– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau ychwanegiad at yr agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiwygio bysiau. Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod nawr wedi rhoi caniatâd i Gyfnod 4 o'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gael ei gynnig ar ôl cwblhau Cyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â'r cyfrifoldeb dros drafnidiaeth, ynglŷn â pham roedd llawer o fy etholwyr, a chyhoedd arfordir y gogledd, wedi mynd eu gadael yng ngorsaf reilffordd Caer nos Sadwrn, gan nad oedd modd iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth 21:40 o Gaer i Gaergybi, gan mai dim ond dau gerbyd oedd ar y trên? Erbyn hyn, yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae llawer o bobl o'r gogledd yn mwynhau taith i Gaer i fynd i siopa, mwynhau mynd allan am swper a diodydd gyda ffrindiau a chydweithwyr yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch pam ddigwyddodd hyn a pham mai dim ond dau gerbyd oedd ar y lein y noson honno, gan adael fy etholwyr ac angen talu dros £100 am dacsi yn ôl i rai o'u cymunedau yn y gogledd ? Felly, a all y Dirprwy Weinidog dawelu meddyliau fy etholwyr a phobl y gogledd fod gwasanaethau trên digonol ar waith i bobl allu cyflawni eu busnes bob dydd? Diolch.
Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yn fater gweithredol i Trafnidiaeth Cymru, a byddwn yn eich annog chi i ysgrifennu at y prif weithredwr.
Rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda'r argyfwng costau byw. Rydym ni'n sôn am yr argyfwng costau byw mor aml rwy'n meddwl bod yr ymadrodd wedi cael ei normaleiddio, ond mewn gwirionedd bydd miloedd ar filoedd o bobl nad ydyn nhw wir yn gwybod sut maen nhw'n mynd i oroesi'r gaeaf, os ydyn nhw'n mynd i'w oroesi. Ac i rai aelwydydd, bydd costau ynni cynyddol yn cael eu teimlo hyd yn oed yn fwy dwys—mae angen mwy o wres a thrydan ar bobl anabl neu bobl ag anghenion cymhleth, nid yn unig i fod yn gyfforddus ond fel gweithrediad sylfaenol. Os yw rhywun yn anymataliol, bydd angen i'w aelwyd ddefnyddio'r peiriant golchi a'r peiriant sychu dillad weithiau sawl gwaith y dydd. Os oes gan rywun Alzheimer's, byddan nhw'n oeri'n gyflymach. Ni fydd dweud wrth bobl yn y sefyllfaoedd hynny bod ond angen iddyn nhw wisgo haen ychwanegol yn gweithio. Mae yna bobl sy'n byw yn ein cymunedau na fydd ond yn wynebu misoedd y gaeaf gyda phryder ond gyda dychryn llwyr ac enbyd. Rwy'n gwybod bod llawer o hyn wedi'i gadw yn ôl i San Steffan, felly oes modd i ddatganiad nodi os yw'r materion hyn yn cael eu codi ar frys gyda Llywodraeth y DU? Diolch.
Diolch. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymadrodd 'argyfwng costau byw' a sut mae wedi dod yn rhan o'n hiaith ni, mewn gwirionedd, yn ystod y misoedd diwethaf. Roeddwn i'n siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore 'ma. Rwy'n gwybod ei bod hi'n cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd y trafodaethau hynny—. Wel, dydyn nhw ddim yn mynd i ddod i ben, ydyn nhw; rwy'n credu y byddan nhw'n sicr yn parhau dros y gaeaf ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Ond rwy'n gwybod un peth y mae hi'n awyddus iawn i'w wneud, ac mae hi'n cael cyfarfodydd ynghylch hyn, ynghylch y taliadau sefydlog am ynni. Yn benodol, un o'r meysydd y mae hi'n ei ystyried—ac mae'n rhywbeth y mae Mike Hedges, sydd yn y Siambr, yn sicr wedi bod yn ei lobïo hi arno, rwy'n gwybod, yn gryf iawn—yw ynghylch taliadau sefydlog os nad yw ynni wedi cael ei ddefnyddio ar y diwrnod penodol hwnnw, er enghraifft. Felly, rwy'n siŵr pan—. Mae yna lawer o sgyrsiau yn digwydd yn ddwy ochrog gyda Llywodraeth y DU a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i roi'r wybodaeth diweddaraf i ni maes o law.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r sefyllfa ynghylch streptococcus grŵp A, yn enwedig mewn ysgolion? Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn yn wir ac mae adroddiadau yn y cyfryngau nawr y byddai modd defnyddio gwrthfiotigau fel mesur ataliol i amddiffyn plant rhag cyflyrau mwy difrifol, gan gynnwys y dwymyn goch a streptococcus ymledol grŵp A. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod Strep A, yn y rhan fwyaf o achosion, yn achosi'r dwymyn goch. Mae'r dwymyn goch yn heintus iawn, ac felly mae rhieni'n cael eu cynghori i ofyn am arweiniad gan eu meddygon teulu. Mae perygl gwirioneddol y gallai meddygon teulu gael eu llethu ar adeg prysur iawn o'r flwyddyn fel y mae. Felly, byddai croeso mawr i ddatganiad, datganiad brys, gan y Gweinidog iechyd.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad am statws y ganolfan ymchwil technoleg uwch? Mae hwn yn brosiect mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arno ers rhyw bum mlynedd. Dyma fyddai'r chwaer gyfleuster ar gyfer y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, sydd wedi bod yn llwyddiant anhygoel. Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wedi dyrannu £10 miliwn mewn cyfalaf tuag at y gost o sefydlu'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallem gael datganiad am statws y prosiect hwnnw a chadarnhad, os yn bosibl, yn y gyllideb yr wythnos nesaf y bydd cyllid ar gael iddi gael ei chreu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Diolch.
Diolch. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad cyn gynted â phosibl o amgylch sefyllfa strep A. Yn sicr, rydym ni'n mynd i weld nifer uwch o achosion o heintiau strep A bacterol eleni o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf, ac yn anffodus rydym ni wedi gweld y canlyniadau trasig yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn mynd i'r holl deuluoedd a phawb a gafodd eu heffeithio gan y marwolaethau trasig hyn. Gwnaethoch chi sôn am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac maen nhw'n arwain yr ymateb yma yng Nghymru. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'n byrddau iechyd, ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion a'n rhieni a'n meddygon teulu. Fel y dywedwch chi, mae gwybodaeth ar eu gwefan, ond bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad, gobeithio yn ddiweddarach y prynhawn yma.
O ran y ganolfan ymchwil technoleg uwch, rydym ni'n symud ymlaen ar hyn o bryd gyda dylunio ac uwchgynllunio safle'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Rydym ni wedi nodi gweithredwr priodol ac ar hyn o bryd yn rhagweld cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud yn yr haf y flwyddyn nesaf, felly 2023, er mwyn i'r cyfleuster fod yn weithredol yng ngwanwyn 2025.FootnoteLink Rydym ni'n croesawu yn fawr iawn yr ymrwymiad o £10 miliwn a gyhoeddodd y Canghellor yn natganiad yr hydref i gefnogi ei datblygiad.
Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am y gwasanaeth cyswllt toresgyrn yma yng Nghymru? Mae osteoporosis—rydym ni'n aml yn clywed amdano yma yn y Siambr—sy'n gallu achosi esgyrn i dorri drwy beswch neu hyd yn oed drwy gofleidio'r wyrion, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru ac yn costio £4.6 biliwn y flwyddyn i wasanaeth iechyd y DU. Yn drasig, mae cymaint o bobl yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â thoresgyrn â chanser yr ysgyfaint neu, mewn gwirionedd, diabetes. Fodd bynnag, gall gwasanaeth cyswllt toresgyrn helpu i drawsnewid ansawdd bywyd pobl hŷn yng Nghymru a datgloi rhai arbedion sylweddol i'n GIG. Fel y mae, dim ond 66 y cant o bobl yng Nghymru dros 50 oed sy'n cael y cyfle i fanteisio ar wasanaeth cyswllt toresgyrn, o'i gymharu â 100 y cant o bobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl mewn ardaloedd heb wasanaeth yn cael toriadau wedi'u cywiro ac yna'n anghofio amdanyn nhw heb i'w osteoporosis sylfaenol gael diagnosis a thriniaeth, a hoffwn i wybod, yn amlwg—. Lle mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn eisoes ar waith, mae tanberfformio eang o ran nodi a monitro cleifion a gwaith dilynol. Gall ymestyn gwasanaethau a chodi'r ansawdd ryddhau 73,000 o welyau ysbyty acíwt a 16,500 o ddiwrnodau gwely adsefydlu, yr amcangyfrifir eu bod yn cael eu cymryd gan gleifion sydd wedi torri clun yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â darparu arbedion enfawr, y soniais i amdanyn nhw. Felly, byddai buddsoddiad blynyddol cymedrol o £2 filiwn wrth godi nifer ac ansawdd y gwasanaethau cyswllt toresgyrn i gynnwys pawb dros 50 yn sicrhau budd o £36 miliwn dros bum mlynedd. Mae wir gennym ni gyfle yma, Gweinidog, i wella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru, ac fe fydd arbedion o'r fath, rwy'n siŵr, yn cael eu croesawu gan Lywodraeth Cymru. Felly, byddai datganiad gan y Gweinidog iechyd am fuddsoddi yn y gwasanaeth penodol hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae osteoporosis yn effeithio ar lawer ohonom ni a llawer o'n hetholwyr, ac yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, rwyf i eisiau tynnu sylw at yr angen am ddatganiad gan y Llywodraeth drwy godi mater y feithrinfa yng Nghanolfan Plant Caerffili, sydd wedi'i gadael ar y dibyn oherwydd diffyg ymrwymiad ariannol ac ymgysylltu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei weithredu gan Lafur. Mae'r ganolfan wedi bod yn darparu gwasanaeth anhygoel i blant ag anableddau, oedi mewn datblygiad ac anghenion ychwanegol ers tri degawd. Er mwyn parhau i weithredu, mae angen cytundeb lefel gwasanaeth ar y feithrinfa gan yr awdurdod lleol, gan na allan nhw wneud cais am gyllid grant tymor hir mwy heb fod ymrwymiad ariannol o'r fath yn ei le. Mae'r ganolfan wedi bod yn gofyn am gytundeb ers pum mlynedd. Rwyf i hefyd wedi clywed nad yw ceisiadau am gyfarfod ar y mater hwn wedi cael eu hateb na'u cydnabod gan y cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r sefyllfa nawr yn argyfyngus, ac maen nhw'n wynebu cyflwyno rhybuddion diswyddo i staff ddiwedd Rhagfyr oni bai bod rhywbeth yn newid. Ydych chi'n siomedig bod eich cydweithwyr yn eich plaid yng Nghaerffili yn peryglu iechyd a lles meddyliol y rhai mwyaf agored i niwed drwy ddiffyg ymgysylltiad a diffyg ymrwymiad ariannol? Ond, o ran y Llywodraeth hon, a gawn ni ddatganiad am y ddarpariaeth i blant ag anableddau, oedi mewn datblygiad ac anghenion ychwanegol yng Nghymru a'r angen i amddiffyn y gwasanaethau hyn?
Wel, dydw i ddim yn ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi ynghylch y feithrinfa. Rwy'n credu y byddai'n well gohebu'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y tro hwn.
Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol yng Nghymru nawr, dan arweiniad pum elusen lles anifeiliaid, yn galw am wahardd rasio milgwn. Mae'r Dogs Trust, Blue Cross, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue a'r RSPCA yn credu ar y cyd fod rasio milgwn yn achosi dioddefaint creulon ac echrydus i'r cŵn. A wnaiff y Gweinidog sicrhau datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar rasio milgwn, os ydyn nhw wedi cwrdd â'r pum sefydliad hyn, a pha gamau y gallen nhw eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater o les anifeiliaid hanfodol hwn? Diolch.
Diolch. Wel, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio i, ac rwy'n awyddus iawn i ymdrin â'r pryderon lawer sydd wedi'u codi gyda mi ynghylch rasio milgwn. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael deiseb sylweddol, ac rwy'n aros am ganlyniad hynny, yn ogystal â bod â hyn yn amlwg yn rhan o'n cynllun lles anifeiliaid—mae hwnnw'n gynllun pum mlynedd yr wyf i'n ei gyhoeddi, a fydd yn cynnwys pum mlynedd gyfan y tymor hwn o lywodraeth—ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth o fewn ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Rwyf i wedi cyfarfod â rhai o'r sefydliadau yr ydych chi'n cyfeirio atynt, ac yn sicr rwyf i wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth ar y mater. Ond rwy'n credu mai'r peth nesaf fydd edrych ar y ddeiseb, os daw honno ymlaen, yn amlwg, ar gyfer dadl yma yn y Senedd, a hefyd mae fy swyddogion yn gweithio ar ystyried a oes angen ymgynghoriad, a fyddai, yn fy marn i, i ystyried dyfodol rasio milgwn.
Er ei bod yn demtasiwn i mi ychwanegu at y cwestiwn hwnnw gan Altaf Hussain—diolch o galon—rwy'n canolbwyntio ar rywbeth arall heddiw, a phrynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y bleidlais ar streic gan weithwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru? Rydym ni'n gwybod nad oes neb yn streicio'n ddi-hid, yn enwedig y rhai hynny yn ein gwasanaeth iechyd, ac mae'n dangos pa mor enbyd yw sefyllfa gweithwyr iechyd. Maen nhw wedi pleidleisio i streicio ym mis Rhagfyr, sydd hefyd yn cyd-fynd â streic y nyrsys, hefyd ym mis Rhagfyr. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau brys y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi, bod trafodaethau ar waith a bod digon o weithwyr wrth gefn brys ar gael yn ystod yr hyn y gwyddom ni y bydd yn un o gyfnodau prysuraf y GIG? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, rydym ni'n cydnabod pam mae cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio'r ffordd y gwnaethon nhw, a'r dicter a'r siom ymhlith cymaint o'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Rydym ni'n credu y dylai ein gwasanaethau brys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi bod ein setliad ariannol presennol yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r heriau sylweddol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu a gan weithwyr cyhoeddus ledled Cymru. Fel Llywodraeth, rydym ni'n gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol yn fawr, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn parhau i gyfarfod ag undebau llafur i drafod amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar y gweithlu.
Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar os gallem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw diffoddwyr tân wrth gefn yn y gweithlu yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod 125 o lefydd gwag yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, sefyllfa y mae Roger Thomas, prif swyddog tân canolbarth a gorllewin Cymru, yn iawn i ddweud ei bod yn anghynaladwy, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld cefnogaeth yn cael ei chynnig, efallai hyd yn oed adolygiad cenedlaethol o gyflog ac amodau diffoddwyr tân wrth gefn fel ein bod ni'n gweld y sefyllfa'n gwella. O ystyried pwysigrwydd recriwtio a chadw diffoddwyr tân mewn etholaethau a rhanbarthau, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosib, yn amlinellu'r hyn y mae'n ei wneud i annog pobl i wneud cais am swyddi o fewn y gwasanaeth tân, a'r hyn y mae'n ei wneud i gefnogi'r gweithlu er mwyn diogelu'r gwasanaethau brys hanfodol hyn.
Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb wrth Jane Dodds ein bod ni wir yn gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol, felly mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn sicr yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ar hyn o bryd i weld beth arall y mae modd ei wneud i geisio denu pobl i'r swyddi. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r nifer sylweddol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog.
A gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar gyflwr yr NHS? Ar drothwy'r gaeaf, mae staff yn gwneud eu gorau, ond mae'r sefyllfa'n amhosib. Dwi wedi clywed am gyfres o ddigwyddiadau yn effeithio ar etholwyr yn y dyddiau diwethaf: un ddynes yn ei 80au, yn ofni ei bod hi wedi torri ei chlun, yn aros 24 awr ar y llawr gartref am ambiwlans; dynes oedrannus arall yn aros yn yr adran frys am oriau tra bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan; merch ifanc yn cael triniaeth ar goridor yn yr adran frys oherwydd bod yna ddiffyg gwelyau. Does dim byd newydd yn hyn; rydyn ni i gyd yn clywed y straeon yma. Ond dydy pethau ddim yn gwella, ac mae gen i ofn bod datganiadau a dadleuon ar iechyd yn amser y Llywodraeth wedi mynd yn bethau prin yn ddiweddar. Yng ngoleuni hynny, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi cael y cyfle hwnnw ar frys i drafod yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd, a hynny cyn i'r gaeaf ddechrau brathu o ddifri.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl fyrddau iechyd ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ond rydym ni'n amlwg yn cydnabod bod llawer o heriau, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cwrdd â'r gwasanaeth ambiwlans—rwy'n credu mai bythefnos yn ôl oedd hi, ond efallai mai'r wythnos diwethaf oedd hi—i drafod materion o ran nifer yr ambiwlansys nad ydyn nhw'n gallu rhoi cleifion i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys mor gyflym ag y byddem ni ei eisiau. Bydd dadl arall, yn amlwg, ar iechyd yn amser y Llywodraeth, ac yn sicr, fe wnaf edrych i weld a yw hwn yn bwnc y gallem ni ei gynnwys yn hynny.
Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd yr hyn y dywedodd ein cyd-Aelod Ken Skates, am ddatganiad brys ynghylch y nifer uchel o achosion o strep A a'r dwymyn goch yng Nghymru. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ynglŷn â hyn ond, yn anffodus, ni chafodd ei dderbyn. Felly, rydw i'n defnyddio'r datganiad busnes yma fel y ffordd gyflymaf o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o faint o rieni, teuluoedd, neiniau a theidiau a gofalwyr sydd wir yn pryderu. Mae'r achosion parhaus o strep A a'r dwymyn goch a'r cymhlethdodau eraill y gall eu hachosi wedi hawlio hyd yma, yn drist, fywydau naw o blant yng Nghymru. Mae hon yn drasiedi echrydus, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â phob un rhiant sy'n galaru. Mae wedi gadael llawer o deuluoedd yn poeni'n fawr am yr hyn y dylen nhw ei wneud nesaf. Roedd etholwr i mi â dau o blant wedi'u heintio, a oedd a dweud y gwir, yn yr adran damweiniau ac achosion brys ddoe, ac wedi aros naw awr a hanner i gael eu gweld, ac eto rydym ni'n cael gwybod bod cyflymder yn hanfod wrth sicrhau ein bod ni'n cadw ein plant yn ddiogel. Mae canllawiau diweddara'r DU ar achosion o'r dwymyn goch yn dweud bod modd defnyddio gwrthfiotigau i helpu i atal achosion newydd o strep A mewn lleoliadau fel ysgolion, ond y dylai penderfyniad gael ei wneud gan dimau rheoli achosion lleol fesul achos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni ddull cydgysylltiedig ar draws pob rhan o'r DU fel y gall rhieni ac ysgolion fel ei gilydd dderbyn y cyngor cliriaf posibl ynghylch beth i'w wneud.
Nawr, gwnaethoch chi sôn cyn hynny efallai y bydd y Gweinidog yn cyflwyno un heddiw, ac yn sicr rhywbeth yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae angen rhywbeth arnom ni heddiw, Trefnydd, yn wir—mae'n drueni na chafodd ei godi gan y Gweinidog ei hun, oherwydd mae cymaint o gwestiynau. Mae un etholwr, a oedd yn gorfod mynd o gwmpas chwe lle yn chwilio am wrthfiotigau, wedi gofyn i mi, felly mae angen i ni sicrhau bod gennym ni bopeth yn ei le i frwydro yn erbyn hyn ac nad oes gennym ni'r rhieni a'r teuluoedd yma yn pryderu gymaint. Felly, rydym ni eisiau cael datganiad llafar, lle gallwn ni ofyn cwestiynau i'r Gweinidog. Nid yw hi'n ddigon da dim ond rhoi datganiad y tu allan i'r Siambr hon. Diolch.
Bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu'r prynhawn yma, ond a gaf i ddim ond—
Llafar.
Fe fydd yna ddatganiad ysgrifenedig y prynhawn yma, ond os caf i ddim ond egluro oherwydd fe ddywedodd yr Aelod, rwy'n credu, bod naw o blant a fu farw yng Nghymru yn drist iawn; ond yn y DU yw hynny. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi, er hynny, mai achosion trist tu hwnt yw'r rhain i gyd.
Diolch i'r Trefnydd am yr eitem yna.