Cwmni 2 Sisters Food Group

4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? TQ720

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:55, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Cyfarfu'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a minnau ag arweinydd yr awdurdod lleol y bore yma, ar ôl inni gael gwybod am y newyddion hynod siomedig hwn. Rwy’n cydnabod y bydd yn peri gofid i aelodau’r gweithlu. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad â’r cwmni i geisio deall goblygiadau’r datganiad a wnaed heddiw, ac i gynnig unrhyw gymorth y gallwn ei roi i’r gweithlu yr effeithir arno gan y cyhoeddiad y bydd y ffatri’n cau yn ôl pob tebyg.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch am yr ateb yna. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint o ergyd fyddai hyn pe bai'r ffatri'n cau. Mae dros 700 yn gweithio yno, yng nghalon Môn. Mae cyfran uchel iawn yn byw yn lleol iawn, yn ddigon agos i gerdded i'r gwaith. Mi fyddai colli'r swyddi'n treiddio drwy holl gymuned Llangefni a thu hwnt, a dwi'n meddwl am bawb sy'n cael eu taro gan hyn, yn weithwyr a'u teuluoedd, ac, wrth gwrs, dwi'n nabod sawl un yn dda.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:56, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rhoddwyd rhestr hir o resymau am y penderfyniad i mi gan brif weithredwr 2 Sisters: Brexit, chwyddiant, prinder gweithlu, COVID, prisiau ynni. Roedd yna elfennau'n ymwneud â chyflwr, maint a lleoliad y ffatri ei hun hefyd, meddai. Ond gallwn weld bod y ffactorau trosfwaol hynny'n rhai sydd o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid inni edrych at Lywodraeth y DU am ymateb yma hefyd. Rwyf wedi siarad â Chyngor Sir Ynys Môn y bore yma. Gwn eich bod wedi siarad â hwy hefyd, ac edrychaf ymlaen at weld pob un ohonom yn dod at ein gilydd yn y dyddiau nesaf.

Ac ydym, rydym yn galw am gymorth Llywodraeth Cymru ym mhob ffordd bosibl, gan geisio osgoi colli swyddi, neu golli cyn lleied â phosibl o swyddi, ac wedi hynny, yn y senario waethaf, heb os, bydd cynnig i sefydlu tasglu. Dywedodd Prif Weinidog y DU amser cinio fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau weithdrefnau y gall eu rhoi ar waith. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir yma: gyda mater mor fawr, gyda'r amseriad, gydag ymgynghoriad i gau mewn ychydig wythnosau, gan adael fawr ddim amser i chwilio am ddewisiadau amgen, bydd arnom angen mwy o lawer na thasglu ac ailhyfforddi staff i chwilio am gyfleoedd eraill. Mae arnom angen swyddi. Mae arnom angen buddsoddiad mewn busnesau lleol i dyfu yn y sector bwyd, ym maes ynni. Mae arnom angen cymorth i fusnesau gyda chostau ynni. Ac mae angen inni weld y pethau rydym wedi chwarae ein rhan yn paratoi'r ffordd ar eu cyfer fel cymuned yn cael eu cyflawni—ym maes ynni, y cyngor a chais porthladd rhydd Stena. Nid wyf yn derbyn mai tynged Ynys Môn yw bod yn ynys wyliau a lle i ymddeol. Ac nid yw hynny'n sarhad ar dwristiaeth, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae, ond mae cymuned sy'n gwbl ddibynnol ar hynny'n peidio â gweithredu fel cymuned normal.

Ond wrth wraidd hyn, mae’r bobl, fy etholwyr, sy’n wynebu colli eu gwaith yng nghanol argyfwng costau byw. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi’r gweithwyr a’n cymuned ar yr adeg hon, ym mhob ffordd, i ddarparu cymorth i'r teuluoedd a fydd ei angen, a chymorth i’r cyngor allu ymdopi â phwysau ychwanegol ar wasanaethau? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU a phwyso arni i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi bod mor ddinistriol yma, ac i gydweithredu er mwyn darparu atebion? Byddai colli'r swyddi hyn yn echrydus, a hynny ddiwrnod ar ôl i weithwyr gael gwybod bod popeth yn iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:58, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o bwyntiau a wnaed. Cefais innau ddeall hefyd o sgyrsiau heddiw fod Brexit a’r newid i amodau masnachu yn ffactor o bwys, ynghyd â chwyddiant yn gyffredinol, ac ynni yn benodol. Ac wrth gwrs, mae newid wedi bod i’r cymorth ynni i fusnesau, ac mae'r cynnydd mewn gorbenion ynni, unwaith eto, yn ffactor sylweddol.

Mater i’r busnes yw’r pwynt ynglŷn â buddsoddi yn y safle, ac yn yr un modd, y cyfleuster o’i gymharu â safleoedd eraill yn y grŵp. Maent wedi gwneud dewisiadau ynghylch buddsoddi yn y safle. Ond mae’r holl bwyntiau hynny, Brexit, chwyddiant ac ynni, oll yn faterion y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau yn eu cylch, ac rwy'n credu eu bod wedi dweud yn glir iawn mai dyna sy'n achosi'r her benodol yn eu barn hwy.

Rydych yn iawn, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd y penderfyniad ei gyfathrebu yn golygu nad oes fawr o amser i fynd i'r afael â hyn. Maent wedi nodi eu bod yn disgwyl gwneud penderfyniad, ac os byddant yn bwrw ymlaen â'r penderfyniad i gau, byddai hynny'n digwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Golyga hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, y byddai’n digwydd ymhen wythnosau yn unig. Felly, mae hon yn amserlen dynn iawn, ac rwy'n pryderu am ystod o ganlyniadau yn sgil hynny. Rydych yn llygad eich lle; ceir dros 700 o weithwyr, llawer ohonynt yn lleol iawn. Yr hyn y mae'n ei olygu yw nad oes gwaith gan bobl o oedran gweithio, ac mae'r potensial i bobl aros ar yr ynys yn galw am ddyfodol economaidd.

Felly, oes, mae gennyf ddiddordeb mawr o hyd yn y gwaith y byddwn yn parhau i'w wneud i greu dyfodol economaidd cynaliadwy i Ynys Môn, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith. Oherwydd mae rhai o’r pethau y byddwn yn siarad amdanynt yn bethau a fydd yn digwydd ymhen blynyddoedd, nid wythnosau. Felly, mae yna her hefyd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn y cyfamser. Felly, byddwn yn gweithio gydag unrhyw un a phawb i geisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Rydym am weld a oes modd achub y swyddi. Os nad oes modd gwneud hynny, beth yw'r dewisiadau amgen gorau? Beth fydd dyfodol y safle? Beth am y gadwyn gyflenwi? Mae’r rhain oll yn faterion nad oes atebion iddynt ar hyn o bryd, ond rwy’n fwy na pharod i weithio gyda’r Aelod a chynrychiolwyr etholedig eraill a’r awdurdod lleol i chwilio am atebion, a bydd hynny’n golygu gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae angen inni ystyried yn onest pam ein bod yn y sefyllfa hon a'r hyn y bydd ei angen er mwyn ceisio achub y swyddi hyn neu sicrhau dewisiadau amgen o ran cyflogaeth yn y dyfodol agos iawn.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 4:01, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cwestiwn amserol heddiw? Hoffwn ategu sylwadau'r Aelod dros Ynys Môn. Yn bennaf oll, mae'n newyddion trychinebus i drigolion Ynys Môn, yn enwedig yn Llangefni, ac fel y clywsom, mae yna 730 o swyddi mewn perygl difrifol yng nghwmni 2 Sisters Food Group yno. Mae'n hynod o ddifrifol, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau sydd ar Ynys Môn ar hyn o bryd.

Yn briodol, tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw at gwestiwn sy'n cael ei ofyn heddiw i Brif Weinidog y DU gan Virginia Crosby AS, a'r ymateb mewn perthynas ag ymrwymiad yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu gweithdrefnau a chymorth lle gall wneud hynny. Ond hefyd, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae yma. Rwy'n sicr o blaid y galwadau am weithio trawslywodraethol, boed yn llywodraeth leol neu'r DU, gyda chi yma fel Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn awyddus i glywed mwy am eich disgwyliadau ynglŷn â sut y gallai hynny weithio'n ymarferol.

Fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: mae yna gynlluniau ac mae yna fuddsoddiadau ac mae yna gyfleoedd rydych eisoes wedi eu nodi i Ynys Môn dros y blynyddoedd i ddod; a wnewch chi heddiw ymrwymo i gyflymu rhai o'r buddsoddiadau a'r cyfleoedd a'r cynlluniau hynny yn sgil y cyhoeddiad heddiw ac yn sgil pwysau eraill sydd ar Ynys Môn, fel bod y trigolion, y bobl a allai fod yn wynebu colli eu swyddi, yn cael sicrwydd fod yna rai cyfleoedd da ar y gorwel iddynt?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:02, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn gweithio mor gyflym â phosibl i ddarparu budd economaidd nid yn unig i Ynys Môn ond i bob cymuned yng Nghymru. Yr hyn na allaf ei wneud, serch hynny, yw ceisio dweud, yn y cyfnod o wythnosau sydd ar gael i ni, y gallwn gyflymu'r holl fuddsoddiadau hynny. Ni fydd rhai ohonynt yn barod. Os ydych yn meddwl am Fenter Môn a'r gwaith y maent yn ei wneud, rwy'n credu bod yna ddyfodol mawr ar yr ynys, ond ni allwch esgus y bydd gwaith ar gael ddechrau mis Ebrill neu'n wir y bydd y gweithlu sy'n gweithio yn 2 Sisters yn gallu cymryd yr holl swyddi hynny.

Bydd angen meddwl am yr hyfforddiant a'r gofynion sgiliau i feddwl mewn gwirionedd am yr holl swyddi gwahanol sydd ar gael. Felly, mae arnaf ofn nad yw ôl-lenwi dros 700 o swyddi yn y sector hwn mewn mater o wythnosau yn rhywbeth y byddwn yn honni y gallwn ei wneud a bod yn onest. Ond rwyf am ddal ati i wneud yr hyn a ddywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, sef gweithio gyda phob partner i ddeall nid yn unig yr hyn sydd wedi digwydd a pham ond i gyflwyno'r achos yn y lle cyntaf i weld a allwn ni gefnogi a chadw'r swyddi—dyna'r cam cyntaf—wedyn os nad yw hynny'n bosibl, yr hyn sy'n dod nesaf, sut y gweithiwn gyda'r gymuned, sut y gweithiwn gyda'n rhanddeiliaid.

Mae'n gadarnhaol fod yr Aelod Seneddol wedi codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin gyda'r Prif Weinidog, ond mae angen gwneud mwy na chodi'r mater yn unig. Mae angen gweld pa gamau y mae'r busnes yn barod i'w cymryd a pha gamau y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w cymryd. Oherwydd yn y telerau masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd, gwnaed dewis clir ynghylch hynny—dewis clir. Ar rai o'r heriau ynghylch chwyddiant, ar rai o'r heriau ynghylch y newid i'r cymorth ynni, mae'r rhain yn ddewisiadau gweithredol a wnaed ac mae iddynt ganlyniadau termau real, ac rydym yn eu gweld heddiw, mae arnaf ofn.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 4:04, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Roeddwn innau'n siomedig iawn hefyd o gael galwad ffôn am 9 o'r gloch gan drigolion ar Ynys Môn. Yn amlwg, bûm yn siarad gyda chi, Weinidog, a bûm yn siarad hefyd gydag undeb Unite, sydd wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r gweithlu. Mae angen imi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o undeb Unite. Dylwn fod wedi datgan hynny'n gynharach hefyd pan oedd gennyf gwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Felly, ymddiheuriadau am hynny.

Mae'r ffatri'n cyflogi llawer o bobl leol, fel y dywedodd yr Aelod lleol, ond hefyd pobl ym Mangor a Chaernarfon hefyd, a phobl o ddwyrain Ewrop, India ac Affrica sy'n dod i wneud eu cartref ym Mangor hefyd. Mewn perthynas â Brexit hefyd, pan oeddem yn ymgyrchu o amgylch ffatri 2 Sisters yn sir y Fflint, roedd pobl yno'n ymgyrchu dros Brexit, ond roeddent yn dweud bryd hynny, rydych yn ymgyrchu dros hyn ac efallai y bydd yr effaith ar weithwyr sy'n dod o ddwyrain Ewrop yn golygu y byddai'r ffatri yn cau yn y dyfodol, oherwydd maent yn cynnal y swyddi i bobl leol yn ogystal.

Mae'r oddeutu 730 o swyddi hyn yn weithwyr ar gyflogau isel, ac i mi, rwy'n gwybod bod pwynt wedi'i wneud am ddarparu diwydiant a gwaith pellach, ond rwy'n wirioneddol bryderus am deuluoedd, am yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, ar y plant, a phopeth arall i'r gweithwyr hyn sydd ar gyflogau isel. Felly, a oes angen arian ar gyngor Ynys Môn i'w helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar hyn o bryd? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda hwy, ond wyddoch chi, nid yw nawdd cymdeithasol yn dda iawn drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n cymryd, faint, chwe wythnos, i gredyd cynhwysol ddod drwodd. Bydd angen cymorth cyflym iawn arnynt ar unwaith.

Felly, beth y gellir ei wneud? Clywais fod yna dasglu yn cael ei sefydlu, a hoffwn fod yn aelod o hwnnw hefyd, gan weithio gyda undeb Unite a'r Aelod lleol, ond byddant angen y cymorth hwn ar unwaith, oherwydd ni fydd ganddynt unrhyw arian wedi'i gynilo. Ni fydd ganddynt arian wrth gefn. Felly, a wnewch chi nodi beth y gallwch chi ei wneud ar hynny, os gwelwch yn dda, Weinidog.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:06, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, a diolch am gysylltu â mi y bore yma. Dylwn wneud hyn yn glir, Ddirprwy Lywydd: pan fo diswyddiadau'n cael eu gwneud, yn aml bydd sgwrs wedi bod gyda'r cyngor, gyda swyddogion cymorth eraill, gyda Busnes Cymru, weithiau gyda'r banc datblygu, weithiau'n uniongyrchol gyda thimau o swyddogion Llywodraeth Cymru, yn yr achos hwn Lesley Griffiths yn ei rôl fel Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. Mae gan yr adran fwyd gysylltiadau â'r sector hwn, ac wrth gwrs, yn ystod y pandemig, treuliais fwy o amser nag y byddwn wedi'i ddymuno yn darganfod mwy am y sector penodol hwn, oherwydd cafwyd achosion o COVID, a buom yn edrych ar rai o'r heriau. Felly, mae'r cwmni'n ymwybodol o fodolaeth Llywodraeth Cymru, y ffaith ein bod ni wedi mynd ati i ymgysylltu â'r cwmni hwn, ac roeddent yn gwybod sut i gysylltu â phobl yn yr adran fwyd ac yn adran yr economi. Ond nid oes unrhyw gyswllt wedi bod â Llywodraeth Cymru. Roedd y newyddion y bore yma yn syndod. Ni chafwyd unrhyw rybudd nac unrhyw ymgysylltiad blaenorol â ni.

Cefais alwad gan undeb Unite am yr hyn a oedd yn debygol o ddigwydd heddiw, ac maent yn amlwg yn bryderus am y swyddi yr awgrymai'r cyhoeddiad y byddent yn cael eu colli'n uniongyrchol. Maent yn poeni am effaith diswyddiadau ar raddfa fawr ar iechyd eu haelodau. Bron bob amser ceir canlyniad iechyd i'r gweithlu a'r gymuned gyfagos. Maent yn poeni beth fydd y telerau diswyddo, i ba raddau y byddai'r pecyn cyflog terfynol yn galluogi i bobl ymdopi â'r sioc o golli cyflogaeth a pha gyfleoedd sy'n bodoli i chwilio am waith pellach. Ceir pwyntiau ehangach am y gadwyn gyflenwi a'r holl bobl eraill yr effeithir arnynt gan y cau: pa mor ddilys yw'r ymgynghoriad? Beth fydd dyfodol y safle, hefyd—safle sylweddol o ran ei faint—a beth allai ddigwydd yno os bydd 2 Sisters yn bwrw ati i gau? Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau nad oes gennym atebion iddynt eto. Maent oll yn bwyntiau y mae angen inni weithio gyda'n gilydd arnynt. Rwy'n ddiolchgar am y dull adeiladol a fabwysiadwyd gan undeb Unite a'r cyngor, a byddaf yn edrych am ymateb priodol ac adeiladol gan y cwmni. Byddaf yn gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol wrth gwrs i geisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r gweithlu sydd yno a'r gymuned oddi amgylch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn drychineb i'r 730 o staff sy'n cael eu cyflogi yno, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau anodd am y cwmni hwn hefyd, oherwydd yn y gorffennol, fel y dywedoch chi, Weinidog, cafwyd nifer fawr o achosion o COVID, ac wyth mlynedd yn ôl roedd honiadau difrifol o dorri safonau iechyd yr amgylchedd, ond pan ymchwiliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i'r honiadau hynny, canfuwyd nad oeddent yn gywir. Ond pan fyddwch yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd a pham, tybed a wnewch chi ymchwilio i sicrhau bod hwn yn gwmni sydd wedi cynnal telerau ac amodau digonol yn y gweithle yn ogystal â safonau iechyd amgylcheddol digonol, oherwydd yn amlwg byddai angen unioni'r pethau hynny os yw'r cwmni am gael unrhyw ddyfodol o werth.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:10, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae gan y cwmni ôl troed sylweddol, ac wrth gwrs, mae yna safle sylweddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Felly, mae hwn yn gwmni sydd ag ôl troed ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Un o'r pethau y nododd y cwmni sydd wedi arwain at eu penderfyniad tebygol i gau, y maent yn ymgynghori'n ffurfiol arno ac a gyhoeddwyd ganddynt heddiw, yw bod y safleoedd eraill wedi derbyn buddsoddiad a bod ynddynt alluoedd a chapasiti gwahanol. Dewis y mae'r cwmni'n ei wneud ynglŷn â sut i fuddsoddi yw hwnnw, ac mae'n un o'r ffactorau wrth wneud y dewis. Wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld beth sy'n digwydd ar y safle wrth geisio deall a yw'n bosibl cadw'r gyflogaeth lle mae, ac os na ellir gwneud hynny bydd angen inni ddeall pa ddefnyddiau amgen sy'n bodoli, ac i'r safleoedd eraill sy'n dal i fodoli ac sy'n dal i gyflogi niferoedd sylweddol o bobl—rwy'n credu bod tua 1,000 o weithwyr ar y safle yng ngogledd-ddwyrain Cymru—o ran beth fydd yr amodau yno. Ac mae'n ymwneud â mwy na'r sefyllfa yn Llangefni yn unig, mae yna ddarlun ehangach, ond yn ddealladwy, mae'n rhaid canolbwyntio ar safle Llangefni, ar y gweithlu, yr effaith ar y gymuned a'r economi ehangach ar yr ynys ac yng ngogledd-orllewin Cymru.