– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Eitem 8, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar ddechrau’r chweched Senedd, cytunodd y pwyllgor i graffu ar weithrediad parhaus y mesurau interim diogelu’r amgylchedd sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio, rwy’n siŵr, fod y mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â phryder eang am y bwlch llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r mesurau'n darparu mecanwaith i'r cyhoedd gyflwyno cwynion i asesydd interim diogelu'r amgylchedd annibynnol am weithrediad cyfraith amgylcheddol. Ar ôl ystyried unrhyw gwynion o’r fath, gall yr asesydd interim argymell wedyn fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith, gyda’r bwriad o wneud gwelliannau i’r gyfraith. Mae ein hadroddiad yn ymdrin â blwyddyn lawn gyntaf gweithrediad y mesurau interim a chafodd ei lywio gan dystiolaeth gan randdeiliaid amgylcheddol allweddol a chan Dr Nerys Llewelyn Jones, yr asesydd interim, a ymddangosodd ger bron y pwyllgor ym mis Mehefin eleni.
Fel pwyllgor, gwnaethom wyth argymhelliad, dau i’r asesydd interim a chwech i Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn, felly hoffem ddiolch i’r Gweinidog a’r asesydd interim am eu hymatebion cadarnhaol. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd ar wasanaeth yr asesydd interim, rydym wedi ein calonogi gan faint y mae wedi'i gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf, a chyda chapasiti cyfyngedig ac adnoddau cyfyngedig hefyd, mewn gwirionedd. Er bod y gwasanaeth wedi profi rhai problemau cychwynnol, ar y cyfan, mae wedi llwyddo i oresgyn y rhain. Ond mae lle i wella o hyd, wrth gwrs, fel y gwelir yn ein hadroddiad.
Mae'r mesurau interim yn cyflawni swyddogaeth bwysig, ac mae ganddynt botensial i helpu i wella gweithrediad cyfraith amgylcheddol. Ond wrth gwrs, nid ydynt yn cymharu â system lywodraethu amgylcheddol yr UE. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth o berfformiad yr asesydd interim na gwaith y gwasanaeth hyd yma. Mae’n feirniadaeth, fodd bynnag, o Lywodraeth Cymru am fethu blaenoriaethu deddfwriaeth er mwyn sefydlu corff goruchwylio i Gymru sy’n gwbl weithredol ac wedi'i ariannu'n dda.
Wrth inni aros yn gynyddol ddiamynedd i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, mae gan holl wledydd eraill y DU gyrff goruchwylio statudol ar waith bellach. Er nad ydynt yn berffaith, mae'r cyrff hyn yn darparu swyddogaethau llywodraethu allweddol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth a gorfodi, ac yn cynnal hawliau dinasyddion i gael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol. Felly, Weinidog, onid yw dinasyddion Cymru yn haeddu’r un peth? Rwy’n siŵr eu bod, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, ac rwy’n siŵr y byddwch yn ymhelaethu pan fyddwch yn ymateb. Ond ni ellir israddio enw da Cymru o fod yn genedl lle mae'r amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn hollbwysig i fod yn genedl sydd â'r strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.
Nawr, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod penodiad yr asesydd interim wedi’i ymestyn am flwyddyn, hyd at fis Chwefror 2024. Ni ellir dychmygu na fydd corff goruchwylio statudol ar waith cyn hynny. Ond gydag ychydig dros flwyddyn i fynd, a heb unrhyw dystiolaeth o unrhyw gynnydd gwirioneddol tuag at ddatblygu cynigion deddfwriaethol, y teimlad yw nad yw pethau'n edrych yn addawol. Felly, ymddengys y bydd y mesurau interim ar waith yn hirach na'r disgwyl, ac i lawer, yn hirach nag sy'n dderbyniol. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig gwneud y gorau o'r hyn sydd gennym, a gwnaed ein hargymhellion yn ein hadroddiad gyda hyn mewn golwg, wrth gwrs.
Felly, yn gryno, nod argymhellion 2 a 3 yw gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaeth a chynyddu tryloywder yn ei waith. Ac rydym yn falch o glywed bod yr asesydd interim eisoes wedi gwneud cynnydd ar fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn.
Gan droi at ein hargymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae argymhelliad 5 yn galw am adolygiad brys o’r adnoddau sydd ar gael i’r asesydd interim, gan adlewyrchu'r galw mawr am y gwasanaeth a’r angen i sicrhau allbynnau amserol ar ffurf adroddiadau. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, sy’n ddechrau da iawn. Fel y nodir yn glir yn ein hadroddiad, mae'n rhaid cwblhau'r adolygiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi syniad i ni o sut mae’r gwaith hwn yn dod yn ei flaen wrth ichi ymateb i’r ddadl hon.
Gan symud ymlaen at y broses o ymdrin ag adroddiadau gan yr asesydd interim, rydym yn pryderu nad yw hyn yn ddigon eglur. Er ein bod yn cydnabod nad oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i adroddiadau ac argymhellion yr asesydd, mae'n rhaid iddi ymrwymo i wneud hyn. Rydym o'r farn fod proses sydd wedi’i diffinio’n glir yn hanfodol i sicrhau tryloywder, i gryfhau atebolrwydd ac i feithrin hyder y cyhoedd yn y mesurau interim wrth gwrs. Mae argymhellion 6 a 7 yn ein hadroddiad yn mynd i’r afael â’r mater hwn.
Yn olaf, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'n monitro effeithiolrwydd y mesurau interim, gan gynnwys eu heffaith ar ganlyniadau amgylcheddol. Yr ateb byr yw nad yw'n gwneud hynny. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn gwybod sut beth yw llwyddiant oni bai bod trefniadau monitro addas ar waith i’w fesur?
Bydd yr Aelodau’n gweld bod ein hargymhellion yn ymwneud i raddau helaeth â mireinio’r mesurau interim i sicrhau eu bod cystal ag y gallant fod. Ond ni waeth pa mor effeithiol y gallai'r mesurau hyn fod, rydym yn glir nad ydynt yn gwneud y tro yn lle corff goruchwylio amgylcheddol parhaol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn drwy weddill tymor y Senedd hon. Diolch.
Rwy'n codi fy het i'n Cadeirydd, Llyr Gruffydd, am ddweud beth oedd angen ei ddweud—nad yw'r asesydd interim yn cyflawni swyddogaeth y math o lywodraethu amgylcheddol sydd ei angen arnom yma yng Nghymru.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi dewis derbyn yr wyth argymhelliad sydd yn yr adroddiad—rwy'n tybio y byddwn wedi synnu pe na baech chi wedi gwneud hynny. Rwy'n nodi bod yr asesydd interim wedi addo y bydd hi'n cyhoeddi diweddariadau ar raglen waith dreigl y gwasanaeth bob chwarter mewn perthynas ag argymhelliad 3. Rwyf hefyd yn nodi bod argymhellion 6 a 7 yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi ymatebion i adroddiadau aseswyr interim heb fod yn hwyrach na chwe wythnos ar ôl eu cael ac y dylai'r Senedd gael ei hysbysu gan ddatganiad ysgrifenedig. Rwyf fi, yn sicr, yn edrych ymlaen at weld yr amserlen honno yn cael ei chadw.
Yn sicr, yn ystod y sesiwn dystiolaeth, o'r hyn rwy'n ei gofio—gallaf ei gofio'n iawn—daeth yn amlwg iawn i mi nad yw'r swyddogaeth hon yn cyflawni'r lefel o lywodraethu amgylcheddol sydd ei hangen o gwbl. Mae angen blaenoriaethu deddfwriaeth. I fod yn deg â'r asesydd interim, yn ei geiriau ei hun, roedd hi'n teimlo nad ei swyddogaeth hi oedd ymdrin â chwynion. Roedd hi'n teimlo bod rhai pethau na ddylai hi ymwneud â hwy—materion adnoddau. Rwy'n teimlo, mewn gwirionedd, fod swyddogaeth yr asesydd interim wedi bod yn fwy o ymarfer ticio bocsys i Lywodraeth Cymru.
Mae angen fframwaith parhaol yma yng Nghymru, yn enwedig ar bwnc sydd mor bwysig i Gymru. Dywedodd Dr Llewelyn Jones fod y galw ar y gwasanaeth wedi bod yn fwy na'r disgwyl yn ystod y flwyddyn gyntaf, gyda 21 o gyflwyniadau wedi'u derbyn, gan gwmpasu ystod eang o faterion amgylcheddol gwahanol. Yn ôl adroddiad blynyddol 2021-22, mae hyn yn dangos yn glir fod yna lawer iawn o ymgysylltiad â'r cyhoedd yn digwydd ar fater diogelu'r amgylchedd a bod awydd yng Nghymru i sicrhau bod y gyfraith yn gwarchod yr amgylchedd yma.
Dywedodd RSPB Cymru bod nifer y cyflwyniadau'n dangos bod pryder sylweddol yng Nghymru ynghylch gweithredu cyfraith amgylcheddol. Cafwyd problemau gyda'r wefan hefyd. Ysgrifennodd aelodau o'r sector amgylcheddol at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn gyda chynrychiolwyr yn beirniadu gwefan yr asesydd interim hyd yn oed fel un nad yw'n hawdd ei defnyddio na hyd yn oed yn hawdd dod o hyd iddi. Dywedodd RSPB Cymru fod dod o hyd i dudalen we berthnasol Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar fod pobl yn gwybod beth i chwilio amdano ar-lein. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i ni heddiw fod y materion hynny wedi cael sylw a bod unrhyw un sydd eisiau chwilio am yr asesydd interim yn gallu gwneud hynny? Fe wnaeth cynrychiolwyr o'r sector amgylcheddol fynegi rhwystredigaeth hefyd ynglŷn â'r diffyg cynnydd tuag at ddatblygu'r trefniadau newydd.
Hyd yn hyn, nid fi yw'r unig un sy'n gweld hyn fel methiant gan Lywodraeth Cymru i sefydlu trefniadau cryf a pharhaol. Nid oes ganddi linell amser glir hyd yn oed ar gyfer sefydlu corff parhaol. Hefyd, nododd rhanddeiliaid fwlch llywodraethu oherwydd natur gul y mesurau cyfredol, gyda'r mesurau presennol yn cael eu disgrifio fel rhai pell o'r hyn sydd ei angen ar Gymru. Unwaith eto, dywedodd RSPB Cymru mai:
'ei brif bryder yw bod y gwaith i ddatblygu mesurau parhaol a statudol wedi arafu a bod risg y bydd y mesurau interim yn eu lle yn hirach na’r ddwy flynedd a ragwelwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru.'
Rydym yn ymwybodol o'r estyniad, ond mae'n debyg fy mod i'n chwilio am sicrwydd yma eich bod chi'n mynd i symud ymlaen gyda rhywbeth llawer cryfach na hyn. Roeddent yn ychwanegu eu bod:
'yn hynod bryderus nad oes amserlen glir yng Nghymru o hyd' ar gyfer deddfwriaeth i sefydlu corff goruchwylio parhaol. Ac er gwaethaf galwadau parhaus gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu deddfwriaeth i sefydlu corff goruchwylio statudol, ni cheir Bil ym mlwyddyn 2 y rhaglen ddeddfwriaethol. Fel y mae ein pwyllgor yn dweud yn glir,
'Nid yw sicrwydd annelwig y Prif Weinidog fod “y Bil ar ei ffordd” yn gwneud dim i fynd i’r afael â’n pryder ni... fod y corff goruchwylio statudol, a addawyd gan Lywodraeth Cymru yn y Bumed Senedd, flynyddoedd i ffwrdd o hyd.'
Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da i gyflawni ein hymrwymiadau amgylcheddol, ac mae'n ein rhoi y tu ôl i bob gwlad arall yn y DU wrth inni fethu gweithredu corff goruchwylio statudol. Aeth 19 mis heibio ers sefydlu asesydd interim, ac nid yw'n ymddangos bod yr amser wedi'i ddefnyddio cystal ag y gallai fod ar ddatblygu fframwaith mwy parhaol.
Ni wnaf sôn am bob un o wyth argymhelliad y pwyllgor, ond hoffwn dynnu sylw at rai ohonynt a chamau gweithredu yr hoffwn eu gweld. Yn gyntaf, y dylai Llywodraeth Cymru egluro—mae'n debyg fy mod yn gofyn i chi, nawr, Weinidog, i wneud hyn—a yw'n bwriadu ailbenodi'r asesydd interim—. O, wel, rydym wedi gwneud hynny. Os mai dyma'r cynllun, mae angen camau pendant arnom i sicrhau y bydd fframwaith parhaol yn ei le erbyn hynny. A hefyd yn rhinwedd beth, neu yn ôl pa feini prawf y gwnaethoch chi benderfynu ymestyn hyn? Dylai'r asesydd interim weithio tuag at wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwasanaeth; dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o'r adnoddau sydd ar gael i'r asesydd, ac wrth wneud hynny, rhaid iddi fodloni ei hun fod digon o adnoddau gan yr asesydd interim, fod ganddynt y pwerau cywir i gyflawni eu swyddogaeth a'u cyfrifoldebau'n effeithiol—
Janet, rydych chi wedi defnyddio eich amser nawr.
I grynhoi, mae gan y Llywodraeth hon ffordd bell i fynd o hyd i ddarparu sicrwydd i'r sector amgylcheddol gyda'r arweinyddiaeth, y cyfeiriad a'r sicrwydd sydd ei angen arnynt. Er lles cenedlaethau'r dyfodol, mae angen fframwaith priodol ar waith ar frys. Diolch.
Nid wyf am ailadrodd pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill, ond rwyf am ddiolch i'r Cadeirydd a'r cyd-aelodau o'r pwyllgor am y sesiwn a gynhaliwyd ganddynt gyda'r asesydd interim, a diolch hefyd i'r asesydd interim am ddod ger ein bron ac am y dystiolaeth a roddodd. Rwy'n anghytuno â Janet ynglŷn ag un pwynt o bwys yn unig, oherwydd fe glywsom mewn tystiolaeth nad yw hon yn swyddogaeth ddiwerth, fod gwerth iddi mewn gwirionedd. Yn wir, dywedodd Annie Smith o RSPB Cymru:
'nad yw rôl yr Asesydd Interim yn annilys nac yn amhrisiadwy—mae’n hollol wahanol, ac nid yw’n gyfwerth â mynediad at gyfiawnder amgylcheddol.'
Mae hynny'n mynd at wraidd sylw Llyr, a Janet hefyd. Efallai mai mesur interim ydyw, ond nid yw'n ddiwerth—ddim o gwbl. Ac mewn gwirionedd, tynnodd ein hadroddiad sylw at hynny a rhai o'r cyflawniadau dros gyfnod swydd yr asesydd interim. Ond rwyf am droi at fater y bwlch llywodraethu a sut rydym yn mynd i'w lenwi, heb ailadrodd yn fanwl rai o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud yn barod.
Roedd y bwlch llywodraethu yn fater allweddol i nifer o'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Wrth groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion mewn gwirionedd, roedd ein hargymhellion yn seiliedig yn amlwg iawn ar swyddogaeth bresennol yr asesydd interim, ac ati, ac ati, ac fe wnaethom barhau i edrych, fel y gwnaeth ein holl randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni, 'Ie, ond beth sy'n dod nesaf a phryd mae'n cyrraedd?' Dyna rwyf eisiau canolbwyntio fy sylw arno mewn gwirionedd.
Mae yna dybiaeth gennym ar y pwyllgor, sy'n cael sylw pellach yn ein casgliadau. Nid yw'n troi at yr argymhellion, oherwydd mae'r argymhellion yn canolbwyntio'n fawr ar swyddogaeth yr asesydd interim presennol. Ond yn ein casgliadau, rydym yn pwyntio'n glir iawn at dybiaeth y bydd yn rhaid ichi ailbenodi'r asesydd interim, oherwydd mae'n mynd yn brin o amser, ac nid oes gennym gorff newydd i ddod ymlaen i roi'r cyfiawnder amgylcheddol hwnnw i ni, y swyddogaeth cyfiawnder dinasyddion yno. Felly, byddai'n dda cael yr eglurder hwnnw heddiw, ond wedyn i gael yr eglurder hwnnw hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw, os ydych chi'n mynd i ailbenodi ar gyfer estyniad, y gwelwn y cynigion yn cael eu cyflwyno.
Weinidog, nid wyf yn rhannu'r amheuaeth—efallai fod hynny wedi cael ei fynegi ychydig gan gyd-aelodau eraill—nad ydych chi eisiau gwneud hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau gwneud hyn; gwn fod pwysau deddfwriaethol—rydym yn deall hynny hefyd—ond y ffaith yw, yn ein gwaith arsylwi fel pwyllgor, mae gennym asesydd a gafodd ei sefydlu am ddwy flynedd ar sail interim; bydd yn rhaid inni ei ymestyn. A ydym yn mynd i weld y cynnig ar gyfer y strwythur llywodraethu newydd ar gyfraith amgylcheddol yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen honno? Os nad ydym, a ydym yn mynd i ailbenodi eto?
Rwy'n credu bod y diffyg amynedd sy'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad yn ymwneud â chael yr eglurder hwnnw. Ac nid eglurder yn unig y gofynnwn amdano, Weinidog; gwn fod yr holl grwpiau amgylcheddol allan yno'n gofyn am yr un peth. Mae ganddynt hyder eich bod chi eisiau cyflawni hyn; maent eisiau sicrwydd ynglŷn â phryd mae'n mynd i ddigwydd, dyna i gyd. Diolch.
Ar y dechrau, os yw rhywun yn gweld yr hyn rydym yn mynd i fod yn sôn amdano wedi ei ysgrifennu ar ddarn o bapur, gallai'r pwnc hwn ymddangos yn sych ac yn dechnegol, ond mewn gwirionedd, mae holl gyfoeth ein byd naturiol wedi'i gynnwys ynddo. Heb amddiffyniad amgylcheddol cadarn a phriodol, bydd pob un ohonom yn cael ein gwneud yn dlawd mewn ffyrdd na allwn hyd yn oed ddechrau eu dychmygu.
Mae cyd-destun hyn wedi cael ei ddisgrifio'n dda yn barod gan aelodau eraill y pwyllgor. Wrth gwrs, hoffwn ychwanegu fy niolch i Gadeirydd y pwyllgor ac i'r tîm pwyllgor gwych ac i'r asesydd interim. Rwy'n gwybod efallai y bydd hi'n anodd i'r asesydd interim glywed rhywfaint o hyn, ond hoffwn ychwanegu at y pwynt sydd eisoes wedi'i wneud: nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth ar unrhyw un sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â'r sefyllfa sydd wedi ein cael i lle rydym ni, a phroblemau go iawn a'n anhapusrwydd ynglŷn â sut mae hynny wedi cael ei drin.
Mae colli hawliau Cymru sy'n gysylltiedig â chyfraith amgylcheddol yr UE, yr hen fframwaith a oedd yn caniatáu inni ddwyn corfforaethau a Llywodraethau i gyfrif am niweidio'r byd naturiol, wedi digwydd oherwydd Brexit. Mae gan Brexit lawer o ddioddefwyr; rydym wedi colli cymaint. Rhaid inni gael o leiaf yr un cadernid a oedd gennym dan yr hen fframwaith—rhaid ei ailadrodd yng nghyfraith Cymru. Oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn ers y cyfnod pontio, rwy'n ofni ein bod mewn sefyllfa sy'n wirioneddol niweidiol.
Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae hwn yn faes sydd wedi ei ddatganoli. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Y bwriad ar gyfer y mesurau sydd gennym ar hyn o bryd oedd iddynt lenwi bwlch dros dro. Codwyd pryderon hyd yn oed ar y pryd ynglŷn â sut y byddai'r trothwy difrifoldeb yn cael ei gyrraedd o ran pa dor rheolau y dylid eu huwchraddio wrth iddynt gael eu hadrodd. Cafodd pryderon eu codi eto ar y pryd am sail anstatudol y trefniadau, ac roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn i'r rôl gael ei gwanhau. Ond mae'n 2022 bellach; mae'r trefniant llenwi bwlch hwnnw'n parhau, ac mae hefyd wedi cael ei israddio. Dim ond goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol y gall yr asesydd interim ei wneud, fel y gallant weld beth yw'r problemau, ond gallu cyfyngedig iawn sydd ganddynt i wneud unrhyw beth yn eu cylch. Mae ein pwyllgor—fel y dywedwyd eisoes—wedi ystyried llawer o'r anawsterau hyn, a'r ffaith nad yw'n ymddangos bod unrhyw ddiwedd yn y golwg i'r cyfnod interim hwn ar hyn o bryd. Hoffwn yn fawr annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r maes hwn gymaint â phosibl, oherwydd yr ansicrwydd y mae'n ei greu.
Nid oes ffordd glir a hygyrch gan ddinasyddion ar hyn o bryd o ddwyn Llywodraeth na llygrwyr i gyfrif. Rwy'n cymryd y pwynt fod y Llywodraeth wedi dweud bod mecanweithiau adolygiad barnwrol yn fodd interim o uwchraddio tor rheolau cyfraith amgylcheddol, ond mae adolygiad barnwrol y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl gyffredin, ac mae hefyd yn mynd yn groes i'r egwyddor, eto, sy'n cael ei nodi yng nghyfraith yr UE, y dylai pob dinesydd gael mynediad cyfartal a hygyrch at gyfiawnder amgylcheddol. Nid yw'n glir sut y gellir gorfodi amddiffyniadau amgylcheddol felly. Fel mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu eu geiriau,
'Mae'n amlwg nad yw'r trefniadau interim yn llwybr i gyfiawnder amgylcheddol nac ychwaith yn cymryd lle'r swyddogaeth oruchwylio a gorfodi sydd ei hangen i gymryd lle yr hyn a ddarperir gan sefydliadau'r UE'.
Mae'n dal i fod yn aneglur pryd y bydd deddfwriaeth, pryd y bydd unrhyw ateb parhaol yn cael ei gyflwyno. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu mai'r hyn a welwn o ganlyniad yw anghyfiawnder amgylcheddol ar adeg pan ydym yn byw drwy argyfwng natur, adeg sy'n galw am wyliadwriaeth yn lle llaesu dwylo.
Pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl, byddwn yn falch o glywed faint yn hwy y mae'r Llywodraeth yn rhagweld y bydd angen y trefniadau interim hyn yn ogystal â phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu ateb mwy parhaol. Eto, yn amlwg, credaf fod y Gweinidog eisiau cael hyn yn iawn, wrth gwrs fy mod yn credu hynny, ond byddai cael y sicrwydd hwn, byddai cael y parhad hwn yn tawelu pryderon pobl, a byddai hefyd yn cywiro'r anghyfiawnder amgylcheddol go iawn sy'n digwydd yn y cyfnod interim gwirioneddol flêr hwn. Byddai'n ddefnyddiol gwybod a yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad risg o oblygiadau diffyg trefniadau llywodraethu amgylcheddol sy'n gyfreithiol rwymol yng Nghymru. A yw hynny wedi digwydd, tybed? A faint o achosion o dorri rheolau cyfraith amgylcheddol sydd wedi eu hadrodd i'r asesydd interim ers mis Chwefror 2021? Unwaith eto, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, byddwn yn falch o glywed ei syniadau ar y pwyntiau hynny. Ond unwaith eto—
Diolch i'r Cadeirydd a diolch i bawb yn y pwyllgor ac i'r interim assessor—rwyf i'n methu cofio beth ydy hwnna'n Gymraeg, mae'n flin gen i.
Nid wyf eisiau, ac nid wyf yn bwriadu ailadrodd unrhyw un o'r pwyntiau y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi'u gwneud, ond ar y cam hwn, mae'n bwysig diolch i'r clercod, y Cadeirydd a'r tîm clercio am ein cynorthwyo yn ein gwaith. Rwy'n credu bod problem yma y tu hwnt i lywodraethu, ac mae'n broblem sy'n ymwneud â chapasiti. Mae adroddiad yr asesydd interim yn dangos bod y galw ar y gwasanaeth yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. Wrth gwrs, mae hynny i'w groesawu, oherwydd mae'n dangos bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymgysylltu ac yn poeni am ddiogelu ein treftadaeth naturiol a'n hamgylchedd. Ac mae hynny'n beth da ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n cofio pan gefais fy ethol i'r Siambr hon am y tro cyntaf, roeddwn i'n rhan o achos cilfach Tywyn y gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd ag ef, a lle dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop yn y pen draw fod y DU yn torri deddfau cysylltiedig â charthion a dŵr gwastraff. Roedd yn gymhleth, cafodd ei herio ac roedd yn fater a aeth rhagddo am amser hir, ac yn wir, fe ddangosodd yr angen am gorff annibynnol i ddyfarnu ar y materion hyn.
Yr hyn rwy'n ei ofyn, tra bo'r strwythur yn cael ei adeiladu, yw y gallai fod yn werth ystyried cryfhau'r mesurau interim sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith ar hyn o bryd. Wrth gwrs, ni fyddai'n rhoi'r pwerau cyfreithiol y mae'n rhaid i gorff llywodraethu amgylcheddol eu cael, ond byddai'n sicrhau llais cryfach a chyrhaeddiad ehangach i swyddfa eu hasesydd interim allu ymateb i bryderon y cyhoedd ynglŷn â sut rydym yn diogelu ein coedwigoedd, ein dyfrffyrdd, ein gwrychoedd ac unrhyw beth arall sydd angen ei ddiogelu. Felly, Weinidog, rwy'n gofyn yn syml ichi ystyried y pethau hynny. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ac am yr adroddiad diweddar ar y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim. Rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor yn ystyrlon a chytbwys, ac rwy'n falch iawn o gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn ei holl argymhellion.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch o galon i Dr Nerys Llewelyn Jones am y gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud fel asesydd interim diogelu'r amgylchedd ar gyfer Cymru dros yr 20 mis diwethaf. Rwy'n arbennig o falch o'r ffordd y mae wedi estyn allan at ystod eang o randdeiliaid i hwyluso sgyrsiau pwysig am weithrediad y gyfraith amgylcheddol yng Nghymru. Un o'r agweddau pwysicaf ar rôl yr asesydd interim yw bod yn hyrwyddwr mesurau diogelu'r amgylchedd cadarn—rwy'n meddwl y byddai pawb yn cytuno bod honno'n elfen o'i swyddogaeth lle mae Dr Llewelyn Jones wedi rhagori'n llwyr.
Dros y misoedd diwethaf, mae'r asesydd interim wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid gyda'r nod o gasglu tystiolaeth ar faterion amgylcheddol pwysig yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal trafodaeth banel ar ddiogelu gwrychoedd yn gyfreithiol a bwrdd crwn i randdeiliaid yn ddiweddar ar ddeddfwriaeth safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld yr argymhellion a fydd yn deillio o'r sgyrsiau hyn, a dim ond i gadarnhau, Llyr, y byddwn yn bendant yn ymateb iddynt yn y ffordd arferol.
Felly, yn sgil y gwaith pwysig y mae hi wedi bod yn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn cytundeb Dr Llewelyn Jones am flwyddyn arall, ac rwy'n arbennig o falch mai Dr Llewelyn Jones sydd yn y swydd. Nid ymestyn y swydd yn unig a wnawn, ond rydym yn ymestyn ei rôl ynddi, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud.
Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac yn wir mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod yn eu cyflawni. Yn benodol, byddwn yn gobeithio cynnal adolygiad o'r mesurau interim. Nodau'r adolygiad fydd gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau, er mwyn canfod a yw'r lefelau presennol o adnoddau'n ddigonol a llywio datblygiad corff llywodraethu amgylcheddol parhaol. Byddwn yn cyflwyno manylion yr adolygiad hwnnw maes o law. Rwy'n siŵr y bydd Llyr yn fy ngwahodd i sesiwn pwyllgor i fy holi'n fanwl arno, ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd drwy ddatganiad hefyd, Lywydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y pwysau y mae'r asesydd interim wedi'i wynebu ers iddi gael ei phenodi, oherwydd y galw mawr am y gwasanaeth. Bydd angen inni ystyried yn ofalus iawn a oes gan yr asesydd interim yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r swyddogaethau y bwriedir iddi eu cyflawni yn effeithiol, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i sicrhau bod ganddi'r adnoddau hynny. Yn y cyfamser, mae tîm ysgrifenyddiaeth yr asesydd interim wedi bod yn gweithio gyda hi i nodi'r ffordd orau o wneud hyn, ac mae'n cynnwys comisiynu cefnogaeth allanol gan academyddion a gweithwyr proffesiynol ym myd y gyfraith ar gyfer ei hadroddiadau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at lai o alwadau ar amser yr asesydd interim, gan ganiatáu iddi ei neilltuo ar gyfer cwblhau ei hadroddiadau.
Mae'n werth nodi hefyd, fel y mae pawb fwy neu lai sydd wedi cyfrannu wedi ei wneud, fod nifer uchel o achosion wedi'u derbyn y llynedd a chyfnod o gynnydd annisgwyl iawn yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Ond ers hynny, mae'r galw am y gwasanaeth wedi mynd yn ôl i ble roedd y lefelau galw a ragwelwyd, gyda dim ond pedwar cyflwyniad wedi dod i law ers 1 Mawrth 2022. Mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau wedi'u teilwra i allu ymdopi â chynnydd annisgwyl, ond nad ydynt yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim os yw'r lefel yn ôl yn wastad. Felly, mae ychydig o waith i'w wneud yno.
Yn adroddiad y pwyllgor, cafwyd nifer o argymhellion ar gyfer yr asesydd, fel mae Llyr ac eraill wedi nodi, ac roeddent yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a thryloywder ynghylch ei gwaith. Ac fel y nodwyd yn ein hymateb i'r adroddiad, rydym yn darparu'r gefnogaeth y mae'r asesydd interim yn gofyn amdani ar gyfer cyflawni'r argymhellion hynny. Rydym yn awyddus iawn iddi allu gwneud hynny. Ac mae hynny'n cynnwys cymryd camau i sicrhau bod y tudalennau gwe yn llawer mwy hygyrch ac archwilio sut y gellir gwneud defnydd gwell o sianeli cyfryngau cymdeithasol i roi cyhoeddusrwydd i'r gwaith, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn falch o hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr asesydd interim wedi bod yn cymryd camau i gyhoeddi diweddariadau chwarterol ar ei thudalennau gwe er mwyn amlygu sut mae ei gwaith yn dod yn ei flaen. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n falch o weld y camau'n cael eu cymryd mor gyflym mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor.
Ond wrth gwrs, er hyn i gyd, ac fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, edrych ar waith yr asesydd yw hynny; nid yw'n edrych ar beth yw'r bwlch. Rydym yn cydnabod yn llwyr nad yw'r trefniadau yn llenwi'r bylchau llywodraethu amgylcheddol a adawyd gan Brexit yn llawn. Felly, rydym wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth i gyflwyno corff llywodraethu amgylcheddol parhaol yn ystod tymor y Senedd hon. Mae gennym nifer o ddarnau pwysig o ddeddfwriaeth yn yr un gofod dros y flwyddyn i ddod gyda'r nod o greu Cymru wyrddach. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau i gyd yn cofio ein bod wedi pasio Bil ddoe ddiwethaf i wahardd a chyfyngu ar werthiant rhai o'r cynhyrchion plastig untro mwyaf cyffredin yng Nghymru. Roeddwn wrth fy modd yn gallu gwneud hynny. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan yn hynny. Mae gennym Fil aer glân, Bil amaethyddol i ddiwygio'r ffordd y mae ein cymunedau ffermio yn cael eu cefnogi yn y dyfodol, a Bil ar ddiogelwch tomenni glo ar ei ffordd.
Rydym yn datblygu'r rhaglen waith ar gyfer cyflawni ein hymrwymiad i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol parhaol, gan ystyried yr angen i sicrhau bod mesurau ar waith i liniaru'r bylchau llywodraethu presennol. Mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio y byddwn yn ei ddatblygu gyda Siân Gwenllian, yr Aelod dynodedig. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda rhagor o fanylion am y cynllun gwaith hwn maes o law. Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith, byddwn yn gallu defnyddio'r profiad y mae'r asesydd interim wedi'i gael hyd yma a dysgu gan gymheiriaid yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig ynglŷn â ble maent wedi cyrraedd hyd yma. Ac fel y dywedais dro ar ôl tro wrth Delyth—rwy'n siŵr y gall hi ei ailadrodd yn ôl i mi ei hun bron—un o'r pethau mawr rwyf am allu eu cyflawni o hyn yw gosod y targedau bioamrywiaeth yn y broses 30x30.
Rwyf ar fin mynd allan i COP, er fy mod yn swnio fel hyn—rwy'n siŵr y bydd pawb arall ar yr awyren yn falch iawn o eistedd wrth ymyl rhywun sy'n swnio fel hyn—a byddaf yn gweithio'n galed iawn gyda chynghrair yr hyn a elwir yn Lywodraethau a rhanbarthau is-genedlaethol ar draws y byd i wneud yn siŵr ein bod yn chwarae ein rhan yn sicrhau bod y targedau hynny'n ystyrlon ac y byddant yn adfer y fioamrywiaeth rydym i gyd yn dibynnu'n llwyr arni. Rwy'n golygu hyn o ddifrif calon. Rydym am i'r targedau hynny fod yn egnïol ac yn ymestynnol. Rydym eisiau iddynt olygu rhywbeth. Rydym eisiau iddynt wneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn amddiffyn ac yn gwrthdroi ac yn atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rwyf am i'r corff llywodraethu hwn fod yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'n ddrwg gennyf fod yna fwlch, ac yn amlwg, nid ydym eisiau bod yn olaf—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Mae'n ddrwg gennyf, ewch chi, Huw.
Diolch i'r Gweinidog am ildio. Er ein bod yn casáu oedi, un o'r manteision yw y gallwn edrych nid yn unig ar Gynhadledd y Partïon 15 nawr, ond hefyd ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Fe wnaeth Janet y pwynt, do, fod yna strwythurau llywodraethu eraill sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y DU, ond nid ydynt wedi bod yn rhydd o feirniadaeth. Felly, os gallwch chi hefyd roi gwarant inni y byddwch yn edrych ar y rheini, a phan ddowch o flaen y pwyllgor, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â sut rydych chi wedi dysgu ganddynt hwy hefyd.
Yn hollol, Huw, roeddwn i'n dod at yn union hynny. Rydym am i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn ymestynnol. Er hynny, rydym eisiau iddynt fod yn gyraeddadwy. Nid oes unrhyw bwynt cael targedau a bod pawb yn dweud, 'O wel, wnewch chi byth mohono'. Mae arnom angen iddynt fod yn dargedau realistig a chyraeddadwy, lle gallwn ddiogelu 30 y cant o'n tir, ein dŵr croyw a'n moroedd erbyn 2030. Nid yw hynny'n bell iawn i ffwrdd, felly mae angen inni gael y targedau hyn yn iawn ac mae angen inni eu cael i fod yn ystyrlon.
Mae gennym berthynas waith gydweithredol gadarnhaol eisoes gyda Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban, yn ogystal â chymheiriaid yn Llywodraethau'r DU a'r Alban. Byddwn yn dysgu'r gwersi o'r hyn y maent eisoes wedi'i wneud wrth inni ddatblygu trefniadau llywodraethu amgylcheddol parhaol sy'n adlewyrchu ein polisïau a'n cyd-destun deddfwriaethol yma yng Nghymru.
Felly, fe ddywedaf hyn wrth yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at hyn ac wrth aelodau'r pwyllgor: mae'n ddrwg gennyf fod yn olaf. Nid oeddwn eisiau bwlch; gresyn na fyddem wedi gallu atal hynny rhag digwydd. Ond mae yna rai rhinweddau yn hynny hefyd. Byddwn yn gallu gosod y targedau hyn, byddwn yn gallu sicrhau eu bod yn ystyrlon, byddwn yn gallu dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU a byddwn yn cael mewnbwn da iawn yr asesydd interim ar sut yr awn ati i lunio hyn. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn ein helpu i lunio'r ddeddfwriaeth orau bosibl. Rwy'n eich sicrhau y byddwn yn ei chyflwyno; rwy'n hollol benderfynol o wneud hynny. Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd unwaith eto am eu gwaith gwerthfawr iawn a'u hymwneud cadarnhaol parhaus â'r mater hwn. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei hymateb cadarnhaol, nawr, wrth ymateb i'r ddadl, ond hefyd wedi'i adlewyrchu yn y ffaith bod yr argymhellion wedi'u derbyn yn llawn—rŷn ni'n gwerthfawrogi hynny.
Rwy'n mynd i ddweud hyn mewn ffordd gadarnhaol—peidiwch â meddwl fy mod yn ceisio gwneud pwynt ehangach—ond dylai cael cefnogwr Bexit yn cwyno am golli llywodraethiant amgylcheddol yr UE ac amddiffyniadau amgylcheddol yr UE gael ei weld fel peth cadarnhaol, Weinidog, oherwydd rydym yn y sefyllfa rydym ynddi—wyddoch chi, nid ydym yn ailedrych ar hynny—ond mae'n dangos bod yna unfrydedd gwleidyddol y tu ôl i chi wrth ichi symud ar hyn. Efallai y dylai'r Llywodraeth fod wedi bod yn effro i hynny yn gynharach ac efallai y byddai ganddi fwy o hyder o fod wedi symud yn gynt, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi gwybod ers blynyddoedd lawer y byddai angen gwneud hyn. Nid nawr y down o'r casgliad fod angen corff parhaol arnom; rydym yn gwybod ers tair, pedair neu bum mlynedd.
Do, cafwyd amgylchiadau sydd wedi milwrio yn erbyn y gweithredoedd y byddai llawer ohonom—chi eich hun hefyd, rwy'n siŵr, Weinidog—wedi hoffi eu gweld, ac rwy'n derbyn, wel, y pwynt a wnaed am, 'Gadewch inni wneud iddo weithio o'n plaid, felly; gadewch inni ddysgu'r gwersi a defnyddio'r cyfle i ymgorffori pethau eraill y byddem, efallai, yn anymwybodol ohonynt ar y pwynt hwnnw'. Felly, rwy'n derbyn nad mater o a yw'r Llywodraeth, neu unrhyw un ohonom, eisiau symud ar hyn ydyw, ond 'Pryd rydym yn mynd i'w wneud?' Pryd rydym ni o'r diwedd yn mynd i ddechrau symud ar hyn a'i gael ar waith?
A wnaiff y Cadeirydd ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n codi i ymuno ag ef yn ei ganmoliaeth o'n cyd-aelodau ar y pwyllgor, Janet, oherwydd mae cael yr unfrydedd hwnnw'n foment arwyddocaol—ydy wir. Os ydym i gyd yn gytûn, ar draws Siambr y Senedd, ar y llywodraethu a'r rheoliadau amgylcheddol gorau posibl i'n diogelu, gan roi Brexit i'r naill ochr neu beth bynnag, mawredd, mae hwnnw'n lle da i fynd ymlaen ohono y tu ôl i'r Gweinidog. Felly, da iawn, Janet, yn ogystal â'r Gadair.
Ie, dyna ni. Da iawn. A bydd hynny wedi'i gofnodi am byth.
A bydd rhaid i chi gadw at hynny.
Ie. Diolch yn fawr am hynny. [Chwerthin.] Rwy'n meddwl mai'r pwynt a wnaed gan Huw, mewn gwirionedd—interim, ie; amhrisiadwy, na. Rydym eisiau dweud diolch o galon wrth yr asesydd interim am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Mae e'n bwynt pwysig: nid cerydd o'r asesydd sydd fan hyn—i'r gwrthwyneb, yng ngoleuni'r capasiti a'r adnoddau sydd ar gael iddi, mae hi'n gwneud cymaint ag y gallem ni ddisgwyl a mwy, felly diolch iddi hi am hynny.
Ond dwi jest eisiau cloi drwy ddweud wrth gwrs y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i graffu ac i fod yn anniddig tan i ni weld bod deddfwriaeth yn dod ymlaen, ac, wrth gwrs, fel rhan o'r broses honno, mi fyddwn ni'n chwarae ein rhan yn llawn i sicrhau bod yr hyn fydd gennym ni ar ddiwedd y dydd mor gryf a mor gyhryog a mor effeithiol ac effeithlon ag y gallai fod.
Dwi hefyd eisiau ategu fy niolch wrth gwrs i'r asesydd, ond hefyd i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith nhw, i'r budd-ddeiliaid eraill a gyfrannodd i'r gwaith yma, a hefyd i'r tîm clercio yn y pwyllgor, sydd wedi bod yn gefnogol ac yn gefnogaeth fawr i ni wrth wneud y gwaith yma. Mi fydd fy niolch hyd yn oed yn fwy i'r Gweinidog pan welwn ni ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y lle yma. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Cyn inni symud ymlaen at y ddwy ddadl nesaf, rwyf eisiau ailadrodd sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf ac atgoffa'r Aelodau, lle mae grwpiau'r gwrthbleidiau'n defnyddio'r amser a ddyrannwyd iddynt i gyflwyno dau gynnig ar gyfer dadleuon 30 munud, mae'r canllawiau'n nodi y dylid cyfyngu cyfraniadau yn ystod y ddadl i dri munud. Rwy'n gwybod y gall Aelodau deimlo'n rhwystredig oherwydd y ffaith honno. Rwyf am ofyn i'r Pwyllgor Busnes, felly, i ailedrych ar amseroedd siarad mewn perthynas â hyd dadl ac i weld a yw'r defnydd o ddadleuon 30 munud yn rhoi digon o amser i'r Senedd ystyried yr hyn sy'n aml yn bynciau sylweddol. [Aelodau'r Senedd: 'Clywch, clywch.'] Byddwn yn adolygu hyn fel Pwyllgor Busnes yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac rwyf wedi nodi eich cymeradwyaeth ar y sail honno, ac fe gofiaf hynny.
Diolch i chi, felly.