd ysgol. Ac rwy'n deall hyn, gan fod fy mrawd hynaf yn rhywun a oedd yn dioddef meigryn, ac yn llythrennol, bu'n rhaid iddo fethu misoedd o ysgol, a chafodd hynny effaith sylweddol ar ei addysg.

Nawr, yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma, hoffwn dynnu sylw at fesurau pwysig sydd eisoes ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc mewn amgylchedd dysgu. Nawr, o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau

'yn cael eu harfer gyda golwg ar ddiogelu a hyrwyddo lles plant.' yn yr ysgol neu leoliadau dysgu eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant sydd ag anghenion gofal iechyd.

Nawr, i gefnogi hyn, mae ein canllawiau 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd' yn cynnwys canllawiau statudol a chyngor anstatudol i gefnogi dysgwyr i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar eu haddysg. Mae'n pwysleisio'r angen am ymagwedd gydweithredol gan weithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan roi'r dysgwr ynghanol y broses o wneud penderfyniadau, ac wrth gwrs, mae'n bwysig cynnwys rhieni hefyd.

Fe'i cefnogir ymhellach gan ganllawiau cyflym i staff, rhieni a phobl ifanc. Byddai gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfrannu at y gwaith o baratoi cynllun gofal iechyd unigol i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion iechyd sy’n effeithio ar amser y plentyn neu’r unigolyn ifanc yn yr ysgol. Mae gennym enghreifftiau da o ble mae gofynion ac ysbryd y Ddeddf a'i chanllawiau yn cael eu rhoi ar waith. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu gwasanaeth pediatrig ar gyfer gwella o salwch, sydd wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n ymdopi â salwch. Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'w cynorthwyo i ymdopi â'r heriau gwirioneddol y mae bod â chyflwr iechyd yn eu hachosi a'i nod yw eu helpu i reoli symptomau a all eu rhwystro rhag gwneud pethau sy'n wirioneddol bwysig iddynt.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:36, 5 Hydref 2022

Mae bron pob un o'r plant a phobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at y tîm yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y cyfraddau presenoldeb disgwyliedig yn yr ysgol. Elfen hanfodol yw'r cydweithio â'r ysgol ac ymarferwyr gofal sylfaenol i helpu'r bobl ifanc i gael mynediad at addysg mewn ffordd sy'n addas ac sy'n briodol i'w hanghenion nhw. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, trafod gyda rhieni. 

Mae'r tîm wedi cynllunio pecyn cymorth sy'n cynnwys canllawiau i'w defnyddio mewn ysgolion i helpu i adnabod, deall a chefnogi'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at addysg ac sydd angen cefnogaeth neu ymyrraeth ychwanegol. Ac er bod hwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer plant â symptomau sy'n gysylltiedig â COVID hir ac afiechydon eraill sy'n achosi blinder cronig a phoen, gellir defnyddio'r pecyn gyda llawer o blant sy'n cael trafferth gyda symptomau a all amharu ar eu haddysg nhw.

Mae deddfwriaeth, cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae'r gwaith sydd wedi'i ddatblygu gan gydweithwyr ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn rhoi enghraifft o sut i drosi hyn i rywbeth ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ac i'w canlyniadau. Mae'r gwaith a gafodd ei ddatblygu yn Aneurin Bevan wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid ar draws yr holl fyrddau iechyd ac mae cynlluniau i ddatblygu hwn yn becyn cymorth 'unwaith i Gymru'. 

Dirprwy Lywydd, gall unrhyw darfu ar addysg person ifanc gael effaith gydol oes, ond gyda'r gefnogaeth gywir gellir lleihau hyn. Gyda'n gilydd, mae gan bob un ohonom ni rôl bwysig i'w chwarae, ac mae'n rhaid inni wneud ein rhan ar y cyd i greu'r amgylchedd sy'n angenrheidiol i alluogi hyn i ddigwydd. Mae eisoes mesurau mewn lle i alluogi cydweithio proffesiynol ac asiantaethol gyda mudiadau fel y Wales Neurological Alliance. Rŷn ni fel Llywodraeth yn gefnogol o waith y Migraine Trust, ond mae'n bwysig bod ein partneriaid sy'n delifro y gwasanaeth ar lawr gwlad yn gallu bod yn hyblyg yn y ffordd y maen nhw yn creu eu partneriaethau eu hunain. 

Mae meigryn yn un o dros 250 o gyflyrau niwrolegol, ac mae nifer fawr yn cael eu cefnogi gan fudiadau trydydd sector, sy'n gwneud gwaith arbennig, wrth gwrs. Ond fe fyddai, wrth gwrs, yn amhosibl i ni fel Llywodraeth i weithio gyda phob un o'r rhain yn unigol. Fe all cynrychiolwyr o'r Migraine Trust ofyn i fod yn aelodau o'r Wales Neurological Alliance, ac fe fyddai hyn yn creu mecanwaith iddyn nhw i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru felly. 

Mae'n rhaid i blant a phobl ifanc sydd ag unrhyw angen gofal iechyd, gan gynnwys meigryn, gael eu cefnogi i gyflawni eu potensial yn llawn, a dyna beth fyddwn ni yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr. 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:40, 5 Hydref 2022

Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gloi’r ddadl bwysig heddiw, dylwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i'm cyd-gyflwynwyr, Tom Giffard, Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor. Diolch hefyd i’r Gweinidog am ei hymateb yn gwerthfawrogi’r pwyntiau heddiw. Fel yr amlinellwyd gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl heddiw, ymhlith nifer o ystadegau y mae Aelodau wedi gwneud sylwadau arnynt, un a'm syfrdanodd oedd y ffaith syml fod un o bob 10 o blant a phobl ifanc yn byw gyda meigryn. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd, ynghyd â'u hamser yn yr ysgol. Rwy'n siŵr fod llawer o Aelodau—ac mae hyn wedi cael ei grybwyll eisoes—yn y Siambr hon yn gwybod am aelodau o'r teulu neu ffrindiau y mae meigryn yn cael effaith mor sylweddol arnynt ac sy'n dioddef yn fawr o'i herwydd.

Fel yr amlinellwyd gan Rhun ap Iorwerth, os yw plentyn yn dioddef o feigryn, gall hyn yn aml arwain at blant yn cael trafferth i gwblhau eu gwaith ysgol, gan ddangos, heb gymorth priodol, y gall meigryn effeithio’n ddifrifol ar gyrhaeddiad addysgol. Ac un peth a’m trawodd yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, fel y crybwyllodd Mabon ap Gwynfor, yw’r ffaith bod ymchwil gan y Migraine Trust wedi awgrymu bod gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol yn aml heb ddealltwriaeth o feigryn, ac fel y mae Altaf Hussain wedi’i nodi, efallai weithiau nad yw’r gweithwyr proffesiynol hynny wedi cael hyfforddiant ac adnoddau i allu rhoi cefnogaeth effeithiol i’r plant a'r bobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt.

Wrth gwrs, mae camau y gellir eu cymryd i helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n dioddef, ac mae’r rhain wedi’u disgrifio’n huawdl gan yr Aelodau yn ystod y ddadl heddiw. Weinidog, er ichi nodi rhywfaint o’r gwaith cyfredol a rhannu dealltwriaeth glir o’r pryder ynghylch meigryn, nid wyf yn siŵr y byddem yn cael y ddadl hon heddiw pe baem yn teimlo bod yr holl gamau hynny’n gweithio, ac yn gweithio’n dda ledled Cymru. Fel y mae’r cynnig heddiw'n ei nodi, nawr yw’r amser i weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel y Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ysgolion, gwasanaethau iechyd a rhieni a gofalwyr ym mha fforwm bynnag sy’n gweithio orau. Weinidog, fe wnaethoch amlinellu efallai fod cyfle i’r Migraine Trust ac eraill ddod ynghyd â fforymau eraill i ddeall y mater hwn yn well; rwy’n siŵr y byddai hynny’n cael ei groesawu.

Ond mae'n amlwg i mi—a chaiff hyn ei amlinellu yn y cynnig heddiw—fod angen inni weld y canllawiau meigryn yn cael eu cryfhau, mae angen inni weld hyfforddiant yn cael ei ddarparu i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt, yn ogystal â darparu adnoddau i rieni a gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn, a galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu sut i reoli eu gofal eu hunain ar yr un pryd hefyd.

Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi’r ddadl heddiw, diolch i’r holl Aelodau, ynghyd â’r Gweinidog, am eu cyfraniadau. Hoffwn ddweud iddi fod yn ddadl hynod ddefnyddiol a chraff, ac yn ogystal â hyn, mae gan Aelodau’r Senedd heddiw gyfle gwych i gefnogi’r cynnig hwn a fydd yn gwneud cymaint i ddarparu cymorth ac arweiniad i bobl ifanc a phlant sy’n dioddef o feigryn. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:43, 5 Hydref 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.