– Senedd Cymru am 2:35 pm ar 21 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—na, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y datganiad hwn mewn cysylltiad â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ddoe. Mae'r aer yr ydym ni'n ei anadlu, a'r synau sy'n cario arno, yn effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant ni bob munud o bob dydd, hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y perygl unigol mwyaf i iechyd amgylcheddol drwy'r byd, a llygredd sŵn yn ail i hynny yng ngorllewin Ewrop. Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n cydnabod pwysigrwydd mawr gwella amgylchedd yr aer drwy'r ymrwymiad a roddwyd i gyflwyno'r Bil hwn, a elwid gynt yn Fil aer glân.
Nod y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at welliannau o ran ansawdd aer a seinwedd yng Nghymru, gan leihau'r effeithiau ar iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag amgylchedd aer gwael. Rwy'n gwybod bod hwn yn nod y byddwch chi i gyd yn ei gefnogi, yn dilyn trafodaethau defnyddiol gyda'r grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, a thrwy ymrwymiadau ar gyfer Deddf aer glân yn llawer o'ch maniffestos diweddar. Wrth ddatblygu'r Bil, fe wnaethom ni adeiladu ar gynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw drwy'r cynllun aer glân a Phapur Gwyn ar Fil aer glân. Rydyn ni wedi cynnwys cynigion sy'n gysylltiedig â sŵn a seinweddau hefyd, gan ddod yn rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath.
Mae angen ystyried y Bil mewn cyd-destun eang, nid ar wahân. Dyma un rhan o weithredu traws-sector sydd ar y gweill i fynd i'r afael â llygredd aer a sŵn. Mae'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol a'r gyfres o gamau gweithredu i leihau llygredd aer a sŵn sydd yn ein cynllun aer glân i Gymru a chynllun sŵn a seinwedd. Nod y cynigion yn y Bil yw helpu i wella ansawdd ein hamgylchedd aer ledled Cymru, yn lleol ac yn rhanbarthol, a thrwy'r gymdeithas i gyd. Mae'r Bil yn cydnabod sŵn yn yr aer yn fath o lygredd aer hefyd, a sŵn yn fwy cyffredinol hefyd yn briodoledd allweddol i amgylchedd yr aer.
Rydym ni'n creu fframwaith ar gyfer Cymru gyfan i bennu nodau cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer. Mae hyn yn cynnig mecanwaith cryf i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer aer glân a'r canlyniadau cysylltiedig o ran iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, ochr yn ochr â chefnogi camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r fframwaith yn ategu safonau ansawdd aer deddfwriaethol cyfredol. Mae pwerau i weithredu rheoleiddio yn y Bil yn caniatáu i Weinidogion bennu nodau i Gymru, sy'n benodol, ar sail tystiolaeth, o ran llygryddion aer. Drwy'r fframwaith, fe allwn ni bennu nodau mwy caeth o ran llygryddion yn yr aer a chyflwyno nodau ar gyfer risgiau llygryddion sydd newydd eu nodi, ar sail tystiolaeth wrth i'r rhain ddod i'r amlwg, gan gynnwys canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer. Mae bod â nodau penodedig mewn rheoliadau, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, yn golygu y bydd hi'n haws eu diweddaru nhw ac ymateb i newidiadau yn y dystiolaeth.
Mae ein panel cynghori annibynnol ni ar aer glân wedi penderfynu bod y corff mwyaf argyhoeddiadol o dystiolaeth sy'n cysylltu llygrydd aer ag effeithiau ar iechyd pobl yn cynnwys deunydd gronynnol 2.5, y cyfeirir ato fynychaf fel PM2.5. O ganlyniad i hynny, mae'r Bil yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu nod ar gyfer PM2.5 o fewn 36 mis i'r Cydsyniad Brenhinol. Drwy Gymru gyfan, fe fydd hi'n rhaid inni sicrhau bod camau parhaus yn cael eu cymryd i wella amgylchedd yr aer yma; felly, mae'r Bil yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995, sy'n cynnwys y darpariaethau presennol yn ymwneud â'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Fe fydd hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i ymgynghori ar adolygiad neu addasiad o'r strategaeth bob pum mlynedd.
Fel soniwyd, Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gynnwys seinweddau mewn deddfwriaeth. Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer seinweddau bob pum mlynedd. Mae gofynion a llinell amser y ddwy ddogfen strategol hyn yn cyd-fynd â'i gilydd, er mwyn caniatáu i ni eu cyhoeddi nhw ar wahân neu ar y cyd, pryd bynnag y bo hynny'n fuddiol. Mae'r cynigion newydd ar gyfer y dogfennau strategol hyn yn sicrhau hefyd fod y cyhoedd, rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi â rhan yn y camau gweithredu yn y dyfodol i wella'r ansawdd aer a seinweddau sydd gennym ni. Ar lefel leol a rhanbarthol, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y drefn leol i reoli ansawdd aer yn gweithredu yn rhagweithiol, ac yn ataliol, a chyda mwy o ganolbwyntio ar iechyd y cyhoedd.
Mae'r Bil yn cyflwyno gofyniad mwy pendant ar yr awdurdodau lleol i gynnal adolygiad blynyddol o ansawdd aer a rhwymedigaeth i fod â chynllun gweithredu ansawdd aer, sy'n cynnwys dyddiad a ragwelir ar gyfer cydymffurfio, y bydd yn rhaid cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru. Bydd y Bil yn diwygio Deddf Aer Glân 1993 hefyd ar gyfer galluogi'r awdurdodau lleol i reoli a gorfodi allyriadau mwg yn well mewn ardaloedd rheoli mwg. Mae rheoli mwg yn cwmpasu rheolaeth ar lygredd yn sgil llosgi tanwydd solet o simneiau mewn cartrefi a busnesau o fewn ardaloedd rheoli mwg. Ar hyn o bryd, mae troseddau yn anodd eu gweinyddu ac yn anaml iawn y bydden nhw'n arwain at erlyniadau. Mae'r Bil yn cyflwyno cosbau ariannol sifil yn lle'r cosbau troseddol presennol, y gellir eu sefydlu gan awdurdodau lleol lle mae mwg yn cael ei ollwng o simnai o fewn ardal rheoli mwg.
Mae'r Bil yn dileu amddiffynfeydd statudol i helpu gorfodi'r drefn newydd o gosbau sifil. Os yw defnyddiwr yn defnyddio teclyn a gymeradwyir gyda thanwydd awdurdodedig, ni ddylai fod unrhyw allyriadau o fwg gweladwy. Trwy ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol orfodi'r ardaloedd rheoli mwg, rydym ni'n rhagweld y bydd troseddu yn prinhau, gyda swyddogion yn annog newid ymddygiad, ac, os yw hynny'n briodol, yn pennu cosbau ariannol. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o weithredu. Mae gwelliannau i'r drefn rheoli mwg yn cyfrannu at ein polisi ehangach ni i leihau allyriadau oherwydd llosgi domestig, sy'n cael ei drin y tu allan i'r broses gyda'r Bil hwn, gan ddefnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes.
I gefnogi gostyngiadau o ran llygredd aer sy'n deillio o drafnidiaeth, mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru lunio cynlluniau i godi tâl ar gefnffyrdd ar gyfer gwella ansawdd aer gerllaw cefnffyrdd. Mae'r Bil yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Weinidogion hefyd o ran cymhwyso enillion net a ddaw o gynllun at ddibenion ansawdd aer, gan ehangu'r ddarpariaeth bresennol, sy'n cymhwyso enillion net i fesurau trafnidiaeth yn unig. Mae'r darpariaethau newydd hyn yn gwella'r pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru i weithredu parthau aer glân a pharthau allyriadau isel, lle bod angen. Fe allan nhw arwain at welliannau yn ansawdd aer yn lleol drwy annog newid ymddygiad. Nid oes cynlluniau i ddefnyddio'r pwerau hyn ar hyn o bryd, ond maen nhw'n ychwanegiad gwerthfawr i'n pecyn cymorth i wella ansawdd aer, lle bod angen.
Mae segura llonydd cerbydau yn cyfrannu at ansawdd aer gwael a sŵn diangen hefyd. Rydyn ni'n dymuno cynyddu'r ataliaeth sydd yn y drefn gosbi wrth segura bresennol. Ar hyn o bryd, mae cosbau sefydlog am drosedd segura yn cael eu pennu ar ddim ond £20, sy'n codi i £40 os na chaiff ei dalu. Rydyn ni wedi cynnwys pŵer yn y Bil i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i bennu ystod o gosbau ariannol. Fe fydd awdurdodau lleol yn gallu cymhwyso swm o'r ystod a bennir yn y rheoliadau, a gallu cymhwyso cosbau uchaf yr ystod i fynd i'r afael â segura y tu allan i ysgolion ac ysbytai, lle bydd yn fwy tebygol yr effeithir ar rhai sensitif. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o weithredu. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth allweddol o ran cefnogaeth i gyflawniad y camau yn unol â'r cynllun aer glân a'r Bil hwn.
Rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ein cronfa gymorth i reoli ansawdd aer yn lleol, a fydd yn sicrhau bod £1 miliwn o gyllid ar gael yn y flwyddyn ariannol 2023-24 i gefnogi awdurdodau lleol i wella ansawdd aer yn lleol. Mae hyn yn ychwanegol i'r £450,000 a ddyfarnwyd gennym ni dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf trwy gyfnodau treialu'r cynllun. Drwy'r grant, rydyn ni'n gwahodd ceisiadau ar draws tri chategori, sef atal, lliniaru ac arloesi. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni'r camau effeithiol hyn.
Ac yn olaf, mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r effeithiau o ran iechyd a'r amgylchedd oherwydd llygredd aer, a'r ffyrdd y gellir lleihau neu gyfyngu ar hynny. Mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n sicrhau bod cyfraddau uchel o ymwybyddiaeth, er mwyn i ni i gyd ddiogelu ein hiechyd yn ogystal ag iechyd ein cymunedau lleol, yn arbennig y rhai sydd fwyaf agored i niwed oherwydd llygredd aer. Mae eleni, yn anffodus, yn nodi 10 mlynedd ers marwolaeth drist iawn Ella Kissi-Debrah, naw oed. Datblygwyd y ddyletswydd hon gan ddefnyddio argymhellion i atal marwolaethau yn y dyfodol yn dilyn y cwest i'w marwolaeth hi, a oedd yn canfod bod llygredd aer yn ffactor cyfrannol sylweddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am ffynonellau ac effeithiau andwyol llygredd aer. Fe fyddwn ni'n gweithredu'r ddyletswydd hon drwy ddatblygu cynllun cyflawni gyda rhanddeiliaid, a fydd yn nodi camau i gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau a ffynonellau llygredd aer, yn ogystal â ffyrdd o leihau amlygiad iddo.
Drwy'r Bil hwn a'n cynlluniau aer a sŵn a seinwedd glân, rydyn ni'n nodi'r camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Rwy'n credu'n gryf y gallwn ni weithredu'r camau hyn ar y cyd drwy'r gymdeithas, gan sicrhau aer glân a seinweddau cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Fe hoffwn i ddiolch i'r llu o bobl sydd wedi ein helpu ni i gyrraedd y fan hon. Mae hi wedi bod yn ymdrech hynod gadarnhaol a chydweithredol. Mae pawb yn haeddu anadlu aer glân a phrofi amgylchedd sain o ansawdd da. Mae'r dyfodol yn ein dwylo ni. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r broses graffu. Diolch.
Diolch yn fawr i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn ar y Bil hwn heddiw. Yn ein plaid ni, rydyn ni'n llwyr gefnogi hyn, ac rydyn ni, dros y blynyddoedd, wedi galw yn selog lawer gwaith ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn a hynny ar fyrder. Roedd honno, wrth gwrs, yn addewid allweddol yn ymgyrch ac ym maniffesto'r Prif Weinidog. Felly, mae hi'n ychydig yn siomedig iddi gymryd rhyw bum mlynedd erbyn hyn i ddod gerbron y Senedd. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Joe Carter am ei waith i Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Nid yw wedi ymatal rhag ein herio ni i gyd, yn Aelodau yn y fan hon, i sicrhau bod y Bil hwn yn dod drwodd a'i fod yn addas i'r diben.
Mae llygredd aer yn gyfrifol am 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n cyfateb i 6 y cant o'r marwolaethau i gyd. Mae llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes cyfartalog saith i wyth mis. Amcangyfrifir bod llygredd aer yn costio £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn o ran diwrnodau gwaith coll a chostau i'r gwasanaeth iechyd, ac rydyn ni i gyd yn gwybod am blant ledled Cymru sydd ag asthma o ganlyniad i anadlu aer nad yw'n addas i'r diben.
Mae hi'n bryderus iawn hefyd oherwydd i Lywodraeth Cymru ei hunan ganfod bod pobl yng Nghymru yn gyffredin iawn wedi mynd yn fwy agored i lygredd sŵn. Roedd nifer y bobl a oedd yn agored i lefelau sŵn rhwng 70 a 74 desibel, sef lefel sŵn cyfartalog y prif ffyrdd, o briffyrdd wedi cynyddu o 44,600 yn 2012 i 54,000 yn 2017. Mae nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad â lefelau uwch na 75 desibel wedi cynyddu hefyd, gan godi o 4,000 yn 2012 i 6,600 yn 2017. Ac fe wnaeth nifer y bobl sy'n agored i lefelau uwch na 75 desibel o brif reilffyrdd—un i'r Dirprwy Weinidog yw hwn—gynyddu o 2,100 yn 2012 i 3,500 yn 2017. Gall colli clyw ddigwydd wrth ddod i gysylltiad â sŵn sydd dros 70 desibel yn barhaus. Dyma'r gost wirioneddol ac ariannol i bobl oherwydd yr oedi gan Lywodraeth Cymru. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymddiheuro nawr am hyd yr amser a gymerodd hi i'r Bil hwn gael ei gyflwyno, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae llawer mwy o bobl wedi bod yn dioddef oherwydd effeithiau cynyddol llygredd sŵn a llygredd aer?
Yn yr ymgynghoriad, roedd ymatebwyr yn codi mater—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod chi'n credu bod hyn yn ddoniol. Mae hwn yn Fil pwysig iawn sy'n cael ei gyflwyno—cynigion penodol ar yr effaith ar unigolion incwm is. Amlygwyd hyn mewn ymateb i awgrymiadau o barthau allyriadau isel iawn a mesurau gwrth segura. Mewn ymateb i'r olaf, codwyd annhegwch y gallai hysbysiadau cosb benodedig gael eu hanelu at rai sydd ar incwm is. Roedd rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch pa gerbydau fyddai'n cael eu hystyried yn 'segura', gyda'r ymatebwyr yn holi a fyddai bws ysgol neu brif ffrwd mewn cyflwr o 'segura' mewn arhosfan ddynodedig. Felly, mae'n debyg ein bod ni'n gofyn am eglurhad ynglŷn â'r cerbydau hyn, yn ogystal â cherbydau eraill—er enghraifft, faniau sy'n dadlwytho nwyddau, neu dractorau y mae eu trelars nhw'n cael eu llwytho neu eu dadlwytho. Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder i unigolion a busnesau, a fyddwch chi'n cytuno—yn amlwg, wrth i hynny gael ei gyflwyno—i ddiffinio 'segura' yn benodol, yn enwedig o ran cerbydau sy'n llwytho ac yn dadlwytho nwyddau?
Codwyd pryderon hefyd ynghylch y cynigion i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, gan ein bod ni wedi codi hyn sawl gwaith gyda chi hefyd, gyda nifer o'r ymatebwyr yn nodi'r angen am drafnidiaeth amgen sy'n gynaliadwy. Tynnwyd sylw at ardaloedd cefn gwlad yn benodol, gyda'r ymatebwyr yn nodi cymunedau a busnesau yn yr ardaloedd hyn sydd â llai o ddewisiadau o ran trafnidiaeth amgen. Ac fel gwelsom ni o'r ymateb eang i'r adolygiad ffyrdd, mae'r buddsoddiad hwn mewn dewisiadau amgen wedi bod yn brin yn anffodus gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Felly, yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, a wnewch chi ail ystyried y syniad trychinebus i gyflwyno taliadau ffyrdd i gymudwyr, a fyddai'n cosbi eto'r bobl sy'n dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau trafnidiaeth leol? Mae hi'n bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Bil hwn i gosbi pobl Cymru. Gyda'r Bil arfaethedig i gynnwys darpariaethau i ganiatáu codi tâl ar ffyrdd, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru o leiaf 30 y cant o aelwydydd sy'n wynebu tlodi trafnidiaeth. Yn sicr, ni fyddwn ni'n cefnogi unrhyw gynlluniau i godi tâl ar gefnffyrdd wrth i ni gyflwyno ein gwelliannau ni i'r Bil hwn. Gweithwyr Cymru sydd â'r cyflogau lleiaf ym Mhrydain Fawr eisoes. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn caniatáu i'n modurwyr ni orfod talu costau ychwanegol eto. Felly, a wnewch chi sicrhau, Gweinidog, y bydd iechyd a chyfiawnder cymdeithasol yn ymwreiddio yn nibenion y Bil hwn, ac nad yw eich Bil chi'n rhoi'r baich mwyaf o ran lleihau llygredd ar y rhai lleiaf abl i fforddio hynny?
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, wrth i'r Bil hwn ddod ymlaen. Rwy'n siŵr na fyddwn ni'n llwyddo i ddod â'n gwelliannau ni i gyd drwodd, ond gadewch i ni geisio cydweithio, yn drawsbleidiol, i sicrhau bod y Bil hwn yn addas i'r diben ar gyfer y 50, 100 neu 200 mlynedd nesaf. Diolch.
Diolch i chi, Janet. Rwy'n credu i mi ddod o hyd i dri chwestiwn yng nghwrs y chwe munud a hanner yna, ond efallai y byddwch chi'n rhoi gwybod i mi yn nes ymlaen os ydw i'n camgymryd. Roedd y cwestiwn cyntaf yn ddiystyr. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r Bil nawr. Y syniad ein bod ni'n yn mynd dros y ffaith mai nawr yr ydym ni'n ei gyflwyno—nid oeddwn i'n eich deall chi o gwbl yn hynny o beth. Rwy'n credu eich bod chi'n derbyn ein bod ni'n cyflwyno'r Bil nawr ac yn ei groesawu ef, felly rwy'n croesawu eich croeso chi iddo. Rwy'n cytuno â chi hefyd am Joseph Carter, sydd wedi bod yn huawdl iawn y bore 'ma, yn croesawu'r Bil hwn, yn gefnogol iawn. Felly, mae hynny'n braf iawn hefyd.
Yr ail beth yr wyf i'n credu yr oeddech chi'n ei ofyn i mi oedd ynglŷn â mesurau segura. Fe ddywedais i'n eglur iawn yn fy natganiad y byddem yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynglŷn ag union weithrediad y mesurau, ond, yn amlwg, gellid rhoi mwy o gosb ariannol i bobl y gofynnwyd iddyn nhw ymatal rhag segura yn ymyl pobl agored i niwed, megis wrth ysgol neu ysbyty, nag i rai sy'n segura mewn mannau eraill, ond y pwynt mwyaf yma yw rhoi gwers addysgol sef na ddylai pobl segura o gwbl. Felly, os yw eich car chi'n sefyll yn llonydd, fe ddylech chi ddiffodd yr injan. Mae'n rhywbeth eithaf syml i'w ddweud wrth bobl. Ni ddylai hynny godi. Os ydych chi'n dadlwytho lori, diffoddwch yr injan. Os ydych chi'n stopio eich car, diffoddwch yr injan. Pethau eithaf syml yw'r rhain. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ateb y cwestiwn hwnnw, ond fe fyddwn ni'n rhoi arweiniad ar ystod o fesurau gorfodi sifil, oherwydd yr orfodaeth sifil ar hyn o bryd yw £20, ac nid yw hwnnw wedi bod yn ataliad digonol, felly, yn amlwg, mae angen ataliad gwell yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn mai hwnnw yw'r un.
O ran y pwyntiau ynghylch codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi, fel pob amser. Janet, nid ydych chi'n gwneud dim ond siarad drwy'r amser am yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac eto bob un tro yr ydym ni'n gwneud unrhyw beth o gwbl ynglŷn â nhw, nid ydych chi'n dymuno gwneud y peth hwnnw. Mi fyddwn i wrth fy modd yn cael sgwrs gyda chi am yr hyn yr ydych chi'n credu y dylem ni ei wneud, oherwydd nid wyf i wedi dod ar draws unrhyw beth cadarnhaol erioed oddi wrthych chi. Y cyfan yr ydych chi wedi ei ddymuno erioed yw ymatal rhag gwneud rhyw bethau. Felly, rydym ni am wneud hyn, oherwydd mae hi wir yn bwysig iawn i bobl sy'n llygru ein haer ni dalu am wneud hynny. Nawr, yn amlwg fe fyddwn ni'n targedu busnesau a phobl sy'n gwneud y pethau sy'n llygru, ond, yn y pen draw, mae angen i bobl naill ai yrru'n arafach fel bod eu hallyriadau nhw'n gostwng, neu mae angen iddyn nhw allu uwchraddio eu car nhw—rwy'n derbyn na all cyfran sylweddol o bobl wneud felly. Fe fyddwn ni'n uwchraddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gerbydau allyriadau isel; rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny am amser maith iawn eisoes. Rydyn ni wedi bod yn uwchraddio, er enghraifft, y fflyd casglu gwastraff ar draws yr awdurdodau lleol ar gyfer gwneud hynny. Fe fyddwn ni'n helpu pobl i wneud hynny. Ond, yn y pen draw, os ydych chi'n gyrru yn arafach a'ch bod chi'n diffodd eich car pan fydd yn sefyll yn llonydd, fe fyddwch chi'n lleihau eich allyriadau chi'n sylweddol. Yn blwmp ac yn blaen, os byddwch chi'n methu â gwneud hynny, yna fe fyddwch chi'n talu arian am hynny yn y pen draw, oherwydd mae hynny'n gwbl gyfiawn. Mae angen i ni annog pobl i wneud y peth iawn.
Ond rwy'n pwysleisio mai ystyr hyn yw addysg a gwneud pobl Cymru yn ymwybodol o ba effaith mae eu hymddygiad nhw eu hunain yn ei chael ar yr amgylchedd. Rwy'n dweud hyn drwy'r amser: rydyn ni i gyd yn gwisgo llawer o hetiau, felly os ydych chi'n fam neu'n fodryb neu bwy bynnag ydych chi, a'ch bod chi yn eich amgylchedd lleol, fe allwch chi wneud rhai pethau ynglŷn â'ch ymddygiad chi eich hun. Ond fe allech chi fod wrth eich gwaith yno, yn aelod o gymuned leol hefyd, neu'n bob math o bethau eraill, a chyda phob un o'r hetiau hynny, fe allwch chi feddwl o ddifrif, 'Beth a wnaf i effeithio ar yr amgylchedd yma o ran y ffordd yr wyf i'n byw?' Felly, fe allwch chi fynd at eich cyflogwr, fe allwch chi sôn yn eich cymuned, fe allwch chi godi hyn gyda'ch awdurdod lleol, ac fe allwch newid eich ymddygiad chi pan fyddwch chi gartref. Pe gwnawn ni hynny i gyd gyda'n gilydd, fe wnawn ni wahaniaeth sylweddol iawn.
Diolch, Gweinidog. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad hwn, ac mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn. Fe fyddwn i wir yn croesawu hyn oddi wrth y Llywodraeth. Rwyf i am fynd ymlaen i ddweud ychydig bach mwy am ba mor angenrheidiol yw hyn a hynny ar frys, ond rwyf i'n gyntaf am bwyso ychydig mwy ar y Llywodraeth i gael gwybod pam y mae enw'r Bil wedi newid. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt a wnaeth y Gweinidog, sef bod cwmpas y Bil gymaint yn fwy eang. Y rheswm yr wyf i'n gofyn hyn yw oherwydd, pan gafodd yr ymrwymiadau eu gwneud am Ddeddf aer glân yn benodol, mae 'na ddadl y byddai hynny wedi esbonio ei hun yn dda iawn, fe fyddai hi wedi bod yn eglur i'r cyhoedd o ran deall pwysigrwydd cydsyniad y cyhoedd, ac fe fyddai wedi anfon y neges eglur honno. Felly, yn y cyd-destun hwnnw rwy'n gofyn pam mae wedi newid. Efallai fod y Llywodraeth yn dymuno i ni ystyried y Bil hwn fel gwnaeth Juliet y rhosyn, a gofyn, 'Beth sydd mewn enw? Siawns na fyddai Bil wrth unrhyw enw arall yn ymdrin ag arogleuon a llygredd mor rymus ag y byddai Bil aer glân.' Ond rwyf i am ddal at drywydd y cwestiwn hwn, oherwydd roedd y disgwyliad ynghylch y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag aer glân yn benodol, sy'n rhywbeth y gallai pawb ei ddeall. Felly, fe hoffwn i wybod ychydig mwy, os yw'n bosibl, os gwelwch chi'n dda, am y broses o wneud y penderfyniadau ynglŷn â'r newid ac a gynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ynghylch sut y gallai hynny effeithio ar yr ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r hyn y gellid ei wneud i liniaru hynny, os felly. Oherwydd rydyn ni i gyd yn awyddus i osgoi unrhyw ddraenen yn y llwyn rhosyn, wrth gwrs, a'r colyn a allai ddeillio o'r ddeddfwriaeth heb newidiadau patrymau ymddygiad y mae'n rhaid i ni i gyd eu gweld, am fod angen y newid hwnnw mor gyflym, fel clywsom ni.
Mae tua 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw cyn eu hamser bob blwyddyn oherwydd aer brwnt. Mae'r difrod mawr a achoswyd gan ddiwydiant trwm ar ein cymunedau glo a dur ni'n amlwg i'w gweld yn y cyfraddau uchel o asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chlefydau eraill—maen nhw'n effeithio ar ein hysgyfaint, maen nhw'n mygu ein hanadl. Mae bod yn agored i lygredd aer yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o broblemau pan fydd babanod yn cael eu geni—dyma'r hyn yr wyf i'n ei ystyried y peth mwyaf dychrynllyd yn hyn—fel pwysau geni isel, genedigaethau cyn-dymor, cyfraddau uwch o gamesgoriad, hyd yn oed achosion o ddiabetes a phroblemau gyda datblygiad niwrolegol mewn plant. Mae llygredd aer yn gysylltiedig ag achosi canser, hyd yn oed â gwaethygu problemau iechyd meddwl. Eto, dyma pam mae hwn yn ddiwrnod pwysig. Oes, mae gen i gwestiynau ac mae gen i rai materion yr hoffwn i eu codi, ond ni ellir gorbwysleisio'r ffaith ein bod ni'n gweithredu yn hyn o beth oherwydd pwysigrwydd gwirioneddol hyn. Yn aml iawn y cymunedau tlotaf sy'n dioddef fwyaf. Nid mater amgylcheddol nac iechyd cyhoeddus yn unig mo hwn; mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, sut fydd y mesurau i leihau llygredd aer yn cael eu hanelu at yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf am y gefnogaeth honno. Gan feddwl, er enghraifft, am gwm Afan, a effeithir gan y mygdarth gwenwynig sy'n cario o Bort Talbot, rwy'n gwybod bod camerâu cyflymder cyfartalog wedi cael eu gosod ar yr M4 drwy Bort Talbot a rhoddwyd mesuryddion safon aer yn eu lle, ond mae tarth gwenwynig yn parhau i gael ei ollwng weithiau. Neu o feddwl am Hafodyrynys, yn llawer nes at le rwyf i'n byw, fe gafodd tai eu dymchwel oherwydd llygredd aer, ond nid oes gwaith monitro yn digwydd ym mhob man. Fe allai fod mannau eraill fel Hafodyrynys yn y Cymoedd nad ydym ni'n gwybod amdanyn nhw, felly os oes mwy o fanylion y gallech chi eu rhoi i ni'n ychwanegol at yr hyn sydd yn y datganiad, fe fyddwn i'n ddiolchgar, os gwelwch chi'n dda.
Fe fyddwn innau'n adleisio rhai o bryderon Sefydliad Prydeinig y Galon nad yw'r Bil yn cynnwys popeth a addawyd yn y cynllun aer glân, fel ymrwymiadau i leihau llygredd deunydd gronynnol mân niweidiol neu PM2.5. A fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r cynnydd yn PM2.5 sy'n gysylltiedig â llosgi domestig, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i'w leihau yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd?
Ac fe fyddwn innau'n adleisio'r hyn a ddywedwyd yn ganmoliaeth i Joseph Carter, a rhai o'r cwestiynau a godwyd gan Asthma and Lung UK. Cwmpaswyd hynny'n rhannol yn y datganiad, yn bendant. Os oes unrhyw beth ychwanegol y gallwch chi ei ddweud, Gweinidog, ynglŷn â hyn, ac a fydd y Bil yn crynhoi monitro llygredd aer cenedlaethol a lleol at ei gilydd, ac a fydd canllawiau ar gael ynglŷn â pharthau aer glân allyriadau isel, pan fydd hyn yn cael ei gyhoeddi—. Ac eto, rwy'n deall bod rhywfaint o hyn wedi cael ei gwmpasu, ond yn daer, yn yr amser sydd gennyf i ar ôl, Gweinidog, a wnewch chi roi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â sut y bydd effaith y Bil hwn yn cael ei fantoli, sut y bydd yn amddiffyn ein hiechyd a'n hamgylchedd ni, a pha fuddion sydd am ddod yn sgil cael dyletswydd statudol i hyrwyddo ymwybyddiaeth am effeithiau llygredd aer, sydd, eto, yn rhywbeth mor bwysig, ac rwyf i wir, wir yn croesawu'r ffaith bod hynny wedi cael ei gynnwys? Oherwydd nid yw hyn i gyd yn ymwneud ag enw; mae cymaint yma i'w groesawu, ac fe fyddwn innau'n adleisio'r hyn a ddywedwyd: rwy'n gobeithio y gallwn ni yn y Senedd weithio mewn ffordd drawsbleidiol i sicrhau bod y Bil hwn mor gadarn ag sydd ei angen ac y bydd â'r canlyniadau y mae gwir angen i ni eu gweld. Felly, diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac i'ch tîm chi am eich gwaith yn y cyswllt hwn.
Diolch yn fawr, Delyth, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Yn amlwg, rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd yn fras ynglŷn â'r materion hyn. Rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno hyn. Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru. Fe fydd yn helpu ein hawdurdodau lleol ni hefyd wrth gyfeirio eu hymdrechion nhw, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r pwynt ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol yr ydych chi'n ei wneud, oherwydd yr hyn y bydd gofyn i'r awdurdodau lleol ei wneud yw llunio cynllun ar gyfer eu hardal nhw sy'n targedu ardaloedd penodol ar gyfer mesurau penodol. A dyna pryd y byddwn ni'n gwireddu rhai o'r pwyntiau a wnewch chi ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol.
Mae hi'n ffaith drist mewn bywyd—yn fy etholaeth i fy hun—yn aml iawn, y bobl dlotaf sy'n byw yn y lleoedd, ac yn fy etholaeth i'n benodol, lle mae'r aer yn ymgasglu mewn gwirionedd. Felly, os meddyliwch am lan y môr Abertawe, mae pobl yn gyrru cerbydau ar hyd y ffrynt, a'r aer yn codi i fyny ac yn gorwedd ar bennau'r bryniau, sef lle mae rhai o'r wardiau mwyaf difreintiedig yn economaidd gymdeithasol. Felly, fe geir diffygion gwirioneddol o ran cyfiawnder cymdeithasol, hyd yn oed yn y ffordd mae'r gwynt yn chwythu fel yna. Ac felly, fe ofynnir i'r awdurdod lleol edrych ar hynny a tharged hynny.
Ond mae angen i ni fod â data llawer mwy cadarn na'r hyn sydd gennym ni. Mae gennym ni lawer o ddata—ac mae Janet wedi darllen cryn dipyn ohonyn nhw i ni—ond, mewn gwirionedd, nid oes gennym ni gymaint â chymaint o ddata sy'n benodol i Gymru. Mae gennym lawer o ddata'r DU, mae gennym lawer o ddata ar gyfer Lloegr, ond nid oes gennym lawer o ddata ar gyfer Cymru. Felly, un o'r pethau y bydd hyn yn ei wneud yw caniatáu inni ddefnyddio cyfres gyfan o fesurau ledled Cymru i fesur y data, i fesur yr aer yr ydym ni'n ei anadlu. Dyna'r ateb i un o'ch cwestiynau chi hefyd: dyna sut y byddwn ni'n gwybod ei fod wedi gwella, oherwydd fe fyddwn ni'n defnyddio llawer mwy o dechnoleg, os hoffech chi, i allu gwneud hynny. Ac rwyf i wedi bod yn edrych yn arbennig iawn i weld sut y gallwn ni gael cyfres eang o dechnoleg y gellir ei hymestyn sy'n gwneud hynny. Felly, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r hyn y gallwn ni ei fforddio, ac yna, wrth i ni allu fforddio mwy, wrth i ni fod yn cydweithio gyda'n hawdurdodau lleol, fe fyddwn ni'n ei rhoi ar waith. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl i awdurdod lleol fod yn targedu'r mannau hynny y mae hi'n hysbys eu bod â'r ansawdd aer gwaethaf.
Mae'r enw'n bwysig oherwydd, yn gyntaf i gyd, mae'n rhaid i ni gael cytundeb y Llywydd ar gyfer ei gyflwyno, ac, felly, mae'n rhaid i'r enw fod yn ddisgrifiadol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac roeddem ni'n awyddus i gynnwys seinweddau am bob math o resymau perthnasol iawn yr wyf i'n credu eich bod chi'n cytuno â nhw. Ac yn ail, mewn gwirionedd, mae'n rhan o gyfres o ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd gydag ef. Felly, o ran mynediad at gyfraith Cymru, mae'n rhan o gyfres o Ddeddfau'r amgylchedd. Fe gaiff ei galw yn Ddeddf aer glân, yn anochel, ond mae teitl ffurfiol yn gweddu i'r gyfres o Ddeddfau y byddai disgwyl i bobl edrych arnyn nhw. Nid darn o ddeddfwriaeth annibynnol mohono; mae'n diwygio deddfwriaeth arall ac mae'n ffitio mewn cyfres. Felly, mae hi'n bwysig iawn nad yw pobl yn disgwyl dod o hyd i bopeth y maen nhw'n ei ddymuno mewn un Ddeddf unigol, fe fyddai angen iddyn nhw chwilio yn fwy eang. Ac felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Ond, rwy'n credu eich bod chi'n iawn, ar lafar gwlad, rwy'n credu mai ei henw fydd y Ddeddf aer glân.
Rwy'n croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn, er fy mod i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dod o hyd i enw ag ychydig o naws y Daily Mirror iddo. Asthma yw'r trydydd achos mwyaf o farwolaethau ar ôl canser a chlefyd y galon, ac rwy'n fy nghysylltu fy hun yn llwyr â phopeth a ddywedodd Delyth Jewell ynglŷn â'r mater hwn. Anaml y bydd fy etholwyr sy'n byw ar fin y ffyrdd gorlawn sy'n mynd i mewn ac allan o'n prifddinas ni'n gwneud felly o'u dewis, ac os na allan nhw fforddio gwydr dwbl neu os nad ydyn nhw'n gallu cael mwy o awyr iach yng ngefn eu tai, mae'n debyg y dylid condemnio'r tai hynny am nad ydyn nhw'n ffit i fod yn gartref.
Rwy'n croesawu'r cosbau sifil y byddwch chi'n gallu eu rhoi i bobl sydd mewn cerbydau sy'n segura, yn arbennig y tu allan i ysgolion. Nid wyf i o'r farn fod hwn yn fater mor bwysig o gwmpas ysbytai, ond os felly, yna, yn amlwg, mae'r un mor resynus yno hefyd. Ond mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o ddiwylliant sy'n gwneud yn siŵr nad yw pobl yn mynd â'u plentyn hyd at garreg drws yr ysgol, ond eu bod nhw'n teithio'r chwarter milltir olaf ar droed neu ar gefn beic.
Roeddwn i'n awyddus i wybod pa gynlluniau a allai fod yn y cyfundrefnau hyn o reoli ansawdd aer yn lleol ar gyfer sut ydym ni am gael lorïau cymalog i mewn ac allan o ganol dinasoedd mewn ffordd lai niweidiol i'r amgylchedd, oherwydd y maen nhw'n hynod o swnllyd, mae hi'n anodd iawn i fynd â nhw ar hyd strydoedd cul, ac mae angen cwblhau'r rhan olaf o'r broses ddosbarthu gyda cherbydau trydan—cerbydau trydan bychain—mae hi'n ymddangos i mi. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y timau—yn ddaearyddol leol—y timau gweithredu lleol, oherwydd yn amlwg, fe fydd y mesurau a fydd yn ofynnol yng Nghaerdydd yn wahanol i'r rhai yn Abertawe neu ym Maesteg neu yn unrhyw fan arall. Felly, y manylion sy'n allweddol bwysig gyda rhywbeth fel hyn, ond o leiaf rydyn ni wedi rhoi dechrau da iawn iddo, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddeddfwriaeth maes o law.
Ie, diolch i chi, Jenny. Felly, fel dywedais i, mae gennym ni strategaeth genedlaethol, ond mae gennym ni gynllun lleol a gaiff ei gyflawni yn lleol, ac mewn rhai achosion, mewn gwirionedd, mae cynllun rhanbarthol, lle bydd angen amlwg i Gaerdydd a'r cyffiniau weithio ar y cyd, fel gyda dinasoedd eraill ledled Cymru. Mae hwn yn ddarn tipyn mwy cymhleth. Nid Deddf sy'n sefyll ar wahân mohoni; ni allaf bwysleisio hynny'n ddigonol. Felly, fe sefydlwyd y strategaeth ansawdd aer genedlaethol ar draws tri darn annibynnol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, Deddf yr Amgylchedd 1995, Deddf yr Amgylchedd 2021 a'r Bil hwn. Gan hynny, mae hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall nad yw hyn yn sefyll yn llwyr ar wahân. Mae hyn yn diwygio'r ddeddfwriaeth arall ac yn ei diweddaru i fod yn gyfredol gan gadarnhau'r dyletswyddau sydd ynddi. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn hefyd.
Rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol—. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i'r awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw eu dilyn. Rydyn ni'n eu cynorthwyo nhw gydag adnoddau, ac yna fe fyddwn ni'n disgwyl iddyn nhw greu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer aer a seinwedd—yn unigol neu gyda'i gilydd; mae'r Bil yn fwriadol yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny gyda'i gilydd, pe byddai hi'n briodol gwneud felly. Ac yna fe fydd hynny'n targedu ystod o ansawdd aer amgylchynol.
Mae'r mater ynglŷn â deunydd gronynnol—rwy'n gwybod i Delyth godi hwnnw hefyd—yn un cymhleth. Nid oes unrhyw lefel ddiogel o ddeunydd gronynnol gennym ni, mae angen i ni ei leihau gymaint â phosibl. Fe fyddai dim o gwbl yn wych. Felly, nid oes unrhyw lefel ddiogel. Felly, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw glanhau'r aer cymaint ag y gallwn ni o gwbl, ac rydyn ni'n dymuno bod â Bil—rwy'n credu bod Janet wedi gwneud y pwynt hwn—sy'n addas i'r dyfodol. Felly, nid ydym ni'n ei roi ar wyneb y Bil, mae gennym ni reoliadau sy'n ein galluogi ni i uwchraddio'r nod wrth i fwy o ddata ddod ar gael ac, a dweud y gwir, y bydd mwy o ffyrdd o lanhau'r aer ar gael i ni. Felly, fe fyddwn ni'n disgwyl ymdrech oddi wrth ein hawdurdodau lleol ni wrth ddodi'r cynlluniau at ei gilydd.
Ac yna'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â'r mathau o sŵn a'r mathau o allyriadau yr ydym ni'n edrych arnyn nhw, fe fyddai disgwyl i hynny gael ei gynnwys yng nghynllun yr awdurdod lleol yn hyn o beth a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn ei gylch. Felly, fe wyddoch chi'n barod fod danfoniadau nwyddau yn gyfyngedig i adegau penodol o'r diwrnod, er enghraifft, ni ddylid caniatáu i gerbydau segura, a phopeth o'r fath. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl i bob awdurdod lleol fod â chynllun addas i'r diben i'w ardal ei hun, ac yna fe fydd hynny'n gorwedd o fewn y strategaeth genedlaethol sydd am dynnu'r cyfan at ei gilydd. Rydyn ni wedi rhoi pwerau i ni ein hunain i orfodi hynny, ond mewn gwirionedd ni allaf i ddychmygu y byddan nhw'n cael eu defnyddio fyth. Rydyn ni'n gweithio yn dda iawn gyda'n hawdurdodau lleol yn hyn o beth, ac maen nhw'n awyddus iawn i wneud y peth iawn hefyd.
Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam enfawr ymlaen i Gymru. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu rhoi'r materion ynglŷn â seinweddau ynddo hefyd, achos mae hynny'r un mor bwysig mewn gwirionedd mewn sawl ardal yng Nghymru. A dim ond i wneud pwynt olaf, rydyn ni'n gwybod bod hyn wir yn gwella iechyd meddwl sef bod pobl yn gallu clywed synau'r byd naturiol, felly os allwch chi ddistewi'r sŵn amgylchynol fel eich bod chi'n gallu clywed côr y wig, fe wyddom ni fod hynny'n llesol iawn i bobl. Felly, mae hi'n bwysig iawn gwneud hynny. Efallai fod hyn yn ymddangos yn ansylweddol ond nid yw hynny'n wir o gwbl.
Prynhawn da, Gweinidog. Ydw, rwyf innau'n ymuno â llawer o bobl i groesawu hyn. Mae hi'n hen bryd, ond yn arbennig o dda cael dechrau ar bethau. Fe wyddom ni fod llygredd aer yn byrhau bywydau pobl, yn gwneud pobl, yn cynnwys ein plant ni, yn sâl, ac yn achosi straen enfawr ar ein gwasanaeth iechyd ni ac yn gwneud difrod i'r amgylchedd. Dim ond dau fater sydd gennyf i, os caf i, Gweinidog.
Y cyntaf yw eich bod chi wedi sôn am ddefnyddio technoleg, mewn ymateb i bwyntiau a wnaeth Delyth. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae hynny'n trosi wedyn i rywbeth ymarferol o ran y pwerau newydd hyn, oherwydd fel dywedodd Jenny Rathbone, rydyn ni'n awyddus i weld y manylion, mewn gwirionedd, o ran sut y caiff hyn ei ddeddfu mewn gwirionedd. Felly, dyna fy mhwynt cyntaf.
Yr ail yw nad Bil yn unig yw hwn ar gyfer yr ardaloedd trefol, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n adleisio hynny. Mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin, mae'r un heriau gennym ninnau. Yng Nghrucywel, yn y Trallwng ar y stryd fawr, mae angen canolbwyntio ar fonitro hefyd a fydd yn helpu pobl mewn ardaloedd gwledig i weld bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i ansawdd eu haer nhw. Felly, rwy'n gobeithio y caf i glywed ychydig bach mwy am hynny, ond diolch yn fawr i chi am eich gwaith chi i gyd a gwaith eich tîm hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane. Dim ond i egluro, felly, fel rwy'n dweud o hyd, rydyn ni'n diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol yn y Bil hwn yn ogystal â chyflwyno pethau newydd, a'r rhan bwysig yr ydym ni'n ei diwygio yw ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol, nawr, adolygu ansawdd aer yn yr ardaloedd o bryd i'w gilydd. Yr hyn y bydd hyn yn ei wneud yw rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i wneud hynny yn gylchol, fel y bydd hi'n rhaid iddyn nhw wneud adolygiad blynyddol o ansawdd aer o hyn ymlaen, fel eu bod nhw'n cadw'r gwaith adolygu yn gyfredol. Dyna un o'r newidiadau mawr, mewn gwirionedd. Ac yna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio technoleg mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol mewn mannau lle maen nhw'n credu mai dyna fyddai fwyaf buddiol, ac yna rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio hyd yn oed fwy o dechnoleg eto gyda threigl amser, wrth i ni gael y data i mewn ac y byddwn ni'n gwybod ymhle mae'r bylchau o ran data. Felly, fe gaiff ei gyflwyno dros amser, ond bydd yr awdurdodau lleol eisoes—.Mae yna lawer o orsafoedd monitro aer ar lawr gwlad yn barod, rwy'n prysuro i ddweud. Nid ydym ni'n cychwyn o fod â dim oll. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw galluogi cyflwyno hyn yn fwy eang, ac yna fe fydd hynny'n adlewyrchu cynllun yr awdurdod lleol, bydd y data yn dod yn ôl i mewn, ac rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw wneud adolygiad blynyddol o hynny, ac ati. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl cynnydd esbonyddol yn yr ansawdd wrth i'r data hwnnw ddod i mewn, ac fe all pobl addasu eu cynlluniau nhw'n unol â hynny. Rwyf i o'r farn fod hynny'n bwysig iawn.
Ac fel rwy'n dweud, nid oes unrhyw lefel sy'n ddiogel. Nid ydym yn ceisio ei gadw o dan lefel ddiogel, rydyn ni'n ceisio glanhau'r aer mor gyflym â phosibl. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn hefyd. Nid ceisio ei ostwng hyd at ryw nod arbennig yr ydych chi. Nid ydym yn ceisio ei fesur ym mhobman a dweud ei fod yn bendant yn is na beth bynnag fyddo'r nod. Dweud yr ydym ni, 'Ceisiwch gael yr aer hwn mor lân â phosibl ym mhobman,' ac yn amlwg gan dargedu'r mannau mwyaf trwblus yn gyntaf. Ac wrth i'r cynlluniau ymwreiddio a'r canllawiau statudol yn cael eu hanfon allan, fe fydd hynny fel caseg eira, i bob pwrpas, oni fydd? Dyna'r amcan. Rydyn ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol. Maen nhw'n eiddgar iawn yn hyn o beth, ac maen nhw wedi gweithio ar y cyd â ni i'w gyflwyno. Mae hynny ar draws pob gweinyddiaeth ac ati; nid oes dim yn wleidyddol yn hyn. Rydyn ni i gyd yn cytuno ar werth hyn. Ac yna, mae'r dechnoleg yn newid, onid yw hi, hefyd, felly pwy a ŵyr beth fydd ar gael ymhen 10 mlynedd i wneud hyn, yn yr un ffordd ag y mae'r stwff sy'n rheoli allyriadau o gerbydau wedi newid yn ein hoes ni? Mae angen Bil sy'n ddigon hyblyg i allu ymdopi â hynny fel na fydd angen ailddeddfu drwy'r amser. Felly, mae angen i ni ddysgu'r gwersi hynny wrth i'r Bil hwn fynd trwy'r Senedd, i wneud yn siŵr bod yr ystwythder hwnnw ynddo i'r dyfodol sy'n sicrhau'r canlyniadau i ni o ran ansawdd aer sydd eu hangen arnom ni i gyd, ac rwyf innau'n eu rhannu nhw.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwbl ddiffuant yn edrych ar yr ochr olau yma heddiw. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad, ond am ei hymgysylltiad hi hefyd, nid yn unig â'r grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, ond yr holl sefydliadau sy'n aelodau o hwnnw ac Aelodau'r Senedd, ar sail drawsbleidiol, sydd wedi bod yn ymgyrchu cyhyd dros hyn? Fe fyddai hi'n annheg i mi enwi rhai o'r rhain ond mae pobl fel Awyr Iach Cymru, Asthma and Lung UK Cymru, Cyfeillion y Ddaear, Living Streets Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru. Mae cymaint o bobl ar gofnod yn croesawu'r cam hwn ymlaen heddiw, ac fe fyddai hi'n esgeulus ohonof i beidio â sôn am Joseph Carter, sydd mor wylaidd a diymhongar sydd wedi bod yn bod yn ymgyrch un dyn, yn gwthio hyn yn ei flaen ac yn ein cyrchu ni i gyd i'r fan.
Felly, dim ond un cwestiwn syml sydd gennyf i, Dirprwy Llywydd, a dyma ef: yn y Bil hwn a ailenwyd—tybed nawr a oes yn rhaid i ni ailenwi ein grŵp trawsbleidiol ni i adlewyrchu hynny—ond o fewn y Bil hwn a ailenwyd, a gaf i ond gofyn a yw'r Bil hwn, yn eich barn chi, Gweinidog, yn ddigon uchelgeisiol? A yw'n cyflawni'r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y cynllun aer glân a'r Papur Gwyn aer glân? Ac, yn olaf, wrth groesawu'r bwriad o ddod â'r Bil hwn ymlaen drwy ymgynghoriad, a chydweithredu, a yw hi am sicrhau y bydd hi'n parhau i ymgysylltu â'r ymgyrchwyr allanol hynny i gyd sydd â phrofiad bywyd hefyd, mewn ffordd drasig weithiau, ynghylch goblygiadau llygredd aer?
Ie, diolch yn fawr iawn, Huw. Felly, roedd hi'n bleser dod i'r grŵp trawsbleidiol, a byddwn ni'n sicr yn parhau i ymgysylltu â phawb.
Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw Bil sy'n gallu sicrhau buddion gwell dros amser. Felly, rwy'n meddwl ei fod yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer lle'r ydym ni nawr. Efallai nad yw'n ddigon uchelgeisiol ar gyfer ble'r ydym ni eisiau bod mewn pum mlynedd, a dyna'r pwynt am ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, ynte? Felly, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu symud gyda'r oes heb orfod dod yn ôl ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol drwy'r amser. Nid oes ganddo dargedau ar wyneb y Bil, yn gwbl fwriadol, gan ein bod ni eisiau i'r targedau hynny allu cael eu gwneud yn llymach wrth i amser fynd yn ei flaen. Byddai'n anodd iawn, beth bynnag, i daro ar darged, ac yna rwy'n credu bod rhai canlyniadau anfwriadol o hynny. Felly, y math yna o beth. Ac wrth i ni fynd drwy'r broses o graffu ar y Bil, gallwn archwilio hyn yn fanylach.
Rydym ni eisiau gallu gwneud rhai pethau eraill. Felly, rydym ni eisiau i'r Bil fod yn ddigon galluogol i allu gwneud hynny. Rydym ni hefyd eisiau iddo allu gweithio'n dda gyda'r ddeddfwriaeth arall yn y maes hwn. Nid Bil cydgrynhoi yw hwn. Felly, mae angen i ni ddiwygio'r ddeddfwriaeth arall yn iawn, ac rydym ni angen i hynny fod mor hyblyg â phosibl, wrth symud ymlaen, hefyd.
Ac yna, yn bennaf, rydym ni eisiau iddo osod dyletswydd arnom ni i gael y data ar ansawdd aer yng Nghymru, a dyna un o'r darnau mawr. Felly, mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer caffael data am ansawdd aer yng Nghymru fel y maen nhw’n ei ystyried sy'n briodol i fonitro cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd targedau ansawdd aer sy'n cael eu gosod o dan y Bil. Felly, dyna ni—dyna yw'r hanes, ynte? Felly, mae'n rhoi'r cyfle i ni wella'r hyn sydd gennym ni eisoes. Nid oes gennym ni ddata gwych iawn yn hyn o beth, mewn gwirionedd, ac mae'n rhoi cyfres o ysgogiadau i ni, os mynnwch chi, y gallwn ni eu defnyddio i newid ymddygiad pobl, ac mae hynny pa un a ydym ni'n yrwyr neu'n gerddwyr, pa un a ydym ni'n berchnogion cartrefi neu'n weithwyr—mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae yn hynny.
Rydym ni, yn amlwg, yn gweithio'n agos iawn gyda'n diwydiannau yma. Rydym ni'n eithaf lwcus mewn gwirionedd—mae gennym ni ddiwydiant dur glân iawn, mor lân ag y gall dur fod, ac mewn gwirionedd maen nhw'n ymgysylltiedig iawn yn hynny. Mae gennym ni ddiwydiannau eraill yng Nghymru sydd wedi ymgysylltu yn yr un modd. Mae hyn yn ymwneud â'r aer rydym ni'n ei anadlu, mae hyn yn ymwneud ag iechyd pobl. Ond mae hyn hefyd yn ymwneud â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n ymwneud â chreu planed sy'n addas i'r holl rywogaethau, onid yw? Felly, mae gen i lawer o—. Rwy'n credu bod gan y Bil hwn lawer o uchelgais. Mae gen i lawer o uchelgais ar ei gyfer, ac wrth i ni fynd drwy'r broses graffu, rwy'n gobeithio y gallwn ni ei wneud mor ddiogel ar gyfer y dyfodol â phosibl.
Diolch i'r Gweinidog.