1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch Llywydd. Yn gyntaf oll, Prif Weinidog, rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddymuno lwc dda i dîm Cymru heno, cario baner Cymru i'r cae pêl-droed a gobeithio, rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd sawl gwaith yn erbyn yr hen elyn [Chwerthin.] Oherwydd, yn y pen draw, rydym eisiau i'n cefnogwyr ac, yn bwysig iawn, ein tîm aros allan yn Qatar yn hirach a symud ymlaen drwy'r twrnamaint.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ddechrau mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd £2 filiwn i wella ystafelloedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a'r amgylchfyd y gallai'r bobl yn dod i'r ystafelloedd aros hynny ei brofi. Sut mae'r gwaith o gyflwyno hyn yn mynd yn ei flaen, oherwydd roedd i fod i ddod i ben er mwyn bod yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf?
Yn gyntaf oll, Llywydd, hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn ei sylwadau agoriadol. Bydd yn gwybod y bûm yn Qatar yr adeg yma'r wythnos diwethaf. Cefais gyfle i fynd i weld tîm Cymru yn hyfforddi a chwrdd â nhw yn eu paratoadau. Maen nhw'n grŵp mwyaf ffantastig o bobl; rydym ni'n ffodus iawn i'w cael nhw i'n cynrychioli ni ar y llwyfan byd hwnnw. Mae eu hymrwymiad i'w gilydd, eu teimlad o falchder o gynrychioli Cymru a'u synnwyr o'r hyn y mae'n ei olygu y tu hwnt i bêl-droed yn gwbl amlwg pan fyddwch chi'n cwrdd â nhw. Credaf y dylem fod yn falch iawn yn wir o'r cefnogwyr sydd draw yno hefyd. Mae eu synnwyr nhw o beth yw hi i fod yn Gymry pan y'ch chi mewn twrnamaint o'r math yna yn gwbl amlwg pan fyddwch chi gyda nhw, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, fod pawb yn gobeithio y bydd hynny'n trosi heno i lwyddiant ar y maes.
I droi at y cwestiwn dan sylw, yn wir, fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi £2.7 miliwn i fyrddau iechyd. Mae wedi'i ddyrannu, mae wedi cyrraedd y byrddau iechyd. Rydw i wedi gweld fy hun y mesurau y mae'r byrddau iechyd yn bwriadu eu cymryd. Mae pob bwrdd iechyd wedi gorfod nodi'r ffordd y bydd yn gwario'r arian, ac mae'r rhestrau hynny i mewn ac wedi cael eu cymeradwyo, a bellach mae angen gweithredu i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Nid wyf yn credu y gallwn ni fod yn gwbl ffyddiog bod yr arian hwnnw yn gwneud y gwahaniaeth y mae angen iddo ei wneud hyd yma, ond nawr mae'n rhaid i fyrddau iechyd wneud yn siŵr, gyda'r adnodd a ddarperir, gyda'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo, bod hynny'n gwneud y gwahaniaeth ar lawr gwlad, fel bod gan gleifion sy'n dod i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys y safonau sylfaenol hynny y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mewn un anadl, mae'n braf clywed bod y rhestrau i mewn—rwy'n credu mai dyna'r derminoleg a ddefnyddioch chi—ond, yn anffodus, byddai unrhyw un a edrychodd ar Twitter dros y penwythnos wedi gweld y llwybr o brofiadau yr oedd pobl yn eu cael yn ystafell aros adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru. Ar eich ffordd i mewn, roedd pentwr o gyfog ar y llawr yn eich croesawu, mynydd o stympiau sigaréts ar ben bin, eitemau ar gyfer y mislif mewn toiled a oedd yn orlawn, a pheiriant gwerthu a oedd â thair eitem o fwyd ynddo i roi rhywfaint o ryddhad i'r bobl wrth iddyn nhw aros. Hefyd, roedd cadeiriau wedi torri yn yr amgylchfyd hwnnw, ac mae'r ffotograffau'n tystio iddyn nhw. Mae hyn wir yn dangos pa mor anodd yw'r amgylchfyd y gofynnir i bobl aros ynddo.
Nawr, gallech chi a minnau drafod yn helaeth y rotâu staffio a darpariaethau eraill, ond, os nad yw byrddau iechyd yn gallu cael y pethau sylfaenol yn iawn ac, yn arbennig, pan fyddwch chi wedi sicrhau bod arian ar gael, pa ryfedd bod pobl yn mynd yn rhwystredig iawn ac yn ofidus iawn pan fyddant yn cael y profiad hwnnw yn adran ddamweiniau ac achosion brys mwyaf Cymru? Ond, yn anffodus, rwy'n amau nad digwyddiad ynysig o ran adrannau damweiniau ac achosion brys yw hwn, a byddwn i'n gobeithio'n fawr y gall y Llywodraeth roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw eich bod yn dwyn pwysau ar y byrddau iechyd i wneud yn siŵr y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario, bydd gwelliannau'n cael eu gwneud a bydd y profiad i staff a'r cleifion wedi gwella'n fawr yn ystod yr wythnosau nesaf.
Wel, rwy'n sicr yn disgwyl i'r gwelliannau hynny gael eu gwneud, a byddwn yn sicr yn disgwyl eu gweld yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—uned newydd gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru o fewn y pum mlynedd diwethaf. Felly, nid hen adeilad yw hwn, sy'n anaddas ar gyfer amgylchfyd modern; roedd hwn yn adeilad a ddarparwyd i fod yn addas ar gyfer y mathau presennol o wasanaethau y byddech yn disgwyl i adran ddamweiniau ac achosion brys o'r fath eu darparu.
Fodd bynnag, Llywydd, mae rhai o'r pethau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u darllen i ni yn dangos yr heriau y mae staff yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys yn eu hwynebu, oherwydd nid y gwasanaeth iechyd a chwydodd ar y ffordd i mewn i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac nid staff iechyd a adawodd stympiau sigaréts ar draws y fynedfa. Felly, rwy'n credu, yn ogystal â mynnu, yn briodol, yr ymdrinnir yn iawn â phethau sylfaenol, a bod yr arian sy'n cael ei ddarparu yn cael ei wario'n iawn, mae'n rhaid hefyd ystyried yr amodau y mae'r staff eu hunain yn gorfod gweithio o danyn nhw. Ac, os ydych chi wedi bod—fel rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid—i'r Ysbyty Athrofaol, byddwch chi'n gwybod am y niferoedd sy'n mynd trwy'r drws hwnnw. Y ganran o bobl sy'n dod yno oherwydd camddefnyddio alcohol, ymddygiad y lleiafrif y mae'n rhaid i aelodau staff ymdrin ag ef—lleiafrif ydyw, ond mae yno i'w weld pryd bynnag yr ewch chi yno—pobl y maen nhw'n ceisio darparu gofal ar eu cyfer. Ac er bod gan y bwrdd iechyd—ac rwy'n derbyn yn llwyr—wir gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ei allu, mae gan gleifion gyfrifoldeb hefyd. Ac roedd rhai o'r pethau yr oedd pobl yn cwyno amdanyn nhw—ac rwy'n deall pam y gwnaethon nhw—ar y penwythnos, yn weithredoedd cyd-gleifion, nid gweithredoedd y bwrdd iechyd ei hun.
Rwy'n derbyn mai cyfrifoldeb ar y cyd yw e, ond pan fo pobl yn aros 12, 17 neu, yn wir, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod wrth fy ymyl i Darren Millar o Orllewin Clwyd, ei fod wedi cyfarfod â rhywun oedd wedi aros 40 awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty Glan Clwyd, mae'n ffaith y byddai'r cyflwr a oedd arno pan gyrhaeddodd yno wedi dirywio'n fawr yn ystod y cyfnod yr oedd yn gorfod aros yn yr ystafell aros honno, neu yn yr amgylchfyd neu'r lleoliad hwnnw. Rwyf wedi codi'r pwynt sawl gwaith gyda chi, Prif Weinidog, sef y gallu i gael meddygon ymgynghorol a meddygon yn benodol i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, a fyddai'n hwyluso'n fawr pa mor gyflym y byddai pobl yn symud drwy'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Mae gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys waelodlin ar gyfer staffio adran frys yma yng Nghymru ac, yn wir, ar draws y Deyrnas Unedig. A wnewch chi gadarnhau heddiw bod pob adran frys yn bodloni'r waelodlin honno? Ac os nad ydyn nhw'n ei bodloni, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n ei bodloni, oherwydd heb os, byddech chi'n cytuno â mi, os nad ydyn nhw'n bodloni'r waelodlin staffio, mae hynny'n creu amgylchfyd anniogel?
Dylwn i nodi ar y dechrau, Llywydd, bod yr amser aros canolrifol i rywun mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn ddwy awr a 50 munud, felly yr amser aros safonol cyn cael eich gweld a'ch trin yw dwy awr a 50 munud mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod nad yw cael y ffeithiau'n siwtio pobl bob amser, ac, wrth gwrs, mae pobl yn aros yn hirach na hynny, ond yr amser aros safonol—yr amser aros canolrifol—yw'r un yr ydw i newydd ei ddyfynnu i chi.
Fe ysgrifennaf at arweinydd yr wrthblaid, wrth gwrs, mewn cysylltiad â materion staffio, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf i wrth law. Mae staffio adrannau damweiniau ac achosion brys yn her ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n fath arbennig o glinigwr sy'n teimlo bod ei sgiliau'n cael eu defnyddio orau yn yr amgylchfyd heriol iawn hwnnw, pan nad ydych chi byth yn gwybod beth yr ydych chi'n mynd i'w weld nesaf ac nad ydych byth yn gwybod a yw'r hyn a welwch chi nesaf yn rhywbeth y gallwch chi ei drin yn gyflym ac yn effeithiol, neu a yw'n argyfwng gwirioneddol sy'n gofyn am ymdrechion dwys tîm yr ysbyty cyfan. Nid yw'r sgiliau hynny gan bob clinigwr o bell ffordd, ac ar draws y Deyrnas Unedig, mae dod o hyd i bobl sy'n credu bod eu cyfraniad i'r gwasanaeth iechyd yn cael ei wneud orau mewn adrannau brys yn her. Ond, fe ysgrifennaf at arweinydd yr wrthblaid i roi'r ffigyrau yr oedd yn gofyn amdanyn nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae Cymru yn cwrdd â Lloegr fel cenedl bêl-droed gyfartal ac annibynnol ar faes chwarae yn Qatar, ac rwy'n siŵr ein bod ni gyd yn gweddïo am yr hyn a fyddai'r enwocaf o fuddugoliaethau. Ond, a ydym yn genhedloedd cyfartal ar feysydd grym a gwleidyddiaeth? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf. Dywedoch o'r blaen y dylai'r Deyrnas Unedig gael ei gweld nawr fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog cyfatebol yn yr Alban bod dyfarniad yr wythnos diwethaf yn golygu nad yw'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, o leiaf, yn bartneriaeth wirfoddol, pan fo San Steffan nid yn unig yn meddu ar feto gyfreithiol ar hunanbenderfyniaeth ond yn benderfynol yn wleidyddol, mae'n ymddangos, o'i defnyddio?
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf mai'r ffordd orau o sicrhau newid cyfansoddiadol positif fyddai ethol Llywodraeth Lafur. A ddylai'r Llywodraeth honno, yn eich barn chi, ymrwymo i greu llwybr clir a gwarantedig i genedl gyfansoddol y DU gynnal refferendwm annibyniaeth pan fo mandad penodol o'i blaid?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol: bod llawer iawn o waith atgyweirio cyfansoddiadol angen ei wneud i'r Deyrnas Unedig ac y bydd gan y Llywodraeth Lafur nesaf gyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Cefais gyfle dim ond neithiwr i drafod adolygiad Gordon Brown sydd ar ddod gydag arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Rwy'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Mick Antoniw am y cyfrifoldeb fydd yn syrthio ar ysgwyddau'r Llywodraeth Lafur nesaf honno.
Llywydd, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un a nodir yn 'Diwygio ein Hundeb'; hwn yw ein safbwynt ni ers nifer o flynyddoedd. Bydd cyd-Aelodau yma yn cofio mai'r hyn ddywedom ni yn y ddogfen honno oedd,
'ar yr amod bod y llywodraeth yn y naill wlad neu'r llall wedi sicrhau mandad etholiadol pendant ar gyfer cynnal refferendwm, a bod ei senedd yn parhau i’w chefnogi i wneud hynny, bod hawl ganddi ddisgwyl i Senedd y DU gymryd y camau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod modd gwneud y trefniadau priodol.'
Felly, dyna fu ein safbwynt ni ac mae'n parhau felly.
Yn y sgwrs a gawsoch gyda Syr Keir Starmer, a wnaeth ef ailadrodd y sylwadau a wnaeth mewn cyfweliad yn gynharach y mis hwn, a gadarnhawyd gan ei lefarydd swyddogol yn dilyn y dyfarniad yr wythnos diwethaf, na fyddai'n cytuno i refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn dilyn yr etholiad cyffredinol nesaf? Onid gwarafun democratiaeth yw hynny? Ac ar y thema honno, beth ydych chi, Prif Weinidog, yn deall yw safbwynt Plaid Lafur y DU o ran datganoli cyfiawnder? Fe wnaethant ei wrthwynebu yn y trafodaethau ar Ddeddf Cymru yn 2017. Pan ofynnwyd y bore 'ma yn Neuadd San Steffan a oedden nhw'n ei gefnogi nawr, gallai Gweinidog cyfiawnder yr wrthblaid, Anna McMorrin, dim ond dweud y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru, ond byddai'r pwyslais, nid ar
'ble mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond ar sut y mae'n cael ei gyflawni.'
Onid gwarafun democratiaeth yw hynny hefyd? Yn sicr, go brin ei fod yn gymeradwyaeth i'r mandad a enilloch chi yn etholiad 2021.
Llywydd, cefais gyfle hefyd i drafod gydag Anna McMorrin neithiwr y ddadl y byddai'n ateb iddi. Rwy'n falch iawn yn wir ei bod hi wedi pwysleisio, fel yr oeddwn i yn gobeithio y byddai hi, bwysigrwydd partneriaeth rhwng y Llywodraeth Lafur nesaf a'r Llywodraeth Lafur yma, oherwydd dim ond yn y ffordd honno y byddwn ni byth yn gweld trosglwyddo cyfrifoldeb am faterion cyfiawnder, sef polisi'r Llywodraeth hon, a gafodd ei gynnwys ym maniffesto Llafur yn etholiadau cyffredinol 2017 a 2019. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod hynny wedi cael ei roi mor gadarn iawn ar gofnod gan ein cydweithiwr Llafur yn Neuadd San Steffan.
Mae materion yn yr Alban yn faterion i Blaid Lafur yr Alban ac i arweinydd y blaid eu llywio. Rwy'n clywed beth mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban yn ei ddweud, sef bod refferendwm yn fater o amseru ac, yn gwbl sicr ym marn Plaid Lafur yr Alban, nid nawr yw'r foment pan fo pobl yn yr Alban yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol pan fydd ganddyn nhw aeaf o'r math y maen nhw'n ei weld yn ymestyn o'u blaenau.
Felly, rydych chi wedi newid eich barn ers yr haf, pan ddywedoch chi:
'Enillodd yr SNP...etholiad ar y sail y bydden nhw'n ceisio refferendwm arall. Sut gellir gwarafun hynny i bobl yr Alban?'
A gofynnwyd yn uniongyrchol i Anna McMorrin a oedd hi'n barod i ymrwymo i ddatganoli cyfiawnder, ac nid oedd hi'n fodlon rhoi'r ymrwymiad hwnnw.
Nawr, a gaf i droi at y canlyniadau i Gymru yn sgil y dyfarniad yr wythnos diwethaf? Yn benodol, ai barn Llywodraeth Cymru yw eich bod yn dal i fod â phŵer Gweithredol i gynnal refferenda, gan gynnwys, os ydych chi'n dewis, ar faterion cyfansoddiadol, gan ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd? Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn galluogi Gweinidogion i gynnal arolwg barn ar sut caiff eu swyddogaethau eu harfer, ac mae adran 60 yn galluogi Gweinidogion i wneud unrhyw beth y maen nhw'n credu sy'n angenrheidiol er mwyn gwella llesiant Cymru. Felly, a fyddai cynnal arolwg barn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru drwy ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd, ac felly'n ddiogel rhag heriau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd, yn cael ei ganiatáu o bosibl, drwy ddefnyddio'r llwybr hwn yn eich barn chi?
Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: nid wyf wedi newid fy meddwl ynghylch yr hyn a ddywedais yn yr haf, a gwnaeth y dyfyniad o 'Diwygio ein Hundeb' hynny'n glir iawn. Mae'r mater o amseru yn fater ar wahân i'r un sylfaenol sef a ddylid cynnal refferendwm, ac, cyn belled â'r hyn y bydd Anna McMorrin wedi'i ddweud heddiw, bydd yn disgwyl i adroddiad Gordon Brown gael ei gyhoeddi ac ni fydd yn dymuno mynd y tu hwnt i'r hyn y bydd hi'n ei wybod am yr hyn y gallai fod yn ei ddweud am y materion hyn. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r adroddiad ac iddo ddod o hyd i ffordd i ni symud ymlaen o ran uchelgais y Siambr hon a'r uchelgais a nodir ym maniffestos y Blaid Lafur i ddechrau'r broses o drosglwyddo cyfrifoldebau dros wasanaethau cyfiawnder yma i Gymru.
O ran p'un a yw'r setliad Cymreig yn cynnig llwybr gwahanol i ni gynnal refferendwm na'r un a brofwyd gan Lywodraeth yr Alban yn y llysoedd, wel, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol pan atebodd gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf, rydym yn astudio'r dyfarniad ac rydym yn sicrhau ein bod yn cael cyngor cyffredinol o ran lle mae'r dyfarniad hwnnw'n amharu ar gyfrifoldebau a phosibiliadau'r Senedd. Ni wn i ddigon i fod yn sicr y gallaf ateb cwestiwn arweinydd Plaid Cymru yn ei holl fanylder. Mae gennyf i amheuaeth na fydd mor syml ag y mae ef yn ei feddwl efallai—mai'r hyn a brofodd y llys yn achos yr Alban oedd a fyddai Senedd yr Alban, wrth arfer swyddogaethau, o fewn cwmpas ei chyfrifoldebau datganoledig ei hun, ac rwy'n dychmygu y byddai'r un prawf yn berthnasol i'n pwerau hefyd, hyd yn oed drwy ddeddfwriaeth eilaidd a hyd yn oed os oeddech chi'n ceisio ei fframio o fewn y cwmpas eang iawn yna o gyfrifoldeb am lesiant pobl yma yng Nghymru. Ond, fel dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, rydym yn derbyn cyngor manwl ar y berthynas rhwng y cwestiwn Albanaidd, fel cafodd ei brofi yn y Goruchaf Lys, a'r pwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac fe fyddaf yn sicrhau bod y pwynt a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma yn cael ei brofi yn y cyngor hwnnw.