– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 10 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddatblygu clystyrau technolegol. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw yn gyson at bwysigrwydd manteisio ar wyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Er mwyn bodloni'r rhain a manteisio ar gyfleoedd, mae angen dull cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol.
Mae strategaeth arloesi newydd i Gymru yn cael ei datblygu yn unol â'n hymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn bwriadu cyhoeddi yn gynnar yn 2023. Bydd yn cynnig gweledigaeth ar gyfer arloesi a all helpu i dynnu ein meysydd o gryfderau a chyfleoedd at ei gilydd. Gwyddom fod manteision clir, trosglwyddadwy i'r economi o ddatblygu clystyrau o arbenigedd ymchwil a manteisio ar fasnacheiddio a sgiliau sy'n deillio o ymchwil.
Ers 2012, mae rhaglen Sêr Cymru wedi helpu i ddatblygu a chynnal gallu ymchwil Cymru. Rydym yn ddiweddar wedi gorffen ymgynghoriad ar y cam nesaf. O'r blaen, defnyddiwyd cronfeydd strwythurol yr UE i helpu'n sylweddol i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid na fyddai Cymru'n derbyn ceiniog yn llai mewn cronfeydd newydd yn eu lle. Y gwir plaen amdani yw nad oes gennym ni'r arian i gefnogi'r cam nesaf gyda'r un faint o gyllid cyhoeddus ag o'r blaen. Mae angen i geisiadau ymchwil yn y dyfodol fod yn benodol ac yn ymwneud â themâu priodol. Rwy'n disgwyl gwneud cyhoeddiad pellach ar ddyfodol Sêr Cymru cyn bo hir.
Yn bwysig iawn, ni all cenedl fach fod ag arbenigedd ym mhob maes. Ond gallwn gyfeirio at glystyrau o dechnoleg yng Nghymru sy'n arwain eu maes. Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru yn un. Gan gyfuno rhagoriaeth ddiwydiannol ac ymchwil sy'n arwain y byd, mae'r clwstwr hwn yn darparu'r cydrannau sy'n gwneud i'n byd modern weithio.
Heddiw, rwy'n cadarnhau ein huchelgais clir i Gymru ddatblygu clwstwr technoleg arall, gan fynd i'r afael ar yr un pryd â her sy'n prysur agosáu o ran triniaeth feddygol ledled y byd. Mae hyn yn ymwneud â pharhau i gynhyrchu radioisotopau meddygol, sy'n hanfodol i ddiagnosis a thriniaeth canser. Mae'r offer mewn cyfleusterau sy'n gwneud y sylweddau ymbelydrol achub bywyd hyn yn dod i ddiwedd ei fywyd defnyddiol ac yn cau. Heb weithredu, rydym yn wynebu posibilrwydd gwirioneddol yn y dyfodol tymor canolig o beidio â bod â radioisotopau meddygol, neu'r hunllef foesegol o orfod eu dogni.
Y weledigaeth sydd gennym ni yw creu toreth hanfodol o wyddoniaeth niwclear—ymchwil, datblygu, ac arloesi. Nid yn unig y gall Cymru ddod yn brif le yn y DU o ran cynhyrchu isotopau radio meddygol, ond, gyda hyn, gallwn ddenu swyddi gyda sgiliau uwch; creu seilwaith o gwmpas y maes; cefnogi cymunedau lleol; ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol. Byddai cyflogaeth o ddarparu'r prosiect hwn yn cwmpasu amrywiaeth o sgiliau a galwedigaethau: gyrwyr, gweithrediadau, cynhyrchu, staff technegol, staff swyddfa, gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr. Gallai ddarparu cyflogaeth gynaliadwy, ddeniadol sy'n talu'n dda yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu.
Fel yn achos ein clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, mae Sêr Cymru eisoes wedi ysgogi'r broses, drwy ariannu cadair ymchwil technoleg niwclear yn Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor. Mae hyn, a hanes o weithio gyda thechnolegau ynni niwclear, yn dangos mai gogledd Cymru yw'r lle mwyaf addas i ddatblygu clwstwr o'r fath. Bydd ymchwil gyflenwol, arbenigedd diwydiant a gweithgarwch yng Nghymru a'r DU yn ehangach yn cyfrannu at ac yn chwarae eu rhan wrth greu'r clwstwr newydd hwn.
Ein nod cychwynnol yw sicrhau cyflenwi radioisotopau meddygol i Gymru a'r DU trwy dechnoleg radioisotopau uwch ar gyfer adweithydd cyfleustodau iechyd, y byddaf yn awr yn cyfeirio ato fel ARTHUR. Mae'r prosiect treialu ARTHUR yn cyfrannu at sawl agwedd ar y rhaglen lywodraethu bresennol. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin ein gallu ymchwil, datblygu ac arloesedd mewn gwyddorau iechyd a bywyd, gan sicrhau bod Cymru yn bartner llawn wrth ddarparu 'Gweledigaeth Gwyddorau Bywyd' y DU.
Bydd hon yn fenter strategol fawr yng Nghymru a'r DU gyfan. Bydd yn datblygu cyflenwad cynaliadwy o radioisotopau meddygol ar gyfer diagnosteg a thriniaethau. Ynghyd â datblygiad ysgol feddygol gogledd Cymru, bydd yn helpu i ysgogi economi ehangach y gogledd. Mae hyn yn cynrychioli datblygiad cydweithredol mawr rhwng yr adran iechyd a gwyddorau cymdeithas ac adran economi Llywodraeth Cymru. Potensial ysgol feddygol newydd, cydnaws â phrosiect ARTHUR a thechnolegau iechyd eraill, yw'r ateb rhanbarthol gorau i allu cynaliadwy-ddiagnostig a radio-ddiagnostig a meddyginiaethau radio diogel yn y gogledd.
Yn fwy na hynny, bydd GIG Cymru a'i bartneriaid gwasanaeth yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol. Er mwyn llwyddo, rhaid i ni sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau i greu labordy cenedlaethol sector cyhoeddus ar gyfer cyflenwi a defnyddio radioisotopau meddygol. Rydym ni i gyd wedi gweld canlyniadau ymyrraeth cyflenwi o brofiadau diweddar, megis colli isotopau dros dro o ganolfan ddelweddu PET Prifysgol Caerdydd. Effeithiodd hyn ar sganiau diagnostig ar gyfer sawl clefyd, yn enwedig canserau. Mae hyn yn dangos pa mor arwyddocaol fyddai effaith colli cyflenwad yn fwy cyffredinol ar ganlyniadau cleifion.
Byddai Prosiect ARTHUR yn ymdrech dros sawl degawd, ymrwymiad o ryw 60 i 70 mlynedd. Byddai swyddi sy'n cael eu creu, yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig, yn rhai hirdymor a chynaliadwy. Byddai ein cyfleuster wedyn, o'i sefydlu, yn un o ddim ond hanner dwsin ar draws y byd. Ac yn lleol, byddai cyflawni prosiect ARTHUR yn llwyddiannus yn helpu i gynnal a gwella'r economi, yn enwedig yng ngogledd orllewin Cymru, ardal, wrth gwrs, â hanes hir o gyflogaeth yn y diwydiant niwclear.
Mae gweledigaeth ARTHUR yn cynnwys creu campws technoleg yn y gogledd fel sydd gan campysau eraill yn y DU gydag elfen niwclear. Mae'r rhain yn cynnwys Harwell, sef labordy Rutherford Appleton, a Culham, Awdurdod Ynni Atomig y DU yn Swydd Rhydychen, ac yn Daresbury yn Swydd Gaer.
Ni fyddai elfen ymchwil ARTHUR yn cyfyngu ei hun i ymchwil iechyd yn unig, ond gallai hefyd ymwneud am ymchwil deunyddiau i'w cymhwyso gydag ymasiad—sef asio isotopau hydrogen—ac egni o hollti atomau, sef yr egni niwclear confensiynol. Gallai'r ymchwil hon helpu i ddarparu ynni carbon isel dibynadwy, cynaliadwy a fforddiadwy, a gwell technolegau niwclear gyda llai o wastraff ac effaith amgylcheddol a hynny'n fwy effeithlon.
Mae maint y cyflawniad sydd ei angen i ddarparu hyn yn sylweddol. Byddaf yn parhau i gyflwyno'r achos gyda Llywodraeth y DU i gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion. Mae'r datblygiad hwn yn elwa ac yn cefnogi'r gwaith o roi diagnosis a thrin achosion o ganser yn y dyfodol ledled y DU. Rwyf wedi codi'r mater gyda nifer o Weinidogion gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU, ac mae fy swyddogion yn cynnal deialog adeiladol gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Mae cydnabyddiaeth helaeth o'r her o gyflenwi radioisotopau meddygol a'r cyfle i gael adweithydd ymchwil. Dyma'r amser am beth gweithredu ac ymrwymiad pendant. Bydd goblygiadau peidio â gweithredu i'w weld mewn canlyniadau gwaeth i gleifion y gellid bod wedi eu hosgoi, a cholli cyfle economaidd.
Fel y gŵyr pawb, rydym ni bellach yn profi pwysau economaidd sylweddol, ond nid yw hynny'n rheswm nac yn esgus dros fethu â chynllunio ar gyfer yr angen clir hwn yn y dyfodol. Rhaid i ni atal argyfwng iechyd ac economaidd yn y dyfodol. Rwyf felly wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb technegol a datblygu cynllun busnes amlinellol. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar y gwaith technegol sydd eisoes wedi'i wneud yn y cynllun busnes amlinellol strategol cynharach.
Ein huchelgais yw darparu clwstwr technoleg hollbwysig yn y gogledd. Byddai'n cynnig cyfle sylweddol mewn technoleg hanfodol a chyfleoedd cydweithredol sylweddol gyda gwledydd o'r un anian, gan gynnwys Awstralia a Chanada. Gallai hyn yn amlwg ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ac yn destun balchder i Gymru a'r DU yn ehangach am ddegawdau i ddod. Gobeithio y gallwn ni ennill cefnogaeth drawsbleidiol a thraws-Lywodraethol i wneud hynny'n union.
Diolch i'r Gweinidog ac rwy'n croesawu ei ddatganiad yn fawr heddiw. Mae defnyddio radioisotopau meddygol yn rhan bwysig o ymarfer meddygol modern. Mae eu defnydd mewn technegau delweddu diagnostig anfewnwthiol yn gynnar yn ystod triniaeth yn helpu i adnabod a dosbarthu cyflyrau difrifol a chyffredin fel clefyd y galon, ac yn y pen draw, canser. Mae tarfu ar y gadwyn gyflenwi radioisotopau, sydd wedi digwydd yn rheolaidd, mewn gwirionedd yn tarfu ar faint o brofion meddygol sydd ar gael i bobl ym mhob man, felly rwy'n wirioneddol groesawu'r datganiad hwn, a fydd yn gwneud Cymru'n arweinydd o ran cynhyrchu'r sylweddau hyn sy'n achub bywydau drwy drin canser. Fodd bynnag, bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol ar y cynllun hwn, gan gynnwys gan Lywodraeth y DU, fel y dywedodd y Gweinidog. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Gweinidogion y DU yn hyn o beth, a gyda pha adrannau yn benodol mae'r Gweinidog wedi cael sgyrsiau i geisio cefnogaeth i ddatblygu'r safle a chael yr arian priodol sydd ei angen.
O ran Cwmni Egino—rwy'n ymddiheuro am fy ynganiad—adroddwyd tua diwedd y llynedd eu bod yn datblygu cynllun busnes ar gyfer y safle gyda'r nod o ddechrau adeiladu yn 2027. Felly, allwch chi gadarnhau, Gweinidog, bod y cynllun busnes bellach wedi'i gwblhau a bod y prosiect mewn gwirionedd yn unol â'r amserlen? A gaf i ofyn i'r Gweinidog hefyd am ragor o fanylion ynghylch buddion economaidd y buddsoddiad hwn yn Nhrawsfynydd? Adroddir y bydd y cynllun hwn yn creu tua 200 o swyddi, sydd bob amser i'w croesawu, ond a allwch chi gynghori faint o'r swyddi hyn fydd yn swyddi sgiliau uchel? Ac a ydych chi'n rhagweld y bydd y safle hwn yn cael ei ehangu i gynnwys sectorau eraill i gefnogi datblygiadau yn y gwyddorau ffisegol, gan wneud Ynys Môn yn ganolbwynt i'r diwydiant niwclear, nid yn unig yng Nghymru, ond ar gyfer y Deyrnas Unedig hefyd?
Yn olaf, Gweinidog, byddwch yn ymwybodol o'r problemau y mae pobl sy'n byw ar Ynys Môn, neu'n teithio yno ac yn ôl gyda'u gwaith, yn eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd y gwaith atgyweirio ar bont Menai. Felly, pa ystyriaethau ydych chi wedi'u rhoi, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch digonolrwydd y cysylltiadau seilwaith trafnidiaeth presennol â'r ynys, ac a allent o bosibl lesteirio unrhyw ddatblygiadau pellach ar safle Trawsfynydd? Diolch yn fawr iawn.
Fe rof i sylw i'r hyn a'm drysodd braidd, bron fel petai Wylfa a Thrawsfynydd ar yr un safle yn rhai o'r pwyntiau. Mae safle Traws yn ymgeisydd amlwg ar gyfer y cynnig yr ydym yn siarad amdano heddiw, ond wrth symud ymlaen â'r cynllun busnes, bydd yn safle all weithio ag unrhyw ddyfais. Mae gan Drawsfynydd drwydded niwclear i'w ddatblygu, a'r safle arall ydy Wylfa, ond bydd angen i ni edrych ar beth sydd orau o ran datblygu'r safle. Mae datblygiad Cwmni Egino yn canolbwyntio ar y potensial i gynhyrchu adweithydd modiwlar bach, fel rydw i wedi egluro mewn datganiadau blaenorol. Nawr, mae maint yr adweithydd rydym ni'n siarad amdano ar gyfer ARTHUR yn ddigon bach y gallech chi wneud y ddau ar y naill safle neu'r llall, oherwydd yr hyn rydym ni'n sôn amdano yw adweithydd a fyddai yn ei hanfod yn 1 y cant o faint cynnig blaenorol Horizon ar Wylfa.
Rwy'n credu bod hynny'n dangos y gallwch chi wneud rhywbeth bach gyda chwestiynau diogelwch cwbl wahanol o ran y raddfa, ond mae'n hanfodol ar gyfer y ffordd y mae gwasanaeth iechyd modern yn gweithio. Os edrychwch chi ar y datblygiad yn Awstralia, nid yn unig maen nhw wedi gwneud rhywbeth sy'n ymdrin â'u hanghenion gofal iechyd eu hunain ar gyfer y rhan honno o'r byd, nid yn unig yn Awstralia ond ar gyfer gwledydd partner hefyd, ond hefyd y gweithgaredd economaidd ac ymchwil ychwanegol sylweddol o amgylch y safle. A dyna lle rwy'n credu bod potensial, nid yn unig ar gyfer darpariaeth uniongyrchol y radioisotopau sydd eu hangen arnom ni—rydym ni'n gwybod bod y cyflenwad yng ngorllewin Ewrop yn dod i ben—ond mae cyfle ehangach ar gael i sefydlu clwstwr technoleg. Dyna lle mae gen i ddiddordeb gweld beth allwn ni ei wneud.
Rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Fel y dywedaf, rwyf wedi cael y sgwrs yma gyda nifer o Weinidogion gwyddoniaeth. Rwyf wedi siarad â George Freeman am hyn yn un o'i gyfnodau blaenorol yn Weinidog Gwyddoniaeth. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, cafwyd sgyrsiau adeiladol a rheolaidd rhwng fy swyddogion fy hun a'r rhai yn Llywodraeth y DU.
Rydym ni yn y sefyllfa ffodus lle rydw i a'r adran iechyd yn gytûn ac eisiau gweld achub ar y cyfle. Mae angen i ni gael sgwrs debyg yn ddelfrydol gyda'r adran iechyd ac, yn wir, Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac yna mae cwestiynau am gyllid y dyfodol. Hoffem i Lywodraeth y DU fod yn bartner wrth wneud hyn. Mae hefyd yn bosibl y gallech gyflawni rhywfaint o hyn gyda buddsoddiad yn y sector preifat. Fy newis i fyddai y bydden ni'n gweld hyn yn rhan o allu sofran ar gyfer y DU, gyda'r safle delfrydol, yn fy marn i, yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ddewisiadau a chyfleoedd, oherwydd fel y gwelsom ni mewn rhannau eraill o'r byd, mae elw ar fuddsoddiad cyfalaf a dychweliad posibl ar gost weithredu safle o'r fath, os caiff ei gyflawni'n llwyddiannus.
Ar ôl i ni ymdrin â'r hyn rydw i wedi'i amlinellu heddiw, bydd gennym ni syniad llawer gwell o'r cyfleusterau technegol a'r galluoedd y byddem yn bwriadu eu hadeiladu, ac amcanion buddsoddi llawer gwell i allu datblygu hyn. A byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU o unrhyw liw gwleidyddol penodol yn cydnabod y cyfle sylweddol y mae hyn yn ei gynnig a beth fyddai hynny'n ei olygu o ran datblygiad economaidd gwirioneddol mewn swyddi hir dymor yma yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Rydym yn cytuno bod manteisio ar ymchwil ac arloesedd gwyddoniaeth er mwyn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol yn bwysig, a hefyd gwella buddsoddiad mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac ymchwil a datblygu, a fydd yn fanteisiol tu hwnt i economi Cymru, a rhaid i ni barhau i ddatblygu ein gweithgynhyrchu ac allforio yn y meysydd hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n cefnogi'r uchelgais o sefydlu clystyrau technolegol newydd ledled Cymru. Fodd bynnag, os dymunwn ni mewn gwirionedd roi hwb i'r sectorau ymchwil a dylunio, gweithgynhyrchu ac allforio technoleg Cymru, mae'n rhaid i ni gael sylfaen ymchwil, datblygu ac arloesi cryf, ond bu gan Gymru lefelau ymchwil a datblygu hanesyddol isel ers degawdau.
Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, roedd cyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn £794 miliwn yn 2019, neu 1.2 y cant o'r gwerth ychwanegol gros. O dair gwlad ddatganoledig y DU a phob un o naw rhanbarth Lloegr, mae gan Gymru'r gwariant ymchwil a datblygu isaf fel cyfran o werth ychwanegol gros. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod 82% o bobl yn credu ei bod hi'n bwysig fod Cymru yn cynnal ymchwil feddygol, ac mae 34% o bobl yn credu nad oes digon o ymchwil yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ni fydd sefyllfa ddiddatrys barhaol Llywodraeth y DU ynglŷn â Horizon na'r toriad sy'n dod drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU yn helpu'r sefyllfa ariannu hon yng Nghymru, wrth gwrs. Fodd bynnag, ychwanegodd Llywodraeth y DU gyllid at ymchwil yn Lloegr i helpu gyda'r sefyllfa gyda Horizon a golygai hyn swm canlyniadol drwy Barnett. Gofynnais i chi, Gweinidog, ym mis Rhagfyr i gadarnhau'r swm a geid drwy Barnett a gofyn a gai ei ychwanegu at ymchwil prifysgolion, ond fe wnaethoch chi wrthod ymrwymo i'r swm canlyniadol a gai ei drosglwyddo. Mae'n deg i Lywodraeth Cymru feirniadu'r sefyllfa ddiddatrys gyda Horizon, y gronfa ffyniant gyffredin a'r difrod a achoswyd, ond mae'n amheus wedyn peidio â dyrannu symiau canlyniadol Barnett o'r cyllid cyfamserol.
I weld effaith lawn rhaglenni fel y clystyrau technoleg a chynllun allforion Llywodraeth Cymru, rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein sylfaen ymchwil yma yng Nghymru. Cadarnhaodd yr Alban ei swm a'i drosglwyddo yn fuan wedi i mi ofyn y cwestiwn hwn i chi ym mis Rhagfyr, a olygai £24.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ymchwil i'r Alban. A fyddwch chi'n dilyn eu hesiampl? Pe baech chi'n gwneud hynny, byddai hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud ein prifysgolion yn fwy cystadleuol. Dylai cyllid ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru fod yn £100 miliwn; mae diffyg o £18 miliwn. Ar y lleiaf, a wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllid yn ymwneud ag ansawdd ymchwil £18 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hwn?
Mae yna ddau gwestiwn penodol. O ran y £18 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym ni eto i basio'r gyllideb yr ydym ni newydd ei phennu ar ffurf ddrafft, ac wrth gwrs mae'n rhaid craffu ar honno a chael pleidlais derfynol arni. Mae gennym ni gyllidebau eraill wedyn, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried dyfodol y maes ariannu ymchwil yn y cyllidebau hynny yn y dyfodol. Mae'r cyfan yn dibynnu nid yn unig ar y setliad cyffredinol a gaiff Llywodraeth Cymru ond y blaenoriaethau a osodwyd gennym ni yn rhan o hynny. Yn ein cyllideb ddrafft, rydym ni wedi dynodi iechyd a llywodraeth leol, gan gynnwys addysg o fewn hynny, fel ein blaenoriaethau mawr, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau i'r ffordd rydym ni'n dyrannu'r gyllideb nid yn unig i'r adrannau hynny, ond i bob un arall hefyd.
Rwy'n cydnabod y pwynt rydych chi'n ei wneud am Horizon. Byddaf yn gallu cyhoeddi cyn bo hir beth sy'n digwydd, felly bydd eglurder ar hynny. Rwyf newydd fod yn gwirio gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog cyllid, ond rydym ni'n disgwyl gallu gwneud cyhoeddiad ynghylch hynny yn y dyfodol agos iawn, felly fydd dim llawer hirach i aros. Bydd eglurder am yr arian, beth sydd gennym ni, a sut gaiff ei ddefnyddio ar ôl Horizon. Rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau cadarnhaol eang sy'n ymddangos fel petaent wedi digwydd ynghylch rannu data rhwng yr UE a'r DU yn ddefnyddiol ar gyfer rhyddhau mwy ar gyfer y dyfodol. Mae Horizon ond un agwedd o hynny, yn rhan o brotocol Gogledd Iwerddon a chysylltiadau ehangach rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn parhau i fod eisiau bod yn adeiladol yn hynny a chan wneud yn glir fod gan Gymru ddiddordeb uniongyrchol iawn yng nghanlyniad y trafodaethau hynny.
Fel y dywedais yn y datganiad, y gwir diymwad amdani yw na fydd yr hyn a ddaw yn lle'r cronfeydd strwythurol gymaint ag a oedd gennym ni'n flaenorol, ac rydym ni wedi defnyddio swm sylweddol o hynny mewn cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi yn y gorffennol. Mae'r ffordd y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn benodol wedi'i sefydlu wedi eithrio ymchwil addysg uwch ac addysg bellach yn y bôn. Mae hynny'n broblem sylweddol. Mae'n siŵr eich bod chi ac Aelodau eraill wedi clywed yn uniongyrchol gan Brifysgolion Cymru am y problemau uniongyrchol iawn y bydd hyn yn eu hachosi, a'r ffaith pan ddaw'r ffrydiau ariannu hynny i ben, rwy'n ofni y byddwn yn disgwyl y bydd rhai pobl yn gweld eu gwaith a'u prosiectau ymchwil yn dod i ben. Dydy hynny ddim yn ganlyniad rwy'n credu bod unrhyw un yn y Siambr hon wedi ymgyrchu drosto, ond dyna realiti uniongyrchol y dewisiadau sy'n cael eu gwneud. Dyna'r cefndir yr ydym ni'n ceisio datblygu nid yn unig y prosiect hwn ynddo, oherwydd mae gan y cynnig rwy'n credu botensial economaidd sylweddol mewn maes penodol y gobeithiaf y bydd cryn gefnogaeth iddo, ond y pwyntiau ehangach ynghylch y strategaeth arloesi yr ydym yn ei datblygu.
Rhan o hynny yw—ac mae'n un o'r heriau y mae angen i ni eu gosod i'n hunain ar gyfer y dyfodol—ychydig dros 3 y cant o geisiadau cyllid cystadleuol y DU sy'n dod i Gymru, felly rydym ni'n tangyflawni mewn gwirionedd o ran caffael o'r potiau ariannu hynny ledled y DU. Mae hynny'n her fawr i ni fynd i'r afael â hi. Ar yr un pryd, un o'r pethau cadarnhaol y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud yw dweud ei bod am roi mwy o arian yn y dyfodol i wariant ar ymchwil, datblygu ac arloesedd. Mae angen sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran o hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn ar wahân o'i gymharu ag a allwn ni ganfod y cyllid cyfalaf i gyflawni'r prosiect hwn gyda beth rwy'n credu y bydd hynny wedyn yn ei wneud wrth ddenu lefel benodol a math arbennig o ariannu ymchwil a gweithgarwch economaidd i Gymru. Rwy'n credu bod ARTHUR ychydig yn wahanol, ond mae pwynt llawer ehangach rwy'n ei gydnabod o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda dyfodol cyllid arloesi yn ogystal â'r strategaeth yr wyf yn edrych ymlaen at allu ei lansio yn y dyfodol agos, yn dilyn yr hyn rwy'n gobeithio y bydd yn sgyrsiau adeiladol gyda'n partneriaid yn rhan o'r cytundeb cydweithredu.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Dyma sut mae ffyniant bro yn edrych. Dyma beth sydd gan glystyrau technolegol a beth sydd gan economïau llwyddiannus. Bydd hefyd yn helpu i ysgogi'r economi drwy ddenu swyddi medrus iawn a chreu seilwaith o'i amgylch. Does gan y DU ddim cyflenwad domestig o lawer o radioisotopau, gan ddibynnu ar fewnforion o gyfleusterau Ewropeaidd. Dyma gyfle i gael cyfleuster o'r fath. Mae radioisotopau meddygol yn hanfodol i ddiagnosis a thrin clefydau fel canser, a gellir eu defnyddio hefyd i ddiheintio offer meddygol. Mae gen i ddau gwestiwn. Soniodd y Gweinidog am Fangor; pa brifysgolion eraill y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â nhw ar y prosiect hwn? Ai dyma ddechrau datblygu diwydiant ffiseg feddygol yng Nghymru y tu allan i ysbytai, a sut fydd yn gweithio gyda'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn Teddington?
Rwy'n credu bod y ddau gwestiwn manwl mewn gwirionedd ynghylch rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw yn y manylebau technegol o ran yr hyn yr hoffem ni ei wneud ar y safle, ond yna'r alwad ehangach i bobl gymryd rhan nid yn unig wrth greu cyfleuster cynhyrchu radioisotopau, sy'n debygol o fod yn y gogledd-orllewin oherwydd y safleoedd tebygol a fydd yn ymgeisio, ond beth mae hynny'n ei olygu wedyn o ran ymchwil a chydweithio â phrifysgolion eraill Cymru a sefydliadau eraill o gwmpas y DU. Nid oes cyfleuster fel hyn yn y DU, ac os ydym yn llwyddo i'w greu, rwy'n rhagweld yn llawn y bydd diddordeb sylweddol ledled y DU yn y potensial ar gyfer clwstwr technoleg ac ymchwil a chyllid sylweddol yn y DU i gyd-fynd ag ef.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig am ein cyflenwadau presennol o radioisotopau. Dydym ni ddim yn cynhyrchu unrhyw rai yn y DU mewn unrhyw ffordd o bwys. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw ein bod ni'n dibynnu ar gynnyrch o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, yn y bôn. Mae'r holl broses o'u cludo hefyd yn rhan o'r hafaliad. Rwy'n cofio o'r anawsterau o ystyried sut beth allai Brexit heb gytundeb edrych ar fwy nag un achlysur bod y gallu i fewnforio radioisotopau yn llwyddiannus yn ffactor sylweddol o fewn hynny. Gwyddom, ac fe wyddem ni ar y pryd, y byddai'r cynhyrchu hwnnw'n dod i ben rhywbryd yng Ngorllewin Ewrop, yr ydym yn dibynnu arno ar hyn o bryd. Felly, mae'n tynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi gwybod bod hyn yn her, rydym yn cynllunio ar ei gyfer, ac mae gennym ni gynllun yng Nghymru ynghylch sut i fynd i'r afael â hi, nid yn unig i ni, ond i'r DU yn ehangach, ac, yn wir, i wledydd gerllaw lle mae potensial i allforio, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes cynigion eraill i geisio llenwi'r bwlch hwn mewn systemau gofal iechyd tebyg eraill. Wrth i ni fynd trwy'r cam hwn ohono, byddaf yn fwy na pharod i ddod yn ôl at y manylion a'r potensial.
Soniodd y Gweinidog am brosiect adweithydd pwll agored dŵr ysgafn Awstralia. Mewn gwirionedd rwyf wedi siarad â rhai o'r arbenigwyr yn Awstralia ym maes niwclear meddyginiaethol; rwyf wedi siarad ag arbenigwyr yng Nghanada hefyd, ac mae disgwyl i mi gael cyfarfod gydag adweithydd ymchwil Jules Horowitz yn Ffrainc ac adweithydd ymchwil München cyn hir. Soniodd y Gweinidog nad oes datblygiad tebyg. Wel, mae'r Jules Horowitz yn ddatblygiad tebyg, ac mae'r DU yn bartner allweddol yn natblygiad Jules Horowitz, a fyddai'n sicrhau radioisotopau ar gyfer y DU ar ôl Brexit.
Ond serch hynny, ym mis Ionawr 2015, dangosodd y Dr François Bénard a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol British Columbia y gallai cyclotronau ddisodli adweithyddion niwclear mawr fel prif ffynhonnell radioisotopau. Dywedodd Dr Bénard, arbenigwr blaenllaw'r maes hwn:
'Gyda'r ateb hwn, byddwn yn gallu gwneud isotopau sydd wedi'u tyfu'n llwyr yn lleol, heb unrhyw wastraff ymbelydrol tymor hir'.
Erbyn mis Rhagfyr 2020, roedd corff rheoleiddio iechyd Canada wedi rhoi cymeradwyaeth i gynhyrchu cyclotron o technetium-99m i'w ddefnyddio yn eu gweithdrefnau iechyd. Mae wedi cael ei ganmol fel ffordd werddach, fwy dibynadwy o wneud technetium-99m, ac mae'n agor y drws i bosibiliadau enfawr, yn bennaf oherwydd bydd llawer o seiclotronau mwyaf cyffredin y byd nawr yn gallu cynhyrchu technetium-99m.
Felly, a yw'r Gweinidog yn derbyn nad oes angen felly i ddatblygu adweithydd niwclear a'r holl wastraff ymbelydrol peryglus a difrod amgylcheddol a ddaw yn sgil hyn, ac y dylem ni estyn allan a gweithio gyda TRIUMF a phrifysgol British Columbia fel y gallwn ni ddatblygu'r cyclotronau hyn yn Nhrawsfynydd er mwyn eu cyflwyno ledled y DU?
Mewn gwirionedd, roedd y seiclotron ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n darparu'r sganwyr PET yng Nghaerdydd yn un yr oedd gennym ni broblem benodol ag ef. Felly, ein her ni yw, ym mhob rhan o'r DU, dydym ni ddim yn cynhyrchu digon. Rydym ni'n mewnforio llawer o'r rheiny fel y mae ar hyn o bryd. Ac er holl botensial cyclotronau, dydyn ni ddim yn meddwl—. Y cyngor sy'n cael ei roi i mi, y sylfaen yr ydym yn ei gynllunio arno, yw nad yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i ymdrin â'n holl anghenion. A dyna'r pwynt: sut mae ymdrin â'n holl anghenion ar gyfer system gofal iechyd fodern? Rydym ni'n siarad am raddfa sylweddol wahanol iawn o gynnig o'i gymharu â chynnig blaenorol Horizon ar gyfer Wylfa. Felly, dyw e ddim byd tebyg i'r un raddfa.
O ran nodweddion adweithydd Jules Horowitz yn Ffrainc, ein dealltwriaeth ni yw na fydd yn barod erbyn yr adeg yr hoffem iddo fod, ac yn wir nad yw'n cael ei adeiladu'n bennaf ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol. Ymddengys y cafwyd sawl sgwrs wahanol, ond rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda swyddogion gwyddonol yn swyddfa Llywodraeth Cymru, yn y GIG a datblygu economaidd, ac rydym yn credu bod angen a bwlch i'w lenwi. Rydym yn credu mai'r gogledd-orllewin yw'r ardal fwyaf tebygol o'r DU i hynny ddigwydd, a lle yr hoffem iddo ddigwydd, oherwydd y potensial i sicrhau'r cyflenwad ar gyfer defnydd y gwasanaeth iechyd, ond hefyd ar gyfer y potensial datblygu economaidd a ddeuai ochr yn ochr â hynny hefyd.
Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod farn gwbl agored, pur amheus i ystod o'r materion hyn, a phryderon ynghylch diogelwch a'r hyn fyddai'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl ddilys dal ati i ofyn y cwestiynau hynny. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r cynnig a bydd angen i ni wneud dewisiadau o ran sicrhau cyllid yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at drafod ag ef a phartneriaid yn adeiladol am hynny, hyd yn oed os nad ydym ni bob amser yn cytuno ar bob un agwedd ohono.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cydnabyddiaeth barhaus o'r gweithlu medrus iawn sydd gennym ni yn y gogledd ac am y buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn y sector iechyd, gan gynnwys yr ysgol feddygol ym Mangor. Bellach gall radioisotopau meddygol gael eu creu gan adweithyddion gronynnau, fel y soniwyd amdano yn gynharach, yn hytrach nag adweithyddion niwclear, fel y gwnaed ers peth amser mewn gwledydd eraill. Mae'r cyflymyddion diweddaraf a'r genhedlaeth nesaf yn llawer llai ac yn rhatach na chenedlaethau blaenorol. Rwy'n deall mai'r lleoliadau gorau efallai ar gyfer y rhain, nad ydyn nhw o bosib yn para mor hir, yw cyfleusterau meddygol o bosib a hynny mewn ardaloedd sydd â seilwaith trafnidiaeth dda. Felly, meddwl oeddwn i beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn barod a pha ymchwil sydd wedi'i wneud i'r dewis technoleg diweddaraf yn hytrach na niwclear, sydd ag anfanteision amlwg, fel y soniwyd amdano'n gynharach gan Mabon? A pha ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i fuddsoddi yn y rhain, a hefyd yr asesiad ynglŷn â chludo o'r ardal wledig? Mae'r drafnidiaeth yn hynny o beth yn eithaf anodd hefyd os nad yw'r cynnyrch hwn yn para mor hir.
Un o'r heriau yw'r ffaith bod oes silff fer i'r cynnyrch hwn. Roedd yn un o'r pryderon am Brexit digytundeb. Roedd yn rhaid i mi wynebu, rwy'n credu, tri chyfnod gwahanol o gynllunio am Brexit digytundeb, ac yn ogystal â heriau i gyflenwyr fferyllol a llwyth o bethau eraill, roedd cyflenwadau radioisotopau wastad yn agos at frig y rhestr o ran beth fyddai'n digwydd. Yn wir, yn y Senedd flaenorol, roedd Mike Hedges yn gofyn cwestiynau yn rheolaidd ynghylch a fyddem yn gallu, ar sail trwydded, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, cael cyflenwad isotopau. Cafodd peth o hynny ei ddatrys, ond roedd yr her yn ymwneud mewn difrif ag a fyddai oedi oherwydd y pwynt am oes silff. O ran sut rydym ni'n mewnforio'r rhan fwyaf o'r isotopau a ddefnyddiwn ar hyn o bryd, rydym yn rheoli hynny'n llwyddiannus. Ond byddai cael cyfleuster cynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys yn y gogledd-orllewin, yn ddigonol o ran oes silff a'n gallu ni i'w gael o ble gaiff ei gynhyrchu i le mae ei angen. Ond o ran craffu'n fanylach ar y gwaith hwn, dylai ymdrin â'r materion trafnidiaeth hynny ac yn wir y pwynt yr ydych chithau a Mabon ap Gwynfor wedi'i wneud ynghylch a oes technolegau amgen ar gael, pa mor bell y gallant lenwi'r bwlch, ac yna'r angen sy'n dal i fodoli am, fel y dywedais i, rhywbeth a fydd yn 1 y cant o gynnig blaenorol Horizon a graddfa wahanol iawn o weithredu sy'n cael ei gynnig gyda'r holl faterion perthnasol i hynny. Rwy'n cydnabod y pryderon y bydd gan bobl am weithredu cyfleusterau fel hyn yn ddiogel, yn ogystal â gweld y potensial am fuddsoddiad. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ysgol feddygol gogledd Cymru. Rwy'n gweld cyn Weinidog gogledd Cymru ar y sgrin o'm blaen—roedd yn rhan o'r sgwrs gawsom ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, ac rydym ni'n gobeithio parhau a chyflawni yn y tymor hwn hefyd.
Ac yn olaf, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad cyffrous. Rwy'n credu bod gan raglen ARTHUR yr holl botensial i ddod yn rhan anhygoel o bwysig, strategol o economi y gogledd ac, yn wir, y bwa niwclear ehangach ar draws y gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Wrth gwrs, fel y dywedoch chi, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa unigryw o fod yr unig ran o'r DU sydd wir yn paratoi i gofleidio'r cyfle hwn a'r cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi y gallai arwain o hynny.
Roeddwn i'n pendroni, o ran prosiectau eraill rydych chi'n arwain arnyn nhw, sut mae hyn yn cyd-fynd â'ch gwaith o ran blaenoriaethu prosiectau sy'n denu buddsoddiad, yn seiliedig ar fanteision cymharol sydd gennym ni yng Nghymru, er enghraifft y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch a'r ganolfan ymchwil technoleg uwch? A hefyd, fel rydych chi wedi amlinellu, mae'r rhaglen hon wedi dod o ganlyniad i Weinidogion a swyddogion ar draws adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn dros gyfnod eithaf sylweddol. Yn wir, pan oeddech chi yn eich swydd flaenorol a phan oeddwn yn y swydd sydd gennych chi nawr, gwnaethom weithio'n agos iawn wrth ddatblygu'r syniadau amlinellol ar gyfer yr hyn rydych chi wedi'i gynnig heddiw. Pa mor bell ydych chi'n credu y byddem wedi dod erbyn hyn pe bai Gweinidogion ac adrannau ar lefel Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio mor agos â Llywodraeth Cymru, yn enwedig BEIS a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol?
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. O ran eich pwynt am ddatblygiadau magnet, dyma enghraifft dda o'r hyn y gallech ei wneud, oherwydd pe bai gennych chi weithrediad cyfleuster a fyddai, mae'n debyg, yn debygol o fod â 200 o bobl neu fwy wedi'u cyflogi'n uniongyrchol yn y cyfleuster ARTHUR, byddai'n rhyfeddol peidio â bod â gweithgaredd arall o'i gwmpas. Ac mae'r cyfleuster OPAL yn Awstralia yn enghraifft dda o hynny. Rydych chi wedi gweld rhywbeth lle mae gwariant cyfalaf sylweddol ond gyda'r cyfle i weld y gwariant cyfalaf yn dychwelyd ymhen 15 i 20 mlynedd, i gael elw gweithredu, ac i weld mwy o swyddi'n cael eu creu o gwmpas hynny, byddai'n rhaid iddyn nhw gael eu sefydlu o amgylch y cyfleuster ei hun. Felly, byddech chi'n wirioneddol yn denu swyddi o ansawdd da, nid yn unig i bobl ddod i mewn a byw yn yr ardal, ond y cyfle i bobl yn yr ardal leol fod yn rhan o'r ymgysylltu uniongyrchol â'r gweithgaredd hwnnw a'r cadwyni cyflenwi y byddem yn dymuno'u gweld mor lleol â phosibl. Ac rwyf yn gwybod bod arweinwyr y ddau awdurdod lleol, Ynys Môn a Gwynedd, yn weddol gadarnhaol ynghylch y cyfleoedd i wneud hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at siarad ag arweinwyr y gogledd amdano yn y dyfodol i drafod mwy o'r manylion am hyn.
Ac yn union yr un modd gyda'r AMRC a'r ATRC rydych chi'n siarad amdanyn nhw hefyd, oherwydd bod cyfleoedd gwirioneddol i gael cyfanwaith llawer mwy o'r prosiect yn hytrach na dim ond y rhannau unigol ohono yn y canol. Ac rwy'n credu—ac mae'n gryn amser yn ôl bellach—yn y cyfnod cyn COVID, fe wnaethom ddechrau trafod hyn yn ein swyddogaethau gweinidogol blaenorol, ac i weld yr amser y mae wedi'i gymryd i gyrraedd yma, gallem yn bendant fod wedi cyrraedd yma'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach pe bai mwy o bwyslais ar hyn a llai o bwyslais ar faterion eraill sydd wedi achosi'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU yr ydym wedi'i weld yn y gorffennol mwy diweddar. Er hynny, rwyf yn chwilio am sgwrs adeiladol â Gweinidogion yn Llywodraeth bresennol y DU ac unrhyw un yn y dyfodol, oherwydd fy mod i'n credu'n wirioneddol y dylai hyn fod yn gyfle i fuddsoddi heb edifar i sicrhau budd economaidd sylweddol ac i ymdrin ag angen gofal iechyd gwirioneddol a difrifol, ac rwy'n edrych ymlaen at yr hyn rwy'n gobeithio bydd yn ymateb adeiladol a chadarnhaol gan Lywodraeth bresennol y DU a llywodraethau y DU yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.