– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 yn cael eu trafod yn syth wedi'r drafodaeth ar y datganiad drafft ar y gyllideb. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos nesaf o dymor y gwanwyn wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch chi'n dda gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar oedi eto cyn cwblhau prosiect metro de Cymru? Un o brif amcanion prosiect metro de Cymru yw annog pobl i ddod oddi ar y ffyrdd ac, yn naturiol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o ganlyniad i'r pandemig, a 2023 yn parhau i fod y dyddiad cwblhau. Ym mis Mai eleni, dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod cost prosiect y Metro yn debygol o fod dros ei gyllideb o £734 miliwn yn sylweddol, a'r gorwariant yn debygol o fod yn ddegau o biliynau o bunnau. Bydd cwblhau'r prosiect yn cael ei symud nôl nawr i 2024. Fis diwethaf, cafodd oedi arall i'r gwaith uwchraddio ei gadarnhau, a'r 'rhan fwyaf' o'r gwaith yn cael ei orffen yn 2024, heb ddyddiad ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llawn. Un o'r rhesymau a roddwyd am yr oedi pellach hwn oedd COVID, y dywedodd Trafnidiaeth Cymru yn gynharach na fyddai'n achosi mwy o oedi y tu hwnt i 2023. A gaf i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i ddweud pryd fydd y gwaith ar fetro'r de yn cael ei gwblhau yn derfynol, a beth yw'r amcangyfrif diweddaraf o gyfanswm cost prosiect blaenllaw Llywodraeth Cymru i gael pobl oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o'r diwedd? Diolch.
Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r gefnogaeth sy'n cael ei roi i famau a theuluoedd sy'n colli eu babanod cyn 24 wythnos yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw menywod sy'n colli babanod cyn hynny yn derbyn tystysgrif geni. Ers mis Gorffennaf, yn Lloegr, mae menywod sy'n dioddef camesgoriad neu feichiogrwydd ectopig neu molar cyn y dyddiad hwnnw yn gallu cael tystysgrif, ac mae llawer o fenywod wedi siarad yn gyhoeddus am sut y gall hynny helpu gyda'r broses o alaru.
Nid yw tystysgrifau yn unig yn ddigon, wrth gwrs. Fel yr wyf i wedi'i godi o'r blaen, hoffwn i fod cefnogaeth arall yn cael ei roi i famau a theuluoedd yng Nghymru, fel cyfnod mamolaeth a thosturiol i'r rhai sy'n colli babanod yn gynharach yn eu bywydau bach. Ond byddai cyflwyno'r newid hwn yn ymwneud â thystysgrifau geni wir yn helpu cymaint o fenywod i ddygymod â'r golled maen nhw wedi'i dioddef, ac yn eu helpu i gofnodi a choffáu bywydau eu plant. Byddwn i'n croesawu datganiad ar hyn, os gwelwch yn dda.
Diolch. Roeddwn i'n darllen erthygl ddiddorol iawn ar y mater yma ddoe. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol, yn amlwg, o'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, ac yn ystyried camau eraill a allai fod yn angenrheidiol yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud datganiad pan fydd hi wedi ystyried hynny.
A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar effaith busnesau Airbnb ar y farchnad dai rhent? Er bod yna rai rheolaethau—byddwn i'n dadlau nad oes digon—ar ddatblygu tai amlfeddiannaeth, nid oes rheolaethau ar fusnesau Airbnb. Pa ddadansoddiad o effaith busnesau Airbnb ar y farchnad dai sydd wedi'i wneud, ac a yw'r Llywodraeth yn ystyried gosod terfyn ar nifer y busnesau Airbnb mewn unrhyw ardal, yn debyg i reolaethau'r sector Tai amlfeddiannaeth?
Yn ail, a wnaiff y Llywodraeth wneud datganiad ar y berthynas rhwng tai ac iechyd, rhywbeth yr oedd Llywodraeth Attlee yn ymwybodol iawn ohono? Rydym ni'n gwybod ers sawl blwyddyn bod anghysondeb mawr mewn disgwyliad oes iach yn dibynnu ar gyfoeth yr unigolyn, yn seiliedig ar yr ardal lle mae pobl yn byw. A yw'n syndod bod y rhai sy'n byw mewn cartrefi sych, cynnes, yn bwyta diet cytbwys, ac nad ydyn nhw'n treulio'u dyddiau'n poeni am wresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd yn byw bywydau hirach ac iachach?
Yn bendant, rwy'n cytuno â Mike Hedges. Yn amlwg, rydym ni'n credu y dylai pawb gael mynediad i gartref digonol, fforddiadwy. Mae hyn yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl, ac wrth gwrs eu lles hefyd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ariannu nifer o raglenni i gynyddu mynediad i'r cartrefi hynny, gan gynnwys cofnodi cyllid ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol carbon isel i'w rhentu.
Byddwch chi'n ymwybodol hefyd bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi cadarnhau eu hymrwymiad, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, i gyflwyno cynllun trwyddedau statudol ar gyfer pob llety ar gyfer ymwelwyr, a bydd ymgynghoriad ar gynigion yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yr hyn y bydd y cynllun hwnnw'n ei wneud yw ei gwneud hi'n ofynnol bod â thrwydded i weithredu llety ymwelwyr. Mae hynny'n cynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn amlwg yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth a gwella data sy'n cefnogi penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyhoeddiad bod Vivarail Ltd wedi mynd i'r wal. Fel y gwyddoch chi, mae cynlluniau i gynyddu'r gwasanaethau trên yn ardal ffiniau'r gogledd nawr yn cael eu hatal, wedi i'r cwmni, Vivarail Ltd, a oedd yn cyflenwi'r trenau hyn, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Byddwch chi'n cofio, nôl yn 2018 bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud y cytundeb gyda Vivarail i drenau wedi'u hadnewyddu wasanaethu trigolion ar y ffin, ac roedd hyn i fod i gael ei gyflawni yng nghanol 2019. Rydym ni nawr dair blynedd i lawr y lein ers i'r addewid hwnnw gael ei wneud, ac nid oes gan drigolion yr wyf i'n eu gwasanaethu yn sir Ddinbych, sir y Fflint a Wrecsam y gwasanaeth rheilffordd newydd hwnnw a gafodd ei addo iddyn nhw. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Trefnydd, ar gyfer eich trigolion chi, fel AS yn y gogledd nad yw'n sefyllfa dda i fod ynddi. Fel y gwyddom ni, mae Trafnidiaeth Cymru yn eiddo'n llwyr i Lywodraeth Cymru i gyflawni polisïau'r Llywodraeth hon. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd dod â datganiad i'r Siambr yn egluro'r sefyllfa a phryd y bydd y trenau hynny'n cael eu cyflwyno i'r gogledd.
Mae'n wir bod nifer o gyfnodau o oedi siomedig wedi bod wrth ddod â'r trenau newydd hyn i wasanaeth. Maen nhw'n cynnwys yr angen i Trafnidiaeth Cymru sicrhau'n drwyadl eu bod yn ddiogel ac maen nhw'n ddibynadwy at ddefnydd teithwyr, yn dilyn rhai digwyddiadau yn ystod eu profion. Mae'n anffodus iawn bod Vivarail wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond yn amlwg nid Trafnidiaeth Cymru sydd ar fai am hynny. Maen nhw wedi buddsoddi'n sylweddol yn y trenau dosbarth 230 o Vivarail, ac maen nhw wedi cynllunio'r gwasanaethau ychwanegol ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston ar ddefnyddio'r trenau hyn. Rwy'n ymwybodol bod Trafnidiaeth Cymru mewn cysylltiad â'r nifer bach eraill o weithredwyr trenau Vivarail, ac maen nhw'n mynd i fod yn trafod strategaeth tymor hirach ar rannau sbâr gyda nhw. Er hynny, rwy'n credu mai un o'r heriau mwyaf sylweddol mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i chael, yw'r anrhefn a gafodd ei hachosi gan fethiant Llywodraeth y DU i ddatrys yr anghydfod diwydiannol gydag undebau'r rheilffyrdd. Os nad yw Trafnidiaeth Cymru'n gallu cael mynediad i'r traciau, nid ydyn nhw'n gallu profi'r trenau na hyfforddi eu gyrwyr ar y fflyd newydd. Felly, byddwn i wir yn annog Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy a datrys yr anghydfodau hyn nawr.
Gaf i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r adolygiad annibynnol o lifogydd, ac, yn benodol, sut y bydd Aelodau'n gallu cyflwyno tystiolaeth? Yn amlwg, mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio, a dwi'n gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo, ond mae yna elfen bwysig o ran ein bod ni fel Aelodau etholedig yn gallu rhoi tystiolaeth. Mi fyddai cael eglurder ar hynna drwy ddatganiad ysgrifenedig neu lafar yn fuddiol dros ben. Diolch.
Diolch. Rwy'n cymryd bod y broses yn dal yr un fath i Aelodau allu rhoi'r dystiolaeth honno, ond fe wnaf gadarnhau hynny gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyflwyno metro'r gogledd, ac awgrymu y byddai datganiad blynyddol o gymorth mawr i'r Aelodau? Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau bysiau, o ystyried bod gwasanaethau bysiau yn mynd i fod mor amlwg o ran darparu metro'r gogledd. Diolch.
Diolch. Gan fy mod i wedi ymrwymo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig am fetro'r de, rwy'n meddwl ei bod hi ond yn deg ei fod yn cyhoeddi un ar fetro'r gogledd hefyd.
Rwy'n galw am ddatganiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon i blant oed ysgol yng Nghymru, ac yn enwedig yn y gogledd. Enw un o'r tri parkrun iau yn y gogledd yw Prom Prestatyn, ac mae'n dioddef gan mai ychydig iawn o rai sy'n cymryd rhan ac mae perygl iddo gau. Mae digwyddiadau parkrun iau, sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr, yn ddigwyddiadau 2 km wythnosol cyfeillgar ac am ddim i blant rhwng 4 a 14 oed, i loncian, rhedeg neu gerdded bob bore Sul. Mae Parkrun Cymru yn awyddus iawn i helpu i hyrwyddo a thyfu'r digwyddiad hwn i fod yr un mor llwyddiannus â digwyddiadau parkrun iau eraill ledled Cymru. Mae parkrun eisoes wedi cael ei nodi yn fodel sy'n cyd-fynd â fframwaith rhagnodi cymdeithasol arfaethedig Llywodraeth Cymru drwy gymryd rhan a gwirfoddoli. Roedd arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru 2022 yn nodi mai dim ond 39 y cant o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos, ond bod 93 y cant o ddisgyblion Cymru eisiau gwneud mwy o chwaraeon. Mae'n hanfodol felly ein bod ni'n tyfu gweithgareddau hygyrch, pleserus ac am ddim i blant, fel parkrun iau, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y byddai modd cyflawni hyn. Diolch.
Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o ddigwyddiadau parkrun iau. Mae gen i un yn fy etholaeth fy hun, ac mae fy merch, sy'n gwneud parkrun, wedi fy ngorchymyn i wirfoddoli arno. Rwy'n credu ei bod yn ffordd dda o gael pobl ifanc i fod yn egnïol, ac yn sicr mae'r rhai yr wyf i wedi'u gweld yn Wrecsam wedi cael eu cefnogi'n dda iawn. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein hysgolion ni, fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon yn ariannu amrywiaeth sylweddol o chwaraeon i annog pobl ifanc. Yn amlwg, mae Parkrun, fel y dywedwch chi, yn sefydliad sydd wir yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, ac nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i'w cefnogi.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr profion bomiau atomig, os gwelwch yn dda, gan fod 2022 yn nodi'r jiwbilî plwtoniwm, 70 mlynedd ers y profion bom atomig cyntaf yn y DU. Ers hynny, mae ugeiniau o'r bobl a gymerodd ran yn y profion hynny—cyn-filwyr, gwyddonwyr, pobl frodorol a'u teuluoedd—wedi dioddef yn anfesuradwy. Nid oes yr un o'r bobl hynny wedi cael y gydnabyddiaeth gywir am eu haberthau. Roedd llawer ohonyn nhw'n dod o Gymru. Mae LABRATS International yn galw am ymddiheuriad cenedlaethol, medal i gydnabod gwasanaeth ac aberth y cyn-filwyr hyn, cefnogaeth ariannol i gyn-filwyr a theuluoedd, rhaglen addysg ar y profion a'u heffeithiau, ac ymchwil i ddisgynyddion. Mae rhai o'r pethau hyn o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Felly, a wnewch chi weithio gyda LABRATS a sefydliadau eraill i helpu i gyflawni'r nodau hyn? A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba gamau yr ydych chi'n eu cymryd i gynorthwyo'r bobl hyn? Diolch.
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau cyn-filwyr ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd a thai, er enghraifft. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw beth penodol am y grŵp o bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond yn sicr fe wnaf ofyn a oes unrhyw beth penodol y byddai modd ei wneud, ac, os felly, bydd datganiad.
Ledled Cymru, mae tua 90 o safleoedd cartrefi preswyl mewn parciau, sy'n gartref i dros 3,000 o aelwydydd. Dangosodd gwaith ymchwil a gafodd ei gyflawni ar ran Llywodraeth Cymru yn 2016, bod tystiolaeth o dlodi tanwydd ar y safleoedd hyn. Mae'n siŵr y bydd y sefyllfa hon wedi gwaethygu yn yr argyfwng costau byw presennol. Mae'r mwyafrif o drigolion y cartrefi mewn parciau'n oedrannus ac yn anghymesur o debygol o fod yn llai cyfoethog. Mae perchnogion y cartrefi mewn parciau yn cael cynyddu ffioedd am leiniau yn flynyddol gan gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr, ac, yn sgil prifweinidogaeth drychinebus Liz Truss, a welodd gyfraddau chwyddiant yn mynd yn rhemp, mae ar hyn o bryd ar 11 y cant. Bydd cynnydd o 11 y cant mewn ffioedd am leiniau yn gwthio hyd yn oed mwy o breswylwyr cartrefi mewn parciau i dlodi'r gaeaf hwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i amddiffyn preswylwyr cartrefi mewn parciau rhag cynnydd o 11 y cant mewn ffioedd am leiniau, os yw hynny'n bosibl? Diolch.
Diolch. Nid ydym ni wedi cael gwybod na'n hysbysu bod deiliaid cartrefi mewn parciau wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ffioedd am leiniau yma yng Nghymru, ond yn amlwg mae'n bwysig iawn ein bod ni'n monitro'r sefyllfa. Yn wahanol i Loegr, mae ffioedd am leiniau yma yn seiliedig ar y mynegai prisiau defnyddwyr ac nid y mynegai prisiau manwerthu, felly rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth sylweddol. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi am gostau byw a'r cynnydd chwyddiant—mae'r ddau fynegai wedi cynyddu. Mae'r rheoliadau'n nodi bod tybiaeth, nid gofyniad pendant, bod y ffi am lain i gynyddu neu ostwng canran nad yw'n fwy nag unrhyw gynnydd neu ostyngiad yng nghanran y mynegai prisiau defnyddwyr.
Trefnydd, rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol gan y Dirprwy Weinidog Chwaraeon ar y cynigion gan weinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys i gau canolfannau hamdden a phyllau ar draws fy etholaeth dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac o bosibl hyd at fis Ebrill a thu hwnt, heb ymgynghori â thrigolion lleol. Bydd hyn yn drychinebus i bobl yn fy etholaeth i ac ar draws Powys sy'n dibynnu ar ganolfannau hamdden i gefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol a hefyd i gadw ein plant ifanc yn egnïol. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu manteision canolfannau hamdden i'n cymunedau ni a pha gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i'w cadw ar agor, a hefyd i atgoffa awdurdodau lleol am eu rhwymedigaethau i ymgynghori â thrigolion ynghylch unrhyw newidiadau i gyfleusterau hamdden yn ein cymunedau.
Diolch. Rydym ni'n cydnabod bod ein holl awdurdodau lleol, yn union yr un fath â Llywodraeth Cymru, o dan anawsterau cyllidebol difrifol, ond mater i Gyngor Sir Powys yw'r mater yr ydych chi'n ei godi.
A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y gwasanaeth tân os gwelwch yn dda, Trefnydd? Fel llawer a welodd adroddiad ITN ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru neithiwr, roeddwn i wedi dychryn. Ni ddylai fod unrhyw le i gasineb at fenywod o fewn y gweithle, ond mae hyn yn arbennig o wir gyda gwasanaeth cyhoeddus fel y frigâd dân. Roeddwn i'n hynod siomedig i ddarganfod bod yr ymddygiad yma wedi'i ganfod yn y gwasanaeth tân ac nad oes camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â hwn. Rwy'n falch bod prif swyddog tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, wedi cyhoeddi adolygiad i'w diwylliant, prosesau disgyblu ac achosion hanesyddol. Rwy'n awyddus nawr i wybod, drwy ddatganiad, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o'r sefyllfa a sut maen nhw'n bwriadu gweithredu er mwyn cefnogi'r prosesau i wneud gwasanaeth tân de Cymru yn lle diogel a chroesawgar i fenywod.
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n condemnio ymddygiad fel hyn yn gryf. Nid oes unrhyw le iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac unman arall o ran hynny. Mae'n bwysig iawn eu bod yn wynebu'r sancsiynau llymaf posibl gan reolwyr. Roeddwn i'n falch iawn o weld Huw Jakeway yn cyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore yma wedi cyfarfod â chadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Rwy'n galw am ddatganiad am gymorth i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Mae ymchwil, wedi dangos bod defnyddio labeli bwydlenni i gyfyngu ar galorïau yn gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau ymhlith menywod ac yn gysylltiedig â mwy o bryderon yn ymwneud â phwysau, mynd ar ddiet ac ymddygiad rheoli pwysau nad yw'n iach ymhlith menywod a dynion. Gwnaeth Beat, elusen anhwylderau bwyta'r Deyrnas Unedig, gyfarfod â Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yr wythnos diwethaf i gyflwyno llythyr agored wedi'i lofnodi gan bron i 700 o bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni. Daw hyn yn sgil arolwg a gafodd ei gynnal ganddyn nhw a ofynnodd i'r rhai yng Nghymru sy'n byw ag anhwylderau bwyta neu y mae anhwylderau bwyta'n effeithio arnyn nhw i roi eu syniadau ar y cynnig, ac roedd 98 y cant o'r ymatebwyr yn credu y byddai labelu calorïau ar fwydlenni yn cael effaith negyddol ar y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta. Dywedodd un,
"Rydw i eisoes wedi bod yn dyst i'r ofn y mae hi'n ei deimlo wrth feddwl am wynebu calorïau ar fwydlenni a llithro yn ôl i grafangau anorecsia. Mae hyn yn fy nychryn i hefyd. Mae'r effaith niweidiol y gallai hyn ei gael ar bobl ag anhwylderau bwyta yn enfawr.'
Felly, mae angen i ni wybod os, a sut, y gall y Dirprwy Weinidog gyfiawnhau gweithredu deddfwriaeth a fyddai'n achosi niwed i'r rhai sy'n dioddef o anhwylderau bwyta a risg o ynysu'r rhai a allai eisoes deimlo'n ynysig o gymdeithas hyd yn oed yn fwy. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog wedi cael y cyfarfod y cyfeiriodd yr Aelod ato ac mae'n ystyried ffordd ymlaen ar hyn o bryd.
Diolch i'r Trefnydd.