Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:39, 8 Chwefror 2023

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, Nawr, ni ellir gwadu bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael ag adeiladau anniogel. Mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi anfon contractau cyfreithiol rwymol i bob datblygwr a fydd yn eu hymrwymo i dalu i gyweirio'r adeiladau anniogel hyn. Bydd y contract hwn yn golygu bod datblygwyr yn ymrwymo oddeutu £2 biliwn neu fwy ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau a ddatblygwyd neu a adnewyddwyd ganddynt dros y 30 mlynedd diwethaf, ac yn diogelu miloedd o lesddeiliaid sy’n byw mewn cannoedd o adeiladau ledled Lloegr. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn ceisio atal datblygwyr rhag gweithredu’n rhydd yn y farchnad dai os nad ydynt yn arwyddo ac yn cydymffurfio â'r contract cyweirio. A fyddwch yn gwneud yr un peth ar gyfer y rheini sy’n gweithredu yng Nghymru ac sydd naill ai’n gwrthod cefnogi neu’n torri telerau cytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru?

Photo of Julie James Julie James Labour 1:40, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ydw, Janet, rwy'n ymwybodol iawn o ddatganiadau amrywiol Michael Gove. Cyfarfûm yn ddiweddar iawn â’r Gweinidog tai ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, rwy’n credu—mae’n anodd dal i fyny—i siarad am hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Michael Gove hefyd, ond nid wyf wedi cael un ers ei ailymgnawdoliad.

Mae'r rhaglen yma bron yn union yr un fath ym mhob agwedd rydych newydd ei nodi. Rydym wedi gweithio gyda’r 11 datblygwr mawr yng Nghymru. Mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r cytundeb. Mae'r ddogfennaeth gyfreithiol ganddynt ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r ddogfennaeth gyfreithiol yno. Mae ein dogfennaeth yn wahanol am fod y fframwaith cyfreithiol yng Nghymru yn wahanol, ond serch hynny, mae'r pwyslais yr un fath. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym yn mynd ychydig yn gyflymach na hynny. Mae gennym ddau o'r datblygwyr mawr eisoes yn dechrau ar y gwaith cyweirio. Rydym wedi mynd ymhell iawn gyda'n rhaglen o arolygon. Dim ond ychydig o adeiladau sydd gennym ar ôl. Mae’r rheini sydd ar ôl nad ydynt wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg ymwthiol llawn i gyd oherwydd bod angen set gymhleth o gytundebau gan rydd-ddeiliaid amrywiol ac yn y blaen, ac nid wyf am fanylu ar hynny, ond ceir materion rheoli cymhleth mewn perthynas â rhai o'r adeiladau. Mae'r lleill yn ymwneud â lle bu'n rhaid cau prif ffordd gyfan er mwyn cael mynediad i'r adeilad i wneud y gwaith, ac rydym wedi gorfod gweithio gyda'r cyngor lleol i lunio cynllun rheoli traffig i allu gwneud hynny. Heblaw am hynny, maent i gyd wedi'u cwblhau. Mae'r adroddiadau i gyd yn yr arfaeth. Byddwn yn gallu dechrau ar y gwaith cyweirio cyn gynted ag y gallwn.

Rydym hefyd yn gweithio ar raglen ar gyfer yr hyn a elwir yn adeiladau amddifad. Hyd y gwn i, nid oes rhaglen fel hon yn Lloegr. Mae gennym 16 i 23 o adeiladau amddifad—mae'n dibynnu i raddau ar yr hyn rydych yn ei alw. Adeilad amddifad yw un lle nad oes yswiriwr, asiant rheoli neu ddatblygwr cyfrifol y gellir eu dwyn i gyfrif, a byddwn yn gallu bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith cyweirio arnynt.

Ond credaf mai dyma’r pwynt pwysicaf yma: rwyf bob amser wedi bod o'r farn y dylai’r Llywodraeth ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn hyn o beth. Nid ydym am i lesddeiliaid unigol orfod cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y datblygwyr, sef yr hyn y mae Deddf adeiladau Lloegr yn ei wneud. Rwy’n deall pam y gwnaethant hynny, ond nid ydym yn credu bod hynny’n iawn. Felly, bydd gennym y contract yma, ac os na chedwir ato, ein cyfrifoldeb ni fydd cymryd camau yn erbyn y datblygwyr. Dyna fel y dylai fod, yn fy marn i. Byddaf hefyd yn archwilio i weld a allwn, er enghraifft, atal adeiladwyr rhag ymgymryd â safleoedd lle mae caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes a pharhau â'r gwaith. Dyna ail gam y gwaith. Ond rwy'n eithaf balch fod datblygwyr yma wedi dod ar y daith hon gyda ni.

Ac yna y peth olaf a ddywedaf ar y pwynt hwn, ac mae'n werth cadw hyn mewn cof, yw bod rhai o'r adeiladau, rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf yn yr ymgyrch—a phwy all eu beio am gael ymgyrch; mae'n beth erchyll i fyw gydag ef—mae rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf mewn adeiladau lle ceir ymgyfreitha helaeth eisoes ar y gweill, ac ni allwn ymyrryd â'r achosion hynny. Felly, rydym wedi ein rhwystro gan rai o'r prosesau sy'n mynd rhagddynt. Ond rwy'n dal i gydymdeimlo'n llwyr â'r bobl sy'n byw gyda hyn. A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych, Janet, yw os ydych yn adnabod unrhyw un sydd mewn sefyllfa enbyd oherwydd hyn, a fyddech cystal ag argymell y cynllun prynu allan iddynt, gan nad ydym wedi cael cymaint o ddiddordeb ynddo ag y byddem wedi hoffi, ac rwy'n gobeithio sicrhau cymaint o gyhoeddusrwydd iddo â phosibl.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:43, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb cynhwysfawr, Weinidog, rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, po hiraf y mae’n ei gymryd i ddatrys yr argyfwng hwn, y mwyaf yw’r pwysau meddyliol ac ariannol ar y trigolion agored i niwed hyn. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi hefyd na ddylem fod yn caniatáu i bobl eraill fanteisio ar hyn ac elwa'n ariannol. Y rheswm pam rwy'n sôn am hyn nawr yw am fod unigolion wedi ysgrifennu ataf yn egluro, mewn rhai achosion, fod y ffi gwasanaeth, ers hyn oll, am fflat dair ystafell wely wedi cynyddu o £2,500 i oddeutu £5,000 y flwyddyn. Ochr yn ochr â hynny, clywais yr honiad fod o leiaf un asiant rheoli'n codi ffi broceriaeth fewnol am yswiriant, a hefyd yn rhoi hysbysiadau adran 20, ddim yn gwneud y gwaith, yn codi ffioedd gweinyddol ar ben y ffi reoli, ac nad oes gan rai ohonynt unrhyw bolisi corfforaethol ar gyfer gwaith cynnal a chadw rhagweithiol nac ar gyfer gwirio'n rheolaidd fod ffyrdd o ddianc wedi'u hadrannu'n unigol rhag tân. Rwy'n ystyried bod honno'n drefn reoli erchyll. A fyddech yn barod i ymchwilio ymhellach i hyn drwy gyfrwng adolygiad neu ryw fath o ymchwiliad i ganfod sut yn union y mae pob asiant rheoli yng Nghymru wedi ymateb i’r argyfwng cladin, ac a oes unrhyw arwydd y gallai rhai fod yn elwa o’r sefyllfa hon?

Photo of Julie James Julie James Labour 1:45, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o hyn hefyd. Mae un o'r asiantau rheoli mwyaf wedi bod yn fy ngweld yn ddiweddar iawn. Mae llawer iawn o bobl yn fy etholaeth yn wynebu'r broblem hon, felly rwy'n ymwneud â'r mater yn lleol hefyd. Weithiau, mae'n anodd gwahanu diogelwch yr adeilad oddi wrth faterion sy'n ymwneud ag adeiladwaith, a all fod yn gymhleth hefyd. Felly, rydym yn edrych i weld a allwn ddatrys materion adeiladwaith, nad ydynt o reidrwydd yn faterion diogelwch adeiladau, ar yr un pryd, gan fod gwneud dau swp o waith yn amlwg yn ddisynnwyr. Ond byddaf hefyd, yn y sgwrs gyda Lucy Frazer, yn parhau â hyn gyda'r swyddogion, a byddaf yn amlwg yn ceisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn pwy ydynt. Ond buom yn trafod y rhaglen ddiwygio cyfraith lesddaliad y mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hi gyda hi a’i swyddogion.

Fe wyddoch, Janet, fod cymhlethdod y setliad datganoli yn y maes hwn yn anhawster. Gwn bod pobl yn fy nghasáu i'n siarad am ba mor gymhleth yw hyn, ond nid oes dianc rhag y ffaith honno. Mae gallu Llywodraeth Cymru i reoleiddio asiantau rheoli ai peidio yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt, a cheir materion cyfreithiol cymhleth sy'n codi yn hynny o beth. Ond yr hyn sy'n wirioneddol glir yw bod y rhan fwyaf o'r asiantau rheoli mawr yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, felly mae angen inni sicrhau bod gennym raglen addas—rwy'n credu y byddwch yn cytuno â mi ar hynny.

Felly, rwy’n mawr obeithio, ac rydym yn sicr yn gweithio tuag at Lywodraeth y DU yn deddfu ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliadau ac asiantau rheoli, a gobeithiaf y byddant yn ychwanegu gwerthwyr tai yn y man gwerthu, gan fod gwahanol gyd-Aelodau o amgylch y Siambr hon—rwy'n meddwl am Hefin David yn arbennig—wedi codi mater ffioedd rheoli ystadau ar sawl achlysur, a'r un corff o bobl sy'n ymdrin â hwy. Felly, yr ateb syml i'ch cwestiwn yw: ydym, rydym yn ymwybodol iawn o'r mater. Ydy, rydym yn cael yr asiantau rheoli i mewn i siarad gyda ni. Byddaf yn cynnal cyfarfod ar gyfer pob un ohonynt yng Nghymru, gan gynnwys y rhai bach, yn fuan iawn. Ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw system reoleiddio sy'n nodi eu cymwysterau proffesiynol a'r hyn y gallant godi tâl amdano.

A Lywydd, gan fentro trethu eich amynedd gyda hyd fy ateb—ac rwy'n ymddiheuro; mae'n faes cymhleth iawn—dylwn ddweud ein bod hefyd yn teimlo y dylid rhoi sylw i hyn yn y gwaith ar ddiwygio adeiladu y byddwn yn ei gyflwyno gerbron y Senedd, er mwyn sicrhau, pan fydd adeiladau newydd yn cael eu codi yn y dyfodol, y bydd hi'n glir pwy all a phwy na all fod yn asiant rheoli.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:47, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, unwaith eto, Weinidog. Ni allaf ddadlau â’r ymateb hwnnw o gwbl.

Nawr, fy mhwynt olaf: yn y gyllideb ar gyfer 2023-24, mae cyllid diogelwch adeiladau ar fin cael gostyngiad o 37 y cant mewn adnoddau. Er bod y gyllideb ddangosol wedi neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24, mae dyraniad y gyllideb ddrafft wedi gostwng i £6 miliwn. Rwyf braidd yn ddryslyd ac efallai y gallech esbonio'r sefyllfa'n well. Felly, sut y gallwch ddweud ar y naill law fod diogelwch adeiladau yn un o'ch prif flaenoriaethau, ond eich bod yn ei dorri ar yr un pryd?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Felly, mae'n rhaglen amlochrog yn y bôn, ac felly, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw graddnodi'r gyllideb hyd at y pwynt lle rydym yn gwneud y gwaith cyweirio. Felly, fe welwch ein bod yn gwario llai ar ddechrau'r rhaglen gan ein bod yn cynnal arolygon. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith cyweirio. Rydym yn amlwg wedi gwneud gwaith cyweirio ar adeiladau cymdeithasol sy'n bodloni'r meini prawf, er enghraifft. Rydym ar fin dechrau'r gwaith cyweirio y soniais amdano ar adeiladau amddifad. Bydd rhai o'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector preifat yn cael eu cyweirio. Ond mae'n amlwg y bydd y rhaglen hon yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd—pedair neu bum mlynedd, yn gyffredinol, ar gyfer rhaglen gyfalaf o'r fath. Felly, mae angen ichi edrych ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:48, 8 Chwefror 2023

Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor, i ofyn ei gwestiynau i'r Dirprwy Weinidog. Mabon ap Gwynfor.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy gydnabod bod yna lot o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd efo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Roedd adroddiad diweddar Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ddifyr iawn, efo un ystadegyn arbennig o ddifyr a oedd yn dweud bod dwy ran o dair o siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai, ond roedd y data yna wedi pwyso’n sylweddol i'r ardaloedd mwyaf poblog yn amlwg.

Mae nifer o gynlluniau metro ar y gweill hefyd, ac os edrychwn ni unwaith eto ar y gogledd, mae yna sôn sylweddol yno am ddatblygu linciau trên o Landudno a Wrecsam i Lerpwl a Manceinion. Mae metro bae Abertawe yng ngorllewin Cymru yn sôn am y canolfannau trefol unwaith eto. Ond yr hyn sydd yn nodedig yn hyn oll ydy absenoldeb llwyr cynlluniau ar gyfer y Gymru wledig. Ble mae Ceredigion, Powys, y rhan fwyaf o Wynedd a’r berfeddwlad yn y cynlluniau metro? Felly, beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod trigolion y Gymru wledig yn medru cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:49, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y set bwysig honno o gwestiynau. Mewn gwirionedd, dangosodd y data a gyhoeddwyd gan gomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, fod y rhan fwyaf o deithiau’n gymharol fyr, ac mewn egwyddor, y gallai trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gymryd lle llawer ohonynt pe bai’r gwasanaethau ar gael. Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn gydag awdurdodau lleol ac eraill mewn gwahanol rannau o Gymru, a’r hyn sy’n drawiadol yw, pan fyddwch yn mapio ardaloedd gwledig, fod ardaloedd gwledig i'w cael ym mhob sir yng Nghymru. Nid yw'n fater sy'n ymwneud â'r canolbarth yn unig, neu'n fater sy'n ymwneud â'r gogledd-orllewin; mae gwledigrwydd ym mhobman, ac mae mater hygyrchedd a dewis yn her wirioneddol ledled y wlad.

Gwyddom o wledydd eraill, lle gwneir dewisiadau gwahanol, y gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus hyfyw mewn ardaloedd gwledig iawn. Os edrychwch ar Sweden, yr Almaen neu'r Swistir, mae gan hyd yn oed y pentrefi bach wasanaeth bws bob awr. Felly, nid oes unrhyw reswm, mewn egwyddor, pam na allem wneud cynnig llawer gwell ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae'n gwestiwn o adnoddau a dewisiadau gwleidyddol. Nawr, os ydym yn mynd i gyflawni'r targedau newid hinsawdd y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddynt, yn amlwg, mae angen inni newid dulliau teithio, pobl yn newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ym mhob rhan o Gymru. Un o’r pethau rydym yn canolbwyntio arnynt yw dweud, ‘Sut rydym yn sicrhau mai'r hyn y gwyddom yw’r peth iawn i’w wneud yw'r peth hawsaf i’w wneud?’, gan mai natur ddynol yw gwneud y peth hawsaf, ac ar hyn o bryd, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw'n hawdd, neu mewn llawer o gymunedau, nid yw'n bosibl dal bws ar ôl 5 neu 6 o'r gloch y nos. Felly, gwyddom nad ydym yn dechrau o le gwych, a gwyddom fod hyn yn mynd i gymryd peth amser.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio, rydym yn edrych ar goridorau trafnidiaeth yn y gorllewin. Mae’r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi cytuno ar raglen waith gyda Trafnidiaeth Cymru i asesu’r posibiliadau ar gyfer coridorau bysiau, yn bennaf, yn y gorllewin, ond gan edrych hefyd ar sut, o ran cynllunio, y gallwn gadw’r hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Ond ar ryw adeg, bydd angen inni ddewis ble rydym yn rhoi'r buddsoddiad prin sydd gennym a ble mae'r flaenoriaeth. Credaf mai dyna yw ein cyfyng-gyngor, oherwydd o safbwynt carbon, rydym bob amser yn mynd i fod yn awyddus i gyflawni’r gostyngiadau cyflymaf a’r gostyngiadau mwyaf mewn carbon. Yn amlwg, bydd buddsoddiadau mewn ardaloedd gwledig yn ddrytach a byddant yn cael llai o effaith o ran carbon, a bydd angen inni fynd i'r afael â'r tensiwn hwnnw. Ond rwy'n glir iawn nad ydym yn mynd i allu llwyddo yn ein gweledigaeth gyffredinol oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r broblem wledig.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:52, 8 Chwefror 2023

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hynny, a'r geiriau cynnes iawn sydd wedi cael eu rhoi yn cefnogi cael darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig, ond ymhellach i hynny, mae wedi dod i fy sylw i fod y cynllun bus emergency scheme, a gafodd ei gyflwyno yn ystod COVID, am gael ei arallgyfeirio er mwyn digolledi anghenion eraill o fewn y Llywodraeth, ac felly bod y pres yma'n dirwyn i ben yn ddisymwth iawn.

Mae sawl darparwr bysus wedi cysylltu efo Aelodau'r meinciau yma dros y dyddiau diwethaf yn sôn fod y cynllun BES yma, a oedd i fod i ymestyn am flwyddyn arall, wedi cael ei ollwng ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Mae hyn, wrth gwrs, wedi chwalu cynlluniau bysus, y cwmnïau, ac yn golygu nad ydyn nhw'n medru rhoi notis angenrheidiol ar gyfer dirwyn llwybr penodol i ben. Darparwyr lleol a chymharol fach ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd heb gronfa fawr o arian i'w galluogi i ddigolledi rhai o'r llwybrau yma. O ganlyniad, maen nhw'n ein rhybuddio ni y bydd hyn yn golygu bod nifer o lwybrau yn mynd i ddod i ben, a hwyrach rhai busnesau yn dirwyn i ben. Mae'r darparwyr bysus hynny'n tiwnio i mewn heddiw i'r sesiwn yma ac yn gwrando i weld os medrith y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd iddyn nhw y bydd y gyllideb a'r grant yn parhau i ariannu'r llwybrau bysus yma. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ein sicrhau na fydd yr ariannu i wasanaethau bysus Cymru yn ei chyfanrwydd, sydd yn golygu'r bus emergency scheme, yn cael ei dorri, ac y bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:53, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n fwy na geiriau cynnes yn unig. Rydym wedi gwario £150 miliwn ers dechrau’r pandemig ar achub y diwydiant bysiau yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny: heb gymorth ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru, byddai’r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal; ni fyddai unrhyw wasanaethau bws ar ôl. Felly, credaf ei bod ond yn deg inni gofio ein bod wedi rhoi ein harian ar ein gair.

Nawr, holl bwynt y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau—mae'r cliw yn y teitl—oedd ei fod yno ar gyfer argyfwng; ni fwriadwyd erioed iddo fod yn gyllid hirdymor, a'r bwriad bob amser oedd y byddai'n dod i ben. Nawr, yr her sydd gennym yw nad yw'r lefelau defnydd wedi dychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig. Felly, rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau nad yw'n gweld yr un ymddygiadau bellach â’r hyn a welai'n flaenorol. Felly, ar un ystyr, rydym yn ffosileiddio rhwydwaith bysiau. Mae hyd yn oed y diwydiant yn cytuno bod angen inni ad-drefnu ac ailedrych ar y rhwydweithiau bysiau yng Nghymru.

Nawr, rydym wedi bod yn gwneud hyn yn fwy hael o lawer na Lloegr; rydym wedi cynnal llawer mwy o ddefnydd o ddarpariaeth bysiau nag sydd wedi digwydd dros y ffin. Credaf y byddai unrhyw olwg deg yn edrych ar y toriadau sy’n cael eu gwneud yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae’r diwydiant bysiau wedi wynebu ymyl clogwyn ledled y DU oherwydd y datgysylltiad rhwng y realiti, yr ymddygiadau, ac economeg y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae gennym broblem wirioneddol yma, yn yr ystyr nad yw cyfraddau defnydd, yn enwedig ymhlith pensiynwyr, wedi dychwelyd i'r cyfraddau rydym am eu gweld. Ac yn syml iawn, nid oes gennym arian i barhau i gynnal y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau ar yr un lefelau â phan oedd y pandemig ar ei anterth. Felly, mae gennym broblem.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant. Cyfarfu Julie James a minnau â’r gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf. Rydym wedi bod yn cyfarfod drwy gydol yr wythnos hon, a byddwn yn cyfarfod â hwy eto ddydd Gwener, gan eu bod wedi cyrraedd y terfyn amser i hysbysu'r comisiynydd traffig ar gyfer rhoi'r contractau hyn yn ôl. Rydym wedi siarad â’r comisiynydd traffig ynglŷn â chynnig rhywfaint o ddisgresiwn ynghylch pryd y bydd y trothwy hwnnw'n cael ei gyrraedd, ac maent yn sicr yn agored i fod yn bragmatig ynglŷn â hynny. A'r hyn rydym am ei wneud yw tapro'r cynllun, nid wynebu ymyl clogwyn. Ond mae'n rhaid inni ddod â'r cymorth i ben, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i ateb nad yw'n arwain at ddiddymu llawer o lwybrau teithio, ond mae'r sefyllfa ariannol rydym ynddi—ein cyllideb—yn heriol tu hwnt, ac rydym yn gweithio drwy'r wythnos hon i weld beth y gallwn ei wneud.