– Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9.
Eitem 9 yw'r ddadl ar adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant, a dwi'n galw ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig hwn heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy gofnodi fy nghydymdeimlad unwaith eto â thad Logan Mwangi, Ben, ei deulu, ei ffrindiau, ei ysgol a'i rwydwaith cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oes unrhyw beth y gallwn ei ddweud na'i wneud a all leddfu'r boen a'r tristwch y maent yn siŵr o fod yn ei deimlo ar yr adeg anodd hon ac yn y dyfodol, ac ni all unrhyw beth leihau drygioni a chreulondeb yr unigolion ffiaidd a fu'n cam-drin Logan am gyfnod hir, gan arwain at ei lofruddio. Rwy'n falch fod y lefel briodol o gyfiawnder wedi'i gweinyddu i'r tri a gyflawnodd y drosedd a'u bod bellach wedi'u dedfrydu i garchar.
Mae marwolaeth plentyn, yn enwedig yn amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, yn drasiedi na ddylem fyth ei anghofio. Yn yr un modd, mae trychineb o'r fath yn galw am ymdrechion gan Llywodraeth Cymru i sicrhau na all fyth ddigwydd eto. Mae Logan, ei deulu, a phob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r sicrwydd y byddwn yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru a'r sicrwydd na fydd ein plant yn cael cam oherwydd eu bod yn byw yng Nghymru.
Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant sy'n derbyn gofal, felly mae'n hanfodol fod y Llywodraeth hon yn dangos arweiniad. Ar ôl i'r Prif Weinidog rwystro adolygiad am fisoedd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw arno unwaith eto i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddo i roi plant yn gyntaf yng Nghymru. Mae adolygiadau fel y rhain yn gweithio, ac yn helpu i sicrhau bod byth eto'n golygu byth eto. Ni fyddant yn atal llofruddiaeth drasig plant, yn anffodus, ond maent yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod modd rhoi mesurau ataliol ar waith yn gynharach i ddiogelu plant.
Yn Lloegr, fe wnaeth yr adolygiad i lofruddiaethau Arthur Labinjo-Hughes a Star Hobson flaenoriaethu'r hyn a aeth o'i le, pam y digwyddodd, a beth y gellir ei wneud i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto. Cafodd wyth o argymhellion eu cyflwyno, felly mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau clir ar ble i wella. Yn yr Alban, mae adolygiadau cyfnodol gan yr Arolygiaeth Gofal wedi bod yn ganllaw canolog ar gyfer adolygiadau achos, ac maent yn darparu argymhellion i Lywodraeth yr Alban yn rheolaidd. Yn yr un modd, ym mis Chwefror, lansiodd Gogledd Iwerddon adolygiad o wasanaethau gofal cymdeithasol plant. Felly, pam fod plant Cymru'n cael eu gadael allan pan fo pob gweinyddiaeth arall yn y DU yn cymryd cyfrifoldeb? Mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae marwolaeth Logan Mwangi wedi profi bod yna bryderon fod dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth yn peryglu diogelwch plant, a'r ffaith bod y strwythur rheoli yn y GIG yn golygu nad yw staff iau yn gallu herio uwch gydweithwyr, a bod hynny'n creu bygythiad.
Os na fydd yr adolygiad hwn yn mynd rhagddo, bydd pobl Cymru eisiau gwybod pam, unwaith eto, fod y Llywodraeth Lafur yn rhwystro gwaith craffu ar y ffordd y mae'n rheoli'r GIG. Dylai pŵer dros iechyd olygu bod y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb, ond fel y gwelsom yn ddiweddar, nid yw hyn yn wir, ac mae'n peri i mi ofyn: a yw'r Llywodraeth yn bryderus ynglŷn â'r hyn y bydd yr adolygiad yn ei ddarganfod? Felly, yn olaf, rwy'n annog pob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y gwelliant hwnnw yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y gwelliant hwnnw wedi ei symud. Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am roddi'r ddadl yma gerbron.
Un o'r prif ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw archwilio sut yr eir ati mewn modd radical i ddiwygio'r gwasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod yna adolygiad o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hyn heb gytuno i'r gwelliant heddiw. Rwy'n credu ei fod yn hollbwysig. Rydym wedi trafod y rhesymau pam, yn drasig, fel y nododd Gareth Davies, ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad a marwolaeth drasig Logan Mwangi, ond yn hollbwysig, i ni, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid. Mae'n ymwneud â gwrando ar y rhai sydd â phrofiad o wrando ar weithwyr cymdeithasol, a oedd yn dweud yn eu maniffesto ar gyfer etholiad 2021 fod hyn yn rhywbeth y credent fod angen iddo ddigwydd.
Hefyd, nid wyf yn derbyn y pwynt y byddai unrhyw fath o adolygiad yn achosi oedi cyn i newidiadau ddod i rym. Mae'n ymwneud ag edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, ac mae hyn yn gwbl hanfodol, oherwydd rydym yn gwybod bod y ffeithiau a'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac roedd clywed Comisiynydd Plant Cymru yn dweud yn ei hymateb ein bod wedi gweld y mathau hyn o argymhellion o'r blaen yn peri pryder mawr. Felly, pa sicrwydd y gallwn ei roi? Fe wyddom fod straen enfawr ar staff gwasanaethau cymdeithasol a'r holl asiantaethau perthnasol, a bod pethau'n debygol o waethygu. Fe wyddom sut mae awdurdodau lleol eisoes yn cael eu heffeithio gan gyni, a sut y byddant yn cael eu heffeithio o ganlyniad i'r argyfwng costau byw a'r effaith ar gyllidebau awdurdodau lleol.
Felly, mae'n sefyllfa ddifrifol, oherwydd fel sy'n amlwg, plant a phobl ifanc a fydd yn dioddef yn y pen draw, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael y cymorth hwnnw, ac nad ydym yn gweld penawdau trasig eto, a'n bod yma eto yn y Senedd yn mynegi ein pryder a'n cefnogaeth i argymhellion. Mae adolygiadau'n gadarnhaol, yn fy marn i. Nid ydynt yn bethau i'w hofni, ac mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi yn eu cyfanrwydd. Fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda'n gilydd i edrych ar feysydd ar gyfer diwygio, ond bydd adolygiad yn rhoi'r cysondeb hwnnw i ni ynglŷn â'r darlun cyffredinol.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi nodi bod lleihau cyfraddau gofal yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a hynny'n briodol. Rydym yn gwybod bod y canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn gofal yn bryder penodol, ac mae'r ffaith bod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru bellach yn uwch nag y bu ar unrhyw adeg ers y 1980au yn rhywbeth a ddylai beri pryder mawr. Felly, rydym yn credu ym Mhlaid Cymru y bydd adolygiad annibynnol i ofal cymdeithasol plant yn rhoi cyfle inni lenwi'r bylchau yng ngofal cymdeithasol plant ar hyn o bryd, bylchau y gwyddom eu bod yn bodoli a bylchau a fydd yn gwaethygu os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n gyflym. Mae angen inni osod y sylfaen i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel rhag niwed, ac i wneud hyn, rhaid sicrhau bod diogelu plant yn flaenoriaeth, ac rydym hefyd yn cefnogi galwadau'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn hyn o beth, a diolch eto i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig ac amserol hon. Fel AS y mae fy rhanbarth yn cwmpasu bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r trafodaethau hyn yn bwysig iawn i fy etholwyr, etholwyr sy'n cael eu cythruddo'n fawr gan y digwyddiadau a arweiniodd at, ac yn ymwneud â llofruddiaeth drasig Logan Mwangi. Mae Gareth eisoes wedi amlinellu llinell amser ofnadwy marwolaeth Logan. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod methiannau gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn yr achos hwn. Ymhell cyn llofruddiaeth Logan, roedd pryderon am wasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 2017, fe wnaeth ymchwiliad gan y Western Mail ddatgelu bod nifer frawychus o blant wedi mynd ar goll o ofal. Nid oedd gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont yn gwybod ble roedd y plant agored i niwed hyn. Cofnododd yr adran 385 o ddigwyddiadau plant a oedd ar goll, yn ymwneud â 60 o blant unigol. Ond yn waeth na dim, dywedasant nad oedd eu data ond yn cwmpasu'r cyfnod ers mis Gorffennaf 2015, gan na wnaeth yr awdurdod ddechrau casglu gwybodaeth am blant a oedd ar goll mewn ffordd gyson tan hynny. Nid oes ryfedd, yn y blynyddoedd a ddilynodd, fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau beirniadol ar wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar wahanol adegau, mae AGC wedi canfod bod pwysau ar y gweithlu wedi arwain at achosion o blant yn mynd ar goll a phlant mewn perygl o gael eu hecsbloetio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; fod camau priodol ac amserol heb eu cymryd i leihau'r risg i blant; na allai'r arolygiaeth fod yn hyderus fod gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant, neu yn y system ofal, yn ddigon aml.
Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn beirniadu'r gweithlu rheng flaen; maent yn gwneud gwaith anhygoel o dan bwysau eithafol. Ond maent yn cael cam gan yr arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn yr adran, y cyngor a Llywodraeth Cymru—methiant arweinyddiaeth sydd wedi gadael gwasanaethau plant yn brin o staff a than ormod o bwysau—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Iawn.
Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl iawn, ac yn bendant mae yna feirniadaeth o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, mae'r arolygiaeth gofal yn gwneud y sylw fod mesurau eisoes wedi'u cymryd i ymateb i'r rheini. Mae nifer o asiantaethau eraill wedi cael eu beirniadu hefyd, gan gynnwys anallu staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i herio'r awdurdod. Gwrandewais ar y ddadl flaenorol ar hyn hefyd, a chanfod nad oedd hynny'n cael ei godi, felly a gawn ni edrych yn gynhwysfawr ar y ffactorau cyfrannol? Oherwydd rwy'n credu bod Ben Mwangi, er cof am Logan, yn haeddu'r darlun llawn ar hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar un rhanddeiliad yn unig. Roedd yna feirniadaeth o amrywiaeth eang o fethiannau.
Diolch yn fawr iawn. Diolch.
—gyda'r canlyniad trasig a ganiataodd i fachgen ifanc gael ei lofruddio gan yr union bobl a oedd i fod i ofalu amdano a'i feithrin. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r drasiedi hon, ond nid wyf wedi cael fy argyhoeddi fod hyn yn wir, ac nid wyf wedi cael fy argyhoeddi na fydd yr un peth yn digwydd mewn awdurdodau lleol eraill yn fy rhanbarth i neu ledled Cymru. Yr unig ffordd y gallwn ni ddysgu'n iawn o'r drasiedi hon a sicrhau nad oes dim byd tebyg yn digwydd eto yw cynnal ymchwiliad o'r bôn i'r brig i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dim ond wedyn y gall pobl ym Mhen-y-bont ac ar draws y wlad hon fod yn hyderus fod gofal cymdeithasol plant yn addas i'r diben. Diolch yn fawr iawn.
Mae llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi gweithio ym maes amddiffyn plant am oddeutu 25 mlynedd, ac fe wnes i weithio yn ystod y cyfnod COVID. A hoffwn fod yn glir, o fy narlleniad i o'r adroddiad ar Logan Mwangi, ni allaf weld unrhyw reswm y byddai'r cyfyngiadau COVID ar y pryd wedi cael—o ran gallu achub ei fywyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cofnodi hynny, gan ei bod yn hawdd dweud mai dyna oedd yn gyfrifol. Ond yn fy mhrofiad i, roedd yn ymwneud â llawer iawn mwy na'r cyfnod COVID.
Rwy'n croesawu ac yn diolch i'r Ceidwadwyr am y ddadl hon, ac rwy'n gwybod bod gennym yr un farn ar draws tair plaid wleidyddol yma yn y Siambr. Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ofal plant ac amddiffyn plant, a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith arloesol. Ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod y pethau sylfaenol yn iawn, a'r pethau sylfaenol i mi yw gwneud yn siŵr fod ein plant ledled Cymru yn cael y cyfle gorau i fod yn ddiogel a chael eu diogelu. Rwyf eisiau ei wneud yn glir: yn anffodus, ni allwn fyth atal plant rhag cael eu brifo neu rhag marw, ond gallwn eu gwneud yn fwy diogel, a dyna beth mae'r adolygiad hwn yn galw amdano. Mae yna broblem glir a real yma o ran yr iaith. I mi, nid ymchwiliad mohono; adolygiad ydyw. Mae'n adolygiad lle gallwn ddysgu, lle gallwn ddeall y problemau.
Gadewch i mi ddweud wrthych, rwyf wedi cymryd rhan yn y rhain drwy gydol y cyfnod y bûm yn weithiwr cymdeithasol, yn rheolwr gwasanaeth ac yn uwch arweinydd ym maes amddiffyn plant. Nid oes neb yn eu hoffi. Nid oes neb eu heisiau. Ond rydym yn eu gwneud oherwydd ein bod yn credu mai dyna'r peth gorau i'n plant, ac rydym yn eu gwneud er mwyn dysgu. Maent yn gallu bod yn gadarnhaol iawn. Fel rydych wedi'i glywed, maent yn gallu bod yn gyfleoedd i ni rannu arferion da a dyna rydym ei eisiau i blant Cymru.
Fel Aelodau o'r Senedd yn y Siambr hon, gallaf ddweud wrthych, nid oes gennyf syniad sut mae ein gwasanaethau plant ledled Cymru yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Rwyf am roi rhai enghreifftiau pendant i chi. Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n gyfrifol am arolygu gwasanaethau, ond mae adroddiadau diweddar o Wrecsam a sir Ddinbych yn anodd iawn i'w dehongli o ran sut maent yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Ond os edrychwch chi ar y Swyddfa Safonau mewn Addysg yn Lloegr, mae'r adroddiad diweddaraf o Gaint yn dweud yn syth sut maent yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Nawr, rwy'n credu y dylem ni gael hynny yma fel aelodau o'n cymunedau, ond hefyd fel Aelodau o'r Senedd. Dylem fod yn gwybod sut mae ein plant yn cael eu hamddiffyn ledled Cymru.
Fy mhwynt olaf yw mai cynnig ar gyfer adolygiad yw hwn. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl a gwrando ar y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n derbyn pwynt Huw Irranca-Davies: mae'n ymwneud â gweithio a gwrando ar yr holl weithwyr proffesiynol hynny, oherwydd roedd yna broblemau gyda sefyllfa Logan. Fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog, yw hwn: os nad nawr yw'r adeg gywir i gael adolygiad cenedlaethol, yn dilyn marwolaeth drasig iawn Logan Mwangi, gyda niferoedd cynyddol o blant mewn gofal, gyda'r system ofal ar ben ei thennyn, gyda niferoedd enfawr o swyddi gwag mewn rhannau o'n gwlad, pryd fydd hi'n adeg gywir? Diolch yn fawr iawn.
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Julie Morgan.
Diolch. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a hefyd drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Hynny yw, mae hwn yn bwnc mor bwysig, ac rwy'n gwybod bod hwn yn rhywbeth lle mae'r pryder yn cael ei rannu ar draws y Siambr gyfan.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi iechyd a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac mae llofruddiaeth Logan wedi ysgogi trafodaeth a ffocws cwbl briodol ar amddiffyn plant yng Nghymru. Dyna pam y rhoddais ddatganiad ar lafar yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad ymarfer plant, o ganlyniad i'r digwyddiad ysgytwol hwn.
Fel rhan o fy natganiad llafar, ailadroddais fy mod yn argyhoeddedig nad nawr yw'r amser i gael adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru, ac rwy'n parhau i gredu hynny. Ac er bod Aelodau wedi parhau i alw am adolygiad, nid yw'r ddadl dros gynnal adolygiad o'r fath wedi cael ei gwneud, ym marn y Llywodraeth. Rwy'n gwybod bod Aelodau wedi cyfeirio at y ffaith bod rhannau eraill o'r DU wedi gwneud hynny, ond nid yw'r ffaith bod rhannau eraill o'r DU wedi cael adolygiadau'n ddigon o reswm i ni wneud yr un peth. Mae gwasanaethau a strwythurau yn Lloegr a'r Alban yn wahanol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ac nid yw'r angen am adolygiad mewn mannau eraill yn ddigon o achos dros gynnal adolygiad yma.
Ar y nodyn hwnnw, Weinidog, rydych chi'n dweud, 'Pam y dylem ni ei wneud oherwydd bod pawb arall yn ei wneud?', wel, dyna'r rheswm y dylem fod yn ei wneud, mewn gwirionedd, oherwydd os yw'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal eu hadolygiadau eu hunain, maent yn amlwg yn gweld yr angen ac yn gweld gwerth mewn cael yr adolygiadau hynny er mwyn gweld pa awdurdodau lleol sy'n gwneud rhywbeth o'i le. Ac ar draws Cymru, gallem gael cyfle i weld y 22 awdurdod lleol a gweld lle byddai'r peryglon a gwneud yn siŵr nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd eto. Felly, a allwch chi weld y gwerth yn hynny, Weinidog?
Hynny yw, rydym yn amlwg yn edrych yn fanwl iawn ar yr adolygiadau, ac rydym wedi edrych ar yr adolygiad a gynhaliwyd gan Josh MacAlister yn Lloegr, ac mae llawer o'r casgliadau y mae'n eu gwneud yn bethau rydym eisoes yn eu gwneud yma. Felly, rydym yn sicr yn edrych ar yr hyn y mae adolygiadau eraill yn ei wneud, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n ffordd o feddwl. Ond i ailadrodd, mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn seiliedig ar hawliau, yn wahanol i fannau eraill yn y DU, o benodi Comisiynydd Plant Cymru, a sefydlwyd gyntaf dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n nodi ein hymrwymiad yng Nghymru i hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn fwy diweddar i Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 a dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae Cymru wedi mabwysiadu dull neilltuol, blaengar a hynod lwyddiannus o hyrwyddo lles a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.
Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi mecanweithiau i ni allu cefnogi trefniadau diogelu nad ydynt yn cael eu hefelychu mewn mannau eraill. Er enghraifft, sefydlodd y Ddeddf y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol, sydd bellach yn ei ail dymor. Mae'r ddeddfwriaeth wedi ein galluogi i greu gweithdrefnau diogelu Cymru gyfan, a roddwyd ar waith yn 2019. Felly, mae ein dull gweithredu wedi bod yn strategol ers nifer o flynyddoedd, ac wrth gwrs, rydym wedi adolygu ein gwasanaethau yn gyson. Ac mae gennym y dystiolaeth inni allu symud ymlaen. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rhoddais enghraifft i chi o'r holl adroddiadau a phethau rydym wedi'u gwneud i edrych ar sefyllfa fel hon.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Mae'n ddrwg gennyf. Diolch yn fawr iawn. Onid yw'n wir fodd bynnag nad oes adolygiad wedi bod yng Nghymru o wasanaethau amddiffyn plant? Rwy'n clywed bod adolygiadau wedi bod o blant sy'n derbyn gofal ac o blant â phrofiad o fod mewn gofal, ond yr hyn rydym yn siarad amdano yma yw adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y cafwyd adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant—efallai fy mod wedi ei golli—oherwydd rwy'n credu bod hynny mor bwysig? Diolch.
Rwy'n credu fy mod wedi ymateb i chi pan ofynnoch chi gwestiwn tebyg yn y datganiad llafar yr wythnos diwethaf, drwy ddweud ein bod eisoes wedi cytuno y bydd pedwar adolygiad ar y cyd rhwng gwahanol gyrff arolygu gweithdrefnau amddiffyn plant dros y ddwy flynedd nesaf. Felly, rwy'n credu i mi ddweud hynny wrthych chi pan ymatebais o'r blaen.
Ond rydym wedi gwneud llawer o adolygiadau, ac fe wnaf eu hailadrodd: adroddiadau thematig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar blant sy'n derbyn gofal; gwaith grŵp cynghori'r gweinidog ar wella canlyniadau i blant yn ystod tymor diwethaf y Senedd; adroddiad ac argymhellion y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus i ddargyfeirio plant yn ddiogel rhag dod yn destun achosion cyfraith gyhoeddus; yr 'Adroddiad Adolygu'r Argyfwng ym maes Gofal'; a 'Born into Care' Sefydliad Nuffield. Ac mae'r gwaith ymchwil hwn, yn ogystal â chanfyddiadau adolygiadau a gynhaliwyd mewn mannau eraill—y rhai y cyfeiriodd Gareth Davies atynt—wedi llywio ein blaenoriaethau, ac mae gennym gynllun clir eisoes ar gyfer diwygio gwasanaethau plant yng Nghymru mewn modd radical sy'n adeiladu ar bron i 25 mlynedd o brofiad ers datganoli, ac rydym yn gwybod bod yn rhaid mynd i'r afael â'r heriau.
Dyma'r hyn rydym eisoes yn ei wneud: ymyriadau ataliol i deuluoedd sydd â phlant ar ymylon gofal, gan gynnwys gwasanaethau eiriolaeth i rieni; cynadledda grŵp teuluol; diwygio cyfiawnder teuluol; a fframwaith ymarfer cenedlaethol. Mae sefydlu swyddfa genedlaethol a fframwaith gofal cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yn darparu cyfrwng ar gyfer trawsnewid gyda gwasanaethau a gomisiynwyd yn genedlaethol, a bydd datblygu un adolygiad diogelu unedig, yn ffordd o gynnal un adolygiad sengl yn dilyn digwyddiadau difrifol, gan alluogi adolygiadau i gael eu cynnal yn gyflymach, ac osgoi dyblygu adolygiadau lluosog, ac yn ei gwneud yn bosibl canfod a gweithredu'r dysgu ar sail Cymru gyfan.
Hefyd, fe ddywedais yn fy natganiad llafar yr wythnos diwethaf ein bod yn bwrw ymlaen â'r camau ychwanegol. Mae AGC wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym o'r strwythurau a'r prosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynglŷn â sut mae plentyn yn cael ei ychwanegu neu ei dynnu oddi ar gofrestr amddiffyn plant. Cytunwyd y bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu o dan fwrdd prosiect gweithdrefnau diogelu Cymru i ystyried y canllawiau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod y rhain yn darparu'r wybodaeth gywir sydd ei hangen i gyflawni eu dyletswyddau.
Yn sicr, nid ydym yn anwybodus, ac nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn bob amser yn ymateb i dystiolaeth newydd. Felly mae'r holl bethau hynny'n digwydd, ac rydym wedi derbyn y pum argymhelliad cenedlaethol, a fydd yn cynnwys mewnbwn sylweddol gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar y pum argymhelliad cenedlaethol hynny, ac mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi mynd ati i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r ffordd y maent yn cynnal gweithdrefnau diogelu. Ond rydym yn gwybod bod hwn yn fater pwysig tu hwnt a dyna pam rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod yn disgwyl i gamau gael eu cymryd yn gyflym gan yr holl asiantaethau perthnasol i fynd i'r afael â'r argymhellion a'r themâu dysgu a nodwyd o'r adolygiad ymarfer plant sy'n deillio o farwolaeth Logan.
Nid wyf dan unrhyw gamargraff ynghylch yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r blaenoriaethau hyn a nodwyd i wella ein gwasanaethau plant, ond nid wyf eto wedi clywed unrhyw beth i fy mherswadio y byddai adolygiad cenedlaethol eang yn amlygu unrhyw beth sylweddol nad ydym yn ymwybodol ohono. Pe bawn yn credu bod budd mewn cael un o'r adolygiadau hyn, wrth gwrs y byddwn eisiau ei wneud. Mae buddiannau'r plant yng Nghymru ar frig fy agenda ac agenda'r Llywodraeth. Ond byddai cynnal adolygiad o'r natur hon yn llyncu amser ac adnoddau'r union bobl sydd eu hangen ar hyn o bryd i wneud y gwaith dan sylw.
Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n ymwybodol o'r ymdrechion helaeth y mae'n rhaid eu gwneud er mwyn cynnal adolygiad yn briodol, a byddai'r ymdrechion hynny'n gorfod cael eu gwneud gan y bobl yn ein gwasanaethau sy'n gorfod darparu'r gwasanaethau, sy'n gorfod gwella'r sefyllfa i blant yng Nghymru, a dyna yw fy mhryder gwirioneddol. Pan nad oes unrhyw beth sylweddol iawn y gallwch ei weld drwy gael adolygiad, nid wyf yn gweld y gellir ei gyfiawnhau pan fo'n dargyfeirio pobl o'r gwaith y maent eisoes yn ei wneud.
Dyma'r amser i ni gefnogi ein staff rheng flaen, yn hytrach na chreu mwy o ansicrwydd iddynt, a dyma'r amser i gefnogi'r diwygiadau. Am y rheswm hwn rwyf wedi galw am drefnu uwchgynhadledd ar gyfer ymarferwyr. Rydym eisiau siarad â hwy a chlywed yn uniongyrchol gan y rheng flaen, i lunio a gwella'r modd yr awn ati i drawsnewid gwasanaethau plant, gan gydnabod y gwaith gwych y maent yn ei wneud, ond hefyd i rannu arferion da sy'n bodoli eisoes.
Daw hyn yn sgil yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn diwethaf yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd, ac roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn. Roedd gennym 40 o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yno o bob rhan o Gymru. Roedd gennym bump o Weinidogion yn bresennol, ac fe wnaethom eistedd yno drwy'r dydd a gwrando ar yr hyn a ddywedodd y bobl ifanc a oedd â phrofiad o fod mewn gofal. Ac mae gennym restr hir iawn o bethau y mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â hwy, ac mae'n rhaid inni eu gwneud, ac rydym wedi ymrwymo i'r plant yng Nghymru y byddwn yn gwneud y pethau hynny.
Ond ni allwn wneud hynny os oes rhaid inni ddargyfeirio i wneud adolygiad ar wasanaethau plant yng Nghymru. Gwnaeth Huw bwynt grymus iawn yn ei gyfraniad nad yw hyn yn ymwneud yn unig â gwasanaethau plant. Rydym wedi cael peth dryswch yn y ddadl ynglŷn â gofyn am adolygiad amddiffyn plant, am wasanaethau plant, ond byddai'n rhaid inni gael adolygiad eang—[Torri ar draws.] Nid wyf—. Rwy'n credu—
Nid wyf yn credu bod gennych chi amser. Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'ch amser, Weinidog, a byddaf yr un mor hael i'r un sy'n cloi'r ddadl.
Rwy'n gwybod. Fe fyddaf yn gyflym iawn. Rwy'n dirwyn i ben nawr.
Rwy'n gwybod bod yna heriau enfawr yma yng Nghymru, ond rydym yn gwybod beth ydynt ac rydym yn gweithredu mewn perthynas â hwy. Byddai cynnal adolygiad nawr yn achosi oedi wrth inni roi camau ar waith i fwrw ymlaen â'n cynlluniau, byddai'n dargyfeirio adnoddau, ac nid wyf yn credu y byddai llawer o werth ymarferol i hynny. Fel y dywedais, pe bawn yn credu y byddem yn ennill rhywbeth, byddwn yn ei wneud. Felly, byddai'n ddefnyddiol i mi, i blant Cymru, pe bai pob un ohonom yn y Siambr yn cefnogi ein diwygiadau, ac yn cefnogi ein staff rheng flaen a'n cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru. Nawr yw'r amser i weithredu, nid i fyfyrio ymhellach.
Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wel, fe agorodd Gareth Davies, ein cyd-Aelod, y ddadl hon drwy gydymdeimlo—ac rwy'n gwybod bod pob Aelod yma yn rhannu hyn—â theulu, ffrindiau a chymuned Logan Mwangi. Mae trychineb o'r fath, meddai, yn amlygu'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto, gydag adolygiad annibynnol i sicrhau 'bod byth eto yn golygu byth eto.' Dywedodd fod adolygiadau yn Lloegr yn blaenoriaethu'r hyn a aeth o'i le, gydag argymhellion clir i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â hwy, ac mae yna adolygiadau cyfredol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam mai Cymru'n unig sy'n cael ei gadael allan pan fo diogelwch plant yn cael ei beryglu? Os nad yw adolygiadau'n digwydd, meddai, bydd pobl Cymru eisiau gwybod pam ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru'n osgoi atebolrwydd unwaith eto.
Dywedodd Heledd Fychan yn gwbl gywir ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, oherwydd nid yw'n fater o wleidyddiaeth plaid. Mae'n ymwneud ag edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, lle mae ffeithiau a ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Fel y dywedodd,
'Mae adolygiadau'n gadarnhaol... nid yn bethau i'w hofni... i ddysgu gwersi yn eu cyfanrwydd.'
Tynnodd Altaf Hussain sylw at y ffaith bod y methiannau gyda gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyddio'n ôl yn llawer pellach na'r achos unigol hwn, gyda nifer o adroddiadau beirniadol yn dangos plant yn mynd ar goll neu'n cael eu rhoi mewn perygl o gael eu hecsbloetio.
Dywedodd Jane Dodds, sydd wedi cael gyrfa ym maes amddiffyn plant, nad yw'n gallu gweld unrhyw reswm pam y byddai COVID wedi atal ymyriadau i achub bywyd Logan. Cyfeiriodd at y ffaith bod adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru—rwy'n credu iddi ddweud yn Wrecsam a sir Ddinbych—yn anodd iawn i'w dehongli, yn wahanol i adroddiadau cyfatebol gan y corff cyfatebol dros y ffin yn Lloegr.
Dywedodd y Gweinidog, ein Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, er gwaethaf hynny i gyd ei bod yn parhau i gredu nad nawr yw'r adeg am adolygiad annibynnol, er gwaethaf pwysau llethol y dystiolaeth i gefnogi adolygiad annibynnol. Mae'n bosibl fod ei datganiad na ddylech gynnal adolygiadau am fod rhannau eraill o'r DU wedi gwneud hynny'n unig, yr ymatebodd Gareth iddo, er bod pob Llywodraeth arall ledled y DU yn cydnabod yr angen am yr adolygiadau hyn, dro ar ôl tro yn aml, yn amlygu meddylfryd sylfaenol sy'n creu rhwystrau i gyflawniad o fewn Llywodraeth Cymru ar bwyntiau na ddylai fod â dim i'w wneud â gwleidyddiaeth plaid o gwbl.
Mae'r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa a oedd yn bodoli'n barod, ac fe amlinellodd yr adolygiad diogelu i achos Logan Mwangi nifer o argymhellion wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr argymhelliad y dylent ystyried comisiynu adolygiad ledled Cymru o ddulliau o gynnal cynadleddau amddiffyn plant i nodi—. Fe wnaethant gyfres o argymhellion nad oes gennyf amser i'w darllen. Fodd bynnag, yn 2019, gwrthododd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, gomisiynu adolygiad ar y cynnydd yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru, ac mae ei nod i leihau niferoedd uchel drwy osod targedau i awdurdodau lleol, heb fesurau cadarn yn sail i'r targedau hyn wedi dwyn ffrwyth yn anffodus, oherwydd nid ydym wedi cael adolygiad annibynnol i sefydlu'r achosion sylfaenol.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â Phen-y-bont yr Ogwr, neu awdurdod lleol yn methu ymyrryd. Er enghraifft, mae gennyf waith achos yn ymwneud â rhieni niwroamrywiol yn sir y Fflint, a ysgrifennodd at bob cynghorydd sir gyda thystiolaeth nad oedd wedi'i chynnwys yn y dogfennau a gyflwynwyd i farnwr mewn achos teuluol ynghylch eu plant gan y cyngor, ac o ganlyniad i hyn cafodd eu plant eu rhoi mewn gofal a hyd heddiw nid ydynt wedi cael diagnosis, nid ydynt wedi cael eu trin ac nid ydynt wedi cael cymorth ar gyfer eu hawtistiaeth ymddangosiadol, eu tueddiad patholegol i osgoi gorchmynion a'u HDE. Ac ni wnaeth yr un o'r cynghorwyr ymateb oherwydd bod tîm cyfreithiol y cyngor wedi dweud wrthynt neu wedi gofyn iddynt beidio â gwneud, er gwaethaf y rôl hanfodol y maent i fod i'w chwarae yn herio swyddogion y cyngor a'u dwyn i gyfrif pan fo tystiolaeth o'r fath yn cael ei chyflwyno iddynt.
Dylai achos trasig Logan Mwangi, a gafodd gam gan gymaint o asiantaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod yn bwynt tyngedfennol i wasanaethau plant yng Nghymru. Mae'n rhaid sicrhau mai'r gwaddol a adewir gan y bachgen disglair, byrlymus hwn yw na ddylai ei lofruddiaeth erchyll gael ei hailadrodd byth. Er bod y Dirprwy Weinidog wedi addo derbyn canfyddiadau'r adolygiad i farwolaeth Logan, ni fydd hyn yn ymchwilio methiannau cyson yn ddigonol nac yn darparu atebion clir i gefnogi plant Cymru yn y dyfodol. Bydd adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yn cyflawni hyn, ac mae plant Cymru yn haeddu ein cefnogaeth gyfunol. Felly, gadewch inni bleidleisio o blaid adolygiad annibynnol llawn a gonest o ofal plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf—[Torri ar draws.]
Rwyf bron â bod eisiau gwneud pwynt o drefn i Alun Davies. Rwy'n credu efallai y bydd yr Aelod eisiau ystyried rhywbeth a ddywedais cyn y ddadl. Rwy'n credu i mi sylwi arnoch yn cerdded i mewn ar ôl i mi ei ddweud, ac roedd yn ystyriaeth o rai o'r pwyntiau a godwyd yr wythnos diwethaf yn ystod y Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu ei bod hi'n ddigon posibl fod un ohonynt yn bwynt o drefn gennych chi yr adeg honno. Mae'n rhyfeddol, weithiau, y dylanwad y gallwch ei gael ar y Llywydd.
Iawn, fe symudwn ymlaen at y ddadl nesaf.