– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Eitem 5 sydd nesaf: datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar genhadaeth ein cenedl. A galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol yn 2017. Ers hynny, rŷn ni wedi cymryd camau mawr ym myd addysg. Ymhlith llawer o bethau eraill, byddwn ni'n cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, gan weithredu system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a sefydlu'r comisiwn addysg trydyddol ac ymchwil. Rwy'n falch o'r hyn rŷn ni wedi cyflawni, ond mae'n rhaid i ni barhau i edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n falch iawn o gyflwyno ein map trywydd newydd ar gyfer addysg—safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae hyn yn amlinellu ein blaenoriaethau ni ar gyfer addysg, ac amserlen cyflawni y tymor Senedd hwn.
Am y tro cyntaf, rŷn ni'n gosod map trywydd cydlynol a chydlynus, sy'n cwmpasu addysg i gyd yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru, o flynyddoedd cynnar i ôl-16 a thu hwnt, oherwydd dylai ein system addysg fod yn gydol oes.
Dirprwy Lywydd, bwriedir iddo fod yn offeryn defnyddiol i ymarferwyr, gan ddarparu llinell amser ar gyfer ein cynlluniau a'n cydlyniad ar draws y portffolio. Nid yw ein huchelgeisiau ar gyfer addysg wedi newid: ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb, a byddwn yn gwneud hyn drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chynorthwyo pob dysgwr. Nid yw'r ddogfen yn mynd i'r afael â'r hyn yr wyf i'n ei ystyried yw'r problemau ym myd addysg yn unig. Trwy siarad ag athrawon a staff cymorth, darlithwyr a'n dysgwyr, gwn eu bod nhw'n awyddus i sicrhau llesiant, tegwch ac amrywiaeth ym maes addysg. Rydym ni hefyd wedi manteisio ar brofiad ac arbenigedd gwledydd a sefydliadau eraill, gan gaffael arferion gorau a syniadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Atlantic Rim Collaboratory, a chynlluniau o Estonia, Iwerddon, Seland Newydd, ac eraill. Ac rwy'n benderfynol o beidio â chaniatáu'r pandemig ac unrhyw ganlyniadau hirdymor posibl i waethygu effeithiau tlodi ar ganlyniadau addysgol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i hyn.
Byddwn yn sicrhau deilliannau teg i bob plentyn a pherson ifanc ym maes addysg. Gyda'r amcanion a'r camau a gyflwynir yn y ddogfen hon, rwy’n credu y byddwn ni’n cyflawni hyn. Y prawf o system deg a rhagorol yw bod pob dysgwr a dinesydd yn elwa o gwricwlwm eang a chytbwys. Mae hyn wedi'i ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru a'i bedwar diben. Mae'r map trywydd yr ydym ni’n ei gyhoeddi nawr yn tynnu sylw at ein blaenoriaethau ar y cyd i sicrhau llwyddiant, safonau uchel a llesiant pob dysgwr. Mae'n nodi'r chwe amcan yr ydym ni'n credu fydd yn ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau hynny. Dyma nhw: dysgu am oes; chwalu rhwystrau; addysg cadarnhaol i bawb; addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel; dysgu yn y gymuned; a Chymraeg i bawb.
Ni all y Llywodraeth gyflawni hyn ei hun. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr a chyflogwyr, ac yn grymuso dysgwyr a chymunedau i ddatblygu cysylltiadau cryf â darparwyr addysg. Byddwn yn sicrhau dysgu a chymorth proffesiynol gydol gyrfa i'r holl staff, ac yn hybu llesiant a gwydnwch i bawb ym maes addysg. Rydym ni hefyd yn rhannu'r cyfrifoldeb o sicrhau dyfodol llewyrchus i'n hiaith. Rwy’n credu mai ysgolion a'r system addysg ehangach yw ein hadnodd mwyaf effeithiol ar gyfer creu siaradwyr newydd ac ail-ennyn diddordeb dysgwyr. Gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol, mae gennym ni sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio twf yn yr iaith am y degawd nesaf. Byddwn yn parhau i arloesi o ran defnyddio technoleg ddigidol, gan ei bod yn adnodd hanfodol o ran hyrwyddo dwyieithrwydd, cefnogi dysgu gydol oes, a chodi cyrhaeddiad.
Mae'n gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Rydym ni yng nghanol rhaglen ddiwygio o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11. Rydym ni’n canolbwyntio ar ei gyflwyno’n llwyddiannus a datblygu cymwysterau TGAU newydd i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Mae cymwysterau galwedigaethol a'r cynnig 16 i 18 oed ehangach hefyd yn cael eu hadolygu. Mae'r diwygiadau trawsnewidiol i addysg ôl-16 hefyd ar y gweill, ac mae angen eu halinio fel y gallwn ni sicrhau'r budd mwyaf posibl i ddysgwyr yng Nghymru, o'r blynyddoedd cynnar i oedolion sy'n chwilio am ail gyfle. Mae hyn yn bwysig iawn wrth i ni symud tuag at sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y comisiwn yn gyfrifol am gynllunio strategol a chyllid ar gyfer addysg ac ymchwil ôl-16, sy'n cynnwys dosbarthiadau chwech, colegau addysg bellach, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau, a dysgu oedolion. Bydd y dull system gyfan hwn o ymdrin ag addysg drydyddol yn ein helpu i leihau anghydraddoldebau addysgol, ehangu cyfleoedd, a chodi safonau. Bydd ein diwygiadau trydyddol yn cefnogi cryfderau gwahanol ond ategol pob sefydliad. Fel hyn, bydd gan ddysgwyr o bob oed fynediad at yr ystod lawn o gyfleoedd, a bydd yn gallu cyfrannu'n economaidd, yn academaidd, ac at ein cymunedau.
Rydym ni eisiau ac angen system addysg sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan bontio o un cam o ddysgu i'r nesaf yn ddi-dor, gan addasu'n gyflym i newidiadau yn y byd ac mewn technoleg. Mae'r map trywydd newydd hwn yn tynnu ein polisïau a'n huchelgeisiau ar gyfer addysg ynghyd. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac yn darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau i bob dysgwr fod yn ddinasyddion iach, addysgedig a mentrus Cymru a'r byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, sy'n cynnwys parch mawr at ddysgu, ac rydym ni’n adeiladu ar hyn. Rwy’n credu bod y map trywydd hwn yn cryfhau'r sylfeini hynny, a fydd yn ein helpu ni i arwain at ddyfodol llewyrchus, tecach a chyfartal.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw—ein cenhadaeth genedlaethol. Fel rydym i'n gwybod, lansiodd Llywodraeth Cymru eu cenhadaeth genedlaethol addysg yn ôl yn 2017, a oedd â dyheadau mawr i bobl Cymru. Nod y genhadaeth genedlaethol oedd codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n rhannu'r dyhead hwn yn llwyr ac eisiau gweld y deilliannau addysgol gorau i bobl Cymru, ac, fel rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Yn ogystal â hyn, rydym ni’n cefnogi'r angen i sicrhau deilliannau teg i bob plentyn a pherson ifanc ym maes addysg, sydd hefyd yn cael ei godi yn eich datganiad heddiw.
Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei godi heddiw, Gweinidog, yw ein bod ni, pan fyddwn ni’n edrych yn agosach ar safonau addysgol yng Nghymru, yn parhau i fod y tu ôl i'n cymheiriaid yn Lloegr. Ers cyhoeddi'r genhadaeth genedlaethol hon, rydym ni wedi parhau i weld y bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, tra bod cynghreiriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dangos nad yw safonau addysgol yng Nghymru yn codi'n ddigon cyflym. Felly, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi, wrth symud ymlaen, y byddwn ni’n gweld canlyniadau mwy cadarnhaol o’ch cenhadaeth genedlaethol, yn arwain at well deilliannau addysg i bobl Cymru?
Yn ail, Gweinidog, un pryder ar ochrau hyn y meinciau fu cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n credu bod y cwricwlwm newydd hwn wedi cael ei ruthro allan yn rhy gyflym ac y dylid fod wedi ei ohirio. Yng ngoleuni hyn, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o gyflwyniad y cwricwlwm hwn, ac a oedd unrhyw wersi i'w dysgu?
Yn drydydd, Gweinidog, methiant allweddol yr ydym ni’n ei weld ar yr ochrau hyn i'r meinciau yw ymgais Llywodraeth Cymru i gyflawni diwygiadau o ran anghenion dysgu ychwanegol. Byddai llawer yn dadlau nad yw'r diwygiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus. Yn anffodus, mae llawer o blant ledled Cymru yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn hwyrach nag y dylen nhw. Mae hyn yn arwain at roi plant ar restrau aros hir cyn cael mynediad at ysgolion sy'n darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anabledd, dim ond i'r un ysgolion hynny ddatgan wedyn nad yw'r adnoddau ariannu sy'n angenrheidiol ganddyn nhw i ddarparu hyfforddiant digonol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, Gweinidog, wrth symud ymlaen, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y rhaglen cenhadaeth genedlaethol hon yn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd â'u teuluoedd, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maen nhw’n eu haeddu?
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn i ei godi heddiw, Gweinidog, yn ymwneud ag athrawon. Yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod chi’n siarad ag athrawon a staff cymorth, ac mae hynny bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Ond un o'm pryderon allweddol pan fyddaf i'n siarad ag athrawon a'r rhai mewn sectorau addysg eraill yw'r prinder athrawon mewn pynciau STEM allweddol, fel cemeg a ffiseg, yr wyf i wedi ei godi o'r blaen yn y Siambr hon. Fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Gweinidog, mae pynciau STEM yn hanfodol bwysig ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol a ffyniant ein gwlad, felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r prinder athrawon gwyddoniaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg, a pha gamau wnewch chi eu cymryd i'w ddatrys? Diolch.
Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiynau. Bydd yn gwybod o fy natganiad ac o ddatganiadau eraill yr wyf i wedi eu gwneud bod cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y myfyrwyr hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion yn flaenoriaeth allweddol i mi, fel yr wyf i newydd ei amlinellu yn y datganiad. Mae'n camddarlunio braidd y profiad o ran y bwlch cyrhaeddiad ers cyhoeddi'r genhadaeth genedlaethol. Mewn gwirionedd, roedd cynnydd mewn ar nifer o bwyntiau cohort, y mae profiad COVID, yn anffodus, wedi ei atal, ac mewn rhai achosion, wedi ei wrthdroi. Mae effaith COVID wedi bod yn debyg mewn gwahanol rannau o'r DU, ac rwy'n mentro dweud yn rhyngwladol hefyd mae'n debyg. Ond yr hyn y bydd wedi ei weld yn y datganiadau a wnes i'r llynedd a'r diweddariadau yr wyf i wedi eu rhoi ers hynny—a bydd yn ymwybodol fy mod i’n rhoi diweddariad i'r Siambr yr wythnos nesaf o ran ein mentrau polisi yn y maes hwn—yw dull system gyfan o ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pob un dysgwr, waeth beth fo'i gefndir, yn cael yr un mynediad at addysg ragorol ac yn cael ei annog nid yn unig i fod â safonau uchel, ond dyheadau uchel hefyd.
Mae'n cyfeirio at PISA. Bydd yn gwybod y bydd canlyniadau PISA 2022 yn llinell sylfaen y gallwn ni adolygu tueddiadau ohoni wrth symud ymlaen. Mae'n un rhan o raglen lawer ehangach o fonitro a gwerthuso; rhan bwysig, heb os, ond dim ond un rhan o hynny. Rydym ni’n edrych ar sut yr ydym ni’n mesur llwyddiant ar draws y system, fel y bydd yn gwybod, o ran yr hyn yr ydym ni’n ei werthuso, ac fe wnes i amlinellu ein dull o ymdrin â hynny a'r camau nesaf yr ydym ni’n eu cymryd i ymdrin â hynny, i'r Senedd ddiwedd mis Ionawr, fel y bydd yn gwybod.
Efallai ei fod wedi dymuno i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei oedi; rwy'n credu nad yw hynny'n rhoi pwys digonol i'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad sydd gan ysgolion ac athrawon a chynorthwywyr addysgu tuag at y cwricwlwm ledled Cymru gyfan. Bydd yn gwybod ein bod ni ar fin trafod, yn ddiweddarach y prynhawn yma, adroddiad Estyn ar gyfer 2021-22, a bydd yn gwybod o fod wedi darllen hwnnw, rwy'n siŵr, bod Estyn yn darparu asesiad o gyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru ac yn dangos arferion ac ymrwymiad da o ran gwneud hynny. Yn ddealladwy, ceir lefel o amrywiad ar draws y system nad yw wedi'i ynysu yn gyffredinol o ran cyflwyno'r cwricwlwm, ond sy'n ymwneud â nodweddion eraill sydd wedi bod yn heriol i rai ysgolion hefyd, a bydd yr ysgolion hynny, fel y bydd yn gwybod, yn cael cymorth arbenigol o ran y meysydd penodol hynny.
Yn yr un modd, o ran cyflwyno'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, sydd, rwy'n credu, wedi cael croeso eang dros ben, yn amlwg mae cyflwyno diwygiad o'r fath faint, sy'n golygu'r fath newid ar draws y system—mae llawer iawn o ymdrech y mae ymarferwyr a sefydliadau yn ei wneud i sicrhau bod y diwygiadau hynny yn llwyddiant, ac rwy'n talu teyrnged iddyn nhw am y gwaith a'r ymrwymiad anhygoel y maen nhw'n ei neilltuo i'r gwaith hwn. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion yn sylweddol, fel y bydd yn gwybod, o safbwynt cyfalaf a refeniw, er mwyn helpu i wneud y trosglwyddiad yn fwy rhwydd, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau yn y dyddiau nesaf ynghylch cymorth pellach yr ydym ni’n bwriadu ei ddarparu i ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y diwygiadau ADY yn llwyddiant i bob dysgwr unigol, fel yr ydym ni angen iddyn nhw fod.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn sicr, mi gewch chi ein cefnogaeth lwyr ni o ran y dyhead o ran sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Ac yn sicr, un o’r pethau rydyn ni wedi’i weld, ac rydych chi wedi sôn amdano'n barod, ydy bod yn rhaid i ni gydnabod y problemau sydd yn deillio o COVID, a’r effaith mae hynny yn ei chael ers y cynllun cychwynnol yn 2017. Un o’r pethau sydd fy mhryderu i, gan dydyn ni ddim wedi cael ymchwiliad annibynnol i COVID yma yng Nghymru yn benodol, ydy, yn amlwg, yn yr Alban maen nhw’n edrych ar effaith COVID ar addysg, a phobl ifanc wedi bod yn rhan fawr o hynny, a dwi yn credu dydyn ni efallai ddim yn deall y pictiwr llawn. Mae yna waith wedi’i wneud, ond nid i’r un graddau.
Dwi’n meddwl ein bod ni’n dal i weld effaith COVID mewn nifer o’n hysgolion ni rŵan. Mae meddygon teulu, er enghraifft, yn sôn am y pryderon sydd ganddyn nhw o ran plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynd i’r ysgol, a’r effaith mae hynna wedyn yn ei chael, am bob math o resymau. Mae’n gallu bod oherwydd problemau iechyd meddwl sydd wedi dwysau yn ystod COVID, a dyw'r plant ddim wedyn yn teimlo’n gyffyrddus yn mynd i’r ysgol. Efallai dydyn nhw ddim wedi cael y gefnogaeth o ran anghenion dysgu ychwanegol, ac wedi colli allan. Mae yna lu o resymau, ac maen nhw’n gweld pryderon mawr o ran, yn benodol, y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned ni, a’r effaith wedyn o beidio â mynd i’r ysgol.
Byddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol hefyd o’r ymchwiliad y gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran absenoldeb, a dwi’n credu ei fod yn un peth, yr hyn rydyn ni’n gallu ei wneud o fewn ysgolion i gefnogi dysgwyr sydd yn yr ysgolion, ond, fel mae comisiynydd plant ac ati wedi sôn amdano, mae’n rhaid i ni gydnabod dyw lefelau presenoldeb ddim yn ôl i’r hyn yr oedden nhw cyn COVID ar hyn o bryd, a’i bod hi’n dal yn bryder bod nifer yn gweld ysgol fel bod yn opsiynol, a hefyd rydyn ni'n gweld bod yr argyfwng costau byw yn rhwystr i rai medru fforddio cyrraedd yr ysgol. Rydyn ni wedi cael cymaint o dystiolaeth gan bobl yn dweud dydyn nhw ddim yn gallu fforddio’r bws, a bod yna lu o resymau pam mae’n disgyblion neu ddysgwyr mwyaf bregus ni yn colli allan ar fynd i’r ysgol yn y lle cyntaf. Felly, tra’n cydnabod y gwaith gwych sydd yn digwydd yn ein hysgolion ni, dwi’n meddwl mai’r cwestiwn mawr rydyn ni heb ei ddatrys eto ydy: sut ydyn ni’n sicrhau bod y lefelau presenoldeb yna yn codi, a’n bod ni’n cael dysgwyr yn yr ysgol i fanteisio ar y cynlluniau hyn? Yn sicr, o ran rhai elfennau fan hyn o ran cau’r bwlch, yr hyn buaswn i’n ei ofyn ydy: mae gennym ni gynlluniau, ond sut ydyn ni am wneud hynny os oes yna ddal gymaint o rwystrau yn atal dysgwyr rhag bod yn yr ysgol?
Os caf i ofyn cwestiynau yn benodol o ran y cohort 16 i 25, sydd yn y map trywydd, rydych chi’n sôn ynglŷn â’r cyfleoedd iddyn nhw ddysgu sgiliau Cymraeg, neu ddefnyddio’r Gymraeg, ond does yna ddim lot o gyfeiriadau, o’r hyn roeddwn i’n ei weld, o ran datblygu prentisiaethau penodol yn y Gymraeg, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy galluogi’r cohort yna, yn benodol o ran defnyddio’r Gymraeg ym myd gwaith. Felly, fedrwch chi efallai roi mwy o wybodaeth o ran hynny? Rydych chi’n sôn hefyd am arweinyddiaeth, ac roeddech chi’n sôn yn eich datganiad bod hwn yn gyfnod positif, dwi’n meddwl, roedd y geiriau yr oeddech chi’n dweud, o ran addysg. Ond hefyd rydyn ni’n gwybod am yr heriau aruthrol sydd o fewn y sector. Rydyn ni’n gwybod bod athrawon a chynorthwywyr dosbarth wedi bod ar streic, wedi bod ymladd o ran tâl teg, ond hefyd yn sôn yn benodol am lwyth gwaith. Rydyn ni’n gweld bod niferoedd o ran y rhai sy’n ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant athrawon—. Felly, sut ydym ni am sicrhau—? Mae pwyslais yn eich datganiad chi ynglŷn â sicrhau bod safonau a dyheadau uchel i bawb ynghlwm ag addysg, sydd yn cynnwys dysgwyr ond hefyd staff. Sut ydym ni am ddatrys hynny? Oherwydd mae yna yn dal i fod teimlad o anghydfod mewn nifer o ysgolion o ran y llwyth gwaith. Tra’n croesawu’n fawr, wrth gwrs, y cwricwlwm newydd—nid hynny—rwy'n poeni o ran y llwyth gwaith a’r holl heriau ychwanegol y maen nhw’n eu hwynebu.
Buaswn i hefyd yn hoffi gofyn i chi o ran Bil y Gymraeg mewn addysg. Rydych chi’n sôn bod y Gymraeg, yn amlwg, yn rhan bwysig o hyn. Ond, o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, pa mor bwysig fydd cael Bil y Gymraeg mewn addysg o ran gwireddu hyn yn benodol? Y prif beth dwi’n meddwl sydd ynghlwm efo hyn—. Does dim byd i’w wrthwynebu yn yr hyn rydych chi’n ei ddweud, ond y peth mawr ydy: sut ydym ni am sicrhau cydraddoldeb o ran cyfleoedd i bawb? Dyw e ddim yn eglur i mi eto—o ran yr holl heriau sydd gennym ni o ran lefelau tlodi plant yn cynyddu, fel yr oeddwn yn sôn, ac efo absenoldeb mor uchel ymhlith rhai mewn ysgolion—sut ydym ni am wneud fel arall. Dwi’n ofni bod geiriau ar bapur, ond bydd yna lot o’n dysgwyr mwyaf bregus ni yn dal yn colli allan ar yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw i ddatblygu i fod yn oedolion hyderus.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am rhestru'r heriau. Rwy'n siŵr hefyd eu bod hi’n awyddus i ddathlu’r llwyddiannau yn ein system addysg ni, a’r holl waith sy’n cael ei wneud yn ein dosbarthiadau ni bob dydd i ddarparu’r addysg orau posib ar gyfer ein pobl ifanc ni. Rwy’n siŵr ei bod hi’n cydnabod hynny hefyd.
O ran y cwestiynau penodol, mi wnaf i fy ngorau i fynd i’r afael â rhai ohonynt, o leiaf. Mae impact COVID ar ysgolion, wrth gwrs, yn un sylweddol. Mae’r adroddiad Estyn, y byddwn yn ei drafod yn hwyrach y prynhawn yma, yn rhoi dadansoddiad o rai o’r effeithiau ar ein hysgolion ni.
Rŷm ni wedi gallu llwyddo, yn y flwyddyn ariannol sy’n dod, i gynyddu’r hyn yr oedden ni'n bwriadu ei gyfrannu i’r gronfa sy’n cefnogi ysgolion i ddelio gydag effaith COVID. Roeddwn yn disgwyl gorfod lleihau hynny, ond gan fod yr impact, wrth gwrs, mor sylweddol, rŷm ni wedi gallu cynnal y gronfa honno, ac mae’n glir, o’r dadansoddiadau sydd wedi cael eu gwneud ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod yr arian a’r ffyrdd o wario’r arian yr ydym wedi’u darparu yma yng Nghymru tua’r ochr fwyaf hael, os hoffwch chi, o’r ystod o ymyriadau ar draws y Deyrnas Unedig, a'u bod hefyd wedi cael eu buddsoddi yn y ffyrdd mwyaf blaengar.
O ran presenoldeb, mae hon yn her sylweddol, fel yr oedd yr Aelod yn ei ddweud yn ei chwestiwn. Bydd hi’n gwybod am y gwaith yr ydym wedi’i wneud o ran yr adolygiad gan Meilyr Rowlands i edrych ar beth yn fwy y gallem ei wneud. Fel rhan o hynny, rŷm ni’n adnewyddu’r gofynion a’r canllawiau i ysgolion ynglŷn â sut i fynd i’r afael â hyn. Mae’r trothwy presennol ar gyfer cefnogaeth bellach i deuluoedd lle mae plant yn absennol yn uwch, efallai, nag y dylai fod yn y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo ar hyn o bryd. Felly, un o’r pethau rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu ei wneud yw gostwng y trothwy cyn ein bod ni’n rhoi mwy o gefnogaeth i deuluoedd.
Bydd hi wedi gweld fy mod i wedi datgan yn ddiweddar fuddsoddiad pellach i helpu cynghorau lleol i gyflogi swyddogion pwrpasol ar gyfer gweithio gyda theuluoedd i’w hannog nhw i anfon eu plant nôl i’r ysgol ac i weithio gyda’r plant hynny eu hunain, wrth gwrs, i sicrhau bod y berthynas honno’n cael ei hadnewyddu ac i ddenu pobl ifanc nôl i’r ysgol ar ôl cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn. Felly, perthynas o ymddiried ac o gefnogaeth bwrpasol, bersonol dwi’n credu yw’r ffordd orau o sicrhau hynny, ond mae angen mwy o gefnogaeth ar y system i ddarparu hynny, a dyna yw pwrpas y buddsoddiad rwy’n cyfeirio ato.
O ran y ddarpariaeth ôl-16, mae hon, wrth gwrs, yn elfen bwysig. Gwnaf i jest ddweud nad bwriad y ddogfen hon yw rhestru pob polisi y mae’r Llywodraeth yn ymrwymo iddo fe, ond rhoi amserlen o’r prif bethau sydd â gofyniad i’r proffesiwn, os hoffwch chi. Bydd hi’n gwybod, wrth gwrs, o’r gwaith rŷm ni wedi bod yn ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithio, fod buddsoddiad sylweddol yn mynd i mewn i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Un elfen o waith y coleg sydd mor werthfawr yw'r hyn maen nhw'n ei wneud i gynyddu darpariaeth prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ond wrth gwrs mae mwy i'w wneud yn hynny o beth.
O ran llwyth gwaith, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod hyn yn destun gofid i nifer o athrawon. Rŷm ni wedi bod yn cydweithio'n greadigol ac yn gadarnhaol gyda'r undebau dysgu dros yr wythnosau diwethaf i allu gwireddu, os hoffwch chi, y cynlluniau sydd wedi bod ar waith ers amser i leihau llwyth gwaith a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn cael ei gydlynu ar draws y system. Felly, rwy'n gobeithio y bydd aelodau'r undebau'n cymeradwyo'r cynnig sydd wedi cael ei wneud, ond mae gyda ni raglen o waith fydd, rwy'n ffyddiog, yn gwella'r sefyllfa o ran llwyth gwaith ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru.
Bydd hi'n gwybod eisoes, wrth gwrs, fod rôl bwysig gan Fil y Gymraeg mewn addysg yn darparu fframwaith gliriach o ran yr hyn mae cynghorau lleol yn ei ddarparu o ran strategaethau, a byddwn ni'n gallu dweud mwy am hynny ar y cyd gyda Cefin Campbell dros yr wythnosau nesaf.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Ceir un neu ddau o bethau yr hoffwn i gyfeirio atyn nhw. Yn gyntaf, roedd yn braf iawn eich croesawu chi i Ysgol Gynradd Gymunedol Perthcelyn yn Aberpennar ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r ysgol wedi derbyn ychydig dros £66,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer amrywiaeth o welliannau allanol. Mae sicrhau datblygiad amgylcheddau dysgu cynaliadwy a chroesawgar i bawb yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, felly sut ydych chi'n gweld hyn yn cyd-fynd â'r genhadaeth genedlaethol ac yn cael ei hymgorffori ynddi?
Roedd cyfle hefyd ym Mherthcelyn i weld rhywfaint o'r gwaith rhagorol y mae'r ysgol yn ei wneud o ran mynd i'r afael ag effaith amddifadedd, gyda'i hardal leol yn cael ei nodi fel un sy'n cael ei heffeithio gan amddifadedd dwfn, yn ôl mynegai amddifadedd lluosog Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llawer o ymyriadau cadarnhaol i helpu gydag effaith tlodi, felly sut ydych chi'n sicrhau bod gwaith i hybu deilliannau cyfartal yn ganolog i'r genhadaeth?
Yn olaf, rwy'n nodi eich sylwadau am sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg. I'r perwyl hwnnw, mae'n braf nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu £12 miliwn—[Anghlywadwy.]—estyniad—[Anghlywadwy.]—ar gyfer disgyblion a thyfu darpariaeth Gymraeg. Pa fesurau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i feithrin darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog?
Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau. Ni wnes i glywed ei chwestiwn olaf yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n credu fy mod ei wedi deall ei hanfod, felly byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddo. Diolch, yn gyntaf, am fy ngwahodd i fynd, gyda hi, i ysgol Perthcelyn. Roeddwn i'n credu ei fod yn ymweliad calonogol iawn, ac o gyfarfod y pennaeth a'r disgyblion a rhai o'r staff yno, gwelais ysgol a oedd wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob dysgwr unigol, a dyna rydym ni ei eisiau i'n holl blant yng Nghymru.
Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod yr ysgol wedi elwa o fuddsoddiad cyfalaf yn yr hyn sydd eisoes yn ysgol sydd wedi'i dylunio'n hyfryd iawn, os caf i ddweud, a chyda phwyslais ar gynaliadwyedd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn o £60 miliwn—£50 miliwn i ysgolion, £10 miliwn i golegau—i wella cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a'u cyfraniad at yr uchelgeisiau sero-net sydd gennym ni. Maen nhw’n hanfodol i'n cenhadaeth genedlaethol.
Bydd yn gwybod y bydd pob buddsoddiad newydd mewn ysgolion sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy o 2022 ymlaen yn ysgol sero-net, sy'n bwysig iawn. Rwy'n gobeithio gallu dweud ychydig yn fwy yn ystod y dyddiau nesaf am ein her ysgolion cynaliadwy, sef y cyfle, bydd yn cofio, i awdurdodau wneud cais am gyllid i ysgolion gael eu dylunio a'u hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, a'u dynlunio—yn bwysig, o safbwynt ei chwestiwn—gyda dysgwyr yn ganolog, a bod swyddogaeth y dysgwyr o ran helpu i ddylunio'r ysgol yn gyfle cwricwlwm. Felly, ceir ffordd gyfannol y gall ymrwymiad i gynaliadwyedd fod yn ganolog i'n cwricwlwm, a bydd unrhyw un ohonom ni sy'n ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau yn gwybod pa mor angerddol yw pobl ifanc ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, ac mae hynny yn amlygu ei hun mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Gofynnodd am yr ymrwymiad i ddeilliannau cyfartal, a hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n ymdrechu'n galetach, ar draws ein system addysg, i wneud yn siŵr bod taith pob dysgwr yn un o degwch yn ogystal â rhagoriaeth. Fe wnes i benodi yn ddiweddar, fel yr wyf i'n credu y bydd hi'n gwybod, grŵp o hyrwyddwyr cyrhaeddiad sydd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i rannu arferion gorau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd ynghylch strategaethau i fynd i'r afael yn effeithiol ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwy'n llawn cyffro am botensial hyn i'n helpu ni i ledaenu arferion gorau drwy ein system addysg gyfan. Nid oes pennaeth yng Nghymru nad yw wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob un dysgwr yn ei ofal, ond mae rhai yn cael hynny'n anoddach nag eraill am wahanol resymau, ac yn aml maen nhw'n resymau dealladwy iawn. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu cynorthwyo nhw i gael y mynediad gorau at yr adnoddau a'r canllawiau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu hynny i'w pobl ifanc.
Rwy’n meddwl bod ei chwestiwn olaf yn ymwneud â buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd yn gwybod, yn rhan o'n cronfeydd cyfalaf, ein bod ni'n amlwg wedi buddsoddi yn sylweddol iawn yng ngwead ein hystâd cyfrwng Cymraeg, ond ceir cyfle, rwy’n meddwl, yn rhannol drwy'r Bil yr ydym ni'n gobeithio ei gyflwyno, gan gydweithio gyda Phlaid Cymru, i wneud yn siŵr bod profiad pob un person ifanc o addysg yng Nghymru, pa un a yw'n dewis ysgol Gymraeg, ysgol ddwyieithog, neu ysgol Saesneg, yn un y gallwn ni, dros amser, fod yn hyderus sy’n rhoi lefel o hyder i bob person ifanc o ran siarad Cymraeg, fel bod ein system, beth bynnag fo cyfrwng yr ysgol, yn unedig o ran y nod hwnnw o arfogi ein pobl ifanc â gallu yn un o'n hieithoedd cenedlaethol.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Yn eich datganiad chi, rŷch chi wedi cyfeirio yn helaeth at rôl ganolog diwygiadau yn y sector ôl-16 i’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer addysg, ac roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn falch bod y camau i sefydlu’r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil yn rhan o’n cytundeb cydweithio ni â’r Llywodraeth. Fe ofynnais ichi yr wythnos diwethaf i egluro'r oedi o ran penodi prif weithredwr i'r comisiwn newydd, gan fod cadeirydd a dirprwy gadeirydd wedi bod yn eu lle ers rhai misoedd nawr, ond ces i ddim ateb clir, ac roedd dyddiad cau ar gyfer y swydd honno nôl ym mis Tachwedd. Yn sgil pwysigrwydd mawr y rôl wrth siapio ffurf a gweledigaeth y comisiwn newydd, a fydd—yn eich geiriau chi—yn llywio yr ymagwedd system gyfan rŷch chi am ei gweld at addysg drydyddol, gan helpu i leihau’r anghydraddoldebau addysgol ac ehangu cyfleoedd a chodi safonau, wnewch chi gadarnhau pryd y cawn ni gyhoeddiad am benodiad y prif weithredwr newydd, neu egluro pam nad yw hynny wedi bod yn bosibl eto?
Rwy'n cytuno â'r Aelod ar rôl bwysig y comisiwn, ac am y weledigaeth sydd gennym ni ar y cyd am gyfraniad y comisiwn i ddiwygio addysg ôl-16 ym mhob rhan o Gymru, ac fe wnaf i ei chyfeirio hi at yr ateb wnes i ei roi wythnos diwethaf ynglŷn â'r cwestiwn penodol mae hi wedi gofyn.
Diolch i'r Gweinidog.