– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 25 Ionawr 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8155 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;
b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni;
c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;
d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;
e) annog arloesi i helpu i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dadl ydy hon am y berthynas rhwng y byd digidol a'r byd o'n cwmpas ni, am y rhyngweithio sydd yna rhwng ein defnydd ni o dechnoleg ddigidol a'n pryderon ni am newid hinsawdd. Mi ddywedaf i, reit ar y dechrau, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol, dwi'n eiddgar i'n gweld ni yn gwneud mwy o ddefnydd o blatfformau digidol, i ddatblygu platfformau newydd ac i wella ein sgiliau digidol. Mae hynny, dwi'n meddwl, am ein cyfoethogi ni mewn llawer ffordd: creu cyfleoedd economaidd, gwella'n hiechyd ni, cefnogi'n hiaith ni, popeth, yn cynnwys ein helpu ni i daclo'r argyfwng hinsawdd. Drwy dechnoleg ddigidol mae rheoli ein defnydd ni o ynni yn well, a dyna sut mae modelu ffyrdd effeithiol o gynhyrchu ynni gwyrdd, mae cynllunio ffyrdd llai niweidiol o deithio o gwmpas yn digwydd drwy dechnoleg ddigidol, ac yn y blaen.
Ond—a hyn dwi am ei gyflwyno heddiw—mae’n rhaid i ni sylweddol lawer mwy bod y defnydd yna o dechnoleg ddigidol ynddo ef ei hun yn cynhyrchu ôl-troed carbon. Dwi’n codi hyn oherwydd y drafodaeth hynod ddifyr gawsom ni ar hyn yn y cyfarfod diwethaf o’r grŵp trawsbleidiol ar ddigidol. A beth glywom ni yn y drafodaeth honno oedd y gallai’r ôl-troed carbon yna fod yn un mawr iawn, iawn, os nad ydym ni’n ofalus. Ac mi ddes i i’r casgliad yma: yn ogystal â datblygu ffyrdd ymarferol o fod yn fwy effeithiol yn ein defnydd ni o ddigidol, y gallem ni hefyd fod yn meddwl rŵan, oes yna le i ddeddfwriaeth newydd.
Mae’r cynnig ei hun yn amlinellu'r math o Fil dwi’n credu gallai fod werth ei ystyried. Dwi’n gofyn i chi ei gefnogi fo, o ran ei gynnwys fel y mae o, neu o ran yr egwyddor bod yn rhaid i ni feddwl ar hyd y llinellau yma, rŵan, er mwyn bod mewn sefyllfa gref i ddelio efo rhai o’r heriau sydd ond yn mynd i dyfu os na wnawn ni fynd i’r afael â nhw. A gyda llaw, dwi’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru'n taclo'r heriau mewn sawl ffordd—nid credu ydw i fod swyddogion yn ddall i’r heriau. Mae cyrff fel y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio yn y maes yma, ond mae angen rywsut i’r heriau gael eu deall yn well gan fwy o bobl.
Dydy llawer ddim yn deall bod penderfyniadau bob dydd maen nhw’n eu gwneud yn cael effaith amgylcheddol. Faint o drydan all gael ei ddefnyddio, neu faint o ôl troed carbon allai gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gyrru e-bost? Wel, ystyriwch faint o biliynau o e-byst sy’n cael eu hanfon. Efallai fod testun ambell e-bost yn codi’r tymheredd yn eich swyddfa chi, ond ystyriwch fod cadw’r data yn yr e-bost yna yn cyfrannu at boethi peiriannau mewn data centres, bod y gost amgylcheddol o oeri'r data centres yna yn mynd yn fwy ac yn fwy. Ystyriwch fod cynnwys attachment efo’r e-bost yn cynyddu'r angen am le storio data, ac y gall penderfyniad i yrru linc leihau'r ôl troed carbon. Mi allai deddfwriaeth yn gofyn am asesu ôl-troed carbon y defnydd o ddigidol mewn sefydliad anfon at wella arfer da o fewn y sefydliadau hynny.
Ystyriwch hefyd bod llawer ohonom ni'n boddi dan don o gyfathrebiadau junk ar e-bost. Beth os y gallai deddfwriaeth arwain at lai o e-byst yn cael eu hanfon a gwella yr amgylchedd a'n cynhyrchiant ni fel gweithlu ar yr un pryd?
Rhag ofn nad yw'r neges yn ddigon clir: mae anfon llythyr A4 yn allyrru tua 25g o garbon deuocsid; mae e-bost gydag atodiad yn 50g—dwbl—a heb atodiad, 0.3g. Ac e-byst ac atodiadau sydd i gyfrif am 300 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, meddyliwch yn ofalus am gynnwys yr e-bost neu'r atodiad, neu hyd yn oed am anfon yr e-bost o gwbl. I mi, mae'r cysyniad o fod yn fwy cynhyrchiol drwy feddwl mewn ffordd mwy amgylcheddol yn rhywbeth eithaf cyffrous.
Ac mae penderfyniadau y gallwn ni i gyd eu gwneud yn cynnwys llawer mwy na faint o e-byst a anfonwn. A ydym yn tynnu llun neu fideo ar ein ffonau? Mae llun yn cymryd llai o le storio. Am ba hyd rydym yn storio'r data hwnnw? A ydym yn tynnu dwsinau o luniau ar y tro a byth yn dileu lluniau o'r albwm? Mae hynny'n cael effaith. Nid yw'n cael llawer o effaith ar lefel unigolion, ond dyna'r holl bwynt am fynd i'r afael â newid hinsawdd; mae'n ymwneud â'r effaith gyfunol.
Awgrymodd un arbenigwr yn y maes o barc gwyddoniaeth M-SParc ar Ynys Môn y gallwch edrych arno o safbwynt ein defnydd digidol a'n storio digidol. Mae angen inni feddwl faint rydym yn ei ddefnyddio yn y lle cyntaf—faint o ofod storio sydd angen inni ei greu ar gyfer fideo neu ffeil neu e-bost neu beth bynnag, ac yna i ba raddau y gwawn ddefnydd hirdymor o'r gofod storio hwnnw drwy beidio â chael mesurau cymhennu da ar waith i ddileu pethau mewn da bryd. Unwaith eto, gallai deddfu i gynnal asesiadau gorfodol o olion traed carbon digidol mewn perthynas â storio, er enghraifft, ar gyfer unrhyw sefydliad, annog yr arferion da hynny. Ni allwn barhau i gronni cynnwys digidol a meddwl nad oes canlyniad i hynny.
Ac wrth gwrs mae yna le y mae angen inni ei ddefnyddio yn bendant. Datblygu modelau deallusrwydd artiffisial newydd—hynod ddwys o ran pŵer cyfrifiadurol a gofod storio data. Ond mae angen inni wneud hynny, felly mae angen inni gael gwared ar fwy o'r pethau diangen, ond mae angen inni hefyd fod yn llai drud-ar-garbon yn y ffordd y mae canolfannau data'n cael eu rhedeg i storio'r data hwnnw. Bydd angen i nifer symud i lefydd lle mae'n oerach. Bydd newid i ddefnydd gyda'r nos yn arbed costau ynni ond ni fydd yn helpu'r amgylchedd, ond mae newid i bweru o ffynonellau adnewyddadwy yn mynd i'r afael â hynny. Ac mae yna botensial i Gymru oherwydd bod gennym ddigonedd o ynni adnewyddadwy yma. Ar yr un pryd, mae angen inni ddysgu gwersi gan wledydd fel Iwerddon, sy'n wynebu pryderon cynyddol ynglŷn â faint y mae canolfannau data ynni adnewyddadwy yn ei ddefnyddio. Unwaith eto, gallai deddfwriaeth helpu i ganolbwyntio meddyliau.
Gallwn barhau, ond rwyf am ddod i ben am y tro. Rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud mai dyma'r tro cyntaf i ni gael dadl o'r fath ar y math hwn o bwnc, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau, wrth inni geisio tynnu mwy o sylw at y mater, a chyflwyno deddfwriaeth i'w gefnogi hefyd, gobeithio.
Hoffwn ddiolch yn fawr i'n cyd-Aelod Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddo. Wrth gwrs, fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn croesawu technolegau newydd oherwydd y ffordd y gallant wella ein systemau lleihau allyriadau, ac mae hwn yn rhywbeth y gall Cymru arwain arno. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn dangos bod 60 y cant o'r holl batentau ynni carbon isel dros y pum mlynedd diwethaf yn gysylltiedig â newid tanwydd a thechnolegau effeithlon o ran ynni, a gall y cynnig hwn ar gyfer Bil ar leihau ôl troed carbon digidol fod yn allweddol i wneud hynny.
Nod rhan (a) yw
'ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd sero net, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol'.
Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gyflymu ein defnydd o seilwaith digidol gwyrdd. Pan fo gennym gymaint o dechnoleg ar flaenau ein bysedd nawr, mae'n rhaid sicrhau bod y ffynonellau sy'n ei bweru mor lân ac adnewyddadwy â phosibl.
Mae rhan (b) yn galw am
'[g]ynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni'.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae'n rhaid cael dull mwy cydgysylltiedig o reoli data. Nid yn unig y bydd hyn o fudd i ddatgarboneiddio, ond bydd yn helpu mewn sectorau eraill fel ein gwasanaeth iechyd, addysg ac adrannau eraill.
Nodaf, yn benodol, ran (c), sydd â'r nod o gefnogi datblygiad sector data gwyrdd yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod hwn yn gyfle gwych i roi hwb i swyddi gwyrdd yng Nghymru. Byddai'n ategu prosiectau adnewyddadwy newydd ar y môr fel môr-lynnoedd llanw a ffermydd gwynt, a amlygwyd gennym yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf. Byddai'r cyfleoedd addysg a hyfforddiant, yn enwedig i'n pobl ifanc, yn darparu ysgogiad sylweddol i adeiladu gyrfa mewn swydd fedrus sy'n talu'n dda yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, nod rhan (e) yw
'annog arloesi i helpu i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd amcanion sero net cenedlaethol'.
Rwy'n cytuno, ac rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn ar sail y DU gyfan, gan ddod â'r meddyliau gwyddonol gorau a mwyaf disglair at ei gilydd o bob cwr o'r wlad. Mae Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar Llywodraeth y DU, neu ARIA, yn enghraifft dda o hyn. Cafodd yr asiantaeth hon ei sefydlu i archwilio'r cyfleoedd gwyddonol enfawr sy'n deillio o ddarganfyddiadau arloesol. Mae gan y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud nawr mewn data a thechnoleg botensial i ddarparu elw economaidd enfawr yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod. Yn y pen draw, os gallwn wella cysylltedd digidol a seilwaith ledled Cymru, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ellir defnyddio'r dechnoleg hon i fonitro ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, mae'n dasg y mae'n rhaid inni ei chyflawni. Rwy'n barod iawn i gefnogi Rhun a'r cynnig deddfwriaethol hwn. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ddod â'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i drafod mater nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ei fod yn bodoli yn y byd digidol hwn sy'n ehangu'n barhaus. Pan fyddwn yn meddwl am leihau ein hôl troed carbon, yn aml mae yna ragdybiaeth fod mynd ar-lein yn gweithredu fel dewis arall cynaliadwy i wrthsefyll ein heffaith ar yr amgylchedd, er enghraifft drwy weithio gartref yn lle gyrru eich car i'r gwaith, neu drwy fynd yn ddi-bapur i achub coed, gan storio'r holl wybodaeth a data yn y cwmwl. Pan fyddwn yn anfon e-bost, nid ydym o reidrwydd yn meddwl sut mae'r e-bost hwnnw'n cael ei storio a pha effaith y mae storio'n ei chael ar yr amgylchedd.
Ond y gwir amdani yw fod canolfannau data, sef yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno heddiw, yn adeiladau ffisegol sydd angen ynni ar raddfa enfawr i storio data. Cânt eu defnyddio 24/7 ac maent angen cael eu cadw mewn tymheredd cyson o 12 gradd Celsius fel nad ydynt yn dinistrio unrhyw ddata sy'n cael ei storio ynddynt. Maent hefyd angen mwy o ynni a dŵr i atal dirywiad gweinyddion, a dyna pam mae ymchwil yn dangos bod canolfannau data'n defnyddio bron i 3 y cant o ddefnydd trydan y byd ac yn allyrru 2 y cant o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hyn yn ddigon o ynni i bweru gwledydd cyfan ac allyriadau'n debyg i allyriadau'r diwydiant awyrennau byd-eang.
Felly, nid oes unrhyw amheuaeth fod hyn yn creu effaith ar ein hôl troed carbon. Ni allwn gael sefyllfa lle mae un llygrwr yn cymryd lle llygrwr arall, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, nid yw'n ddrwg i gyd, mae arnom ei angen yn sicr, ond mae'n rhaid inni fod yn onest am realiti canolfannau data a rhoi seilwaith yn ei le sy'n ymdrin â dulliau cynaliadwy fel canolfannau data gwyrdd cyn ei bod yn rhy hwyr, a chlywsom ambell awgrym arall gan Rhun nawr.
Rhaid i gwmnïau fel Microsoft, Switch a chwmnïau eraill sy'n prosesu a storio data weithio i chwilio am atebion arloesol gwyrdd i sicrhau'r effeithlonrwydd ynni mwyaf posibl. Ceir enghreifftiau da o hyn, o leihau oeri drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, i ddefnyddio niferoedd bach o weinyddion pan fo traffig data'n isel. Byddwn hefyd yn dadlau na ddylai unrhyw ganolfannau data newydd gael eu hadeiladu ar safleoedd maes glas yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2021, ysgrifennais at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt am eu hasesiad o effeithiau amgylcheddol canolfannau data. Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd wedi gwneud asesiad ac y byddai'n parhau i ymgysylltu â gwledydd eraill a'u canfyddiadau wrth i fwy o dystiolaeth ddod i'r amlwg. Gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud ar gyflymydd cenedl ddata Cymru, lle gall gwasanaethau cyhoeddus ddibynnu ar y gwaith casglu a storio data, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y dystiolaeth gynyddol hon ac nad ydym yn cynhyrchu effeithiau negyddol diangen ar ein hamgylchedd. Felly, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth, byddaf yn cefnogi eich cynnig deddfwriaethol gan Aelod y prynhawn yma, Rhun. Diolch.
Diolch, Rhun, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi cynigion y Bil hwn, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn llawer mwy blaengar yn ein dull o lunio polisi sy'n helpu i leihau ein hôl troed carbon mewn meysydd technolegol, yn enwedig gan y byddwn yn dibynnu'n fwy helaeth ar ddata digidol wrth symud ymlaen. Nid yw ond yn iawn ein bod yn rhoi deddfwriaeth ar waith sy'n helpu i sicrhau ein bod mor effeithlon â phosibl wrth ddefnyddio a storio data a bod gennym brotocolau ar waith, yn enwedig o fewn cyrff cyhoeddus, i rannu data'n well a dileu data nad oes ei angen mwyach.
Fel y byddwch i gyd yn cofio, siaradais yn y Siambr yn ddiweddar am ddata tywyll, a'r gwir amdani yw, er ein bod yn buddsoddi symiau enfawr o arian ar leihau carbon mewn diwydiant, gan annog pobl i newid ymddygiad, yn ogystal â newid y ffyrdd rydym yn cynhesu ein cartrefi ac yn teithio o gwmpas, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r broblem amlwg—sef ein bod yn mabwysiadu arferion ac yn croesawu datblygiadau technolegol yn ein bywydau sy'n arwain at gynhyrchu hyd yn oed mwy o garbon deuocsid. Er enghraifft, mae camera ar bron bob ffôn symudol, sy'n ein galluogi i dynnu lluniau a ffilmiau mewn ffordd na allem ei wneud 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn defnyddio apiau sy'n creu data am hwyl, ac rydym yn storio symiau enfawr na fydd byth yn cael eu defnyddio eto. Er fy mod yn cydnabod y dylem wneud popeth yn ein gallu i wella storio a defnyddio data mewn meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt, y gwir anghyfleus yw y bydd symiau sylweddol o ddata'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru a'u cadw ar weinyddion ar draws y byd, ac felly rydym yn cyfrannu at gynhyrchu carbon deuocsid mewn mannau nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Er enghraifft, mae data o'n ffonau Apple yn cael ei gadw mewn canolfannau data yn UDA. Rydym yn derbyn niferoedd enfawr o e-byst bob dydd yn hysbysebu hyrwyddiadau na fyddwn byth yn eu darllen, ac mae'r rhain yn cael eu cadw mewn gwledydd eraill ar weinyddion sy'n rhaid eu pweru, ac yn fwy allweddol, sy'n rhaid eu hoeri. Rhaid inni hefyd gydnabod maint y broblem. Yn fyd-eang, mae gan fwy na hanner yr holl fusnesau ddata sy'n segur neu ddata nad yw'n cael ei ddefnyddio, ac amcangyfrifir y bydd 6 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol drwy storio'r data hwn yn unig, ac ni fydd byth yn cael ei ddefnyddio.
I gloi, o ran Bil ar ôl troed carbon digidol, rwyf am ddweud bod angen inni feddwl hefyd ynglŷn â sut y cyfrannwn at ein hallyriadau carbon byd-eang gyda data sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a'i storio dramor, a daw hyn o wella ein dealltwriaeth o sut mae data yn llifo drwy sefydliadau a thrwy greu polisïau sy'n sicrhau bod gan ein cwmnïau yng Nghymru brosesau ar waith sy'n gwella amlygrwydd data tywyll ac sy'n rheoli ein prosesau storio data yn well. Gall y polisïau hyn helpu cwmnïau a sefydliadau wedyn i gydymffurfio ymhellach â deddfau preifatrwydd data, megis y rheoliadau cyffredinol ar ddiogelu data. Mae'n beth da ein bod yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted â phosibl a bod Cymru'n gwneud cyfraniad gwerthfawr, oherwydd amcangyfrifir y bydd y swm o ddata tywyll sy'n cael ei storio'n fyd-eang yn cynyddu bedair gwaith i 91 ZB erbyn 2025, ac mae hynny'n bendant yn tynnu sylw at yr heriau sydd o'n blaenau. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn annog pob Aelod yma i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am godi'r materion pwysig yn y ddadl a'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn gwybod ac yn cytuno bod defnyddio data a thechnoleg ddigidol yn hanfodol wrth ddarparu cyfleoedd sydd o fudd i bobl, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Rydym hefyd yn gwybod y gall ein dibyniaeth gynyddol ar dechnoleg ddigidol gynyddu allyriadau carbon drwy'r ynni a ddefnyddir wrth brosesu a storio llawer iawn o ddata a rhedeg platfformau digidol a thechnoleg—mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau wedi cyfeirio at hyn yn eu cyfraniadau.
Rwy'n cydnabod bwriad polisi'r Aelod yn y cynnig ac yn cytuno â'r teimlad sy'n sail iddo. Mewn gwirionedd, roedd yr Aelod, wrth agor, yn cydnabod bod gwaith eisoes yn digwydd yn y maes hwn. Fodd bynnag, byddai ei gynnwys yn amserlen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn her go iawn, gan ei bod eisoes o dan bwysau sylweddol ac fe allai wynebu mwy o bwysau, yn dibynnu ar ddigwyddiadau allanol.
Mae ein 'Strategaeth Ddigidol i Gymru' eisoes yn mynegi sut y gall technoleg ddigidol helpu i leihau allyriadau carbon yn gyffredinol a chyflawni ein huchelgeisiau sero net drwy gynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, gan ddefnyddio data'n glyfar ac yn agored, a moderneiddio technoleg. Ac wrth gwrs, mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i roi cynaliadwyedd wrth wraidd pob penderfyniad polisi, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn technoleg ddigidol a data.
O safbwynt y sector cyhoeddus, fel y cydnabuwyd, mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu gwasanaethau digidol effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr. Mae hynny'n golygu defnyddio technoleg yn fwy effeithlon, lleihau'r defnydd o garbon a lleihau'r angen i deithio. Yn ddiweddar, cynhaliodd y ganolfan ymarfer darganfod a gwnaeth argymhellion ar sut y gall technoleg ddigidol helpu tuag at sero net. Maent yn cynnwys pwysigrwydd mesur ôl-troed carbon gwasanaethau a symud at wasanaethau a phlatfformau a rennir. Mae'r ganolfan hefyd yn argymell adeiladu cynaliadwyedd i mewn i brosesau caffael digidol. Mae gwerth cymdeithasol yn dod yn rhan gynyddol o'r meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael, ac mae hynny'n cynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd. Mae'r ganolfan yn gweithio ar y camau nesaf i sicrhau bod yr argymhellion pwysig hyn yn cael eu cyflawni.
Uchelgais allweddol yn ein strategaeth ddigidol yw darparu gwell gwasanaethau digidol drwy ddefnyddio data'n well ac yn fwy moesegol. Mae defnydd cyffredin o safonau y cytunwyd arnynt yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Drwy sicrhau bod data'n hawdd i'w gael ac yn cael ei gyhoeddi'n agored, neu ei rannu'n ddiogel, gallwn leihau faint o ddata sy'n cael ei ddyblygu a'i storio, un o'r pwyntiau allweddol a wnaeth yr Aelod. Mae hyn yn lleihau costau ac ôl-troed carbon. Mae adrodd yn agored ar berfformiad amgylcheddol gwasanaethau hefyd yn sicrhau atebolrwydd a thryloywder o ran y defnydd o ynni.
Fel y gwyddom, mae angen data ar gyfer bron bopeth ar hyn o bryd, ac yn fwy felly yn y dyfodol. Mae canolfannau data, fel y crybwyllodd Sarah Murphy, yn chwarae rhan hanfodol yn storio'r data, y feddalwedd a'r caledwedd sy'n sail i'r gwasanaethau rydym i gyd yn eu defnyddio. Maent yn rhan annatod o'r gadwyn gyflenwi ac maent yn defnyddio ynni a phŵer wrth gwrs. Mae cyfrifoldeb mawr ar gwmnïau i leihau effaith carbon y data sydd ganddynt. Rydym yn gwybod bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn lleihau'r defnydd o bŵer, gan newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd, gan gynnwys y defnydd o wres gormodol wrth gwrs, ac unwaith eto, soniodd Sarah Murphy am hyn yn ei chyfraniad.
Mae hyn yn digwydd yng Nghymru hefyd. Rydym yn disgwyl gweld mwy o ganolfannau data yng Nghymru yn y dyfodol ac eisiau iddynt gael eu hadeiladu i safonau amgylcheddol y presennol a'r dyfodol. Mae ein cynllun ar gyfer lleihau allyriadau, Cymru Sero Net, yn gosod targedau cenedlaethol uchelgeisiol i ni'n hunain. Mae'n amlygu'r rôl y gall seilwaith digidol ei chwarae yn datgarboneiddio, yn ogystal â datgarboneiddio'r cyflenwad ynni ei hun. I gefnogi ein huchelgeisiau, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun sgiliau sero net cyn bo hir; bydd hwnnw'n nodi ein hymrwymiad i sgiliau sero net drwy fuddsoddi mewn pobl a thalent fel elfennau hanfodol mewn economi gryfach, decach a gwyrddach. Bydd sgiliau digidol yn un o'r themâu trawsbynciol.
Bydd ein strategaeth arloesi hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â mesur carbon ac yn tynnu sylw at y defnydd o offer digidol i'n helpu i ddeall yn llawn yr effaith a gawn ar leihau allyriadau carbon. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod yna ôl troed digidol wrth gwrs, ac mae ôl troed carbon i'r ôl troed hwnnw.
Rwyf am ddiolch i'r Aelod am y ffordd yr agorodd y ddadl drwy gydnabod ein bod yn gweithredu, ac mae'r grŵp trawsbleidiol yn gefnogol at ei gilydd i'r strategaeth ddigidol. Ond mae yna ôl troed carbon real i weithgaredd digidol, ond hefyd, fel y nodwyd, mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth go iawn fod ôl troed carbon i weithgaredd digidol. Rhan o'n her yw'r hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth a gweithredu i fynd i'r afael â hynny.
Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth ychwanegol yw'r ateb. Fodd bynnag, mae yna gydbwysedd i'w daro bob amser o ran pryd y gall deddfwriaeth a phryd nad yw'n gallu sicrhau'r cynnydd polisi rydym i gyd yn cytuno arno. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn datblygu'r cynnig ymhellach. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig heddiw; byddwn yn ymatal a bydd pleidlais rydd i'r aelodau o'r meinciau cefn sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod mwy i ni ei drafod am y cynigion sydd wedi'u hamlinellu heddiw, am weithredu ymarferol ac am ein parodrwydd i ystyried hynny yn y dyfodol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, dwi'n credu sydd wedi bod yn un bwysig o ran cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl sydd ddim wedi meddwl am hyn o'r blaen ac atgyfnerthu'r ffaith ein bod ni, fel Senedd, yn barod i gymryd camau i geisio ymateb i broblem sydd ond yn mynd i fynd yn waeth. Dwi'n cydnabod dyw'r Gweinidog ddim wedi'i argyhoeddi bod yn rhaid i hynny gynnwys deddfwriaeth, ac efallai nad oes, ond mae'r ffaith ein bod ni yn barod i ystyried deddfwriaeth fel un o'r opsiynau yn golygu ein bod ni mewn llai o berig o fod mewn sefyllfa lle rydyn ni'n sylweddoli mewn blynyddoedd i ddod y dylem ni fod wedi bod yn cymryd rhywbeth mwy o ddifrif. Mae'n dda clywed Aelodau o'r meinciau cefn Llafur a Cheidwadol yn atgyfnerthu'r hyn oedd gen i i'w ddweud. Mae yna gytundeb clir bod yna fater yn y fan hyn y mae angen rhoi sylw iddo fo.
Mae dau fater ar waith yma. Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer gwyrddu, sy'n bwysig iawn, fel sydd wedi'i gydnabod yma. Mae technoleg ddigidol yn allweddol i bopeth sydd angen inni ei wneud i wella ein gweithredoedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond ar yr un pryd, rhaid inni roi ein sylw i wyrddu digidol. Byddaf yn dal ati i edrych ar yr opsiynau ar gyfer deddfwriaeth, a gobeithio y bydd pleidlais gadarnhaol heddiw, ac rwy'n weddol hyderus y gallwn ei chael, yn arwydd fod hynny'n rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w gadw ar yr agenda fel Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Objection.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.