2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Gan adeiladu ar yr hyn rydych wedi'i ddweud yn eich ymatebion blaenorol, er na allwn gefnogi argymhellion diwygio cyfansoddiadol Gordon Brown a gyhoeddwyd gan Blaid Lafur y DU ddydd Llun yn eu cyfanrwydd, mae yna elfennau sydd, yn ein barn ni, yn haeddu ystyriaeth, gan gynnwys cynigion i sicrhau bod gan Gymru lais parhaol, nid yn unig yn Nhŷ'r Cyffredin, ond yn yr ail Siambr, pe bai hyn yn arwain at waith craffu dwysiambr priodol ar y ddeddfwriaeth ddatganoledig; cynigion i geisio mwy o gydweithio rhwng pedair Llywodraeth y DU i ymdrin â phroblemau cyffredinol, fel pandemigau a llygredd; a chynigion i wella rôl Aelodau'r Senedd hon fel y gallent fwynhau'r un breintiau ac amddiffyniadau ag Aelodau Seneddol mewn perthynas â datganiadau a wnaed yn eu trafodion.
Rydym hefyd yn nodi'r datganiad gan Arglwydd Blunkett y Blaid Lafur fod cynlluniau Syr Keir Starmer ar gyfer ail siambr etholedig yn creu perygl o dagfa ddeddfwriaethol debyg i'r hyn a geir yn yr Unol Daleithiau ac na ddylai fod yn flaenoriaeth, ac er gwaethaf datganiad y Prif Weinidog yma yr wythnos diwethaf, fod trosglwyddo cyfrifoldeb am faterion cyfiawnder, sef polisi ei Lywodraeth, wedi'i gynnwys ym maniffesto Llafur yn etholiadau cyffredinol y DU yn 2017 a 2019, mae Plaid Lafur y DU bellach ond yn cynnig datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau prawf i Lywodraeth Cymru. Sut rydych chi'n ymateb i hyn felly, ac a ydych yn cytuno—rwy'n credu fy mod yn gwybod beth fydd yr ateb; mae'n gwestiwn rhethregol—ond a ydych yn cytuno bod hyn nawr yn cau'r drws ar ddatganoli cyfiawnder ehangach a phlismona i Gymru?
Diolch am y cwestiwn ac fe wnaethoch chi ymdrin â rhai pwyntiau diddorol iawn yno. Ac rwy'n falch iawn, ac rwy'n credu ein bod yn cydnabod yn gyffredinol, onid ydym, pa mor bwysig yw'r newidiadau sydd wedi digwydd: y ffaith ein bod yn ddeddfwrfa cyfraith sylfaenol a pha mor bwysig yw hi fod gennym le parhaol, cydnabyddedig o fewn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu bod yr hen ddadleuon ynghylch awdurdodaeth yn hen ffasiwn mewn gwirionedd.
Pan fo gennych seneddau sy'n ddeddfwrfeydd a bod gennych faterion sy'n gyfansoddiadol, a'r Goruchaf Lys yn cyflawni swyddogaeth gyfansoddiadol, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl iawn i Gymru gael ei chynrychioli'n benodol. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei gynrychioli bron drwy'r drws cefn drwy sicrhau bod barnwr Cymreig yno, ac rwy'n falch iawn fod yr Arglwydd David Lloyd-Jones yno yn y Goruchaf Lys—barnwr Goruchaf Lys sy'n siarad Cymraeg; yr un cyntaf erioed. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod hynny'n dod yn rhywbeth sy'n cael ei ffurfioli ac yn dod yn rhan o'n strwythurau, fel gyda'r Alban, fel gyda Gogledd Iwerddon, ac fel gyda Lloegr, fod barnwr Cymreig penodol yn y Goruchaf Lys. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud y rheini. A hefyd, y gydnabyddiaeth i bwysigrwydd cydweithredu a gwelliannau rhynglywodraethol. Rwy'n credu bod pwysigrwydd yr argymhelliad yn adroddiad Gordon Brown ar sefydlu strwythur diymwad mewn perthynas â Sewel yn rhywbeth rydym wedi dadlau drosto ers tro. Ym mha fformat bynnag, byddai'n rhywbeth a fyddai'n gam sylweddol ymlaen.
Ond nid wyf yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am gyfiawnder. Nid yw adroddiad Gordon Brown yn cau unrhyw ddrysau penodol; mae'n adroddiad sy'n gwneud argymhellion i Blaid Lafur y DU yn ei chyfanrwydd, ond mae'n un sy'n rhoi cyfeiriad penodol iawn. Rwy'n credu bod y rhannau a ddarllenais yn gynharach yn glir iawn ei fod yn ildio i farn y comisiwn annibynnol a phan fydd y comisiwn hwnnw wedi adrodd, y bydd yn galw am ymgysylltiad adeiladol. Ac mae'r adroddiad yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw ddrysau ar gau ac y dylai datganoli pellach fod yn seiliedig ar sybsidiaredd: hynny yw, na ddylai Llywodraeth y DU ymdrin ag unrhyw eitemau nad ydynt yn angenrheidiol i lywodraethu cyd-ddibynnol o fewn y DU gyfan, ac y dylai'r gweddill gael ei ddatganoli. Felly, mae'n newid sylweddol iawn ac nid wyf yn credu ei fod yn dweud yr hyn rydych chi'n ei awgrymu o gwbl am gyfiawnder, ac rwy'n hyderus fod datganoli cyfiawnder i Gymru yn anochel.
Wel, diolch. Fy nealltwriaeth i yw bod lleisiau uwch arweinwyr Llafur yn y DU yn deall echelin dwyrain-gorllewin troseddu a chyfiawnder troseddol dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn cydnabod y gallai datganoli llawn yn unol â hynny fod yn wrthgynhyrchiol.
Fodd bynnag, mae'r cyfrifoldebau sydd gennych fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys materion yn ymwneud â deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd a hygyrchedd cyfraith Cymru. Fel y gwyddoch, cyn belled â bod Aelod o'r Senedd yn gweithredu o fewn disgwyliadau etholwr, mae gan yr Aelod sail gyfreithiol i ofyn am wybodaeth gan gorff cyhoeddus wrth gynrychioli'r etholwr. Mae adran 24 Deddf Diogelu Data 2018 yn caniatáu i gynrychiolydd etholedig dderbyn gwybodaeth gan reolwr data arall, gan gynnwys awdurdod lleol, mewn perthynas ag unigolyn at ddibenion mater gwaith achos lle maent yn gweithredu gydag awdurdod. Fodd bynnag, ar ôl i mi ysgrifennu at—nid wyf am ei enwi—awdurdod lleol yng ngogledd Cymru ynglŷn â materion yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol ar ran rhieni unigolyn niwroamrywiol, roedd ymateb prif swyddog gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn cynnwys, 'Mae'n ymddangos bod y rhain yn faterion a godwyd gennych fel Aelod o'r Senedd ynghylch achos unigol, ac felly y tu allan i'r paramedrau y byddem yn datgelu i drydydd parti.'
Pa gamau y gallwch chi eu cymryd felly yn eich cylch gwaith i sicrhau bod uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol yn deall y dylai ymatebion ynghylch achosion unigol gael eu darparu gan adrannau'r cyngor wrth ateb gohebiaeth a anfonwyd gan Aelod o'r Senedd—y Senedd Gymreig hon—mewn capasiti cynrychioliadol?
Wel, yn amlwg, rydym am weld cymaint ag y bo modd o gydweithio rhwng Aelodau'r Senedd ac unrhyw gyrff cyhoeddus, a chyrff preifat hefyd yn wir, lle maent yn ystyried materion y Senedd a dyletswyddau'r Senedd a dyletswyddau etholaethol. Rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallaf eich cyfeirio, ynghylch y mater a godwyd gennych ac nad oes gennyf wybodaeth benodol amdano, yw bod yr hawliau wedi'u nodi yn y Ddeddf Diogelu Data. Pan fo unigolyn yn anfodlon â'r ymateb a gawsant i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000,ceir proses lle gellir ei gyfeirio at y comisiynydd diogelu data, a fydd wedyn yn ystyried y sefyllfa gyfreithiol ar hynny yn y bôn ac a yw hynny'n rhywbeth y dylid ei ddatgelu neu na ddylid ei ddatgelu. Ac rwy'n credu mai dyna'r camau priodol y dylid eu cymryd yn hynny o beth.
Diolch. Fe wneuthum ymateb yn unol â hynny. Ond wrth gwrs, nid cais rhyddid gwybodaeth oedd hwn, roeddwn i'n gwneud sylwadau—fel rydym i gyd yn ei wneud—yn niwtral, yn cynrychioli fy etholwyr gyda'u cais, a chyda'u hawdurdod ysgrifenedig, felly roedd yn ymateb sy'n peri pryder. Ac yn y cyd-destun hwnnw, fel y credaf eich bod yn gwybod, mae cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rhan 10, mewn perthynas ag eiriolaeth, yn nodi bod rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y cod hwn, a'i bod yn agored i unrhyw unigolyn ddewis a gwahodd unrhyw eiriolwr i'w cefnogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau. Fodd bynnag, ar ôl i oedolyn awtistig ofyn yn ddiweddar i mi fynychu cyfarfod gyda'r un awdurdod lleol, fel eiriolwr iddi—fel y gwneuthum ugeiniau o weithiau gydag etholwyr a chyrff cyhoeddus; rwy'n siŵr eich bod chithau wedi gwneud hynny hefyd—fe gafodd neges gan yr awdurdod lleol y penwythnos hwn yn dweud, 'Ni allaf wahodd Mark i'r cyfarfod gan fy mod wedi cael gwybod gan uwch reolwyr, os oes gan Mark unrhyw gwestiynau yn eich cylch chi neu eich mab, fod angen iddo fynd drwy'r gwasanaethau i gwsmeriaid.'
Gobeithio y byddwch yn cytuno bod y rhain ac ymatebion tebyg eraill gan uwch reolwyr awdurdod lleol yn faterion difrifol, gyda sgil-effeithiau a allai fod yn niweidiol. Felly, unwaith eto, pa gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod tramgwyddwyr mynych, fel yr awdurdod lleol hwn, yn deall ac yn gweithredu o fewn cyfraith y DU a chyfraith Cymru?
Diolch am hynny. Ar yr amgylchiadau penodol rydych chi'n eu codi, rwy'n credu bod y rheini'n rhai y gellid, ac mae'n debyg y dylid, eu cyfeirio at y Gweinidog, a fyddai'n siŵr o ymateb. Wrth gwrs mae yna lwybr arall, sef cyfeirio at yr ombwdsmon, ynghylch y ffordd y mae'r awdurdod lleol y cyfeiriwch chi ato wedi gweithredu. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol i mi wneud unrhyw sylw penodol pellach na hynny ar rywbeth nad oes gennyf wybodaeth uniongyrchol yn ei gylch mewn gwirionedd.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn ymwneud â mater yn fy rhanbarth sy'n achosi pryder i etholwyr, ond mae iddo oblygiad cenedlaethol. Mae cais Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ym mhwll glo Ffos-y-Frân y tu hwnt i'r dyddiad cau gwreiddiol, a chloddio am dair blynedd arall, wedi achosi cryn ofid i drigolion oherwydd pryderon am ansawdd yr aer a llygredd sŵn. Mae'r safle wedi ei leoli ychydig fetrau i ffwrdd o gartrefi, ysgolion a meysydd chwarae. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau a yw erthygl 67, adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn rhoi'r cyfrifoldeb eithaf i Weinidogion Cymru am gymeradwyo ceisiadau gwaith cloddio glo yng Nghymru? A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau hefyd a yw hysbysiad cyfarwyddyd Rhagfyr 2018 yn gorfodi cynghorwyr i gyfeirio ceisiadau ar gyfer gwaith glo neu betroliwm i Weinidogion Cymru? Ac yn seiliedig ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi safbwynt ar allu Llywodraeth Cymru i wrthod y cais gan Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ar safle Ffos-y-Frân?
Diolch am godi hynny. Rydych yn codi materion penodol iawn sy'n ymwneud â materion cynllunio a phwerau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae yna faterion wedi cael eu codi, er enghraifft, mewn perthynas ag ardal gloddio glo arall, a mae'r materion yn ymwneud yn aml â pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac a yw'n ymwneud â chaniatadau cynllunio sydd eisoes wedi'u rhoi neu a yw'n ymwneud â cheisiadau cynllunio newydd, ac yn y blaen. Edrychwch, ar yr amgylchiadau yno, nid yw'r manylion y gwnaethoch chi ofyn amdanynt yn bethau y gallaf eu rhoi i chi heddiw; os ysgrifennwch ataf ar wahân, os oes materion y gallaf roi ateb penodol i chi arnynt, rwy'n hapus i wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddai'n amhriodol imi ymateb heb wybod y cefndir, gwybod ar ba gam y gallai fod arno yn y system gynllunio, pa faterion eraill a allai fodoli, a pha mor fanwl y gallaf fod wrth ymateb i chi.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol, ac yn sicr, fe wnaf ysgrifennu atoch am hynny.
Ers y rownd olaf o gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, cawsom ddyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban bŵer i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru yn yr haf, fod achos moesol a gwleidyddol diamwys dros ganiatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno bod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, os mai dyna yw dymuniad democrataidd y bobl? Yn olaf, beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o effaith adrannau 60 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar allu Llywodraeth Cymru i gynnal refferendwm ar annibyniaeth?
Wel, diolch eto am nifer o gwestiynau pwysig yno. A gaf fi ddweud, yn gyntaf, ar egwyddor gyffredinol hunanbenderfyniaeth? Rwy'n credu bod hynny'n un y mae'r Prif Weinidog a minnau ac eraill wedi ei wneud yn glir yn y gorffennol, fod gan genhedloedd hawl i hunanbenderfyniaeth. Mae ein safbwynt ar refferenda a'r hyn a fyddai'n digwydd gyda Llywodraeth a oedd â mwyafrif o blaid refferendwm wedi'i nodi yn 'Diwygio ein Hundeb', ac rwy'n credu iddo gael sylw penodol iawn yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos cynt. Felly, dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd, ac mae'n gwbl glir.
Mewn cyfres ddiweddar o ddarlithoedd—un gan yr Athro Ciaran Martin a fynychais—cafodd mater cyfansoddiadol arwyddocaol ei godi ynglŷn â'r hyn y dylai'r llwybrau fod ar gyfer gwlad, ar gyfer Llywodraeth sydd â mandad, ac mae hynny, heb os, yn rhan o'r ddadl gyfansoddiadol barhaus. Ar ddyfarniad y Goruchaf Lys, rwy'n credu bod gennyf ddau gwestiwn ar fin dod sy'n trafod hynny'n benodol, felly, os nad oes ots gennych, fe gyfeiriaf at hynny'n benodol pan gaiff y cwestiynau hynny eu gofyn.
Ond ar y pwynt mae'r Athro Emyr Lewis wedi ei godi, nodais ei sylwadau gyda diddordeb. Wrth gwrs, mae'n gywir i nodi'r gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng setliad yr Alban a phwerau gweithredol Gweinidogion Cymru. Byddwn yn dweud hefyd fod gwahaniaethau sylweddol, wrth gwrs, rhwng pwerau'r Arglwydd Adfocad—fy swyddog cyfatebol yn yr Alban—a'u pwerau i allu cyfeirio ar faterion cyfansoddiadol, pŵer nad yw'n bŵer sydd gennyf fi yn benodol yn Neddf Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn nodi, wrth gwrs, fod y materion hyn yn hynod gymhleth.
Fy marn ragarweiniol iawn fy hun arno—ac wrth gwrs, rydym yn dal i ystyried rhai o'r materion hyn wrth iddynt godi—yw fy mod yn credu ei bod yn annhebygol, mewn perthynas ag adran 60, adran 62 ac adran 64, y byddent yn cyfreithloni cynnal pleidlais yn gofyn yn benodol y math o gwestiwn a roddodd Llywodraeth yr Alban yn eu Bil, sy'n amlwg yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl o ran cyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn ar y pwynt arbennig hwnnw. Rwy'n credu y byddai angen i unrhyw bleidlais y byddem ni yn ei chael ymwneud â phwerau intra vires—pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru neu'r Senedd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, mewn sawl ffordd, rydym wedi arfer y pwerau hynny drwy sefydlu'r comisiwn annibynnol, sy'n edrych yn gyffredinol ar lesiant Cymru o fewn cyd-destun cyfansoddiadol.