2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
1. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â bargen twf y gogledd? OQ59294
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gogledd Cymru, gan gynnwys bargen twf y gogledd. Yn is-bwyllgor diwethaf y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, rhoddodd Gweinidog yr Economi ddiweddariad economaidd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cynnydd y fargen twf.
Diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno fod bargen twf y gogledd, a wnaed yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth y DU, yn gyfle gwych ar gyfer buddsoddi a swyddi yng ngogledd Cymru. Gobeithio hefyd y byddwch yn cytuno y dylid annog busnesau lleol i wneud popeth yn eu gallu i wneud cais am gyllid yn rhan o'r fargen hon. Mae hyn yn cynnwys ein sector gwledig ac amaethyddol, sydd hefyd yn chwarae rôl yr un mor bwysig yn ysgogi twf economaidd. Mae Hedd Vaughan-Evans, pennaeth gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru yn esbonio, 'Rydym eisiau clywed gan fusnesau a sefydliadau a all fodloni ein meini prawf cyllido a gweithio gyda ni i sicrhau'r manteision i'r rhanbarth o'r fargen twf. Mae ein gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am gyllid a sut i ymgeisio.'
Nawr, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 27 Mawrth 2023, ond nid oes gan lawer o fusnesau gwledig yr un faint o amser ac adnoddau ar gael i'w roi tuag at ddatblygu'r ceisiadau hyn, ac maent yn achosion busnes braidd yn gymhleth, sy'n hawdd i fusnesau llawer mwy o faint eu gwneud. Felly, beth allwch chi ei wneud, fel y Gweinidog, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith busnesau gwledig o'r cyfleoedd ariannu hyn, a pha help sy'n cael ei ddarparu i fusnesau gwledig llai o faint i wneud y broses ymgeisio mor hawdd â phosibl? Diolch.
Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn bwysig iawn fod y broses ymgeisio mor syml ac mor hawdd â phosibl, fel y dywedwch. Roeddwn yn ymwybodol fod y cyfnod ymgeisio ar gyfer cyfanswm o £30 miliwn i brosiectau newydd y fargen twf wedi agor ar 13 Chwefror am chwe wythnos, sy'n mynd â ni hyd at 27 Mawrth, rwy'n credu. Ac rwy'n gwybod bod gan Uchelgais Gogledd Cymru ddiddordeb arbennig mewn prosiectau trawsnewidiol sydd â buddsoddiad yn barod ac sy'n ategu amcanion y rhaglen ar gyfer bwyd-amaeth a thwristiaeth, ynghyd ag ynni carbon isel yn ogystal, a thir ac eiddo. Rwy'n credu bod y broses yn gadarn iawn, rwy'n credu ei bod yn deg iawn ac mae'n dryloyw iawn; rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch am yr amserlen, ond rwy'n credu bod y broses yn bwysig i'w gael yn iawn. Yn amlwg, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, nid Llywodraeth Cymru, sydd â'r cyfrifoldeb dros gyflawni'r cytundeb twf, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn cael cyfarfodydd â'r bwrdd, a byddaf yn bendant yn sicrhau bod y pwynt rydych chi'n ei wneud am yr amserlen fer i fusnesau bach yn cael ei godi.
Ychydig funudau yn ôl roeddwn i'n gofyn i'r Gweinidog cyllid am gefnogaeth i Ynys Môn yn sgil cau gwaith 2 Sisters Food Group. Mi all arian ychwanegol sy'n dod ar gael rŵan drwy'r bid twf fod yn fodd i roi cefnogaeth i'r sector bwyd yn Ynys Môn rŵan hefyd. Dwi'n eiddgar i weld a oes modd defnyddio'r arian hwnnw i ddelifro'r parc cynhyrchu bwyd—mae'r Gweinidog yn gwybod dwi wedi bod yn gwthio amdano fo ers blynyddoedd—a dwi yn gweld os oes modd, yn erbyn y cloc, creu cais ar gyfer sefydlu pentref bwyd Ynys Môn. Mae'r galw yno, mae Coleg Menai yn dweud eu bod nhw'n barod i'w gefnogi fo, yn gweithio efo'u canolfan dechnoleg bwyd nhw, a'r datblygiad sy'n mynd i fod yn digwydd yng Nglynllifon, sydd hefyd yn cynnwys elfen fwyd. Mi fuasai'n dda cael cefnogaeth y Gweinidog mewn egwyddor i fwrw ymlaen efo hynny, ac unrhyw gefnogaeth y gallai hi a'i swyddogion ei roi. Ond hefyd mi fyddwn i yn gwerthfawrogi addewid y gwnaiff hi bopeth y gall hi i sicrhau, yn sgil cau 2 Sisters, fod tyfu swyddi bwyd yn Ynys Môn wir yn flaenoriaeth.
Diolch. Yn amlwg, rydym wedi cyfarfod o'r blaen ynglŷn â'ch cais am barc bwyd. Rwy'n ymweld â'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni mewn gwirionedd—yn ystod toriad y Pasg, rwy'n credu—felly byddaf yn sicr yn gweld lle rydym arni mewn perthynas â hynny.
O ran 2 Sisters, fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi. Rwy'n meddwl mai—. Yn anffodus, rwy'n credu y gallem weld beth oedd i ddod pan gyhoeddwyd yr ymgynghoriad, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn. Efallai eich bod yn ymwybodol fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymweld yn ddiweddar, ac fel y dywedaf, rwy'n ymweld â'r ganolfan dechnoleg ac ardaloedd eraill yn Llangefni yn ystod toriad y Pasg, felly byddaf yn sicr yn hapus i gael trafodaethau pellach gyda chi ynglŷn â hynny.
Weinidog, un o'r prosiectau allweddol ym margen twf gogledd Cymru yw cefnogi'r gwaith yn y ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, lle maent yn datblygu technoleg y genhedlaeth nesaf mewn cysylltedd digidol. Lywydd, ar y pwynt hwn fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod di-dâl o fwrdd y prosiect yn y ganolfan brosesu signalau digidol. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod am weld gogledd Cymru yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac i wneud hyn, mae angen cydweithio da gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â phartneriaid academaidd a diwydiannol. Weinidog, a wnewch chi roi diweddariad i'r Siambr heddiw ar y sgyrsiau mae swyddogion Llywodraeth Cymru, yn eich adran chi ac adran Gweinidog yr Economi, wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU am bwysigrwydd buddsoddi mewn prosiectau digidol yng ngogledd Cymru?
Diolch. Felly, hwn mewn gwirionedd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gyflawni o dan gytundeb twf y gogledd, fel y gwyddoch, felly rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y gwahaniaeth y gall buddsoddiad y fargen ei wneud yn yr ardal. Ac yn sicr, rwy'n rhannu eich uchelgais i weld gogledd Cymru—a phob rhan o Gymru mewn gwirionedd—yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac rwy'n hapus iawn i hyrwyddo'r uchelgais hwnnw mewn unrhyw ymwneud rhyngof a Llywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, sy'n amlwg yn arwain ar hyn—. Cafwyd cyfarfod rhyngddo a Gweinidogion y DU a oedd yn canolbwyntio ar gysylltedd digidol, yn enwedig mewn perthynas â'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu'r Prosiect Gigabit yng Nghymru. Felly, mae'r Gweinidog wedi gofyn am i'w swyddogion gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hynny.