– Senedd Cymru am 4:20 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Sicrhau Chwarae Teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Cynnig NDM8152 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ar ran y pwyllgor. Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar ran ein pwyllgor i drafod ein hadroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn ac a rannodd eu profiadau gyda ni fel pwyllgor, i Aelodau eraill y pwyllgor, ac i’n tîm clercio ac ymchwil am eu gwaith ar yr ymchwiliad.
Mae ein hadroddiad, a’n dadl ni brynhawn yma, am y cyfleuoedd sydd gan bobl i fod yn actif pan fyddan nhw’n byw mewn naill ai ardaloedd difreintiedig neu’n byw bywydau difreintiedig. Dylsai chwaraeon fod yn faes cyfartal. Fel rŷn ni’n dweud yn Saesneg, it should be a level playing field. Ond yn anffodus, nid fel yna mae hi. Roedd testun ein hymchwiliad yn bwnc bu nifer o randdeiliaid yn gofyn inni fel pwyllgor edrych mewn iddo. Ac mae’n amlwg yn bwnc o bwys i’r Llywodraeth. Wedi’r cwbl, dywedodd y Llywodraeth inni mewn tystiolaeth ar y gyllideb ddrafft ym mis Ionawr y
'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad.'
Sylwch: 'gall'. Mae potensial yma, ond, fel wnaethon ni fel pwyllgor ddarganfod, mae’r potensial hwn yn cael ei rwystro mewn gormod o ardaloedd gan dlodi a diffyg cyfleon, ac mae’r sefyllfa yn mynd yn waeth.
Dirprwy Lywydd, mae’r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa oedd yn barod yn wael. Mae data diweddaraf Chwaraeon Cymru, o fis Awst eleni, yn dangos bod 41 y cant o bobl yn dweud bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif. A dangosodd arolwg Chwaraeon Cymru o fis Chwefror fod 40 y cant o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi arwain at newidiadau negyddol i’w trefniadau ymarfer corff. Dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a’r pobl sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yw’r rhai mwyaf tebygol o deimlo fel hyn. Roedd pobl o gefndiroedd mwy llewyrchus yn tueddu teimlo’r gwrthwyneb.
Mae bwlch amddifadedd ystyfnig mewn cyfranogiad plant oedran ysgol mewn chwaraeon, hefyd. Eto, yn ôl ffigyrau Chwaraeon Cymru, yn 2022, cymerodd 32 y cant o blant o ardaloedd mwyaf difreintiedig ran mewn chwaraeon tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy’r wythnos. Y ffigwr ar gyfer disgyblion yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig oedd 47 y cant. Cyfle sydd gennym ni nawr i newid pethau. Ac o ystyried maent y broblem, mae e’n siom bod y Llywodraeth wedi gwrthod ein dau brif argymhelliad ni, ond rydym ni yn croesawu’r llefydd lle mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n ystyried gwneud newidiadau.
Mae ein prif argymhelliad yn siarad am yr angen i newid y drefn o’r brig ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Mae ein hadroddiad yn galw am ddull cydweithredol cenedlaethol newydd gan Lywodraeth Cymru. Cyfle byddai hyn i osod targedau mesuradwy ac amserlen diffiniedig dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r problemau rŷn ni wedi’u darganfod yn rhai sy'n rhy styfnig i’w newid heb newid syfrdanol o'r fath, a byddai ein argymhelliad yn golygu pawb, pob asiantaeth, pob adran o’r Llywodraeth, yn gweithio tuag at yr un nod cyffredin hwn. Buasai hi ddim yn golygu dechrau o'r dechrau; byddai’n golygu bod y Llywodraeth yn gosod uchelgais pendant a dod ag arferion da at ei gilydd. Ac mae pob argymhelliad arall yn llifo o’r prif un yma.
Y prif rhai eraill buaswn i’n sôn amdanynt ydy’r grant datblygu gweithgaredd corfforol, oedd wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth, a’r argymhelliad am gyllido, oedd wedi’i wrthod. Byddai’r grant, yn ôl ein hargymhelliad, yn dysgu o’r cynllun peilot Active Me—Kia Tū yn Seland Newydd, er mwyn gwella mynediad i’r rhai mewn ardaloedd difreitiedig at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gan fod y Dirprwy Weinidog newydd ddychwelyd o Seland Newydd, lle ddysgodd am y gwaith yma, byddem yn croesawu mwy o ddiweddariad ganddi ar yr argymhelliad yna. Mae ein hargymhelliad yn wahanol i’r grant datblygu disgyblion, gan y byddai’n cyllido hefyd cefnogaeth i gael cyngor proffesiynol i ddatblygu cynlluniau, cit chwaraeon neu ffioedd tanysgrifiadau, mynediad i gyfleusterau, ac hefyd costau teithio.
Gwnaf siarad yn olaf, Dirprwy Lywydd, am ein argymhelliad ar gyllido. Mi wnaf roi ychydig o gyd-destun i esbonio hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gall chwaraeon fod yr arf iechyd ataliol mwyaf effeithiol. Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd gwladol wedi tyfu 50 y cant rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill eleni, felly byddai arf o’r fath i’w groesawu. Ond mae'r cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi'i gwastadu; hynny ydy, it’s plateaued. Bydd cyllideb refeniw terfynol 2021-22 yn cynyddu o £22.4 miliwn i £22.7 miliwn yng nghyllideb derfynol 2022-23; hynny ydy, cynnydd o 1 y cant. Amcanir y bydd yn cynyddu 6 y cant erbyn 2024-25, sydd yn llawer is na chyfraddau chwyddiant cyfredol. Mae arian cyfalaf ar gyfer yr un cyfnod i lawr o £8.6 miliwn i £8 miliwn.
Cyn i ni glywed gan Aelodau eraill yn y ddadl bwysig hon, buaswn i eisiau dweud bod pethau eithriadol o dda yn digwydd dros Gymru. Cymeradwyodd nifer o randdeiliaid waith Chwaraeon Cymru—y prosiectau dros Gymru sydd yn gwneud cymaint o waith anhygoel o dda a phwysig ym mywydau pobl. Ein dadl ni ydy, gyda'r adnoddau cywir, gallai hyn fod hyd yn oed yn well. Dros yr wythnosau diweddar, rŷm ni gyd wedi mwynhau gwylio Cymru yng nghwpan y byd. Heb fuddsoddiad amserol gan Lywodraeth Cymru, mae perygl i ni golli’r seilwaith i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr—y Bales, y Ramseys ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn berthnasol, wrth gwrs, ar gyfer pob camp, pob gweithgaredd. Rŷm ni eisiau i Gymru aros ar ben y byd o hyd. Buddsoddi yn iechyd y genedl fyddai hyn, mewn cymaint o ffyrdd, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill. Diolch.
Fel aelod o'r pwyllgor, a gaf fi dalu teyrnged i bawb a wnaeth roi tystiolaeth i ni ar y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, ac fel mae Delyth wedi gwneud, diolch i'r clercod a'r tîm ymchwil am sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol a chadarnhaol? Roedd rhai ohonom angen eu help yn fwy nag eraill.
Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod yr adroddiad hwn yn cael ei drafod yn ystod cyfnod enfawr i bêl-droed Cymru a chwaraeon Cymru yn gyffredinol, wrth inni arddangos ein gwlad ar raddfa fyd-eang. Rwy'n credu ein bod o ddifrif wedi gweld pŵer chwaraeon elît, ond mae pob stori chwaraeon elitaidd yn dechrau o stori chwaraeon ar lawr gwlad, felly dyna oedd ffocws ein hymchwiliad. Mae'r adroddiad yn dechrau gyda dyfyniad gan Lywodraeth Cymru sy'n dweud
'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad'.
Mae wedi profi hynny'n llwyr. Profwyd bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn darparu manteision lles corfforol a meddyliol enfawr, ond gresyn nad oes gennym gyfle wedi'i ledaenu'n gyfartal ledled y wlad i gael mynediad at y cyfleusterau hynny. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020 nad oedd un o bob pedwar oedolyn yn cyrraedd y lefelau a argymhellir o weithgarwch corfforol. Cyn y pandemig, dim ond 32 y cant o oedolion a gymerai ran mewn gweithgaredd chwaraeon dair gwaith yr wythnos, tra bo 40 y cant heb fod yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd o gwbl.
Yr hyn sydd wedi bod yn fwyaf syfrdanol i mi yw bod aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas wedi dweud eu bod yn gwneud llai o weithgaredd na chyn y pandemig. Yn ôl y dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor roedd nifer o rwystrau'n wynebu'r rhai mewn ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r rhain yn amrywio o addasrwydd y cyfleusterau sydd ar gael, diffyg mannau diogel ar gyfer gwneud ymarfer corff, llai o amser wedi'i ddyrannu ar gyfer chwaraeon, ac ystrydebau sy'n perthyn i'r gorffennol a dweud y gwir. Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gydnabod yn ystod sesiwn dystiolaeth gyda'r pwyllgor mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd wedi cael eu taro waethaf.
Mae'r rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad byr i ddarparu mynediad cyfartal at chwaraeon, ond mae llythyr cylch gwaith Chwaraeon Cymru yn cynnwys gofyniad pwysig i sicrhau nad yw grwpiau sy'n agored i niwed yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Ac er bod croeso i rai o'r cynlluniau trawsadrannol sy'n cael eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru, byddai'n ddefnyddiol gwybod pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda Chwaraeon Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u cylch gwaith i sicrhau nad yw'r grwpiau bregus hynny'n cael eu heithrio o chwaraeon, a pha gamau y maent yn eu cymryd i leihau'r bwlch penodol hwn.
I symud ymlaen at yr argymhellion eraill yn yr adroddiad, roeddwn yn meddwl ei bod hi'n eithaf siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi ystyried yr argymhellion hyn gyda'r meddwl agored a'r ysbryd a fwriadwyd i osod y safon genedlaethol hon ar gyfer mynediad at chwaraeon ledled Cymru. Ond roeddwn yn falch o weld bod y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 4 yn benodol mewn egwyddor. Mae agor cyfleusterau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig i gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant a dyfodol cael pobl o'r ardaloedd hynny i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Diolch i Tom Giffard am ildio, a deallaf fod yr adroddiad penodol hwn yn ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon, ond a ydych yn cytuno â mi ei fod ychydig yn ehangach na hynny hefyd mewn gwirionedd? Mae'n ymwneud â mynychu, cymryd rhan ac efallai gwylio chwaraeon yn yr ardaloedd difreintiedig hyn, gan fod hynny'n fuddiol iawn i iechyd meddwl hefyd, mewn ysbryd cymunedol.
Ydy, yn sicr, ac nid yn unig—ni allaf gofio'r union ddyfyniad, ond dywedodd un o'n tystion wrth y pwyllgor nad ar gyfer pobl sy'n dda iawn mewn chwaraeon yn unig y mae chwaraeon; dylai chwaraeon fod ar gyfer pawb.
Serch hynny, clywsom gan nifer a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad nad yw hynny wedi digwydd bob amser mewn rhai ysgolion, er eu bod wedi elwa o arian prosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a bod rhan o’r cyllid hwnnw ar gyfer sicrhau mynediad i'r cymunedau y maent yn darparu cyfleusterau ar eu cyfer. A lle roeddwn yn gynghorydd ym Mracla cyn hyn, gallaf dystio'n uniongyrchol nad oedd y cyfleusterau hynny, ar ôl iddynt gael eu hadeiladu, bob amser ar gael i gymunedau yn y ffordd y bwriadwyd iddynt fod, efallai, pan oeddent yn cael eu cynllunio. Gwn fod hwn yn un o’r meysydd lle mae portffolio’r Dirprwy Weinidog a phortffolio’r Gweinidog addysg yn gorgyffwrdd, ond yn ein hymdrechion i gau’r bwlch, mae angen inni sicrhau nad yw’r canlyniad hwn yn disgyn rhwng y bylchau hynny.
Dywedodd Mark Lawrie o GemauStryd wrthym y bydd teulu cyffredin sy’n byw mewn tlodi yn gwario oddeutu £3.75 yr wythnos ar chwaraeon a hamdden egnïol. Nododd mai ffigur 2019 oedd hwnnw, felly ni allwn ond rhagdybio y gallai'r ffigur fod yn is heddiw. A dywedodd yr Athro Melitta McNarry wrthym ei bod wedi gweld gwybodaeth a ddangosai mai’r swm cyfartalog a werir mewn ardaloedd difreintiedig oedd £1.50 yr wythnos, o gymharu â £10 mewn ardaloedd mwy cefnog. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i bontio'r bwlch er mwyn sicrhau nad yw'r rheini o gefndiroedd difreintiedig yn cael eu rhwystro rhag cymryd mewn chwaraeon yn y lle cyntaf.
Ac yn olaf, i gloi, hoffwn dynnu sylw at rywbeth y mae Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi’i ddweud am gyflwr cyfleusterau yma yng Nghymru, lle dywedodd fod,
'ein cyfleusterau ar lawr gwlad yn gwbl warthus yma. Rwyf wedi fy syfrdanu'n fawr gan ba mor wael yw'r cyfleusterau yma'.
Yn sicr, mae’n rhaid i’n huchelgais ar gyfer chwaraeon yng Nghymru fod yn llawer uwch na hynny. Os ydym o ddifrif am sicrhau gwaddol o gwpan y byd eleni, mae angen codi'r gwastad yn helaeth mewn cyfleusterau cymunedol—gadewch i hynny fod yn waddol a gadewch inni sicrhau chwarae teg. Diolch.
Rwyf am ddechrau fy sylwadau lle gorffennodd Tom Giffard. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor ac ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant ar gynhyrchu'r adroddiad hwn. Roedd yn un o'r ymchwiliadau pwyllgor dymunol hynny gan eich bod bob amser yn dysgu pethau ar bwyllgorau, ac mae gwrando ar brofiadau bywyd gwahanol bobl bob amser yn rhan bwysig o ddysgu am effaith, neu ddiffyg effaith weithiau, polisi a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Ac wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, mae bob amser yn ddefnyddiol gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, ac ni chredaf fod angen inni drafod lle chwaraeon yn ein bywydau y prynhawn yma. Nid oedd ond angen imi wrando ar fy mab 12 oed yn sôn ei fod yn gwisgo'i grys pêl-droed i'r ysgol ddydd Gwener diwethaf i wybod pa mor bwysig oedd hynny iddo. Ac roedd sefyll yn y stadiwm yn gwylio Cymru’n cerdded allan o’r twnnel, am y tro cyntaf yng nghwpan y byd ers 1958—prin y gallaf egluro sut roedd hynny'n teimlo—a chanu ein hanthem genedlaethol ymhlith yr holl gefnogwyr gwahanol o bob rhan o’r byd, a gwylio ein chwaraewyr yn sefyll yno ar y cae, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes, ac mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn uchelgais i mi ar hyd fy oes. Ac mae’n bwysig, felly, ein bod yn rhannu’r gallu i fwynhau chwaraeon a mwynhau gweithgarwch corfforol gyda phobl ar draws ein holl gymunedau.
Ac yn sicr, mae rhai problemau wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i’r rheini yn ei sylwadau. Ond hoffwn ganolbwyntio, yn yr amser byr hwn, ar ddwy elfen o’r rhwystrau a allai ddal pobl yn ôl ac atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Daearyddiaeth yw'r cyntaf, a'r ail yw ffactorau economaidd-gymdeithasol. Yn rhy aml o lawer yn y Siambr hon, byddwn yn siarad am ddaearyddiaeth mewn termau du a gwyn iawn—y gwledig yn erbyn y trefol, y gogledd yn erbyn y de ac yn y blaen—ond os ydych yn byw ym Mlaenau'r Cymoedd, nid ydych yn ffitio’n hawdd i’r naill neu’r llall o’r categorïau penodol hynny, a gall y rhwystrau ddal i fod yn anorchfygol. Os nad oes gennych arian, neu os nad oes bws, nid yw'n gwneud gwahaniaeth a oes cyfleusterau chwaraeon ar gael yng Nghaerdydd neu'n rhywle arall gan na allwch gyrraedd yno, ac os ydych yn cyrraedd, ni allwch gyrraedd adref. Os na allwch fforddio talu'r bil gwresogi, a bod eich rhieni'n poeni nawr am fod y Nadolig ar y ffordd, nid ydynt yn mynd i allu talu i fynd i nofio na thalu'r ffioedd i fod yn aelod o dîm pêl-droed ac ati. Felly, mae’r rhwystrau hynny'n rhwystrau gwirioneddol, ac maent yn bodoli yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli heddiw, ac nid oes gwrthgyferbyniad amlwg rhwng un rhan o Gymru a rhan arall o Gymru, oherwydd os ydych yn dlawd yn Butetown, mae gennych yr un rhwystrau i'w goresgyn wrth geisio cael mynediad at gyfleusterau chwaraeon.
Ond fy nyhead i, wrth gynrychioli Blaenau Gwent, yw inni gael yr un cyfleoedd i gynhyrchu’r Gareth Bale nesaf ag sydd gan yr Eglwys Newydd yng nghanol Caerdydd. Rwyf fi eisiau i fy mhlant—. Mae fy mab yn byw yn y Gelli Gandryll; rwyf am iddo gael yr un cyfle â phlentyn sydd wedi'i fagu yn etholaeth Jenny yng nghanol Caerdydd. Yn rhy aml o lawer, nid ydynt yn ei gael, a dyna'r realiti. Yn rhy aml o lawer, nid oes gan ein cymunedau tlotaf y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i alluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon fel sydd gan y cymunedau yn y dinasoedd ac yn y maestrefi cyfoethocach. Dyna realiti Cymru heddiw, ac mae angen i hynny newid.
Rwy'n croesawu'r cyllid y mae’r Llywodraeth wedi’i gyhoeddi—£24 miliwn, rwy'n credu—i alluogi ysgolion i ddatblygu fel hybiau cymunedol. Ond sefais ar y maniffesto hwnnw yn 2016—roedd angen inni fod yn cyflawni hynny yn 2016. Mae angen inni edrych a chael uchelgais i sicrhau bod ein cynlluniau gwariant gyda'r gorau yn y byd. Euthum â fy mab hefyd—nid wyf yn credu y bydd byth yn maddau i mi—i wylio'r rygbi yn gynharach yn yr hydref, ac euthum â fy merch i wylio Seland Newydd yn sgorio chwe chais yn ein herbyn mewn llai na hanner awr. Nawr, edrychwch, ni allwn gystadlu â'r timau hynny oni bai bod ein pobl, ein plant, ein pobl ifanc, yn cael yr un cyfleoedd â'u pobl ifanc hwy yr ochr arall i'r byd. Mae hynny’n golygu buddsoddi mewn lleoedd, cyfleusterau, a buddsoddi yn ein pobl ifanc.
Rwyf am gloi gyda hyn: un o'r pethau—rwy'n mynd yn rhy hen i hyn i gyd bellach, wrth gwrs—ond un o bleserau mawr fy mywyd—. Un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser mawr i mi dros y blynyddoedd diwethaf oedd datblygiad chwaraeon tîm menywod. Oherwydd rydym bob amser yn cofio—. Rwy’n dal i gofio Mary Peters yn ennill medal yn y Gemau Olympaidd pan oeddwn yn ifanc, a gwnaeth argraff arnaf. Rydym bob amser wedi mwynhau gwylio tennis menywod, golff menywod ac ati. Ond rwy'n credu bod gwylio datblygiad pêl-droed a rygbi menywod, yn enwedig, yn ystod fy oes wedi bod yn un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser gwirioneddol i mi yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwylio fy merch yn dechrau uniaethu, yn mynd â fi i wylio menywod Cymru yn chwarae rygbi, wedi bod yn un o'r pleserau mawr. Rwy’n cofio siarad â Laura McAllister flynyddoedd lawer yn ôl pan oedd yn mynd i chwarae pêl-droed i Ddinas Caerdydd, ac rwy’n cofio pa mor bwysig oedd hynny iddi. Felly, mae gweld chwaraeon menywod bellach yn dechrau cael y cyfleoedd a'r cydraddoldebau y mae bob amser wedi eu haeddu a'u hangen yn un o lwyddiannau mawr y blynyddoedd diwethaf yn fy marn i, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond gadewch inni sicrhau—
Ac mae hwnnw'n bwynt da i gloi.
—fod bechgyn a merched yn cael y cyfle i fod yn sêr y dyfodol. Diolch.
Hoffwn hefyd ategu fy niolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau, y clercod, a phawb roddodd dystiolaeth i ni hefyd, a'r tîm ymgysylltu. Yn sicr, dwi'n ategu pwyntiau Alun Davies o ran bod hwn wedi bod yn ymchwiliad sydd wedi codi calon ar adegau o ran gweld angerdd pobl a lot o'r prosiectau gwych sydd yn digwydd o ran sicrhau bod yna well ymgysylltiad efo chwaraeon. Hoffwn ategu hefyd pwyntiau Tom Giffard o ran y pwysigrwydd roeddem ni'n clywed o ran gallu mwynhau chwaraeon. Does dim ots os dydych chi ddim yn dda iawn amdanyn nhw. Doeddwn i byth—sioc i chi i gyd, dwi'n siŵr—ond doeddwn i byth yn wych am chwaraeon yn yr ysgol. Ond, mae rhywun yn mwynhau gallu cael y cyfle, ac mi roeddwn i'n cael y cyfle hwnnw. Dwi'n meddwl mai dyna'r peth oedd yn tristáu rhywun o ran yr ymchwiliad hwn oedd gweld faint o gyfleoedd sy'n cael eu colli oherwydd amryw o resymau gwahanol.
Dwi'n sicr, o ran yr argymhellion, mae'n rhaid i ni feddwl amdanyn nhw yng nghyd-destun, dwi'n meddwl, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bod hyn ddim jest ynglŷn â chwaraeon; mae o ynglŷn â chyfranogiad, mae o ynglŷn ag iechyd a lles, mae o hefyd ynglŷn ag atal gwaeledd yn y dyfodol oherwydd, yn sicr, yn nifer o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mae'r problemau iechyd mwy hirdymor lle dŷn ni'n gweld pobl yn marw'n fwy ifanc oherwydd gorbwysau ac ati. A dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar hyn, bod o ddim jest yn wariant o bortffolio chwaraeon; mae hwn yn gorfod bod yn wariant gan y Llywodraeth a buddsoddiad ar gyfer cendlaethau'r dyfodol, a hefyd bod chwaraeon ar gyfer pob oedran, ac ein bod ni'n sicrhau rhai o'r esiamplau gawson ni ynglŷn â phêl-droed—y walking football, a walking rugby, a hynny i gyd—pa mor bwysig ydy hynny o ran cymuned a dod â phobl ynghyd unwaith eto yn sgil COVID. Felly, mae hwn yn rhywbeth sydd y tu hwnt i bortffolio chwaraeon, yn sicr.
Byddwn i'n hoffi hefyd ein bod ni'n edrych yn ehangach o ran diwylliant a chyfranogiad efo diwylliant, oherwydd un o'r pethau eraill y clywsom ni gan y tystion oedd bod pethau fel dawnsio yn gallu bod yn y ddau gategori—yn aml yn dod drwy'r portffolio diwylliant neu’r celfyddydau, yn hytrach na chwaraeon, ond bod hwnnw hefyd yn rhywbeth dŷn ni angen edrych arno fel cyd-destun.
A dwi'n meddwl un o'r pethau mawr a oedd wedi cael eu codi efo Tom Giffard hefyd ydy: beth yw'r diben buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol, os na all pawb sy'n dymuno eu defnyddio eu cyrraedd, os mai dim ond y rheini sydd efo rhieni neu ofalwyr sy'n gallu eu nôl nhw o fan hyn sydd yn mynd i allu defnyddio a chael budd ohonyn nhw? Ac yn sicr, mi oedd hynny'n dod drosodd yn glir iawn.
Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gytûn, fel Senedd, y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod hyn am hwyl neu ar lefel broffesiynol, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir nad yw hyn yn wir ac nad ydy pawb sydd yn gallu mynd ymlaen i'r lefel uchaf yn cael y cyfle cyfartal hwnnw ar hyn o bryd. Mae'r ffaith bod mynediad at gyfleusterau yn loteri cod post yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei daclo, ac mi oedd Alun Davies yn llygad ei le—nid rhywbeth dwi'n ei ddweud yn aml, ond yng nghyd-destun hyn—o ran yr elfen ddaearyddol. Yn aml, wrth gwrs, mae yna broblemau o ran Cymru wledig, ond mae hon yn broblem ehangach, ac mae gennym ni bobl, yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli o ran Canol De Cymru, sydd efo'r holl rwystrau hynny, felly nid dim ond daearyddiaeth mohono fo.
Dwi'n meddwl hefyd ein bod ni angen nodi tystiolaeth fel Nofio Cymru ac ati, yn gweld bod mwyafrif o'r tua 500 o byllau nofio yng Nghymru wedi’u lleoli yn ne Cymru. Hefyd nodi pethau o ran costau cynyddol efo pyllau nofio i'w cadw nhw i fynd. Nid dim ond chwaraeon ydy hynny—mae hyn yn sgil sy'n gallu achub bywyd, a dwi'n meddwl bod rhaid inni feddwl hefyd o ran sut rydym ni'n sicrhau bod pawb yn gadael yr ysgol yn gallu nofio fel sgil hanfodol bywyd. Felly, yr un peth dwi'n meddwl—mae'n rhaid inni edrych yn bellach o ran sicrhau nad yw cost neu ddiffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn rhwystro mynediad i gyfranogiad.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ddaeth drosodd yn yr ymchwil hefyd o ran merched yn benodol a hefyd sicrhau bod pawb, beth bynnag fo'u cefndir neu ethnigrwydd, yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus o ran ymwneud efo chwaraeon. Mi gawson ni esiampl dda gan Undeb Rygbi Cymru o ran yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud efo cynnyrch mislif a sicrhau bod adnoddau priodol yna. Mae'r math yma o bethau mor, mor bwysig, a dwi'n meddwl bod yna esiamplau da ac arfer da o ran hyn.
Rhaid imi gyfaddef, dwi yn siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, gyda dim ond pump o'r 12 cynnig yn cael eu derbyn, ac mi fyddwn i yn gobeithio, fel roeddwn i'n sôn, bod hwn yn rhywbeth sydd angen cael ei berchnogi gan y Llywodraeth gyfan os ydym ni eisiau sicrhau gwella cyfleoedd i bobl ifanc a phobl o bob oed i ymgysylltu. Dwi yn gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i barhau i gydweithio gyda'r pwyllgor o ran craffu a gweithredu ar yr adroddiad hwn, a chydweithio gyda'r Gweinidogion i sicrhau bod chwaraeon i bawb, beth bynnag eu cefndir a lle bynnag y byddant yn byw yng Nghymru a pha bynnag lefel maen nhw'n ei chwarae neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Diolch.
Hoffwn innau ddiolch i holl staff y pwyllgor a’r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad.
Credaf mai’r neges sy’n sefyll allan yw y dylai chwaraeon fod yn gyfartal, ond mae llawer o rwystrau y mae angen eu goresgyn i gyflawni hynny. Mae amddifadedd yn wrthwynebydd aruthrol ym mhob agwedd ar lywodraethu, ac nid yw chwaraeon yn eithriad. Fel y dywedodd Tom Giffard yn gynharach, y swm cyfartalog sy'n cael ei wario ar chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig yw £1.50 yr wythnos, o gymharu â £10 mewn ardaloedd mwy cefnog. Bydd yr argyfwng costau byw'n ei gwneud yn anos byth i deuluoedd allu fforddio i’w plant gymryd rhan yn y dyfodol, a mynegodd un ymatebydd pa mor anodd yw hi i wylio plant yn gorfod peidio â chymryd rhan am na all eu rhieni fforddio talu iddynt chwarae. Gall hyn gael effaith sylweddol ar hyder plentyn yn ogystal â'u lles meddyliol. Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth a ddarparwyd drwy’r grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ychwanegiad o £100, sydd wedi bod yn gymorth hanfodol i gael cit a chyfarpar addysg gorfforol eleni.
Ond nid teuluoedd yn unig y mae'r argyfwng yn eu taro. Mae hefyd yn cael effaith ar ddarparwyr chwaraeon eu hunain. Fel yr eglurodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru wrthym, mae costau ynni ac adnoddau mewn pyllau nofio, cemegion, a chostau staffio oll yn mynd yn ddrud iawn, ac rwy’n bryderus iawn y bydd rhai ohonynt yn cau yn y dyfodol. Nododd Nofio Cymru, o oddeutu 500 o byllau nofio yng Nghymru, fod y rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli yn y de, ac felly mae mynediad yn y gorllewin a’r gogledd yn dibynnu ar deithio, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae angen sicrhau mynediad at chwaraeon o fewn cyrraedd hawdd i'n cymunedau, yn agos at lle mae pobl yn byw. Mae hynny mor bwysig. Ac fel yr eglurodd y Dirprwy Weinidog yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gall cyfleusterau ysgolion greu manteision enfawr i’r gymuned leol, gan sicrhau y gall yr holl drigolion lleol fwynhau cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf lle mae ysgolion wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn er mwyn cadw ysgolion yn gyfleusterau cymunedol, sy'n cynnig chwaraeon mewn ardaloedd lleol.
Credaf ei bod yn bwysig fod Chwaraeon Cymru wedi cynnal arolwg sy'n rhoi cipolwg ar gyfleusterau ar draws gwahanol awdurdodau lleol, ac sy’n amlinellu’n fras y ddarpariaeth o gyfleusterau yn yr ardal sy’n gysylltiedig ag ysgolion, a bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu arolwg sylfaenol o ysgolion, sydd wedi cynnwys cwestiynau ynglŷn â'r defnydd o’r cyfleusterau. Felly, mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth nodi a chofnodi'r cyfleusterau hynny. Dros y penwythnos, clywsom am rygbi a phêl-droed Cymru a phwysigrwydd buddsoddi ar lawr gwlad, ac mae angen inni alluogi mynediad i bawb a datblygu llwybrau ar gyfer datblygu ym mhob camp. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau ysgolion i’r cyhoedd yn ehangach yn helpu i wireddu hynny, yn ogystal â pharhau â chymorth cyfalaf drwy grant y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Gwn fod cyllid wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer galluogi clwb rygbi’r Rhyl i symud, a chanolfannau cymunedol eraill hefyd i allu parhau i gynnig cyfleusterau chwaraeon. Ac er nad yw'r cyllid hwn wedi'i anelu'n benodol at gyfleusterau chwaraeon, gall clybiau llawr gwlad wneud cais amdano.
Mae hefyd yn bwysig cofio, fodd bynnag, fod arweinyddiaeth gref ar lawr gwlad yr un mor bwysig â mynediad at y cyfleusterau hyn. Mae hyfforddwyr yn fodelau rôl sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr ac yn annog cyfranogiad ac ymroddiad, felly y rhwydwaith o wirfoddolwyr sydd gennym yma yng Nghymru yw’r grym sy'n gyrru clybiau chwaraeon lleol ledled y wlad. Fel yr eglurodd un cyfranogwr yn ein sesiynau tystiolaeth, mae gwirfoddolwyr yn,
'amhrisiadwy ac mae’r gwaith anweledig a wnânt i gefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon yn anghredadwy.'
Y gwirfoddolwyr hyn sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael ag effaith costau cynyddol, ac rydym mor ddiolchgar iddynt am ddarparu'r manteision meddyliol a chorfforol y mae chwaraeon yn eu cynnig i gynifer o bobl. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol cyfan—mae'n dipyn o lond ceg—am eu gwaith caled ac am gynnal yr adolygiad hwn, am yr adroddiad, a'i argymhellion. Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnal yr adolygiad, gan fod hwn yn gorff o waith roedd angen ei wneud, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, bydd yn ategu ein hadolygiad ninnau o gyflwr cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru.
Mae’r adroddiad wedi datgelu rhai o’r problemau rydym ninnau hefyd yn eu clywed yn adolygiad ein grŵp trawsbleidiol, sef bod nifer o rwystrau'n atal pobl o ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mewn llawer o ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys, fel y mae fy nghyd-Aelod Tom Giffard eisoes wedi dweud, cyfleusterau addas, diffyg mannau diogel, gostyngiadau yn yr amser a neilltuwyd ar gyfer chwaraeon, a diffyg cyfleusterau i’r anabl. Llwyddodd Cymru i gymryd rhan yng nghwpan y byd am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, sy'n destun cymaint o falchder i bob un ohonom, a chyrraedd y gystadleuaeth er gwaethaf y diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf, nid oherwydd y gefnogaeth honno. Mae gweld cyflwr presennol llawer o'n cyfleusterau yng Nghymru yn embaras cenedlaethol, yr annhegwch o ran sut nad yw buddsoddiad wedi bod yn gyfartal i bob rhan o Gymru, a'r diffyg buddsoddiad enbyd yn ein chwaraeon ar lawr gwlad.
Mae pethau’n dechrau digwydd, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwnnw’n llwyr, ond nid yw'n llawer pan edrychwch ar y buddsoddiad ariannol mewn chwaraeon a chyfleusterau ledled gweddill y DU. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r manteision aruthrol i iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, a ddaw yn sgil ymarfer corff, yn ogystal â llu o fanteision eraill. Dywedodd astudiaeth gan Brifysgol Sheffield Hallam, a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, y ceir enillion cymdeithasol enfawr ar y buddsoddiad, gan fod enillion o £2.88 am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru. Boed yn sicrhau o’r diwedd fod gan ogledd Cymru bwll nofio maint Olympaidd sy'n hollbwysig, stadia, neu sicrhau nad yw chwaraeon yn dod i stop mewn ardaloedd gwledig ar yr arwydd cyntaf o dywydd garw oherwydd diffyg cyfleusterau pob tywydd—rhwystr enfawr i bobl rhag cymryd rhan yn ystod misoedd y gaeaf—nawr yw'r amser i weithredu. Mae'r galw'n fawr, yn enwedig yn dilyn digwyddiadau chwaraeon mawr fel cwpan y byd. Mae angen inni ddarparu'r buddsoddiad i fynd gyda hynny nawr. Gŵyr pob un ohonom ein bod mewn cyfnod anodd a bod arian yn brin, ond gyda'r galw'n cynyddu ar ein gwasanaeth iechyd, mae angen inni ddechrau buddsoddi mewn atal, gan fod atal yn well na gwella, a buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol, buddsoddi ym mhawb.
Rydym wedi gweld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud dechrau da gyda hyn, fel yr amlinellodd Tom, ond mae angen ymwybyddiaeth a buddsoddiad cyffredinol mewn chwaraeon o bob math ym mhob rhan o Gymru. Gwn fod y Gweinidog yma heddiw i ymateb i’r ddadl hon, a byddwn i, fel llawer o rai eraill, yn gwerthfawrogi ymrwymiad pendant heddiw i sicrhau na fydd arian neu’r cod post anghywir yn golygu bod cenhedlaeth arall o Gymry yn colli'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel y cânt wneud dros y ffin. Mae'n rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Mae gennym Ddirprwy Weinidog sy’n gwerthfawrogi chwaraeon, sy'n gweld ac yn gwybod am y manteision, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn sbarduno'r buddsoddiad mawr sydd ei angen ar Gymru i sicrhau o’r diwedd, nid yn unig ein bod yn darganfod, yn datblygu ac yn cadw sêr chwaraeon y dyfodol yng Nghymru, ond bod pawb yn gallu cael mynediad at chwaraeon ym mhob rhan o Gymru, mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â dinasoedd, ac yn bwysig, drwy gydol y flwyddyn. Diolch.
Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y pwnc hwn, ac mae'n wych eich bod wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn. Beth bynnag fo'ch brwdfrydedd dros chwaraeon tîm—pêl-droed, rygbi neu unrhyw beth arall—mae'n hanfodol fod pob plentyn, ni waeth beth fo'u gallu neu eu hanabledd, yn gallu (a) reidio beic a (b) dysgu nofio. Mae'r ddau beth yn sgiliau bywyd hanfodol yn yr un categori â gallu coginio pryd o fwyd syml neu glymu careiau eich esgidiau. Hoffwn gofnodi'r gwaith gwych a wnaed gan Pedal Power yng Nghaerdydd, am eu gwaith gyda phobl anabl. Maent wedi'u lleoli ym Mharc Bute, nad yw'n ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, ond mae eu gwasanaeth arbenigol yn darparu pleser a chyfleoedd hamdden i bobl o bob oedran nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon eraill. Felly, mae'n beth pwysig iawn.
Gan droi at nofio, rwy'n gwerthfawrogi'r arian a ddarparwyd i droi ysgolion yn hybiau cymunedol, ond nid yw £24 miliwn yn mynd i ddatrys y broblem sydd gennym gyda'n pyllau nofio. Mae'n anodd iawn dysgu rhywun i nofio oni bai eu bod mewn pwll nofio, ac mae'n llawer anos dysgu nofio fel oedolyn. Felly, roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor gan Nofio Cymru, oherwydd, yn anffodus, os na allwch nofio, fe allech foddi, ac nid oes prinder lleoedd i wneud hynny yn unrhyw un o'n cymunedau. Felly, mae gennym 500 o byllau nofio ledled Cymru. Clywaf fod llai ohonynt yng ngogledd Cymru, ond mae’n dda fod 90 y cant ohonynt wedi ailagor ar ôl COVID, ond nid yw hyd at un o bob 10 wedi ailagor. A byddai'n ddiddorol iawn mapio ble'n union mae'r pyllau nofio hynny, ac a ydynt mewn ardaloedd difreintiedig.
Troednodyn i Alun Davies: mae fy nghymuned yn cynnwys rhai o’r teuluoedd tlotaf yng Nghymru gyfan; mae'n fwy na Chyncoed a Phen-y-lan yn unig. Felly, un o’r pyllau nofio sydd heb ailagor eto yw pwll nofio Pentwyn. Penderfynodd Cyngor Caerdydd allanoli'r rhan fwyaf o’i ganolfannau hamdden ychydig flynyddoedd yn ôl i gwmni ag iddo fwy nag un enw, gan gynnwys GLL—mae ei wreiddiau yn Greenwich—neu Better. Yn anffodus, i bobl Pentwyn, nid oedd 'better' yn golygu 'gwell'. Ni wnaed unrhyw waith allgymorth gan eu staff gyda'r ysgolion lleol, sef un o’r ffyrdd amlycaf o gynyddu nifer y defnyddwyr, ac nid yn unig na chafodd y cynnig nofio am ddim i blant, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ei hysbysebu, ond roedd yn un o’r cyfrinachau mwyaf yng Nghymru, ac roeddwn yn arfer gorfod mynd yno'n bersonol cyn gwyliau hir yr haf i gael gwybod ganddynt pryd a sut y gallai teuluoedd fanteisio ar y cynnig nofio am ddim. Nid oedd yn brofiad llesol o gwbl. Ni chafodd ei hysbysebu o gwbl gan Better, yn y gobaith, mae'n debyg, y byddai pobl yn talu eto am yr hyn a oedd i fod wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a dim ond am awr y dydd ar amser penodol y câi ei gynnig. Felly, pan ddaeth y cyfyngiadau symud i ben, gwrthododd Better ailagor canolfan hamdden Pentwyn, gan nodi nad oedd achos busnes dros wneud hynny. Mae’r pwll nofio hwn wedi’i leoli mewn ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r plant o deuluoedd heb gar yn annhebygol iawn o deithio ymhellach i un o’r pyllau nofio sydd wedi ailagor, gan eu bod o leiaf ddwy daith bws i ffwrdd. Nodaf fenter RhCT i sicrhau bod llwybrau bysiau'n gwasanaethu canolfannau hamdden, ac mae hynny'n beth da iawn i'w wneud, ond yn anffodus, nid oes gan y rhan fwyaf o'r teuluoedd hyn arian mwyach ar gyfer dau docyn bws.
Dros dro—. Hoffwn dalu teyrnged i Steven Moates o Better, a gafodd ganiatâd dros dro i ailagor y ganolfan hamdden i alluogi sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i wneud defnydd o’i llawr gwaelod ar gyfer pethau y gallent eu hariannu eu hunain. Ond yn anffodus, pe bai’r agwedd honno o estyn allan at y gymuned wedi bod ar gael yn gynharach, efallai na fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae’r unigolyn rhagorol hwn bellach wedi symud ymlaen i swydd newydd, ac mae dyfodol canolfan hamdden Pentwyn, gan gynnwys ei phwll nofio, yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau cytundebol llwyddiannus rhwng Rygbi Caerdydd a Chyngor Caerdydd. Ac mae'r rhain wedi bod yn mynd rhagddynt ers misoedd, ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth o gwbl, ac nid oes ffordd o wybod a ydynt yn mynd i arwain at ganlyniad da, ond rwy'n ofni'r gwaethaf.
Roedd Nofio Cymru wedi rhybuddio’r pwyllgor yn ôl ym mis Mai nad oedd unrhyw un o’r pyllau nofio sydd ar gau ar hyn o bryd yn debygol o ailagor—a hynny o ganlyniad i golli refeniw yn sgil y cyfyngiadau symud. Ond rwy’n ofni bod y rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae’r darlun hyd yn oed yn fwy tywyll yn dilyn datganiad yr hydref ar 17 Tachwedd.
Rwy'n credu bod angen inni ddeall yn iawn pam nad yw hanner y plant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn gallu nofio o gwbl, ac mae hyn mor ddifrifol, gan y gall y plant hyn foddi, fel y dywedais, a dyna un o'r pethau allweddol y mae angen imi eu deall—beth a wnawn i atal hynny rhag digwydd.
Jenny, a wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Hefyd, sut rydym yn mynd i wresogi ein pyllau nofio, oherwydd, oni bai ein bod yn gwneud hynny, yn syml iawn, bydd yn rhaid inni nofio mewn dŵr sy'n cael ei gynhesu gan yr haul, sydd, yn y tywydd hwn, yn dipyn o her.
Galwaf ar Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am ddadl ddiddorol a phwysig iawn y prynhawn yma? Ac yn yr amser sydd ar gael i mi, yn amlwg, nid wyf am allu ymateb i bob pwynt a godwyd y prynhawn yma. Rwyf am geisio canolbwyntio fy sylwadau’n benodol ar yr adroddiad a’i argymhellion, ac rwyf am drafod un neu ddau o rai eraill wrth imi fynd drwyddo. Ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor a’r staff cymorth am eu hamser a’u hymdrech yn llunio’r adroddiad hwn, yn ogystal â'r rheini a roddodd dystiolaeth.
Fel y dywedais wrth y pwyllgor, mae chwaraeon yn hanfodol i’n bywyd cenedlaethol. Mae ganddynt ddylanwad pwerus ar ein hunaniaeth genedlaethol. Maent yn ein huno fel gwlad ac yn rhoi presenoldeb rhagorol i ni ar lwyfan y byd, ac yn amlwg, rydym wedi gweld cryn dipyn o hynny dros yr ychydig wythnosau diwethaf, onid ydym? A byddai'n esgeulus imi beidio â diolch o galon i Rob Page a thîm Cymru am eu hymdrechion yn Qatar. Nid oedd hi i fod y tro hwn, a gwn ein bod i gyd yn siomedig am hynny, ond rwy'n credu mai dechrau taith hir iawn i’n tîm pêl-droed cenedlaethol yw hyn, ac edrychwn ymlaen nawr at gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros.
Ond mae’n amlwg fod gan chwaraeon gyfraniad sylweddol i’w wneud wrth inni fynd ati i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, gyda’u cyrhaeddiad a’u dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i’r ymrwymiadau penodol ar wella mynediad cyfartal, gwella cyfranogiad ac adeiladu ar ein darpariaeth o gyfleusterau chwaraeon ledled y wlad. Yn y cyd-destun hwn, gan weithio gyda Chwaraeon Cymru, byddwn yn parhau i arwain y sector ac annog cydweithredu i feithrin a hwyluso cynnydd mewn gweithgarwch corfforol yn y boblogaeth ac i fuddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf—lle ceir amrywiadau sylweddol yn y niferoedd sy'n cymryd rhan a lle ceir diffyg cyfleoedd neu ddyhead i fod yn egnïol.
Rwy'n gwybod bod y pwyllgor wedi cael pryderon ynghylch nifer yr argymhellion a gafodd eu gwrthod, felly hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ehangu ar y rhesymau pam a hefyd i dawelu meddyliau'r Aelodau nad oherwydd fy mod o reidrwydd yn anghytuno â'r canfyddiadau y gwneuthum eu gwrthod.
Mae argymhelliad 1 yn gofyn am ddull cenedlaethol newydd o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen dull cwbl newydd. Y rheswm am hynny yw bod gweledigaeth a strategaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, yn arfer bod, ac yn parhau i fod, yn cael eu datblygu gan y sector drwy ymgynghori eang. Un o'r elfennau pwysig niferus yn y weledigaeth yw sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, gan adael neb ar ôl. Dyma sail i neges allweddol yn y strategaeth, sef bod gan bob person ifanc sgiliau, hyder a chymhelliant i'w galluogi i fwynhau a symud ymlaen drwy chwaraeon, gan roi sylfeini iddynt fyw bywyd egnïol, iach a chyfoethog.
Rwyf hefyd wedi egluro i Chwaraeon Cymru yn eu llythyr cylch gwaith fy mod yn disgwyl iddynt sicrhau bod yr ystod ehangaf o grwpiau agored i niwed yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac nad ydynt yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan. Dylai hyn gynnwys nodi a chyflwyno cyfleoedd penodol sy'n galluogi pobl mewn grwpiau sy'n agored i niwed neu dan anfantais a'r rhai mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i elwa ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae Chwaraeon Cymru, drwy ei gynllun busnes blynyddol, wedi ymateb yn gadarnhaol i'r amcanion hyn yn y llythyr cylch gwaith ac mae'n briodol y dylid rhoi cyfle ac amser iddynt gyflawni'r amcanion hynny. I ymateb i'ch pwyntiau chi yn benodol, Tom Giffard, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Chwaraeon Cymru i gael diweddariadau ac i adolygu cynnydd, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Er nad yw'n argymhelliad penodol yn yr adroddiad, soniwyd am gyflyrau iechyd andwyol, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth crybwyll mae'n debyg fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith cenedlaethol sy'n ei gwneud hi'n bosibl darparu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru sydd o safon gyson, effeithiol ac uchel. Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni'r nodau hynny, a hynny'n bennaf yn y rhan fwyaf o'n hardaloedd difreintiedig. Yn fyr, ac rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi cydnabod hyn, mae llawer o waith da yn digwydd eisoes i fynd i'r afael â niferoedd sy'n cymryd rhan mewn ardaloedd difreintiedig, wedi'i ategu gan y weledigaeth a'r strategaeth glir ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, a ddaeth, fel y dywedais, yn uniongyrchol o'r sector. Mae cyflwyno dull gwahanol nawr yn creu perygl o danseilio'r cynnydd a wnaed eisoes.
Fe wnaeth nifer o'r argymhellion grybwyll ariannu, ac mae'n werth nodi bod y rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon yn cael ei sianelu drwy Chwaraeon Cymru wrth gwrs. Rwy'n disgwyl iddynt ddefnyddio eu cyllid, a'r cyllid y maent yn ei gael drwy'r Loteri Genedlaethol, i gyflawni'r amcanion a nodir yn llythyr cylch gwaith y Llywodraeth, ond mae hefyd yn ymwneud â'r defnydd effeithiol o gyllid sy'n cael ei ddyrannu iddynt. Mae'n werth ailadrodd ein bod yn bwriadu buddsoddi mwy na £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf i Chwaraeon Cymru gyflawni'r nodau a'r amcanion hynny. Daw hyn ar ben y cymorth a ddaw drwy raglenni ariannu eraill Llywodraeth Cymru, megis cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, a gafodd eu crybwyll gan Carolyn Thomas.
Rydym hefyd yn buddsoddi dros £13 miliwn mewn ystod o raglenni ar draws 2022-24 fel rhan o'n cynllun cyflawni ar gyfer ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ond wrth gwrs, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw cyllid—mae gan ffynonellau fel y Loteri Genedlaethol, gwobrau ariannol pencampwriaethau mawr a chyllidebau awdurdodau lleol ran i'w chwarae hefyd yn darparu cymorth i gymunedau difreintiedig. Mae'n rhaid imi gydnabod, fel y mae Heledd Fychan ac eraill wedi nodi, fod yna broblem ehangach gydag amddifadedd na ellir ei datrys drwy fuddsoddi mewn chwaraeon yn unig. Mae'n bwysig fod yna ddull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod ein bod newydd gael 10 mlynedd o gyni, ein bod ynghanol argyfwng costau byw a'n bod yn gwneud yr hyn a allwn fel Llywodraeth Cymru, ond mae'r ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau allweddol hynny yn nwylo Llywodraeth y DU, nid Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth y pwyllgor—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Wrth gwrs y gwnaf.
Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am gyni. Yn amlwg, fe fyddech chi a minnau'n cytuno ac yn gallu treulio gweddill y prynhawn yn cytuno arno. Ond mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau hefyd gyda'r materion hyn, a cyllidebau Llywodraeth Cymru yw'r cyllidebau rydym yn eu trafod yma heddiw, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei rôl ei hun wrth fynd i'r afael â'r materion hyn a sicrhau ein bod yn gallu darparu'r cyllid y mae ein pobl ei angen ac yn ei haeddu.
Rwy'n cytuno'n llwyr, Alun. Yr hyn rwy'n ei ddweud, yr hyn rwy'n ceisio ei osod yma heddiw, o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, yn refeniw ac yn gyfalaf, yw ein bod yn ceisio sicrhau bod gennym gymaint o gyllideb â phosibl i sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol.
Roedd y pwyllgor hefyd yn argymell sefydlu cynllun peilot tebyg i raglen Active Me—Kia Tū Seland Newydd, ac roeddwn yn hynod o ffodus yn ystod fy nhaith ddiweddar i Seland Newydd i weld sut mae'r cynllun yn gweithredu. Cefais fy nharo gan y tebygrwydd i'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yma yng Nghymru. Bwriad ein grant datblygu disgyblion yw helpu plant cymwys i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol, gan gynnwys cit ac offer chwaraeon ysgol, sef yn bennaf yr hyn y mae cynllun Kia Tū yn ei wneud. Ond mae ymyriadau eraill sydd eisoes ar waith y mae Active Me—Kia Tū yn eu hadlewyrchu yn cynnwys ein cynllun brecwast am ddim, ein grŵp gweithgarwch corfforol cenedlaethol, a chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r adrannau iechyd ac addysg i ddatblygu rhaglen ysgolion egnïol fel rhan o ymrwymiad a nodir yn ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i'r Siambr hon i drafod rhaglen Seland Newydd ymhellach gyda Chwaraeon Cymru i weld beth arall y gallwn ei ddysgu gan brosiect Active Me—
Weinidog, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—a sut y gellid ei ddatblygu.
Roedd un neu ddau o argymhellion yn canolbwyntio ar wella mynediad at gyfleusterau ysgol a chyfleusterau cymunedol, a bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cyhoeddi £24.9 miliwn i gynorthwyo ysgolion i weithredu a datblygu fel ysgolion bro, gan estyn allan i ymgysylltu â theuluoedd a disgyblion, yn enwedig rhai dan anfantais oherwydd tlodi. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i ganiatáu i ysgolion ddatblygu ymhellach fel asedau cymunedol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am sôn am yr uwchgynhadledd chwaraeon a fydd yn digwydd wythnos i yfory. Ers dod yn Ddirprwy Weinidog, mae'r ysbryd cydweithredol sy'n rhedeg drwy'r sector wedi creu argraff arnaf. Bydd yr uwchgynhadledd yn gwneud y gorau o hyn, wrth iddi geisio dod ag arbenigedd a phrofiadau gwahanol at ei gilydd i ofyn sut beth yw system chwaraeon gynhwysol a pha rôl y gallwn i gyd ei chwarae yn ei darparu. Rydym yn gwybod bod llawer o heriau'n dal i wynebu pobl sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac rwy'n gyffrous i weld a dysgu gan y sector yng Nghymru beth y gallwn ei wneud i sicrhau mwy o gynnydd eto wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ein cefnogi yn ein hymdrechion i wneud hynny.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma.
Roedd Tom Giffard yn nodi pa mor amserol yw'r ddadl hon a'r angen i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad. Nododd Jack Sargeant hyn mewn ymyriad am gymryd rhan mewn chwaraeon—do, roeddem wedi canolbwyntio ar gymryd rhan—ond mae'r gynulleidfa, ymgysylltu â'r gymuned, mynd i weld gemau, mor bwysig hefyd. Tom, y Farwnes Grey-Thompson a wnaeth y pwynt i ni fel pwyllgor, ac roedd yn bwynt mor bwerus, na ddylai chwaraeon ymwneud â bod yn dda mewn chwaraeon yn unig, dylai pobl allu mwynhau chwaraeon, nid rhagori. Mae hwnnw'n bwynt pwerus iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi hynny.
Alun, rwy'n cytuno'n llwyr fod yr ymchwiliad hwn wedi bod yn bleserus iawn, oherwydd er gwaethaf y darlun gwirioneddol ddifrifol a welem mewn cymaint o ffyrdd, roedd yr angerdd roedd cymaint o'r bobl y buom yn siarad â hwy yn ei deimlo dros chwaraeon yn gwbl ysbrydoledig. Rwy'n cytuno hefyd gyda'r pwynt a wnaethoch ynglŷn â'r ffordd y mae'n golygu cymaint pan fydd Cymru ar lwyfan y byd yn gwneud yn dda, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n sylfaen i gymaint o'r hyn y buom yn edrych arno fel pwyllgor, wrth gwrs.
Fel dywedodd Heledd hefyd, cododd ein hymgynghoriad galonnau, ac fe wnaeth ein tristáu ni hefyd. Soniodd Heledd hefyd am fframio hyn yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi nifer o weithiau yn ein dadl—dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth pwysig inni gofio.
Siaradodd Carolyn am y straen y mae costau ynni'n ei chael ar y diwydiant, yn enwedig pyllau nofio, pwynt a nododd Jenny hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau'n gwneud gwahaniaeth i sicrhau cyfleoedd cyfartal, ond fel y soniodd Jenny, mae yna broblem barhaus sy'n peri pryder difrifol gyda phyllau nofio—mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgor yn ei ddilyn yn agos. Mae'n bryder difrifol. Fel roeddech chi'n dweud, mae'n sgìl bywyd hanfodol. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad chi hefyd.
Diolch am eich geiriau, Laura. Mae mor ddefnyddiol gwybod y bydd y grŵp trawsbleidiol yn ystyried hyn hefyd. Mae buddsoddiad yn talu ar ei ganfed. Rwy'n credu mai Cymdeithas Chwaraeon Cymru a dynnodd ein sylw mewn tystiolaeth at y ffaith bod gwledydd eraill tebyg yn gwario pump i 10 gwaith y swm rydym ni'n ei wario ar chwaraeon elît, a bod Cymru'n gwneud yn dda iawn o fuddsoddiad cymharol fach. Felly, roedd hynny'n rhywbeth diddorol a nodwyd gennych.
Cytunaf yn llwyr â geiriau'r Dirprwy Weinidog. Rwyf am ychwanegu ein diolch ninnau hefyd i dîm Cymru. Maent yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom. Mae eich angerdd dros chwaraeon yn glir i'w weld, ac mae'n dda gweld hynny ynoch chi, Ddirprwy Weinidog. Ar y pwynt a wnaethoch am ein prif argymhelliad, os nad yw'r polisi'n newid ac os nad yw'r buddsoddiad yn cynyddu, ein pryder fel pwyllgor fyddai na fyddem yn siŵr sut y gellid trechu'r anghydraddoldebau ystyfnig hyn.
Dwi'n gwybod roeddech chi wedi gwneud y pwynt am y ffaith bod Chwaraeon Cymru yn helpu'r sector i gynhyrchu gweledigaeth genedlaethol, ac mae Chwaraeon Cymru, yn amlwg, yn gwneud gwaith mor bwysig, ond gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo Chwaraeon Cymru drwy lythyr cylch gwaith. Dwi'n gwybod mai llythyr cylch gwaith hyd tymor y Senedd sydd yna ar hyn o bryd, ond, fel dwi'n deall, does dim i ddweud na all Llywodraeth Cymru newid cwrs, petai'n dymuno gwneud. Felly, dwi'n gobeithio efallai y byddai hwnna'n rhywbeth y byddai'r Llywodraeth yn cymryd i ystyriaeth, o ran y grant datblygu gweithgaredd corfforol a beth roeddech chi'n ei weld yn Seland Newydd. Mae e'n eithriadol o dda eich bod chi wedi gallu gweld beth sy'n digwydd yn Seland Newydd, a dŷn ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed mwy fel mae eich cynlluniau yn y maes yna yn datblygu.
O ran y cyllido, byddwn i'n dweud—a dwi'n gwybod rôn i'n dweud hyn wrth agor hefyd—os ydy Llywodraeth Cymru wir yn golygu y gall chwaraeon fod yr arf ataliol mwyaf effeithiol ar gyfer y genedl, rhaid i'r gweithredoedd yna fodloni'r rhethreg. Dwi'n meddwl bod hyn yn densiwn sydd ddim yn mynd i fynd i ffwrdd.
Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch chi, Weinidog, fod gwir angen edrych ar ddull Llywodraeth gyfan yn hyn o beth, gan gysylltu unwaith eto â'r hyn a ddywedodd Heledd am gyd-destun llesiant cenedlaethau'r dyfodol i hyn i gyd.
Roedd nifer o'r Aelodau wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pha mor ystyfnig yw'r rhwystrau rydym yn edrych arnynt, boed hynny o ran daearyddiaeth neu o ran y ffyrdd rhyng-gysylltiedig y bydd anghydraddoldebau gwahanol yn effeithio ar fywydau pobl. Roedd rhai o'r straeon a glywsom fel pwyllgor yn sobreiddiol. Cawsom ein hatgoffa bod yr argyfwng costau byw yn ein peryglu yn ogystal â'n gwneud yn dlotach, drwy wneud ein bywydau'n llai boddhaol a hefyd mewn ffordd fwy difrifol a phryderus. Pan fydd cyllidebau'n dynn, gall wneud inni wynebu dewisiadau ofnadwy. Mae yna ddwy enghraifft wirioneddol enbyd a oedd yn sefyll allan i mi o'n tystiolaeth yr hoffwn eu nodi wrth gloi.
Yn gyntaf, pan fo prisiau bwyd yn codi, nododd Chwaraeon Cymru y bydd rhai plant, yn anecdotaidd, nid yn unig yn cael llai o fwyd, ond gall y cynnydd mewn prisiau bwyd olygu bod plant yn gwneud llai o ymarfer corff. Bydd rhai teuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd yn gorfod atal eu plant rhag mynd i glwb pêl-droed ar ôl ysgol, rhag mynd i nofio, rhag mynd i hoci, nid yn unig oherwydd faint y mae'r gwersi'n costio, ond oherwydd bod ymarfer corff yn ein gwneud yn fwy llwglyd. Bydd angen mwy o fwyd arnynt, bwyd nad yw yno, i deimlo'n llawn ar ôl ymarfer corff. Mae rhai rhieni'n gorfod amddifadu eu plant o'r cyfleoedd hynny; rhaid iddynt eu hamddifadu fel nad ydynt yn dioddef boliau gwag. Dyna ddewis ofnadwy i orfod ei wynebu.
Mae dewis anodd arall sy'n codi o'r ffaith bod chwaraeon yn fwy anfforddiadwy yn ymwneud mewn ffordd uniongyrchol iawn â diogelwch. Daeth hyn, unwaith eto, o dystiolaeth Chwaraeon Cymru—y ffaith y bydd mwy o fenywod yn ei chael hi'n anodd fforddio ymaelodi â champfa. Mae'r gaeaf wedi cyrraedd ac mae'n dywyll cyn ac ar ôl amser gwaith llawer o bobl, felly bydd menywod sy'n methu fforddio mynd i gampfeydd wedi'u goleuo'n dda gyda melinau troed naill ai ddim yn teimlo y gallant wneud yr ymarfer corff hwnnw neu bydd yn rhaid iddynt fynd ar y palmentydd yn lle hynny. Nid oes angen imi atgoffa'r Siambr pa mor anniogel y mae cymaint o fenywod yn teimlo wrth redeg ar ôl iddi dywyllu.
Mae'r argyfwng hwn yn gwneud i bobl wynebu'r dewisiadau ofnadwy hyn, Ddirprwy Lywydd, ac nid ydynt bob amser yn amlwg. Mae gwahanol rannau o'n bywydau yn rhyng-gysylltu, a bydd mwy o fuddsoddiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig yn helpu bywydau pobl ddirifedi mewn cymaint o ffyrdd.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae pawb yn ymwybodol, bellach, bod arwain ffyrdd mwy iach a mwy egnïol o fyw yn cael effaith hynod fuddiol ar fesurau eraill, megis disgwyliad oes, iechyd meddwl, cyfleoedd economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol. Mae cydnabyddiaeth bod arferion ffordd o fyw sy'n cael eu datblygu pan ydyn ni'n ifanc yn fwy tebygol o barhau pan fydden ni'n oedolion. Am y rhesymau hyn, gallai sicrhau chwarae teg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru gael effaith ddramatig ar fywydau pobl o gefndiroedd difreintiedig, ac mi fyddem ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i dalu sylw i'n hargymhellion. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl heddiw ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o gynnydd fel canlyniad i hyn. Diolch.
Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.