– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'. A galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr sydd mewn rhannau o Gymru wedi ysgogi teimladau cryf ers rhai blynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, mae'n ddealladwy bod yna deimlad o anghyfiawnder fod pobl yn gallu cael eu prisio mas o'r farchnad dai leol gan rai sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr.
Mae Cymru wedi bod yn genedl groesawgar erioed, ac rŷn ni eisiau i hynny fod yn wir bob amser. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ond mae gormod o lety gwyliau a gormod o ail gartrefi sy'n wag am ran helaeth o'r flwyddyn yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd ardaloedd a'r ymdeimlad o gymuned. Yn aml, mae'r ail gartrefi hyn mewn cymunedau Cymraeg ac maen nhw'n gallu lleihau ar y cyfleoedd sydd gennym ni i ddefnyddio'n hiaith yn y cymunedau hynny. Hefyd, os nad yw pobl ifanc yn gallu fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg, mae hyn hefyd yn gallu bod yn niweidiol i'r Gymraeg.
Fel arfer, mae'n haws disgrifio'r broblem a galw am weithredu nag yw hi i'w datrys. Ond rŷn ni'n torri tir newydd yma yng Nghymru yn y datrysiadau rŷn ni'n eu cyflwyno i wynebu'r heriau hyn, ac mae sawl un tu hwnt i Gymru wedi dangos diddordeb yn yr hyn rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n arloesi. Rŷn ni nawr yn cynnwys ystyriaethau ieithyddol ym materion fforddiadwyedd ac ail gartrefi. A dyna beth dwi'n mynd i siarad amdano fe heddiw.
Dwi am i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' fod yn ganolog i'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau lawer sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Cawsom 800 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun—y nifer uchaf o ymatebion rŷn ni wedi'u derbyn ar fater sy'n ymwneud â'r Gymraeg, sy'n dangos y teimladau cryf a'r awydd i weithredu. Mae pobl Cymru am warchod a diogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol, fel fi hefyd. Felly, diolch o galon i bawb a wnaeth ateb.
Prif nod y cynllun yw helpu cymunedau i gynllunio drostyn nhw eu hunain, i ddelio ag heriau penodol o fewn eu hardaloedd, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth ac egni lleol. Nid cynllun tai yn unig yw hwn. Mae'n tynnu ynghyd, er enghraifft, y gwaith mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi bod yn ei wneud ym maes tai, ynghyd â gwaith y Llywodraeth ar yr economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol. Mae'n enghraifft go iawn, Dirprwy Lywydd, o brif ffrydio'r iaith i bolisïau eraill.
Rwy'n cyhoeddi heddiw hefyd becyn o bron i £500,000 sydd ar gael i wireddu rhai o amcanion y cynllun. I roi blas i chi o'r amcanion hyn: rŷn ni am greu mwy o fentrau cydweithredol, wedi eu harwain gan y gymuned. Roedd tipyn o gefnogaeth i'r syniad yma yn ymatebion yr ymgynghoriad. Bydd rhain yn llefydd i bobl weithio a defnyddio'u Cymraeg yn ddirwystr—gofodau uniaith, hynny yw.
Rŷn ni hefyd am weithio gyda'r rheini sydd â rôl allweddol yn y farchnad dai—arwerthwyr tai, cyfreithwyr, cwmnïau morgeisi ac awdurdodau lleol. Mae cyfle gennym ni i weithio gyda'r arbenigedd lleol yma er mwyn i ni rannu gwybodaeth am gymorth i helpu pobl leol i brynu neu i rentu tai yn fforddiadwy.
Byddwn ni hefyd yn creu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol. Pobl leol fydd y rhain sy'n adnabod eu cymunedau'n dda, yn esbonio'n diwylliant a sefyllfa'n hiaith er mwyn helpu i integreiddio pobl newydd iddyn nhw. Mae pobl yn fwy parod i berthyn i gymuned pan fyddan nhw'n deall y gymuned maen nhw'n byw ynddi.
Rŷn ni'n clywed yn aml am dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu'n cael eu gwerthu'n sydyn i brynwyr gyda digon o fodd i'w prynu nhw, yn aml heb yr angen am forgais. Rŷn ni'n clywed hefyd am werthwyr yn derbyn prisiau is gan bobl leol, pobl yn rhoi amser digonol i bobl leol drefnu benthyciad. Mae enghreifftiau o werthwyr yn helpu prynwyr, a rhaid cofio nad arwerthwyr tai sy'n penderfynu pwy sy'n prynu eiddo—mae'r penderfyniad terfynol yn nwylo'r gwerthwr. Felly, byddwn ni'n sefydlu cynllun cyfle teg, i godi ymwybyddiaeth ymysg gwerthwyr neu ddarpar werthwyr am y dewisiadau sydd ganddyn nhw i gefnogi pobl sydd am aros neu ddychwelyd i'r cymunedau y cawsant eu magu ynddynt. Bydd hwn yn gynllun gwirfoddol er mwyn amlygu beth y gallwn ni ei wneud i helpu pobl leol i gael tŷ sy'n fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu.
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe wnes i lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd y comisiwn yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Drwy ddefnyddio gwybodaeth arbenigwyr yn y maes, bydd y comisiwn yn llunio adroddiad ymhen dwy flynedd a fydd yn gwneud argymhellion polisi. Mae'r comisiwn eisoes wedi cyfarfod, a dwi'n disgwyl y bydd ei ganlyniadau yn heriol i nifer, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n gwreiddio ein polisïau ar sail tystiolaeth a realiti.
Rhan bwysig o'r cynllun fydd amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg, sydd hefyd wedi ei gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu. Cawsom ni ymateb cryf ac adeiladol i'r cwestiwn yma yn yr ymgynghoriad. Rŷn ni'n gwybod bod enwau tai, busnesau, llynnoedd a mynyddoedd yn effeithio ar naws ardal, a bod pobl yn poeni am hyn. Dyna pam y gwnaethom ni ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i warchod enwau lleoedd Cymraeg, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau. Rŷn ni angen datblygu ein sail tystiolaeth er mwyn gweithredu, nid yn unig am nifer yr enwau sy'n newid, ond am sut a ble y mae hynny'n digwydd. Felly rŷn ni wrthi'n comisiynu ymchwil trylwyr i'n helpu ni yn hynny o beth. Byddwn ni hefyd yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i gael gweld beth yn union sy'n mynd ymlaen, a bydd angen gwahanol atebion er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae iechyd economaidd ein cymunedau Cymraeg yn bwysig i ffyniant yr iaith. Bydd Aelodau wedi gweld o ddatganiadau yn gynharach yr wythnos hon am gyllid ychwanegol a fydd yn adeiladu ar waith rhaglen flaenorol Arfor. Bydd hyn yn helpu busnesau ac yn creu cyfleoedd gwaith o fewn rhai o'n cymunedau Cymraeg, sy'n ychwanegu gwerth i'n rhaglenni prif ffrwd ac i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' hefyd wrth gwrs.
Os ydym ni am i bobl leol gael cyfle gwirioneddol i fyw yn ein cymunedau Cymraeg, i gynnal bywiogrwydd yr iaith fel rhan naturiol o fywyd cymdeithasol ac economaidd bob dydd, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau ac ar draws ein gwlad, rhaid i ni fod yn feiddgar wrth weithredu. Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio â Phlaid Cymru, wedi gwneud hynny. Cyhoeddi 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' heddiw yw'r cam diweddaraf ar y daith, ochr yn ochr ag ystod o fesurau eraill rŷn ni wedi eu cymryd i wireddu realiti ymarferol yr hawl i fyw adref.
Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy ffurflenni a gyhoeddwyd yn datgan buddiant, o ran perchnogaeth eiddo.
Diolch am y datganiad. Dwi'n meddwl bod pob un Aelod o'r Senedd yn gefnogol o'r targed i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. [Torri ar draws.]
Diolch i chi. Dyna ddechrau arni. [Chwerthin.]
Yn bwysig mae ein Prif Weinidog ni wedi galw Cymru yn genedl noddfa. Felly, i mi, mae'n rhaid i mi ddechrau fy nghyfraniad heddiw na ddylid dal yma yng Nghymru, ar unrhyw adeg, unrhyw ragfarn neu ragdybiaeth sy'n aflonyddu ar unrhyw unigolyn sy'n bwriadu prynu tŷ yng Nghymru. Nawr, rwy'n parchu'r ffaith bod y cynllun siawns teg, a allai ganiatáu i eiddo gael ei farchnata yn lleol yn unig, am gyfnod penodol, yn wirfoddol, ond ni ddylid gwneud hwnnw'n orfodol mewn unrhyw ffordd o gwbl, oherwydd, wedi'r cyfan, rydym ni'n byw mewn marchnad rydd.
Nawr, os cymerwn ni Iwerddon, er enghraifft, mae yna filiwn o bobl yn nodi yn y cyfrifiad ac mewn pethau eraill o'r fath eu bod nhw'n medru'r Wyddeleg, ond, mewn gwirionedd, llai nag 80,000 sy'n ei siarad hi bob dydd. Rydym ni i gyd yn gweithio i osgoi sefyllfa o'r fath yma, ac rydym ni i gyd yn awyddus i'r Gymraeg ffynnu. Fodd bynnag, mae angen cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd gwaith sy'n talu yn llawer gwell yn yr ardaloedd hynny y dyluniwyd y cynllun hwn i'w cefnogi. Ar hyn o bryd, mae'r ddau brif sector er hynny, sef amaethyddiaeth a thwristiaeth, wedi dod o dan bwysau sylweddol mewn gwirionedd oherwydd eich Llywodraeth chi, gyda'r holl reoliadau sy'n cael eu gosod ar ein ffermwyr ni a chyda twristiaeth hefyd, gyda rhai o'r symudiadau nawr ym maes twristiaeth, ac mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Mae eich cynllun yn gwbl gywir i nodi eich bod chi wedi newid y rheolau ynghylch llety gwyliau tymor byr, gan gyflwyno'r trothwy 182 diwrnod. Nawr, cafodd yr achos yn erbyn hynny ei ddadlau yn huawdl iawn gan y sector, a'r undebau ffermio hyd yn oed, felly mae'n rhaid i chi fod ychydig yn ofalus nad yw'r hyn yr ydych chi'n ei ddylunio â chanlyniadau anfwriadol, oherwydd mae hi'n gwbl afresymegol ei bod yn debygol y bydd tâl yn cael ei godi ar ffermwyr am logi eu llety gwyliau oherwydd nad oes digon o gwsmeriaid nac ymwelwyr ganddyn nhw i allu cyrraedd y trothwy o 182, ac mae amodau cynllunio yn eu hatal nhw rhag cael eu rhoi ar rent yn y sector breifat ar y farchnad agored. Dim ond llety i'w osod ar gyfer gwyliau a fu'r rhain erioed, a phan mae ffermwyr wedi arallgyfeirio, ni ddylech chi fod yn ceisio eu tanseilio nhw.
Diolch byth, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cefnogi cynlluniau a fydd yn hybu twf economaidd a chymunedol yn y gorllewin, fel 200 o swyddi gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi yng Nghaergybi. Felly, fe fyddwn i'n falch, Gweinidog, pe byddech chi'n egluro faint o swyddi yn y gorllewin—. Cynllun Arfor 2, a fydd yn costio £11 miliwn, faint o swyddi y mae disgwyl i hwnnw eu darparu? A sut fath o swyddi? A ydym ni'n siarad nawr am swyddi sy'n talu yn well? Oherwydd ni ddylem anghofio yn y fan hon fod cyflog cyfartalog canolrifol, yng Nghymru, yn £3,000 i £4,000 yn llai nag yn Lloegr. Felly, pe bai ein Cymry lleol ni'n ennill mwy o arian gyda swyddi gwell, mwy o gyflog, yna siawns y bydden nhw'n ei chael hi'n haws mewn gwirionedd i ystyried bod yn berchnogion ar eu cartrefi eu hunain wedyn.
Fe allem ni efelychu parthau buddsoddi treth isel Prif Weinidog y DU hefyd. Rwy'n gwybod hefyd mai ar gyfer helpu i ddatblygu polisïau'r dyfodol yw'r comisiwn y gwnaethoch chi ei sefydlu, ond fe allai hi gymryd dwy flynedd i'r comisiwn hwnnw gyhoeddi ei adroddiad. Felly, a oes yna unrhyw obaith y byddwch chi'n cyflymu hynny, o ystyried yr argyfwng sy'n wynebu rhai o'n cymunedau ni?
Roeddwn i, serch hynny, yn siomedig i ddarllen yn y cynllun nad oes sail tystiolaeth ar hyn o bryd o ran y broblem o newid enwau lleoedd. Ac rwy'n gweld hynny'n aml, mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i fy hun. Pan fyddwn ni'n gwybod am enghreifftiau, fel ffermydd—hen ffermydd traddodiadol teuluoedd Cymru—yn cael eu henwi o'r newydd yn Hakuna Matata, mae hi'n ymddangos nad oes unrhyw angen i chi gomisiynu ymchwil penodol cyn paratoi i gymryd camau o ryw fath.
Fe fydd hi'n cymryd blynyddoedd cyn i ni weld unrhyw gynnydd o gwbl o ran gweld pobl leol mewn sefyllfa well i fforddio tai yn eu cymunedau nhw, oherwydd, yn y bôn, nid y broblem wirioneddol yw perchnogaeth ail gartrefi na llety gwyliau na pherchnogion tai llety na dim byd o'r fath. Y gwir amdani yw bod Lywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chodi digon o dai. Yn rhan gyntaf eleni, y nifer yw 1,236, rwy'n credu, ac mae hynny gryn dipyn yn is na'r flwyddyn cyn hynny, felly ble mae eich brwdfrydedd chi i wir ddatrys y problemau hyn yn ein cymunedau ni yng Nghymru drwy adeiladu tai?
Janet, fe fydd angen i chi orffen nawr, os gwelwch chi'n dda.
Iawn. Felly, mae gen i ychydig o gwestiynau i chi. A wnewch chi egluro faint o adeiladau newydd yr ydych chi'n gobeithio eu gweld yn y fro Gymraeg? Pan fyddwch chi'n mynd ar ôl newidiadau mewn cynllunio, o ran categoreiddio, a fyddwch chi'n canolbwyntio ar ddiwygio cynllunio sy'n hybu prosiectau i adeiladu tai a seilwaith, fel mae ein Prif Weinidog ni'n ei wneud yn y DU? Ac, yn olaf, lle mae'r mannau hyn gennych chi ar gyfer siarad Cymraeg yn unig, lle fyddwn ni'n croesawu pobl fel cenedl noddfa, sut fyddwch chi'n canfod y cymunedau hyn yn parhau i fod yn gydlynus, yn hytrach na bod â swigod sy'n allgáu pobl eraill, lle gallai hynny wedyn atal cymunedau rhag ymuno â'i gilydd? Diolch i chi.
Wel, a gaf i ddweud i gychwyn fy mod i o'r farn gref fod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau yn well nag y gorffennodd? Rydw i'n ei llongyfarch hi ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, ac rwy'n annog llawer mwy o hynny.
Felly, fe wnaeth hi nifer o bwyntiau eang, rhai ohonyn nhw'n berthnasol i'r datganiad, a rhai ohonyn nhw yn berthnasol i feysydd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos o'r dechrau nad oes unrhyw wrthdaro rhwng croesawu pobl i'n cymunedau ni a ffyniant y Gymraeg. Rydym ni'n gweld pobl bob dydd o bob rhan o'r byd sydd wedi dewis dod i fyw yma yng Nghymru ac rydym ni wrth ein boddau iddyn nhw ddysgu Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny i'w ddathlu wir. Mae hynny'n rhywbeth cwbl anhygoel i'w weld. Rydym ni wedi gweld plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg. Rydym ni'n gweld hynny gyda phobl sy'n dod o rannau eraill o'r DU ac ymhellach i ffwrdd.
Mae swyddogaeth y llysgenhadon diwylliannol yn bwysig iawn yn hyn o beth, wrth gynnwys pobl yn y gymuned, gan esbonio'r cyd-destun diwylliannol yn y lle maen nhw wedi dewis byw ynddo. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o greu'r amgylchedd croesawgar hwnnw. Rwy'n canfod arwyddion yng nghwestiwn yr Aelod o'i bod hi wedi darllen yr araith a roddais i yn yr Eisteddfod, felly rwyf yn diolch iddi hi am y ganmoliaeth ymhlyg yn hynny, ond mae hi'n iawn i ddweud nad yw'r prif rifau yn ddigonol os nad yw pobl yn defnyddio'r iaith bob dydd. Dyna pam rydyn ni'n lwyr awyddus i weld economïau lleol sy'n ffynnu. Rwy'n clywed y pwynt y mae hi'n ei wneud yn gyson ynglŷn â'r trothwy ar gyfer llety hunan-arlwyo. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod eiddo yn y rhan honno o'r sector yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n gynhyrchiol i'r economi. Nid ydym ni'n dymuno gweld y tai hynny'n wag am gyfnod maith a thynnu oddi wrth allu'r gymuned i ffynnu yn economaidd, yn gymdeithasol ac o safbwynt ieithyddol.
Mae hi'n gwneud llawer o'r pwyntiau o ran cyfleoedd gwaith mewn rhannau o Gymru yr oeddwn innau'n eu gwneud yn y Senedd ddiwethaf pan oeddwn i'n Weinidog Brexit. Rwy'n falch o weld ei bod hi o'r diwedd wedi sylweddoli canlyniad rhai o'r penderfyniadau yr oedd hi'n hapus i'w cefnogi nhw yn nyddiau olaf y Senedd ddiwethaf. Rwy'n credu y dylid croesawu'r dröedigaeth fel honno ar y ffordd i Ddamascus yn fawr, yr oedd cyfraniad heddiw yn tystiolaethu ohoni. Rwyf i'n wir yn croesawu'r gefnogaeth hefyd y mae hi'n ei rhoi ar gyfer dull uchelgeisiol o ymdrin ag enwau lleoedd. Rwy'n cydnabod bod tyndra yn hynny o beth, mae'n debyg, gyda'i hymrwymiad arall hi i farchnad rydd, felly rwy'n credu mai rhywbeth arbennig o arwyddocaol yw ei bod hi'n gweld hynny'n rhan o'r datrysiad.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, er hynny, mewn difrif, wrth gloi fy ymateb i'w phwyntiau hi, yw bod gennym ni nodau uchelgeisiol o ran adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu, ond mae hi'n gwybod mai canlyniadau chwalfa economaidd y 10 diwrnod diwethaf fu gwthio cyfraddau llog yn uwch yn sylweddol iawn, ac fe fydd hynny'n rhoi pwysau anhygoel ar nodau adeiladu tai ein Llywodraeth ni a nodau pob Llywodraeth arall yn y DU yn y maes hwnnw hefyd. Dyna pam mae hi mor bwysig bod polisi economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei phennu gyda'r amcanion cymdeithasol ehangach hyn mewn golwg. Rwy'n rhannu'r uchelgais o sicrhau ein bod ni'n adeiladu digon o gartrefi yng Nghymru i bobl allu byw ynddyn nhw'n fforddiadwy, ond mae camau ei chydweithwyr hi yn San Steffan yn gwneud hynny'n fwy anodd yn hytrach nag yn haws, mewn gwirionedd.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Diolch hefyd am gael golwg arno cyn y cyhoeddiad yma heddiw. Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn llygad ei le wrth ddweud fod ail dai wedi achosi trafferthion mawr i’n cymunedau gwledig ac arfordirol, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfhaf, a hynny ers degawdau. Mae’r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi arwain at y Gymraeg yn colli tir, pobl yn gadael eu cymunedau, a’r colledion cymdeithasol a chymunedol a ddaw yn sgil hynny. Dyna, wrth gwrs, y cefndir trist, ond dwi'n falch, trwy gydweithio efo Plaid Cymru a thrwy wrando ar lais ymgyrchwyr sydd wedi bod mor huawdl yn cyflwyno'r broblem a chynnig atebion ers degawdau, fod yna olau ar ben draw y twnnel.
Dwi’n cytuno efo datganiad y Gweinidog wrth iddo ddweud ein bod ni’n torri tir newydd yma yng Nghymru. Fe hoffwn gymryd y cyfle i groesawu’r pecyn o fesurau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, y 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' newydd yma, a bod yna gyllid sydd am gynorthwyo er mwyn cyrraedd y nod. Mae yna gwestiwn, wrth gwrs, a ydy'r cyllid yma am fod yn ddigonol, oherwydd mae’r argyfwng tai yn anferthol. Felly, dwi'n chwilio am sicrwydd ynghylch hirhoedledd y cyllid tuag at yr amcanion yma. Hoffwn i ofyn i’r Gweinidog sut yn union y mae o’n rhagweld y bydd y cynllun yma yn helpu i wireddu amcanion y pecyn o fesurau ehangach ar gyfer delio efo'r argyfwng ail gartrefi yr ydym wedi sôn amdano'n barod.
Hoffwn i bwysleisio, er gwaethaf fod yna rai ardaloedd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg a rhai ardaloedd efo nifer isel o siaradwyr Cymraeg, fod yr iaith yn perthyn i Gymru gyfan ac i bawb yng Nghymru, o Fôn i Fynwy. Dwi’n nodi eich bod yn sôn am ardal Arfor, sydd yn mynd o Fôn i sir Gâr, ond mi fyddwch chi’n gwybod fod yna ardaloedd eraill, megis ardal eich magwraeth chi yng nghwm Tawe, sydd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, hefyd yr hen fro ym Maesteg, neu ddyffrynnoedd Clwyd a Cheiriog. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn amddiffyn yr iaith a'r diwylliant ar draws Cymru, nid yn unig yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg?
Wrth i ni aros am ganlyniadau’r cyfrifiad i gael eu dadansoddi, mae’n amlwg y bydd gan y data ar yr iaith oblygiadau i unrhyw gynllun gan y Llywodraeth er mwyn amddiffyn y Gymraeg. Hynny ydy, mi fydd y cyfrifiad yn rhoi darlun mwy clir o statws y Gymraeg, ac mi fydd angen i ni ystyried y data wrth i ni symud ymlaen gydag unrhyw bolisïau newydd. Felly, ydy’r Gweinidog yn hyderus y bydd y cynllun yma yn addas i’r diben, ac yn medru cymryd i ystyriaeth canlyniadau’r cyfrifiad?
Soniodd y Gweinidog am y mater o dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu’n cael eu gwerthu’n sydyn i brynwyr oedd â’r gallu ariannol i’w prynu'n ddi-droi. Fe soniodd am sefydlu cynllun cyfle teg, fel soniodd Janet Finch-Saunders yn ei gylch. Doedd hi ddim am weld hyn yn dod yn statudol, ond dwi'n awyddus i weld a oes gennych chi syniadau i ddatblygu'r cynllun gwirfoddol yma i fod yn gynllun statudol a fydd yn parhau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac yn ei ymestyn ar gyfer ardaloedd eraill hefyd, er mwyn sicrhau bod gan bawb gyfle i fyw yn eu cymunedau.
Agwedd arall hoffwn i gyffwrdd arni ydy’r mater o enwau lleoedd, fel ddaru chi sôn amdano ar ddiwedd eich cyfraniad diwethaf. Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yma am helpu i amddiffyn enwau lleoedd, rhywbeth mae'r blaid hon wedi sôn amdano sawl tro. Rydyn ni'n cofio, wrth gwrs, cynnig Dr Dai Lloyd i amddiffyn enwau lleoedd yng Nghymru. I ailadrodd y pwynt a wnaed ynghynt, mae’r iaith a'r diwylliant Cymreig yn berchen i bob un ohonom ni, ac yn rhan o'n hanes a'n hetifeddiaeth cyffredin yma. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn mynd ati i amddiffyn yr iaith trwy enwau lleoedd ar lefel statudol?
Yn olaf, mae'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' yn sôn am fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Ond, o ystyried cyndynrwydd y Llywodrareth i ddatblygu fframwaith statudol i alluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol, pa ran mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ei chwarae yn hyn? Ac a wnewch chi gydweithio efo hi er mwyn cryfhau'r fframwaith statudol er mwyn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol er mwyn cyrraedd eich dibenion? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiynau pellach hynny. I gychwyn ar y cwestiwn o gyllid, dwi ddim wedi datgan yn y datganiad heddiw yr holl ffynonellau o arian sydd yn berthnasol i'r gwaith rwyf wedi sôn amdano heddiw. Mae yna fuddsoddiad rydym ni wedi ei ddarparu i Cwmpas i gefnogi'r gwaith o ran darparu cynlluniau mentrau cydweithredol a thai, fel ein bod ni'n dwyn o brofiad mentrau cydweithredol fel PLANED, Partneriaeth Ogwen a Chwmni Bro Ffestiniog. Mae lot o botensial yn y maes hwnnw hefyd sy'n cael ei ariannu trwy'r cynllun. Mae Cwmpas yn gweithio gyda ni ynghylch hynny ar hyn o bryd.
Rwy'n cytuno'n llwyr gyda beth mae'r Aelod wedi dweud; wrth gwrs bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Un o'r elfennau cyffrous, rwy'n credu, yng ngwaith y comisiwn newydd fydd edrych ar safle'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, a'n helpu ni i ddeall impact economaidd a chymdeithasol ar yr iaith. Bydd hynny yn ein helpu ni i lunio polisïau fydd yn gymwys ar gyfer bob rhan o Gymru, maes o law. Bydd hyn yn digwydd mewn cyfnodau yng ngwaith y comisiwn. Un o'r elfennau sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd yw'r cysyniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, lle efallai bod posibilrwydd i bolisi addysg, polisi cynllunio, polisïau mewn meysydd eraill gael gogwydd sydd yn berthnasol i amgylchiadau'r Gymraeg yn y gymuned honno. Bydd gwaith y comisiwn yn bwysig iawn yn creu sail o dystiolaeth ar gyfer hynny. Bydd hynny'n gweithio mewn ffyrdd gwahanol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ar yr un llaw, o'u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru ar y llaw arall. Felly, mae hwn yn rhan o waith y comisiwn yn y tymor canol hefyd.
Rŷm ni'n disgwyl i weld beth fydd canlyniadau'r cyfrifiad, fel gwnaeth yr Aelod ddweud. Dwi ddim yn gwybod beth fyddan nhw ar hyn o bryd. Beth rŷm ni wedi ceisio ei wneud yn hyn a gyda'r camau eraill rydym ni wedi eu cymryd o ran yr ymateb i'r her ail gartrefi—ac hefyd, gyda llaw, yng nghyd-destun polisi addysg yn y Gymraeg—yw ein bod ni mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y canlyniadau pan ddown nhw atom ni cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio, ond beth bynnag fyddan nhw, mae gennym ni fwy o waith i'w wneud. Felly, dyna'r bwriad yn hyn—ein bod ni'n bod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni. Mae'r camau rydym ni wedi'u cymryd fan hyn, yn y maes cynllunio, yn y maes trethi, ac ati, wedi bod yn gamau breision, fel roedd yr Aelod yn cydnabod yn ei gyfraniad. Ond, byddwn ni yn edrych eto ar y taflwybr pan gawn ni'r canlyniadau yn y cyfrifiad, i weld os yw'n gymwys ar gyfer y pum mlynedd a'r 10 mlynedd nesaf. Felly, mae cyfle inni ailedrych ar y taflwybr i 2050 yn y cyd-destun hwnnw.
O ran y cynllun cyfle teg, mae'r cwestiwn o beth sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd wedi cael ei gadw yn ôl, wrth gwrs, yn berthnasol o ran ein gallu ni fel Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Ond, rŷn ni yn edrych ar un elfen gyfreithiol, hynny yw beth mwy y gall gwerthwyr ei wneud o ran cyfamodau ar eu heiddo, i weld os oes gyda ni botensial yn y maes hwnnw. Felly, mae'r gwaith yna'n mynd i fod yn digwydd cyn bo hir, ac mae elfen gyfreithiol i hynny a fydd efallai'n cynnig rhyw fath o gyfle.
Ar yr un testun, gwnaeth e ofyn ynglŷn â sail ddeddfwriaethol i'r gwaith ar enwau lleoedd. Dwi ddim yn diystyru'r posibilrwydd o wneud rhywbeth deddfwriaethol, ond mae agenda deddfwriaethol y Senedd hon yn un lawn iawn. Dŷn ni ddim eto mewn man i allu gwybod yn union beth fydd angen i'r Ddeddf honno i wneud. Mae'r sefyllfa'n wahanol o ran enwau lleoedd, enwau tai, enwau busnesau, ac mae hynny'n faes eithaf cymhleth o ran pwerau ac o ran hefyd beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Ond, y pwrpas wrth edrych ar y sail dystiolaeth, o gomisiynu'r ymchwil yna, yw ein bod ni'n gallu gweld yn glir beth sydd angen deddfwriaeth i ni allu symud y maen i'r wal, a beth y gallwn ni wneud heb ddeddfwriaeth. Dŷn ni ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiynau hynny eto.
Dwi'n tynnu sylw at fy natganiad i o fuddiant o ran perchnogaeth eiddo. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r sylw dwi wedi'i roi yn ddiweddar i'r tenantiaid sydd wedi dweud wrthym ni fod eu landlord nhw yn stad Bodorgan wedi gofyn iddyn nhw adael eu cartrefi er mwyn eu troi nhw'n dai gwyliau. Mae fy mhryder i fan hyn, wrth gwrs, am yr unigolion a'r teuluoedd hynny sy'n wynebu colli eu cartref, ond mae fy mhryder i hefyd ynglŷn â'r impact ar y stoc dai yn lleol. Dwi'n tynnu sylw'r Gweinidog heddiw at lythyr mae etholwr wedi'i anfon ataf i ddoe, wedi'i bostio drwy ddrws ffrynt ym Menllech:
'Rwy'n gobeithio nad oes ots gennych fy mod yn cysylltu â chi. Rwy'n chwilio am eiddo yn eich ardal a meddwl oeddwn i tybed a fyddai diddordeb gennych mewn gwerthu neu rentu eich eiddo yn y tymor hir.'
Cwmni o'r enw Coastal Holidays a oedd wedi postio'r llythyr hwnnw—nid cwmni twristiaeth leol, mae'n rhaid dweud, ond cwmni sydd o Warwick, yn ôl eu gwefan nhw. Yn bwysig iawn, cwmni ydy o sydd yn trio mynd ati'n bwrpasol i dynnu tai allan o'r stoc dai lleol, yn amddifadu pobl o fewn y gymuned rhag y gallu i brynu'r tai yna, yn gwthio prisiau i fyny.
Mae'r Gweinidog heddiw wedi sôn am yr arfer da mae o eisiau ei ddatblygu. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y llythyr yma yn arfer gwael—dydy o ddim yn unigryw, wrth gwrs—a'i fod o'n brawf pam bod angen y mesurau o'r fath sydd wedi cael eu crybwyll heddiw ac sy'n deillio allan o'r cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru, a pham bod angen gweithredu'n gadarn, yn cynnwys deddfwriaeth, er mwyn gwarchod y farchnad dai, a thrwy hynny warchod y Gymraeg?
Dwi'n sicr yn derbyn ei bod hi'n arfer drwg. Dyna'r union fath o beth rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e yn y cynlluniau ehangach sydd gyda ni. Mae'r hyn rŷn ni'n datgan heddiw yn gwneud cyfraniad. Dyw arfer da ddim wastad yn ddigon; mae angen newid deddfwriaeth a newid trethi ar gyfer gwneud hynny. Rydyn ni, wrth gwrs, yn gwneud hynny o ran cynllunio, o ran treth LTT ac ati. Felly, mae'r ystod ehangach o bethau hynny i gyd, ar y cyd, rwy'n gobeithio, rwy'n ffyddiog, yn mynd i wneud gwahaniaeth.
Diolch i'r Gweinidog.