– Senedd Cymru am 4:00 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Bydd recordiad o'r ddadl hon, a fydd yn cynnwys cyfieithu ar y pryd BSL, ar gael ar Senedd.tv erbyn diwedd y dydd. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8093 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;
c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:
(i) llunio safonau BSL;
(ii) sefydlu panel cynghori BSL;
(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;
(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;
g) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, BSL, yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y dywedais bryd hynny, ym mis Hydref 2018 cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, a sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol, i gynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu iaith gyntaf.
Er bod Deddf Cymru 2017 yn cadw cyfle cyfartal yn ôl i Lywodraeth y DU, mae cyfreithwyr y Senedd yn nodi y byddai Bil BSL Cymru yn cydymffurfio pe bai'n cysylltu â'r eithriadau a restrir ynddi. Dyfynnais Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain hefyd, a oedd wedi dweud wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen ac os yw'n unrhyw beth tebyg i'r Bil BSL yn yr Alban, bydd yn cael cefnogaeth unfrydol y pleidiau i gyd. Bydd pawb ar eu hennill, meddent. Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig y diwrnod hwnnw, gan ddangos awydd amlwg am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chyda phobl a chymunedau B/byddar ledled Cymru yn parhau i ofyn imi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n awyddus i barhau i fynd ar drywydd hyn a gofyn am eich cefnogaeth.
Roeddwn wrth fy modd pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil BSL yn Senedd y DU, wedi'i gyd-gyflwyno gan y Ceidwadwr, yr Arglwydd Holmes o Richmond. Llwyddodd i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, cafodd ei basio ym mis Mawrth, ac fe enillodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Mae Deddf y DU yn cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol Llywodraeth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu cyhoeddi mewn perthynas â BSL. Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd i Lywodraeth y DU baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL yn eu cyfathrebiadau â'r cyhoedd, mae'n benodol yn eithrio adrodd ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban. Nid yw'r Bil yn ymestyn y ddyletswydd adrodd na'r canllawiau i Lywodraethau Cymru a'r Alban. Felly, mae fy nghynnig heddiw ynglŷn â'r angen am Ddeddf BSL sy'n benodol i Gymru hefyd yn ymgorffori hyn. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,
'Nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...a'r modd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed.'
Ddoe ddiwethaf, dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw Cymru wrthyf eu bod yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil BSL Cymru, a chan fod San Steffan a Holyrood bellach wedi pasio Biliau BSL, eu bod yn gobeithio y byddai'r Bil hwn yn ategu'r darnau hynny o ddeddfwriaeth ac yn helpu i wella'r ddarpariaeth o BSL ledled Cymru, a bod amcanion polisi'r Bil arfaethedig yn gadarnhaol, ac yn mynd y tu hwnt i Ddeddf BSL San Steffan drwy gynnwys ymrwymiad i gynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar gynnydd gweithredu'r Bil.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu archwiliad o'u darpariaeth BSL yn ôl siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid yw wedi'i gyhoeddi eto, ac mae'r Gymdeithas wedi dweud wrthyf mai thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r gymuned fyddar Gymreig yw awydd am fwy o arweinyddiaeth fyddar Gymreig wrth ddarparu gwasanaethau BSL; i wasanaethau BSL gael eu darparu gan arwyddwyr BSL i'r byddar; ac am gymorth i alluogi cynllunio proffesiynol dan arweiniad pobl fyddar a gosod cyllideb ar gyfer materion BSL. Maent yn dweud ei bod yn ymddangos mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod arwyddwyr BSL i'r byddar yng Nghymru wedi gweld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, gyda'r ewyllys orau yn y byd, yn gwario arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau BSL ar dalu rhai nad ydynt yn arwyddwyr i gynllunio a darparu'r gwasanaethau BSL hyn, gyda'r canlyniadau dealladwy ac anochel nad yw cynllun y gwasanaethau yn cydweddu ag angen gwirioneddol, gan leihau effeithlonrwydd a gwerth am arian. Maent yn ychwanegu y byddai comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005, a Bil Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022 sy'n aros am Gydsyniad Brenhinol ar hyn o bryd, yn cyfleu neges bwysig o gefnogaeth i'r gymuned F/fyddar yng Nghymru.
Yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, mae'r cynnig hwn yn cynnig Bil sy'n ceisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth a'r gweithle, ac ymestyn dyletswyddau i Weinidogion Cymru ar faterion datganoledig sy'n cyfateb i'r rhai sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr. Am resymau'n ymwneud â moesoldeb, ymarferoldeb a chydraddoldeb, rwyf felly'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n annog pob Aelod arall i'w gefnogi hefyd. BSL yw iaith gyntaf pobl yn y gymuned fyddar. Mae BSL yn debycach i Tsieinëeg na Saesneg, lle ceir defnydd o ddwylo fel disgrifwyr, yn hytrach na sillafu geiriau. Mae dehonglwyr iaith arwyddion i fod ar gael mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau eraill y Llywodraeth, ond rwyf wedi gweld a chlywed am sawl achos lle nad yw hynny wedi digwydd. Mae fy chwaer yn fyddar iawn, ac mae hi ac eraill yn y gymuned fyddar yn defnyddio BSL fel eu prif fodd o gyfathrebu. Rwy'n llywydd y grŵp trwm eu clyw yn Abertawe, ac wrth i glyw pobl ddirywio, BSL fydd y modd o gyfathrebu.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth deiseb i law'r Pwyllgor Deisebau yn galw am wella mynediad ac addysg a gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain, er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oed:
'Gwella mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain: Pan fo plentyn yn cael diagnosis ei fod yn Fyddar/yn drwm ei glyw, dylid cynnig gwersi am ddim/gwersi â chymhorthdal i'w rieni, fel y gallant ddysgu Iaith Arwyddion Prydain... Drwy ddefnyddio lleferydd yn unig, mae plant Byddar yn ei chael yn anodd datblygu sgiliau cyfathrebu, neu'n methu â gwneud hynny, gan fethu â chyrraedd cerrig milltir pwysig. Bydd dysgu ieithoedd eraill drwy Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg/Cymraeg) yn gwella dealltwriaeth y plentyn.'
I'r gymuned fyddar, mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig, ac rwy'n annog pob Aelod i'w chefnogi.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig heddiw. Byddai'n gwneud Bil ardderchog, ac un sy'n angenrheidiol. Rwy'n gobeithio y byddai'n ein gorfodi i fod yn llawer gwell yng Nghymru am ystyried anghenion Iaith Arwyddion Prydain. Un maes lle credaf y byddai hyn yn arwain at newid cadarnhaol yw gydag Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, fel mae fy nghyd-Aelod wedi crybwyll yn barod. Mae data diweddar y cyfrifiad yn dangos mai Iaith Arwyddion Prydain oedd prif iaith 22,000 o bobl tair oed a hŷn ar draws Cymru a Lloegr, cynnydd o dros 6,000 ers 2011. Gyda chynnydd yn y rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ni fu erioed yn bwysicach fod yna fwy o ymwybyddiaeth a'n bod yn addasu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, gofal iechyd, busnes a bywyd bob dydd. Mae hyn yn rhoi ffocws i'r angen dybryd i sicrhau bod ein system addysg yn adlewyrchu'r gymuned iaith arwyddion sy'n tyfu. Edrychaf ymlaen at glywed safbwyntiau ein Gweinidog Addysg—a'ch rhai chi, Weinidog—ar Iaith Arwyddion Prydain a'i defnydd mewn ysgolion ac arholiadau.
Mae Cymwysterau Cymru yn honni bod ystod o gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn y fframwaith credyd a chymwysterau ar hyn o bryd, gyda rhai ar lefelau 1 a 2, sef TGAU i bob pwrpas. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, nid oes gan unman yng Nghymru allu na chyfleusterau mewn gwirionedd i ddarparu'r cymwysterau hanfodol hyn. Rwy'n credu y byddai'n rhaid iddynt fynd i Loegr i wneud yr arholiad. Ac er bod Cymwysterau Cymru wedi nodi y bydd cymhwyster BSL newydd ar gyfer Cymru wedi'i anelu at ddysgwyr oedran ysgol, nid yw'n ymddangos y bydd y rhain ar gyfer dysgwyr oedran TGAU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau datblygu cynnwys pwnc i weld a yw'n bosibl darparu BSL mewn lleoliadau ysgol arferol. Mae dau o fyrddau BSL y DU gyfan, Signature a Sefydliad Iaith Arwyddion Prydain, yn caniatáu i blant ddilyn cymwysterau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain, er fel y dywedais, nid oes unrhyw ysgolion yng Nghymru'n gallu cyflawni'r broses arholi hon. Yn y DU, ceir 22 o ysgolion gyda darpariaeth ar gyfer plant byddar: 18 yn Lloegr, tair yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a dim un yng Nghymru—ac nid yw hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Rwy'n gwybod y bydd y Bil hwn yn mynd gryn dipyn o ffordd i sicrhau y bydd pethau'n gwella i'n cymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gadarnhau faint o amser sydd gennyf i siarad?
Tair munud.
Perffaith. Diolch. Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wrth iddo ymladd yn barhaus ac yn frwd dros gyflwyno Bil BSL yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio na fydd ei waith ef a gwaith llawer o bobl eraill sy'n gysylltiedig â hyn yn ofer ac y bydd Bil BSL yn cael ei gyflwyno yn y pen draw, oherwydd yn onest, bydd gwneud darpariaeth statudol ar gyfer defnyddio Iaith Arwyddion Prydain heb amheuaeth yn gwella mynediad at addysg ac at wasanaethau ac yn helpu pobl fyddar a'r rhai sydd â phroblemau clyw i integreiddio'n llawn ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru, rhywbeth y cânt eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd.
Mewn sawl ffordd, o ystyried yr holl ymdrechion y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud wrth osod nodau iechyd a llesiant, rwy'n synnu nad yw'r Bil hwn eisoes wedi'i gyflwyno, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cael cefnogaeth drawsbleidiol ysgubol, a byddai'n cael effeithiau hynod gadarnhaol ar y gymuned fyddar a'r rhai sy'n drwm eu clyw.
Rwyf wedi datgan o'r blaen yn y Siambr hon—ac nid oes gennyf gywilydd ailadrodd y pwyntiau hyn eto—fod defnyddwyr BSL yn wynebu llawer o rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau a cheisio byw eu bywydau bob dydd, yn enwedig wrth gael mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd. Mae 68% o ddefnyddwyr BSL yn profi rhwystrau gwaharddol dro ar ôl tro wrth gysylltu neu drefnu apwyntiadau gofal iechyd, oherwydd eu bod yn gorfod teithio i feddygfeydd i ofyn am eu hapwyntiadau, a gorfod aros am apwyntiad a allai gael ei ganslo ar fyr rybudd os nad oes dehonglwr ar gael.
Hyd yn oed pan fydd pobl fyddar yn llwyddo i gael apwyntiad, fe wyddom hefyd fod 38 y cant wedi dweud eu bod wedi cael trafferthion cael y cymorth cyfathrebu BSL sydd ei angen arnynt, gyda nifer uchel yn adrodd eu bod wedi'u gadael heb wybod yn iawn beth oedd manylion eu diagnosis a heb ddealltwriaeth ynglŷn â'u presgripsiynau ar ôl eu hapwyntiad, a gadewch inni fod yn onest, mae honno'n sefyllfa go frawychus i fod ynddi, ac yn adlewyrchiad trist o'r modd na chaiff y rhai sy'n cael eu gwthio i'r cyrion eu trin â'r un gofal a sylw ag eraill yn aml.
Gwyddom ymhellach y gall gwahardd defnyddwyr BSL byddar gael mwy o effaith ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gyda 33 y cant o ddefnyddwyr BSL yn dweud eu bod yn aml neu bob amser yn teimlo'n unig, sydd chwe gwaith yn uwch na phobl nad ydynt yn anabl. Dyma pam ei bod mor bwysig fod gwasanaethau a mannau cyhoeddus yn cael eu gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr BSL.
Ar draws y DU, ceir prinder dehonglwyr BSL cymwys a chofrestredig, sy'n cyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau i fod yn hygyrch i arwyddwyr BSL i'r byddar. Yn ôl cyfrifiad diweddar Cymru a Lloegr, mae 26,000 o bobl yn defnyddio BSL—fel y nododd fy nghyd-Aelod Laura—fel eu prif iaith, a dim ond 1,400 o ddehonglwyr cofrestredig sydd i'w cael. Rwy'n credu y dylai hyn fod yn ddigon o reswm i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn helpu i annog a hyrwyddo dehonglwyr BSL fel proffesiwn.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae cynnig Mark yn hanfodol er mwyn gwella iechyd a llesiant y gymuned fyddar yma yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu byd gwell iddynt hwy ac i genedlaethau'r dyfodol fyw ynddo. Hoffwn annog pawb yma i'w gefnogi. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn Senedd Cymru, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r mater yma, gan fod angen inni sicrhau bod gan holl bobl fyddar Cymru fynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Yr wythnos diwethaf, fe wneuthum ddatganiad i'r Senedd i nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl, ac fe dynnais sylw at ystod o feysydd lle rydym yn gweithredu i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl byddar.
Mae'n amserol felly ein bod yn canolbwyntio ar y mater hwn, ac rwy'n croesawu'r cyfle i wneud hynny. Wrth ystyried defnyddwyr BSL byddar, mae'n hanfodol ein bod yn deall sut y gellid trin BSL a dulliau cyfathrebu eraill a ffefrir yn fwy cyfartal o'u cymharu â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gwn fod y mater wedi cael sylw yn flaenorol yng nghwestiynau'r Senedd gan Mike Hedges heddiw ac Aelodau eraill ar achlysuron blaenorol. Diolch i chi am eich safbwyntiau heddiw. Wrth gwrs, fe wnaethom drafod hyn mewn dadl fer ym mis Ionawr am anghydraddoldeb cudd, pan drafodwyd hyn hefyd. I lawer o bobl fyddar, BSL yw eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith, ac ers 2004, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cydnabyddiaeth i BSL fel iaith yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', a gynhyrchwyd yn ystod y pandemig gan a chyda phobl anabl. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb drwy sefydlu'r tasglu hawliau pobl anabl. Yn rhan o hyn, rydym wedi sefydlu mynediad at wasanaethau, sy'n cynnwys y gweithgor cyfathrebu a thechnoleg, a bydd yn sicrhau bod profiad bywyd pobl anabl yn ysgogiad i hyrwyddo hawliau pobl anabl, gan gynnwys mynediad at BSL drwy ddatblygu cynllun gweithredu hawliau anabledd.
Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain, a gynhaliodd archwiliad BSL ar ran Llywodraeth Cymru, ac maent i fod i gyhoeddi eu hadroddiad terfynol ym mis Ionawr—felly, o fewn ychydig wythnosau. Bydd llawer o argymhellion yr adroddiad hwn yn ein helpu i feithrin gwytnwch o fewn y gwasanaethau cyfieithu a dehongli BSL, a hefyd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o BSL yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau gosod y safon ar gyfer cydraddoldeb a mynediad at wasanaethau a gwybodaeth mewn BSL yng Nghymru, gan gynnwys ymgynghori ystyrlon ac ymgysylltu â'r gymuned fyddar.
Yn ogystal â meithrin gallu i ddysgu ac addysgu BSL ar bob lefel o'r system addysg yng Nghymru, er mwyn galluogi mynediad llawn at wasanaethau gwybodaeth ac i ddileu rhwystrau i gyfranogiad, rwy'n ymwybodol iawn fod angen ymgyrch i feithrin gallu cyfieithwyr BSL i'r byddar a dehonglwyr BSL Saesneg a BSL Cymraeg. Rydym i gyd wedi profi'r her—rwyf fi wedi—o archebu'r ychydig ddehonglwyr BSL sydd ar gael yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio dehonglwyr BSL sy'n deall cyd-destun Cymru a'r gwahaniaeth wrth ddefnyddio BSL gyda'r Gymraeg. Heb y gwasanaethau hyn, byddai llawer o bobl yn methu cymryd rhan a chael eu lleisiau wedi eu clywed yn gyfartal. Rwy'n credu bod presenoldeb dehonglwyr BSL yng nghynadleddau'r wasg Llywodraeth Cymru o ddechrau'r pandemig, a bellach yn rhan o'r ffordd rydym yn gwneud ein cyfathrebiadau, yn allweddol. Ac rwy'n croesawu'r dehonglwr BSL heddiw yn y Senedd.
Fe fyddwch yn ymwybodol o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sydd â hawliau plant yn ganolog iddo a bydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys plant byddar, yn cael eu cefnogi'n effeithiol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu ac yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Mae'r Ddeddf ADY yn creu fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi dysgwyr o ddim oed i 25 oed gydag ADY ac yn hyrwyddo cydraddoldeb drwy ddarparu'r hawl i gynllun datblygu unigol statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY, beth bynnag yw lefel yr angen.
Mae Cymru fwy cyfartal yn un sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir a'u hamgylchiadau. Mae hefyd yn un o'n nodau llesiant cenedlaethol cyfunol yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—[Torri ar draws.]
Rwy'n ddiolchgar, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn y maes penodol hwn, ond mae deddfwriaeth, ac ymgorffori rhywbeth mewn deddfwriaeth, yn rhoi hawliau go iawn i bobl. Dyna pam mae'r Aelod wedi dod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cefnogi neu weithio gyda'r Aelod i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a fydd yn y pen draw yn ymgorffori'r hawliau hynny ac yn gwneud y naid ymlaen yn y gwelliannau rydym i gyd am eu gweld ar gyfer pobl ag anableddau clyw?
Rwy'n meddwl bod yna ddau beth. Rwy'n dod at y ddeddfwriaeth, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig iawn ein bod yn clywed gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain ynglŷn â'u harchwiliad a hefyd, ynghylch canlyniadau'r gwaith pwysig iawn sydd wedi'i wneud gan y tasglu pobl anabl, ond fe ddof at faterion deddfwriaethol hefyd.
Ar y cyfeiriadau at Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n bwysig, oherwydd mae'n un o'n nodau llesiant cenedlaethol cyfunol i wneud yn siŵr y gallwn anelu at gael Cymru sy'n fwy cyfartal, ac mae'n golygu bod cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys o dan y Ddeddf, a'i bod yn ofynnol iddynt sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd tuag at sicrhau Cymru fwy cyfartal. Yn sail i hyn, mae ein hymrwymiad hirsefydlog i'r model cymdeithasol o anabledd, fel y nododd Mark, ar gyfer defnyddwyr BSL byddar; mae'r gallu i fwrw ymlaen â'u bywydau heb eu llesteirio gan rwystrau cyfathrebu yn sylfaenol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn cynnwys darpariaeth i gydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Deddf a ddechreuodd ei thaith fel Bil Aelod preifat ydyw, fel sydd eisoes wedi'i nodi heddiw, ac fe'i cyflwynwyd gan Rosie Cooper AS y llynedd. Ym mis Ebrill eleni, arweiniais ddadl i gymeradwyo memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil BSL ar y pryd. Nid yw'r Ddeddf yn atal y Senedd rhag deddfu yn y maes hwn, pe bai'n dewis gwneud hynny. Ceir darpariaeth yn y Ddeddf ar gyfer awdurdodau cyhoeddus datganoledig ac i Weinidogion Cymru, ac mae'n iawn inni allu penderfynu ar ddull cynhwysfawr Cymreig i gyd-fynd â'n dull gweithredu ein hunain.
Bydd y darpariaethau yn y Ddeddf yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau defnyddwyr BSL byddar, ac rydym yn croesawu hynny, ochr yn ochr â'n dull Cymreig o weithredu. Mae angen inni ymgysylltu mwy â'n dinasyddion BSL byddar nawr, a chymunedau byddar nad ydynt yn defnyddio BSL, ac mae cymaint o werth i ddeall profiadau bywyd pob unigolyn byddar. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r dystiolaeth a'r ddealltwriaeth hon i ddatblygu'r dull cydgysylltiedig hwn o hyrwyddo BSL a thechnolegau cynorthwyol ac addasol hefyd. Ni allwn newid hanes, ond gallwn ddylanwadu a newid yr hyn a ddaw yn y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol cyfartal i bob unigolyn byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru, ac mae'r ddadl hon yma yn gyfraniad gwirioneddol bwysig i hynny. Diolch.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am eich cefnogaeth i'r cynnig hwn. Fel y dywedodd, mae cymunedau byddar yn defnyddio BSL fel eu prif ddull o gyfathrebu ac i gymunedau byddar, mae'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig. Diolch i Laura Anne Jones am ei sylwadau. Fel y dywedodd, byddai hyn yn creu newid cadarnhaol ar gyfer BSL mewn addysg. Tynnodd sylw at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio BSL, yr angen i addasu i ddefnyddio BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus a bywyd bob dydd, a'r angen i ganiatáu i fyfyrwyr gael cymwysterau drwy gyfrwng BSL. Mae Joel James—eto, diolch am eich cyfraniad—yn gobeithio, fel rwyf innau, y bydd y Bil BSL yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn y pen draw i helpu pobl fyddar, i rymuso pobl fyddar ac i gael gwared ar rwystrau a nodir ganddynt. Fel y dywedodd, byddai'r Ddeddf yn cael effeithiau cadarnhaol iawn ar bobl fyddar sydd ar y cyrion, gan gynnwys mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd, ac esboniodd fod y diffyg cymorth ar hyn o bryd yn effeithio ar broblemau iechyd meddwl a lles meddyliol ymhlith pobl fyddar, sydd chwe gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol.
Diolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Fel y dywedodd, mae'n bwysig fod pob unigolyn byddar yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Cyfeiriodd y Gweinidog at yr adroddiad 'Drws ar Glo' a'r tasglu hawliau pobl anabl. Efallai y bydd yn cofio, yn ystod misoedd cyntaf y cyfyngiadau symud, fod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Cŵn Tywys Cymru a minnau wedi cael cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau o oedolion ag anableddau dysgu, a nodwyd y rhwystrau roeddent wedi dod ar eu traws ers y cyfyngiadau symud na chynlluniwyd ar eu cyfer o ddechrau'r newidiadau a gyflwynwyd ar ôl y cyfyngiadau symud am nad oedd dyletswyddau ar Weinidogion na chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud hyn yn rhagweithiol, i gydgynhyrchu'r pethau hyn yn awtomatig. A phan godais hyn, fe fynychodd y Gweinidog y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, ac fe wneuthum innau fynychu'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pan godais hyn hefyd, ac fe wneuthum ymateb, ond rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Ni ddylem fod wedi gorfod cyrraedd y pwynt hwnnw. A dyna beth mae'r Bil hwn yn ceisio ei wneud, ar gyfer pobl f/Fyddar a defnyddwyr BSL, o leiaf.
Rydym yn croesawu'r archwiliad y bu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn ei wneud dros Lywodraeth Cymru ar y materion hyn. Wrth gwrs, mae'r Gymdeithas wedi bod yn rhoi gwybodaeth i mi a'r grŵp trawsbleidiol ar faterion byddar am hyn drwy gydol y broses. Er hynny, maent yn cefnogi fy nghynnig ar gyfer Bil ac mewn gwirionedd, cafodd cynnig heddiw ei saernïo gyda hwy, gan sicrhau bod safbwyntiau'r bobl y maent yn eu cynrychioli'n cael eu mynegi o'i fewn.
Cyfeiriodd y Gweinidog at yr angen—fe wnaf orffen gyda hyn—am ddehonglwyr BSL. Rwy'n cofio, yn ystod fy nhymor cyntaf, eich ail dymor chi, roedd gennych raglen o ddehonglwyr BSL, a chafodd llawer mwy o bobl eu derbyn a'u hyfforddi i lefel uchel, ond nid yw'n gweithio nawr. Ceir prinder enfawr, fel y dangoswyd gan y ffaith fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Senedd ddarparu cyfieithiad ar y pryd ar gyfer y ddadl hon. A gwn o'r cyfathrebiadau a gefais fod llawer o bobl fyddar gofidus iawn y tu allan i'r Senedd a oedd eisiau dilyn y ddadl hon yn fyw, sy'n teimlo ein bod wedi torri ein dyletswyddau iddynt o dan y model cymdeithasol o anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010, a bydd rhaid iddynt edrych i weld yn nes ymlaen a allant edrych ar gyfieithiad dilynol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod hynny wedi digwydd. Ond er hynny, rwy'n croesawu'r gefnogaeth a glywsom gan yr ychydig siaradwyr heddiw. Hoffwn pe baem wedi cael mwy o amser i drafod hyn. Ac os gwelwch yn dda, Aelodau, rwy'n eich annog i ganiatáu i hyn ddigwydd, mewn egwyddor o leiaf, i ategu'r bleidlais gadarnhaol a gawsom ym mis Chwefror y llynedd. Diolch yn fawr.
Cyn i mi symud at y cwestiwn, a gaf fi egluro bod y Senedd wedi edrych ar gael cyfieithydd i mewn? Yn anffodus, ni fu modd inni wneud hynny, a dyna pam ein bod wedi mynd am y dewis arall y tro hwn, sef recordiad a bydd dehonglwr ar y recordiad.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.