2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r ddarpariaeth o addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58909
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflawni ei hymrwymiadau cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae £42.7 miliwn o gyllid wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor drwy gyfuniad o'n rhaglenni a'n grantiau cyfalaf gofal plant, cyfrwng Cymraeg a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o'r cyhoeddiad y bydd mwy o fynediad i ddysgwyr allu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws fy nghymuned a ledled Cymru; mae wedi cael croeso mawr gan fy etholwyr. Roeddwn eisiau tynnu sylw at newyddion da, mewn gwirionedd, sef bod yna gynlluniau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ac maent wedi symud gam yn nes bellach. Felly, er na fydd yr ysgol ond yn symud pellter byr, mae'n mynd i gynyddu nifer y disgyblion o 378 i 525, rhwng pedair ac 11 oed. Ar ben hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau hefyd i gydleoli darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar y safle. Ac ym Mhorthcawl mae yna egin ysgol a darpariaeth gofal cyfrwng Cymraeg ar y tir y drws nesaf i Ysgol Gynradd Porthcawl, ac mae honno'n mynd i gynnig gofal llawn i blant rhwng dim a phedair oed yn ogystal â darpariaeth ar ôl ysgol a dros y gwyliau, felly, mae'n cynnig gofal cofleidiol llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n gwybod hefyd ein bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wneud yn siŵr fod yna ddewis i bontio o ofal plant i addysg blynyddoedd cynnar, yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Felly, mewn gwirionedd fy nghwestiwn i yw fy mod yn gwybod eu bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont i chi ddod i ymweld a chyfarfod â rhai o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol, a byddai hynny'n wych. Felly, dyna rwy'n awyddus i'w ofyn heddiw, Weinidog. Diolch.
Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn Ysgol Bro Ogwr a'r egin ysgol arfaethedig ym Mhorthcawl yn gadarnhaol yn fy marn i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn datblygu. Dyna'r neges a roddais i arweinwyr y cyngor pan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn.
Fe fyddaf yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangynwyd fis nesaf, ac os gellir gwneud trefniadau, gallai hynny gynnig cyfle da i gyfarfod ag aelodau'r cabinet a chydag athrawon o'r sector cyfrwng Cymraeg yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gwybod bod gwella mynediad at addysg Gymraeg yn mynd y tu hwnt i'r cwestiwn pwysig o gynllunio llefydd mewn ysgolion; mae'n galw am gydweithio effeithiol ar draws sectorau, ar draws sefydliadau a'r Llywodraeth ar bob lefel, ac o'm rhan i, byddaf yn bendant yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu, sydd mor hanfodol i gyflawni hynny, yn parhau ar agor rhwng fy swyddogion i a'r awdurdod lleol.
Gweinidog, er bod yr ysgolion newydd ym Mracla a Phorthcawl, y mae Sarah newydd sôn amdanyn nhw, yn werth eu croesawu, mae'n bwysig inni atgoffa ein hunain ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran profisiwn lleoedd ysgol yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn gwybod mai Pen-y-bont yw un o'r ardaloedd gyda'r niferoedd isaf o siaradwyr Cymraeg unrhyw le yng Nghymru, ac un o'r rhesymau am hynny yw mai dim ond pum ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd yn y sir o gymharu â 52 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn golygu bod gan sir Pen-y-bont ar Ogwr lai o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg na phob un o'i chymdogion ac nid oes unrhyw gynlluniau gwirioneddol gan y cyngor i gau'r bwlch hwnnw yn arbennig o gyflym. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau yn cymryd yr iaith yn ddigon o ddifrif a pha gamau y mae ef yn eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned nhw?
Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda nhw yn eu cynlluniau strategol. Mae hynny'n cynnwys pedwar hyb gofal plant newydd—mae dau eisoes wedi agor—a hefyd cynyddu'r nifer o lefydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion meithrin, ynghyd â'r cynlluniau o ran Ysgol Bro Ogwr, Ysgol y Ferch o Sgêr ac edrych ar ehangu Ysgol Gyfun Llangynwyd hefyd. Felly, os digwyddiff hynny fel y mae'r cynllun yn dangos sydd angen digwydd, bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd y llefydd plant cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.
Ar y cwestiwn ehangach, rwy wedi bod yn glir gyda phob awdurdod rwy wedi siarad â nhw fy mod yn ddiolchgar am y lefel o uchelgais ym mhob cynllun. Mae pob un sir wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod fel Llywodraeth—ac mae hyn am y tro cyntaf gyda llaw—ac wedi derbyn yr ystod o gynnydd sydd ei angen ym mhob sir. Ac os bydd pob cyngor yn perfformio i ganol yr hyn y maen nhw wedi darogan y byddan nhw, byddwn ni'n sicr yn llwyddo i gyrraedd y nod sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ond un peth yw cytuno ar beth y mae'r ddogfen yn ei ddweud; peth arall yw delifro ar hynny, ac mae angen sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac er mai cynllun 10 mlynedd yw hyn, mae angen cynnydd ym mhob blwyddyn, nid jest dros y ddegawd.
Wrth gwrs rwy'n croesawu'r datblygiadau ynglŷn â Phorthcawl ac Ysgol Bro Ogwr—fy hen ysgol gynradd i. Roedd yn bleser i fynd yn ôl i Fro Ogwr i weld sut oedden nhw'n darparu prydau ysgol am ddim. Roedd yr ystafelloedd yn teimlo lot yn llai nag oedden nhw pan oeddwn i'n ddisgybl fanna, ond dwi ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei feddwl—efallai rwy wedi rhoi bach o bwysau ymlaen ers hynny.
Ond mae sôn bod hen safle Bro Ogwr yn mynd i gael ei droi i mewn i ysgol Saesneg. Mae hyn wrth gwrs yn achosi pryder i nifer o bobl, yn enwedig i'r rheini sy'n ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau y bydd yn cysylltu â chyngor Pen-y-bont i sicrhau bod hen safle Bro Ogwr yn aros fel ysgol Gymraeg a ddim yn cael ei droi i mewn i ysgol Saesneg?
Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd.
Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn nhw bartner yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw wrthym ni i wneud hynny, ond mae hefyd disgwyliad arnyn nhw eu bod yn cyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dwi'n ffyddiog ar sail y sgwrs rwyf i wedi'i chael eu bod nhw'n bwriadu gwneud hynny.