Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:39, 12 Hydref 2022

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 1:40, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf bob amser wedi bod yn gefnogol i’r syniad fod angen diweddaru addysg rhyw yng Nghymru. Roedd wedi dyddio ac roedd angen ei newid, ond yn y ffordd iawn. Mae'r methiannau amlwg a welwn mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb yn peri gofid i mi. Os na chaiff pethau eu haddasu, byddwn yn colli cyfle yma i fynd ati o ddifrif i wella addysg rhyw i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Bydd y lles o'r newidiadau mawr eu hangen yr ydym yn eu gweld mewn addysg rhyw yn cael eu colli drwy beidio â sicrhau cynnwys ac iaith sy'n addas i oedran wrth gyflwyno negeseuon mor bwysig i'n plant a'n pobl ifanc. Fel y pwysleisiais yn gryf wrth y cyn Weinidog, Kirsty Williams, sydd â thri o blant ei hun, roedd angen i gynnwys newydd yr hyn a gâi ei ddysgu—ac roedd hi'n cytuno—(a) ddefnyddio geirfa y gall y plentyn/unigolyn ifanc sy'n cael eu dysgu ei deall, a (b), ac yn bwysicaf oll, sicrhau nad oedd y cynnwys yn peri dryswch a'i fod yn addas i'r oedran. Rydym fis i mewn i’r tymor newydd hwn a dechrau cyflwyno'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn swyddogol, ac mae’n gwbl amlwg fod rhywfaint o’r deunydd addysgu a argymhellwyd yn peri pryder i rieni ac athrawon. Ac yn sicr, nid ydynt—gormod lawer o'r deunydd a argymhellir—yn addas i'r oedran wedi’r cyfan. Fel mam i blentyn 12 oed a phlentyn tair oed fy hun, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a glywn—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:41, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid ichi ofyn cwestiwn yn awr; mae gennych dri chwestiwn yn y sesiwn hon, ac rydych eisoes 50 y cant dros amser.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gadewch imi ddarllen dyfyniad i chi o lyfr—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Na, na, na; ni chredaf fod gennych amser. Gallwch ei ddarllen yn eich cwestiwn nesaf yn ystod eich munud nesaf. A wnewch chi ddod at gwestiwn?

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Weinidog, mae’n bwysig fod pawb yn gallu bod yn bwy bynnag y dymunant fod, ac mae angen inni addysgu dealltwriaeth a pharch at bawb. Ond onid ydych yn cytuno â mi fod angen i'r hyn sy'n cael ei ddysgu fod yn gwbl addas ar gyfer oedran y plentyn hwnnw, fel eu bod (1) yn deall yr iaith a ddefnyddir, a (2) yn ddigon aeddfed yn emosiynol i dreulio ei gynnwys?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:42, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf am ddechrau drwy ddweud nad yw bod yn rhiant yn rhagofyniad ar gyfer poeni am les ein plant yng Nghymru. [Aelodau’r Senedd: 'Clywch, clywch.’] ac mai fy mlaenoriaeth fel Gweinidog, a rennir yn eang iawn yn y Siambr hon, yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ac yn cael eu galluogi i fyw bywydau iach a diogel. Rydym yn gweithio gyda’r NSPCC i sicrhau bod yr adnoddau a ddarparwyd gennym, y cod a’r ddeddfwriaeth, yn bodloni’r safon honno. Ceir rhai sy'n anghytuno â'r hyn a wnawn. Mae angen iddynt roi cyfrif am eu cymhellion eu hunain, ond dyna'r sail ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau.

Mae’r Aelod yn ailadrodd pwyntiau cyffredinol ac amhenodol a wnaeth y tro diwethaf y bûm yn ateb cwestiynau yn y Siambr hon. O ganlyniad i’r awgrym peryglus iawn a wnaeth, rwy'n credu, ysgrifennais ati i'w gwahodd i egluro unrhyw enghreifftiau penodol y cyfeiriodd atynt yn y Siambr, ac nid yw wedi ateb.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn dod at hynny; rwyf ar fin darllen dyfyniad i chi o lyfr sydd i fod ar gyfer plant pump oed. Weinidog, enw’r llyfr hwn, a argymhellwyd, yw Who are you?, sy'n cynnwys y dyfyniad hwn:

'Pan fydd babanod yn cael eu geni, mae pobl yn gofyn ai merch neu fachgen ydyn nhw. Ni all babanod siarad, felly mae oedolion yn dyfalu drwy edrych ar eu cyrff.'

—ar gyfer plant pump oed.

Y frawddeg nesaf yn y llyfr yw hon:

'Gall pobl fod yn drawsryweddol, yn cwiar, yn anneuaidd, yn rhyweddhylifol, yn anrhyweddol, yn niwtral o ran rhywedd, yn ddeurywedd, yn drydydd rhywedd ac yn ddau-enaid.'

Nawr, nid y cynnwys sy'n fy mhoeni, Weinidog; fy mhwynt yw ei fod yn gynnwys mewn llyfr ar gyfer plentyn pum mlwydd oed. Nid wyf yn ymosod ar y proffesiwn addysgu, proffesiwn y mae gennyf barch mawr ato. Dyma’r deunyddiau sy’n cael eu hargymell gan y Llywodraeth hon iddynt eu haddysgu, y maent hwy eu hunain yn pryderu yn eu cylch, y mae penaethiaid yn pryderu yn eu cylch, ac y mae rhieni’n pryderu yn eu cylch. Dyna rwy'n ei wneud. Ac fe anfonoch chi lythyr ataf, fel y gwnaeth aelod o'r undeb, sy'n gyn-aelod o staff Llafur, prysuraf i ychwanegu, a hoffwn ddweud eto ar goedd na fyddwn byth yn breuddwydio ymosod ar broffesiwn y mae gennyf barch mor fawr ato. Mae'n ymwneud â'r cynnwys, Weinidog. Fy swydd i yw eich dwyn i gyfrif a siarad ar ran y rhieni sy'n pryderu am yr hyn yr argymhellir y dylid edrych arno ar gyfer eu plant. Plentyn pump oed yn gallu dweud yr holl eiriau mawr hynny, Weinidog—a allwch chi ddeall?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:44, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd yn rhaid ichi ofyn eich cwestiwn, Laura Anne Jones. Nid wyf yn gwybod beth sydd mor anodd am ofyn cwestiwn. Dewch at eich cwestiwn.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A wnewch chi gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod adnoddau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn addas i'r oedran, a chael gwared ar y rhai nad ydynt yn addas ar unwaith, a hefyd y rheini sy'n cyfeirio pobl at Mermaids? A wnewch chi ymrwymo i adolygu deunyddiau y gwelwyd eu bod yn ddiangen ar gyfer y grŵp oedran hwn, a sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu harwain gan wyddoniaeth, yn ogystal â chynnwys ideoleg rhywedd, addasrwydd i oedran—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:45, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rydych eisoes wedi gofyn tri chwestiwn yn y gyfres honno o gwestiynau. Nid ydych i ofyn eich trydydd cwestiwn. Rydych wedi gofyn digon o gwestiynau yn y sesiwn hon—mae pedwar munud o amser wedi'i dreulio ar hyn eisoes. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog ymateb i unrhyw rai o’r cwestiynau hynny, os gwelwch yn dda?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Ceisiaf fod mor niwtral ag y gallaf. Credaf fod yr Aelod yn gwneud anghymwynas â phobl ifanc Cymru gyda'r ffordd y mae'n gofyn y cwestiynau hyn. Rwy’n berffaith barod i ateb cwestiynau, fel y gwneuthum y tro diwethaf. Fe'i gwahoddais i dynnu fy sylw at ddeunydd penodol yr honnai, y tro diwethaf inni siarad, ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion. Nid yw wedi gwneud hynny. Hoffwn ei gwahodd i wneud hynny, fel y gellir datrys y mater, yn hytrach na’i ddefnyddio fel pwynt dadl ar ei rhan.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Weinidog, mae effaith yr argyfwng costau byw cyn waethed, os nad yn waeth, na'r argyfwng COVID i rai myfyrwyr. Dyna oedd barn is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Ben Calvert, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf. Rhybuddiodd ef ei fod yn poeni'n benodol am fyfyrwyr hŷn, a oedd mewn perygl o adael cyrsiau allweddol, fel graddau gofal iechyd a nyrsio, am nad oedden nhw'n medru fforddio costau byw. Mae'r myfyrwyr ar gyrsiau fel hyn hefyd, wrth gwrs, yn methu â gweithio i gael incwm ychwanegol yn sgil y ffaith eu bod yn gorfod bod ar leoliadau gwaith fel rhan o'u cwrs. Mae arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru yn cefnogi y datganiad pryderus yma, yn datgelu bod 28 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru â llai na £50 y mis i fyw arno; 92 y cant yn pryderu am eu gallu i ymdopi yn ariannol; 11 y cant yn defnyddio banciau bwyd; a theimla 89 y cant nad yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, nac ychwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud digon i'w cefnogi yn ystod yr argyfwng yma. Dwi'n nodi eich ateb chi i Cefin Campbell i'r cwestiwn blaenorol, a dwi'n edrych ymlaen at eich datganiad ynglŷn â dyfodol y pecyn cynhaliaeth, ond a oes yna rywbeth gall y Llywodraeth ei wneud i ymrwymo i ddarparu grantiau ychwanegol, naill ai yn uniongyrchol neu drwy gronfeydd caledi prifysgolion, i'w helpu drwy y cyfnod anodd hwn yn benodol, i wneud yn iawn am y ffaith bod y pecyn cyllid myfyrwyr bellach yn annigonol, yn sgil chwyddiant, fod rhai myfyrwyr wedi'u cau mas o'r gefnogaeth costau byw— 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:47, 12 Hydref 2022

Dwi'n mynd i orfod gofyn i'r Aelod ddod i gwestiwn.  

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Fel wnes i sôn yn gynharach, mae hon yn sefyllfa heriol iawn i fyfyrwyr am y rhesymau mae Sioned Williams yn sôn amdanyn nhw. Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfa galedi i sicrhau bod darpariaeth ar gael i'r rheini sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol. Mae maint y cronfeydd hynny yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Rwyf wedi gofyn i HEFCW roi sicrwydd i mi fod yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan ein prifysgolion ni yn ddigonol, bod access digonol ar gael drwy'r prifysgolion i gefnogaeth ariannol ar gyfer y cyfnod anodd hwn. Ond ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol—y flwyddyn nesaf ymlaen—byddaf yn gwneud datganiad maes o law ynglŷn â'r lefel o gefnogaeth. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 1:48, 12 Hydref 2022

Diolch, Weinidog. Mae rhent myfyrwyr yn benodol, wrth gwrs, wedi codi 29 y cant yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, ac, erbyn hyn, yn llyncu bron i 60 y cant o'r pecyn cyllid myfyrwyr ar gyfartaledd. Fel plaid, rŷn ni wedi bod yn galw am weithredu mesurau costau byw brys a radical, fel rhewi rhent a gwahardd troi allan, gan y bydd y cynnydd mewn rhent yn drychinebus i nifer o fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi, gan effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol nhw, ac ar eu hastudiaethau, wrth gwrs. A yw'r Llywodraeth yn mynd i wrando ar alwadau rhai fel llywydd undeb myfyrwyr Cymru, Orla Tarn, sydd wedi datgan ei bod o blaid gosod cap ar rent ar lety a thai myfyrwyr, fel sy'n digwydd yn yr Alban, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Llywodraeth yr Alban i gefnogi myfyrwyr Cymru yn yr un modd? 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Rwy'n cwrdd gyda llywydd NUS Cymru yn y dyddiau sydd i ddod i drafod hyn gyda nhw, oherwydd gwnes i weld y dystiolaeth gafodd ei rhoi i'r pwyllgor. Fel bydd yr Aelod yn gwybod, rŷn ni wedi edrych yn fanwl ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn yr Alban, a dyw e ddim yn edrych efallai ar y wyneb mor hael ac y mae ef—. Mae'n edrych yn fwy hael efallai ar yr wyneb nag yw e go iawn. Rŷn ni hefyd yn poeni'n ddirfawr am yr hyn rŷn ni'n gweld yn digwydd yn yr Alban, hynny yw, bod pobl yn tynnu allan o'r farchnad rhentu preifat, sydd yn creu heriau mwy sylweddol i fyfyrwyr ac i eraill. Ond dyma un o'r pethau rwy'n bwriadu eu trafod gyda llywydd NUS Cymru pan fyddaf yn cwrdd gyda nhw yn y diwrnodau nesaf.