– Senedd Cymru am 3:02 pm ar 24 Ionawr 2023.
Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2023. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cofio'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill wedi hynny. Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yw 'Pobl Gyffredin'. Yn ystod yr Holocost a'r hil-laddiadau sydd wedi dilyn, pobl gyffredin a brofodd erledigaeth ac a lofruddiwyd am eu bod nhw'n aelodau o gymuned o bobl. Pobl gyffredin a oedd yn gweithredu ac yn helpu'r rhai a oedd yn cael eu herlid. Pobl gyffredin hefyd oedd y rhai na wnaeth unrhyw beth ac a lyncodd y propaganda atgas. Mae'r thema yn tynnu sylw at wirionedd cignoeth hil-laddiad: mewn llawer o achosion, fe hwyluswyd yr erchyllterau hyn gan bobl gyffredin.
Yn eu cyflwyniad i thema eleni, mae'r ymddiriedolaeth yn tanlinellu sut mae pobl gyffredin wedi gwneud gweithredoedd erchyll yn bosibl:
'Pobl gyffredin oedd y plismyn a oedd â rhan wrth gasglu'r dioddefwyr at ei gilydd, a'r ysgrifenyddion a oedd yn teipio cofnodion yr hil-laddiad, a'r deintyddion a'r meddygon a oedd yn dewis a dethol, pobl gyffredin oedd y cymdogion a arfogwyd â machetes yn Rwanda, athrawon ysgol a aeth yn warchodwyr y gwersylloedd crynhoi yn Bosnia.'
Mae i'r thema hon neges rymus sy'n berthnasol i bawb ohonom ni. Rydym ni i gyd yn 'bobl gyffredin' sydd â'r gallu i wneud gwahaniaeth â'n gweithredoedd ni, er gwell neu er gwaeth. Mae gennym ni, fel unigolion, ddewis i wrthsefyll casineb a rhagfarn. Fe allwn ni i gyd herio naratifau rhwygol a fwriadwyd i ddarnio ein cymunedau a difenwi grwpiau o bobl.
Ar gyfer 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru i ysgogi cyfranogiad ledled y genedl. Mae'r gweithiwr cymorth wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau, gan eu hannog i gyfranogi, a helpu i gefnogi digwyddiadau coffáu lleol drwy ganllawiau a darparu adnoddau.
Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaeth coffa yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ar 27 Ionawr, ac fe fyddaf i'n mynd i hwnnw. Y prif siaradwr yw'r bardd Adam Kammerling, sydd wedi ysgrifennu barddoniaeth yn seiliedig ar ei dreftadaeth Iddewig ef ac am ei daid a oroesodd yr Holocost. Bydd yr arddangosfa, 'Sophie Scholl and the White Rose', i'w gweld yn oriel Art Central, Y Barri, ac ym mhafiliwn pier Penarth. Mae'r arddangosfa yn adrodd hanes Sophie Scholl a'i brawd Hans, a ddaeth yn ymgyrchwyr, gan beryglu eu bywydau trwy ddosbarthu taflenni gwrth-Natsïaidd ledled yr Almaen. Yr wythnos hon, mae Canolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd a Sefydliad Celf Josef Herman yn Abertawe yn cynnal dangosiadau cyhoeddus o ffilmiau am yr Holocost. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cynnal gweminar ar-lein am yr Holocost ar 26 Ionawr.
Rydyn ni'n falch o allu gweithio ochr yn ochr â'r ymddiriedolaeth unwaith eto, i gefnogi'r gwaith hwn ar lawr gwlad yn ogystal â threfnu'r coffáu cenedlaethol. Fe fydd seremoni genedlaethol Cymru ar gael ar-lein o 11 a.m. ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost. Fe fydd hwnnw'n gyfle i glywed tystiolaeth ddirdynnol gan oroeswraig yr Holocost, Joan Salter MBE, ac Antoinette Mutabazi, un o oroeswyr yr hil-laddiad yn Rwanda. Rydym ni'n ddiolchgar i Joan ac Antionette, a llawer o oroeswyr hil-laddiadau eraill, sy'n rhoi oriau o'u hamser i rannu eu straeon a sicrhau nad yw dioddefwyr y digwyddiadau barbaraidd hyn yn mynd yn angof.
Am 4 p.m. ar 27 Ionawr, bydd pobl ledled y DU yn cymryd rhan mewn moment genedlaethol i gofio'r rhai a laddwyd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn gallu ymuno â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' drwy gynnau cannwyll a'i gosod hi yn y ffenestr. Mae'r ymddiriedolaeth yn gofyn i ni ymuno hefyd gyda'r sgwrs genedlaethol a rhannu llun o'n canhwyllau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd adeiladau a thirnodau hefyd ledled y DU yn cael eu goleuo yn borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o goffadwriaeth ac undod. Bydd llawer o leoedd ledled Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr.
Mae'r ymddiriedolaeth wedi gweithio gyda'r Ysgol Arlunio Frenhinol hefyd i drefnu'r gystadleuaeth (Extra)Ordinary Portraits, a oedd yn agored i unrhyw un yn y DU dan 25 oed. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr lunio portread o unigolyn yr effeithiwyd arno gan yr Holocost, hil-laddiad, neu erledigaeth ar sail ei hunaniaeth. Dewisodd panel beirniadu arbenigol 30 o bortreadau i'w harddangos ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, a phump o'r ymgeiswyr buddugol yn dod o Gymru, sydd ar gael i'w gweld ar wefan Diwrnod Cofio'r Holocost erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i ddarparu'r rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Ers 2008, mae'r rhaglen wedi estyn cyfle i fyfyrwyr ledled Cymru ymweld ag Auschwitz-Birkenau a chlywed gan oroeswyr yr Holocost. Ar ôl dwy flynedd o'i chyflwyno ar ffurf rithwir, rwy'n falch y bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan wyneb yn wyneb eleni unwaith eto. Mae'r holl gyfranogwyr yn dod yn llysgenhadon ifanc ac fe ofynnir iddyn nhw barhau i rannu eu gwybodaeth ac annog eraill i gofio am yr Holocost. Bydd un llysgennad ifanc yn siarad yn seremoni genedlaethol Cymru ddydd Gwener.
Rydym ni'n croesawu adroddiad diweddar yr Arglwydd Mann ar fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn y DU. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru at ddatblygu'r adolygiad, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ef ar y mater pwysig hwn. Fel roedd Arglwydd Mann yn tynnu sylw ato yn ei adroddiad ef, mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost.
Mae hi'n bwysig bod ein system addysg yn arfogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu hanes, diwylliannau a thraddodiadau pobl eraill ynghyd â'u rhai eu hunain. Mae ein cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth a bod dysgwyr yn deall sut mae amrywiaeth wedi ffurfio Cymru fodern, drwy wneud dysgu am hanes, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol. Mae honno'n rhan allweddol o'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', sy'n ein hysgogi ni tuag at newid sy'n ystyrlon.
Mae'r Holocost yn ddarn hynod boenus a gofidus o hanes, ond mae'n ddarn o hanes na ddylem ni na chenedlaethau'r dyfodol anghofio amdano. Fe ddigwyddodd oherwydd naratifau rhwygol a chamddefnydd o awdurdod. Ni ddylem fyth â phallu yn ein hamddiffyniad rhag naratifau gwenwynig o'r fath sy'n parhau i fod yn bresennol heddiw.
Mae eleni yn nodi saith deg a phump o flynyddoedd ers Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae honno'n garreg filltir hanesyddol a phwysig i'r ddynoliaeth, a ddatblygwyd mewn ymateb i erchyllterau ac annynoldeb yr ail ryfel byd. Mae'r datganiad cyffredinol yn dweud:
'Caiff pob bod dynol ei eni â rhyddid a chydraddoldeb o ran urddas a hawliau.'
A bod yr hawliau hyn yn
'sylfaen i ryddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd'.
Mae hi'n werth cofio ffynhonnell yr ymagwedd hon mewn cyfnod o gynnydd yn y rhethreg yn fyd-eang yn erbyn hawliau dynol.
Felly, rwyf i am gloi'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith pwysig. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar iddyn nhw am ddodi gwersi hanes ger ein bron ac am ddal ati i wrthsefyll casineb a rhagfarn. Diolch yn fawr.
Mae gen i wyth Aelod sy'n dymuno siarad ynghylch datganiad heddiw, ac rwy'n gobeithio galw arnyn nhw i gyd. Felly, pe byddech chi'n sicrhau eich bod chi'n cadw at eich dyraniadau amser gyda'ch cyfraniadau, byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae dydd Gwener yn nodi saith deg wyth o flynyddoedd ers y diwrnod i Auschwitz, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid, gael ei ryddhau gan luoedd arfog Sofietaidd; llofruddiwyd 1.1 miliwn o bobl yn y gwersyll hwnnw, naw o bob 10 ohonynt yn Iddewon. Dyma pam y dewisir 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Pam rydym ni'n yn cofio'r Holocost hwn bob blwyddyn? Am fod hynny'n ein hatgoffa ni i ddysgu gwersi o'r gorffennol, a chofio am hanesion 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd a'r miliynau hynny o Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobl LHDT, pobl anabl a phobl ddu a gafodd eu llofruddio hefyd mewn gwersylloedd marwolaeth Natsïaidd. Dywedodd y byd, 'Byth eto', ond eto mae hil-laddiad wedi parhau i ddigwydd ers yr erchyllterau ofnadwy hynny a gyflawnwyd gan yr Almaen Natsïaidd.
Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein dysgu ni hefyd i gofio am y rhai a ddienyddiwyd yn hil-laddiadau Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, ond hyd yn oed ar ôl y digwyddiadau ofnadwy hyn i gyd, rydym ni'n methu â dysgu. Yn sobr o drist, yn yr unfed ganrif ar hugain mae hil-laddiad yn parhau i ddigwydd ledled y byd. Mae Mwslimiaid Rohingya yn cael eu lladd ym Myanmar, Mwslimiaid Uighur yn nhalaith Tsieineaidd Xinjiang yn cael eu rhoi mewn gwersylloedd crynhoi yn nwylo Plaid Gomiwnyddol Tsieina, ac efallai yn fwyaf trist, rydym ni'n gweld disgynyddion y milwyr arwrol a ryddhaodd Auschwitz yn 1945 yn cyflawni troseddau rhyfel ac, yn bur bosibl, hil-laddiad yn Wcráin. Ni all y byd eistedd yn ôl a chaniatáu i'r erchyllterau hyn ddigwydd.
Fe hoffwn i ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith amhrisiadwy wrth addysgu cenedlaethau'r dyfodol am yr Holocost ac am droseddau mwy diweddar yn erbyn y ddynoliaeth. Yn anffodus, nid pawb sy'n gwrando ar y gwersi hyn, ac rydym ni wedi gweld cynnydd trist iawn mewn gwrthsemitiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd hyn yn destun pryder mawr wrth ddarllen yr adroddiad annibynnol i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a oedd yn canfod bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi methu â herio yn ddigonol gwrthsemitiaeth a gelyniaeth tuag at yr Iddewon yn ein strwythurau ni ein hunain. Gweinidog, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal rhyngoch chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yma yng Nghymru ynglŷn â'r camau y maen nhw'n eu cymryd i ddileu gwrthsemitiaeth ar ein campysau prifysgol?
Fel gwnaethoch chi ei nodi yn eich datganiad, thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Pobl Gyffredin'. Mae hil-laddiad yn cael ei hwyluso gan bobl gyffredin. Wrth wylio achos llys Adolf Eichmann, fe fathodd un oroeswraig i'r Holocost yr ymadrodd 'cyffredinedd camwedd', sy'n golygu nad yw gweithredoedd drwg o reidrwydd yn cael eu gwneud gan bobl ddrwg. Yn hytrach, maen nhw'n digwydd o ganlyniad i bobl gyffredin sy'n ufuddhau i orchmynion. Gweinidog, sut mae cyfleu'r neges i bobl am gyfrifoldeb pawb i wrthsefyll casineb, a bod dyletswydd ar bob un ohonom ni i dynnu sylw at anghydraddoldebau?
Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad yr Arglwydd Mann a'r ffaith bod mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost. Rydych chi'n nodi yn gywir bod eleni yn nodi 75 mlynedd ers mabwysiadu Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. A ydych chi am nodi'r digwyddiad trwy gyflwyno eich Bil hawliau dynol chi i Gymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth i'r datganiad hwn, gan ein hatgoffa ni unwaith eto am yr ystadegau erchyll hynny ynghylch y niferoedd a laddwyd mewn gwersylloedd a'r erchyllter a welodd 6 miliwn o Iddewon, ond pobl y Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd. Roeddem ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn yr wylnos gannwyll—yn ddirdynol iawn heddiw, ac yn drawsbleidiol—a gynhaliwyd gan Julie Morgan, fel mae hi'n ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan glywed hefyd oddi wrth ein cymuned ni o Deithwyr yma yng Nghymru, ond gan gydnabod y ffaith hefyd fod pobl anabl wedi cael eu lladd—Aktion T4, nid anghofiwn am hynny—a phobl LHDTQ+, ond yn ein hatgoffa ni o'r hil-laddiadau eraill ledled y byd hefyd.
Pobl gyffredin yw'r thema, ac fe hoffwn i ymateb i'ch pwynt chi am UCM a'r prifysgolion. Fe wnaeth y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg gwrdd â chyn-lywydd UCM Cymru'r llynedd. Cynhaliodd gyfarfod rhagarweiniol gyda llywydd newydd UCM Cymru ym mis Hydref. Ond fe gwrddodd â'r Arglwydd Mann hefyd—rydych chi wedi sôn, wrth gwrs, am yr adroddiad ar wrthsemitiaeth—ymgynghorydd Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth. Fe wnaeth ef gwrdd y llynedd ag ef i drafod y gwaith a chodi ymwybyddiaeth o wrthsemitiaeth. Bu mewn cyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr Iddewig ym mis Chwefror hefyd, ac fe drafododd brofiad myfyrwyr Iddewig mewn addysg uwch. A chydnabod hefyd ein bod ni'n disgwyl, gan UCM—. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu yn rheolaidd yn hyn o beth, ond rydym ni'n disgwyl, o ran yr ymchwiliad a'r adroddiad dilynol i wrthsemitiaeth, bod ag ymgysylltiad agored a thryloyw â nhw.
Rwy'n dymuno gorffen trwy ddiolch yn fawr iawn i chi am gydnabod bod hyn yn ymwneud â hawliau dynol, ac yn ymwneud â dysgu'r gwersi. Mae coffáu'r Holocost mor bwysig i sicrhau nad ydym ni'n anghofio, fyth yn anghofio, pa mor beryglus y gall casineb o naratifau rhwygol fod a beth sy'n gallu digwydd pan fydd pobl a chymunedau yn cael eu targedu a'u annynoli oherwydd eu hunaniaethau. Rwy'n croesawu yn fawr—ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei groesawu gan eich cydweithwyr chi—Bil hawliau dynol i Gymru.
Rwy'n sicr yn adleisio'r alwad honno, Gweinidog. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ei neilltuo i gofio'r rhai a gafodd eu herlid a'u lladd am eu bod nhw ar y cyrion a'u gwneud yn wrthun gan rai a oedd mewn awdurdod. Mae thema Diwrnod Cofio'r Holocost, sef pobl gyffredin, yn un sydd â llawer i'n haddysgu ni heddiw, fel rydych chi wedi sôn, yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru. Oherwydd er bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn sicrhau ein bod ni'n cofio pobl, pobl gyffredin, sydd wedi dioddef erchyllterau, a thystio i'r fath annynoldeb, mae hynny hefyd yn mynnu, wrth wneud hynny, ein bod ni'n dwyn y ffaith i gof mai pobl gyffredin a achosodd yr erchyllterau hynny hefyd, gan fynd gyda llif rhagfarn, celwyddau, casineb a gweithredoedd ffiaidd o drais. Mae'n ein gorfodi ni i wynebu'r hyn sy'n arwain at gasineb o'r fath, yr hyn sydd wedi hwyluso'r fath erchyllterau bryd hynny ac yn yr oes bresennol. Dywedodd yr awdur a'r goroeswr i'r Holocost, Primo Levy, yn ei lyfr The Reawakening:
'Mae angenfilod yn bodoli, ond maen nhw'n rhy ychydig mewn nifer i fod yn wirioneddol beryglus. Yn fwy peryglus yw'r bobl gyffredin, y swyddogion sy'n barod i gredu a gweithredu heb holi cwestiynau.'
Sut ydym ni am sicrhau bod y cwestiynau hynny'n cael eu holi bob amser yng Nghymru? Yn ei hadroddiad ar achos llys troseddau rhyfel Adolf Eichmann, yn enwog iawn, fe alwodd yr athronydd Hannah Arendt Eichmann, sef un o swyddogaethau'r peirianwaith Natsïaidd, yn 'frawychus o normal'. Fe ddaeth hi i'r casgliad yn ei hastudiaeth enwog a ddilynodd, 'Eichmann yn Jerwsalem: A Report on the Banality of Evil', bod ei gamwedd ef yn deillio o'i
'anallu i feddwl o safbwynt rhywun arall'.
Felly, roedd hi'n awgrymu, fe all unigolyn, ac felly rai sy'n gweinyddu Llywodraeth neu sy'n gweithredu ar ran gwladwriaeth, wneud drwg heb fod yn gynhenid ddrygionus yn ei hanfod. Y diffyg hwnnw o gydymdeimlad, sef y gallu i weld pobl eraill yn llai gwerthfawr, i ymwrthod â dynoliaeth gyffredin pobl, yw'r hyn y mae'n rhaid i ni ei ochel yn ei erbyn drwy'r amser yn y gymdeithas, yn y Llywodraeth ac yn y cyfryngau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi felly fod tosturi a chydymdeimlad gyda rhai sy'n frodyr a chwiorydd i ni'n hollbwysig a'i bod hi'n rhaid mynegi tosturi a chydymdeimlad y Llywodraeth drwy'r iaith y mae hi'n ei defnyddio a'i gweithgarwch? O ystyried eich sylwadau chi ynglŷn â rhethreg yn erbyn hawliau dynol, Gweinidog, a ydych chi felly hefyd yn cytuno bod angen i ni ddatganoli rhagor o bwerau oddi wrth San Steffan i sicrhau bod ein nod ni o fod yn genedl noddfa yn cael ei wireddu?
Yn ddiweddar, rhododd Freedom from Torture, elusen eiriolaeth ar gyfer goroeswyr artaith, fideo ar-lein yn dangos goroeswraig i'r Holocost, Joan Salter, yn wynebu rhethreg annynol Ysgrifennydd Cartref y DU, Suella Braverman, ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gan ddyfynnu geiriau fel 'heidiau' ac 'ymosodiadau', fe ofynnodd Ms Salter gwestiwn pwysig iawn i'r Ysgrifennydd Cartref:
'Rwy'n cael fy atgoffa o'r iaith a ddefnyddir i annynoli a chyfiawnhau llofruddiaeth aelodau o fy nheulu i a miliynau o bobl eraill. Pam ydych chi o'r farn fod angen defnyddio iaith o'r fath?'
Eto i gyd, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd ganddi. Wrth i ni nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yr wythnos hon, a wnewch chi, Gweinidog, achub ar y cyfle hwn i ymuno â mi a fy mhlaid i gondemnio ar goedd y rhethreg a ddefnyddiodd yr Ysgrifennydd Cartref i ddisgrifio pobl, pobl gyffredin, sy'n ffoi rhag amgylchiadau anghyffredin ac yn chwilio am noddfa, a'r geiriau awgrymog megis y sylwadau ynghylch cychod bach a wnaeth rhai yn y blaid Dorïaidd yn San Steffan ac, ysywaeth, rai sy'n eistedd yn y Siambr hon?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. A gaf i ddiolch unwaith eto am eich datganiad grymus yn ogystal â'ch cwestiynau a'ch cefnogaeth chi i'r datganiad hwn heddiw? Fel rydych chi'n dweud, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; fe ddechreuodd gydag erydiad graddol o hawliau dynol a rhethreg rwygol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol, a oedd yn cael eu hystyried yn wahanol i bobl eraill. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â'r ymrwymiad yr ydym ni'n ei roi yn Llywodraeth Cymru—ac fe ddylai gael ei hybu a'i ddatgan ar draws y Siambr hon—ein bod ni'n dymuno diddymu gwaradwydd a chasineb a sicrhau bod pobl yn teimlo yn ddiogel. Rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf hyn o ran gwaith Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn hanfodol o ran sicrhau bod hynny'n sail nid yn unig i ni yn Llywodraeth Cymru ond drwy ein gwasanaethau cyhoeddus ni i gyd, yn wir ar bob sector ac agwedd o'n bywyd. Felly, rwy'n falch iawn bod yr awdurdodau a sefydliadau lleol hyn i gyd yn cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfathrebu ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yn ymuno yn y foment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch'.
Yn gryno iawn, fe hoffwn i ddweud pa mor bwysig yw hi ein bod ni wedi ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ers 2008 i gynnal rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru, fel gŵyr llawer ohonoch chi, gan eich bod chi wedi cwrdd â disgyblion sydd wedi bod â rhan wirioneddol yn hynny. Eleni nawr maen nhw'n gallu bod â rhan bersonol ynddi mewn gwirionedd. Yn 2023, bydd prosiect Gwersi o Auschwitz yn cael ei gynnal ym mis Chwefror a mis Mawrth gyda 110 o ddisgyblion o 55 o ysgolion yng Nghymru wedi ymrwymo eisoes. Bydd hynny'n cynnwys chwe ysgol sydd â rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf—y prosiect wyneb yn wyneb cyntaf yng Nghymru ers y pandemig. A hefyd, mae'r prosiect ar-lein yn cynnwys 131 o ddisgyblion o 43 o ysgolion.
O ran y pryder yr ydych cyn ei fynegi am ddatganiadau gan yr Ysgrifennydd Cartref yn ôl ym mis Rhagfyr, fe godais i'r mater hwn y bore yma mewn tasglu lloches a ffoaduriaid yr oeddwn i'n ei gadeirio, ac roedd swyddog o'r Swyddfa Gartref yn bresennol. Fe godais i'r pryderon ar ein rhan ni yn Lywodraeth Cymru, ac mae eich cefnogaeth chi'n werthfawr ynglŷn â'r rhethreg ac am yr effaith a gaiff hynny ar fywydau pobl. Beth mae hyn yn ei olygu i ni fel cenedl noddfa? Mewn gwirionedd mae'n mynd yn gwbl groes i bopeth yr ydym ni'n ei gredu. Mewn gwirionedd, fe ysgrifennais i at y Gweinidog, Robert Jenrick, ynglŷn â hyn hefyd. Felly, diolch i chi am y pwyntiau hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r pwyllgor cynghori ar hawliau dynol, gan edrych tuag at ein galluogi i—. Rydym ni wedi sefydlu'r grŵp cynghori newydd hwn ar hawliau dynol. Rydych chi'n cadeirio grŵp hawliau dynol trawsbleidiol pwysig iawn hefyd er mwyn i ni allu symud tuag at sicrhau ein deddfwriaeth ni o ran Bil hawliau dynol. Yn hyn o beth, mae pryderon enfawr gennym ni ynglŷn â Bil Hawliau Llywodraeth y DU, sy'n ceisio diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hyn yn gyfan gwbl groes i'r hyn yr ydym ni am fwrw ymlaen ag ef o ran ein hymrwymiad ni yng Nghymru, rwy'n credu, yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n diolch am eich cefnogaeth chi gyda'r mater hwn.
Rwy'n cytuno â geiriau'r Arglwydd Mann bod mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost. Fodd bynnag, fe fyddai hi'n gamgymeriad i ni feddwl nad oes gwaith aruthrol i'w wneud eto o ran cael disgrifiad llawn o ba bethau yn union a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost a'r pethau a gafodd eu cuddio wedyn. Cafwyd polisi bwriadol wedi'r ail ryfel byd o dynnu gorchudd dros derfysg y Natsïaid yng ngorllewin yr Almaen. Roedd fy ewythr yn gyrnol yn y fyddin feddiannol, ac fe ddywedodd ef wrthyf i, gyda pheth manylder, am yr holl Natsïaid na chafodd eu rhoi ar brawf ond yn hytrach a gafodd eu gwahodd i ailgydio yn eu swyddogaethau fel gweinyddwyr, barnwyr, ac yn heddweision yn y weinyddiaeth newydd wedi'r rhyfel. Mae gan gyfeillion i mi o dras Almaenig-Iddewig, sydd wedi ymchwilio i'r gorffennol, lawer iawn o straeon i'w hadrodd am y rhai ohonyn nhw a lwyddodd i ffoi o'r Almaen. Ond mae'n rhaid i ni gofio am y rhai na lwyddodd i gyrraedd yma—yr holl Kindertransport y gwrthodwyd eu mynediad i'r wlad hon—yn hytrach na dim ond cofio am y rhai yr ydym ni'n falch o allu dweud ein bod ni wedi eu derbyn. Mae gennym ni gymaint o waith i'w wneud eto o ran ystyried ein rhan ni ein hunain. Beth oeddem ni'n ei wybod am y gwersylloedd crynhoi a beth allem ni fod wedi ei wneud i fomio'r rheilffyrdd a oedd yn cludo pobl i'w tranc? Felly, Gweinidog, tybed pa sgyrsiau y gallech chi fod wedi eu cael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau nad yw'r Holocost fyth yn cael ei anghofio a'n bod ni'n myfyrio ar ymagwedd o'r newydd, bwrw golwg o'r newydd ar y pethau y mae gwir angen i ni gofio amdanyn nhw, oherwydd os anghofiwn ni, fe fyddwn, yn syml, yn ailadrodd hanes.
Diolch yn fawr iawn wir, Jenny Rathbone, am gydnabod bod cymaint wedi cael ei guddio, cymaint yn ein cenhedlaeth ni—mewn gwirionedd, mewn llawer o hanesion teuluol ar draws y Siambr hon. Mae angen i ni edrych o'r newydd ar yr hanes hwnnw.
Efallai fydd rhai Aelodau wedi cael cyfle—os na chawsoch chi, fe fyddwn i'n ei argymell—i wylio How the Holocaust Began, sef y ffilm a ddarlledwyd neithiwr a gyflwynwyd gan James Bulgin. Roedd hi'n ymwneud â'r erchyllterau a arweiniodd at yr Holocost. Unwaith eto, mae'n dirwyn hanes y pethau a arweiniodd at yr Holocost—yr ideoleg wenwynig a gafodd ei ddatblygu fel bod pobl gyffredin yn bradychu eu cymdogion. Arweiniodd hyn i gyd at sefydlu'r gwersylloedd oherwydd roedd saethu tyrfaoedd o bobl yn mynd yn rhy anodd ei gynnal—pobl Iddewig yn cael eu llofruddio. Rwyf i wedi crybwyll T4 o ran pobl anabl. Rwy'n credu mai un o'r pethau erchyll a gafodd ei ddweud yw eu bod nhw'n cyfeirio at bobl anabl fel 'bywydau anhaeddiannol o fywyd'.
Fe allaf i eich sicrhau chi ein bod ni'n cymryd adroddiad yr Arglwydd Mann o ddifrif, ond mae hyn yn ymwneud â'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran yr hanes hwnnw. Fe fyddwn i'n dweud bod hynny'n bwysig iawn, rwy'n credu, gyda'r cyfleoedd newydd gyda'r cwricwlwm. Mae amrywiaeth yn thema drawsbynciol yng nghwricwlwm Cymru. Rydym ni wedi arwain y ffordd hefyd o fod y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud hi'n orfodol i addysgu hanesion, cyfraniadau a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o stori Cymru yn y cwricwlwm, gyda chanllawiau statudol sy'n ei gwneud hi'n eglur iawn o ran y cyfleoedd i'n dysgwyr, ond hefyd ar gyfer helpu ein proffesiwn addysgu hefyd o ran amrywiaeth a dysgu proffesiynol ynghylch gwrth-hiliaeth. Ac fe fydd hyn, wrth gwrs, o gymorth gydag ehangu ein dealltwriaeth ni o'r hyn y mae hanes yn ei olygu mewn gwirionedd—hanes byw—i'n dysgwyr ni yng Nghymru.
Mae hi mor anodd, onid yw hi, siarad am hyn, ac, eto, mae hi'n gwbl hanfodol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n dwyn y digwyddiadau hyn i gof, y digwyddiadau erchyll hyn, a ddylai dreiddio drwy ein bywydau ni, ac ni ddylem fyth â'u hanghofio. Un peth na wnaf i fyth mo'i anghofio yw sefyll yn Kigali yn Rwanda, ar y safle lle claddwyd 125,000 o bobl. Mae hi'n anodd dychmygu bod pobl gyffredin yn Rwanda, mewn cyfnod o ddim ond 100 diwrnod, wedi gweld Hutus yn cael eu llofruddio gan Tutsis—llofruddiwyd 800,000, ac fe safodd y byd cyfan i'r naill ochr heb wneud dim o gwbl.
Rwyf i wedi gweithio gyda ffoaduriaid, ac rwyf i wedi gwirfoddoli yn Calais. Fe wn i pa mor bwysig yw'r ieithwedd yn ein trafodaethau ni, ac rwy'n cysylltu fy hun â'r holl sylwadau a wnaethpwyd ynghynt, yn enwedig y sylwadau a wnaeth Sioned o ran ieithwedd ein Gweinidogion Ceidwadol. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae'n rhaid i ni ystyried ein hieithwedd ni. Mae'n rhaid i ni beidio â galw pobl yn 'fudwyr'; pobl ydyn nhw—maen nhw'n bobl sy'n chwilio yn ddyfal am ffordd amgen o fyw. Ac, ym mhopeth a wnawn ni, mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddigwyddodd yn yr Holocost. Mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddigwyddodd dros y blynyddoedd mewn gwledydd ledled y byd, ac mae'n rhaid inni bob amser herio'r hyn sy'n digwydd heddiw yn y wlad hon, oherwydd mae hynny'n ymwneud ag iaith, mae'n ymwneud â herio anghyfiawnder, a herio casineb. Diolch am eich sylwadau chi, a diolch am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Ac mae hi mae mor anodd, ond mor hanfodol, fel dywedwch chi. Ac roeddwn i'n dymuno ymateb hefyd i'r pwynt sy'n dilyn yr hyn a ddywedodd Sioned am gryfder a dewrder pobl sydd wedi lleisio eu pryderon. Ac rwy'n credu bod y ffaith i Joan Salter gael ei ffilmio yn wynebu'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, ym mis Ionawr, oherwydd yr iaith a ddefnyddiwyd i ddisgrifio ffoaduriaid—. Ac fe ddywedodd Joan Salter wrth yr Ysgrifennydd Cartref,
'Pan fyddaf i'n eich clywed chi'n defnyddio geiriau am ffoaduriaid fel "heidiau" ac "ymosodiad", rwy'n cael fy atgoffa o'r iaith sy'n cael ei defnyddio i annynoli a chyfiawnhau llofruddiaethau fy mherthnasau i a miliynau o bobl eraill'.
Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi hynny ar gofnod heddiw.
Rwy'n ddiolchgar iawn o gael cyfle i gyfrannu at y datganiad heddiw ac ymateb iddo. Fel nodwyd eisoes, mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod yr ydym ni'n cofio am bob un o'r bywydau hynny a gollwyd yn yr Holocost yn drist iawn. Am mai'r thema eleni yw 'pobl gyffredin', mae hi'n werth cofio am y bobl gyffredin hynny a phwy oedden nhw. Roedd tua chwe miliwn o Iddewon, hanner miliwn o bobl Romani, 270,000 o bobl anabl a hyd at 15,000 o bobl LHDT, a llawer o rai eraill o lawer o wahanol grwpiau, yn ddioddefwyr—pob un yn unigolyn cyffredin a aeth i'w dranc dan law drygioni o'r mwyaf.
Yn ddisgybl yn yr ysgol, fe gefais i'r cyfle i fynd ar daith gyda fy nghyfoedion i ymweld â gwersylloedd crynhoi a marwolaeth Auschwitz-Birkenau—profiad a fydd yn byw gyda mi am weddill fy nyddiau. Ni allai edrych ar unrhyw ffilm na darllen unrhyw lyfr greu cymaint o argraff na gweld y safle drosom ni ein hunain lle'r oedd cymaint o bobl gyffredin wedi dioddef a marw oherwydd eu hil, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir crefyddol. Gwnaeth y daith honno gymaint o argraff arnaf i fel fy mod o'r farn ei bod hi'n hanfodol i eraill ymweld a dysgu yn uniongyrchol am yr hyn a ddigwyddodd, oherwydd, wrth i bob blwyddyn fynd heibio, mae'r rhai sydd wedi goroesi'r Holocost yn cael eu colli i ni yn anffodus wrth iddyn nhw farw.
Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, os ydych chi'n barod i weithio gyda mi, a sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, i sefydlu ymweliad trawsbleidiol ag Auschwitz-Birkenhau cyn diwedd y chweched Senedd, i roi'r un cyfle a gefais i 15 mlynedd yn ôl i'n cydseneddwyr ni yng Nghymru. Diolch.
Diolch. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei—? Wel, mae e'n dystiolaeth heddiw o'r effaith a gafodd y profiad arnoch yn berson ifanc yn tyfu fyny yng Nghymru. Ac roedd hwnnw'n gyfraniad grymus iawn i'r datganiad y prynhawn yma.
Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith bod hyn wir yn symud ymlaen yn 2023, o ran ein hymweliadau, yn ôl yn bersonol, o ran prosiect Gwersi o Auschwitz Cymru. Ac mae hi'n bwysig bod hyn—. Wrth edrych ar y prosiect Gwersi o Auschwitz, lle byddech wedi elwa ar gwrs unigryw sydd mewn pedair rhan, gyda dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl a'r prosiect camau nesaf. Mae hi'n daith o ddysgu ac archwilio am hanes yr Holocost a'r byd yr ydym ni'n byw ynddo. Ond, hefyd, mae'r ffaith y byddwch chi, rwy'n siŵr nawr, bob amser yn llysgennad ar hyd eich oes, yn llysgennad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel dywedais i, y bydd person ifanc, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, Penywaun, yn cymryd rhan yn y seremoni ar ddiwrnod y cofio, ddydd Gwener. Felly, yn sicr fe fyddwn i'n hapus iawn i ystyried y cynnig hwnnw. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, ein bod ni'n ymuno ar draws y Senedd o ran ein cefnogaeth. Ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad yfory, sydd, wrth gwrs, yn cael ei gynnal yn drawsbleidiol, gan Jane Dodds, Darren Millar, Jenny Rathbone, a Llŷr Gruffydd hefyd. Ac fe wnawn ni'n siŵr, unwaith eto, ein bod ni'n mynegi'r gefnogaeth honno, rwy'n siŵr, yn y digwyddiad hwnnw, ac yn cael clywed tystiolaeth bersonol gan un oroeswraig, yn wir.
Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, fel mor aml, fe fyddaf i'n meddwl am Zigi Shipper, un a oroesodd Auschwitz, a fu farw'r wythnos ddiwethaf, ar ei ben-blwydd yn naw deg a thair oed. Fe gefais i'r fraint o gyfarfod â Zigi yn San Steffan, ac fe'i clywais ef yn siarad, nid yn unig am yr erchyllterau a wynebodd ef yn ystod y cyfnod hwnnw, pan ganiatawyd i gasineb dyn at fodau dynol eraill goncro pob ymdeimlad arall o'i ddynoliaeth, ond hefyd am y bywyd bendigedig yr oedd ef wedi ei fyw yn y blynyddoedd ers hynny, oherwydd roedd lwc wedi caniatáu iddo oroesi. Roedd ei stori ef yn fy llorio i, a phan oeddwn i'n ymadael â'r ystafell, fe afaelodd yn fy llaw i, a dywedodd, 'Fe sylwais i eich bod chi'n wylo. Pam ydych chi'n wylo? Rwyf i mor hapus'. Gweinidog, rwy'n gofidio, wrth i fwy o oroeswyr ymadael â'r bywyd hwn, y gellid colli uniongyrchedd eu tystiolaeth nhw, y gellid gwanio'r cysylltiad uniongyrchol hwnnw sy'n ein hatgoffa ni o ganlyniadau casineb dilyffethair. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, os gwelwch chi'n dda, i gynnal y dystiolaeth honno, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocaust ac eraill, i addysgu nid yn unig plant yn yr ysgol ond rai yn eu hoed a'u hamser hefyd ynghylch pa mor hawdd yr oedd hi i fodau dynol lithro i'r hyllter hwnnw, a pha mor hawdd y gallai hynny ddigwydd eto?
Diolch yn fawr iawn i chi am ein hatgoffa ni am y gŵr hwnnw a oroesodd yr holocost, a wnaethoch chi gyfarfod ag ef yn Nhŷ'r Cyffredin, a fu farw'r llynedd. Ac fel dywedais i, mae hi'n anrhydedd i ni gael cyfarfod a chlywed oddi wrth oroeswraig yfory, ac, yn wir, yn ystod y coffáu cenedlaethol hefyd. Dyma pam mae'r digwyddiad hwn, y diwrnod hwn a'r datganiad hwn mor bwysig—nid peth untro ydyw; mae hyn yn ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n byw. Rwy'n credu bod hyn yn mynd â ni'n ôl at y pwynt a wnaeth Sioned Williams—sef bod hwn yn brawf ein bod ni'n gymdeithas dosturiol.
Rwyf i am ymdrin yn gryno iawn ynglŷn â'r ffaith mai ni sy'n ariannu canolfan cymorth casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Victim Support Cymru. Ac mae hi'n bwysig iawn bod y ganolfan honno'n ymestyn allan mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â throseddau casineb, ac yn arbennig felly, yn canolbwyntio ar ymgyrch gyfathrebu gwrth-gasineb, a fydd, wrth gwrs, yn rhedeg gydol y flwyddyn eleni, o'r enw Mae Casineb yn Brifo Cymru. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cyfleu'r neges honno. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith yr Arglwydd Mann, o ran mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn y DU. Rwy'n credu, nawr, mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw cysylltu rhwng, ie, yr adroddiad pwysig hwnnw, ond sefyll wedyn dros yr hyn yr ydym ni'n ei gredu yng Nghymru o ran y bobl yr ydyn ni'n eu croesawu i Gymru—gan fynd yn ôl at bwynt Jane: dyma'r bobl yr ydym ni'n eu croesawu nhw i Gymru. Ac mae'n rhaid adlewyrchu hynny, nid yn unig gydag addysg, mae'n rhaid adlewyrchu hynny yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud, nid yn unig o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, nid yn unig o ran addysg a chefnogi'r ymddiriedolaeth, ond yn ein gwaith ni hefyd i ddatblygu, cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad hi'r prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'r undod trawsbleidiol a welwn ni ar y pwnc hwn. Rwy'n falch ei bod hi wedi cyfeirio at raglen gan y BBC neithiwr, How the Holocaust Began, oherwydd rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig i ni ddeall—sut yr oedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr ac yn gyflawnwyr yn yr Holocost. Ac rwy'n credu i'r rhaglen honno olrhain datblygiad hil-laddiad yn yr ail ryfel byd a chyn yr ail ryfel byd, ac ailfynegi hanes y mae angen i ni wybod amdano a'i ddeall. Rwyf innau wedi bod yn dyst i hil-laddiad ddwywaith yn fy mywyd i: yn Rwanda ac yn yr hen Iwgoslafia, ac rwy'n credu bod hynny'n creu ymwybyddiaeth wirioneddol iawn o sut y gall drygioni fod bob amser yn bresennol, ac nad oedd yr hyn a ddigwyddodd yn y 1940au yn bennod unigryw o ddrygioni, ond mae hynny'n rhywbeth sy'n gallu bod rownd y gornel, hyd yn oed yn yr oes bresennol.
Gweinidog, rydym ni'n colli'r genhedlaeth a dystiodd i'r Holocost a'r ail ryfel byd; rydym ni'n colli'r cyswllt dynol, y cysylltiad dynol gyda gwersylloedd marwolaeth yr Ail Ryfel Byd; ac rydym ni'n colli tystiolaeth y bobl hynny, y lleisiau sy'n gallu siarad yn uniongyrchol â ni. A'r hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi'r prynhawn yma yw: sut y gallwn ni, yng Nghymru heddiw, sicrhau bod pobl ifanc sy'n tyfu i fyny, yn arbennig felly, yn deall dwyster yr hyn a ddigwyddodd dros 70 mlynedd yn ôl? Fe hoffwn i ein gweld ni'n archwilio ffyrdd i alluogi pobl ifanc i ymweld ag Auschwitz i ddeall anferthedd yr hyn a ddigwyddodd yno, ond bod yr Holocost yn rhan o'r cwricwlwm hefyd, lle gall pobl gael deall nid yn unig am y manylion technegol a'r niferoedd, ond effaith ddynol hil-laddiad Iddewon a phobloedd eraill yn Ewrop, er mwyn i ni obeithio y bydd y bobl sy'n cael eu haddysg heddiw yng Nghymru, er y byddan nhw wedi colli'r cysylltiad dynol, yn meddu ar y ddealltwriaeth ddynol honno o hil-laddiad ac o'r hyn y gwnaeth yr Holocost i bob un ohonom ni heddiw.
Diolch yn fawr, Alun Davies. Diolch i chi, unwaith eto, am dynnu sylw at thema arbennig pobl gyffredin: y dioddefwyr a'r cyflawnwyr, a fynegwyd mor eglur yn y darllediad hwnnw neithiwr. Ond, hefyd, rydym ni wedi gweld hynny ym mhob hil-laddiad; a'i weld, fel soniwyd am hynny, yn Rwanda, a'r profiad a gafodd Jane Dodds. Diolch i chi am rannu eich profiad personol o effaith hil-laddiad eich hun, yn unigol. Rwy'n credu mai dyma lle—nid wyf am ailadrodd fy hun o ran y gwaith a wnawn ni gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocaust. Mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â blaenoriaethau, on'd yw e? Mae hyn yn ymwneud ag ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ers 2008, ac rwy'n cofio cydnabod, pan oeddwn yn Weinidog Addysg ar y pryd, pa mor bwysig yr oedd hi, hyd yn oed mewn cyllideb dan bwysau mawr, i honno fod yn flaenoriaeth bwysig. Oherwydd, mewn gwirionedd, fel rydych chi'n dweud, Alun, mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu i'n plant, beth maen nhw'n ei ddysgu a beth yw'r cyfleoedd sydd gennym ni gyda'r cwricwlwm newydd. Ac fe fyddaf i'n rhannu gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg y ffaith fy mod i'n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig i'w ddysgu, a'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud nhw ynglŷn â'r prosiect dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Mae hwnnw'n cael ei ysgogi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a rhwydwaith BAMEed Cymru. Mae angen sicrhau y gallwn ni groesawu'r ddealltwriaeth ehangach hon o'r hanes, ac fe wn i y bydd pobl ifanc yn elwa ar yr wythnos hon wrth iddyn nhw glywed hanesion gan yr ychydig rai a oroesodd sydd ar ôl.
Ac, yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Mae camwedd aruthrol yr Holocost yn parhau i fod yn rhy ddyrys i'w amgyffred. Rwyf innau hefyd wedi cael yr anrhydedd a'r fraint o siarad â nifer o oroeswyr yr Holocost erbyn hyn: plant, pobl, bodau dynol, a roedd ac mae'n parhau i fod yn gamwedd o'r fath waethaf. Mae nifer o Aelodau wedi siarad ynghylch erchyllterau hil-laddiad Rwanda, ond fe hoffwn i ddatgysylltu fy hunan hefyd oddi wrth sylwadau'r Ysgrifennydd Cartref ynghylch 'heidiau'.
Peth grymus yw mai'r thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost yw pobl gyffredin. Mae hi'n rhy gyfleus ac yn rhy gyfforddus i ni ein twyllo ni ein hunain mai'r hyn a achosodd erchyllter yr Holocost oedd grŵp eithafol ac annormal o gefnogwyr gwleidyddol, ac, fel roedd y rhaglen ddogfen gymhellol ar BBC2 gan James Bulgin yn ei ddangos, yr hyn sy'n achos gwir arswyd i'r ddynoliaeth gyfan yw parodrwydd dynion a menywod cyffredin i fod â rhan yn y camwedd hwnnw: proses o annynoli pobl, derbyn casineb, defnydd o iaith gan wleidyddion a phobl yn llyncu propaganda. Un o'r golygfeydd mwyaf ysgytwol a gyflwynwyd yn y rhaglen ddogfen oedd ffilm gartref milwr o'r Almaen, a oedd yn dangos dynion yn cael eu taflu i ffos yn Lithwania cyn cael eu saethu, ond y cyfan yn digwydd o flaen tyrfa fawr a ddaeth yno i wylio, a oedd yn ysu am gael gweld. Wrth sylwebu ar hyn, fe ddywedodd Bulgin, 'Mae hi bron fel pe bai saethu Iddewon wedi mynd yn rhywbeth i'w wylio fel chwaraeon'—roedd mor wirioneddol arswydus i'w wylio, wyth degawd wedi'r digwydd. Ac fe efelychwyd y golygfeydd erchyll hyn hefyd yn yr Unol Daleithiau a'r Holocost, a oedd yn dangos lluniau i ni o dyllau yn y ddaear yn llawn o rai a saethwyd yn gelain, menywod noeth a babanod, a'r rhai a oedd yno'n helpu ac yn ffilmio yn chwerthin wrth i'r plant gael eu dienyddio. Felly, Gweinidog, beth all Llywodraeth Cymru a chymdeithas wâr ei wneud i sicrhau na fydd cenedlaethau'r dyfodol fyth yn anghofio'r fath arswyd a drygioni? Pa wersi mae hyn yn eu dysgu i ni am rym unigolion i effeithio ar ein brodyr a'n chwiorydd ni er gwell neu er gwaeth?
Diolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad. Mae'n gyfraniad—. Mae pawb a siaradodd wedi cael eu symud gymaint gan y ffaith ein bod yn gwneud y datganiad hwn, a dwyn i gof holl erchylltra'r Holocost. Ddylen ni byth anghofio hynny. Mae'n ymwneud â'r bobl gyffredin hynny, ac mae'n rhaid i ni wylio'r rhaglenni hynny—mae'n rhaid i ni ddysgu ganddyn nhw. A hefyd mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn beth hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Wna i ailadrodd eto beth rwyf wedi ei ddweud am y cyfleoedd drwy addysg, drwy ein rhaglenni cydlyniant cymunedol, ein rhaglenni gwrth-gasineb hefyd. Ond hefyd mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni wedi sôn wrth Lywodraeth y DU, yn enwedig nid am iaith yn unig, ond Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022—y gwir amdani yw ei bod yn wrthbwynt llwyr i'n cenedl noddfa a nod cyffredinol Llywodraeth Cymru yw cael Cymru sy'n fwy cyfartal—a gwahaniaethu ffoaduriaid trwy sut maen nhw'n cyrraedd yma. Mae'n rhaid i ni hefyd barhau, a byddwn ni'n gwneud fel Llywodraeth, ac mae llawer ohonom ni o amgylch y Siambr hon yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, i fod yn glir iawn beth rydym ni'n ei gredu a'r hyn rydym ni'n ei olygu wrth genedl noddfa, a, gobeithio, yn dod â ni at ein gilydd o ran deall yr hanes. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud diolch, Altaf Hussain, am ddechrau'r prynhawn yma gyda'r cyfraniad pwerus yna, oherwydd rwy'n credu bod hynny wir wedi dangos bod llawer sy'n ein huno ar y materion hyn.
Diolch, Weinidog.