– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 21 Mehefin 2016.
Rydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddarlledu yng Nghymru, ac rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies.
Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i ddarlledu yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae yna benderfyniadau allweddol i’w gwneud mewn perthynas â darlledu a’r trefniadau rheoleiddio. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol newydd i Gymru. Roedd hyn yn un o argymhellion y pwyllgor cymunedau yn ei adroddiad ar yr adolygiad o siarter y BBC cyn yr etholiad. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am y fforwm newydd maes o law. Heddiw hoffwn i ganolbwyntio’n bennaf ar fater o gryn frys, sef yr adolygiad o siarter y BBC, ond byddaf i hefyd yn cyfeirio’n fyr at faterion darlledu allweddol eraill.
Llywydd, through our memorandum of understanding with the United Kingdom Government and with the BBC, the Welsh Government has been, and will continue to be, fully involved in the charter review process. A draft charter is likely to be published over the summer and a Plenary debate will be held immediately after the summer recess. I intend to meet with the Secretary of State for Culture, Media and Sport before the summer recess to discuss this and other broadcasting issues.
On 12 May, the UK Government published a White Paper on the BBC charter. On the same day, Lord Hall, the BBC’s director general, wrote to the First Minister to set out a progress report on the BBC’s provision in the devolved nations, to which the First Minister has responded this week.
In general terms, we are pleased that the Secretary of State for Culture, Media and Sport has taken on board a number of the issues we have raised, both in our detailed response to the Green Paper consultation and in discussions between officials and Ministers throughout the charter review process. Further details are needed on a number of proposals outlined in the White Paper, although some of these are addressed in the director general’s letter to the First Minister.
It is encouraging, Llywydd, that the BBC intends to protect spending in the nations relative to other areas and is now committing to allocate additional funding for its dedicated services in the nations. However, clarity is urgently needed about what this actually means in terms of financial support and what practical impact this will have on the breadth of services the BBC provides for Wales. We do not see the development of Cardiff as an important centre for network productions as any sort of justification for reducing the BBC’s investment in other services. Additional resources should be earmarked for high-quality programming such as drama, which will enhance English-language programming for Welsh audiences. The Welsh Government has previously called for the BBC to invest significant, additional funding into Welsh programming. We welcome Tony Hall’s recognition that the portrayal of Wales and the other devolved nations must improve and that the BBC intends to set portrayal objectives for commissioners. All the public service broadcasters must recognise that proper representation of the full diversity of the UK has to include better representation of the diverse cultures of its nations and regions, and that includes Wales. We also support the intention to have a drama commissioning editor responsible for each nation. It is vital that this individual will be based in Wales and that commissioning decisions for Wales are actually made here as well. More should be done to ensure fairer distribution of production activity away from London and into the nations and regions of the United Kingdom. We recognise that some improvements have been made, but, nevertheless, too many decisions continue to be made inside the M25.
Fundamentally, within the BBC a change of culture is needed. We recognise the key role played by the BBC as a provider of news coverage about Wales and for the people of Wales. The BBC remains the most significant provider of both non-network television news and current affairs programming in Wales. We acknowledge and recognise that the BBC has been the main driver of the improvements in coverage of devolved political issues in Wales. However, Wales continues to be under-represented, even when stories are relevant across the whole of the UK. Examples of poor and inadequate reporting include the recent contractual dispute between the UK Government and junior doctors in England, and, in my opinion, network coverage of the recent Assembly election was also inadequate.
We recognise the fact that Wales will be represented on the BBC’s new unitary board—we pressed hard for this. We look forward to receiving further details about the proposal to create a sub-committee of the board for each nation. We also welcome the intention to create a service licence for Wales, which reflects our own call for a compact for Wales in the new charter. The service licence must clearly define what Wales needs and what the BBC has a duty to deliver in the next charter period. It is disappointing that there is no detail about how Ofcom will develop and deliver this new service licence. We were clear that a full review of the BBC’s public purposes was urgently needed, as a basis for a new charter contract. If that review had been undertaken, we would be in a better position to set out the requirements of a fit-for-purpose service licence for Wales.
Lywydd, rydym ni hefyd yn croesawu’r cyfeiriad yn y Papur Gwyn at sicrhau annibyniaeth S4C. Mae’n hollbwysig bod S4C yn cael digon o gyllid, yn ogystal ag annibyniaeth o ran golygu a rheoli. Rydym ni hefyd yn croesawu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, rhywbeth rydym ni wedi bod yn pwyso’n barhaus amdano ac a addawyd yn 2010 yn wreiddiol. Ond fe ddylai hyn gael ei wneud ochr yn ochr â’r adolygiad o siarter y BBC yn hytrach na wedyn. Fe ddylai hefyd fod yn rhan o adolygiad ehangach, mwy sylfaenol o anghenion y maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym ni’n disgwyl cymryd rhan lawn yn yr adolygiad o S4C, gan gynnwys y broses o ddatblygu’r cylch gorchwyl.
Ensuring plurality of English language television in Wales is vital, in news and also general programming aimed at Welsh viewers. ITV Cymru Wales therefore has a vital role to play as an alternative to the BBC for news and non-news programming. We do not view the existing level of provision on the channel 3 licence as appropriate, or even adequate. Provision should be increased, especially considering ITV’s healthy financial position. If Channel 4 receives public resources, then it should be required to produce at least a population share of network commissions in the nations and regions. We were disappointed that Ofcom did not agree with our view that Channel 4’s quota for out-of-London productions should be implemented by 2016 rather than 2020. Channel 4’s record in commissioning content from Wales has historically been negligible; its spend in Wales remains below 1 per cent of its total content spend and the broadcaster has no commissioning staff based in Wales.
I am pleased that there is cross-party consensus on the majority of broadcasting issues. This was reflected by the committee report on the charter review a few months ago, by the letter sent last week from Assembly Members to Tony Hall, and also in the report by the Welsh Affairs Committee of the House of Commons, which was published last week. Llywydd, as a Government we will continue to ensure that the interests of the Welsh people are recognised and addressed as the draft charter is developed. We will also stress that the commitments that the BBC has now made to improve services to Wales and other nations should be mandated for in the charter itself.
Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad. Er y byddwch efallai’n falch o wybod na fyddaf yn eich cysgodi o hyn ymlaen, o ystyried y gwaith yr wyf wedi ei wneud gyda chi a phobl eraill cyn hyn, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i siarad heddiw am y gwaith yr ydym wedi'i wneud a hefyd y gwaith y mae angen inni ei wneud. Oherwydd, wrth gwrs, roeddech yn eistedd ar y pwyllgor gyda ni o’r blaen, yn y Cynulliad diwethaf, ac mae llawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw yn eich datganiad, rwyf yn falch o weld, ac yn dod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Er enghraifft, byddai’n dda gennyf wybod, roeddech yn sôn eich bod yn mynd i roi manylion inni ynglŷn â’r fforwm darlledu annibynnol, ond hoffwn wybod sut yr ydych yn bwriadu gweld aelodaeth y pwyllgor, oherwydd, wrth gwrs, bu’n rhaid i’r Sefydliad Materion Cymreig wneud cais rhyddid gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i gael gwybod beth oedd wedi digwydd i'r panel cynghori. Nid ydym am fod yn y sefyllfa honno eto; rydym am gael grŵp annibynnol cadarn a chryf o bobl, nid y rhai arferol yn unig ond pobl sydd efallai'n gallu rhoi persbectif newydd i'r cyfryngau yng Nghymru, fel y gall y grŵp hwnnw roi gwybodaeth i chi ac i Aelodau'r Cynulliad, ac er mwyn gallu gwella’r gwaith craffu hwnnw o ganlyniad. Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion ynghylch sut y bydd yn adrodd, sut y byddant yn cael eu dewis ar gyfer y grŵp hwn a sut y caiff eu gwaith ei roi iddynt yn y dyfodol.
Nodwn y byddwch yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Rwyf yn siŵr y byddwch yn cyflwyno achos iddo o ran y sefyllfa ariannol sydd ei hangen er mwyn gwella’r cymorth ariannol i’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yng Nghymru, fel yr eglurwyd gan Aelodau'r Cynulliad ym mhob rhan o’r Siambr hon yn ddiweddar mewn llythyr at Tony Hall. Felly, a wnewch chi egluro beth yn union y byddwch yn ei ddweud, ac a fyddwch yn pwyso am y cyllid ychwanegol blynyddol hwnnw o £300 miliwn i’r BBC yng Nghymru?
Fy nghwestiwn arall oedd hyn: rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ffaith eich bod yn galw am olygydd comisiynu drama sydd wedi’i leoli yng Nghymru, ond hoffwn weld y math hwnnw o rwydwaith neu dîm ar gyfer y broses gomisiynu yn dod i Gymru hefyd, oherwydd, fel y byddwch yn gwybod ar ôl eistedd ar y pwyllgor, clywsom gan Equity fod actorion yn dal i orfod mynd i Lundain am glyweliadau ar gyfer rhaglenni sy'n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae'n hurt eu bod i gyd yn ymgynnull ar drenau sy’n mynd i Lundain pan allent—yr actorion—fod yn cael y clyweliadau hynny yma yng Nghymru. Felly, mae angen nid yn unig y gwaith comisiynu drama yma yng Nghymru ond mae angen y timau cynhyrchu sydd ynghlwm wrth y prosesau hynny hefyd.
Nodaf yn eich adroddiad—eich datganiad, mae’n ddrwg gennyf—y dylid cynyddu darpariaeth ITV Cymru Wales, yn enwedig o ystyried ei sefyllfa ariannol iach. Tybed beth arall y gallwch ei ddweud wrthym am sut neu ym mha ffordd y dylai’r ddarpariaeth honno gynyddu.
Bydd yn rhaid imi ddatgan buddiant mewn perthynas â Channel 4 gan fod fy mrawd yn newyddiadurwr ar raglen newyddion Channel 4, ond credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd fel Aelodau Cynulliad i geisio eu hannog i weld bod rhinwedd mewn straeon yma yng Nghymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, yn hytrach, efallai, na chanolbwyntio ar Loegr fel y maent yn ei wneud yn aml iawn. Ni fydd ef yn hapus iawn fy mod yn dweud hynny—mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.]
Hefyd, hoffwn glywed eich barn am strwythurau pwyllgorau’r Cynulliad. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn clywed gan Weinidog y Llywodraeth, oherwydd sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth, felly, o ran bod yn atebol i’r sefydliad hwn o safbwynt y cyfryngau yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i ddangos, hyd yn oed os nad oes gennym bwerau dros ddarlledu, ein bod wedi dangos bod gennym y statws a'r gefnogaeth i allu dwyn amrywiol ddarlledwyr i gyfrif.
Ac mae fy nghwestiwn olaf ynghylch S4C. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ailadrodd y dylai gadw ei hannibyniaeth, a sicrhau bod hynny bob amser yn rhan o unrhyw drafodaeth yr ydych yn ei chael â’r sianel fel Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn, a diolch ichi am eich geiriau caredig ar ddechrau eich sylwadau. A gaf i ddweud, Bethan, fy mod wedi mwynhau’r sgyrsiau a gawsom yn y pwyllgor yn gynharach eleni, a'r llynedd hefyd? Credaf ein bod bob amser wedi canfod bod llawer o gonsensws mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ar ddarlledu ac ar y cyfryngau yn gyffredinol, a sut y byddai’r lle hwn yn hoffi mynd i'r afael â'r materion hynny. Cofiaf pan oeddwn yn gadeirydd y Pwyllgor Darlledu mewn Cynulliad blaenorol fod llawer iawn o gonsensws ymysg, rwyf yn credu, y pedwar neu bump ohonom ar y pwyllgor hwnnw ynglŷn â’r ffordd ymlaen, a pharhaodd y consensws hwnnw hyd at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Christine Chapman ychydig cyn ein hetholiad diwethaf.
A gaf i ddweud hyn? Rwyf yn croesawu’n fawr iawn y cynigion i sefydlu pwyllgor yn y lle hwn i ymchwilio i'r materion hyn, i’m dwyn i fel Gweinidog i gyfrif, ond hefyd y darlledwyr, ac i sicrhau bod y dadleuon a'r trafodaethau, sydd yn rhy aml yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae angen inni sicrhau bod cydbwysedd priodol rhwng yr hyn a allai gael ei ystyried, neu a fyddai’n cael ei ystyried, yn bwysau gormodol gan y Llywodraeth ar ddarlledwyr i weithredu mewn ffordd benodol, a sefydliad democrataidd yn dwyn y darlledwyr hynny i gyfrif. Felly, credaf fod swyddogaeth bwysig iawn i’r lle hwn o ran y lefel honno o atebolrwydd. Nid wyf erioed wedi ei chael yn anodd sicrhau bod darlledwyr, o fewn strwythurau cyffredinol y Deyrnas Unedig, lle nad yw darlledu wedi'i ddatganoli, yn cydnabod y dylent fod yn atebol i Seneddau’r Deyrnas Unedig o ran materion portreadu a materion sy’n ymwneud â chynnwys, oherwydd y materion diwylliannol ehangach y cyfeirir atynt yno a hefyd faterion ehangach y Deyrnas Unedig lle mae gan y Senedd hon a Seneddau eraill hawl a buddiant priodol. Felly, gobeithiaf y byddaf fel Gweinidog, pan fyddaf yn mynd ar drywydd y rhaglen lywodraethu, nid yn unig yn cael fy nal i gyfrif gan bwyllgorau'r lle hwn, ond hefyd y byddwn yn gweithio mewn modd mwy cydlynol wrth sicrhau bod pobl eraill yn atebol am yr hyn y maent yn ei ddarparu i Gymru.
O ran y fforwm cyfryngau annibynnol—ac rwyf yn dweud ei fod yn fforwm cyfryngau yn hytrach na dim ond yn fforwm darlledu—mae'n bwysig bod gennym leisiau annibynnol sy'n siarad ag awdurdod, ar sail gwybodaeth, ac sy’n siarad yn agored am y cyngor y maent yn ei ddarparu i mi fel Gweinidog. Rwyf yn gwahodd pob Aelod y prynhawn yma i ysgrifennu ataf gydag unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer sut y byddai’r fforwm hwnnw’n gweithredu ac efallai hyd yn oed y bobl yr hoffent eu gweld yn rhan ohono—wn i ddim, mater i chi yw hynny. Ond, yn sicr, fy mwriad i yw y bydd hyn yn gweithredu mewn ffordd gwbl agored a thryloyw. Nid yw’n fwriad i hwn fod yn fforwm sy’n osgoi penderfyniadau anodd neu’n fforwm sy'n rhoi cyngor a fydd ddim ond yn cael ei weld gan y Gweinidog yn amodol ar gais rhyddid gwybodaeth. Nid wyf am ddilyn y trywydd hwnnw. Yr hyn yr wyf am ei weld yw trafodaeth fwy agored, a thryloyw sy’n seiliedig ar wybodaeth ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Un o'r pethau yr ydym wedi ei weld, lle y bo llawer ohonom wedi bod yn trafod rhan y cyfryngau mewn digwyddiadau diweddar ac yn enwedig o ran y refferendwm sy’n digwydd yn nes ymlaen yr wythnos hon—credaf fod swyddogaeth gwbl sylfaenol i’r cyfryngau mewn cymdeithas fodern, agored, gwybodus a democrataidd. Mae hynny'n golygu fod gennym gyfrifoldeb, fel gwleidyddion ac fel cynrychiolwyr etholiadol, ond bod gan y rhai hynny sydd â grym drwy'r cyfryngau gyfrifoldebau hefyd, ac mae angen iddynt gydnabod bod angen iddynt fod yn atebol am eu gweithredoedd a’r penderfyniadau a wneir ganddynt.
Edrychaf ymlaen at fy nghyfarfod â John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Gwladol. Byddaf yn nodi’r pwyntiau yr ydych wedi'u hamlinellu, ac wrth gwrdd â’r BBC hefyd. Credaf fod angen i'r BBC gydnabod mai un peth yw dweud ei bod yn awyddus i gynyddu'r ddarpariaeth Saesneg yng Nghymru, ond y mae'n rhaid cyflawni hynny gyda'r cyllid sy'n sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu darparu a bod gwerthoedd cynhyrchu yn cael eu gwella ac nid eu cwtogi o ganlyniad i’r penderfyniadau ariannol hynny.
Credaf y byddwn yn mynd ychydig ymhellach nag yr ydych efallai wedi’i awgrymu o ran rhai o'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar y BBC. Yn amlwg, materion i'r BBC yw’r rhain, ac nid i wleidyddion, ond hoffwn i BBC Cymru gael lefelau o awdurdod ac atebolrwydd sy'n golygu y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ffurf gwasanaethau'r BBC yng Nghymru a gwasanaethu Cymru. Mae hynny’n fwy na dim ond penderfynu pa raglen sy’n cystadlu â 'Coronation Street'; mae'n effeithio ar ffurf yr amserlen ond hefyd ar yr amserlen ei hun. Dyna'r math o benderfyniad rheoli yr hoffwn ei weld, ond hoffwn hefyd weld newid diwylliant o fewn y BBC, a chredaf fod hynny’n gwbl hanfodol.
Soniasoch am ITV, Channel 4 ac S4C. Mae'r pwyntiau a wnawn am y BBC yr un mor wir ar gyfer pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae'n destun siom arbennig—. Mae eich brawd, wrth gwrs, yn newyddiadurwr ardderchog, uchel ei barch, sy’n gweithio i Channel 4, ond nid ydym yn gweld llawer arno yng Nghymru, yn anffodus, a hoffem weld mwy arno yng Nghymru. Mae Channel 4 yn cynhyrchu darllediadau newyddion rhagorol, nad oes lle rheolaidd iddynt yn aml ar ddarlledu prif ffrwd, yn enwedig ar yr agenda ryngwladol a materion datblygu o ran materion datblygu byd-eang. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes ganddi gyfrifoldeb i drethdalwyr y Deyrnas Unedig a Chymru.
Weinidog, a gaf i groesawu'n gynnes naws a chynnwys eich datganiad? Credaf ei bod yn hen bryd i ni fel Cynulliad Cenedlaethol ymateb yn fwy cyhyrog o lawer i'r ffordd y mae'r darlledwyr yn trin Cymru. Gwn fod sôn wedi bod yn sicr yn y blynyddoedd ers datganoli, pan fo cyfarwyddwyr cyffredinol yn mynd i gwrdd â Llywodraeth yr Alban, eu bod yn cael eu rhoi drwy’r felin a phan fyddant yn dod i gwrdd â Gweinidogion Cymru eu bod yn cael paned o de ac ymateb cwrtais. Credaf ein bod wedi gweld mai canlyniad hynny yw bod gofynion yr Alban yn cael eu cymryd yn llawer mwy o ddifrif na’n rhai ni. Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf pan ysgrifennodd dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad lythyr at Tony Hall yn gofyn am ragor o fanylion ynglŷn â’r ymrwymiadau yr oedd wedi eu gwneud.
Rwyf yn croesawu’n fawr hefyd eich ymrwymiad i sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol newydd ac edrychaf ymlaen at glywed manylion hynny. Yn fy swydd flaenorol fel cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig roeddwn yn rhan o grŵp polisi’r cyfryngau a oedd, mae'n rhaid imi gyfaddef, yn rhan o’r broses o gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i gael gwybod beth oedd yn digwydd yn Llywodraeth Cymru. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn felin drafod annibynnol fach iawn, ac wedi gorfod ysgwyddo’r baich o dynnu sylw at y maes pwysig iawn hwn, a hoffwn weld prifysgolion Cymru’n gwneud llawer mwy yn hynny o beth oherwydd maent yn gwneud gwaith yn y maes hwn, ond nid yw'n drefnus ac nid yw'n canolbwyntio'n briodol ar fuddion ymarferol. Felly, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cynnwys holl weinidogion prifysgolion Cymru yn llawn yn y fforwm hwnnw.
Soniasoch am y llythyr a anfonodd Tony Hall at y Prif Weinidog, lle y dywedodd y byddai'n diogelu gwariant ar gyfer Cymru yn gymharol ag ardaloedd eraill. Wrth gwrs, nid yw hynny'n rhoi ystyriaeth i’r ffaith y cafwyd toriad, yn y 10 mlynedd diwethaf, o 25 y cant yng ngwariant y BBC yng Nghymru a gostyngiad o 25 y cant mewn oriau teledu Saesneg. Dylwn ddweud bod y ffigur hwn yn ymwneud â gwariant ar raglenni Saesneg, lle y bu toriad o chwarter. Felly, rwyf yn croesawu’r ffaith y bydd yn diogelu’r gwariant ar gyfer Cymru, ac, wrth gwrs, rhaid inni gydnabod bod y BBC wedi cael ei rhoi trwy'r felin gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ac yn wynebu toriadau sylweddol. Ond nid yw’n ddigon da diogelu cyllideb sydd eisoes wedi ei chwtogi, ac mae ei lythyr yn llawn ymrwymiad polisi ac rydym wedi clywed ymrwymiadau polisi gan y BBC o'r blaen. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ffyrdd o amlygu hyn yn weithredol sy'n gwneud gwahaniaeth i'w chynulleidfaoedd, y mae wedi cydnabod yn llawn nad ydynt wedi eu gwasanaethu'n dda yn y blynyddoedd diwethaf gan y BBC.
Yn olaf, a chrybwyll pwynt a wnaed gan Bethan Jenkins ac a wnaed gennych chithau ynglŷn â chynhyrchu drama yng Nghymru, rydym yn croesawu, fel y dywedasoch, y ffaith bod gwaith cynhyrchu drama wedi ei symud i Gymru, ac mae ein heconomi greadigol wedi elwa o hynny, ond mae’n hollbwysig hefyd portreadu Cymru mewn rhaglenni drama i'r Deyrnas Unedig gyfan ac nid yw cynhyrchu rhaglenni rhwydwaith yng Nghymru wedi gwella hynny. Dywed Tony Hall yn ei lythyr at y Prif Weinidog ei fod yn ystyried penodi comisiynydd drama i Gymru, i weithio fel rhan o'r tîm comisiynu i geisio meithrin a datblygu talent oherwydd bod angen amser i ddatblygu’r comisiynau hyn. Fodd bynnag, oni bai bod cyllidebau yn dod law yn llaw â hynny, gallai fod yn sefyllfa lle mae’r sawl sy’n comisiynu i’r BBC yng Nghaerdydd yn cael ei wrthod drwy'r amser. Felly, mae angen inni roi pwysau arno i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau polisi lefel uchel hyn yn cael eu hadlewyrchu hefyd mewn penderfyniadau ynglŷn â gwario. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn ddiolchgar, hefyd, am eich sylwadau caredig iawn. Nid wyf fel arfer yn gysylltiedig ag ymateb cyhyrog mewn unrhyw faes polisi. Rwyf fel arfer yn cael fy nghysylltu â phaned o de a chacen, ond rwyf yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs â'r BBC sy’n ddeallus ac yn seiliedig ar barch at yr ymrwymiadau yn ei siarter a’i chenhadaeth, ond parch hefyd at bobl sy'n talu ffi'r drwydded yng Nghymru ac ymrwymiad y BBC i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mewn sawl ffordd, yn amlwg, fel Senedd yn y lle hwn, rydym yn sôn am y materion hyn o safbwynt Cymru, ond fy nyletswydd i yw sicrhau bod y BBC yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn ddarlledwr Prydeinig, ac nid dim ond yn ddarlledwr ar gyfer y dosbarth canol yn ardal yr M25. Dywedaf hynny’n glir iawn, oherwydd er ein bod yn pryderu yma ynglŷn â’r portread o Gymru a gwariant yng Nghymru, gallai llawer o'r materion y byddwn yn eu codi yma gael eu codi gan bobl sy’n talu ffi'r drwydded mewn mannau eraill, yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon hefyd. Dyna pam yr wyf yn dweud dro ar ôl tro fod angen i’r BBC, weithiau, gydnabod bod yn rhaid wrth newid diwylliant yn y BBC, nid dim ond symud cyfleusterau y tu allan i Lundain, ond symud meddyliau allan o Lundain, hefyd, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny’n digwydd ac y bydd cydnabyddiaeth i hynny.
Roedd y gwaith a wnaethoch, Lee, gyda'r Sefydliad Materion Cymreig, yn torri tir newydd a chredaf ei fod wedi cyfrannu'n aruthrol at y gwaith y cyfeiriodd Bethan ato—y gwaith a wnaethom fel pwyllgor—a’i fod hefyd wedi ein galluogi i gael y mathau o sgyrsiau yr oeddem yn gallu eu cael yn y pwyllgor hwnnw. Rwyf yn gobeithio y byddai fforwm cyfryngau y gallem ei greu yn y Llywodraeth yn cyflawni swyddogaeth debyg ac yn gwneud cyfraniad tebyg i’r ddadl y mae angen inni ei chael yn y dyfodol yng Nghymru. Nid oes cyfyngiad, os mynnwch, ar y math o bobl y byddem yn hoffi eu cael yn y fforwm hwnnw, ac, yn sicr, rwyf yn cytuno â chi fod y prifysgolion yn rhan bwysig o hyn a bod angen iddynt fod yn rhan bwysig o’r sgwrs a’r drafodaeth hon yn y dyfodol.
Mae'r pwyntiau—rwyf am ddirwyn i ben ar ôl y sylw hwn—a wnewch am wariant yn gwbl sylfaenol i gyflawni'r hyn yr hoffem ei weld. Mae'n destun dathlu bod gennym Borth y Rhath gyferbyn â ni yma ym Mae Caerdydd, ein bod yn gweld drama’n cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru, wedi’i hariannu gan y BBC ac wedi’i chefnogi gan y BBC. Fodd bynnag—fodd bynnag—fel rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig, mae'n gwbl annerbyniol nad yw'r BBC yn portreadu bywyd yng Nghymru gyfoes fel rhan o'i hamserlen, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae'r BBC wedi cydnabod bod hynny’n annerbyniol, a mater i’r BBC yn awr yw unioni hynny. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r BBC sicrhau bod cyllid ar gael i wneud hynny a bod cyllid yng Nghymru i wneud rhaglenni ar gyfer y gynulleidfa yng Nghymru, ond hefyd fod penderfyniadau’n cael eu gwneud a bod arian ar gael i wneud rhaglenni yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd y DU yn ogystal. Yr hyn yr ydym am ei weld yw bod y BBC yn cyflawni ei swyddogaeth fel darlledwr Prydeinig ac un sy'n cynrychioli ac yn cydnabod bywyd ym mhob rhan o’r ynysoedd hyn heddiw.
A gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ei groesawu’n ffurfiol i'w swydd newydd a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef eto? Yn awr, rwyf innau, fel chithau Weinidog, yn croesawu Papur Gwyn Llywodraeth y DU, sy'n rhoi i'r BBC sefydlogrwydd hirdymor ac ymrwymiad penodol, wrth gwrs, i ddarparu llais cryfach i Gymru, yng Nghymru a thrwy ragor o gyfleoedd i bortreadu Cymru ledled y DU—gwn ichi gyfeirio at hyn yn eich ateb diwethaf—ond yn arbennig, wrth gwrs, yn narpariaeth newyddion y DU. Gwn y byddai sgandal cronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, er enghraifft, wedi bod yn y penawdau ledled y DU pe byddai wedi digwydd yn Lloegr, a chredaf fod perfformiad y gwledydd datganoledig, weithiau, fel petai’n osgoi sylw cenedlaethol.
Credaf y dylem o leiaf ddisgwyl y bydd bwrdd unedol newydd y BBC yn cynnwys cynrychiolaeth o Gymru ac y bydd y bartneriaeth sy’n parhau rhwng y BBC ac S4C yn cael ei diogelu ar ôl ymagwedd unedig, rwyf yn meddwl, gan y Cynulliad hwn o ran cefnogi'r darlledwr Cymraeg. Caiff S4C ei hariannu’n bennaf, wrth gwrs, drwy arian cyhoeddus, ond mae'n uchelgais ganddi—. Mae ganddi uchelgais, mae’n dymuno gwella, a byddai gennyf ddiddordeb, felly, mewn clywed gan y Gweinidog pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod S4C yn cael ei hannog a'i chefnogi’n llawn i ddod o hyd i ffrydiau incwm ychwanegol fel ei bod yn cyfrannu at ei dyfodol ariannol hirdymor, ac yn gallu gwneud hynny.
Mae cynnwys amcanion portreadu yn y Papur Gwyn ym mhob un o feysydd comisiynu’r rhwydwaith ac ymrwymiad i gynyddu buddsoddiad mewn rhaglenni teledu Saesneg yn addawol. Dylwn ddweud fy mod yn cytuno â'r Gweinidog y bydd angen yn awr rhoi rhywfaint o gig ar yr asgwrn ac amlinellu sut y mae troi hyn yn ymrwymiadau ariannol pendant o ran rhaglenni ar gyfer Cymru, yn ogystal â rhaglenni’r rhwydwaith. Fel yr awgryma’r Gweinidog, a hynny’n ddigon priodol yn fy marn i, er gwaethaf goruchafiaeth y BBC yng Nghymru, ni ellir ei thrin ar ei phen ei hun. Yn gwbl wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban, lle mae gwasanaeth ITV wedi cynyddu ei allbwn yn benodol ar gyfer yr Alban, mae perfformiad ac amcanion rhaglennu ITV Cymru Wales wedi gostwng 40 y cant ers 2009, ac nid oes fawr o arwydd y bydd cynnydd yn y dyfodol rhagweladwy. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog efallai amlinellu pa drafodaethau y mae wedi eu cael â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Swyddfa Gyfathrebu ac eraill i ddiffinio ymrwymiadau comisiynu gwell i Gymru gan ddarlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC ac ITV, y ddau â rhan i’w chwarae o safbwynt darparu’r lluosogrwydd y mae ei angen yn ddirfawr mewn tirlun cyfryngau lle mae’r BBC, wrth gwrs, yn cael y lle amlycaf.
Yn olaf, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu sicrhau ei bod yn ofynnol i bob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a'r rheoleiddiwr, adrodd a rhoi tystiolaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion datganoledig yn ystod y pumed Cynulliad. Mae’r pwys y bydd Llywodraeth y DU a chydweithwyr seneddol sy'n dal i fod yn bennaf gyfrifol am ddarlledu yn ei roi ar adroddiadau o’r sesiynau tystiolaeth hynny yr un mor bwysig, wrth gwrs, gan ei fod yn faes nad yw wedi ei ddatganoli. A gaf i ofyn, efallai, pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar brotocolau i sicrhau bod pwys dyledus yn cael ei roi i argymhellion y lle hwn i Lywodraeth y DU ynghylch y materion hynny lle y bo swyddogaethau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar faterion datganoledig ac yn treiddio i’r meysydd hynny?
Diolch. Rwyf yn ddiolchgar iawn i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig. Edrychaf ymlaen at ein sgyrsiau ynglŷn â hyn dros y cyfnod sydd i ddod ac, ar faterion eraill hefyd rwyf yn siŵr. Rwyf am ddechrau, os caf, drwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf. Bydd yr Aelod yn gwybod bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a fydd yn disgrifio llawer o'r prosesau a’r llinellau atebolrwydd y mae wedi'u hamlinellu. Ond byddai'n well gennyf ganolbwyntio nid yn gymaint ar y llinellau caled, y mae ef wedi eu disgrifio, ond ar ddadl a thrafodaeth sy’n llawer cyfoethocach nag yr ydym efallai wedi eu cael yn y gorffennol am natur darlledu a’r cyfryngau a sut y mae hynny’n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae yn llygad ei le wrth ddisgrifio darlledu fel pwnc nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae llawer o'r materion y mae darlledu’n effeithio arnynt, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Rwyf bob amser wedi ystyried darlledu yn fwy o gyfrifoldeb i’w rannu, lle y dylai, ac y byddai, llawer o'r rheoleiddio economaidd ddigwydd, a dyna fyddai orau yn amlwg, naill ai yn y Deyrnas Unedig neu, mewn rhai achosion, ar lefel Ewropeaidd. Ond, mae llawer o'r materion diwylliannol y mae darlledu’n effeithio arnynt, a’r materion democrataidd y mae darlledu’n effeithio arnynt, yma yn y lle hwn yn gwbl briodol. Felly, mae bob amser wedi bod yn faes lle y mae buddiant i’w rannu. Mae’r Aelod hefyd yn ymwybodol bod i ddarlledu amlygrwydd gwleidyddol llawer mwy yng Nghymru nag mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig am resymau hanesyddol a diwylliannol clir ac amlwg iawn.
Felly, bydd pobl yng Nghymru’n disgwyl i’r lle hwn gymryd rhan lawn a gweithredol yn y ddadl dros ddarlledu. Rydym wedi rhoi ar waith y strwythurau a fydd yn ein galluogi i wneud hynny. Rwyf yn disgwyl y bydd y BBC, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac Ofcom yn chwarae rhan lawn yn y llinellau atebolrwydd hynny, a fydd yn llinellau caled, sydd wedi'u nodi mewn polisi ac weithiau yn y gyfraith, ond ar yr un pryd, byddant am gymryd rhan mewn trafodaeth lawer ehangach am natur y cyfryngau yn ein cymdeithas wrth iddynt esblygu.
Mae un o'r dadleuon hynny’n ymwneud â’r gwerthoedd newyddion y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn ei sylwadau agoriadol. Rwyf wedi ei chael yn anodd derbyn weithiau fod y gwerthoedd newyddion a ddylai ysgogi ac arwain penderfyniadau yn y BBC bob amser yn cynrychioli’r hyn sydd o bwys i bobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r penderfyniadau a wneir yn y lle hwn yn benderfyniadau sy'n effeithio ar lawer rhan o fywydau pobl yng Nghymru ac eto anaml iawn y mae trafodion y lle hwn yn cael sylw gan raglenni rhwydwaith a newyddion rhwydwaith y DU gan y BBC. Credaf fod hynny'n fethiant sylweddol a chredaf fod hynny’n fethiant parhaus, ac rwyf yn falch bod y BBC ar adegau wedi cydnabod y methiant hwnnw. Yr hyn sydd ei angen yw strwythurau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ond hefyd y newid diwylliannol a fydd yn galluogi'r BBC i gyflawni ei rhwymedigaethau a'i chenhadaeth yn well yn y dyfodol. Rwyf yn gobeithio mai dyna y byddwn yn ei gyflawni trwy’r ddadl yr ydym yn ei chael trwy’r broses hon i adnewyddu’r siarter.
Soniodd llefarydd y Ceidwadwyr, Lywydd, am y bartneriaeth rhwng y BBC ac S4C. Gwn fod hyn yn cael ei ystyried yn rhy aml yn fygythiad i S4C. Nid felly yr wyf i’n gweld pethau. Credaf y gall partneriaeth rhwng dau o'n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol ddod â manteision mawr i bobl yng Nghymru, a gallai sicrhau ein bod yn cynyddu’r buddsoddiad sy’n digwydd yn y gwaith o greu cynnwys Cymraeg, a galluogi’r cynnwys Cymraeg hwnnw i gyrraedd gwylwyr a defnyddwyr yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Rwyf am weld S4C yn cadw ei hannibyniaeth—ei hannibyniaeth weithredol, ei hannibyniaeth olygyddol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid bod gagendor mawr iawn rhwng buddiannau S4C a buddiannau’r BBC, a byddem yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai’r ddau ddarlledwr yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. Mae trefniant y bartneriaeth bresennol sydd ar waith yn rhywbeth sy’n llwyddo, yn fy marn i, ac yn ein galluogi i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel, ond i wneud hynny ar gost sy’n rhesymol i bobl sy’n talu ffi'r drwydded ac a fydd yn cynnal S4C i mewn i'r dyfodol. Yr hyn yr wyf am ei weld yw sicrhau bod gennym strwythurau ar waith ar hyn o bryd sy'n sicrhau bod S4C yn gallu cynhyrchu rhaglenni yn unol â’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i hynny. Rwyf am weld Llywodraeth bresennol y DU yn symud oddi wrth y sefyllfa yr oedd ynddi ychydig flynyddoedd yn ôl, lle'r oedd, a dweud y gwir, yn bwlio S4C. Mae angen inni sicrhau bod y BBC, wrth wneud penderfyniadau ynghylch ariannu S4C, yn gwneud penderfyniadau sy'n galluogi S4C i barhau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o safon uchel. Rwyf yn gobeithio y bydd yr ymrwymiadau ariannol yr wyf wedi eu disgrifio wrth ateb cwestiynau eraill hefyd yn darparu’r math o sicrwydd yr ydych yn ei geisio.
Galwaf yn awr ar dri Aelod arall, cyhyd ag y bo’r cwestiynau a'r atebion yn gryno. Rhianon Passmore.
Diolch ichi, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd roi fy nghefnogaeth i'r datganiad ac i’r Gweinidog am ei waith cryf yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen at y cyfle i gael mwy o oruchwyliaeth a mandad i’r Senedd o ran ein gwaith craffu ehangach ar gyfryngau Cymru, ac rwyf yn croesawu’r cyfle hwnnw’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r ddadl a addawyd yn y Cyfarfod Llawn ar y siarter ddrafft a'r drwydded gwasanaeth newydd i Gymru sydd wedi ei haddo, ac, fel cyn aelod o gyngor darlledu Cymru y BBC yn ystod yr adolygiad diwethaf o’r siarter, a Hutton, roeddwn yn falch o fod yn rhan o’r broses o gomisiynu 'Doctor Who', ymysg llawer o raglenni eraill, ac mae'r rhaglenni etifeddiaeth a ddilynodd wedi cadarnhau yn sicr iawn yr agenda o ran drama o safon uchel yng Nghymru i farchnad fyd-eang. Fodd bynnag, mae drama o safon uchel o'r fath, bron fel dur, yn rhywbeth y byddwn yn strategol yn parhau i’w ledaenu, rwyf yn sicr, yng Nghymru, gyda rhaglenni dwyieithog ag apêl gyffredinol fel 'Y Gwyll/Hinterland'. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid inni barhau i weithio i gryfhau'r siarter ddrafft mewn nifer o feysydd—a byddaf yn gryno—i ddatblygu ymhellach apêl gyffredinol rhaglenni a’u dosbarthiad wedi hynny yn y rhanbarthau ac yn fyd-eang, bod angen comisiynydd-olygydd drama ar Gymru sydd â grym a chyllid i gyd-fynd â hynny, y bydd yn parhau i lobïo ar i’r BBC beidio â lleihau ei buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol, a hefyd, fel y dywedodd sawl un yn y Siambr heddiw, fod yn rhaid gwella’r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu, fel y mae llawer wedi dweud, ein bod yn bodoli mewn gwirionedd o fewn y DU, ein bod yn genedl o dalentau, celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a chomedi rhagorol, cymunedau anhygoel, tirweddau gwych, yn ogystal â phêl-droed anhygoel, ac nad yw Cymru yn llawn twyllwyr budd-daliadau a phobl sy’n byw ar eraill, fel y caiff ei phortreadu yn genedlaethol, a hefyd, y gellir gwella’n fawr y sylw cyffredinol i gynnwys gwleidyddol, digwyddiadau ac ymgyrchoedd—ac mae wedi sôn am refferendwm yr UE?
Rwyf yn sefyll yma heddiw, fel y mae llawer un arall yn ei wneud, yn gwisgo rhosyn gwyn er cof am fam i ddau o blant a gwraig, ymgyrchydd dros gydlyniant cymdeithasol, ac mae hwyliau’r wlad yn cael eu gosod mewn tirlun gwleidyddol garw, ac mae’n troi fwyfwy’n un lle y mae rhaniadau, diffyg cydlyniant, a throseddau casineb hiliol. Felly, mae gan y cyfryngau swyddogaeth hollbwysig yma, ac nid wyf yn deall sut y mae copi union o bropaganda Natsïaidd yn dderbyniol i’w ddarlledu’n gyhoeddus, yn enwedig pan fo’r siarter yn cael ei hadolygu, ac yn cael ei ddangos o gwmpas y lle. Pryd y trodd mandad cydbwysedd gwleidyddol gwasanaeth cyhoeddus y BBC ac Ofcom yn un mor or-ofalus? Ai cyfreithwyr gor-bwerus sydd i gyfrif, gofynnaf i mi fy hun? Felly, rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn benderfynol, ar ôl Leveson, y bydd mandad unrhyw siarter gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol yn adennill unrhyw rym y mae canfyddiad iddo gael ei golli ac y bydd ein newyddiadurwyr yn parhau i ymchwilio a chwilio am y gwir. Oherwydd mae gan y cyfryngau swyddogaeth allweddol ac rwyf i, yn bendant, yn dymuno parhau i weld darllediadau gwleidyddol o ansawdd uchel yng Nghymru yn cryfhau a datblygu ac yn dod yn hygyrch i holl bobl Cymru.
Ni chefais gwestiwn cryno yn hollol, ond rwyf yn gobeithio am ateb cryno yn awr gan y Gweinidog.
Lywydd, rydych yn garedig iawn.
Rwyf am weld newyddiaduraeth ymchwiliol o ansawdd uchel sy'n cael ei hariannu'n dda. Credaf fod gwaith Michael Crick ar Channel 4 yn ddiweddar dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn enghraifft wych o sut y gall newyddiaduraeth ymchwiliol ddwyn gwleidyddion i gyfrif. Dyna swyddogaeth, rwyf yn gobeithio, cyfryngau cryf, effeithiol ac annibynnol yn ein cymdeithas, sef dwyn y Llywodraeth i gyfrif a dwyn cynrychiolwyr gwleidyddol i gyfrif. Rhaid i hynny gael ei warantu yn unrhyw siarter neu yn unrhyw system newydd o reoleiddio. O ran y ffordd yr awn ati o ran polisi, yn amlwg, rwyf yn cytuno â'r pwyntiau y mae’r Aelod wedi eu gwneud am gynhyrchu drama o safon uchel—cynhyrchu yng Nghymru ac o Gymru—a bod angen inni sicrhau bod gennym siarter sy'n cydnabod lle Cymru a bod cytundeb gwasanaeth yng Nghymru ar gyfer Cymru a fydd yn sicrhau ein bod yn cael ein gweld ar y sgriniau, fel y dylem.
Dim ond ychydig o eiriau gen i a chwestiwn, y ddau fel un a fu’n gyflogai i’r BBC am 20 mlynedd, a hynny i atgoffa am yr hyn y dylai’n darlledwyr ni fod yn ei gynnig i wylwyr yng Nghymru. Mae S4C, wrth gwrs, yn gwneud dwy job o waith, mewn ffordd. Un, mae’n darlledu yn y Gymraeg i gynulleidfa sydd eisiau rhaglenni yn y Gymraeg. Ond, drwy wneud hynny, mae’n darlledu am Gymru i bobl Cymru, a dyna sydd ar goll, wrth gwrs, yn y Saesneg. Mi gawsom ni o ar ddamwain ar un adeg yn y blynyddoedd olaf analog, drwy BBC Choice a BBC 2W, lle’r oedd dwy BBC2 yn cyd-redeg. Rwy’n cofio, fel darlledwr ifanc, cael cymryd rhan mewn rhaglenni a oedd yn llenwi’r oriau brig am Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad i wthio yn y dyfodol i gyrraedd yn ôl i’r sefyllfa yna lle gallem ni gael dwy sianel, un Gymraeg ac un Saesneg, ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru.
Rwy’n ategu’r hyn a ddywedwyd ynglŷn â’r diwydiant ffilm a drama yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn yn datblygu’r diwydiant drama yng Nghymru, ond ddim yn llwyddiannus iawn yn datblygu diwydiant drama Cymreig. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno mai dyna ddylai fod y cam nesaf ymlaen. Mi wnaf innau groesawu ymrwymiad gan y Gweinidog i wthio ar y BBC yn Llundain yn ganolog am agwedd newydd tuag at beth yn union ydy ei swyddogaeth hi yng Nghymru ac am y gyllideb i sicrhau y gall yr uchelgais honno gael ei gwireddu.
Diolch yn fawr. Rwy’n cytuno â’r pwyntiau mae’r Aelod wedi’u gwneud. Mae’r pwynt gwreiddiol a wnaeth yn ystod y drafodaeth yn bwynt hynod o bwysig achos nid ydym, pan ydym yn sôn amboutu darlledu o Gymru ac yng Nghymru, yn sôn amboutu adrodd i bobl Cymru beth sy’n digwydd yng Nghymru; rydym yn sôn amboutu edrych ar y byd trwy lygaid Cymreig. Mae hynny’n gwbl wahanol ac yn wahanol iawn i edrych ar y byd trwy lygaid Llundain. Mae hynny’n bwysig iawn—bod ein llais yn cael ei glywed a’n bod ni’n edrych ar y byd ac yn cael trafod y byd fel rydym yn ei weld ef. Rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny a gwneud yn fwy o hynny yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Rwy’n credu bod hynny’n bwysig—nid jest i ni yng Nghymru, ond mae’n bwysig i Brydain. Mae’n bwysig bod pobl yn Llundain ac yn Lloegr yn gweld sut rydym ni’n byw ac yn gweld sut rydym ni’n edrych ar y byd, a bod y fath o awyrgylch ac amgylchedd darlledu yn y dyfodol yn un sy’n adlewyrchu diwylliant y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Rydw i eisiau gweld mwy o newyddion annibynnol, ffres sy’n edrych ar beth sy’n digwydd fan hyn ac wedyn yn sicrhau bod mwy o drafodaeth yn ein cymdeithas ni ac yn ein cymunedau ni amboutu’r materion pwysig sy’n ein hwynebu ni.
Ac, yn olaf, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn. Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym. Roeddwn yn falch o lofnodi llythyr Lee Waters, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at ganlyniad. Mae 'Casualty' yn cael ei ffilmio ar ystâd Gabalfa yr wythnos nesaf, felly mae pawb yn hynod falch am hynny, ond rwyf am ategu’r pwyntiau y mae pobl wedi eu gwneud, sef y gellid ei ffilmio yn unrhyw le o ran portreadu unrhyw beth, mewn gwirionedd, am fywyd Cymru a sut y mae Cymru’n cael ei gweld. Wrth gwrs, mae hwn yn bwynt sy’n cael ei wneud yn gryf yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig sydd newydd ei gyhoeddi. Felly, nid wyf yn gwybod a oes ganddo sylw ynghylch a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud am hynny. Dyna oedd y pwynt cyntaf.
Yn ail, rwyf am godi pwynt ynghylch sut y mae pobl mewn gwirionedd yn cael eu newyddion yng Nghymru. Credaf fod y BBC yn tybio, onid yw, ei bod yn cyrraedd tua 60 y cant o’r bobl yng Nghymru gyda Radio Cymru, Radio Wales a’r holl raglenni newyddion eraill. Beth am y 40 y cant arall, a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cyrraedd fel eu bod hwythau’n cael rhywfaint o newyddion materion cyfoes o Gymru, a fydd yn helpu, a dweud y gwir, i wneud y cyhoedd yng Nghymru’n fwy gwybodus ar gyfer yr etholiadau ac ar gyfer y refferendwm a bod gennym faterion sy’n ymwneud yn benodol â Chymru?
Rwyf yn ddiolchgar i'r Aelod am ei phwyntiau. Mae’n briodol iddi gyfeirio at Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin a’r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Credaf ei fod yn dangos dyfnder, yn ogystal ag ehangder, y consensws, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn mannau eraill, o ran llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'r pwynt am 'Casualty' yn un da, ac mae'n bwynt tebyg, wrth gwrs, gyda 'Doctor Who' ac eraill, lle mae gennych ddrama o ansawdd uchel sy'n cael ei gwneud yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu ac yn awyddus iawn i’w weld yn parhau, ond nid yw'n cyfateb i bortreadu Cymru fel gwlad, fel cenedl, ac fel cymuned. Nid yw’n ormod—. Credaf fod y dyddiau lle gallwn ddweud ein bod am gael y ddau wedi mynd; mae angen i ni gael. Fel rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig, ni ddylai fod angen, hyd yn oed, inni wneud y pwyntiau hyn yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud dro ar ôl tro. Mae gan y BBC ddyletswydd i gynrychioli'r Deyrnas Unedig fel y mae’r Deyrnas Unedig heddiw, ac mae hynny'n golygu y dylai’r sgriniau adlewyrchu’r bywydau yr ydym yn eu byw, ac mae hynny'n golygu gweld Gabalfa neu y Coed Duon neu Dredegar neu Lanelli neu— [Torri ar draws.] Neu Grangetown, ie, neu hyd yn oed Ynys Môn. A heb fod eisiau mynd o amgylch y Siambr—gwn y bydd Mike Hedges yn gwneud pwynt ynghylch 'Match of the Day'. Ond mae'n bwynt pwysig fod ein bywydau’n cael eu hadlewyrchu gan ein darlledwr cyhoeddus, a dyna’r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld.
Mae’r pwynt am yr amgylchedd newyddion yn hynod o bwysig. Rwyf am orffen ar y pwynt hwn, heb drethu eich amynedd ymhellach, Lywydd. Mae'r ffordd y mae pobl yn derbyn eu newyddion yn newid, ac yn newid yn gyflym. Rydym i gyd yn gwybod bod y cyfryngau cymdeithasol a Facebook yn dylanwadu ar yr amgylchedd newyddion lawn cymaint ag y mae’r bwletin am 10 o'r gloch, ac mae angen inni gydnabod hynny. Mae'n sicr yn un o'r rhesymau pam y mae gennym fforwm cyfryngau ac nid dim ond fforwm darlledu, ac mae'n un o'r pethau y mae angen inni ei ystyried. Ond mae gan bob darlledwr gyfrifoldeb llwyr i sicrhau, yn yr amser yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd—rydym yn wynebu penderfyniad enfawr ddydd Iau—fod y bobl a fydd yn pleidleisio ddydd Iau yn wybodus ac nad ydynt wedi cael eu camarwain ynghylch y materion y maent yn eu trafod ac yn pleidleisio arnynt, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad seneddol nesaf Cymru hefyd. Diolch.
Diolch i’r Gweinidog.