1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i, Llywydd, ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a'r Prif Weinidog a'r holl Aelodau a blwyddyn newydd heddychlon a hapus, gobeithio?
Ddoe, Prif Weinidog, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau eraill ynghylch y streic sydd yn yr arfaeth ar gyfer dydd Iau yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Fel yr wyf i'n ei deall hi, ni wnaed unrhyw gynnig yn y cyfarfod hwnnw i geisio datrys y streic arfaethedig fel y gallai ysbytai weithredu a phobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnyn nhw. Pam na wnaed unrhyw gynnig i geisio datrys yr anghydfod hwn?
Does dim arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru gan ei Lywodraeth ef yn Llundain i ganiatáu i ni wneud gwell cynnig nag ariannu'n llawn, fel yr ydym ni wedi ei wneud, y dyfarniad cyflog a gynigiwyd gan y corff dyfarnu cyflogau annibynnol.
Prif Weinidog, mae'r ysgogiadau gennych chi i gynhyrchu mwy o arian mewn gwirionedd os ydych chi'n dewis defnyddio'r ysgogiadau hynny. Mae gennych chi arian ychwanegol yn dod yn y cyhoeddiad a wnaeth y Canghellor yn ei gyhoeddiad diweddar o £1.2 biliwn i'w gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Rydych chi wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â datrys neu o leiaf ymgymryd â thrafodaethau ystyrlon drwy beidio â gwneud unrhyw gynnig o gwbl ddoe, fel y nododd ysgrifennydd cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei datganiad y bore yma.
Gallaf glywed aelodau eich meinciau cefn yn swnian ac yn cwyno; nhw yw'r rhai a wnaeth bwyso'r botwm mewn dadl dim ond pythefnos yn ôl i atal codiad cyflog i'r nyrsys er mwyn gallu talu costau byw. Mae'r gallu gennych chi i'w wneud, a wnewch chi ail-gydio yn y trafodaethau hynny a defnyddio'r ysgogiadau hynny i wneud cynnig ystyrlon i'r Coleg Nyrsio Brenhinol a phroffesiynau meddygol eraill i osgoi'r streic?
Mae arweinydd yr wrthblaid, Llywydd, yn hollol ddigywilydd—yn hollol ddigywilydd. Mae'n dod i lawr y Senedd yma pan wnaeth ei Lywodraeth ef yn San Steffan derfynu cyfarfod gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ymhlith drwgdeimlad dim ond neithiwr, gan eu bod nhw wedi gwrthod, fel y dywedodd arweinydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, rhoi'r un geiniog ar y bwrdd i gynyddu cyflogau nyrsys yn Lloegr, a fyddai wedi arwain, fel y maen nhw i gyd yn gwybod, at swm canlyniadol Barnett y gallem ni fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer cyflogau yma yng Nghymru. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni wneud gwell cynnig yma. Rydym ni wedi ein clymu'n llwyr gan y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar gyflogau gan ei Weinidogion yn San Steffan. Dyna lle y dylai fod yn lobïo. Y munud y mae ei Weinidogion yn barod i wneud gwell cynnig i nyrsys yn Lloegr, byddwn ni'n gallu gwneud y cynnig hwnnw yma yng Nghymru. Os yw ef o ddifrif—allaf i ddim dychmygu am funud y byddai—y dylem ni ddargyfeirio'r holl arian yr ydym ni wedi ei gael oddi wrth Lywodraeth y DU nid ar gyfer cyflogau ond i fuddsoddi yng ngwasanaeth y GIG, y dylem ni ddargyfeirio hwnnw i gyd o gynnal y gwasanaeth ac i gyflogau, dylai ddweud hynny'n eglur y prynhawn yma, oherwydd byddai gan bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn clywed hynny.
Yr hyn sy'n ddigywilydd, Prif Weinidog, yw bod pobl ledled Cymru yn y sefyllfa aros waethaf o unrhyw GIG. Dim ond yr wythnos hon, bu'n rhaid i ni glywed am y mater yng Nghwmbrân lle cafodd dad-cu ei roi ar astell yng nghefn fan, gan na allai'r gwasanaeth ambiwlans ymateb i'r gri am gymorth gan y teulu hwnnw i fynd ag ef i'r ysbyty. Yr hyn sy'n Llywodraeth ddifrifol yw Llywodraeth ddifrifol sy'n ymdrin â'r materion hyn, ac yn rhoi rhywbeth ystyrlon ar y bwrdd i roi hwb i'r trafodaethau hynny. Y pwynt a wnes i chi yn fy sylwadau cyntaf oedd pam nad oedd unrhyw gynnig yn cael ei wneud gan eich Llywodraeth. Rwy'n deall ei bod hi'n sefyllfa anodd, rwy'n deall bod arian yn dynn, ond rydych chi'n sôn yn gyson am fod eisiau mwy o bwerau; mae gennych chi'r pwerau dros delerau ac amodau o fewn y GIG. Mae gennych chi'r ysgogiadau yn ariannol i godi mwy o refeniw os ydych chi'n dewis gwneud hynny. Rydych chi wedi dewis, drwy'r gyllideb hon yr ydych chi wedi ei chyflwyno heddiw, peidio â gwneud hynny, ond rydych chi wedi cael gwerth £1.2 biliwn o arian ychwanegol. Mae gennych chi gynnydd hefyd i'r cyllid o Gymru am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr i £1.20 yng Nghymru. Rydych chi wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i gael y frwydr hon yma yng Nghymru, yn hytrach na defnyddio'r dulliau sydd ar gael i chi i'w datrys. Chi sy'n gyfrifol am hyn a neb arall, ac rwy'n erfyn arnoch chi i ddychwelyd i'r trafodaethau a datrys y mater hwn ar frys, fel nad ydym ni'n gweld yr anobaith a'r digalondid y mae pobl yn eu hwynebu wythnos ar ôl wythnos, gydag amseroedd aros hwy a straeon fel yr un rwyf i newydd ei hadrodd wrthych chi am y bobl yng Nghwmbrân y bu'n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar astell a fan i fynd â'u tad-cu i'r ysbyty.
Wel, mae gen i ofn, Llywydd, nad yw gweiddi arnaf i'n celu am eiliad gwacter y pwyntiau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud y prynhawn yma. Mae'n fy annog ar y naill law i ddefnyddio'r arian yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i dalu staff yn y GIG, heb gydnabod am eiliad, pe baem ni'n gwneud hynny, mae dim ond gwaethygu fyddai'r pwysau gwasanaeth a arweiniodd at y mathau o anawsterau y bu'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans eu hwynebu y penwythnos hwn. Felly, byddai ei gynigion yn arwain at fwy o achosion fel yr un yng Nghwmbrân, gan y byddem ni wedi cymryd yr arian hwnnw yn ôl ei awgrym oddi wrth y gwasanaeth hwnnw, ac, yn hytrach, ei gyfrannu at gyflogau.
Y cynnig rydym ni wedi ei wneud yw'r cynnig a argymhellwyd gan y corff adolygu cyflogau annibynnol. Rydym ni wedi talu hwnnw'n llawn, ac rydym ni wedi trafod gyda'n cydweithwyr yn y mudiad undebau llafur i lunio'r cynnig hwnnw mewn ffordd sy'n golygu mewn gwirionedd y bydd nyrsys ar fandiau 1 i 4 yr 'Agenda ar gyfer Newid', sef bron i hanner y nyrsys yng Nghymru, yn cael codiad o 7.5 y cant yn eu cyflogau. Bydd nyrsys ar fand 1, y rhai sy'n derbyn y cyflogau isaf, yn cael codiad o 10.8 y cant yn eu cyflogau; byddan nhw'n cael mwy o gyflog nag unrhyw nyrs arall yn y swydd honno mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A holl ddiben y trafodaethau a gafodd fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac eraill ddoe oedd edrych i weld a oes pethau y tu hwnt i gyflogau y gallwn ni eu gwneud i wneud y swyddi hynny yn fwy deniadol i bobl yma yng Nghymru.
Mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf i y gallem ni godi arian trwy godi trethi yma yng Nghymru. Mae wedi gwneud yr awgrym hwnnw i mi yn y gorffennol. Mae'n awgrym syfrdanol iddo ei wneud. O ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed yn natganiad yr hydref, mae'r trethi sy'n cael eu codi ar bobl yng Nghymru yn uwch nag y maen nhw wedi bod yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Nawr, ei gynnig ef yw y dylem ni drethu pobl yng Nghymru hyd yn oed yn fwy nag y mae lefelau uchaf erioed ei Lywodraeth eisoes wedi eu gorfodi arnyn nhw. A yw'n meddwl am eiliad bod hwnnw'n gynnig o ddifrif i'w wneud i Lywodraeth yma mewn Cymru—sydd, ar adeg pan nad yw pobl yn gallu prynu bwyd a ddim yn gallu fforddio talu am ynni, y dylem ni gymryd hyd yn oed mwy o arian allan o'u pocedi nag y mae ei Lywodraeth ef yn ei gymryd yn barod? Nid yw hwnnw'n ddewis y byddai Llywodraeth ddifrifol yn ei wneud yma yng Nghymru. A hyd yn oed pe baem ni'n gwneud hynny, sut mae'n dychmygu y byddai hynny'n caniatáu i ni wneud cynnig i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a fyddai'n dod yn agos at gyfateb i lefel chwyddiant yn yr economi? Mae'n costio £100 miliwn i godi 1 y cant yn fwy ar gyflogau sector cyhoeddus yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn eglur: mae gweithwyr rheng flaen yn y GIG ac mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth cyhoeddus yn haeddu cael eu cyflogau wedi'u diogelu ac i beidio â'u gweld yn cael eu tanseilio gan lefelau chwyddiant o'r math yr ydym ni'n eu gweld heddiw. Yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd—mae'n gwybod hyn; yn gwbl sicr mae pobl y tu allan yng Nghymru yn ei wybod—yw drwy Lywodraeth y DU sy'n barod i ariannu'r setliadau hynny yn Lloegr a chaniatáu i fformiwla Barnett ganiatáu i ni wneud hynny yng Nghymru. Bydd honno'n sgwrs ddifrifol, ac yn sgwrs wahanol iawn i'r un y mae wedi ei chynnig i ni y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Dros y dyddiau diwethaf, mae Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, Wes Streeting, wedi cyfeirio at gynnig y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unsain i ohirio streiciau, pe bai Ysgrifennydd iechyd y DU yn barod i drafod cyflogau. Mae hwnnw'n gynnig sy'n rhy dda i'w wrthod, ond dyna mae'r Torïaid yn ei wneud yn San Steffan, a dyna'r ydych chi'n ei wneud yng Nghymru. Fe wnaeth Steve Barclay gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau; fe wnaeth Eluned Morgan gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau. Ar gyfer Cymru: gweler Lloegr. Ac rydych chi'n dweud bod eich dwylo wedi'u clymu, ond sut, felly, y mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu cyrraedd sefyllfa lle mae dau undeb iechyd wedi gohirio eu streiciau, ac eraill wedi eu hoedi tra eu bod yn aros am bleidlais newydd, gan eu bod nhw wedi dod i well cytundeb gyda'r gweithwyr hynny? Rydych chi eich hunain fel Llywodraeth, drwy Trafnidiaeth Cymru, wedi osgoi streic yn Trafnidiaeth Cymru. Pam? Oherwydd eich bod chi'n barod i drafod gwell cytundeb na'r hyn a gynigwyd i'r gweithwyr hynny yn Lloegr. Os gallwch chi ei wneud yn Trafnidiaeth Cymru, pam ddim yn y GIG?
Wel, gadewch i mi wneud dau bwynt yn unig: rydym ni'n gwybod sut mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu gwneud y cynnig hwnnw, ac mae'n benderfyniad i Lywodraeth yr Alban ei wneud. Maen nhw wedi ei wneud trwy gymryd £400 miliwn allan o'r GIG a throsglwyddo'r arian hwnnw i gyflogau. Nid yw hwnnw'n benderfyniad yr ydym ni wedi teimlo y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru. Ac o ran y cytundeb a sicrhawyd gan Trafnidiaeth Cymru, mae'n hunanariannu. Maen nhw wedi gallu cytuno ar newidiadau i arferion gwaith gyda'u gweithwyr sy'n golygu eu bod nhw'n gallu fforddio gwneud cynnig cyflog gwahanol, ac nid oes unrhyw gyfleoedd o'r fath yn bodoli yn y GIG.
Dydyn nhw ddim wedi cymryd £400 miliwn allan o'r GIG, maen nhw wedi ei fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG ac wedi cydnabod, heb gynnal ysbryd y gweithlu hwnnw mewn gwirionedd, yna ni fyddai GIG, oherwydd, mewn gwirionedd, pwy sydd yno i'w ddarparu? Nawr, mae Rishi Sunak wedi dweud y byddai codiad cyflog yn unol â chwyddiant i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn costio £28 biliwn; mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi bod hwnnw'n ffigwr chwyddedig, gan nad yw'n cynnwys y cytundebau cyflog a gynigiwyd eisoes. Nawr, dywedodd Eluned Morgan yr wythnos diwethaf y byddai codiad cyflog yn unol â chwyddiant yn costio £900 miliwn yng Nghymru. Ond eto, mae hynny ar draws y sector cyhoeddus cyfan, nid yw'n cydnabod y £200 miliwn a mwy yr ydych chi eisoes wedi ei ymrwymo yn rhan o'ch cynnig presennol i staff GIG. Felly beth, Prif Weinidog, fyddai'n ei gymryd i ychwanegu at yr hyn yr ydych chi eisoes wedi ei gynnig i'r dyfarniad cyflog o 7.5 y cant sydd wedi atal y streiciau yn yr Alban? Tua £120 miliwn. A ydych chi'n dweud o ddifrif nad oes gennych chi unrhyw arian ar ôl yng nghronfa wrth gefn Cymru; nad oes unrhyw gyllid heb ei ddyrannu ar ôl, na allech chi ddefnyddio rhywfaint o'r £200 miliwn rydych chi'n ei wario'n flynyddol ar wasanaethau sector preifat yn y GIG, na allech chi wario'r arian hwnnw'n well ar staff sector cyhoeddus?
Wel, mae gen i ofn bod hwnna'n gwestiwn dryslyd tu hwnt, Llywydd. Llywodraeth yr Alban ei hun wnaeth gyhoeddi ffigurau a oedd yn dangos ei bod wedi cymryd £400 miliwn allan o gynlluniau yr oedd ganddi fel arall i'w gwario ar wasanaethau GIG a throsglwyddo hynny i gyflogau. Nawr, mae hwnnw'n benderfyniad cwbl ddilys iddyn nhw ei wneud. Ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i £400 miliwn o arian newydd; fe wnaethon nhw ei gymryd allan o bethau, a dyna y mae'n rhaid iddo ei gydnabod. Fe wnaethon nhw ei gymryd allan o bethau yr oedden nhw wedi cynllunio i'r GIG eu gwneud: mwy o lawdriniaethau, mwy o gapasiti ambiwlans, mwy mewn buddsoddiad gofal sylfaenol—yr holl bethau y mae Aelodau Plaid Cymru yn eu hyrwyddo ar lawr y Siambr hon, wythnos ar ôl wythnos. Ac yn yr Alban, bydd llai o hynny, o ganlyniad i'r penderfyniadau y mae Llywodraeth yr Alban wedi eu gwneud. Ac, mae'n dweud wrthyf i y dylem ni eu dilyn nhw ac y dylem ni gymryd £120 miliwn allan o wasanaeth y GIG a'i ddefnyddio i ychwanegu at gyflogau gweithwyr. Wel, mae hynny'n iawn, gall wneud y ddadl honno; rydym ninnau wedi craffu ar y ddadl honno hefyd, ac rydym ni wedi penderfynu, o ystyried y straen a'r anawsterau yr ydym ni'n eu gweld yn y GIG bob dydd, lle'r ydym ni'n gweld yr angen o hyd i wella yn sgil COVID, gyda phobl yn aros am driniaethau y bydden nhw fel arall wedi eu cael, nid tynnu £120 miliwn allan o'r ymdrech honno a'i gyfrannu at gyflogau fyddai'r dewis y byddem ni'n ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd llefarydd iechyd yr wrthblaid yn Lloegr; roedd yn gynnig rhy dda i'w wrthod. Mae'n destun siom enfawr, rwy'n credu, pan gafodd Steven Barclay gyfle i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, na ddaeth o hyd i ffordd o wneud gwell cynnig iddyn nhw, oherwydd byddem ni wedi cael y cyfle wedyn i wneud y gwell cynnig hwnnw yma yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod hi'n syfrdanol eich bod chi'n ymosod ar y Torïaid yn San Steffan pan ydych chi'n gwneud yn union yr un fath yng Nghymru trwy wrthod siarad am gyflogau gyda'r undebau. Rwy'n anghytuno'n athronyddol gyda'r Prif Weinidog: nid wyf i'n gweld bod buddsoddi mewn gwell cyflog ac amodau i'r gweithlu mewn gwirionedd yn dargyfeirio arian allan o'r GIG; mae'n fuddsoddiad yn nyfodol hirdymor, cynaliadwy'r GIG, oherwydd, heb y nyrsys hynny, y meddygon hynny a staff y GIG, pa ddyfodol sydd i'r gwasanaeth o gwbl?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y corff adolygu cyflogau annibynnol. Beth am, fel mae'r undebau yn galw arnoch chi i'w wneud—? Os nad ydych chi'n barod i gael trafodaethau wyneb yn wyneb ynghylch cyflogau, beth am droi at y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu a chael cyflafareddu annibynnol? Dyma'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan y Blaid Lafur mewn anghydfodau undebau llafur eraill, ac eto dydych chi ddim yn barod i wneud fel rydych chi'n ei ddweud o ran eich gwerthoedd eich hun. Rydych chi eich hun wedi dweud bod yn rhaid dod ag unrhyw anghydfod i ben, yn y pen draw, drwy drafodaethau. Beth am gael y trafodaethau i osgoi'r streiciau yn hytrach na chael y streiciau'n parhau'r holl ffordd drwy'r gaeaf, gan ychwanegu poen at y boen yn yr argyfwng rydym ni eisoes yn ei wynebu? Siawns nad oes ffordd well ymlaen, Prif Weinidog.
Nid yw'r gwahaniaeth rhyngom ni yn athronyddol o gwbl, Llywydd; yn syml, mae'n ymarferol. Mae ef eisiau cymryd £120 miliwn allan o weithgarwch y mae'r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i'w gyflawni, a byddai'n defnyddio'r arian hwnnw i dalu pobl. Dewis ymarferol yw hwnnw; bu'n rhaid i'n dewis ni fod yn wahanol gan ein bod ni'n gweld y pwysau enfawr y mae'r GIG yn eu hwynebu bob dydd. Nawr, fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais: daw pob anghydfod i ben yn y pen draw drwy drafodaethau. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth San Steffan i drafod mewn ffordd sy'n caniatáu i ni yng Nghymru allu gwneud yr hyn y byddem ni'n dymuno ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen hynny, y pethau rydym ni'n dibynnu arnyn nhw drwy'r amser, yn cael eu gwobrwyo'n briodol am eu gwasanaeth. Ond, heb y cyllid sydd ei angen arnom ni i allu gwneud hynny, mae'r syniad y gallwch chi freuddwydio i fodolaeth—ac fe'i breuddwydiwyd i fodolaeth ar ddwy ochr y Siambr y prynhawn yma—atebion hudolus sy'n dweud ein bod ni rywsut mewn sefyllfa yng Nghymru i wneud rhywbeth unigryw nad yw ar gael dros y ffin—. Trwy godi trethi, yn ôl y Torïaid—rhyfeddol, cwbl ryfeddol. 'Defnyddiwch y pwerau sydd gennych chi', rwy'n dal i glywed gan arweinydd yr wrthblaid, a'r pwerau sydd gennym ni, y mae'n cyfeirio atyn nhw, yw cymryd mwy o arian mewn trethi gan bobl yng Nghymru. Felly, mae'n fater o 'godi trethi' ar un ochr i'r Siambr, ac yn fater o 'dynnu arian oddi wrth wasanaethau yn y GIG' ar y llall. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud ei phenderfyniad. Rydym ni'n cefnogi'r holl bobl hynny yr effeithiwyd mor ofnadwy ar eu bywydau gwaith gan ddegawd o gyni cyllidol a'r camreoli economaidd difrifol sydd wedi ein harwain at sefyllfa'r economi yn y DU heddiw. A phan fydd cyflogau teg ar gael drwy Lywodraeth y DU, yna byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio unrhyw ran o'r arian hwnnw i hybu achos cyflogau teg yma yng Nghymru.
Cwestiwn 3, Joel James.
Mae'n ddrwg gennyf i am hynna—
Mae'n iawn.
—dipyn o gamweithrediad wardrob yn y fan yna, mae'n ddrwg gennyf i.