– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch i'r Gweinidog. Symudwn nawr i'r ail ddadl fer, a galwaf ar Siân Gwenllian i siarad.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am roi amser i Jane Dodds a Rhun ap Iorwerth, ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau nhw.
Mae mamolaeth a chyfnod geni plentyn yn gyfnod positif iawn i lawer ohonom ni, ond dan rhai amgylchiadau, mae’n gallu bod yn gyfnod dyrys ac anodd iawn, ac yn y ddadl fer heno yma, dwi am ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl sy’n dod i ran rhai merched—yn benodol, problemau sy’n gysylltiedig efo mamolaeth a geni plentyn. Mae angen sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu darparu mewn ffordd briodol ar draws Cymru, gan roi anghenion merched, eu babanod a’u teuluoedd yn ganolog i’r drafodaeth. Dydy’r ddarpariaeth ddim yn gyson ar draws Cymru, a dwi’n bryderus bod llawer o ferched o fy etholaeth i ac yn y gogledd yn fwy cyffredinol yn dioddef yn sgil diffyg darpariaeth ac adnoddau.
Mae dros un ym mhob 10 menyw yn datblygu salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn y flwyddyn gyntaf o eni plentyn. Dyma un o’r problemau iechyd mwyaf cyffredin i famau beichiog a, heb y driniaeth briodol, mae’n gallu cael effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl y merched a’u babanod, ac yn rhoi straen anferth ar deuluoedd. Gyda’r driniaeth a’r gefnogaeth gywir, mae merched a’u teuluoedd yn gallu gwella ac ymdopi.
A gaf i droi yn gyntaf at wasanaethau amenedigol cymunedol? Mae hi’n ofynnol i ddarparu ymwelydd iechyd a bydwraig benodol ar gyfer pob menyw beichiog i fonitro unrhyw faterion a rhoi cymorth iddi, gan gynnwys atgyfeirio i’r gwasanaethau amenedigol arbenigol priodol, yn ôl yr angen. Dwi ddim wedi cael fy modloni bod yr arallgyfeirio yma yn digwydd mewn ffordd gyson yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae hi’n destun pryder mawr nad oes gan fwrdd iechyd Betsi unrhyw gyllideb ar gyfer gwasanaethau amenedigol ysgafn neu gymedrol, er bod £3 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer hyn yn flynyddol ar draws Cymru. Mae hyn yn fwlch sylweddol, ac yn frawychus yn wir, a dwi yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog ymchwilio i hyn ac unioni’r sefyllfa ar unwaith. Mae’r bwlch yma yn golygu bod menywod yn dirywio yn sydyn gan ddatblygu yn achosion difrifol, sydd efo goblygiadau sylweddol iddyn nhw a'u teuluoedd, ond hefyd efo goblygiadau ariannol.
Mae’r sefyllfa yma yn bodoli er gwaethaf yr ymrwymiad bod gwella gofal iechyd meddwl amenedigol yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ers y tymor seneddol diwethaf yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fe wnaed ymrwymiad y byddai gan bob bwrdd iechyd wasanaeth cymunedol hygyrch ac ymrwymiad i wella mynediad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae gwendidau yn y ddarpariaeth gymunedol ar draws Cymru, sy'n effeithio yn andwyol ar ormod o ferched a gormod o deuluoedd. Ond, mae’r gwendidau yn amlwg o boenus yn y gogledd, ac mae'n rhaid inni symud yn gyflym i unioni hyn.
Dwi hefyd yn ymwybodol o ddiffyg gofod ar gyfer apwyntiadau cymunedol a bod llawer o’r rhain yn digwydd mewn lleoliadau anaddas. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd i fwrdd iechyd Betsi gyrraedd y safonau priodol heb sôn am fod yn ddiflas iawn i staff a’r merched dan sylw.
Dwi’n troi rŵan at y gwasanaethau ar gyfer yr achosion sydd yn codi o broblemau mwy difrifol. Bydd pump o bob 100 o ferched beichiog yn datblygu problem iechyd meddwl difrifol. Bydd rhwng dwy a phedair o bob 1,000 o ferched sy’n cael plentyn angen gofal mewn ysbyty. Uned mamau a babanod ydy’r lle priodol ar gyfer derbyn y gofal hyn, ond mae yna ormod o lawer o famau yn gorfod cael eu trin ar wardiau seiciatryddol cyffredinol. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod, a fydd ond yn ychwanegu at y broblem, siŵr iawn.
Rydyn ni'n gwybod bod uned wedi cael ei hagor yn y de, ac mae hynny yn wych o beth. Mae’n bryd cael data am yr uned honno ac hoffwn i ofyn i’r Dirprwy Weinidog gyhoeddi unrhyw adroddiad yn sgil adolygiad o’r uned ers iddi agor ym mis Ebrill 2021. Fe wnaeth y Llywodraeth ymrwymo i gynnal adolygiad yn Ebrill 2022, ond, hyd yma, dydw i ddim wedi gallu cael mynediad at ddata cyhoeddus. Felly, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr adroddiadau a’r data a hefyd y deilliannau a’r gwersi i’w dysgu wrth i ni drafod uned ar gyfer y gogledd.
Roedd adroddiad y pwyllgor plant a phobl Ifanc wedi nodi na fyddai MBU yn y de o angenrheidrwydd yn addas ar gyfer mamau a’u teuluoedd yn y canolbarth a’r gogledd. Nodwyd bod angen trafod opsiynau efo NHS England gyda’r nod o greu canolfan yn y gogledd-ddwyrain, gogledd-ddwyrain Cymru, fyddai’n gallu gwasanaethu mamau a’u plant ar ddwy ochr y ffin. Y ddadl rydyn ni'n ei chlywed ydy nad oes yna ddim digon o achosion yn y gogledd a’r canolbarth i gyfiawnhau uned ar wahân ar gyfer yr ardal ond y gellid llenwi gwelyau mewn uned drwy drefniant â byrddau iechyd cyfagos sydd yn rhan o NHS England. Yn anffodus, y penderfyniad oedd bwrw ymlaen gydag uned wyth gwely yn Lloegr gyda mynediad i deuluoedd o’r gogledd yn lle mynd o’i chwmpas hi'r ffordd arall ac yn y ffordd a argymhellwyd yn adroddiad y pwyllgor, sef uned yng Nghymru fyddai yn hygyrch ar gyfer pobl yn cael eu gwasanaeth drwy NHS Lloegr.
Dwi’n deall, erbyn hyn, mai’r bwriad ydy adeiladu uned yn Swydd Gaer a’i bod, yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, i fod i agor erbyn y gwanwyn flwyddyn nesaf. Ond, rhaid i mi ddweud, mae’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw fanylion pellach na hynny. Y sôn ydy y bydd yr uned yma yn cynnwys dau wely ar gyfer merched o’r gogledd, ac y gallai bwrdd iechyd Betsi brynu llefydd ychwanegol wrth i alw gynyddu. Yn fy marn i, dyma’r model anghywir ar gyfer diwallu anghenion merched yn fy etholaeth i a thu hwnt yn y gogledd. Y model anghywir, pan oedd yna ddewis amgen o fodel fyddai wedi gallu diwallu yr anghenion yn yr un ffordd yn union.
Oni bai am bellteroedd teithio hollol afrealistig i lawer o famau, mae problem sylfaenol ac allweddol yn codi o ran diwallu anghenion iaith Gymraeg llawer o deuluoedd. Fedraf i ond dychmygu pa mor erchyll fyddai gorfod bod ymhell o gartref mewn cyfnod mor fregus. Os mai’r Gymraeg ydy'ch mamiaith chi a’r cyfrwng cwbl naturiol ar gyfer cyfathrebu efo’ch baban newydd, meddyliwch pa mor estron fyddai hynny yn Swydd Gaer, pan fydd y gweithlu yn uniaith Saesneg. Petai’r uned wedi ei lleoli yn y gogledd ac yn darparu gwelyau ar gyfer merched o Loegr, fyddai yna ddim problem iaith, wrth gwrs, achos mae siaradwyr Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd. Felly, mae angen rhoi sylw brys i’r elfen ieithyddol yn y model newydd, os mai hwn fydd yn symud yn ei flaen, neu mae arnaf i ofn bod strategaeth 'Mwy na geiriau' y Llywodraeth yn un wag a diystyr. Os nad ydy hi’n rhy hwyr, mi fuaswn i yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog adolygu’r penderfyniad ffôl i greu uned ar gyfer merched y gogledd yn Lloegr.
Dwi wedi cymryd y cyfle yn y ddadl yma i nodi’r gwendidau sylfaenol yn y ddarpariaeth amenedigol yn y gogledd, y diffygion yn y gwasanaethau cymunedol, a’r model cwbl annigonol ac amhriodol sydd ar y gweill o ran gwasanaethau ar gyfer achosion difrifol. Dwi yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd yr hyn dwi'n ei ddweud heddiw o ddifrif ac yn gweld fy mod i'n ceisio gwella'r sefyllfa. Fy ngobaith i ydy, drwy ddod â'r ddadl yma ymlaen a rhoi hyn i gyd o dan y chwyddwydr yma yn y Senedd, y bydd y Dirprwy Weinidog yn gofyn i’w swyddogion hi am adroddiad brys ar y sefyllfa yn y gogledd, efo argymhellion pendant er mwyn gwella’r sefyllfa ar gyfer mamau, babanod a theuluoedd ar draws y gogledd. Diolch.
Diolch i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig, pwysig iawn yma.
Mae hwn yn fater nad ydym yn clywed llawer amdano nac yn ei drafod yn gyhoeddus. Mae'n dangos y stigma sylweddol sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl o hyd, yn enwedig i famau newydd neu famau beichiog. O fy mhrofiad fy hun o fod yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rwy'n gwybod pa mor ddinistriol yw hyn nid yn unig i famau ond i dadau hefyd. Felly, i deuluoedd, mae'r mater hwn efallai'n peri pryder a chywilydd a stigma ac mae'n rhaid inni wella gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod pwy yw'r bobl hynny ac yn cynnig y gwasanaethau cywir iddynt. Mae fy rhanbarth yn cynnwys rhan o Betsi Cadwaladr a Dwyfor Meirionnydd. Gan gynrychioli'r Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd, mae angen mwy o gyfleusterau a mwy o opsiynau i'n menywod a'n rhieni sy'n wynebu problemau sylweddol ar ôl geni babi.
Mae adroddiad newydd 'Saving Lives, Improving Mothers' Care' yn dangos bod 18 y cant o'r holl farwolaethau ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl geni babi yn digwydd o ganlyniad i hunanladdiad, a seicosis ôl-enedigol yw prif achos y marwolaethau hynny. Canfu'r adroddiad y gallai 67 y cant o'r achosion o hunanladdiad fod wedi cael eu hatal pe bai gwelliannau wedi bod mewn gofal. Ym mis Ebrill 2021, rydym yn gwybod bod Uned Gobaith yn Abertawe wedi agor, gan ddarparu'r chwe gwely uned mamau a babanod cyntaf yng Nghymru. Ond yn Abertawe y mae hynny; mae angen mwy, ac mae eu hangen yng ngogledd Cymru yn sicr. Ac mae rheswm penodol iawn pam ein bod eu hangen yng ngogledd Cymru, sef yr iaith.
Mae ymchwil yn dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth fel materion iechyd meddwl yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn eich dewis iaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall wneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eich rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau wedi’u darparu trwy gyfrwng eu dewis iaith, gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant. Felly, mae’n bwysig, bwysig iawn fod yna rywbeth yng ngogledd Cymru, ac i wneud yn siŵr bod hynny yn edrych ar iaith y teuluoedd sy’n cael eu heffeithio.
Yn eu tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor y Senedd ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, lleisiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bryderon fod mynediad at ofal iechyd meddwl, er gwaethaf y mesurau a roddwyd ar waith i wella mynediad at ofal iechyd yn Gymraeg, yn parhau i fod yn wael. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y mater hwn ac yn gallu ymateb i rai o'r pryderon a fynegwyd. Mae angen inni sicrhau bod teuluoedd, pan fyddant yn cael babi, yn cael y profiad mwyaf gwych, ac rydym yn gwybod y gall seicosis ôl-enedigol fod yn brofiad mor ddinistriol, a sicrhau bod gennym wasanaethau i nodi a chefnogi cyn yr enedigaeth, ac os oes angen, i barhau ar ôl yr enedigaeth, ac mae angen iddynt fod yn deg a chyson ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Siân am ddod â’r pwnc pwysig yma i'r Senedd heddiw. Buaswn i hefyd yn licio diolch a thalu teyrnged i’m cyn-gyfaill a chyd-Aelod, Steffan Lewis, am y gwaith rhagorol a wnaeth o yn y maes yma, yn rhoi sylw i’r angen am sicrhau gofal iechyd meddwl amenedigol o safon uchel. Mae amser genedigaeth yn amser cyffrous i lawer o bobl, ond mae’n amser sy’n rhoi straen enfawr ar eraill, a beth sydd angen ei sicrhau ydy bod y lefel o wasanaeth yn ddigonol ac yn gytbwys ym mhob rhan o Gymru. Mae’n berffaith amlwg, fel rydyn ni wedi'i glywed gan Siân heddiw yma, fod yna ddiffyg ar draws y gogledd yn benodol. Dwi’n cytuno’n llwyr bod y model, os mai dyna gawn ni, o gyflwyno’r gwasanaeth dros y ffin yn fodel anghywir. Rydyn ni’n gwybod bod yna drafodaeth sy’n barhaus ynglŷn â darparu gwasanaethau dros y ffin, a lle mae yna arbenigedd wedi’i gwreiddio ers blynyddoedd mawr, fel ysbyty Alder Hey ac ati, wrth gwrs fod yna berthynas bwysig i’w chael. Ond dyma’r union fath o wasanaeth y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei ddarparu o fewn y gogledd, a pham lai cynnig gwasanaethau i’r rhai o dros y ffin i ddod iddyn nhw? Mae’r elfen ieithyddol yn rhan mor bwysig ohono fo—nid yn unig i roi’r agosatrwydd daearyddol, ond yr agosatrwydd diwylliant yna i bobl ar adeg pan fyddan nhw ar eu mwyaf bregus. Felly, dwi innau yn galw ar y Gweinidog i sicrhau nad ydyn ni’n gadael i lawr y merched yma ar adeg lle maen nhw'n fwyaf angen ein cymorth ni.
A galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i’r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Gwn fod gan Siân ddiddordeb hirsefydlog mewn iechyd meddwl amenedigol a'i bod wedi ymrwymo i'r mater. Hoffwn ddiolch hefyd i Jane a Rhun, sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a chydnabod cydnabyddiaeth Rhun i'r rôl a chwaraeodd Steffan yn codi'r mater hwn ar yr agenda yn y Senedd. Roedd yn hynod o bwysig.
Rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i ailddatgan fy ymrwymiad i wneud popeth a allaf i sicrhau bod mamau a theuluoedd yn cael y gefnogaeth iechyd meddwl amenedigol y maent ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. Fel y gŵyr Siân, cadeiriais ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd meddwl amenedigol yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n ymwybodol iawn o ba mor hanfodol yw cymorth iechyd meddwl amenedigol, nid yn unig i famau, ond i'r babanod sydd yn y 1,000 diwrnod cyntaf gwerthfawr hynny o'u bywydau. Gwyddom y gall eu datblygiad yn yr amser hwnnw fod yn allweddol i'w cyfleoedd bywyd gydol oes. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr argymhellion a ddaeth o'r ymchwiliad yn cael eu gweithredu.
Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol, ond rydym hefyd yn cydnabod bod mwy i'w wneud, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, a bu hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-2022. Rydym yn gweithio nawr ar ddatblygu olynydd i'r cynllun, a gallaf ddweud wrth y Siambr y bydd iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y cynllun olynol. Byddwn yn ymwneud â'r rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol wrth inni ddatblygu'r gwaith hwn. Yn rhan o hyn, byddwn hefyd yn ceisio gweld sut y gallwn ddatblygu'r dull llwybr, gan gydnabod bod gwasanaethau arbenigol yn un elfen o hyn.
Yn rhan o'n gofal a chymorth mamolaeth a blynyddoedd cynnar, mae byrddau iechyd eisoes yn gweithio gyda theuluoedd fel rhan o ddull ymyrraeth gynnar. Mae gan bob mam a theulu fydwraig benodol i'w cefnogi yn ystod beichiogrwydd ac yn ôl-enedigol. Mae hyn yn cynnwys ystyried lles meddyliol amenedigol, ac mae llwybrau yn eu lle ar gyfer y rhai sydd angen cael eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Erbyn hyn, mae gan bob bwrdd iechyd fydwraig iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn ei swydd sy'n gallu cefnogi mamau a theuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Ers 2015, rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar draws Cymru, ac o ganlyniad, gwnaed cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth. Erbyn hyn, ceir gwasanaethau ym mhob ardal bwrdd iechyd, ac mae dros £3 miliwn o gyllid gwella gwasanaeth iechyd meddwl yn cefnogi'r gwasanaethau hyn yn flynyddol. O safbwynt y gogledd, mae dros £800,000 o'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu i gefnogi iechyd meddwl amenedigol. Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle ychydig yn ôl i ymweld â'r tîm iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru. Roedd eu hymrwymiad i'r mamau y maent yn eu cefnogi yn amlwg, ac rwyf eisiau talu teyrnged iddynt am y gwaith a wnânt ddydd ar ôl dydd yn cefnogi mamau yng ngogledd Cymru.
A gaf fi roi ymrwymiad i Siân Gwenllian y byddaf yn edrych ar yr hyn a ddywedodd heddiw am y cymorth lefel is? Nid yw'n rhywbeth sydd wedi'i godi yn fy sgyrsiau am iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru, ond byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda swyddogion ac yn rhoi diweddariad pellach i chi.
Mae pob bwrdd iechyd hefyd yn gweithio tuag at gyrraedd safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac rydym wedi sicrhau bod cyllid gwella gwasanaeth ar gael i gefnogi'r gwaith hwn hefyd. Mae byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd da tuag at y safonau hyn, gan gynnwys yn y gogledd, ond mae mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y gofal sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar hyn o bryd mae gwasanaethau'n cydymffurfio â 91 y cant o safonau math 1 a 75 y cant o safonau math 2. Mae ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau i nodi lle mae bylchau o ran cyrraedd y safonau, ac i roi cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo gwasanaethau i gyrraedd y safonau hyn.
Ymhlith y themâu cyffredin sydd wedi'u nodi ar gyfer gwella mae darparu gofod clinigol sy'n canolbwyntio ar y teulu, rhywbeth y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, digon o ofod swyddfa ar gyfer timau, a darparu gwybodaeth ynghylch hawliau gofalwyr ac eiriolaeth. Dros y misoedd diwethaf, mae arweinydd clinigol iechyd meddwl amenedigol Cymru a'r rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol wedi datblygu llwybr gofal. Nod y llwybrau yw safoni ymarfer, darparu eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau, ac adlewyrchu ymyrraeth gynnar ataliol a dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yn ogystal â darparu tegwch, dylai'r llwybrau hyn sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu gan y bobl gywir ac ar yr adeg gywir.
Fel y nododd yr Aelodau, ym mis Ebrill 2021 fe wnaethom agor uned i famau a babanod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd hwn yn gam pwysig iawn ymlaen i ddarparu gwell cefnogaeth iechyd meddwl amenedigol i famau yng Nghymru. Mae'r ganolfan hon yn rhan bwysig o wella profiad mamau newydd, gan y byddant yn gallu cael y gefnogaeth arbenigol y maent ei hangen iddynt eu hunain a'u babanod yn nes at adref. Gallais ymweld ag uned mamau a babanod de Cymru, ein Huned Gobaith, y llynedd. Roedd yn wych cael cyfarfod â'r tîm hynod ymroddedig, a mamau hefyd, a siaradodd yn wirioneddol bwerus am y gwahaniaeth roedd cael cefnogaeth uned mamau a babanod wedi'i wneud iddynt hwy.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal adolygiad o'r uned mamau a babanod yn ne Cymru, lle cytunwyd i barhau i gefnogi'r gwasanaeth ar safle presennol Tonna, a chadw hyn dan arolwg. Er fy mod yn falch iawn fod gennym y gwasanaeth hwn yn ne Cymru, rwy'n cydnabod ei fod yn rhy bell i ffwrdd i fod yn wasanaeth priodol i fenywod sy'n byw yn y gogledd, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth yn nes at adref i famau yn y gogledd. Mae'r gwaith modelu a wnaed yng Nghymru wedi dangos nad oes digon o alw ar hyn o bryd i gael uned annibynnol yng ngogledd Cymru, a dyna pam ein bod wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr er mwyn datblygu uned ar y cyd yng ngogledd-orllewin Lloegr sy'n galluogi mamau i ddod iddi o ogledd Cymru. Yn hynny o beth, mae cryn dipyn o ymgysylltiad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Lloegr ynghylch datblygu'r uned newydd hon.
Cafodd yr achos busnes ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2022 ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth fod yn weithredol yn ystod haf 2024. Rwy'n cydnabod bod hyn beth amser i ffwrdd, ac mae swyddogion yn gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar nodi unrhyw gyfleoedd i gyflymu'r amserlenni hyn os yn bosibl. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r darparwr i gefnogi anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith wrth ddatblygu'r uned. Ac a gaf fi eich sicrhau, Siân, fy mod i'n llwyr gydnabod pwysigrwydd gallu cyfathrebu—a Jane hefyd—drwy eich iaith gyntaf pan fyddwch chi mewn sefyllfa lle rydych chi gymaint o angen cymorth iechyd meddwl?
Felly, bydd sefydlu'r ddarpariaeth hon ar gyfer gogledd Cymru yn flaenoriaeth allweddol dros y misoedd nesaf hyn. Gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i'r Aelodau ynglŷn â'r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i famau yng ngogledd Cymru a'r cynnydd a wnaed ar ddatblygu'r ddarpariaeth ledled Cymru. Rwy'n cydnabod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A wnaethoch chi edrych ar y model amgen, sef yr un roedd y pwyllgor yn ei argymell yn yr adroddiad a gadeiriwyd gennych—y model amgen o ddarparu'r uned yng Nghymru, ac felly byddai anghenion iaith Gymraeg yn cael eu diwallu ac yn amlwg byddai'n nes at adref i lawer o fenywod, yn hytrach na'r model sydd bellach yn cael ei gynnig, sy'n mynd i greu llawer o broblemau gydag anghenion ieithyddol mamau a'u teuluoedd? Ac i fod yn onest, mae Caer yn bell iawn o Amlwch.
Wel, Siân, pan ddeuthum i'r swydd, roedd y cynlluniau ar gyfer yr uned dros y ffin eisoes ar y gweill, gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi gwneud dadansoddiad i nodi'r lefelau posib o angen yng ngogledd Cymru. Felly, ar y sail honno y gwnaed y penderfyniad i gael yr uned ychydig dros y ffin. Ac rwy'n gwybod bod Jane wedi gwneud y pwynt am gael gwasanaethau hygyrch, ond maent yn wasanaethau arbenigol, felly ni fyddem byth mewn sefyllfa lle byddai gennym unedau mamau a babanod wedi'u gwasgaru ar hyd y lle yng Nghymru. Maent yn arbenigol iawn, gyda thimau amlddisgyblaethol, ac maent yn gwasanaethu'r menywod sydd â'r problemau mwyaf dwys—felly, fel y dywedodd Jane, seicosis ôl-enedigol, sy'n hynod o ddifrifol. Felly, roedd y dadansoddiad ar y gweill cyn fy amser i, ond dyna fy nealltwriaeth i o'r gwaith a wnaed i nodi angen. Ac o'm safbwynt i, Siân, rwyf am weld gwasanaeth yno nawr mor gyflym ag y gallwn ei gael, a byddai cael gwared ar bopeth sydd wedi'i wneud yn broses hir iawn, ac rwyf eisiau i'r menywod yng ngogledd Cymru gael mynediad at wasanaeth cyn gynted ag y gallwn.
Er gwaetha'r gwaith cadarn a wnaed gan wasanaethau, rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud, ac mae angen inni wneud cynnydd pellach er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau o'r safon uchel y mae mamau yng Nghymru'n ei haeddu. Mae hyn yn cynnwys y gwaith i sicrhau bod darpariaeth yr uned mamau a babanod yn diwallu anghenion mamau yng ngogledd Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ymhellach yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.