– Senedd Cymru am 4:00 pm ar 25 Hydref 2022.
Symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar rôl y sector cyhoeddus yn system ynni'r dyfodol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd—Julie James.
Diolch, Llywydd dros dro
Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn y Siambr hon yn siarad am yr argyfwng costau byw, sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mawr yng nghost ynni. Mae cadw pobl Prydain yn gaeth i bris tanwydd ffosil yn ddrwg i dalwyr biliau ac yn drychinebus i'r camau yr ydym ni i gyd yn gwybod y mae angen i ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r costau cynyddol a'r diffyg sicrwydd y bydd cyflenwad yn cryfhau'r achos dros gydnerthedd ynni a'r angen am reolaeth dros ein system ynni. Mae ein Llywodraeth wedi hyrwyddo'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni a mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â mesurau hyblygrwydd i sicrhau y gallwn bob amser ateb y galw. Dyma'r atebion tymor hir cywir i gyflawni o ran yr argyfwng costau byw presennol a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r system llawer mwy lleol hon yn gofyn i ni ymwneud llawer mwy â'r system ynni nag o'r blaen. Bydd angen i'r llywodraeth ar bob lefel fod â rôl weithredol wrth ddylunio'r system ynni sero-net, un sy'n galluogi pobl i fyw a symud, ond eto sydd â'r costau a'r effeithiau isaf posibl.
Rwyf wedi bod yn falch iawn o'r ffordd mae awdurdodau lleol a rhanbarthau wedi gweithio gyda ni ar gynlluniau ynni sy'n nodi'r newidiadau sydd angen digwydd, a sut y gall y newidiadau hynny sicrhau swyddi medrus i bobl yn eu hardaloedd. Wedi'r cynlluniau treialu llwyddiannus yng Nghonwy a Chasnewydd, edrychaf ymlaen at weld gweddill ein hawdurdodau yn datblygu cynlluniau ynni lleol manwl, a fydd yn sail i'r cynllun ynni cenedlaethol yn 2024. Nid yw'r cynlluniau hyn yn datrys ein problemau cost ynni ar unwaith, ond maent yn gosod fframwaith cryf i ni ganolbwyntio ar y cyd ein camau i amddiffyn ein hunain yn y tymor canolig. Wrth gyflawni'r cynlluniau hyn, rhaid i ni feddwl yn wahanol fel cenedl am sut rydyn ni'n rheoli asedau cyhoeddus. Byddwn ni'n cyflawni rhwymedigaethau sero-net yn unig mewn ffyrdd sydd o fudd i gymunedau trwy gymryd dulliau newydd a gwahanol.
Rydym eisoes wedi defnyddio'r prif ased cyhoeddus sef ystad goetir Llywodraeth Cymru i gyflawni ein polisi ar ynni adnewyddadwy a budd lleol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi goruchwylio gwaith gosod pedwar prosiect gwerth 441 MW o wynt ar y tir, ac mae 134 MW arall yn dal i gael ei ddatblygu. Mae hyn wedi darparu nid yn unig incwm i'r pwrs cyhoeddus o daliadau prydles ac yn uniongyrchol i gymunedau o gronfeydd budd cymunedol, ond cyfleoedd i gymunedau gymryd perchnogaeth o ran o'r datblygiadau hyn. Mae'r prosiectau hefyd wedi ariannu gwelliannau mewn cyfalaf naturiol, fel adfer ac ehangu ardaloedd lle'r oedd mawn mewn perygl o ryddhau nwyon tŷ gwydr.
Mae wedi bod yn ddiddorol nodi bod y cwmnïau sy'n ennill cystadlaethau prydles—y rhai hynny sydd fwyaf parod i sicrhau buddion lleol—yn ddatblygwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rydym yn rhannu uchelgais y cenhedloedd eraill hyn, ac rydym yn benderfynol o sicrhau cymaint â phosibl y gwerth y mae Cymru yn ei dderbyn gan asedau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir i gynhyrchu ynni. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda CNC i asesu lefel y cynhyrchu gan wynt y gall yr ystad goetir ei chynnal ac ystyried sut i sicrhau bod Cymru'n cadw mwy o'r manteision mewn marchnad sy'n newid. Mae tir cyhoeddus yn gyfle gwych, fodd bynnag, nid yw ond yn deg cymryd cyfran fwy o ran y risgiau os ydym yn dymuno cymryd mwy o'r enillion i Gymru.
Felly, Llywydd dros dro, rwy'n falch iawn o gyhoeddi, fel y nodais yn Cymru Sero Net y llynedd, ein bod ni'n mynd i sefydlu datblygwr gwladol Cymru. Byddwn ni'n cymryd mwy o risgiau pan fydd y rhain yn rhesymol, ac yn cael yr enillion er budd dinasyddion Cymru. Byddwn ni'n bwrw ymlaen â phrosiectau ar dir Llywodraeth Cymru ac yn eu datblygu'n fasnachol, gan barchu barn pobl a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr un pryd. Byddwn yn cyflawni'n uniongyrchol ar ein nodau i gael dros gigawat o gynhyrchiant dan berchnogaeth leol erbyn 2030, a'n hymrwymiad maniffesto i gynhyrchu o leiaf 100 MW ychwanegol erbyn 2026.
Mae hwn yn ddull hirdymor, ac nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan tua diwedd y ddegawd. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl enillion sylweddol o'u cymharu â'n buddsoddiad. Bydd yr incwm yn ein helpu i gefnogi cymunedau—fel yn wir yr ydym eisoes wedi gweld cymunedau'n elwa yn ystod COVID ac erbyn hyn yr argyfwng costau byw—o'r cronfeydd cymunedol o ffermydd gwynt presennol. Ond rwy'n arbennig o awyddus i archwilio sut y gallwn gysylltu'r datblygiadau hyn â ôl-osod cartrefi gerllaw, gan ddefnyddio busnesau lleol. Bydd hyn yn golygu gweithio mewn ffordd wahanol gyda'r sector preifat. Gobeithio y bydd y sector hwnnw'n croesawu aelod arall dan berchnogaeth gyhoeddus, gan weithio ar sail gyfartal a dychwelyd elw i'r pwrs cyhoeddus. Byddwn yn gweithio gyda CNC i ystyried sut, yn y dyfodol, y gallwn gynnig cyfleoedd ar draws yr ystad coetir sy'n ategu ein datblygiadau ni, cyfleoedd i ddatblygwyr masnachol a chymunedol gynnig mentrau ar y cyd gyda ni.
Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein dull ni o weithredu yn helpu i ailffurfio'r farchnad mewn mannau eraill yng Nghymru. Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru. Mae gennym lawer iawn mwy o waith i'w wneud i sefydlu cwmni newydd erbyn mis Ebrill 2024. Ochr yn ochr â sefydlu'r datblygwr, byddwn ni'n datblygu portffolio o brosiectau, gan ymgysylltu yn gynnar â chymunedau ac awdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar y buddion y bydd y dull hwn yn eu cyflawni. Byddwn yn gweithio gyda'r rhai sy'n byw ger prosiectau i ddiffinio cynigion budd cymunedol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr bod y prosiectau hynny'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr ar y cynnydd wrth i ni weithio trwy sefydlu'r datblygwr. Gobeithio y byddwch i gyd yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, wrth i Gymru fod y genedl gartref gyntaf i fod â datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n dda iawn gweld eich bod chi'n bwrw ymlaen o ran edrych ar brosiectau a all ein helpu ni mewn gwirionedd tuag at ein huchelgeisiau o ran sero carbon, yn ogystal â rhoi mwy o arian yn ôl i'r economi leol. Nawr, ar hyn o bryd, mae gennych chi gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae hwn wedi cefnogi 242 o brosiectau, gan arbed 716,000 tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei allyrru, gan gynhyrchu £322 miliwn mewn incwm a chynilion lleol. O'ch datganiad, dyna'r darn wnaeth wir sefyll allan i mi ynglŷn â chyhoeddi datblygwr gwladol Cymru a phrosiectau newydd ar dir Llywodraeth Cymru a fydd wedyn yn cael eu datblygu'n fasnachol yn 2024. Am wn i, gan fynd yn ôl at wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sut fydd hwn yn gweithio gyda'r un newydd yr ydych chi'n ei sefydlu, oherwydd, yn 2021, dim ond pum prosiect ynni adnewyddadwy gafodd eu cefnogi gan y gwasanaeth? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, y dylid herio'r gwasanaeth hwn, os yw'n mynd i barhau i weithredu, i gynyddu niferoedd y prosiectau ynni adnewyddadwy y mae'n eu cefnogi?
Hefyd, mae gwerth £5.34 miliwn o brosiectau yn dod i ben ar ôl sicrhau cyllid, felly mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn nodi na chafodd y cynlluniau eu hadeiladu, ond nid oes eglurder o ran yr hyn sydd wedi digwydd i'r miliynau a gafodd eu buddsoddi. Felly, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ar hynny ymhellach. A fyddwch chi'n gydgysylltu â'r gwasanaeth i ganfod beth sydd wedi digwydd i'r rheini? Cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar barodrwydd y sector cyhoeddus i gyrraedd targed sero-net 2030 ym mis Awst 2022, felly mae ansicrwydd o fewn y sector ynghylch a allan nhw gyrraedd y targed sero-net.
Nawr, dim ond 10.4 y cant o'n cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n hyderus eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed 2030, ac nid oedd 40 y cant arall o gyrff cyhoeddus yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiad hwn. Felly, sut ydych chi'n ffyddiog eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed y sector? A chwestiwn arall: mae dau fis wedi mynd heibio ers i'r rhybudd y gallai 90 y cant o gyrff cyhoeddus fethu targed sero-net 2030, felly pa gamau rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â hyn?
Yn ddiddorol, mae'r sector iechyd yn gyfrifol am oddeutu traean o allyriadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynllun cyflawni strategaeth ddatgarboneiddio GIG Cymru wedi gosod targed o ostyngiad o 34 y cant mewn allyriadau carbon, ond y gwir amdani yw, os mai dim ond gostyngiad o 34 y cant ohonynt a gyflawnir, yna bydd yn anodd i'r sector cyhoeddus gyflawni ei darged sero-net cyffredinol. Felly, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd, sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol i weld targed mwy heriol yn cael ei osod gan GIG Cymru? Mae eraill wedi rhybuddio y bydd cyrraedd y targed yn gofyn am adnoddau ariannol ychwanegol, ac, wrth gwrs, bydd absenoldeb yr arian hwn yn rhwystr i symud ymlaen. Prif bwnc eich datganiad oedd y cwmni datblygu newydd hwn, felly sut fydd hwnnw'n gweithio gyda'r gwasanaeth ynni a oedd gennych, a sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd? Pa mor ffyddiog—? Ac, am wn i, fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi'n dweud yn 2024; mae gennym ni'r argyfwng hinsawdd nawr, a oes unrhyw ffordd o gwbl y gallai hynny gael ei gyflwyno'n gynt? Diolch.
Diolch, Janet. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cyfraniad yn y fan yna ynghylch y gwasanaeth effeithlonrwydd ynni, ac yn amlwg nid dyna yw prif bwrpas y datganiad hwn. Yn amlwg, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth effeithlonrwydd ynni i sicrhau y gallwn gael effeithlonrwydd ynni. Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhai o'r ystadegau da iawn yr ydym ni wedi'u cael mewn gwirionedd o ran canlyniadau yn y fan yna. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw.
Byddwn ni hefyd yn datblygu datblygwr ynni cymunedol, fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a fydd yn tynnu'r cynlluniau ynni lefel gymunedol sydd eu hangen arnom yn y gymuned at ei gilydd ledled Cymru—y cynlluniau ar raddfa fach sydd eu hangen arnom ledled Cymru. A byddan nhw hefyd yn gyfuniad o gynhyrchu trydan—felly o'ch paneli solar, o'ch hydro ar raddfa fach ac yn y blaen, yr wyf yn gwybod bod gennych ddiddordeb ynddyn nhw—ond hefyd yn gweithio ar effeithlonrwydd ynni'r adeiladau sy'n rhan o'r prosiect cymunedol hwnnw. Felly, yn amlwg, yr hyn sydd angen i ni ei wneud hefyd yw lleihau'r galw am gynhyrchu trydan.
Mae'r datganiad hwn, er hynny, am datblygwr ar raddfa fawr iawn sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan ddechrau ar dir Llywodraeth Cymru, i gymryd ei le gyda nifer o gwmnïau sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru. Mae Scottish Power, er enghraifft, yn darparu, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, y grid yn y gogledd. Mae hyn, Llywydd Dros Dro, yn un o'r hen ystrydebau wedi ei wireddu: felly, mae'n debyg mai'r amser gorau i wneud hyn oedd tua 40 mlynedd yn ôl, a'r amser gorau wedi hynny yw nawr. Felly, dyma ni—rydym ni'n ei wneud. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud hefyd yw gwahodd menter ar y cyd â chwmnïau'r sector preifat—rwy'n dweud 'sector preifat' gyda dyfynodau o'i amgylch, oherwydd cwmni pŵer cenedlaethol o Sweden, cwmni pŵer cenedlaethol yr Alban, cwmni pŵer cenedlaethol yr Almaen, Denmarc yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, wyddoch chi, mae'r rhain yn gwmnïau sydd yno'n barod, felly dydyn nhw ddim yn rai sector preifat mewn gwirionedd; maen nhw'n weithredwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth—i weithio ochr yn ochr â ni i wneud yn siŵr, wrth gynhyrchu'r math o ynni sydd ei angen arnom ledled Cymru o bob math o ynni adnewyddadwy, er ein bod yn dechrau ar ystad Llywodraeth Cymru gyda gwynt, rydym yn dychwelyd y buddsoddiad yn hwnnw, nid yn unig mewn buddion cymunedol ond y buddsoddiad gwirioneddol yn ôl i bobl Cymru, ac mae'r cwmnïau eraill hynny'n gallu gwneud hynny i'w dinasyddion cenedlaethol nhw. Wrth wneud hynny, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gallu ailfuddsoddi mewn cydnerthedd ynni a effeithlonrwydd ynni, sef dwy ochr o'r un geiniog—rwy'n cytuno'n llwyr â chi.
Felly, rwy'n falch eich bod chi'n croesawu hyn. Bydd yn cymryd blwyddyn i ni sefydlu'r cwmni yn iawn, oherwydd mae hon yn strategaeth fuddsoddi fawr, y mae'n rhaid i ni ei gwneud er mwyn cael ein hagenda pontio teg yn weithredol mewn gwirionedd. Gwn eich bod yn rhannu ein huchelgais na ddylai pobl Cymru, wrth bontio i economi werdd, ddioddef y problemau y gwnaethom eu dioddef mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol. Felly, dyma'r cam mawr cyntaf ymlaen wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau cyfoeth ein diwydiant adnewyddadwy ar gyfer pobl Cymru.
Diolch, Gadeirydd dros dro, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n dda clywed mwy am fel y gall y sector cyhoeddus chwarae rôl bwysig wrth inni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae hyn wedi codi yn barod, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth i ni siarad ychydig am hyn. Roedd hi'n peri pryder clywed bod Audit Wales wedi dweud dros yr haf ei bod hi'n glir y byddai'r sector yma yn gorfod—er mwyn iddyn nhw gyrraedd y nod o net sero gydag allyriadau carbon erbyn 2030, dywedodd yr archwilydd fod angen i gyrff cyhoeddus gwneud mwy yn gyflymach. Gwnaethon ni glywed fod heriau mawr yn eu ffordd nhw, a bod angen i Lywodraeth Cymru eu helpu nhw i ddod dros yr heriau hyn.
Fel rydyn ni wedi clywed, o'r 48 corff cyhoeddus yr oedd Audit Wales wedi siarad â nhw, dim ond dau oedd wedi asesu goblygiadau ariannol cyrraedd y nod yma yn llawn. Dywedodd y cyrff cyhoeddus fod angen arnynt fwy o fuddsoddiad, a bod angen iddyn nhw ffeindio ffyrdd fwy agile neu wahanol, newydd o ddefnyddio’u harian. A gaf i ofyn i chi yn gyntaf, Weinidog, ymateb i’r pryderon ariannol a dweud sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, efallai’n ffocysu ar ein system ynni? Hefyd, datgelwyd problemau gyda chapasiti a bylchau yn y sgiliau sydd yn y sector. Dywedodd y cyrff fod eu hadnoddau nhw’n cael eu defnyddio ar gapasiti llawn yn barod wrth iddyn nhw ddelio â gwasanaethau craidd, ac nad oes ganddyn nhw wastad y sgiliau arbenigol i ddelio â natur gymhleth datgarboneiddio.
Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Weinidog, fod angen gweithlu gyda’r sgiliau gwyrdd hyn er mwyn inni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld y newid sydd ei angen. Felly, a gaf i ofyn i chi osod allan eich vision chi ar gyfer y gweithlu? Ymhellach i hynny, sut ydy’r Llywodraeth yn annog cydweithrediad yn y sector cyhoeddus yn y materion hyn? Mae adroddiad yr archwilydd yn sôn am bwysigrwydd rhannu gwybodaeth, capasiti ac arbenigedd, felly buaswn i’n hoffi clywed eich persbectif chi ar hynny.
Yn olaf ond un, mae data yn her sylweddol yn hyn. Mae’n glir bod dyfodol ein system ynni, a rôl ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus, yn dibynnu ar ddata sydd yn ddibynadwy. Galwodd yr archwilydd ar gyrff cyhoeddus i wella’u dealltwriaeth nhw o allyriadau carbon. Beth ydy’r Llywodraeth yn gwneud i gefnogi hynny a beth sy’n cael ei wneud i wella casglu data gan y Llywodraeth ei hun wrth ystyried hyn? Yn olaf, Weinidog, hoffwn i ofyn: beth oeddech chi’n ei olygu wrth 'returns'? Roeddech chi'n dweud
'nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan...diwedd y degawd'.
Ai prosiectau oeddech chi’n golygu wrth hwnna, neu returns on investment? Ac yn olaf, o ran yr amserlen, 'the end of the decade', roeddech chi’n dweud. Ydych chi’n cytuno, yn sicr o ran prosiectau ynni cymunedol, fod angen mwy o frys na hynny?
Diolch yn fawr. Sori os oedd hwnna bach yn gyflym ar gyfer y cyfieithwyr.
Does dim angen ymddiheuro i’r cyfieithwyr. Maen nhw’n fwy na ddigon abl i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud yn y Siambr yma.
Ac rydw i, o'm rhan fy hun, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw yn wir, Llywydd, oherwydd mae arna i ofn nad yw fy Nghymraeg i yn ddigon da i drafod ynni adnewyddadwy yn fanwl ar hyn o bryd, er cymaint yr hoffwn iddi fod.
Felly, Delyth, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y sylwadau hynny. Fe wnaethoch chi gwmpasu cryn dipyn mewn ychydig iawn o amser yn y fan yna, felly mi wnaf i fy ngorau i ateb rhywfaint o'r cwestiynau hynny, ond mi fyddaf i'n dechrau o gynsail y datganiad, sef mai dyma'r cyhoeddiad amdanom ni'n ffurfio datblygwr ynni sylweddol gwladol. Felly, mae hyn yn raddfa lawer mwy na'r prosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae hwn yn ddatblygwr o bwys. Dyna pam mae'n cymryd degawd i weld unrhyw enillion, oherwydd bydd yn cymryd mor hir â hynny i adeiladu'r fferm wynt gyntaf, y mae gennym ni blot eisoes wedi'i neilltuo ar ei chyfer, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â phob agwedd o ddatblygu hynny, gan gynnwys yr holl ganiatâd cynllunio a'r ymgysylltu cymunedol a'r holl bethau yr ydym ni'n disgwyl i ddatblygwyr eraill ei wneud. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni fuddsoddi o flaen llaw i alluogi'r datblygwr i wneud hynny, ac ni fydd gennym ni fferm wynt weithredol yn cynhyrchu ei helw am beth amser. Felly, dyna yw'r oedi yn y peth arbennig yma.
Y peth arall i'w ddweud yw, oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio ein grid yn gyflym—ac, a dweud y gwir, rwyf wedi colli pob ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i weithredu yn hyn o beth; rwy'n gobeithio fy mod i'n anghywir a'u bod nhw'n rhoi trefn ar eu hunain, ond, ar hyn o bryd, nid yw pethau'n edrych yn wych. Wyddon ni ddim eto pwy yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Ond oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio'r grid, wrth gwrs bydd cyrff yn y sector cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru yn ei chael hi'n anodd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd datgarboneiddio'r grid y maen nhw'n cael eu hynni ohono yn y lle cyntaf yw un o'r camau mawr ymlaen, ac mae hynny'r un peth ar gyfer tai ac i weithredwyr masnachol ledled Cymru. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, Llywydd, y buom ni'n cael trafodaeth dda gyda'r Gweinidog ar y pryd am gael grid wedi'i gynllunio i Gymru, trefniant datblygu rhwydwaith a oedd yn caniatáu inni gynllunio'r grid a pheidio ag ymateb i rymoedd y farchnad drwy'r amser. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n goroesi'r cynnwrf presennol yn Llywodraeth y DU, oherwydd wrth gwrs mae hynny'n ein galluogi nid yn unig i roi ein generaduron adnewyddadwy mawr ar waith, ond yn bwysicach o lawer, Delyth, mae'n caniatáu i'r holl gynlluniau cymunedol bach ledled Cymru gysylltu â'r grid, i ddefnyddio ynni pan fydd ei angen arnynt, ond, yn bwysicach o lawer, i gyfrannu ynni pan fydd ganddyn nhw ynni dros ben, ac felly'n helpu gyda'r holl argyfwng costau byw a gyda datgarboneiddio.
Yn amlwg, fel y dywedais i mewn ymateb i Janet, dyma un ochr i ddull deublyg. Fe wyddoch chi, o dan y cytundeb cydweithio, ein bod ni'n bwriadu creu Ynni Cymru. Ynni Cymru fydd y datblygwr ynni cymunedol ledled Cymru ar gyfer yr holl brosiectau bach, gan eu tynnu at ei gilydd. Mae'n cael ei drafod ar hyn o bryd ond mae'n debyg—wel, rwy'n gobeithio—y bydd ganddo berthynas â gwasanaeth ynni Cymru, neu hyd yn oed yn disodli hynny, er mwyn dod a'r ddwy agwedd ar hynny—y datgarboneiddio, insiwleiddio, yr ôl-osod a'r agwedd cynhyrchu ynni—at ein gilydd, oherwydd mae'n rhaid inni ddefnyddio llai a sicrhau ein bod yn defnyddio'r hyn y gwnaethom ni ei gynhyrchu yn effeithlon iawn er mwyn cyflawni unrhyw beth yn agos at sero net.
O ran sgiliau, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, a fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, i sicrhau bod gennym ni'r cyfle datblygu economaidd wedi'i amlygu a bod gennym ni'r sgiliau cynhyrchu, fel ein bod ni'n penodi'r prentisiaid cywir, yn sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n colegau addysg bellach i fod yn cynhyrchu'r mathau cywir o brentisiaid i weithio ar y prosiectau hyn, ond mewn gwirionedd, byddwn ni hefyd yn gweithio, wrth gwrs, gyda'n prifysgolion hefyd, oherwydd un o'r manteision mawr o gael datblygwr gwladol yw y caiff ei gynllunio a'i redeg yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn mewnforio rhywbeth sydd â'r rhan fwyaf o'r swyddi mawr yn ôl ym mha bynnag wladwriaeth weithredu yr ydych yn sôn amdani. Felly, mae'r gobaith yma wedi fy nghyffroi'n fawr. Mae hwn yn gam mawr ymlaen mewn clytwaith o bethau sydd angen i ni eu gwneud gyda'n gilydd er mwyn cael yr economi werdd llawer gwell a llawer mwy gwyrdd i Gymru y mae arnom ni i gyd ei heisiau.
Yn wyneb graddfa anhygoel yr argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu a'r angen i gyrraedd sero net, mae hwn yn ddatganiad i'w groesawu heddiw ac yn enwedig y cynigion ynghylch datblygwr gwladol Cymreig. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog, yw: fe wyddoch chi ar garreg fy nrws—dydw i ddim yn gofyn i chi wneud sylw ar y cais unigol, peidiwch â phoeni, ac ni fydd yn dod atoch chi tan, rwy'n credu, 2023—mae gennym y cynnig ar gyfer datblygiad Bryn. Dyma fydd un o'r mwyaf yng Nghymru, os nad yn Ewrop. Rhain hefyd fydd rhai o'r tyrbinau gwynt talaf. Rwyf wedi eiriol yn gyson, gyda llaw, dros bŵer gwynt yr holl flynyddoedd yma. Mae'r rhain yn union gyferbyn â fy nhŷ i; rwy'n parhau'n eiriolwr cyson ohonynt oherwydd yr her honno sydd gennym ni. Ond mae'n ddiddorol iawn ei fod yn gorgyffwrdd; mae'r amseru yn anghywir. Gallai'r cynllun hwn fod wedi bod yn un o rai'r datblygwr gwladol. Iawn, felly os yw'n anghywir, fe ddywedasoch chi hefyd yn eich datganiad:
'Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru.'
Wel, dyma un o'r rhai eraill hynny. Beth ddywedaf i wrthyn nhw pan fyddaf yn eu cyfarfod nesaf ar ran fy etholwyr am faint o ymgysylltu cymunedol, llog, cyfranddaliadau, enillion, ôl-osod, beth bynnag, y dylem ni ddisgwyl ganddyn nhw os yw hyn yn mynd i fod yn un o'r datblygiadau gwynt mwyaf ar y tir nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop? Beth ddylem ni fod yn ei fynnu ganddyn nhw?
Diolch yn fawr, Huw. Felly, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i wneud sylw ar yr agwedd benodol yna, ond yn gyffredinol, un o'r rhesymau mae arnom ni eisiau cwmni gwladol sy'n eiddo i ni, ddinasyddion Cymru, yw i roi pwysau ar yr holl ddatblygiadau eraill ledled Cymru i ddangos beth y gellir ei wneud mewn menter ar y cyd rhwng datblygwr gwladol ac ymgysylltu â'r gymuned a'r partner cyd-fentro. Rydym ni wedi gwneud gwaith da iawn gyda'r buddion cymunedol, ond mae buddion cymunedol yn gyfyngedig; dydych chi ddim yn cael elw uniongyrchol yn ôl o hynny. Mae'n gyfran elw o fath, ond nid yw'n elw uniongyrchol. Yr hyn rydym ni'n bwriadu ei wneud yw cael ffermydd gwynt ledled Cymru—ac rwy'n pwysleisio'n llwyr nad ydw i'n siarad am unrhyw un penodol yma—hoffem i ffermydd gwynt ledled Cymru ymgysylltu â ni o ddifrif wrth sicrhau, wrth adeiladu pa bynnag fferm wynt maen nhw'n ei hadeiladu, fod rhai o'r tyrbinau yn eiddo uniongyrchol i'r gymuned leol. Felly, maen nhw'n cael budd cymunedol o'r fferm wynt gyfan, ond maen nhw mewn gwirionedd yn berchen ar rai o'r tyrbinau—felly, fe gânt eu codi ar ran y gymuned.
Yr hyn y mae arnom ni eisiau ei wneud, wrth ddatblygu gyda Phlaid Cymru a'n cynlluniau o dan y cytundeb cydweithio—ac mae hyn, rwy'n pwysleisio, yn cael ei ddatblygu, nid yw hyn wedi'i gytuno, ond mae'n un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael—yw gweld a yw'r cwmni hwnnw—felly, nid yr un yma yr wyf yn siarad amdano yn y fan yma, ond y bydd y cwmni arall hwnnw—yn gallu hwyluso'r berchnogaeth honno ar ran pobl leol, oherwydd un o'r materion mawr i ni yw nad yw pobl leol yn debygol o allu prynu stociau yn y cwmnïau hynny. Felly, i hwyluso'r berchnogaeth honno. Felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol, ac, wrth gwrs, felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol drwy gydol yr holl broses—felly, wrth ymgysylltu, wrth ddylunio, wrth adeiladu, gyda sgiliau, wrth ddarparu prosiectau ynni ac ôl-osod cartrefi, wrth uwchsgilio cymunedau cyfan.
Un o'r pethau rwy'n ei ddweud yn aml mewn sgyrsiau gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy—a dyma pam mae'r agwedd grid o hyn mor bwysig—yw bod yna gartrefi drwy Gymru benbaladr sy'n gallu edrych allan o ffenest a gweld fferm wynt ond sydd ar olew nad yw'n rhan o'r grid, sydd ddim yn gallu uwchraddio eu tai er mwyn gallu manteisio ar bethau fel pympiau gwres ffynhonnell aer oherwydd bod y buddsoddiad yn ormod iddyn nhw. Gall y ffermydd gwynt hynny gyfrannu'n uniongyrchol at hynny. Mae angen i ni uwchsgilio ein cymunedau i allu gofyn am y peth cywir mewn buddion cymunedol. Mae angen i ni gael yr elw uniongyrchol iddyn nhw o fod yn berchen ar rai o'r tyrbinau, a bydd i'r datblygwr sylweddol hwn ran allweddol yn llywio'r sgwrs honno i gyfeiriad cyd-fentro.
Rwy'n prysuro i ddweud eto nad ydw i'n trafod unrhyw gais penodol yma, ond, yn amlwg, yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi pwysau ar yr holl system fel ei fod yn ymddwyn mewn ffordd benodol, a gobeithio y bydd hyn nid yn unig ar gyfer gwynt ar y tir, ond hefyd ar gyfer gwynt ar y môr. Rydym ni wedi cael sgyrsiau da iawn gyda Ystad y Goron hyd yn hyn. Rydym ni'n gobeithio'n fawr cael sgwrs debyg am berchnogaeth a gweithrediad cynlluniau gwynt ar y môr hefyd, oherwydd rydym ni'n siarad yn y fan yna am gynhyrchu symiau sylweddol iawn o ynni.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, Gweinidog, mentrodd Cyngor Sir Fynwy, yn ôl pan oeddwn i'n arweinydd, sefydlu ei fferm solar ei hun ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y Crug. Y bwriad oedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer tua 1,400 o gartrefi a lleihau allyriadau carbon. Gofynnodd y cyngor i Lywodraeth Cymru ar y pryd ymuno â'r prosiect fel partner, a chawsom gefnogaeth a chyllid derbyniol drwy'r gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed er mwyn helpu i gyflawni hynny. Rwy'n siŵr bod llawer o enghreifftiau gwych eraill ar draws yr holl awdurdodau ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at ddau rwy'n gwybod amdanynt, ac rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn cyflwyno cynlluniau ynni manwl iawn, ac rwy'n croesawu'r mentrau rydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw fel y gallwn ni gynyddu prosiectau ynni a'u darparu'n gynt yn lleol.
Roedd yr archwiliad manwl i gynlluniau ynni adnewyddadwy a gynhaliwyd y llynedd yn argymell bod angen i ni edrych ar ffyrdd o wella mynediad at dir cyhoeddus a phrosiectau ynni lleol, yn ogystal â meithrin gallu ychwanegol yn y mentrau cymunedol, er mwyn helpu i gychwyn y cynlluniau newydd hynny. Gweinidog, roedd arna i eisiau gwybod yn fras sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog llywodraeth leol i ddatblygu gwybodaeth a gallu ychwanegol mewn awdurdodau lleol a strwythurau rhanbarthol i helpu i gynyddu cynlluniau ynni adnewyddadwy presennol a newydd, fel y gallwn ni greu sector mwy, a mwy cynaliadwy. Diolch.
Diolch yn fawr, Peter. Rwy'n cofio hynny'n iawn, gyda phleser mawr hefyd. Ac un o'r pethau mae arnom ni eisiau ei wneud yw cynorthwyo cynghorau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n gwneud nifer o bethau eraill hefyd—felly, er enghraifft, gwella bioamrywiaeth, annog plannu coed o gwmpas yr ymylon ac ati, yr holl bethau y gwnaethom ni eu trafod yng nghais sir Fynwy, ac, mewn gwirionedd, gyda nifer fawr o awdurdodau eraill ledled Cymru.
Felly, mae gennym ni strategaeth ynni rhanbarthol—rwy'n siŵr eich bod yn cofio hyn; roedd yn destun cryn sgwrsio—ac rydym ni wedi cefnogi pob rhanbarth i adnabod faint o newid sydd ei angen i gyrraedd system ynni carbon isel ar gyfer ei ranbarth. Roedd y strategaeth ranbarthol yn gosod yr uchelgais honno. Nid oes ganddyn nhw ddigon o fanylion ynddyn nhw ar hyn o bryd i lywio'r cam cyflawni gwirioneddol, ond byddant yn sail i'n cynllun ynni ar gyfer Cymru. Byddwn ni wedyn yn mynd i lawer mwy o fanylion drwy'r cynlluniau ynni ar gyfer ardaloedd lleol—rydym ni wedi arbrofi gyda Chonwy a Chasnewydd, y credaf i mi grybwyll yn barod—ac yna byddwn yn cyflwyno hynny i bob awdurdod lleol ar gyfer cefnogaeth debyg, gan gyflawni ein hymrwymiad i bob ardal yng Nghymru gael cynllun ynni lleol manwl erbyn mis Mawrth 2024. Bydd hynny'n ein helpu i siarad â gweithredwr y grid, a fydd, gobeithio, nawr yn weithredwr grid wedi'i gynllunio, am beth yw'r gofyniad ynni ym mhob un o'r meysydd hynny a beth yw'r gofyniad effeithlonrwydd ynni ym mhob un o'r meysydd hynny, drwy'r gwasanaeth ynni a thrwy'r cynlluniau ardal, a wneir gyda'n partneriaid awdurdod lleol, na fydden ni hebddyn nhw yn gallu gwneud dim o hyn, wrth gwrs. Ac yna bydd hynny'n rhoi'r cynllun sgerbwd ar gyfer cynllun ynni cenedlaethol Cymru, sef y glasbrint i arwain grid cydlynol—haleliwia, greal sanctaidd grid cydlynol—wedi ei gynllunio am y tro ac at y dyfodol, gyda'r llinellau grid ar hyd y gogledd a'r de yn cael eu huwchraddio, ond hefyd i lenwi'r hyn sydd i bob pwrpas yn ddim grid ar draws rhannau helaeth iawn o ganolbarth Cymru.
Felly, rydym ni'n rhoi'r cynlluniau hynny ar waith, gyda'n partneriaid awdurdod lleol, ac mae Rebecca a minnau wedi cael llawer o sgyrsiau am hyn gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Mewn gwirionedd, mae'n eitem sefydlog yn y cyngor partneriaeth i fynd i'r afael â sero net a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, rydym ni'n gwbl ddibynnol arnyn nhw i wneud hyn, ond maen nhw'n hapus iawn i'w wneud gyda ni, i gael y system arfaethedig gydlynol honno ar waith, felly rydym ni'n deall yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydym ni'n deall beth yw ein huchelgais, gallwn ei gyflawni'n lleol ac ar y lefel genedlaethol newydd, fawr hon er mwyn cael yr elw gorau i bobl Cymru o'n hadnoddau naturiol toreithiog.
Rwy'n croesawu'r fenter yn fawr i sefydlu cwmni gwladol newydd. Mae angen i ni ddysgu o brofiad Norwy, y gwnaethon nhw, ar ôl darganfod olew yno, sefydlu'r hyn sydd bellach yn gronfa cyfoeth sofran fwyaf y byd. A beth gawsom ni? Dim; mae'r cyfan wedi diflannu mewn pwff o fwg ac mae'r cwmnïau preifat wedi mynd â'r arian i gyd.
Felly, rwyf wedi bod yn rhwystredig ers tro nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu datblygu ynni adnewyddadwy ei hun, yn hytrach na rhoi consesiynau i gwmnïau tramor o ryw fath neu'i gilydd, oherwydd nid yw'r cymunedau sy'n byw yn yr ardaloedd lle mae gennym ni'r fath botensial yn deall gwerth y gweithgarwch adnewyddadwy a fydd yn digwydd yn eu hardal ac, a bod yn onest, mae'r cwmnïau hyn wedi cael dianc gan gynnig dim byd ond arian mân. Mae cyn lleied o gynlluniau ynni adnewyddadwy sydd wedi bod o fudd uniongyrchol i'r cymunedau lleol eu hunain mewn gwirionedd. Mae cynllun hydro Bethesda, a gefnogwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn un lle mae budd uniongyrchol i gymunedau, ac mae Awel Aman Tawe, yr ydw i'n fuddsoddwr ynddo, hefyd wedi bod o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol. Ond mae'n stori gymhleth, onid yw, i geisio buddsoddi mewn ynni newydd. Ond mae gennym ni gymaint o bosibiliadau o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac rydym ni'n gwybod y gallwn ni ei werthu i unrhyw nifer o wledydd tramor, wedi i ni fodloni ein hanghenion ein hunain. Felly, mae'n debyg fod arna i eisiau deall ychydig mwy am yr amserlenni, oherwydd rwy'n sylweddoli bod angen pwyll i gael telerau unrhyw brosiect cyd-fentro yn iawn, ond, yn y cyfamser, mae gennym ni'r argyfwng ynni ofnadwy yma. Pa mor gyflym allwn ni fod, ochr yn ochr, yn datblygu cynlluniau posibl a fydd yn barod i'w gweithredu unwaith y bydd gennych chi'r telerau ariannol cywir gyda phwy bynnag fydd eich partner cyd-fentro?
Ie, diolch i chi, Jenny. Rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny i gyd. Er hynny, mae rhai enghreifftiau da iawn, o amgylch Cymru, yr ydym ni'n cyfeirio pobl atyn nhw. Felly, Pen y Cymoedd, wn i ddim a ydych chi wedi llwyddo i fynd yno, ond mae'n werth mynd yno. Mae'r fioamrywiaeth gynyddol o gwmpas yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'sbotio' y tyrbinau wedi bod yn rhyfeddol. Mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd. Mae'r ymgysylltu â phobl leol sydd bellach yn defnyddio'r goedwig, lle nad oedden nhw o'r blaen, wedi bod yn rhyfeddol, ac mae'r pecyn buddiannau cymunedol wedi darparu budd gwirioneddol i'r gymuned honno. Mae'r cwmni yna'n weithredwr gwladol, wrth gwrs, a dyna'r pwynt, ynte? Ond mae'r elw go iawn yn mynd yn ôl i'r gweithredwr gwladol a dyna'r darn yr ydym ni am gael ein dwylo arno, os mynnwch chi.
Dim ond un elfen o nifer fawr o bethau rwyf wedi bod yn ceisio eu hamlinellu heddiw yw hyn. Felly, dyma'r cynhyrchydd ynni sylweddol a fu ar goll o'r cynllun hyd yma. Ond, ni fydd hynny'n gweithio oni bai bod gennym ni ddyluniad y rhwydwaith cyfannol—i ddefnyddio'r jargon—felly, y grid arfaethedig, fel yr wyf yn ei ddisgrifio, fel y gallwn ni ei gyflenwi'n iawn, fel y gallwn ni gael y grid angenrheidiol i ni ddiwallu anghenion pobl ac y gallwn ni gael pobl oddi ar olew y tu allan i'r grid, er enghraifft. Mae angen ymgysylltu â'r gymuned hefyd er mwyn sicrhau bod y cymunedau yn deall yr hyn sy'n angenrheidiol iddyn nhw. Ac nid bod yn llyffetheiriol yw hynny; fyddai gen i ddim y syniad lleiaf oni bai bod rhywun yn gallu fy helpu i ddeall beth sy'n bosib yn fy nghartref penodol i ac yn fy ardal benodol i ar gyfer effeithlonrwydd ynni ac yn y blaen. Felly, dyna'r cynlluniau ardal yr oeddwn yn sôn amdanynt; dyna gynllunio cyfannol ar gyfer anghenion y gymuned yn y dyfodol, ar gyfer creu ei hynni ac o ran ei effeithlonrwydd—mae angen i ni wneud yr holl bethau hynny.
Mae angen i ni gael cynlluniau ynni adnewyddadwy bach ar draws Cymru ar hyn o bryd, yn benodol iawn, oherwydd gallan nhw weithiau osgoi problemau'r farchnad ynni. Dim ond i fod yn glir iawn, ar hyn o bryd, gyda'r ffordd hurt y mae'r farchnad ynni'n gweithio ar hyn o bryd, hyd yn oed pe bai gennym ni weithredwr adnewyddadwy gwladol, byddai'n dal i godi pris ymylol nwy am ei ynni, sy'n amlwg yn hurt bost. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i newid y farchnad ac mae hi wedi bod yn ddiffygiol iawn yn gwneud hynny yn anffodus. Ac, yn y Bil newydd sy'n mynd trwy Senedd y DU, y cyflwynais i gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ei gylch yn ddiweddar iawn, roeddwn i'n glir iawn, er bod angen hynny i wneud yn siŵr bod pobl Cymru yn cael rhywfaint o'r budd, nad yw'n gwneud i'r farchnad ynni yr hyn sy'n ofynnol i wneud iddo weithio. Felly, dim ond i fod yn glir, gall cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol gyflawni hynny oherwydd y gallan nhw wneud hynny oddi ar y grid, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n gydnerth ac yn gallu ymuno â'r grid unwaith y cawn ni farchnad ynni mwy synhwyrol. Felly, mae'n ddrwg gennyf am fod yn dechnegol iawn am y gwahanol elfennau o hynny, ond mae'n bwysig ein bod yn ceisio gweithredu gyda'r hyn sydd gennym ni nawr yn y ffordd orau, ond hefyd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn ni elwa ohono mewn ffordd sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.
Prynhawn da, Gweinidog. Mae hyn yn swnio'n anhygoel. Diolch o galon am y datganiad—gweledigaeth go iawn, hirdymor o'r hyn a dybiwn fydd dyfodol ein hynni, pan fo yna demtasiwn i bleidiau gwleidyddol ddim ond edrych ar y tymor byr. Felly, diolch o galon.
Dim ond dau sylw cyflym iawn, os caf i. Dim ond o ran edrych ar brosiectau ynni bach adnewyddadwy yn y gymuned, dim ond o ran ceisio deall sut y bydd y datblygwr adnewyddadwy newydd hwn i Gymru mewn gwirionedd yn cefnogi ac yn helpu'r bobl hynny sydd eisiau datblygu eu hynni cymunedol. Sut bydd yn eu cefnogi? Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth yr Alban gynllun da iawn, a dim ond meddwl ydw i tybed a fydd yna gynlluniau tebyg.
Yn ail, yr wythnos hon, fel y gwyddom ni i gyd, rwy'n siŵr, yw Wythnos y Gwynt. Felly, gwych clywed yr holl ymrwymiad i ynni gwynt, yr wyf hefyd yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwyf wedi bod yn clywed llawer am y potensial am wynt ar y môr ym mhorthladd Aberdaugleddau. Ond, un o'r materion maen nhw'n eu codi yw cyflymu ein hymrwymiad a'n gallu i osod y llwyfannau gwynt hynny, a'r materion yn ymwneud â chynllunio. Felly, dim ond meddwl oeddwn i tybed allech chi helpu ychydig bach mwy gyda hynny. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Jane, am hynny. Rwy'n falch iawn, fel y dywedaf, wrth fy modd, yn cyhoeddi hyn, yr hyn sy'n fuddsoddiad tymor hir iawn i bobl Cymru. Rwy'n siŵr na fydd hi'n ddadleuol, dim ots pwy fydd y Llywodraeth ar ein holau, oherwydd dylen ni fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl, ond yr ail adeg orau yw nawr. Felly, dyma ni, yn mynd amdani.
Mae hyn yn ychwanegol i ynni cymunedol. Felly, ni fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ynni cymunedol. Ond, mae angen ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr arnom ni hefyd, ac, fel rwyf wedi bod yn dweud, y ffordd rydym ni'n gweld hyn yn gweithio yw y bydd yr elw o hyn yn dod yn ôl yn uniongyrchol i bobl Cymru. Nid buddion cymunedol yn unig fel a geir mewn mannau eraill. Ac yna, gellir ail-fuddsoddi'r elw hwnnw i nifer fawr o brosiectau, cynlluniau ynni adnewyddadwy eraill sylweddol, ond, wrth gwrs, ynni adnewyddadwy cymunedol hefyd. Mae hefyd yn rhoi troedle go iawn i ni yn y cynllunio ar gyfer y grid, sy'n bwysig iawn, ac rwy'n pwysleisio hynny o hyd. Ac mae'n rhoi prosiect enghreifftiol i ni, i bob diben, o sut y gellid gwneud hyn ledled Cymru. Felly, wrth ateb Huw Irranca, roeddwn i'n dweud y bydd hyn yn ymwneud â'r math gorau o ymgysylltu, y math gorau o gyd-fentro â phartneriaid yn y sector preifat, a'r math gorau o gydberchnogaeth gymunedol, hyd yn oed ar brosiect adnewyddadwy mawr. Felly, mae gennym ni lawer o uchelgais ar gyfer y prosiect hwn cyn iddo ddechrau hyd yn oed.
Ac yna, ynghylch rhan arall eich cwestiwn, rydym ni wedi cynnal adolygiad trwyadl fel yr argymhellodd yr archwiliad manwl, ynglŷn â thrwyddedu morol yng Nghymru, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny'n dod i gasgliad nawr. Byddwn yn addasu'n Bil Cydsynio Seilwaith, fydd yn dod i'r Senedd erbyn diwedd eleni—felly, 'tymor yr haf' mewn ffordd o siarad. Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ein proses gydsynio, ond mae'n hanfodol bod gennym ni barhad o'r rheoliadau cynefinoedd oherwydd holl ddiben hyn yw cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder y darparu, fel ein bod yn gweithredu ar lwyfan byd-eang, ac amddiffyn yr amgylchedd, fel nad oes gennym ni ganlyniadau anfwriadol. Felly, bydd y darn nesaf o waith yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn.
Yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Llywydd. Fel eraill, Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad rydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r fenter rydych chi'n ei chymryd yn fawr. Hoffwn barhau â'r hyn a ddywedodd Aelodau eraill yn yr un ysbryd y prynhawn yma, ac efallai cymryd golwg wahanol i chi. Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud wedi amlinellu y bydd yr endid gwladol hwn yn canolbwyntio ar fentrau ar raddfa fwy, ac rwy'n croesawu hynny—mae'n rhan bwysig o'r cyfuniad cyffredinol. Ond, mae fy niddordeb go iawn ar raddfa ychydig yn wahanol. Mae'r ystad gyhoeddus yn enfawr ledled Cymru, ac yn berchen ar amrywiaeth o gyfleusterau, adeiladau a thir gwahanol, a fy niddordeb i yw sut ydym ni, mewn amgylchedd trefol, yn darparu dulliau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau yn yr Almaen a Ffrainc, er enghraifft, lle mae'r wladwriaeth wedi ymyrryd i sicrhau bod yna economi gyflenwi gymysg gyda gwahanol ffyrdd o gynhyrchu. Ydych chi'n gweld y cwmni gwladol hwn yn cyflawni mewn ffordd fwy ystwyth, os mynnwch chi—cyflawni ar gyfer amgylchedd trefol yn ogystal ag ar gyfer amgylchedd ehangach a mwy gwledig?
A sut ydych chi'n gweld y cwmni ynni, Ynni Cymru, yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar gyfer datblygiad cymunedol ar raddfa fach, yr arbenigedd y bydd ei angen er mwyn darparu'r cyngor i bobl ynghylch sut i fynd ati, ac yna'r buddsoddiad rydych chi eisoes wedi'i ddisgrifio yn y grid? Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai dyna'r rhwystrau, ac os ydym ni am oresgyn y rhwystrau a chyflawni'r math o gynhyrchu ynni gwasgaredig y credaf y byddem ni i gyd yn cytuno arno, yna mae angen i ni allu gwireddu'r materion hynny. Rwy'n credu bod y cyhoeddiad rydych chi'n ei wneud y prynhawn yma wedi'i gynllunio i raddau helaeth i fynd i'r afael â pholisi ynni mewn ffordd y credaf yr hoffai pob un ohonom ei weld, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud hynny.
Ydy, yn hollol, Alun. Felly, fel rwy'n dweud, dyma un o'r amryw bethau y mae angen i ni eu gwneud i ddod at ein gilydd i allu cyflawni'r math o grid ynni ar draws Cymru mae arnom ni ei eisiau. Felly, mae'r mentrau trefol yn ddiddorol iawn. Rydym yn disgwyl i ddatblygwr adnewyddadwy sylweddol gloriannu a oes cyfleoedd sylweddol yn rhai o'n mannau trefol, er enghraifft, defnyddio toeau ar adeiladau ac yn y blaen, fel y gwelwch chi mewn mannau eraill. Mae rhai materion gwirioneddol yn ymwneud â solar, na fydda i'n ymhelaethu arnyn nhw nawr—bydd y Llywydd yn dweud y drefn wrthyf am faint o amser rwy'n ei gymryd—ond byddai'n ddiddorol iawn sicrhau y gallwn ni fanteisio ar dechnolegau sy'n cael eu datblygu yn ein prifysgolion yma yng Nghymru ar hyn o bryd i gael paneli solar a wnaed yma, a weithgynhyrchwyd yma yng Nghymru, mewn ffordd lawer gwell a mwy carbon-niwtral nag sy'n digwydd yn aml. Mae gen i ddiddordeb mawr sicrhau y bydd rhai o'r toeau sy'n cael eu cynhyrchu gyda elfennau ffotofoltäig eisoes ynddyn nhw mewn gweithfeydd dur o amgylch Cymru'n cael eu defnyddio yn y mathau hynny o adeiladau. Mae yna, efallai, swyddogaeth i'r datblygwr sylweddol hwn yn hynny. Credaf mewn gwirionedd ei bod hi'n llawer mwy tebygol o fod yn rhan o Ynni Cymru, datblygwr y cytundeb cydweithio, sy'n debygol o fod yn cydlynu ymdrech gymunedol i wneud y math yna o beth gyda grwpiau bach. Er enghraifft, byddai ardal gais mewn dinas yn berffaith ar gyfer tynnu'r math yna o beth at ei gilydd. Ond bydden ni'n disgwyl iddyn nhw gydweithredu, wrth gwrs, a chroesffrwythloni a gwneud yn siŵr bod yr elw yn cael ei ail-fuddsoddi'n iawn yn y mathau cywir o brosiectau. Mae gennym ni brosiect mewn golwg i ddechrau arni, ac yna un o'r tasgau mawr i ni fydd sicrhau bod gennym ni gyfres o brosiectau yn y dyfodol sy'n gyfuniad o'r holl bethau hynny mae'n debyg.
Diolch i'r Gweinidog.