– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ail ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma, ar bolisi ynni. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth i arweinwyr byd-eang gwrdd yn yr Aifft ar gyfer COP27, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch sut y byddwn yn parhau i arwain y gwaith pontio o danwydd ffosil i system ynni yn seiliedig ar ynni adnewyddadwy.
Er bod negeseuon gan Lywodraeth y DU wedi bod yn ddryslyd ac anghyson, rydym wedi bod yn glir ac yn gyson. Byddwn yn cadw tanwydd ffosil yn y ddaear, a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni er mwyn dod â chloddio a thynnu tanwydd ffosil i ben yng Nghymru yn raddol. Byddwn ni'n adeiladu system ynni hyblyg, clyfar, adnewyddadwy sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. A byddwn ni'n sicrhau bod ein haelwydydd, ein busnesau a'n cymunedau yn elwa ar y pontio gyda mwy o ddiogelwch ynni a llai o berygl i gwsmeriaid fod yn agored i brisiau byd-eang tanwydd ffosil. Yn ddiweddar cyhoeddais ein diweddariad ar weithredu argymhellion o'r ymchwiliad trylwyr i ynni adnewyddadwy a chyhoeddi bod datblygwr ynni dan berchnogaeth gyhoeddus wedi'i greu. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein polisi o ran defnyddio tanwydd ffosil wrth gynhyrchu pŵer ac mewn gosodiadau diwydiannol. Byddaf hefyd yn nodi ein safbwynt ar hydrogen a dal, defnyddio a storio carbon.
Mae Cymru'n cynnal swm anghymesur o fawr o bwerdai nwy sy'n cyflenwi'r grid trydan. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi bod yn glir yn ei gyngor bod angen i ni ddatgarboneiddio'r sector hwn erbyn 2035. Bydd ein dull gweithredu yn un â dau ddull. Fel y nodwyd yn 'Cymru Sero Net', ni welwn unrhyw swyddogaeth i bwerdy tanwydd ffosil newydd yng Nghymru ac, yn dilyn cyhoeddi datganiad sefyllfa gall y polisi hwn ddod i rym drwy'r drefn gynllunio. Yn ail, rhaid i ni fynd i'r afael â'r allyriadau yn sgil llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pŵer presennol, gan gynnwys gweithfeydd troi gwastraff yn ynni a gweithfeydd o fewn safleoedd diwydiannol. Gyda'i gilydd, roedd y rhain yn gyfrifol am draean o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn 2020.
Fe wnaethom gyhoeddi galwad ar y cyd am dystiolaeth ar barodrwydd datgarboneiddio gyda Llywodraeth y DU y llynedd. Er ein bod wedi bod yn cydweithredu â Llywodraeth y DU ar ddatblygu polisi, nid ydym o'r farn y bydd eu dull arfaethedig yn mynd yn ddigon pell i gyflwyno'r camau sydd eu hangen arnom yng Nghymru. Nid yw rheoleiddio gorsafoedd pŵer a gosodiadau diwydiannol eraill drwy'r drefn drwyddedu amgylcheddol bresennol yn ysgogi'r pontio i sero net yn benodol. Mae hwn yn fater a gydnabyddir gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd hefyd yn ymchwilio i ddiwygio'i chyfundrefn er mwyn alinio ag agenda sero net yr Undeb Ewropeaidd. Felly, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu dewisiadau i sicrhau bod y drefn drwyddedu amgylcheddol yn cefnogi amcanion sero net yn benodol, ochr yn ochr â blaenoriaethau amgylcheddol strategol eraill. Bydd hyn yn ategu mesurau eraill, megis prisio carbon a weithredir trwy gynllun masnachu allyriadau'r DU. Byddaf yn cyhoeddi datganiad sefyllfa ar losgi tanwyddau ffosil ar gyfer pŵer ac ymateb ein Llywodraeth i'r alwad am dystiolaeth ar barodrwydd datgarboneiddio cyn diwedd y flwyddyn.
Rydym yn cydnabod bod angen pontio teg ac rydym yn gwybod, ar gyfer rhai sectorau, bod symud o danwydd ffosil yn creu heriau sylweddol. I rai, gall hydrogen ddarparu un o'r ychydig ffyrdd o ddatgarboneiddio diwydiant trwm drwy newid tanwydd, ac i leihau allyriadau mewn dulliau cludo anodd eu hatal, yn arbennig mewn cerbydau nwyddau trwm, awyrennau a llongau. Mae cryn botensial hefyd i ddefnyddio hydrogen fel cyfrwng storio ar gyfer ynni adnewyddadwy, yn enwedig pe bai'n bosibl dal yr ynni ychwanegol a gynhyrchir. Efallai y bydd ganddo hefyd ran i'w chwarae yn lle nwy naturiol i ateb problemau gwresogi.
Mae ansicrwydd yn parhau dros y sectorau economaidd lle bydd hydrogen yn chwarae'r rhan fwyaf, a graddfa gyffredinol a chost ei ddefnyddio yn y tymor hwy. Rydym yn parhau i ymgysylltu â diwydiant ar y dystiolaeth sydd ar gael ac yn asesu cyfleoedd i Gymru ddefnyddio hydrogen yn ei llwybr datgarboneiddio ac i gefnogi datblygiad economaidd. Mae dulliau cynhyrchu hydrogen yn amrywio, fel y mae'r allyriadau sy'n gysylltiedig â nhw. Mae hydrogen gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu o drydan adnewyddadwy drwy electrolysis yn cael effaith isel iawn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ystod ei weithrediad, ac mae potensial iddo fod yn ddeniadol yn economaidd os gall wneud defnydd o'r trydan ychwanegol a gynhyrchir gan wynt.
Dyma ein dull cynhyrchu a ffefrir, ac mae angen i ni osod yr uchelgais i gynhyrchu'r holl hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy yn y tymor hwy. Fodd bynnag, er mwyn cefnogi datgarboneiddio diwydiant yng Nghymru, rydym ni'n deall efallai y bydd angen i ni symud drwy gyfnod o ddefnyddio hydrogen glas sy'n cael ei gynhyrchu gan danwydd ffosil. Ond mae angen i hyn fod yn broses o bontio a reolir a bydd angen i ni roi camau ar waith, gan gynnwys trwy ein trefn drwyddedu, er mwyn annog pontio mor gyflym â bydd technoleg a chost yn ei ganiatáu.
Dirprwy Lywydd, mae'r maes olaf yr wyf eisiau amlinellu ein cynlluniau ar ei gyfer yn ymwneud â dal, defnyddio a storio carbon. Dyma dechnoleg sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu'n fyd-eang ers amser maith, wedi'i hariannu i raddau helaeth gan lywodraethau gyda'r nod o gyflwyno'r dechnoleg at ddibenion lleihau allyriadau a datblygu arbenigedd allforiol. Serch hynny, mae'r defnydd yn gyfyngedig, nid yw dulliau rheoleiddio wedi'u datblygu'n llawn eto, ac mae risgiau sylweddol yn parhau, y bydd angen mynd i'r afael â nhw os ydym am ddefnyddio'r dechnoleg yn llwyddiannus ar unrhyw raddfa a gyda ffydd y cyhoedd.
Er gwaethaf hyn, mae astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd gan sefydliadau yn cynnwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a'r Asiantaeth Ynni Ryngwladol wedi dod i'r casgliad yn gyson bod Dal, Defnyddio a Storio Carbon, CCUS, yn debygol o fod yn rhan allweddol o'r llwybr i leihau allyriadau ar y gost isaf, gyda maes allweddol i ddefnyddio CCUS mewn diwydiant trwm. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ystyried pob llwybr credadwy ar hyn o bryd y gallai'r DU ei defnyddio i gyrraedd allyriadau sero net yn ddomestig a chynnwys rhan sylweddol i CCUS, yn enwedig ar gyfer diwydiant ac adfer nwyon tŷ gwydr. Maen nhw hefyd yn glir nad yw CCUS yn ateb syml, addas at bob diben a bod rhaid gwneud pob ymgais i atal y nwyon tŷ gwydr rhag cael eu cynhyrchu yn y lle cyntaf.
Dirprwy Lywydd, rhaid i ni osgoi trosglwyddo risg ac atebolrwydd amgylcheddol i genedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda'r diwydiant yng Nghymru i ddeall eu dewisiadau a'u heriau. Rydym hefyd yn gweithio i ddeall swyddogaeth bosibl Gweinidogion drwy ddatblygu map llwybr rheoleiddio ar gyfer CCUS yng Nghymru. Mae tua 25 y cant o allyriadau diwydiannol yng Nghymru yn allyriadau prosesau nad ydynt yn llosgi, maen nhw naill ai yn deillio o adweithiau cemegol neu ffisegol, ac ni ellir osgoi'r rhain drwy newid i danwyddau amgen. Ar hyn o bryd, mae dal, defnyddio a storio carbon yn cynnig llwybr datgarboneiddio posibl ar gyfer y diwydiannau hyn.
Mae angen i ni sicrhau bod CCUS yn cael ei ddefnyddio dim ond lle mae dewisiadau eraill ar gyfer datgarboneiddio wedi'u harchwilio a bod cyfiawnhad dros eu diystyru. Byddwn yn gwneud hynny drwy gyflwyno hierarchaeth ynni a charbon. Byddwn ni hefyd yn archwilio cyfyngiadau ar ddefnydd fel ffordd o reoli risgiau amgylcheddol ac ariannol, a chefnogi llesiant pobl sy'n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Yn hanfodol, byddwn ni'n cefnogi diwydiant ar draws Cymru, a fydd, ar ôl edrych yn fanwl ar ddewisiadau eraill yn yr hierarchaeth a'u disytyru, â CCUS yn unig fel ateb posibl i ddatgarboneiddio. Byddwn ni'n eu cefnogi yn eu hymdrechion i sicrhau modelau busnes a chyllid gan Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau pontio teg i sero net.
Byddwn yn ymgynghori'n gyhoeddus ar ddatganiadau o sefyllfa'r polisi a'r camau nesaf ar hydrogen a CCUS yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio gyda Diwydiant Sero Net Cymru i gefnogi pontio busnesau Cymru a sicrhau swyddi o ansawdd da i'r dyfodol o fewn sylfaen ddiwydiannol, carbon isel a ffyniannus. Diolch.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn gyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, a'i sylwadau ynghylch y risg ddifrifol y bydd eich Llywodraeth yn methu â chyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy ei hun. Pwysleisiodd y pwyllgor nad oedd rhwystrau rhag datblygu ynni adnewyddadwy yn newydd, nac ychwaith addewid Llywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â nhw. Roedd yr adroddiad yn nodi ymhellach sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un addewidion nawr ag y gwnaeth yn ôl yn strategaeth ynni 2012.
Ar ôl degawd o'r addewidion ailadroddus hyn, mae angen camau pendant arnom nawr tuag at wella. Efallai eich bod yn honni nad yw Llywodraeth y DU yn glir ac yn gyson, ond gallaf gadarnhau eich bod chi hefyd wedi bod yn gyson wrth fethu â chyflawni'r newidiadau sydd eu hangen arnom i sicrhau bod gan Gymru chwyldro ynni adnewyddadwy. Felly, a wnewch chi esbonio pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i gael gwared ar y rhwystrau rhag ynni adnewyddadwy yng Nghymru? Rwy'n credu'n gryf fod pŵer niwclear yn gwbl hanfodol er mwyn bodloni ein hymrwymiadau newid hinsawdd, ac rwy'n cymeradwyo ac yn cefnogi sylwadau Aelod Seneddol gwych Ynys Môn yn y gwaith y mae hi wedi'i wneud yn ceisio dod ag ynni niwclear i Ynys Môn.
Ar adeg o ansicrwydd rhyngwladol mawr yn y farchnad ynni, a wnaed yn waeth gan ryfel echrydus Putin yn erbyn Wcráin, mae'n hanfodol nad ydym yn cau llwybrau i gynhyrchu pŵer glân, dibynadwy a gynhyrchir yma yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ynni niwclear drwy'r Ddeddf Ynni Niwclear (Ariannu) 2022, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo yma heddiw i gefnogi safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd. Ar gyfer fy etholwyr i yn Aberconwy—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau ymyrryd?
Yn gyntaf oll, ni cheir unrhyw ymyriadau mewn datganiadau. Ac yn ail, a wnaiff yr holl Aelodau roi'r cyfle i'r Aelod ofyn ei chwestiynau, os gwelwch yn dda?
Diolch, Dirprwy Lywydd. I fy etholwyr yn Aberconwy, byddai safle adweithydd modiwlar bach yn golygu buddsoddiad o £200 miliwn a 200 o swyddi uniongyrchol, a byddai'n ein gwneud ni yn arweinydd mewn diwydiant gwyrdd sgiliau uchel. Felly, er mwyn gwella ein capasiti ynni adnewyddadwy yn y dyfodol, a wnewch chi, Gweinidog, roi gwleidyddiaeth plaid o'r neilltu, ac ymrwymo i gefnogi pŵer niwclear ar draws safleoedd fel Trawsfynydd, fel y gallwn ni roi hwb—
Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud, on'd ydyn nhw?
Wel, efallai eu bod nhw. Byddwn i wrth fy modd yn gwybod beth yw eich gwir safbwynt chi
Beth bynnag, wrth gwrs, mae'r datganiad hwn heddiw'n digwydd gydag uwchgynhadledd COP27 yn gefndir, lle bydd arweinwyr y byd, gan gynnwys ein Prif Weinidog ein hunain, yno i drafod sut y gallwn ni i gyd symud gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Gallwn ni dim ond gweithredu'n ystyrlon ar newid hinsawdd, gan gynnwys gwasgu'n drwm ar y llygrwyr mawr, os yw'r gymuned ryngwladol yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn estyn allan ac yn gwneud yn siŵr bod pob lefel o Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon busnes a defnyddwyr a dangos map ffordd clir tuag at ddarparu mwy o bŵer adnewyddadwy?
Rydych chi'n gwybod fy mod i hefyd yn gefnogol iawn o hydrogen, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto i sefydlu canolfan hydrogen yng Nghaergybi. A fyddwch chi'n efelychu'r polisi pentref hydrogen sydd bellach yn cael ei ddilyn mewn mannau eraill yn y DU? Mae yna adegau pan fo'n gyfleus i Lywodraeth Cymru ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU, fel sy'n digwydd yn yr hyn y byddaf yn siarad amdano nes ymlaen, ond mewn achosion eraill, rydych yn tueddu i fynd eich ffordd eich hun er mwyn mynd eich ffordd eich hun, a hyn ar draul fy nhrigolion yn Aberconwy a Chymru gyfan. Mae'n bryd i ni fwrw ymlaen â'r peth nawr mewn gwirionedd. Mae cymaint o dechnolegau gwahanol yn dod i'r amlwg mewn technoleg werdd a fydd yn darparu swyddi da, medrus iawn, â chyflogau uchel i bobl ledled Cymru. Ar ryw adeg, Gweinidog, mae'n rhaid i ni—wel, mae'n rhaid i chi—gydio yn y ddanadl hon. Diolch.
Wel, Janet, fel arfer, rwyf wir yn teimlo'r angen i ddechrau drwy eich atgoffa eich bod chi'n Dori, ac mai Llywodraeth y Torïaid yw'r un wnaeth dynnu'r buddsoddiad o Wylfa. Efallai y dylem ni brynu ychydig o hanes y 15 mlynedd diwethaf i chi a'i roi i'ch ymchwilydd, oherwydd rwy'n teimlo bod ei angen yn ddybryd, a dweud y gwir.
A'r peth arall: mae'n rhaid i mi edmygu eich digywilydd-dra llwyr. Wn i ddim a oes gennych chi driniaeth dda ar ei gyfer. Efallai y dylech chi ystyried byd comedi o ddifrif, oherwydd roedd hwnna'n chwerthinllyd. Yn gyntaf oll, rydym ni eisoes yn gwneud yr holl bethau yr oeddech chi'n galw arnom ni i'w gwneud. Mae'n siŵr y byddwch chi nawr yn trydar i ddweud ein bod ni'n gwneud y pethau yr ydych chi'n galw arnom ni i'w gwneud, yn hytrach na'u gwneud nhw ar eich cais chi, oherwydd rydym ni eisoes yn gwneud pob un peth y gwnaethoch chi ofyn i ni ei wneud. Mae Llywodraeth y DU yn copïo ein dull ni o ran niwclear ac nid y ffordd arall, dim ond i fod yn glir, ac mae'r holl arbenigedd wedi ymgynnull yn y gogledd ers cryn amser yn aros i Lywodraeth y DU (a) roi'r gorau i newid cyfeiriad o hyd, a (b) cael tipyn o siâp ar bethau mewn gwirionedd.
Ac mae'r ffaith y gallwch chi sefyll mewn gwirionedd heb gywilydd a chroesawu'r ffaith fod Prif Weinidog y DU wedi mynd i COP27, pan gafodd ei lusgo yn cicio ac yn sgrechian, a thraddodi yr hyn y gellir ond ei disgrifio fel araith ofnadwy o lugoer, ac nid yr araith i arwain y byd y dylai fod wedi'i gwneud, yn rhyfeddol a dweud y gwir.
Mae'r datganiad hwn yn hynod o amserol wrth i COP27 ddigwydd yn yr Aifft, fel dŷn ni newydd fod yn clywed. Bore yma, mi wnes i gyfarfod pobl ifanc fel rhan o COP Ieuenctid Cymru, sydd yn cael ei drefnu gan Size of Wales, ac mae'n glir i mi bod lleihau yr allyriadau carbon yn flaenoriaeth iddyn nhw er mwyn ceisio atal y rhybuddion dychrynllyd rhag cael eu gwireddu.
Yn gynharach eleni, mi wnaeth y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol yn San Steffan argymell y dylsai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wneud gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn safle peilot ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon. Yn amlwg, mae'r safle hwn yn bwysig iawn o ran swyddi lleol, ond mae datgarboneiddio'r gwaith yno hefyd yn rhan annatod o sicrhau'r dyfodol er mwyn lleihau costau ynni, a hefyd er mwyn lleihau allyriadau. Buaswn i'n ddiolchgar os gallech chi, Weinidog, ddweud wrthym ni pa drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol dŷch chi wedi eu cael ynglŷn â'r posibiliad o gynnwys Port Talbot yn y peilot dal, defnyddio a storio carbon. Buaswn i'n hoffi clywed mwy hefyd am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn symud ymlaen gyda chynlluniau dal carbon, a chefnogi gwaith dur yng Nghymru, wrth gwrs.
O ran yr egwyddor o ddal carbon, rwy'n derbyn yr hyn dŷch chi wedi ei ddweud am yr angen i gynnal gwaith ymchwil trylwyr i dechnoleg sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ond a allwch chi roi syniad i ni plîs o'r rationale y tu ôl i ddefnyddio hyn fel opsiwn terfynol? Ife'r pryder yw na fydd canran y carbon fyddai'n cael ei ddal yn ddigonol er mwyn cyfrannu'n ddigonol ar gyfer net sero, felly na ddylen ni roi gormod ar bwyslais ar hynna? Buaswn i'n hoffi deall hynna yn fwy plîs.
A gan symud ymlaen at yr hyn dŷch chi wedi'i ddweud am hydrogen, rwy'n falch eich bod yn cydnabod y potensial enfawr yn y maes hwn, a byddwn i'n awgrymu bod angen symud ymlaen yn gyflym ar hyn, fel ein bod ni'n gallu arwain y maes yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod hyn yn bwnc mae fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth yn ymddiddori'n fawr ynddo fe. Mae e wedi cynnal dadl ar hyn; mae e wedi sôn am y gwaith gwych sy'n digwydd mewn prifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â'r ffaith bod sawl cwmni arloesol wedi'u lleoli yma. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am beth amser am weithredu yn y maes hwn. Dwi yn croesawu'r ffaith eich bod chi'n bwriadu ymgynghori ar strategaeth hydrogen yn fuan. A allwch chi roi sicrwydd i ni plîs y bydd y gwaith o ddatblygu'r sector yn parhau yn y cyfamser?
Ac yn olaf, i droi yn ôl at COP27, mae dau beth hanfodol i'w deall. Yn gyntaf, maint y broblem. Dywedodd pennaeth y cenhedloedd unedig ein bod ni ar lwybr tuag at uffern hinsawdd. Mae'r frawddeg yna wedi cael eu 'quote-o' nifer o weithiau'n barod yn y Siambr heddiw, ond gallwn ni ddim tanbrisio pwysigrwydd hynny. O ddeall hyn, mae angen bod yn gwbl glir am y camau mae pob Llywodraeth yn eu cymryd, ac yn bwriadu eu cymryd, er mwyn mynd i'r afael â'r broblem. Mae pobl ledled y byd yn poeni'n ddifrifol am y sefyllfa; roedd y bobl ifanc roeddwn i'n cwrdd â nhw'r bore yma wir yn poeni. A allwch chi ddweud sut bydd eich Llywodraeth yn defnyddio'ch dylanwad chi i osod esiampl a chydweithio gydag eraill i geisio cael effaith ar y sefyllfa fyd-eang? Ar y pwynt olaf yna, Weinidog, a allwch ch ddweud a ydych chi'n meddwl bod cyfle efallai wedi cael ei golli i gael llais Cymru yn gryfach ar y platfform rhyngwladol, o ystyried bod Prif Weinidog yr Alban wedi mynd i COP27? Dwi ddim yn bwriadu i hwnna i ddod drosodd fel eich cyhuddo chi o unrhyw beth fan hyn; dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif yn fawr, ond achos bod platfform Cymru yn rhyngwladol mor uchel ar hyn o bryd, ydych chi'n meddwl efallai bod hynna'n gyfle sydd wedi cael ei golli? Diolch.
Diolch, Delyth. Wel, i ymdrin â'r un olaf yna yn gyntaf, roeddem ni'n ystyried yn ofalus iawn a ddylwn i fynd i COP27, neu yn wir, a ddylai'r Prif Weinidog fynd, ond rydw i mewn gwirionedd yn mynd i COP15 yng Nghanada—y COP bioamrywiaeth—sef y COP sy'n gwneud penderfyniadau. Ac o ystyried yr ôl troed carbon yn sgil mynd dros y lle i gyd, ac o ystyried nad yw hwn yn COP sy'n gwneud penderfyniadau—mae'n COP gweithredu; mae gennym dîm o swyddogion allan yno yn gweithio ar yr ochr weithredu ohono, ond roeddem yn credu y byddai'n well defnyddio'r llwyfan yn COP15 oherwydd bod angen i ni ddatblygu'r targedau 30x30, ac mae'n COP sy'n gwneud penderfyniadau. Felly, cafodd ei gydbwyso'n ofalus. Roeddem ni wir yn ystyried y peth, ac fe wnes i feddwl o ddifrif am fynd, ond, ar y cyfan, fe benderfynom ni—mae'n flwyddyn Cymru yng Nghanada hefyd—bod presenoldeb gweinidogol yn COP15 yn bwysig iawn. Ond dim ond i fod yn glir iawn, mae gennym dîm o swyddogion allan yn COP27 yn cymryd rhan yn y trafodaethau gweithredu, sy'n amlwg yn rhan bwysig iawn o'r hyn sy'n digwydd yno. A dyna pam yr oedd hi mor siomedig bod Prif Weinidog y DU, sydd â sedd wrth y bwrdd mewn gwirionedd, yn anffodus does gen i ddim un, mor amharod i gymryd y swyddogaeth flaenllaw honno, sydd, yn fy marn i, yn bwynt pwysig iawn.
Ac, wedyn, o ran yr holl bethau technegol eraill, o ran y modelau dal, defnyddio a storio carbon, rydym ni'n cymryd rhan yn y treialon yn y gogledd—y treialon HyNet. Mae yna broblemau gwirioneddol yn ymwneud â sut y byddai'r dechnoleg yn gweithio yng ngweddill Cymru oherwydd does dim cyfleoedd storio addas. Rydym ni'n edrych ar gyfres gyfan o ddarnau o waith ynghylch a fyddai piblinell—sut y byddai'n gweithio, ond mae'n debygol o fod yn eithaf drud, ac, yn anffodus, mae rhai o'r diwydiannau trwm sydd ei angen yn y de. Felly, rydym ni'n cymryd rhan lawn yn HyNet yn y gogledd-ddwyrain, ac yn helpu diwydiant yno i gymryd rhan ynddo.
Ein—dydw i ddim yn gwybod pa air i'w ddefnyddio; mae 'amheuaeth' yn air rhy gryf—ond ein pryder yw y bydd gorddibyniaeth ar dechnoleg nad yw wedi'i brofi eto ar ein llwybr i sero net yn dod i ben a ninnau heb gyrraedd yno. Felly, os profir y dechnoleg, yna byddwn, wrth gwrs, yn ei chofleidio, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda Valero, Tata Steel, a nifer o ddiwydiannau trwm iawn eraill ar hyd arfordir y de yma i geisio deall sut y gallai hynny weithio iddyn nhw, ac yn wir, mewn gwirionedd, sut y gellid ailddefnyddio'r carbon a storiwyd, fel y dywedoch chi. Ond mae'r dechnoleg honno yn hir yn dod, ac nid yw yno eto—mae'n gweithio ar raddfa fach, ond does dim ar unrhyw raddfa eto. Ac rwy'n poeni braidd y byddai gorddibyniaeth ar dechnoleg nad yw yno eto i'n hachub ni i gyd efallai yn methu â'n hachub ni i gyd. Felly rwyf eisiau bod yn glir ar hynny.
Ac yna, ar hydrogen, mae'n amlwg bod angen tanwyddau ffosil ar gyfer gwneud hydrogen ar raddfa fawr ar hyn o bryd. Ond i fod yn glir iawn, er y byddwn ni'n caniatáu i hynny ddigwydd yng Nghymru, oherwydd mae angen yr hydrogen arnom ni, ni fyddwn ni'n cael ein dal yn ôl gyda hen asedau na hen dechnoleg a byddwn ni'n sicr bod unrhyw un sy'n cael trwyddedau i wneud hynny ar lwybr i hydrogen gwyrdd yn gyflym iawn. Ac rwyf wedi cael nifer fawr o drafodaethau diddorol iawn gyda phenaethiaid byd-eang o wahanol ddiwydiannau adnewyddadwy ynglŷn â gwneud yn siŵr bod gennym ni sector cynllunio sy'n annog y defnydd o hydrogen, ond hefyd yn osgoi mynd yn sownd fel mainc arbrofi ar gyfer hen dechnoleg ac yna'n symud ymlaen i raddfa fwy, yn rhywle arall. Felly, mae calibreiddio yn rhan fawr o'r strategaeth. Ac yna, dim ond i'ch sicrhau chi ein bod yn gweithio'n galed, a phan fyddwn yn cyflwyno'r strategaeth, bydd ôl gwaith manwl arni, ac yna byddwn yn disgwyl barn y Senedd ynghylch ble i fynd nesaf.
Yn bersonol, os nad ydym ni'n mynd i drosglwyddo'r risg a'r atebolrwydd amgylcheddol i genedlaethau'r dyfodol, dydw i ddim yn gweld sut y gallwn ni fod yn adeiladu gorsafoedd niwclear, oherwydd does neb yn gwybod beth i'w wneud â'r holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o drosglwyddo'r risg yna.
Rwyf eisiau croesawu'r ffaith eich bod chi'n canolbwyntio ar hydrogen gwyrdd fel y nod tymor hir, ond byddwn i'n awyddus i ddeall beth allwn ni ei wneud i gynhyrchu mwy o drydan dros ben o wynt a solar fel nad ydym ni mor ddibynnol ar orfod defnyddio hydrogen glas ar gyfer datgarboneiddio ein diwydiannau. Ac yn olaf, tybed a wnewch chi ddweud wrthym, o ran y prosesau nad ydyn nhw'n llosgi sy'n allyrru, pa gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud o ran cefnogi diwydiant i ddatblygu concrit mwy carbon isel o lawer yn hytrach na'r stwff sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer? Yn amlwg, rydym angen concrit o hyd, ond mae angen i ni fod â concrit carbon isel i adeiladu'r pontydd hynny ar draws ein rheilffyrdd a'n hafonydd ni.
Diolch, Jenny. Felly, ynghylch yr un olaf yna, rydym ni'n ariannu ac yn gweithio ochr yn ochr â nifer o brifysgolion ledled Cymru, ac yn benodol i lawr yn Abertawe—yn benodol iawn—i ddatblygu seilwaith mor garbon isel â phosibl ar gyfer pethau fel concrit a dur. Ni allwch chi gael adnoddau adnewyddadwy heb ddur, felly mae sicrhau bod y dur yn cael ei gynhyrchu mor effeithlon drwy fethodoleg mor garbon isel â phosibl yn rhan wirioneddol bwysig o hynny. Ac mae Vaughan Gething a minnau a Jeremy Miles wedi cael cyfres o sgyrsiau am ein rhaglen sgiliau sero net, ond gyda'r gwahanol borthladdoedd ar hyd arfordir y de a'r chwaraewyr amrywiol yn y porthladdoedd hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni'n dod â'r dechnoleg ar gyfer gwynt arnofiol, er enghraifft, yma i'r de, ac rydym ni'n gwneud yn siŵr bod ein prosesau gweithgynhyrchu dur yn gallu gwneud y mathau o ddur sydd eu hangen i wneud hynny, a bod gennym ni'r holl stwff arall—y ceblau tanfor, a'r cadwyni, a'r gweddill, yr holl linellau cynhyrchu sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, nifer fawr o swyddi gwyrdd, mewn cromfachau, ond mewn gwirionedd yn gwneud cynhyrchion nad ydyn nhw'n arbennig o wyrdd, er mwyn helpu'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Felly mae sicrhau eu bod nhw i gyd wedi'u datgarboneiddio—y ceblau, a'r cadwyni, ac ati hefyd wedi'u cynhyrchu gan osgoi prosesau carbon-ddwys cymaint â phosibl yn bwysig i'r prosiect hwnnw. Ac rydym ni wedi noddi nifer fawr o brosiectau ymchwil o gwmpas Cymru. Fe wnaeth nifer ohonom—Lesley a'r Prif Weinidog—gyfarfod â nifer fawr o gwmnïau yn ne Iwerddon yn ddiweddar iawn, i drafod hyn i gyd hefyd. Felly rydym ni'n cymryd rhan weithredol iawn yn y math yna o drafodaeth.
Y broblem fawr ar gyfer ynni adnewyddadwy yw llwyth sylfaenol, fel y mae'n cael ei alw. Felly, dyma'r ynni y gellir ei droi ymlaen pan fydd pawb yn troi eu tegell ymlaen am 9 o'r gloch, rhywbeth y mae pobl yn dal i'w wneud, yn ôl pob tebyg, er nad ydym i gyd yn gwylio'r un rhaglen deledu. A dyna un o drasiedïau penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i beidio ariannu'r morlynnoedd llanw, oherwydd roedd gan y rheini'r potensial go iawn ar gyfer hynny. Byddwn ni'n cyflwyno her morlyn llanw, fel yr addawyd yn ein maniffesto, yn fuan, i sicrhau ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y dechnoleg ar waith. Ac rydw i hefyd eisiau atgoffa'r Llywodraeth Geidwadol mai un o'r pethau cyntaf wnaethon nhw pan ddaethon nhw i rym, amser pell iawn yn ôl nawr—felly, yr holl Lywodraethau hyn yr ydych chi'n eu beio yw rhai chi eich hun—oedd canslo prosiect morglawdd Hafren. Felly, y syniad sydd—. Gallem wir fod ar y ffordd go iawn tuag at fod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy ac yn hytrach na hynny, rydym mewn argyfwng byd-eang a achosir gan ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, ac un pwynt penodol a dynnodd fy sylw oedd yr eglurhad ynghylch defnyddio hydrogen glas fel ffordd o bontio tuag at ddefnyddio hydrogen gwyrdd. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol, yn gynharach heddiw yn fy nghyfraniad i'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, siaradais am wynt arnofiol ar y môr a phosibiliadau hynny oddi ar arfordir de sir Benfro, a sut y gall yr ynni adnewyddadwy hwnnw gyfrannu at gynhyrchu hydrogen gwyrdd hefyd. Felly rwy'n ddiolchgar am y pwynt yna o eglurhad.
Ond a gaf i hefyd bwysleisio, cwmni arall y soniodd y Gweinidog amdano mewn ymateb i Delyth Jewell oedd Valero, ac, er na chafodd ei grybwyll yn uniongyrchol yn eich datganiad, rwy'n pwysleisio pwysigrwydd y cynllun masnachu allyriadau? Ac a gaf i ymbil ar y Gweinidog i sicrhau bod cyfathrebu yn dal i fynd rhagddo gyda Valero a busnesau eraill yng nghlwstwr diwydiannol y de ynghylch y cynllun masnachu allyriadau a pha mor bwysig yw'r cynllun hwnnw ar gyfer gwaith datgarboneiddio'r cyflogwyr gwirioneddol bwysig hyn. Oherwydd, er ein bod eisiau cyrraedd sero net, mae'r cyflogwyr hyn yn dal i ddarparu swyddi a chefnogi cymunedau a theuluoedd ar hyn o bryd, ac ni allwch ddiffodd y busnesau hyn nawr. Felly, hoffwn ymbil arni i barhau â'r trafodaethau hynny, a byddwn i'n ddiolchgar dros ben. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n hapus iawn i'ch sicrhau chi ein bod ni, wrth gwrs, yn gwneud hynny. Yn ddiweddar iawn, cyfarfu Gweinidog yr Economi a minnau â Valero i drafod hynny'n union. Rydym yn aros am y grŵp rhyngweinidogol nesaf gyda Llywodraeth y DU i drafod y fersiwn nesaf. Rydym ni'n cael ein llyffetheirio braidd gan y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon. Felly fe wnaethom ymgynghori ar y cynllun masnachu, fel rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, ond mae'n gofyn i'r pedair Llywodraeth ddod at ei gilydd fel yr awdurdod i allu bwrw ymlaen â hynny. Felly, mae'n siŵr, y bydd trafodaeth am sut i reoli hynny, o ystyried y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon.
Mae yna sgyrsiau o hyd am bris allforio carbon, fyddai'n bendant yn diogelu ein diwydiant dur, er enghraifft, a bu galw amdano am beth amser, felly trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch, wel, yn anffodus, eu hamharodrwydd i wneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael yr ôl troed byd-eang iawn er mwyn i ni allu amddiffyn ein diwydiannau effeithlon a'u galluogi i gystadlu ar lwyfan byd-eang, yn hytrach na dim ond gwaredu cynhyrchion llawer rhatach nad ydyn nhw wedi'u cynhyrchu mewn modd effeithlon o ran carbon ar draws y byd. Felly mae'r math yna o drafodaethau yn parhau.
Yna, ynghylch gwynt arnofiol, clywais eich cwestiwn yn gynharach, wrth gwrs; rydym yn croesawu'r diddordeb ynddo. Fe fyddwn i'n dweud ein bod ni eisiau i Ystad y Goron gael ei datganoli, rwy'n gwybod nad polisi eich meinciau chi yw hwn, ond pe bai Ystad y Goron wedi ei datganoli i Gymru, fel y mae hi yn yr Alban, mae'n amlwg o drafod gyda'r Alban beth arall y gellir ei wneud. Nawr, mae gennym ni berthynas dda gydag Ystad y Goron, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ac maen nhw wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran cadwyni cyflenwi yng Nghymru ac ati, ond heb os, pe baem ni yn ei rheoli yma yng Nghymru, fe allem ni gael cadwyn gyflenwi well a gwell elw yma yng Nghymru, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Felly byddwn yn annog y Ceidwadwyr i feddwl eto am y polisi hwnnw.
A minnau'n Aelod Ynys Môn, gallwn i fynd ar drywydd sawl elfen o'r datganiad eang iawn yna. Rwy'n cadw fy niddordeb arbennig mewn hydrogen, ar ôl arwain y ddadl honno am hydrogen yma ryw ddwy flynedd a hanner yn ôl. Rwy'n deall y diddordeb yn HyNet yn y gogledd-ddwyrain, ond byddwn yn annog y Gweinidog i gadw llygad ar gysylltiad Môr Iwerddon a'i ddatblygu—Sir Benfro, Ynys Môn, ynghyd â'n partneriaid yn Iwerddon—o ran hydrogen; rhagolygon gwirioneddol ddiddorol ar gyfer hydrogen gwyrdd sy'n gysylltiedig ag ynni ffrwd lanw, â gwynt ar y môr, hefyd o ran cynhyrchu niwclear yn creu dewisiadau storio hydrogen. Mae hynny'n ddiddorol iawn, er mai'r cyd-destun, wrth gwrs, yw methiant truenus y Ceidwadwyr i gyflawni ar Wylfa, er gwaethaf y gwaith caled yn lleol, ac, fel mae'n digwydd, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros ynni yn San Steffan yr wythnos diwethaf, gan ofyn am eglurder, oherwydd bydd yr amwysedd hwn ynghylch eu bwriadau yn niweidio cymunedau fel fy un i. Dyna'r effaith y mae anwadalwch y Ceidwadwyr yn ei gael. Ond, fel mae'n digwydd, mae gennym lawer o faterion eraill y gallwn fynd i'r afael â nhw. Ond cwestiwn byr iawn—
Ie os gwelwch yn dda.
—yn ymwneud â solar. Efallai nad yw'r Gweinidog yn ymwybodol o gynllun o'r enw Solar Together ar Lannau Mersi. Mae'n grŵp sy'n prynu—rhyw fath o gynllun swmp brynu, gan annog cymunedau i brynu paneli solar gyda'i gilydd, er mwyn dod â phrisiau i lawr i annog buddsoddiad. Ydy hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried yng Nghymru?
Felly, ydi, mae hynny'n ddiddorol iawn. Rwy'n ymwybodol ohono, ac mae'n ddatblygiad diddorol iawn. Rydym ni'n frwdfrydig iawn. Mae'r cynllun y cyfeiriwyd ato gan ein cyd-Aelod, Mike Hedges, yn gynllun tebyg iawn, felly rydym ni'n awyddus iawn i ddeall sut y gallem ni ddenu cyllid er mwyn cynorthwyo cymunedau i ddod at ei gilydd i wneud hynny'n union, ac yna i rannu'r ynni. Felly, yn y cynllun hwnnw yn arbennig mae'n drawiadol iawn nad oes gan bawb do addas ar gyfer solar, ond mae pawb yn gallu rhannu yn y broses o ddosbarthu pŵer ac ati. Felly, ydym, rydym ni'n frwd iawn dros hynny. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, sydd â phanel solar diddorol iawn, wedi ei gynhyrchu yma yng Nghymru ond nid o faint llawn eto. Felly, byddai gallu cael cadwyn gyflenwi a oedd yn un Gymreig yn wych iawn, nid yn unig oherwydd y byddwn i wir wrth fy modd yn cael y math yna o dechnoleg yn cael ei gwneud yng Nghymru, ond hefyd oherwydd bod yr ôl troed carbon yn sgil eu cludo nhw i gyd o Tsieina yn amlwg yn sylweddol. Felly, mae llawer o bethau i'w hystyried yna, ac rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
O ran hydrogen, fe wnes i sôn am HyNet, ond rwy'n ymwybodol o'r holl bosibiliadau eraill. Rydym newydd fuddsoddi £1.21 miliwn mewn ystod gyfan o brosiectau ar hydrogen ar draws arfordiroedd y gogledd a'r gorllewin, gan gynnwys edrych ar ystod o ynni adnewyddadwy y gellid eu defnyddio i gynhyrchu ynni dros ben, fel y'i gelwir—felly, ynni na ellir ei allforio i'r grid—er mwyn gwneud cynhyrchu hydrogen yn fwy hyfyw. Yn sicr, byddwn yn edrych ar hynny fel cyfnod pontio wrth i ni symud ymlaen.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Dyma'r amser i ganolbwyntio'n ddi-baid ar greu dyfodol ynni adnewyddadwy cryf a pharhau i sefydlu Cymru fel arweinydd ar sero net. Mae Cymru'n elwa ar adnoddau ynni adnewyddadwy amrywiol—gwynt ar y tir, gwynt sefydlog ac arnofiol ar y môr, tonnau, llanw a solar—gall pob un ohonyn nhw ddod â chyfleoedd sylweddol i Gymru. Mae ynni adnewyddadwy yn darparu ynni cost isel, sy'n cael ei greu yma yng Nghymru, sy'n lleihau ein dibyniaeth ar brisiau nwy rhyngwladol, ac felly'n diogelu talwyr biliau.
Gwynt ar y tir yw un o'r technolegau cynhyrchu trydan â'r gost isaf, gydag amseroedd adeiladu cyflym. Gan ategu cynhyrchu ynni gwynt, bydd ynni'r llanw ac ynni tonnau yn darparu ffynonellau rhagweladwy a dibynadwy, gyda chyfleoedd cydleoli rhwng tonnau a gwynt arnofiol ar y môr. Dylai morlyn llanw bae Abertawe, y soniodd y Gweinidog amdano ychydig eiliadau yn ôl, nawr ddod yn gost effeithiol, ac rwy'n annog y Gweinidog i wneud popeth posibl i sicrhau ei fod yn digwydd. Mae gennym broblemau gyda chysylltedd grid. Beth sy'n cael ei wneud i wella cysylltedd y grid? Yn olaf, ac yn bwysicaf oll efallai, sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr nad yw dal carbon yn y pendraw yn asideiddio'r môr?
Ynghylch yr un olaf yna, yn union hynny, Mike. Dyna un o'r rhesymau ein bod yn edrych yn ofalus ar ddatblygu dal, defnyddio a storio carbon. Mae'r dechnoleg yn amlwg yn gweithio ar raddfa fach, ond hyd yn hyn does dim graddfa fawr, a bydd y materion storio sy'n cael eu hystyried ym mhrosiect HyNet yn y gogledd yn bwysig iawn, iawn—felly, bydd yr holl faterion ynghylch cynnwys a gwneud yn siŵr nad yw'n gollwng ac ati. Y peth gorau fyddai ei ddefnyddio mewn gwirionedd—felly, edrych ar yr holl brosiectau a all ddefnyddio'r carbon sy'n cael ei ddal yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Felly, mae'r rhan defnyddio ohono, yn ogystal â'r rhan storio, yn bwysig iawn. Dyna pam yr ydym ni'n edrych arno yn weddol bwyllog, oherwydd rwy'n credu ei fod yn cael ei weld fel un ateb syml, addas at bob diben i raddau mewn rhai diwydiannau, ac yn sicr nid yw dim byd o'r fath.
O ran yr ystod o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud, mae gennym bolisi clir iawn ar berchnogaeth leol. Fe fyddem ni'n hoffi gweld system prisiau ynni sy'n hollol wahanol i'r un sydd gennym ni nawr. Mae'n amlwg ein bod ni'n gysylltiedig â phris y farchnad o ran nwy, ac mae hynny'n wir hyd yn oed os ydych chi'n cael y rhan fwyaf o'ch ynni o adnoddau adnewyddadwy, sy'n amlwg yn hurt. Mae gennym rai prosiectau cymunedol ar gylchedau dolen gaeedig, nad yw'n dioddef o'r broblem honno. Yn amlwg rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod y rheiny'n digwydd, ond mewn ffordd gynaliadwy. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd â'r hyn ddigwyddodd i lawr ym Mhort Talbot pan aeth un o'r rheiny braidd o chwith—felly, mae sicrhau ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny a sicrhau bod systemau dolen gaeedig sy'n eiddo i'r gymuned hefyd yn gweithio yn bwysig iawn i ni.
Ac yna'r darn olaf roeddwn i eisiau sôn amdano oedd, ychydig cyn i bawb newid seddi eto yn San Steffan, roeddem ni wedi cael cytundeb gyda Greg Hands, sef y Gweinidog ar y pryd, y byddai gennym gynllun rhwydwaith cyfannol i Gymru o'r diwedd—ar ôl 40 mlynedd o Lafur yn gofyn a gofyn, mae'r Ceidwadwyr yn gweld synnwyr. Mae'n ymddangos ei bod hi bob amser yn cymryd tua 40 mlynedd iddyn nhw weld synnwyr, yn anffodus. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n digwydd ar ôl i'r Gweinidog newydd ymgartrefu. Rydym yn obeithiol y bydd ac y bydd hynny'n golygu y byddwn, am y tro cyntaf, â grid wedi'i gynllunio i Gymru, nid un yn cael ei ysgogi gan ba bynnag ddefnyddiwr sydd eisiau cysylltu nesaf, a bydd hynny'n golygu y byddwn yn gallu llunio cynlluniau perchnogaeth gymunedol mewn ffordd lawer mwy rhesymol ac ymarferol ledled Cymru, a bydd hynny'n golygu y byddwn yn gallu llunio cynlluniau perchnogaeth gymunedol mewn ffordd lawer mwy rhesymol ac ymarferol ledled Cymru, yn hytrach na'r egwyddor braidd ar hap o bwy bynnag sy'n mynd gyntaf sy'n talu sydd gennym ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Fe wnaethoch chi ddatganiadau pwerus iawn ar ddechrau eich datganiad am le glo yn ein hanes ni ac nid yn ein dyfodol ni. Ond mae yna, wrth gwrs, rai cysyniadau a chaniatadau o fewn y system yn barod. Allwch chi gadarnhau—? Dydw i ddim eisiau eich temtio i wneud unrhyw sylw ar geisiadau unigol, ond a allwch chi gadarnhau nad polisi'r Llywodraeth hon yw caniatáu unrhyw echdynnu glo pellach ar unrhyw adeg yn y dyfodol?
Byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gael datganiad ar niwclear a'i le yn y gymysgedd ynni gyffredinol. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogwr cryf iawn o le niwclear yn y gymysgedd ynni, ac mae'r pwyntiau a wnaethoch am gyflenwad llwyth sylfaen rwy'n credu wedi'u gwneud yn dda, ac mae niwclear yn darparu hynny. Ond mae angen sgwrs arnom ynghylch sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny, yn enwedig o ystyried methiannau Llywodraeth y DU ar bolisi niwclear yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Ond yn olaf, Gweinidog, hoffwn eich gwthio ychydig ymhellach os caf i, ar natur polisi Llywodraeth Cymru. Dydw i ddim eisiau ein gweld ni'n mabwysiadu dull pryd y byddwn yn dweud ein bod ni eisiau ynni adnewyddadwy ac felly byddwn yn derbyn unrhyw beth i gyflawni'r amcan syml hwnnw. Dydw i ddim eisiau gweld fy Nghymoedd, y Cymoedd yn rhan uchaf Gwent yr ydw i'n eu cynrychioli, yn cael datblygiadau enfawr wedi eu gwthio arnom er mwyn llwyddo i gyrraedd targed sy'n cael ei bennu mewn mannau eraill. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw gweledigaeth wahanol iawn o gynhyrchu lleol—
Alun, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.
—cefnogi angen lleol a chyflenwi lleol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n cynnig cyfle i ni wneud llawer mwy. Ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar lawer o'r problemau sy'n bodoli, oherwydd, yn sicr, un o'r rhwystrau mawr yr ydym ni'n eu canfod yw bod cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn atal cydsyniadau a chaniatadau sy'n gwneud ac yn creu rhwystrau rhag datblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.
Rwy'n cytuno â hynny, Alun, ac felly byddwn yn cyflwyno'r Bil cydsynio seilwaith ym mlwyddyn y Cynulliad hwn—felly, cyn diwedd tymor yr haf—i wneud yn siŵr ein bod yn symleiddio'r cydsyniad ar gyfer prosiectau mawr ac yn gwneud gwahaniaeth penodol iawn rhwng y setiau cynllunio ar gyfer y rheini. Rydym ni wedi bod yn gwneud cyfres o gylchoedd hyfforddi gyda'r holl awdurdodau cynllunio yng Nghymru ynglŷn â sut i fynd ati i weithredu hynny a gwneud yn siŵr eu bod yn gwbl ymwybodol o 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol' ac o iteriad diweddaraf 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd wedi nodi'r holl bolisïau yr ydych chi wedi'u nodi yna.
O ran llwyth sylfaenol, dyna pam y mae ffiasgo morlyn llanw bae Abertawe mor drist, oherwydd byddem wedi cael prosiect treialu yno i weld a allech chi gael ynni adnewyddadwy llwyth sylfaenol. Yn y cyfamser, niwclear yw'r unig ddewis ar gyfer hynny.
O ran niwclear—Janet Finch-Saunders, ni wnes i ymdrin â'r pwynt pan godwyd hwnnw, ond mae'r ffordd o dalu amdano yn hollol hurt. Felly, ar hyn o bryd, maen nhw'n defnyddio model sy'n rhannu'r gost ymhlith yr holl ddefnyddwyr. Yn amlwg, mae'n hollol dwp. Dylai hyn gael ei wneud fel prosiectau ymchwil a datblygu, wedi'u cyfalafu'n briodol gan Lywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, ni ddylem fod wedi troi ein cefnau ar y cydweithio â phrifysgolion ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar draul pawb fwy neu lai ar y blaned, heb ystyried yma yn y DU. Felly, byddai gwrthdroi hynny'n fargen dda.
Ac yna, ynghylch rhan olaf hynny, oherwydd rydym ni wedi creu datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd, dyna'r offeryn y byddwn yn ei ddefnyddio i annog, ochr yn ochr ag Ynni Cymru a gyda Phlaid Cymru, perchnogaeth gymunedol y gweithfeydd adnewyddadwy mwy o faint a fydd yn caniatáu i ni rannu'r elw. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.