4. 3. Datganiad: Caniatâd Tybiedig ar gyfer Rhoi Organau — y Chwe Mis Cyntaf

– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:47, 14 Mehefin 2016

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau—y chwe mis cyntaf. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Lywydd. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau chwe mis ar ôl cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a chyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau ar ôl marw yng Nghymru. Daeth hyn i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Bydd yr Aelodau'n gwybod y tybir bellach bod pobl 18 mlwydd oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis ac sy'n marw yng Nghymru yn barod i roi eu horganau oni bai eu bod wedi nodi’n benodol nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae'r llwybr tuag at roi organau yn un cymhleth, ond yn y cam cydsynio y mae’r rhan fwyaf o roddion yn cael eu colli, ac rwyf yn hynod falch bod Cymru bellach yn arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i newid i system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Rwyf yn llwyr ddisgwyl y bydd y system newydd yn sicrhau newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru ac mae arwyddion cynnar mai dyna sy’n digwydd. Yn yr un modd ag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd â systemau tebyg, cyflwynwyd y gyfraith hon i fynd i'r afael â phrinder difrifol organau i'w trawsblannu sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Rwyf yn siŵr ein bod i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am bobl ar restrau aros am organau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, rydym yn rhagweld y bydd y system newydd yn golygu y bydd tua 25 y cant yn fwy o achosion o roi organau, neu 45 o organau ychwanegol y flwyddyn.

I baratoi at y newid yn y system gydsynio ar gyfer rhoi organau, gwnaethpwyd llawer iawn o waith i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i ymgysylltu â hwy. Yn y ddwy flynedd cyn rhoi’r ddeddf ar waith yn llawn, cynhaliwyd yr ymgyrch gwybodaeth iechyd y cyhoedd mwyaf a’r mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes datganoli i esbonio'r newidiadau hyn. Yn awr, mae gwybodaeth reolaidd wedi ei chasglu am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r gyfraith rhoi organau i fonitro effeithiolrwydd yr ymgyrch hwnnw. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ym mis Chwefror 2016 y gallai 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgrifio'r newidiadau yn ddigymell, o gymharu â 53 y cant yn 2012. Yn awr, mae hon yn lefel ddigynsail o ddealltwriaeth ynghylch rhywbeth yr oedd rhai’n ei ystyried yn gymhleth. Mae’r gwahaniaeth hwn o 21 y cant yn tystio i ymgyrch hynod effeithiol, a hoffwn ddiolch o galon i bobl Cymru nid yn unig am gofleidio’r ddeddfwriaeth hon sy'n torri tir newydd ond hefyd am roi o'u hamser i ystyried, i drafod ac i gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.

O 28 Mai 2016, mae ychydig dros 167,000 o bobl yng Nghymru, neu tua 5 y cant o'r boblogaeth, wedi eu cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG i optio allan. Mae hynny'n llai o lawer nag a ragwelwyd ym mis Mehefin y llynedd, pan ddangosodd arolwg y byddai 14 y cant o drigolion Cymru’n optio allan. Mae'n bwysig iawn fod pobl sy’n dymuno optio allan yn gadarnhaol o'r system yn cael cyfle i wneud hynny. Ond, yn ogystal, erbyn hyn mae dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru, dros 35 y cant o'r boblogaeth, bellach wedi eu cofrestru yn gadarnhaol i optio i mewn i roi organau.

Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau niferus sy’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth ddiflino. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r holl gleifion a theuluoedd a helpodd â'n hymgyrch gwybodaeth gyhoeddus trwy rannu eu profiadau eu hunain, eu profiadau teimladwy, i bersonoli'r ymgyrch. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chefnogaeth nifer fawr iawn o bobl ledled Cymru a thu hwnt.

Roedd ailddatblygu'r gofrestr rhoddwyr organau yn rhan allweddol o'r gwaith yr oedd ei angen i ddarparu modd o gofnodi penderfyniad i optio allan. Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gyda Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a gwledydd eraill y DU, a’i gyflwyno chwe mis cyn i'r gyfraith ddod i rym. Roedd hynny’n rhoi digon o amser i bobl i gofnodi eu penderfyniad. Gall pawb yn y DU yn awr gofnodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, beth bynnag fo’r penderfyniad hwnnw. Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pobl ar draws y Siambr hon i ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf.

Bydd angen parhau i hybu dealltwriaeth o'r system newydd a’r dewisiadau ynghylch rhoi organau sydd ar gael i bobl yng Nghymru: optio allan, optio i mewn neu wneud dim. Bydd y cynllun cyfathrebu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgyrsiau rhwng teuluoedd ac anwyliaid am eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau, ac annog pobl hefyd i gofrestru eu penderfyniad ar y gofrestr rhoi organau.

Er bod cynnydd yn lefelau ymwybyddiaeth pobl yn fesur o lwyddiant, y prawf gwirioneddol fod ein deddfwriaeth wedi sicrhau’r canlyniad sydd ei angen fydd cynnydd yn nifer y rhoddwyr, a fydd yn golygu bod mwy o gleifion a theuluoedd yn elwa ar drawsblaniadau. Roedd canlyniadau’r chwe mis cyntaf ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth newydd ar waith, o 1 Rhagfyr y llynedd hyd at 31 Mai eleni, yn dangos y bu 18 o achosion o gydsynio tybiedig yng Nghymru. Aeth deg o'r rhain ymlaen i roi organau, ond roedd cyfanswm o 42 yn rhagor o roddwyr wedi cydsynio i roi organau yn y cyfnod hwnnw. Yn yr un cyfnod yn 2014-15, roedd 38 o roddwyr wedi cydsynio, a 31 yn 2013-14.

Os edrychwn ar y 18 o achosion o gydsyniad tybiedig, aeth 10 claf ymlaen i roi organau. O’r rhoddwyr hynny, rhoddwyd 37 o organau ac aeth 32 ymlaen i’w trawsblannu. O gymharu â'r ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfatebol cyn y newid yn y gyfraith ar gyfer yr holl roddwyr yr aethpwyd ymlaen i drawsblannu eu horganau, mae’r niferoedd hyn yn edrych yn gadarnhaol iawn yn wir. Mae gwerthusiad ffurfiol o effaith y gyfraith newydd wedi ei gomisiynu a chaiff ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.

Rwyf yn ddiolchgar i Aelodau o bob plaid am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod Cymru wedi gallu arwain y DU a datblygu system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Roedd angen gweddnewid y drefn ar gyfer sicrhau cydsyniad rhoddwyr a theuluoedd yng Nghymru, a chredaf fod rhoi Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ar waith wedi sicrhau’r newid hwnnw. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau a chwestiynau’r Aelodau.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:53, 14 Mehefin 2016

Yn ogystal â defnyddio’r cyfle cyntaf hwn yn y Senedd i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad a diolch iddo, wrth gwrs, am y datganiad yma, a gaf i longyfarch pob un sydd wedi’i gwneud hi’n bosibl inni gyrraedd y pwynt yma o ran rhoi organau yng Nghymru? Mi glywn ni, rwy’n gwybod, gan fy nghyd-Aelod i, Dr Dai Lloyd, yn y man. Rwy’n gwybod fod ganddo fo ychydig o gwestiynau i’w gofyn. Ond, mi fyddwn i’n licio rhoi teyrnged iddo fo a diolch iddo fo am gyflwyno’r cynnig i newid deddfwriaeth yn ôl yn 2007.

Rwy’n gobeithio bod yr ystadegau cynnar sydd wedi cael eu hamlinellu gan yr Ysgrifennydd yn dangos bod hwn yn gam sydd wedi bod yn werthfawr ac yn gam sydd wedi yn barod ac a fydd yn achub llawer iawn o fywydau. Mi fydd yn achub llawer o fywydau yma yng Nghymru. Ond, rwy’n gobeithio, fel sydd wedi’i weld efo sawl darn o ddeddfwriaeth arloesol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd yn hwb i gyrff democrataidd eraill yn yr ynysoedd yma i weithredu mewn modd yr un mor flaengar.

A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael efo Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i wthio arnynt hwy i fabwysiadu system debyg, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried y gallai cleifion mewn rhannau eraill o’r ynysoedd yma fod wedi manteisio o’n Deddf newydd ni yng Nghymru a’r ystadegau positif sydd wedi dod ymlaen o ganlyniad i hynny?

A gaf i ofyn hefyd faint o bobl a allai fod wedi rhoi organau a oedd wedi optio allan yn y cyfnod yma? Rwy’n nodi o’r datganiad fod llawer llai wedi optio allan na’r disgwyl—rhyw 5 y cant o’i gymharu, o bosib, â 14 y cant a gafodd ei amcangyfrif mewn arolwg cynharach—ond mae pob un sy’n cael ei golli, wrth gwrs, yn gyfle yn cael ei golli i arbed bywyd. Felly, beth ydy’r ystadegau yn y fan honno? Ac, o ystyried, felly, fod angen parhau i hysbysu pobl am y pwysigrwydd o roi organau, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i barhau â’r gwaith o addysgu pobl yn y maes yma, yn dilyn y newid deddfwriaethol?

Yn achos rhai nad oedd wedi nodi'r naill ffordd na’r llall, yn sawl achos gwnaed penderfyniad i beidio â rhoi organau wedi trafodaethau efo’r teulu, ac nid, hynny yw, ar sail feddygol? Ond, yn gyffredinol heddiw, wrth gwrs, fel pawb arall yma yn y Siambr, mae hon wedi bod yn drafodaeth sydd wedi codi cwestiynau moesol dyrys iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond, fel rwy’n dweud, y canlyniadau sy’n cyfrif yn y pen draw, ac mae’n braf gallu edrych yn ôl ar gychwyn llwyddiannus i gyfnod dan y ddeddfwriaeth newydd yma.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn benodol, rwyf yn cydnabod gwaith amryw o bobl yn y Siambr, fel y dywedais, gan gynnwys Dai Lloyd. Yn y cyfamser, ac yntau wedi’n gadael am gyfnod byr, llwyddasom i basio’r ddeddfwriaeth yr ydym yn awr yn ei thrafod heddiw.

I ddechrau, roedd tri phwynt a chwestiwn penodol i mi eu hateb. Roedd y cyntaf ynghylch Seneddau eraill a rhannau eraill o'r DU. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod bwrdd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG cyn yr etholiad, yng Nghaerdydd. Roedd yn ddiddorol, oherwydd roedd yno ddiddordeb gwirioneddol yn y system sydd gennym yma yng Nghymru a'r effaith y mae'n ei chael. Felly, mae diddordeb gwirioneddol ledled teulu’r GIG yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â faint o wahaniaeth y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud. Ni allaf siarad dros Seneddau eraill ynghylch a ydynt yn bwriadu dilyn ein deddfwriaeth, ond gwn fod diddordeb gwirioneddol ynddi. Yn bersonol, byddwn yn synnu pe na baem, ymhen 10 mlynedd, yn gweld darnau tebyg o ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, oherwydd os gwnaiff y gwahaniaeth yr ydym am iddi’i wneud, ac yr ydym yn credu ei bod wedi ei wneud eisoes yn y chwe mis cyntaf, yna byddech yn tybio y byddai pobl ar draws y pleidiau, mewn rhannau eraill o'r DU, yr un mor awyddus i weld dwsinau’n rhagor o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn, oherwydd nid yng Nghymru’n unig y mae her sicrhau bod digon o roddwyr i gyd-fynd â’r bobl sy'n aros ar y rhestr aros am organau yn broblem.

O ran y bobl hynny sydd wedi optio allan ond a allai fel arall fod wedi bod yn rhoddwyr, nid wyf yn ymwybodol ein bod yn casglu’r wybodaeth neilltuol honno—ond fe holaf ynghylch hynny. Rhan o'r rheswm, wrth gwrs, yw bod amgylchiadau penodol lle y gall pobl fod yn rhoddwyr ar gyfer trawsblannu organau, ac nid wyf yn ymwybodol y gallwn gymryd yn ganiataol y gallai rhywun fod wedi bod yn rhoddwr oni bai am y ffaith ei fod wedi optio allan. Ond fe holaf ynghylch hynny a'r pwynt penodol yr ydych hefyd yn ei godi ynghylch nifer y bobl lle na chaiff yr organau eu rhoi oherwydd gwrthwynebiadau gan y teulu. Soniais mewn cyfweliadau yn gynharach heddiw am hyn, sef hyd yn oed ar gyfer pobl sydd wedi optio i mewn yn gadarnhaol ac sydd ar y gofrestr, mae'n dal yn bosibl na fydd eu horganau’n cael eu trawsblannu oherwydd y sgwrs â'r teulu tua adeg rhoi’r organau. Yn awr, mae hynny'n rhywbeth y mae rhai pobl yn teimlo’n rhwystredig iawn yn ei gylch, ond mae’n rhaid i ni feddwl am yr effaith ar y bobl sydd yma, nid dim ond y sawl sy'n dymuno i’r organau gael eu rhoi.

Y pwynt olaf yr wyf am ymdrin ag ef yw hyn: soniasoch am y bobl hynny sydd ag amheuon a'r bobl hynny nad oeddent yn gadarnhaol am y newid oedd yn cael ei wneud—roedd gan amryw o bobl o wahanol gymunedau a nifer o grefyddau bryderon am y newid i system cydsyniad tybiedig. Un o'r pethau yr wyf i’n falch iawn yn ei gylch yw'r gwaith a wnaethom yn benodol gydag ystod o grwpiau gwahanol, gan gynnwys cymunedau crefyddol a ffydd, i edrych ar yr hyn yr oedd y newidiadau’n ei olygu, ac, mewn gwirionedd, rydym wedi gweld math gwahanol o agwedd. Mae pobl wedi ymlacio mwy. Maent yn hapusach nad yw rhai o'r pryderon a oedd ganddynt ynghylch sut y gallai’r system weithio wedi cael eu gwireddu, a chredaf fod hynny'n rhan o'r rheswm pam nad ydym wedi gweld cymaint o bobl yn optio allan yn gadarnhaol i gofrestru nad ydynt am gymryd rhan yn y system rhoi organau. Ond mae'n rhywbeth lle y bydd angen inni, ar ôl chwe mis, ar ôl blwyddyn, ac ymhellach ymlaen, adolygu’r effaith a deall a ydym yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym am ei wneud neu a allem wneud mwy eto.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:59, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy eich croesawu i'ch swydd? Rwyf yn gobeithio y cawn gyfle i weithio'n dda gyda’n gilydd i geisio gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y datganiad hwn. I'r rhai hynny ohonoch a oedd yma yn y Cynulliad diwethaf, fe gofiwch fy mod yn amlwg iawn wedi gweithio'n galed iawn ar hyn fel Aelod unigol a rhoddais fy mhleidlais i’r Llywodraeth, ac rwyf yn falch iawn o weld, ar ôl chwe mis—oherwydd dywedais y byddwn i'n cadw golwg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—fod pethau'n mynd cystal. Mae rhai meysydd, fodd bynnag, lle’r hoffwn rai cwestiynau, a hoffwn wneud y pwynt fy mod yn siarad ar fy rhan fy hun oherwydd, wrth gwrs, roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd ar y mater hwn.

Weinidog, a ydych wedi rhoi ystyriaeth bellach i hyrwyddo hyn gyda'ch cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Addysg, o ran cyfleu’r neges i bobl ifanc yn benodol? Cynhaliais waith ymchwil anwyddonol iawn dros y penwythnos pan welais y byddai hyn yn codi, a gofyn i gynrychiolwyr o un ysgol yn Sir Gaerfyrddin—ysgol uwchradd—dwy yn Sir Benfro a dwy ym Mro Morgannwg beth roeddent yn ei wybod am roi organau, a chefais atebion llugoer ac annelwig iawn, iawn. Yn awr, gwnaeth y Gweinidog blaenorol ymrwymiad fod cyllid newydd eisoes wedi’i neilltuo yn ein cynllun cyfathrebu i wneud ymdrech arbennig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac, wrth gwrs, plant ysgol, y rhai sy'n paratoi i adael yr ysgol uwchradd a'r rhai sydd mewn colegau addysg uwch yw'r rhai sydd ar fin troi’n 18 oed a byddant wedyn yn gallu optio i mewn neu allan. Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud i fynd ati o ddifrif i geisio gwella’r rhaglen gyfathrebu honno, a oes gennych gyllid wedi’i neilltuo, ac a allwch roi syniad inni o faint y gallai’r cyllid hwnnw fod.

Hoffwn holi ychydig am y 18 o bobl nad oedd wedi gwneud dewis y naill ffordd na'r llall. Dywedasoch fod 10 ohonynt wedi mynd ymlaen i roi organau, ac yn amlwg, roedd wyth heb wneud, felly tybed a wnaed rhywfaint o ymchwil ansoddol i’r rhesymau pam nad oedd y rhai na aeth ymlaen i roi organau wedi gwneud hynny. Mae’n bosibl nad oedd eu horganau’n cydweddu ac nad oedd ar neb eisiau eu horganau hwy, ond byddai'n ddiddorol iawn gweld a oes unrhyw dueddiadau yno efallai ynghylch grwpiau oedran neu gefndir o ran pam nad yw’r neges wedi eu cyrraedd.

Hoffwn wybod hefyd a ydych wedi gwneud neu a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw ymchwil ansoddol ar y bobl hynny y cytunodd eu teuluoedd i ganiatáu i’w horganau gael eu rhoi oherwydd, wrth gwrs, un o'r pethau yr oedd llawer o sôn amdano y tro diwethaf oedd sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i’r meddygon a'r nyrsys ym maes rhoi organau, ac mae'n fater o ddysgu gwersi. A ydym yn trin y bobl hynny’n effeithiol, yn garedig, yn dosturiol? Maent mewn cyfnod o straen personol mawr, a dyna pam yr wyf am eich holi am un sylw a wnaethoch, a barodd fymryn o anesmwythyd i mi, pan ddywedasoch fod rhwystredigaeth bod rhai pobl yn dweud 'na' ac nad oeddent yn gadael i’w horganau fynd yn eu blaen. Dylem dderbyn y rhwystredigaeth honno, fel rhan o'r rhyddid yr ydym yn ei roi i bobl, ac ni fyddwn yn hoffi i hynny fyth gael ei drosglwyddo i rywun yn y rheng flaen ac i unrhyw bwysau ar deulu. Yn y pen draw, dyma hawl y teulu. Rydym wedi ymgorffori hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, sef os nad oes cydsyniad tybiedig, fod y drafodaeth yn digwydd, a bod modd iddynt beidio â bwrw ymlaen. Ac ni ddylem ddangos dim pryder ynghylch hynny, oherwydd dyna a ddywedasom a dyna y mae'n rhaid i ni gadw ato.

Yn olaf, Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r gyllideb sydd ar waith i hyrwyddo rhoi organau ac amlinellu a oes lle i fuddsoddi pellach, os yw ymchwil yn profi bod angen hynny arnom i symud y mater hwn ymlaen? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:03, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r pwynt yr wyf yn credu oedd yn gamddealltwriaeth, yn anad dim, oherwydd roeddwn yn cyfeirio mewn gwirionedd at rôl y teulu wrth beidio â chefnogi rhoi organau, ond rhywun sydd wedi gwneud y penderfyniad i fynd ar y gofrestr i optio i mewn. Mae hynny'n dal i ddigwydd, ond mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud. Mae'n rhan o sensitifrwydd y gweithwyr meddygol proffesiynol ac, yn arbennig, yn y cyfnod craffu ar hyn ac wedi hynny, y cofnod o rôl y nyrs arbenigol, o ran bod yn gadarnhaol wrth esbonio’r dewis a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl ar y pryd, p’un a ydynt yn optio i mewn neu allan, p'un a ydynt yn cydsynio i’r organau gael eu rhoi a hefyd, yn benodol, y rhai sydd yn dweud 'ie', oherwydd un o’r pethau sydd wedi bod fwyaf teimladwy drwy'r broses hon yw cwrdd â theuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi mynd ymlaen i fod yn rhoddwyr. Felly, mae gan lawer ohonynt stori gadarnhaol i’w hadrodd am farwolaeth na fu’n ofer, a deall bod pobl eraill sydd wedi parhau â'u bywydau oherwydd y dewis sydd wedi ei wneud. Ac mae clywed hynny wedi bod yn ddiffuant iawn, ac yn ysbrydoliaeth.

O ran eich pwyntiau ehangach am ymchwil ynglŷn ag effaith hyn ac adolygiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Rwyf yn siŵr y bydd nifer o bobl sy'n dymuno gwneud eu hymchwil eu hunain ar effaith y gyfraith, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd datganiad diweddaru yw hwn yn hytrach nag adolygiad ffurfiol o ble yr ydym yn y chwe mis cyntaf. Byddwn yn gwario tua £200,000 yn ystod y flwyddyn nesaf ar hyrwyddo’r hyn sydd wedi digwydd, yr ymgyrch wybodaeth, ond fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn parhau i mewn i'r flwyddyn nesaf oherwydd bod y Cynulliad wedi ymrwymo i wario tua £7.5 miliwn dros 10 mlynedd pan basiwyd y ddeddfwriaeth hon.

Rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad, ac nid dim ond diolch—dylwn ddweud hynny wrth Rhun hefyd—ond dweud llongyfarchiadau wrthoch chi a Rhun ap Iorwerth ar y newid yn eich swyddogaeth, a chroeso i bortffolio diddorol iawn lle mae bron i hanner arian y Llywodraeth yn cael ei wario. Rwyf yn cydnabod, ar y mater penodol hwn, nid yn unig fod gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd, ond rwyf yn cydnabod ichi ddweud eich bod yn sgeptig, a’i fod yn gam mentrus cefnogi'r ddeddfwriaeth a oedd ar ddod. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr effaith y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chael ac, yn yr un modd, ein bod yn deall bod mwy y gallem neu y dylem fod yn ei wneud i wella'r system. Ac nid mater o gynyddu nifer y rhoddwyr yn unig yw hynny, ond deall yn wirioneddol effaith unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â rhoi organau ar deuluoedd.

Ymdriniaf â’r ddau bwynt olaf yn eich sylwadau a'ch cwestiynau. Roedd y cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod ymwybyddiaeth yn parhau, yn enwedig ymhlith pobl iau. Rydym eisoes yn bwriadu sicrhau bod pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw oed yn cael yr hyn a alwyd yn—nid wyf yn siŵr ai dyma’r derminoleg iawn—‘llythyr codi’n 18 oed'. Felly, mae pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw yn cael neges ffurfiol sy'n dweud wrthynt, yn eu hatgoffa, am y system newydd a beth yw eu dewisiadau ac yn eu hannog i siarad â'u hanwyliaid, i gael y sgwrs gyda phobl o'u cwmpas am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd. Yn yr un modd, ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar gofrestru â meddygon teulu. Nid yw'n barod eto, ond rywbryd dylem fod yn gallu gwneud rhywbeth lle bydd pobl yn cofrestru â'u meddygon teulu, fel y gall pobl gofrestru eu dewis yn y fan honno hefyd. Po fwyaf o gyfleoedd a roddwn i bobl, po hawsaf yr ydym yn ei gwneud i bobl gofnodi beth yw eu dewis—optio i mewn, optio allan neu wneud dim—gorau oll y bydd hi yn fy marn i i bob un ohonom. Dyna ran o'r llwyddiant y mae ei angen i’r ddeddfwriaeth hon ei gael, gweld yr effaith yr ydym am iddi ei chael, lle bydd mwy a mwy o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:06, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch ichi am eich datganiad. Mae'n newyddion da yn wir fod cydsyniad tybiedig wedi creu 10 yn rhagor o roddwyr a gyfrannodd at hanner y trawsblaniadau yn y chwe mis diwethaf. Rhoi organau yw’r weithred fwyaf o haelioni a thrugaredd y gall person ei gyflawni. Yn anffodus, mae gennym dros 200 o bobl sy’n dal i aros am drawsblaniad achub bywyd yng Nghymru, ac eto dim ond 35 y cant o bobl yng Nghymru sydd wedi optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.

Mae cydsyniad tybiedig yn gam mawr ymlaen ac mae 32 o organau wedi eu trawsblannu na fyddent efallai wedi eu trawsblannu pe na bai'r system ar waith. Ond mae gennym i gyd ddyletswydd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr. Mewn 43 y cant o achosion lle mae rhoi organau yn bosibl, mae teuluoedd yn dweud 'na' i roi’r organau, am nad ydynt yn gwybod a oedd eu hanwyliaid am fod yn rhoddwyr. Gadewch inni gymryd y baich oddi ar ein teuluoedd sy’n galaru a chofrestru fel rhoddwyr organau. Pan fydd pobl yn cofrestru fel rhoddwyr, dylai eu dymuniadau, p’un a yw eu teuluoedd yn cytuno ai peidio, gael eu parchu ac ni ddylent gael eu diystyrru. Dim ond os byddwch yn marw yng Nghymru y bydd cydsyniad tybiedig yn berthnasol. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gallu arbed bywydau ar ôl ein marwolaeth mewn mannau eraill yn y DU drwy optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.

Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog mwy o bobl i gofrestru fel rhoddwyr? Beth am gyngor rhieni i bobl ifanc sy’n paratoi i adael yr ysgol? Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella addysg am roi organau? Mae llawer o’r bobl sy’n gwrthwynebu rhoi organau yn gwneud hynny am resymau crefyddol. A yw Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda grwpiau crefyddol i helpu i addysgu pobl am gredoau bod yn rhoddwr organau? Mae'n anffodus, os na ellir cysylltu â theulu rhoddwr posibl, na ellir tybio cydsyniad i roi organau. Pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i ychwanegu manylion cysylltu mewn argyfwng i gofnodion meddygol claf?

Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond 157,000 o bobl sydd wedi optio allan o’r gofrestr rhoi organau. Gadewch inni ddefnyddio'r chwe mis nesaf i berswadio gweddill y cyhoedd yng Nghymru ei bod yn well os ydynt yn rhoi eu cydsyniad penodol i roi organau ac yn dweud wrth eu hanwyliaid beth yw eu dymuniadau na dibynnu ar ganiatâd tybiedig yn unig. Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:09, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am sylwadau llefarydd iechyd UKIP a chroeso i chithau i’ch rôl. Rwyf yn falch o glywed eich cefnogaeth glir iawn i’r ddeddfwriaeth a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni. Rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, ac y byddwn yn ei wneud drwy gydol gweddill y flwyddyn hon a gweddill yr amser y bydd gennym ymgyrch gyfathrebu, yw annog pobl i wneud dewisiadau—boed y dewis hwnnw i optio allan neu i optio i mewn neu gytuno i wneud dim byd ac o bosibl i ganiatáu i’w cydsyniad gael ei dybio. Rwyf wedi ymdrin ag amryw o'r pwyntiau yr ydych wedi’u codi ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud i geisio annog ystod wahanol o bobl i gael sgwrs â’u hanwyliaid i wneud yn siŵr bod y bobl y maent yn eu gadael ar eu holau yn gwybod beth yw eu dewisiadau’n benodol. Ac mewn ymateb i Angela Burns a Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi crybwyll nifer o bethau yr ydym eisoes am eu gwneud.

O ran y ddau bwynt penodol y credaf y dylwn ymateb iddynt, mae un ynghylch manylion cysylltu mewn argyfwng â theulu neu rywun annwyl. Oherwydd yr amgylchiadau penodol lle mae pobl yn gallu bod yn rhoddwyr organau, mae'n debygol y bydd aelod o'r teulu neu rywun annwyl yno gyda hwy. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae’n dal angen iddynt wirio bod rhoi organau yn bosibl, oherwydd mae angen ichi wybod digon am eu hanes meddygol i ddeall a ellid cynnig eu horganau i'w rhoi. Felly, mae pwyntiau ymarferol ynghylch hynny.

Ynghylch eich pwynt am gymunedau ffydd yn benodol, a chrybwyllais hynny’n gynharach, gallaf gadarnhau inni gyflogi cwmni ymgynghori arbenigol o'r enw Cognition, sydd â phrofiad o ymdrin ag ystod o wahanol gymunedau, ac maent wedi dod â phobl o wahanol gefndiroedd ffydd ynghyd er mwyn deall y pryderon a oedd ganddynt a sut y maent wedi llwyddo i’w goresgyn. Felly, credaf fod pobl yn fwy gwybodus erbyn hyn, ac mae hynny wedi bod yn rhan o lwyddiant y ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Roeddwn yn bresennol mewn gweithdy gydag amryw o wahanol bobl—nid oherwydd fy rôl benodol yn y Llywodraeth, ond hefyd yn arwyddocaol oherwydd fy etholaeth a’r amrywiaeth sydd yno—gyda gwahanol grwpiau ffydd i ddeall beth oedd eu pryderon, lle roeddent wedi dod i ddeall y system sydd ar gael a'r dewisiadau y gallant eu gwneud. Oherwydd, a dweud y gwir, mae gan ystod o bobl sy'n arweinwyr mewn cymunedau ffydd allu i ddylanwadu ar bobl, i edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i wneud eu dewis—p'un ai i optio i mewn, optio allan neu wneud dim.

Felly, rwyf yn falch o ble yr ydym yn awr, chwe mis ers i’r ddeddfwriaeth ddod yn weithredol, ac edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach i’r Aelodau ynghylch ble yr ydym wedi cyrraedd a ble yr ydym yn dal yn awyddus i’w gyrraedd yn y blynyddoedd a'r misoedd i ddod.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:12, 14 Mehefin 2016

Rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ei ddatganiad a hefyd am ei eiriau caredig. Yn naturiol, mae hwn yn esiampl o ddefnydd clodwiw o ddeddfwriaeth yn y lle hwn, ac mae’n werth nodi, heb y Cynulliad, fyddai yna ddim mo’r Ddeddf hon. Rwy’n gwybod bod hynny’n rhywbeth digon plaen i’w ddweud, ond mae yna lot o bobl yn holi beth y mae’r Cynulliad erioed wedi’i wneud iddyn nhw. Wel, dyma esiampl bur, glodwiw o ddeddfwriaeth sydd yn newid bywydau, sy’n achub bywydau, ac sy’n trawsnewid bywydau eraill.

A fyddech yn cytuno efo fi taw un o’r prif bethau ynglŷn â’r ddeddfwriaeth hon yw gosod y cynsail yn y drafodaeth rhwng y meddyg neu’r nyrs a’r teulu yn y sefyllfa ingol hon, pan fydd rhywun y maen nhw’n ei garu’n ddwfn iawn yn sylfaenol wedi marw, ac mae’n rhaid cael y sgwrs honno ynglŷn â beth sy’n digwydd i’r organau? Rwyf wedi bod yn y sefyllfa honno. Chi’n gwybod, os na fyddai’r ddeddfwriaeth yn y cefndir, hynny yw, bod ewyllys y wlad yn dweud mai’r disgwyl yw eich bod yn mynd i roi eich organau—. O’r blaen, cyn y ddeddfwriaeth hon, nid oedd disgwyl y byddech yn rhoi eich organau ac, fel meddyg, roeddech yn gallu swnio weithiau yn hynod galon galed yn y sefyllfaoedd gyfan gwbl ingol hynny, pan yr oedd yn rhaid ichi hefyd ofyn caniatâd am organau rhywun a oedd, ddwy awr ynghynt, yn berffaith byw ac iach. Dyna yw’r gwahaniaeth yn sylfaenol. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos, yn y sefyllfa gynt, fel yr oedd hi yn y wlad hon, pe bawn i fel meddyg yn gofyn caniatâd yn y sefyllfa anodd, anodd iawn honno, fod 40 y cant o deuluoedd yn gwrthod rhoi caniatâd. Ond, mewn gwledydd eraill, sydd eisoes wedi newid a chael yr un drafodaeth, ac sydd â’r cefndir hwnnw bod yna ddisgwyliad a dyna beth yw ewyllys y wlad, dim ond 15 y cant o deuluoedd sydd yn gwrthod rhoi eu caniatâd. Dyna’r math o ffigurau y buaswn yn disgwyl eu gweld yn awr.

Mae’n bwysig nodi hefyd, pan fydd un person yn marw ac yn cytuno rhoi ei organau, rydych yn trawsnewid bywyd saith person arall, gan gofio bod gennym i gyd ddwy aren, un afu, un pancreas, calon, ysgyfaint a dau ‘cornea’. Mae jest angen gwneud y ‘maths’. Felly, rwy’n falch iawn gweld llwyddiant y mesur hwn o ddeddfwriaeth. Roeddwn yn gallu rhagweld hynny’n digwydd lawr y blynyddoedd, pan gawsom drafodaethau dwys iawn yn y lle hwn a’r tu allan. Rwy’n falch iawn gweld y ffigurau hynny’n cadarnhau hyn. Buaswn yn pwysleisio, ac yn eich gwthio chi hefyd, i ddwyn perswâd ar Lywodraethau eraill yn yr ynysoedd hyn i ddilyn yr un trywydd. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael trafodaethau efo pobl yn Senedd yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon ac mae yna fudiadau yn fanna sydd hefyd yn dilyn y ffordd rydym ni’n gweithredu yn y fan hyn. Ond Lloegr ydy’r broblem fawr—wel, yn y cyd-destun yma, fel mewn ambell i gyd-destun arall, yn amlwg. Ond mi fuaswn i yn eich cefnogi chi i geisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth yn Llundain hefyd i geisio mabwysiadu deddfwriaeth debyg. Diolch yn fawr.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:15, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, Dai Lloyd. Rwyf yn fwy na hapus, fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, i barhau â'r sgwrs â Seneddau eraill a rhannau eraill o deulu’r GIG ledled y DU. Fel y dywedais, gwn eu bod yn ystyried hynt ein deddfwriaeth a'r effaith ymarferol ar nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i roi organau, a bod ganddynt ddiddordeb yn hynny.

Credaf fod hyn yn enghraifft dda iawn o ddefnyddio ein pwerau’n greadigol yn y lle hwn at ddiben go iawn—gwahaniaeth ymarferol a gwell i ddinasyddion yng Nghymru. A chredaf fod rheswm trawsbleidiol gwirioneddol yma i gydnabod sut y gallem wneud pethau yn y dyfodol yn ogystal. Yn benodol, ynghylch eich pwynt fod pob rhoddwr yn helpu mwy nag un person: rydym wedi gweld 10 o bobl yn mynd ymlaen i roi organau, 32 trawsblaniad ychwanegol yn digwydd, yn y chwe mis cyntaf trwy gydsyniad tybiedig. Dyna nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu helpu gan y ddeddfwriaeth hon ac rwyf yn gobeithio gweld gwelliant pellach yn hynny o beth yn y dyfodol hefyd. Ond byddwn yn dweud, hyd yn oed yn awr, os bydd hynny’n parhau yn y dyfodol, yna bydd y ddeddfwriaeth wedi bod yn werth chweil—llawer iawn, iawn o bobl yn y blynyddoedd i ddod sy'n gallu dweud bod eu bywyd wedi gwella neu ei achub oherwydd y dewis yr ydym wedi ei wneud i greu'r ddeddfwriaeth hon.

Ymdriniaf â'ch pwynt olaf ynglŷn â natur y sgwrs. Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi llwyddo i basio’r ddeddfwriaeth, felly mae'n newid natur y sgwrs a'r ffordd y mae pobl yn mynd ati i gael sgwrs ar adeg anhygoel o anodd i unigolion wrth ffarwelio â rhywun annwyl a deall yr hyn a allai ddigwydd wedyn o ran rhoi bywyd i bobl eraill hefyd. Mae sicrhau bod y sgwrs yn dechrau o bwynt cadarnhaol ynghylch rhoi organau, os mynnwch, fel yr opsiwn diofyn i’w ddewis, yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad yn ystod taith y Bil ac mae wedi ei atgyfnerthu hefyd yn y cyswllt rhyngom a phobl drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, credaf fod rheswm da dros fod yn optimistaidd am hynny, ond rheswm yr un mor dda i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir yn ymarferol, o ran y ffordd y mae gwahanol bobl y tu allan i’r lle hwn—cymunedau ffydd a gwirfoddol—ac, yn arbennig, cysylltu â phobl sy’n cael y sgyrsiau hynny, ynghylch a yw’r hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn ei weld yn y chwe mis cyntaf yn cael ei gynnal neu a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r sefyllfa ymhellach.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, madam Llywydd. Weinidog, rwyf yn eich llongyfarch ar eich swydd newydd. Hoffwn ddweud bod rhoi organau’n beth anrhydeddus iawn. Canfu adroddiad annibynnol gan y tasglu rhoi organau fod pobl o dras Asiaidd ac Affro-Caribïaidd yn cyfrif am 23 y cant o'r rhestr aros am arennau, ond mai dim ond 3 y cant o'r rhoddwyr hynny sy’n dod o'r cymunedau hyn. Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod materion diwylliannol yn ffactorau pwysig sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau. Canfu astudiaeth ddiweddar yn Birmingham fod 60 y cant o Fwslimiaid yn dweud bod rhoi organau yn erbyn eu ffydd. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, nad yw hynny'n wir. Yr ateb yw ymgysylltu ac addysgu ein cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru gyda sefydliadau Mwslimaidd perthnasol. Pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd? Rwyf o’m gwirfodd yn ceisio eich helpu, os yw hynny’n bosibl, i fynd i bob mosg yn y wlad hon i wneud yn siŵr bod Mwslimiaid yn gwybod am fanteision y nod anrhydeddus hwn.

Nid yw taflenni ysgrifenedig yn ddigon da—mae ganddynt wahanol ieithoedd mewn cymunedau Mwslimaidd, mwy na hanner dwsin. A gwneud yn siŵr eu bod yn deall yr iaith ac amcan y Llywodraeth hon i sicrhau bod ein gwaith anrhydeddus yn cael ei gyflawni yn y wlad hon a’n bod yn gosod esiampl—rwyf yn siŵr eich bod yn gwneud gwaith ardderchog, ond mae ffordd hir i fynd cyn cyflawni hynny. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:19, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mohammad Asghar am ei bwyntiau penodol mewn maes sy’n wirioneddol heriol i ni. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer sylweddol uwch na’r disgwyl o’r bobl sydd ar y rhestr aros, nifer sy’n sicr yn anghymesur â'r boblogaeth yn gyffredinol, yn bobl o gymunedau o bobl o darddiad du ac Asiaidd, ac eto, o’r bobl sydd wedi cofrestru ar y rhestr rhoi organau, mae nifer sylweddol lai nag yn y boblogaeth yn ogystal. Felly, mae her go iawn inni ac mae rhywfaint ohoni’n ddiwylliannol, rydych yn iawn. Gwn hefyd nad yw hyn yn grefyddol; nid oes gwaharddiad crefyddol ar fod yn rhoddwr. Ond mae her yn rhai o'r normau diwylliannol sydd wedi datblygu a sut mae goresgyn hynny. Dyna pam y mae gwaith gwybyddol wrth gynorthwyo’r sgwrs honno wedi bod mor bwysig.

Nid oes diben esgus bod y gwaith wedi ei gwblhau a bod popeth yn iawn nawr. Mae angen iddi fod yn sgwrs barhaus. Rydym yn awyddus i newid y diwylliant a'r ffordd y mae pobl yn cael y sgwrs honno. Dyna hefyd pam y mae straeon personol wedi bod mor bwysig ac mor bwerus. Mae deall pobl yn y cymunedau yr ydych yn byw ynddynt, gweld rhywun yn aros ar y rhestr, ac yna gweld rhywun a'i deulu sydd wedi gweld rhywun yn y teulu’n marw, ond yn dod yn rhoddwr organau, yn gymhellion pwerus iawn i herio’r ffordd y mae pobl yn teimlo am eu dewisiadau, ac mewn sawl ffordd, dyna’r ffordd fwyaf darbwyllol.

Felly, rwyf yn cydnabod bod mwy i'w wneud yn y maes hwn. Nid oes diffyg hunanfodlonrwydd, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod eisoes wedi cymryd camau, ac nid dim ond gyda phobl yn y gymuned Fwslimaidd; mae ystod o gymunedau pobl o darddiad du ac Asiaidd yn y ffydd Gristnogol, yn ogystal â'r gymuned Hindŵaidd a'r Sikhiaid yn ogystal, yr ydym wedi cael sgyrsiau â nhw hefyd—felly mae ystod eang o grefyddau y mae angen ymgysylltu â hwy yma hefyd, ond hefyd ystod eang o ieithoedd. Rydym wedi sicrhau bod ystod o wybodaeth ar gael mewn nifer o wahanol ieithoedd cymunedol. Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn berffaith neu na ellir gwella ein hymgysylltiad ag ystod wahanol o gymunedau, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn deall beth arall y gallwn ei wneud i gyflawni’r union beth hwnnw, oherwydd nid wyf yn credu bod dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau ar y mater hwn.