– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 26 Hydref 2022.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau fy sylwadau agoriadol, dylwn rybuddio unrhyw un sy’n gwrando ar y ddadl heddiw y byddaf yn siarad mewn ffordd gyffredinol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant a phobl ifanc. Efallai y bydd rhywfaint o'r hyn rwyf fi ac eraill yn sôn amdano'n peri gofid i rai pobl.
Fe ddechreuaf drwy ddweud yn glir beth yn union rwy'n ei olygu wrth sôn am 'aflonyddu rhywiol'. Rwy'n golygu gwneud sylwadau rhywiol, jôcs, a sylwadau cas i achosi cywilydd, gofid neu ddychryn; rwy'n golygu tynnu lluniau o dan ddillad unigolyn heb yn wybod iddynt; rwy'n golygu rhannu lluniau neu fideos noeth o rywun heb eu caniatâd, neu anfon lluniau neu fideos rhywiol na ofynnwyd amdanynt. Wrth ddweud aflonyddu rhywiol, nid wyf yn golygu 'tynnu coes'. Nid 'bechgyn yn bod yn fechgyn' yw aflonyddu rhywiol, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Nid bwlio mohono, chwaith. Pan fyddaf yn sôn am aflonyddu rhywiol, rwy'n sôn am fath o drais rhywiol.
Lansiwyd yr ymchwiliad hwn gennym oherwydd canfyddiadau brawychus adroddiad thematig Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, ochr yn ochr â phryderon a fynegwyd wrthyf gan gynrychiolwyr heddluoedd yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan weithwyr proffesiynol, sefydliadau a Llywodraeth Cymru rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni. Hefyd, fe wnaethom lansio arolwg wedi'i anelu at blant a phobl ifanc i ofyn iddynt pa newid roeddent am ei weld i leihau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion a cholegau.
Roedd y dystiolaeth hynod gyson a gawsom yn disgrifio cefndir torcalonnus i ddysgu llawer o blant a phobl ifanc: chwibanu, sylwadau cas, cam-drin geiriol homoffobig a thrawsffobig yn ystod y diwrnod ysgol. Ac mae'r broblem yn waeth y tu allan i'r diwrnod ysgol. Mae'r sylwadau sarhaus hynny'n parhau ar apiau negeseua a'r cyfryngau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r sylwadau hynny, mae dysgwyr yn derbyn cymaint o ddelweddau rhywiol na ofynnwyd amdanynt fel bod llawer o bobl ifanc wedi eu dadsensiteiddio i gamdriniaeth drwy ddelweddau. Mae'r broblem mor gyffredin fel bod llawer o ferched a menywod ifanc yn ei hystyried yn rhan o fywyd normal.
Dylai hynny ddychryn pob un ohonom yma. Oherwydd mae effaith aflonyddu rhywiol yn sylweddol ac yn hirhoedlog. Mae'n effeithio ar iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol pobl ifanc. Gall amharu ar hunanhyder, achosi i bobl ymwrthod ag addysg a chymdeithas, arwain at gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio a hyd yn oed ceisio lladd eu hunain. Mae'r risgiau hyn yn uwch i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed.
Mae'r ffaith bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mor gyffredin mewn ysgolion a cholegau yn adlewyrchiad o gymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae rhywiaeth, homoffobia a thrawsffobia wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ysgolion, yn union fel y maent yn ein cymdeithas yn gyffredinol. Mae pornograffi sy'n dangos rhyw afrealistig, afiach neu dreisgar hyd yn oed ar gael yn hawdd, a dyma'r addysg rhyw gyntaf y mae llawer o bobl ifanc yn ei chael. Ac er bod y cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseua'n darparu cyfleoedd gwych i bobl gyfathrebu a chadw mewn cysylltiad, gallant greu pwysau ar bobl ifanc i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol. Gallant fod yn gyfrwng ar gyfer aflonyddu rhywiol drwy ei gwneud yn hawdd rhannu delweddau rhywiol.
Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod gymhleth. Am y rheswm hwnnw, ychydig iawn o werth a welwn mewn beio unrhyw un am ei achosion sylfaenol. Ond rydym yn glir fel pwyllgor fod angen i lawer o bethau newid. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol a chan bobl ifanc, er gwaethaf pocedi o arferion da, fod addysg rhyw a pherthnasoedd yn wael yn gyffredinol. Clywsom nad oedd yn cael ei darparu'n ddigon da, ei bod yn annigonol, o ansawdd gwael, ac weithiau hyd yn oed yn gwbl absennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu am achosion sylfaenol aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Clywsom dro ar ôl tro fod y cwricwlwm newydd yn gyfle i wella addysg rhyw a pherthnasoedd. Gobeithiwn y caiff ei botensial ei wireddu. Ond ni fydd unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu uwch ar hyn o bryd—y rhai yn y perygl mwyaf o wynebu aflonyddu rhywiol gan gyfoedion—byth yn cael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd. Felly, boed yn yr hen gwricwlwm neu'r cwricwlwm newydd, mae'n rhaid i newid ddigwydd yn gyflym er lles pob dysgwr. Clywsom hefyd gan bobl ifanc fod staff ysgolion yn aml yn bychanu eu profiadau o aflonyddu rhywiol, yn diystyru eu pryderon, neu hyd yn oed yn anwybyddu arwyddion ei fod yn digwydd yn llwyr. Mae'n rhaid i bob ysgol ddweud yn gwbl glir wrth eu dysgwyr fod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol. Mae'n rhaid iddynt ymateb i adroddiadau o ddifrif, yn brydlon ac yn gyson.
Rydym wedi gofyn i Estyn ddiwygio eu fframwaith arolygu ar gyfer ysgolion a cholegau i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae sefydliadau addysg yn cadw cofnodion o aflonyddu rhywiol, sut y maent yn ymateb i honiadau o aflonyddu rhywiol, ac yn cefnogi dysgwyr sydd wedi’i wynebu. Ond rydym yn deall nad yw llawer o staff ysgolion yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i allu ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hyderus. Nid yw'n hawdd sgwrsio â phobl ifanc am ymddygiad rhywiol afiach. Mae angen cefnogaeth ar staff ysgolion. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer hyfforddiant i bob aelod o staff ysgolion, nid staff addysgu'n unig, i nodi achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ymateb iddynt a rhoi gwybod amdanynt.
At ei gilydd, gwnaethom 24 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwyf eisoes wedi crybwyll rhai ohonynt, ond cyn imi droi at fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd ac yn y Llywodraeth am eu cyfraniadau, hoffwn ychwanegu ychydig rhagor. Efallai mai’r pwysicaf yw bod yn rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ffurf bwrdd cynghori pobl ifanc. Ein gobaith yw y bydd y bwrdd hwn yn llywio camau gweithredu mewn perthynas â rhai argymhellion allweddol: ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol wedi’i thargedu at ddysgwyr a’u teuluoedd; adolygiad o'r cymorth a gynigir i ddioddefwyr aflonyddu rhywiol; a datblygu cronfa o ddulliau effeithiol o ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd.
Ni wyddom ddigon am raddfa a natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd a cholegau. Clywsom y gall ddechrau ymhlith plant mor ifanc â naw oed, sy'n peri cryn bryder. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sy’n addas i'r oedran o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i adolygiad tebyg mewn colegau, gwaith hollbwysig y mae pob un ohonom yn falch ei fod ar y gweill. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr yma heddiw yn y Senedd, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaethpwyd hyd yma a’r amserlen ar gyfer y gwaith sydd i ddod i roi’r argymhellion a dderbynnir ar waith.
Hefyd, hoffwn gyflwyno rhai pryderon i’r Gweinidog a godwyd gyda ni gan randdeiliaid pan ofynnwyd am adborth ar ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Y cyntaf: a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith aflonyddu rhywiol ar bobl ifanc a’r effaith hirdymor y gall ei chael ar fywyd plentyn, hyd yn oed os nad yw wedi'i gategoreiddio fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod? Yn ail: nad yw'r cyllid a ddarperir ar gyfer hyfforddiant i staff ysgolion ar roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ac ymateb iddynt yn dod ar draul cefnogaeth a hyfforddiant mawr eu hangen i staff ysgolion mewn meysydd eraill.
Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd pobl ifanc yn rhan ystyrlon ac uniongyrchol o'r gwaith o gyd-ddatblygu ymateb y Llywodraeth i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o weithio ar yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol i ddatblygu set o sesiynau ar arferion gorau i ysgolion eu haddysgu am effaith aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion? Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan aelodau’r pwyllgor a’r holl Aelodau ar draws y Senedd, a chan y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Jayne Bryant, am ei holl waith caled yn ystod yr adroddiad hwn, ac wrth gwrs, i’r clercod a’r staff a fu mor fedrus wrth gynorthwyo’r pwyllgor yn ein gwaith, gan ein galluogi i gwblhau'r adolygiad pwysig hwn, a hynny mor gyflym. Roedd yn amlwg fod angen inni gwblhau'r adolygiad hwn yn gyflym i ddeall y materion a hefyd i greu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y Senedd hon, yn Llywodraeth Cymru a ledled Cymru, o ran yr hyn sy’n digwydd yn ein hysgolion—natur erchyll y peth a’r ffaith ei bod yn broblem sy’n tyfu ac a fydd yn parhau i dyfu oni bai ein bod yn gweithredu ar unwaith.
Ddirprwy Lywydd, fe wnaeth adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, '"Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon"', helpu i lywio, fel y dywedodd ein Cadeirydd, ac ysgogi'r adroddiad hwn. Yn frawychus, canfu fod hanner ein holl ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ryw ffurf, a dywedodd tri chwarter ein holl ddisgyblion eu bod wedi'i weld yn digwydd i ddisgyblion eraill, gyda’r mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol. Gall effaith aflonyddu rhywiol ar ddysgwyr fod mor ddifrifol fel ei bod nid yn unig yn effeithio ar eu dysgu, ond hefyd ar eu perthynas ag eraill, iechyd meddwl, rhagolygon bywyd, ac mewn achosion difrifol, gall arwain at hunan-niweidio a hunanladdiad.
Ar ddechrau’r broses hon, cyfarfu ein Cadeirydd, Jayne Bryant, â chynrychiolwyr yr heddlu fis Tachwedd diwethaf, lle clywodd am bryder penodol yr heddlu ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin, yn enwedig ar-lein. Roedd hyn yn cyd-daro â pharatoadau Estyn i adrodd ar ei ymchwiliad i aflonyddu rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd. Amlygodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2021, anferthedd y broblem. Mae'n gyffredin mewn ysgolion, i'r fath raddau, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd, nes ei fod wedi'i normaleiddio, sy'n peri cryn bryder.
Mae'n amlwg o'n canfyddiadau nad yw pobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth staff ysgolion am eu problemau, ac mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd ymateb pan gânt wybod am yr achosion hynny. Mae’r aflonyddu hwn yn digwydd y tu hwnt i oriau ysgol, fel y nododd ein Cadeirydd hefyd, gan dreiddio i fywydau pobl ifanc ar-lein ac yn yr ysgol, rhywbeth a waethygwyd gan y pandemig, fel y dengys ein canfyddiadau. Fel y dywedir yn y rhagair, er inni edrych o ddifrif ar y mater bryd hynny, wrth imi edrych yn ôl chwe mis yn ddiweddarach, mae’n amlwg i mi ein bod wedi tanamcangyfrif anferthedd y broblem.
Canfu Estyn fod 61 y cant o ddisgyblion benywaidd a 29 y cant o ddisgyblion gwrywaidd wedi wynebu aflonyddu rhywiol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am ei gwaith rhagorol yn cadeirio'r pwyllgor rwy'n aelod ohono. Hoffwn godi’r pwynt eich bod yn sôn am wrywod sydd hefyd yn wynebu aflonyddu rhywiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, ac eraill sy’n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, na ddylai unrhyw un fod ag ofn rhoi gwybod os ydynt yn wynebu aflonyddu rhywiol, yn enwedig dynion ifanc sy’n teimlo stigma os ydynt yn rhoi gwybod. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, os oes unrhyw un yn wynebu aflonyddu rhywiol, ni waeth beth fo'u rhywedd, dylent roi gwybod i'r awdurdodau cywir.
Yn sicr. Mae fy nghyd-Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn.
Yr hyn sy'n peri pryder hefyd yw bod y niferoedd a welsom, a'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu, yn tanamcangyfrif y broblem yn ôl pob tebyg, o ran yr hyn a welwn. Ymhellach, er na wnaeth Estyn ystyried aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd neu golegau, fe wnaeth eu hymchwiliad eu hargyhoeddi ei bod yn debygol fod aflonyddu rhywiol yn gyffredin yn y ddau le. Clywodd ein pwyllgor yr un peth hefyd. Mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd mewn perygl, ac er nad oes data cadarn wedi'i gaffael eto i atgyfnerthu'r pwynt, mae ganddynt reswm dros gredu bod grwpiau eraill o ddysgwyr mewn perygl hefyd.
Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth. Maent yn cynnwys agweddau cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, ac sydd wedi'u cryfhau gan bornograffi, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn y blynyddoedd diwethaf, y pandemig. Maent yn faterion diwylliannol sydd wedi’u gwreiddio ac sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i gylch gwaith y pwyllgor a chwmpas yr ymchwiliad hwn. Mae’n broblem ar draws y gymdeithas gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru, y Senedd, awdurdodau lleol, ysgolion, elusennau, rhieni, teuluoedd, pob un ohonom, weithredu ar y cyd i ddadnormaleiddio’r ymddygiadau niweidiol hyn.
Gwn fod y Gweinidog yma heddiw ac y bydd yn ymateb i’r ddadl, ac rwyf am ofyn a wnaiff sicrhau bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chreu a’i gweithredu yn ein hysgolion cyn gynted â phosibl. Dim ond drwy addysg ac ymwybyddiaeth briodol y bydd pobl ifanc yn deall y broblem go iawn, yn gallu mynd i'r afael â hi, ac yn gwybod hefyd sut i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cawsom awgrymiadau rhagorol gan y bobl ifanc a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor, a gwelaf fod y Cadeirydd yn nodio'i phen, mae'n sicr yn werth edrych ar hynny—eu syniadau ar gyfer posteri a'r cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. O’r dystiolaeth a roddwyd, ac o fod yn ymwybodol fel rhiant i blentyn sydd newydd adael yr ysgol gynradd yn ddiweddar, mae’n amlwg fod achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd yn y grwpiau blynyddoedd 5 a 6 hynny hefyd, gan ein bod wedi cael tystiolaeth yn ein pwyllgor sy'n profi hynny. Byddwn yn ddiolchgar i’r Gweinidog pe gallai sicrhau bod unrhyw ymgyrch yn cyrraedd y grwpiau hynny mewn ysgolion cynradd, wrth gwrs, gyda’r cynnwys yn addas i’r oedran, fel y gallwn fynd i'r afael â'r ymddygiad hwnnw cyn gynted â phosibl.
Mae 24 o argymhellion wedi’u gwneud yn yr adroddiad, sy’n ymdrin ag ystod o faterion, gyda’r gobaith y bydd Llywodraeth Cymru, Estyn, a chyrff eraill sy’n ymwneud â'r mater yn eu cael ac yn bwrw ymlaen â phethau mewn modd adeiladol. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu argymhellion y pwyllgor ac yn llwyr gefnogi’r gofynion a’r argymhellion pwysig i Lywodraeth Cymru. Credwn fod aflonyddu rhywiol ar unrhyw ffurf yn gwbl annerbyniol, a chredwn fod yn rhaid iddi fod yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ysgolion yng Nghymru yn amgylchedd lle mae pobl ifanc yn cael eu gwneud i deimlo’n anniogel, a lle gall aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol ffynnu. Diolch.
Yr hyn a oedd yn amlwg i ni o'r dystiolaeth a glywsom ni fel pwyllgor oedd bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin fel ei fod yn cael ei dderbyn fel ymddygiad normal. Hwnna oedd y peth mwyaf trawiadol i fi, yn sicr, a bod ysgolion hefyd yn cael trafferth i ddelio gyda hyn yn effeithiol. Mae'r effaith yn un sydd, mewn rhai achosion, yn effeithio'n ddifrifol ar les, cyrhaeddiad ac iechyd dysgwyr. Fel dywedodd Laura Anne Jones, roedd yr hyn y clywson ni gan y bobl ifanc eu hunain yn hynod werthfawr, a'u syniadau ynglŷn â sut dylid delio gyda'r broblem—pethau syml ond amlwg, fel bod angen poster i esbonio beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi prif argymhellion yr adroddiad, sef ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth gyda phrofiad a barn pobl ifanc yn ganolog iddi hi, a'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ac Estyn i sicrhau bod ysgolion yn ymateb yn well, yn cadw cofnodion gwell, ac yn cefnogi disgyblion yn well, yn ogystal â'r angen i gynnal adolygiad o'r sefyllfa yn ein hysgolion cynradd, achos mae'r agweddau sy'n creu'r broblem hon yn dechrau amlygu eu hunain o oedran ifanc, ac fe gawson ni dystiolaeth o hynny yn ein hymchwiliad. Mae mwyafrif llethol y rhai sy'n profi'r aflonyddu yn ferched, ac mae disgyblion LHDTC+ a disgyblion eraill sydd â nodweddion lleiafrifol hefyd yn fwy tebygol o brofi aflonyddu. Roedd yn glir o'n hymchwiliad bod achos yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth, ond roedd yn eglur bod agweddau cymdeithasol wrth wraidd hyn, sydd, yn anad dim, yn gyfrifol am greu'r amgylchiadau sy'n arwain at yr achosion yma tu fewn a thu hwnt i gatiau'r ysgol a choleg.
Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi rôl y cod addysg cyd-berthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd i fynd i'r afael â hyn, ond mae angen gwneud mwy nawr dros y dysgwyr na fydd yn elwa o'r ymgais yma i newid dealltwriaeth ein plant er gwell o ran hyn. Mae'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef aflonyddu rhywiol yn dameidiog, yn anghyson, ac mae safon gyffredinol yr addysg rhyw a chydberthynas yn annerbyniol mewn nifer o ysgolion. I wella hyn, mae angen gwell hyfforddiant i holl staff ysgol ar bwnc sy'n anodd i nifer, ac yn anweledig i eraill, ac mae hyn yn fater brys.
Mae'n dda bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, ond hoffwn dynnu sylw at un y mae Stonewall Cymru wedi bod yn tanlinellu ers tro ac sydd o hyd heb ei wireddu, sef y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol cenedlaethol traws ar gyfer ysgolion erbyn mis Ionawr nesaf. Mae'r adroddiad yma yn dangos yn eglur pam fo'r oedi'n annerbyniol ac yn niweidiol, ac felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw'r cynnydd o ran hyn.
Fel y noda'r adroddiad, nid drwy'n system addysg yn unig y gwaredwn ni ar yr agweddau niweidiol sy'n cael mynegiant yn yr aflonyddu rhywiol yma. Mae gan wleidyddiaeth, y cyfryngau, a chymdeithas yn fwy eang gyfrifoldeb i beidio a chaniatáu na derbyn agweddau misogynistaidd neu rhywiaethol, neu unrhyw iaith neu ymddygiad sy'n bychanu neu'n manteisio ar sail hunaniaeth neu rywedd. Rhaid i ni gydweithio i ddadnormaleiddio yr hyn sydd wedi ei normaleiddio, hyd yn oed ymysg ein plant lleiaf. Mae'r adroddiad a'i argymhellion yn wirioneddol bwysig os ydym o ddifrif am greu cymdeithas sy'n gydradd, yn iach ac yn ddiogel i'n pobl ifanc.
A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu, nid yn unig at y ddadl heddiw, ond hefyd at yr adroddiad anodd ond pwysig iawn hwn, dan arweiniad medrus y Cadeirydd, Jayne Bryant? Ond nid pwyllgor Jayne yw'r unig bwyllgor sy'n mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Cyflwynwyd deiseb gan Hanna Andersen i'r Pwyllgor Deisebau rwy’n ei gadeirio ar ôl i’r adroddiad penodol hwn gael ei gyhoeddi, gyda chyfanswm o 417 o lofnodion. Mae'r ddeiseb honno bellach wedi cau, o ran casglu llofnodion, a bydd yn dod gerbron y pwyllgor yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ond hoffwn achub ar y cyfle i nodi teitl y ddeiseb a rhai o uchafbwyntiau’r testun. Teitl y ddeiseb yw, 'Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig'. Ac mae’n mynd ymlaen i amlygu ac awgrymu bod y dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau. Nawr, nodaf, yn sylwadau agoriadol y Cadeirydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu hyn mewn colegau, ond mae testun y ddeiseb yn nodi,
'Ni allwn aros am ragor o ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy gydol eu haddysg'.
Mae’r ddeiseb ei hun yn sôn am yr adroddiad gan Estyn a grybwyllodd Laura Anne Jones y prynhawn yma, ac nid wyf am ailadrodd hynny. Lywydd, mae'r hyn y gallaf ei ddweud am y ddeiseb, ac ynglŷn â pha gamau y bydd aelodau'r pwyllgor a'r pwyllgor cyfan yn penderfynu eu cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb hon, yn amlwg yn gyfyngedig iawn, ond roeddwn yn credu ei bod yn iawn ac yn gyfle da i wneud dau beth: gwneud y ddadl hon yn ymwybodol o’r teimladau cryf a fynegwyd gan ddeisebwyr, yn ogystal â rhoi cyfle i’r Gweinidog ymateb, efallai, cyn i’r ddeiseb ddod i fy mhwyllgor, ac i roi camau ar waith sy’n cadw dysgwyr yn ddiogel ym mhob un o’r lleoliadau hynny, ac nid mewn ysgolion uwchradd yn unig. Diolch.
Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad a’r holl bobl sydd wedi cyfrannu ato. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fudiad Everyone's Invited am daflu goleuni ar fynychder aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fabwysiadu diffiniad Estyn o aflonyddu rhywiol, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin ymhlith plant oed ysgol a phobl ifanc fel ei fod wedi'i normaleiddio. Mae hynny’n hynod bryderus. Efallai na fydd llawer o blant a phobl ifanc hyd yn oed yn sylweddoli mai aflonyddu rhywiol yw'r hyn y maent yn ei ddioddef. Felly, mae cael diffiniad clir yn bwysig iawn. Bydd yn helpu i egluro pa ymddygiad a ystyrir yn aflonyddu rhywiol, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny’n helpu disgyblion i deimlo eu bod wedi’u grymuso i roi gwybod i athrawon, rhieni ac unrhyw sefydliad arall am ddigwyddiadau. Credaf hefyd y bydd yn rhoi eglurder i’r rheini y mae plant a phobl ifanc yn ymddiried ynddynt fod yr unigolyn yn dioddef aflonyddu rhywiol yn hytrach na'n cael eu bwlio, er enghraifft.
Mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o bobl ifanc yn teimlo y dylid cael mwy o addysg ar y pwnc, a bydd cael diffiniad yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyflwyno addysg ar aflonyddu rhywiol mewn ysgolion. A hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gydag asiantaethau eraill ynghylch mabwysiadu'r un diffiniad, gan mai gweithio cydgysylltiedig sy'n mynd i ysgogi newid.
Yn ôl y rhestr o ysgolion ar wefan Everyone's Invited, cafwyd tystiolaeth gan ddisgyblion ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Wrth symud ymlaen, credaf y bydd yn hanfodol cael adroddiadau gonest a rheolaidd ym mhob ardal awdurdod lleol; rhaid mynd ati i annog ysgolion i roi gwybod am ddigwyddiadau i'r awdurdod lleol; ac mae'n rhaid cael cefnogaeth ar gyfer yr ysgol a'r disgybl sy'n rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Fel y gwyddom, mae cyfran enfawr o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar-lein. Mae cael mynediad at blatfformau negeseua ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i gwneud yn llawer haws i ddisgyblion aflonyddu, a chael eu targedu gan aflonyddu. Mae'n bosibl na fydd unigolyn sy'n cael eu targedu hyd yn oed yn mynychu'r un ysgol neu goleg â'r unigolyn sy'n aflonyddu. Felly, credaf y byddai’n hynod fuddiol i blant a phobl ifanc gael canllawiau clir ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn yr achosion hynny. Mae gweithio gyda’n gilydd a chyda’n plant a’n pobl ifanc yn hollbwysig. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r rôl y mae cyfryngau cymdeithasol a bod ar-lein yn ei chwarae mewn aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion?
Ac yn olaf, mae'n hanfodol fod plant yn cael eu haddysgu ac yn deall sut i barchu ei gilydd, a gwn fod y cwricwlwm newydd yn bwriadu gwneud hynny, oherwydd os na fydd hynny'n digwydd—ac mae'r dystiolaeth hon yn peri cryn bryder—os yw hyn yn cael ei ystyried yn ymddygiad normal, y plant hynny fydd oedolion yfory, a bydd y safbwyntiau niweidiol hyn yn aros gyda hwy yn ystod eu hoes. Felly, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am hyn, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog.
Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn, a chredaf ei fod yn amserol iawn hefyd. Ond fel y dywedodd Laura Anne Jones, rwy'n credu bod lefel yr aflonyddu rhywiol mor gyffredin fel bod gwir angen ymateb ar draws y gymdeithas gyfan. Ond mae'n bendant yn ategu pwysigrwydd addysg orfodol ar berthnasoedd a rhywioldeb, gan fod angen addysgu pobl ifanc ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r bwystfilod drwg hyn, sy'n gyfleus iawn i bob un ohonom, mae rhieni'n rhoi'r pethau hyn i'w plant heb sylweddoli beth maent yn rhoi mynediad iddynt ato. Cytunaf yn llwyr â lle rydych yn sôn am bwysigrwydd cael dull gweithredu cyson mewn perthynas â ffonau symudol yn yr ysgol, gan nad oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai unrhyw un gael ffôn symudol ymlaen pan fyddant mewn gwersi. Gallant eu cadw yn eu bagiau fel eu bod ganddynt pan fyddant yn mynd adref, ond ni ddylent gael eu gweld yn yr ysgol, a dylent gael eu cymryd oddi arnynt os cânt eu gweld, yn fy marn i.
Credaf hefyd fod eich pwyslais ar gadw cofnodion da, yn ogystal ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb o ansawdd, yn gwbl hanfodol, oherwydd oni bai bod gan ysgolion ddull sy'n ystyriol o drawma o ymdrin â phroblemau ymddygiad unigolyn ifanc, neu'n wir, eu habsenoldeb o'r ysgol, nid yw'r ysgol yn deall beth sy'n digwydd. Yn syml iawn, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod bod yr ysgol yn lle diogel lle gallant ddweud wrth bobl beth sy'n digwydd iddynt, oherwydd y dystiolaeth yn yr ysgol lle rwy'n llywodraethwr oedd mai'r ysgol yw'r lle mwyaf diogel yn eu bywydau mewn gwirionedd. Yn anffodus, maent yn wynebu aflonyddu gartref ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft.
Roeddwn yn falch iawn heddiw o gael ymateb i lythyr a ysgrifennais at Bws Caerdydd am yr adroddiadau o aflonyddu rhywiol ar fysiau, ac roedd yn llythyr gwirioneddol wych, a ddywedodd eu bod yn rhoi sylw difrifol i'r mater, fod eu hystafell reoli yn rheoli beth yn union sy’n digwydd ar bob bws, a’u bod yn mynd i ysgrifennu at ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill fel bod gennym ddull system gyfan mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Felly, credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr.
Ond beth bynnag, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am ei waith ar hyn, ac yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy’n mynd i fod yn waith parhaus i ni.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch, os caf i, i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad nhw. Mae ymchwiliadau fel hyn yn helpu i gadw'r sgyrsiau pwysig yma ar frig yr agenda, a hoffwn i sôn heddiw am rai o'r camau rŷn ni'n eu cymryd.
Yn gyntaf, mae'n bwysig nad ydyn ni'n diystyru pŵer lleisiau plant a phobl ifanc sy'n herio'r arfer o'r normaleiddio rŷn ni wedi sôn amdano fe heddiw—normaleiddio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Cafodd hyn ei wneud yn arbennig o amlwg i fi mewn digwyddiad diweddar a gafodd ei gynnal gan grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal cam-drin plant yn rhywiol, a ches i'r cyfle o glywed gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio eu profiad personol nhw i greu newid go iawn. Dyna pam mae'n bwysig i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn rhan hanfodol o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Ac rŷn ni'n gweithio gyda sefydliadau partner ar y ffordd orau o gyflawni hynny ac yn cytuno bod angen sefydlu bwrdd ymgynghorol a bod ganddyn nhw rôl lawn, fel y gwnaeth Jayne Bryant ofyn i fi ei gydnabod.
Rwy'n cydnabod hefyd fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol ehangach a bod gan rieni, gofalwyr a theuluoedd rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. Byddwn ni hefyd yn datblygu negeseuon i rieni a gofalwyr am sut i ddelio ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth greu amgylcheddau diogel, gan helpu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau cydberthnasau iach a diogel.
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol i bob dysgwr o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y maes hwn yn chwarae rôl gadarnhaol, gan ddiogelu a helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ymddygiad a sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl o niwed, fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud i gadw'n ddiogel a sut i ofyn am help.
Mae technolegau digidol wedi newid y ffordd y mae pawb ohonom yn cyfathrebu, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, fel rydym newydd glywed yng nghyfraniad Jenny Rathbone. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau, ac rwy'n cydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i ysgolion. Fe ymwelais ag ysgol yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda bechgyn, yn yr achos hwnnw, ar ddeall effaith rhannu delweddau ar-lein, er enghraifft, ac ysgol arall lle mae merched yn codi ymwybyddiaeth gydag eraill o'r aflonyddu ar-lein roeddent wedi'i brofi yn yr ysgol a'r tu allan. Ac unwaith eto, mewn ymateb i'r pwynt y mae Joyce Watson ac eraill wedi'i wneud, mae adran 'cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyfleoedd hyfforddi i ysgolion ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein. Mae'n hanfodol bwysig fod y gweithlu addysg yn cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w cynorthwyo i adnabod, ymateb i ac adrodd am aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Cyn bo hir, byddwn yn treialu cwrs hyfforddi pwrpasol ar aflonyddu rhywiol ar-lein i ddarparwyr addysg, a bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru wedyn.
Gofynnwyd i mi am arian dysgu proffesiynol. Mae ysgolion eisoes yn cael grantiau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol fel nad yw'r arian hwnnw ar draul ffynonellau cyllid eraill, fel y gofynnodd Jayne Bryant i mi gadarnhau. Ac maent yn derbyn arweiniad yn ogystal ar sut y gallant fuddsoddi yn y dysgu proffesiynol hwnnw. Byddwn hefyd yn adolygu'r adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn ceisio nodi adnoddau effeithiol pellach a all gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol.
Mae angen clir i adrodd yn fwy cadarn am achosion o aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg. Gwyddom nad oes gan blant a phobl ifanc hyder bob amser i adrodd am achosion wrth eu hathrawon, yn aml oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gymryd o ddifrif. O'r herwydd, ceir diffyg gwybodaeth am raddfa wirioneddol y broblem, yn ogystal â diffyg cysondeb, fel y buom yn ei drafod, yn y systemau adrodd, ac felly, yn ei dro, wrth gasglu data.
Cefais fy siomi o glywed bod ein disgyblion LHDTC+ yn cael profiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol homoffobig ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn llawer o ysgolion. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio oherwydd rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Bydd llawer ohonom sydd wedi tyfu i fyny'n hoyw wedi cael profiadau ein hunain o hyn yn yr ysgol. Nid oes lle iddo mewn cymdeithas, mewn ysgolion nac ym mywydau ein pobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i newid y realiti hwnnw i'n disgyblion LHDTC+. Rydym eisoes yn gwneud newidiadau i'n canllawiau gwrth-fwlio, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', mewn perthynas ag aflonyddu hiliol a bwlio mewn ysgolion, a byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ehangu'r gwaith hwnnw'n effeithiol i gynnwys adrodd cadarn, cofnodi a chasglu data o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, gan gynnwys aflonyddu homoffobig a bwlio.
Bydd cynhwysiant a chefnogaeth LHDTC+ hefyd yn cael sylw mewn canllawiau newydd i gynorthwyo lleoliadau addysg i ymgorffori diwylliant o gynhwysiant, gwrth-wahaniaethu a hawliau. Mae'n amlwg o'n hymgysylltiad ag awdurdodau lleol, addysgwyr, athrawon a phobl ifanc fod angen arweiniad ychwanegol ar ysgolion am y ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc LHDTC+, yn enwedig rhai sy'n draws neu'n anneuaidd. Mewn ymateb i gwestiwn Sioned Williams mae'r canllawiau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac rydym yn rhagweld y cânt eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2023. Gwyddom nad yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wedi'i gyfyngu i ysgolion uwchradd ac rydym yn glir fod angen gweithredu ar draws pob lleoliad, fel y nododd Jack Sargeant yn ei gyfraniad. Mae gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd y caiff hyn ei brofi ar wahanol oedrannau'n bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb gydag ymyriadau priodol ac wedi'u teilwra, felly rydym wedi comisiynu adolygiad thematig gan Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn y sector addysg bellach. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo adrodd yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio argymhellion Estyn i fod yn sylfaen i raglen waith benodol i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn addysg bellach. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o brofiadau plant o fwlio ar sail rhyw neu aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau cynradd, ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried cwmpas yr adolygiad hwn.
Er y bydd gwaith pellach yn helpu i sicrhau bod gennym bolisi ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yw hyn yn ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaeth, a bydd y cynllun yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn ategu'r gwaith ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol ar blant, a gallaf gadarnhau, mewn ymateb i gwestiwn Joyce Watson, y bydd yn mabwysiadu ar sail amlasiantaethol y diffiniad o 'aflonyddu rhywiol' a ddefnyddir gan Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r weledigaeth o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gall hyn gael effaith enfawr ar ferched a menywod ifanc, ac yn wir ar bob plentyn a pherson ifanc, sy'n gallu effeithio ar eu llesiant a'u perthynas â'u cyfoedion. Ar 24 Mai, gwnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynyddu ymwybyddiaeth mewn plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach, ac yn eu grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol. Byddwn yn mabwysiadu dull trawslywodraethol o sicrhau ei llwyddiant.
Yn olaf, gofynnodd Jayne Bryant i mi gydnabod effaith hirdymor aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, hyd yn oed lle mae hynny y tu allan i'r diffiniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hwn yn fater a nodwyd yn adolygiad 2020. Un o'r argymhellion oedd i'r Llywodraeth edrych yn fwy cyfannol ar fynd i'r afael â niwed a thrawma yn ystod plentyndod, a bydd gwaith y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi bod ar y gweill yn cael ei adeiladu ar sylfaen dystiolaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn cydnabod ffynonellau eraill o niwed, a bydd hynny'n cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.
Heddiw amlinellais rai yn unig o'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond byddwn yn parhau i wrando ac i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn esblygu ein dull o sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n meddwl iddi fod yn un bwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl gyfraniadau'n fawr.
Hoffwn gofnodi yn gyntaf oll fy niolch a diolch y pwyllgor i'r tîm clercio ac ymchwil, sydd wedi bod yn wych drwy gydol yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â'n tîm allgymorth, a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad a'u sylw i fanylion wrth gynhyrchu adroddiad mor bwysig, ac rwy'n adleisio geiriau Laura Jones yn llwyr ynglŷn â pha mor gyflym yr aethpwyd i'r afael â'r adroddiad hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yr ystyriai'r pwyllgor y mater penodol hwn. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y gwaith a wnaethant.
Hefyd rwyf am ddweud bod James wedi gwneud pwynt pwysig iawn—James Evans—ynglŷn â bod hwn yn fater i bawb, ac y dylai pawb yr effeithir arnynt gamu ymlaen, a dyna pam mai enw ein hadroddiad yw 'Mae'n effeithio ar bawb', ac rwy'n credu bod Estyn wedi dweud wrthym fod 29 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd gwrywaidd wedi profi aflonyddu. Er ei fod yn is na'r ffigur ar gyfer merched, mae hynny'n dal i fod bron yn draean yr holl fechgyn, sy'n amlwg yn annerbyniol.
Hefyd, os caf ailadrodd un o bwyntiau Sioned ynglŷn â'r brys ynghylch hyn, ac na fydd y cwricwlwm newydd, yn anffodus, yn helpu unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu'n uwch ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod imi grybwyll hynny yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn ailadrodd y neges honno i'r Gweinidog.
Ar y pwyntiau a wnaeth Jack Sargeant, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r deisebydd am y pwyntiau pwysig a godwyd yn y ddeiseb, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n helpu i egluro pam nad oedd y pwyllgor yn teimlo y gallem ymestyn ein hargymhellion i ysgolion cynradd. Fe wyddom, ac fe glywsom yn ein hymchwiliad dro ar ôl tro, fod aflonyddu rhywiol yn debygol o ddechrau yn yr ysgolion cynradd, ond ni roddodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod yr ymchwiliad ddarlun digon clir o ba mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol na natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd i allu gwneud argymhelliad hyddysg i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r mater. Roedd y pwyllgor o'r farn fod mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cynradd yn cyflwyno llawer o heriau sy'n wahanol i'r modd yr eir i'r afael ag ef yn y sector uwchradd, felly nid oeddem yn teimlo'n hyderus fel pwyllgor i ymestyn ein hargymhellion, sy'n seiliedig ar ymchwil ar blant oedran uwchradd, i blant sy'n llawer iau. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro pam nad oedd ein hargymhellion yn cynnwys plant ysgol gynradd, ond yn amlwg, rydym yn falch iawn fod y gwaith hwnnw'n digwydd.
Clywsom gan Joyce, a soniodd y Gweinidog hefyd, am lais pobl ifanc. Clywsom gan bobl ifanc am yr atebion a'r hyn y teimlent hwy fod angen iddo newid. Cawsom dros 100 o ymatebion i'n harolwg ar-lein, ac yn bendant, fe wnaeth y safbwyntiau hynny roi ffurf i'n hargymhellion. Dylanwadwyd ar ymchwiliad y pwyllgor hefyd gan y nifer o dystebau personol dienw ar wefan Everyone's Invited, a thystiolaeth wreiddiol Estyn, sef sylfaen ein hymchwiliad. Felly, i roi syniad—wyddoch chi, rydym eisiau rhoi lleisiau pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn.
Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'n hymchwiliad. Roedd safon y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gawsom gan bawb, yr academyddion, elusennau, ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, yn eithriadol o uchel. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ac i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am eu hymwneud adeiladol â'n hymchwiliad a'u hymateb cadarnhaol i'n hadroddiad. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi gallu ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan bobl o'r tu allan yn ogystal â'n hargymhellion. Mae hynny'n gadarnhaol iawn; diolch.
Rwy'n dweud yn rhagair y Cadeirydd i'r adroddiad hefyd ein bod wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n wir. Rydym wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru oherwydd yr holl dystiolaeth gan Gymry ifanc ar wefan Everyone's Invited, a gyflwynwyd gan ddisgyblion ysgol ar draws Cymru a thu hwnt, oherwydd yr hyn a ddywedodd plant mewn ysgolion ar draws Cymru wrth Estyn, ac oherwydd yr hyn y mae plant mewn ysgolion ar draws Prydain wedi bod yn dweud wrth unrhyw un sy'n gofyn iddynt ers blynyddoedd maith. Ni ellir dal ysgolion yn gyfrifol am aflonyddu rhywiol. Rhaid i ni ysgwyddo cyfrifoldeb am ddadnormaleiddio'r ymddygiadau a'r rhagdybiaethau niweidiol sy'n sail iddo. Ond maent yn lleoedd delfrydol i ddechrau ar y broses honno o ddadnormaleiddio, ac maent yn safleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar a chymorth effeithiol, o ansawdd uchel i ddysgwyr yr aflonyddwyd arnynt. Bydd fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a minnau'n rhoi sylw manwl i'r modd y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu'r argymhellion yn ein hadroddiad i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwyf wedi cadw fy niolch mwyaf at y diwedd. I'r llu o bobl ifanc ledled Cymru a ymatebodd i'n harolwg: diolch am rannu eich safbwyntiau ar yr hyn roedd angen ei newid. I Ebonie, Glenn, Jake a Sophie a'ch darlithwyr: diolch am eich gwaith caled a'ch arbenigedd yn dadansoddi ein hymatebion ymgysylltu a chynhyrchu fideo'n crynhoi'r canfyddiadau hynny. Roeddem yn gwerthfawrogi eich argymhellion i ni, ac mewn gwirionedd, dylai pob Aelod weld hwnnw a'i rannu mor eang â phosibl. Fel y dywedodd Laura Jones yn ei chyfraniad, fe wnaethant ein herio go iawn pan oedd gennym ambell syniad, felly rydym yn gwybod bod eu lleisiau mor bwysig yn y gwaith sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru nawr. Ac i'n Seneddwr Ieuenctid Cymru, Ffion Williams, a siaradodd mor ddewr, mor huawdl ac mor argyhoeddiadol ag ITV Cymru am ei phrofiadau ei hun o aflonyddu rhywiol mewn cyfweliad yn dilyn lansiad ein hadroddiad.
I blant a phobl ifanc ledled Cymru yn fwy cyffredinol: rwy'n gwybod nad dyma ddiwedd y sgwrs, ac na fydd newid yn digwydd dros nos. Ond mae gennych bob hawl i ddisgwyl y byddwn ni, fel eich cynrychiolwyr etholedig, yn gwneud mwy i atal aflonyddu rhywiol mewn ysgolion a cholegau. Nid yw'n normal, nid yw'n iawn ac mae'n rhaid iddo stopio. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn.