– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae hynny yn caniatáu inni symud ymlaen i eitem 7 ar yr agenda: datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy’n galw ar Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi blwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Yn y tymor Cynulliad hwn byddaf yn gwneud datganiad blynyddol, gan nodi'r ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth yn ei chyflwyno dros y 12 mis nesaf. Mae symud o raglen bum mlynedd i raglen a datganiad blynyddol yn un cam i ddatblygu ein harferion i sicrhau eu bod yn gweddu i gyfrifoldebau seneddol y lle hwn. Fel y dywedais yn fy natganiad ar 18 Mai, ni fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Cynulliad hwn, ac rydym yn cadw at yr ymrwymiad hwn. Bydd datganiad heddiw yn hysbysu Aelodau a'r cyhoedd am y meysydd polisi cyhoeddus lle y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifrif ar ôl toriad yr haf.
Y cyntaf o'r meysydd hyn yw trethiant. Mae hyn yn cynrychioli cyfnod newydd ac arwyddocaol i ddatganoli yng Nghymru. Fel y gŵyr Aelodau, roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli pŵer i'r Cynulliad hwn i wneud deddfwriaeth sylfaenol ynglŷn â rhai trethi datganoledig. Gwnaethom osod y sylfeini gweinyddol yn y Cynulliad diwethaf gyda Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a sefydlodd Awdurdod Refeniw Cymru, sydd nawr yn y broses o gael ei greu. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno dau Fil i sefydlu'r ddwy dreth a ddatganolir i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen: treth trafodiadau tir a threth gwaredu tirlenwi ar gyfer Cymru. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, byddwn hefyd yn ceisio sefydlu rheol gyffredinol gwrth-osgoi ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru. Bydd y biliau hyn yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng trethdalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gryfhau'r cyswllt rhwng trethi a godir yng Nghymru ac arian a warir ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. O'n rhan ni, Llywodraeth Cymru fydd yn gwbl gyfrifol ac yn gwbl atebol am godi rhai trethi yng Nghymru; ni fyddwn mwyach yn dibynnu’n unig ar grant bloc Cymru a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae hynny, wrth gwrs, yn gam sylweddol ymlaen i’r genedl. Bydd gennym ymagwedd agored a thryloyw at graffu ar y ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn gwrando'n ofalus ar farn yr Aelodau a rhanddeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar am ddatganoli treth yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Lywydd, mae’r Bil ar y dreth trafodiadau tir yn ddarn hir, technegol a chymhleth o ddeddfwriaeth. I gynorthwyo Aelodau, y sector a'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â’r Bil hwn, byddwn yn cyhoeddi drafft sydd bron yn derfynol o’r Bil cyn toriad yr haf, cyn ei gyflwyno yn yr hydref.
Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu adrannau o Ddeddf Undebau Llafur ddinistriol Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Gwrthododd y pedwerydd Cynulliad ganiatâd i Lywodraeth y DU i ddeddfu yn y meysydd hynny, ond aeth y Llywodraeth yn ei blaen i’w gorfodi ar Gymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy bartneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi dweud erioed bod rhannau sylweddol o ddeddfwriaeth y DU yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sy’n amlwg wedi eu datganoli, ac, er bod Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o gonsesiynau i sicrhau’r Ddeddf, mae rhai darpariaethau allweddol yn parhau i fod yn sylfaenol niweidiol i Gymru. Bydd ein deddfwriaeth yn ceisio datgymhwyso’r rhannau hyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.
Lywydd, i sicrhau gwelliannau i iechyd pobl, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd cyhoeddus. Er nad oedd hi’n bosibl yn y Cynulliad diwethaf i ddod i gytundeb ar ddarpariaethau sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts, roedd y Bil yn cynnwys nifer fawr o gynigion y cafwyd consensws trawsbleidiol arnynt. Byddwn, felly, yn cyflwyno’r Bil iechyd cyhoeddus fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 yn y Cynulliad diwethaf, ond heb y cyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc, o'u genedigaeth hyd at 25 mlwydd oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Buom yn ymgynghori ynghylch Bil drafft anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg y llynedd. Rydym wedi gwrando ar yr adborth gan randdeiliaid, ac rydym wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus. Cyflwyno'r Bil fydd y cam nesaf yn y broses o ddiwygio'r system bresennol a chyflawni gwelliannau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael. Mae’n rhaid inni warchod ein stoc tai cymdeithasol yng Nghymru a sicrhau eu bod ar gael i bobl sydd eu hangen ac nad ydynt yn gallu cael llety drwy fod yn berchenogion tŷ neu drwy’r sector rhentu preifat. Mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond mae’n rhaid inni hefyd ymdrin â'r pwysau ar ein stoc tai cymdeithasol presennol. Bydd y Bil hwn yn ceisio diogelu’r stoc hwnnw rhag gostyngiadau pellach. Y gyfatebiaeth yr wyf wedi’i defnyddio o'r blaen yw bod hyn fel ceisio llenwi'r bath â’r plwg allan.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, byddwn yn cyflwyno chwe Bil. Mae ein cynigion deddfwriaethol yn cynnwys sefydlu trethi datganoledig i Gymru, gwella iechyd y cyhoedd, a diwygio cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau yn y Senedd hon a gyda chymunedau a rhanddeiliaid, wrth inni ddatblygu ein rhaglen ddeddfwriaethol eleni, i sicrhau bod y deddfau a wnawn yng Nghymru cystal ag y gallant fod ar gyfer y bobl ledled y wlad hon. Lywydd, cymeradwyaf, felly, y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.
Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Rwy’n croesawu, yn bersonol, taw datganiad blwyddyn yn unig sydd gyda ni; nid wyf yn gwybod a yw hwn yn gyfaddefiad bod y Llywodraeth flaenorol wedi gwneud gormod o ddeddfu ac efallai ddim digon o lywodraethu, ac, os gwelwn ni fwy o lywodraethu a llai o ddeddfu, efallai nad yw hynny’n beth drwg o gwbl. Ac, yn sgil y penderfyniad yr wythnos diwethaf hefyd, mae’n wir dweud y dylai’r Llywodraeth fod yn rhydd ei dwylo i ymateb i sefyllfa sy’n newid, yn hytrach na’u clymu gyda gormod o ddeddfu.
A gaf i jest troi, yn fras iawn, at y chwe Deddf y mae’r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu? Bydd Plaid Cymru yn croesawu’r Deddfau hyn o ran egwyddor. Wrth gwrs, nid ydym ni’n gwybod eto a fyddwn ni’n cefnogi pob un o ran y manylion—fe welsom ni hynny gyda’r Bil iechyd cyhoeddus y tro diwethaf, ac rwyf yn falch bod hwnnw’n dod yn ôl ar ffurf sydd yn edrych yn fwy derbyniol, yn sicr, i Blaid Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod yna ddau Fil yn ymwneud â threthi a datganoli trethi, ac, yn bwysig iawn yn y cyd-destun hwnnw, eich bod chi am sefydlu rheol i osgoi osgoi trethi, os liciwch chi, fel rhan o’r ffordd rŷm ni’n mynd o gwmpas deddfu ym maes trethi. Rwy’n meddwl bod honno’n egwyddor bwysig i’w sefydlu ar y cychwyn.
Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith, yn wyneb y ffaith bod y Bil trafodiadau tir yn debygol o fod yn hynod gymhleth, ei fod yn cael ei gyhoeddi ar ffurf drafft, a fydd yn caniatáu i bwy bynnag bwyllgor graffu arno ac ymgynghori ymhellach yn ei gylch yn ogystal.
Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi’r egwyddor o sicrhau nad yw’r Ddeddf Undebau Llafur yn amharu ar y ffordd rŷm ni’n trin y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn chwilio am gyfle i ddelio â’r broblem sydd yn llethu ein cymunedau o waith ‘zero hours’. Byddwn ni’n edrych eto am gyfle, os oes modd, i godi hynny.
A gaf i jest codi cwpl o bethau gyda’r Prif Weinidog nad yw wedi’u cynnwys yn y datganiad? Rwy’n deall mai datganiad blwyddyn yw hyn. Gan ein bod ni’n croesawu’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, mae yn gofyn y cwestiwn o beth mae’r Llywodraeth am ei wneud yn ehangach ym maes awtistiaeth, sydd yn mynd, wrth gwrs, i mewn i oedolion hefyd. Rŷm ni’n gwybod bod yna gynllun gweithredol newydd gan y Llywodraeth, ond rwy’n sicr y dylem ni weld deddfu yn y maes yma yn ystod y Cynulliad hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu cadarnhau mai dyna yw’r bwriad ganddo yntau. Yn yr un modd, er nad yw’r Ddeddf yma ar gyfer ymdrin â chosb gorfforol i blant yn yr un ffordd ag ymdrin â phlant ac oedolion yn deg ac yn gyfiawn o fewn y gyfraith—bod modd i’r Llywodraeth gadarnhau bod hynny hefyd yn fwriad ganddyn nhw yn ystod y tymor hwn.
Nid oes sôn yn y datganiad ynglŷn ag unrhyw ddeddfu bydd ei angen yn sgil adroddiad Diamond. A ydy hynny oherwydd bod y Prif Weinidog yn teimlo bod unrhyw beth sy’n deillio o Diamond yn debygol o ddigwydd yn yr ail flwyddyn ddeddfwriaethol, fel petai, neu a oes gyda fe ryw ffordd arall o ddelio â Diamond? Ac yn sgil y ffaith bod penderfyniad i symud allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae yna lwyth o ddeddfau Ewropeaidd—ni wnaf eu henwi nhw i gyd, Ddirprwy Lywydd, ond, ym maes amgylchedd yn unig, mae yna dros 200 o wahanol ddeddfau sydd yn rhan, bellach, o’r ffordd rŷm ni’n ymdrin â’r amgylchedd yng Nghymru, ac nid yw rhai o’r cyfarwyddiadau hynod bwysig ynglŷn â chynefinoedd, gwastraff a dŵr yn rhywbeth sydd wedi cael ei dodi arnom ni gan Frwsel, ond rhywbeth rŷm ni wedi’i groesawu a gweithio gyda fe fel ffordd o gryfhau deddfwriaeth amgylcheddol yma yng Nghymru. Ym mha ffordd ydych chi’n rhagweld y byddwn ni’n gallu ymdopi a delio â hynny wrth i ni symud i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond am gadw, does bosib, fel Cynulliad cyfan, rhai o’r pethau yma sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth amddiffyn ein hamgylchedd ni ac amddiffyn bioamrywiaeth yn ogystal?
Y cwestiwn olaf sy’n deillio yn sgil hynny yw: beth fydd y modd o ddelio â’r newidiadau yn CAP, y taliadau ffermwyr, sy’n deillio eto o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac a yw’r Llywodraeth—os nid yn y flwyddyn nesaf—yn teimlo bod angen deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i ddelio â’r mater yma?
A gaf i ddiolch i’r Aelod am y sylwadau hynny? I ddechrau gydag awtistiaeth, mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y pwyllgor cydweithio, sef ‘liaison’, ynglŷn â gweld ym mha ffordd y gallwn ni ddatblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn enwedig a oes yna fodd sicrhau bod y cynllun gweithredol yn cael ei gryfhau trwy ddod yn statudol yn y pen draw. Mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ddelio ag ef trwy’r broses honno.
Ynglŷn â chosb corfforol, mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mi oedd yna rywbeth ym maniffesto Plaid Lafur, sef addewid i symud hwn ymlaen, a bydd hynny yn digwydd, ond nid wrth gwrs yn y flwyddyn hon, ond mae’r gwaith yn dechrau ynglŷn â pholisi a sicrhau pa fath o ddeddfwriaeth fyddai ei heisiau. Ynglŷn â Diamond, wel, mae Diamond wrth gwrs yn rhywbeth a fydd yn weddol newydd. Nid wyf yn meddwl y bydd yna ddeddfwriaeth yn y flwyddyn hon, ond efallai y bydd yna newidiadau yn sgil beth y mae Diamond wedi ei ddweud. Mae hwn yn rhywbeth i ni, wrth gwrs, ei ystyried dros y misoedd nesaf.
Ynglŷn â’r amgylchedd, wrth gwrs, un o’r pethau nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd i gyfraith Ewrop unwaith y byddwn ni’n gadael Ewrop. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, ynglŷn â model Gweriniaeth Iwerddon neu Wladwriaeth Rydd Iwerddon, fel yn y 1920au, beth ddwedon nhw bryd hynny oedd y byddai’r ddeddfwriaeth a’r gyfraith yn sefyll yn gwmws fel yr oedd nes ei bod yn newid. Beth mae’n rhaid i ni ei ystyried yn ystod y broses yw a fydd yn rhaid ailddeddfu ar bopeth unwaith eto, neu a fydd popeth yn sefyll yn ei le, sy’n rhoi mwy o gyfle inni, wedyn, ystyried a oes eisiau, mi ddwedwn i, cael rhyw fath o Ddeddf gynhwysfawr er mwyn sicrhau bod gyda ni Ddeddf sy’n tynnu popeth yn y byd amgylcheddol i mewn i un Ddeddf. Mae hynny’n waith mawr, wrth gwrs—rhywbeth, efallai, i Gomisiwn y Gyfraith ei ystyried yn y pen draw—ond beth nad yw’n glir ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd unwaith y byddwn ni’n gadael. A yw’n parhau, neu a yw popeth yn cwympo? Mae’n rhaid inni fod yn barod am hynny.
Ynglŷn â’r polisi cyffredinol ar amaeth—y CAP, wrth gwrs—mae yna gyfle inni siarad ac i drafod gyda’r undebau ffermio ynglŷn â pha fath o bolisi amaethyddol Cymreig y dylwn ni ei gael yn y pen draw. Sut fydd y taliadau’n edrych? Mae polisi yn un peth, mae arian yn rhywbeth arall, wrth gwrs, ac mae’n rhaid sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei roi i ffermwyr Cymru ar hyn o bryd ar gael yn y pen draw o’r crochan Prydeinig, os gallaf ei alw’n hynny.
Felly, nid yw’n amlwg a fydd eisiau deddfwriaeth sylfaenol ar y CAP—rydym yn ystyried hynny—ond mae’r broses o drafod hyn gyda’r undebau yn dechrau wythnos nesaf. Rwy’n gwybod bod yna gyfarfod ddydd Llun er mwyn dechrau’r broses hon o ddatblygu polisi amaethyddol Cymreig.
Brif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os caf hefyd ategu’r teimladau am y Bil awtistiaeth, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi eich holi amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i weld beth yn union yw’r ffordd fwyaf priodol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n credu bod hwn yn un maes lle mae gennym gonsensws trawsbleidiol, a byddwn yn croesawu diweddariadau rheolaidd gan y Llywodraeth ynghylch y cynnydd y maent yn ei wneud.
Byddwn hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog—. Rwy’n gwerthfawrogi, yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd ddydd Iau ac roedd y pwyntiau a wnaethoch yn y datganiad cynharach yn nodi’n glir y bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn anodd ei siapio a’i llunio, wrth symud ymlaen, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch pa gwmpas yn union y gallai fod angen i'r rhaglen ddeddfwriaethol ei ystyried a sut y gallai fod angen iddi addasu deddfwriaeth, os o gwbl, yma yng Nghymru gan ddibynnu ar sut aiff y trafodaethau. Ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r Cynulliad diwethaf a sut, am gyfnod o 18 mis ar ei ddechrau, roedd deddfwriaeth yn araf iawn i ddod drwy'r Cynulliad hwn. Rydych wedi nodi bod chwe Bil, yn amlwg, yn mynd i ddod drwodd yn y sesiwn deddfwriaethol hwn, ond gwnaethom daro’r wal frics honno, fel pob deddfwrfa pan fo eu tymor ar ben, a chafodd y Bil iechyd y cyhoedd ei golli.
Rwy'n meddwl bod pawb wedi difaru colli’r Bil iechyd y cyhoedd, oherwydd roedd llawer o bethau da yn y Bil iechyd y cyhoedd hwnnw, a phe byddai’r Llywodraeth wedi gwrando ar y sylwadau a wnaethpwyd o sawl cwr—ac rwy’n cynnwys fy mhlaid i yn hynny—ynglŷn ag e-sigaréts, gallai’r ddeddfwriaeth honno fod ar y llyfr statud erbyn hyn ac ar gael i weithwyr proffesiynol ei defnyddio i wella iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn gobeithio bod y teimlad yr ydych wedi’i fynegi yn y datganiad hwn am wrando, ac am weithio gyda phleidiau yn y sefydliad hwn a hefyd gyda phobl sy'n ymateb i ymgynghoriadau, yn real iawn o fewn yr amserlen ddeddfwriaethol hon yr ydym yn sôn amdani, oherwydd dangosodd y Bil iechyd y cyhoedd yn y sesiwn diwethaf yn glir y niwed y gellir ei wneud pan, mewn gwirionedd, nad yw lobïo synhwyrol a chynigion synhwyrol yn cael eu hystyried, a chafodd y Bil hwnnw ei golli.
Byddwn yn gofyn: a ydych yn rhagweld y bydd y Bil iechyd y cyhoedd newydd sy'n dod yn union yr un fath â’r hyn oedd y Bil iechyd y cyhoedd ond heb yr e-sigaréts, ynteu a oes meysydd eraill na wnaeth y Llywodraeth eu hystyried drwy ei daith ddeddfwriaethol drwy'r cyfnod pwyllgor yn y sesiwn diwethaf, ond a oedd yn deilwng iawn ac a fyddai’n haeddu cael eu harchwilio ac efallai eu hymgorffori yn y Bil iechyd y cyhoedd yn y dyfodol? Rwy’n meddwl eich bod wedi nodi mai dim ond Bil replica a fydd, o'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog a'i Weinidog ystyried rhai o'r ymgynghoriadau ac, yn wir, rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd y tro diwethaf na wnaethant gyrraedd y Bil, oherwydd mae rhai meysydd i’w gwella yn y Bil hwnnw os gellir gwneud hynny.
Y Bil anghenion dysgu ychwanegol—roedd gennym ddarn o ddeddfwriaeth yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain yn ymgyrch etholiad y Cynulliad, ac rwy’n croesawu rhoi’r Bil hwnnw yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig fel un o’r Biliau cyntaf i ddod drwodd. Rydych chi’n sôn am sut y bydd yn creu amgylchedd newydd i wella'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol i bobl ifanc a phlant; sut yn union yr ydych chi’n gweld y ddeddfwriaeth honno’n gweithio i wneud y gwelliannau hynny, oherwydd gwir fudd deddfwriaeth yw y gellir ei deddfu ar lawr gwlad? Rydym i gyd o blaid yr egwyddor o wneud y gwelliannau hynny, ond a allech chi roi enghraifft i ni, o'r ymgynghoriadau yr ydych wedi cyfeirio atynt yma, o sut y bydd y Bil hwnnw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yma yng Nghymru? Rydym ni’n anghytuno am y ddarpariaeth undebau llafur yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Buom yn trafod hyn yn y pedwerydd Cynulliad ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei drafod yn y pumed Cynulliad, ond mae ganddo gefnogaeth ar eich meinciau, ac yn amlwg bydd ganddo gefnogaeth gan bleidiau eraill, ac felly bydd hynny'n rhan annatod o'r rhaglen ddeddfwriaethol.
Rwyf yn gresynu’r rhan ddeddfwriaethol o'r rhaglen hon am yr hawl i brynu. Rwy’n credu mai dyna un o sbardunau mwyaf cyrhaeddiad uchelgeisiol dros y 30 mlynedd diwethaf: y gallu i fod yn berchen ar eich cartref eich hun. Ac mae 138,000 o bobl wedi elwa yma yng Nghymru ar y gallu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Rydych chi’n dweud bod hyn fel llenwi'r bath â dŵr heb y plwg i mewn, ond mewn gwirionedd, os oes gennych raglen adeiladu tai sydd mewn gwirionedd yn bodloni’r galwadau sydd gan bobl i gael tai, yna'n amlwg rydych yn mynd rywfaint o’r ffordd at ddiwallu’r angen hwnnw ac ateb y galw hwnnw mewn gwirionedd. Nid yw Llywodraethau Cymru olynol wedi darparu rhaglen adeiladu tai i fodloni’r gofynion a'r angen ledled Cymru, ac mae hynny'n amlwg o'r niferoedd sydd wedi dod ymlaen. Ond, unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi bod hynny'n wahaniaeth ideolegol rhyngom ni, a byddwch yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno a byddwn yn craffu arni’n briodol.
Y pwynt arall yr hoffwn ei grybwyll hefyd yw'r dreth trafodiadau tir, a’r cymhlethdod yr ydych yn sôn amdano o ran cyflwyno’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd inni bod y cymhlethdod yn ymwneud â’r meysydd y mae'r Bil yn bwriadu ymdrin â hwy ac nid, efallai, bodloni rhai o'r sylwadau sydd wedi dod gan y gweithwyr proffesiynol a'r sectorau y bydd y Ddeddf hon y byddwch yn ei chyflwyno yn effeithio arnynt. Mae pryder yn y sector ynglŷn â chwmpas y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech efallai roi syniad inni ynghylch pam yn union yr ydych chi wedi nodi’r cymhlethdodau hynny. Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog.
A gaf i ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau? Oes, mae rhai meysydd lle na fyddwn yn cytuno. O ran yr hawl i brynu—ac rwy'n siŵr y cawn ni’r ddadl hon eto yn y dyfodol—mae rhannau o Gymru lle mae'r stoc tai yn hanner y lefel yr oedd 30 mlynedd yn ôl, ac mae ceisio gwneud iawn am hynny’n hynod o anodd. Ond, dyna fater efallai ar gyfer diwrnod arall.
Ie, ar y Bil iechyd y cyhoedd, fel y dywedais yn gynharach, bydd yn replica o'r hyn a oedd ar waith yng Nghyfnod 3. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried gwelliannau wrth iddynt ymddangos i weld beth y gellir ei wneud o ran gwelliannau a allai wella’r ddeddfwriaeth.
Mae e'n iawn i ddweud bod llawer o ddeddfwriaeth wedi mynd drwy'r Cynulliad yn y tymor diwethaf. Rwy’n rhagweld llai o Filiau’n dod gan y Llywodraeth y tro hwn. Rwy'n meddwl y bydd hynny’n ysgafnhau'r pwysau, yn sicr, yr oedd llawer yn ei deimlo ar bwyllgorau Biliau, yn enwedig yn nwy flynedd olaf y Cynulliad diwethaf, ond mae hefyd yn rhoi mwy o amser a chyfle, o bosibl, i ystyried Biliau Aelodau preifat hefyd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod llawer, wel, y cyfan o’n hadnoddau, mwy neu lai, wedi mynd i mewn i Filiau’r Llywodraeth yn y Cynulliad diwethaf, ac mae'n bwysig bod adnoddau ar gael, o fewn rheswm, ar gyfer Biliau Aelodau preifat da ac amser yn cael ei neilltuo iddynt. Bydd yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran swm y ddeddfwriaeth yn hwyluso hynny.
I ddod yn ôl at y pwynt am yr amgylchedd, yr anhawster sydd gennym â deddfwriaeth amgylcheddol yw bod llawer ohoni wedi’i thrawsgrifio o'r cyfarwyddiadau Ewropeaidd. Mae llawer ohoni’n ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, yn arbennig y meysydd mwy undonog, os caf ei roi felly. Yr unig reswm dros wneud hynny yn y ffordd honno oedd ei fod yn fwy cyfleus. Bydd angen i hynny newid. Beth sy'n digwydd i reoliadau Cymru a Lloegr yn y dyfodol? Ac mae nifer o faterion a godais yn gynharach o ran pryd y bydd y gyfraith yn cwympo—a fydd yn parhau, ynteu a fydd yn cwympo cyn gynted â’n bod yn gadael yr UE? Mae'r rhain yn faterion i'w hystyried. A oes cwmpas felly ar ryw adeg yn y dyfodol ar gyfer Bil yr amgylchedd cyfunol, y gallai Comisiwn y Gyfraith edrych arno? Mae hynny'n bosibl, ond nid, yn amlwg, rwy’n amau, am rai blynyddoedd, o ystyried cymhlethdod y broses honno.
Gyda'r Mesur ADY, bydd yn ymwybodol y bu ymgynghoriad am Fil drafft yn ail hanner y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi cael adborth am hynny, a chyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw yn fuan fel bod Aelodau'n gwybod sut y bydd y Bil arfaethedig yn edrych mewn gwirionedd a beth y bydd yn ei wneud, ac yna sicrheir bod yr ymatebion ar gael.
O ran y Bil treth trafodiadau tir, er ei fod yn Fil hynod gymhleth o ran ei gymhlethdod technegol, mae wedi'i ddylunio i fod mor hawdd ei ddefnyddio â phosibl. Yn aml iawn, wrth gwrs, mae’n rhaid ymdrin â’r cymhlethdod o fewn Bil er mwyn rhoi eglurhad yn nes ymlaen gan bobl sy’n ceisio gweld sut mae'r dreth yn gweithredu. Mae unrhyw ddeddfwriaeth dreth yn gymhleth o anghenraid, ond mae angen iddi fod mor ddealladwy â phosibl, yn enwedig i’r cyhoedd.
Fel arall, nodais y sylwadau a wnaeth am rai o'r Biliau y dywedodd y gallai mewn egwyddor fod mewn sefyllfa i’w cefnogi. Ni wnaf ei gadw at hynny; gwn fod rhaid gweithio drwy’r pethau hyn, a'r meysydd hynny, wrth gwrs, lle bydd gwahaniaeth rhyngom.
Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ac, yn wir, Simon Thomas, ynglŷn â’r Bil awtistiaeth, mae UKIP o blaid hynny, felly mae gennym gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol yn y Cynulliad hwn ar hynny o leiaf. Ni allaf ddweud yr un peth am bopeth arall yn y datganiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud y prynhawn yma.
O ran datganoli trethi, yn bersonol dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny; mae gwahaniaeth barn o fewn UKIP ar y pwnc hwn, ond serch hynny rwyf i’n bersonol o blaid cystadleuaeth treth rhwng awdurdodaethau. A gallwn weld yr effeithiau buddiol pwysig y mae hynny wedi’i gael yng Ngweriniaeth Iwerddon, lle'r oedd ganddynt gyfraddau treth gorfforaeth synhwyrol a arweiniodd at lawer o wasanaethau ariannol yn symud i Ddulyn. Ar y llaw arall, gallwn weld beth ddigwyddodd pan benderfynodd y Llywodraeth sosialaidd yn Ffrainc osod cyfradd treth incwm 75 y cant, ac mae hynny wedi gyrru nifer enfawr o weithwyr proffesiynol i Ddinas Llundain. Felly, beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw—ac rydym yn gresynu’r ffaith na fydd refferendwm ar y mater hwn, fel yr addawyd—ond beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw ynglŷn â ffurf datganoli trethiant yng Nghymru, mae'n bwysig iawn, rwy’n credu, ein bod yn gweld hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd busnes lle mae’n rhaid i’r bobl sydd wir yn creu swyddi yn y wlad hon weithio—yn y sector preifat. A byddai unrhyw beth sy'n helpu i wneud Cymru’n lleoliad llai deniadol ar gyfer buddsoddiad ac i bobl ddod i fyw a gweithio ynddo yn wrthgynhyrchiol iawn i fuddiannau Cymru.
Yn yr un modd, o ran y math o reoleiddio—ac rydym wedi siarad mewn termau cyffredinol am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad i Brydain adael yr UE—mae’r amgylchedd busnes fel y'i crëwyd gan y rheoliadau y mae'n rhaid i fusnesau eu dilyn yn rhoi cyfle arall inni, mewn gwirionedd, i wneud Cymru’n lle llawer mwy deniadol i fuddsoddi ac i weithio ynddo. Bydd yn dasg hynod o gymhleth i ddatrys, diwygio ac yn wir penderfynu beth i’w gadw o 43 mlynedd o reoliadau a chyfarwyddebau. Mae rhywfaint ohono’n ddeddfwriaeth ddirprwyedig ond mae llawer ohono nad ydyw—mae rheoliadau, wrth gwrs, yn gymhwysiad uniongyrchol, ac iaith yr UE yw iaith y rheini. Felly, bydd yn rhaid i lawer o hynny newid, ond mae'n rhoi cyfle inni i leihau'r baich rheoleiddiol. Ac yn y cyd-destun hwn, rwy'n siomedig o weld y datganiad yn disgrifio'r dreth trafodiadau tir fel un hir, dechnegol a chymhleth. Ac mae'n rhaid imi ofyn, o ystyried bod treth stamp yn y Deyrnas Unedig yn codi rhan gymharol fach o'r refeniw cyhoeddus—mae cyfaddawd rhwng cymhlethdod deddfwriaeth a'r budd i'r trysorlys. Mae maint y cod treth yn y Deyrnas Unedig wedi dyblu ers 1997, ac eto yn aml iawn does dim llawer o fudd iddo, os oes unrhyw fudd o gwbl, i'r cyhoedd yn gyffredinol. Y pwynt am osgoi yw y bydd cyfreithwyr clyfar bob amser yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi deddfwriaeth treth, a pho fwyaf cymhleth ydyw, y mwyaf o fylchau sy’n cael eu creu. Rwy’n siarad fel cyfreithiwr treth fy hun, felly rwy'n siŵr y bydd y proffesiwn cyfreithiol a chyfrifyddu’n rhwbio eu dwylo’n llawen wrth feddwl am fwy o'r math hwn o ddeddfwriaeth. Ond byddwn yn sicr yn cymryd agwedd adeiladol ond beirniadol tuag at bob deddfwriaeth o'r math hwnnw.
Mae i'w ddisgwyl, mae'n debyg, y dylai fod deddfwriaeth ym maes undebau llafur; wedi'r cyfan, yr undebau llafur sy’n ariannu'r Blaid Lafur i raddau helaeth ac mae’n rhaid i rywun gyflawni unrhyw fargeinion sydd wedi’u taro. Ond mae ei ddisgrifio fel 'niweidiol', rwy’n meddwl, yn rhoi'r cliw ynglŷn â’r gwir bwrpas y tu ôl i hyn. Roedd y diwygiadau undebau llafur yn yr 1980au, yr oeddwn yn meddwl bod y Blaid Lafur wedi’u derbyn, mewn gwirionedd yn rhan hynod bwysig o droi Prydain oddi wrth fethiant llwyr ein heconomi yn yr 1970au i'r economi fodern lwyddiannus a fu gennym yn y wlad hon ers 25 neu 30 mlynedd, er gwaethaf problemau yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil yr argyfwng ariannol. Nid wyf yn meddwl y cawn ni ryw lawer o gytundeb ynglŷn â’r ddeddfwriaeth undebau llafur.
Ond o ran y ddeddfwriaeth hawl i brynu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu gan nad yw cadw tai am genedlaethau mewn gwirionedd yn helpu pobl ag angen tai cymdeithasol—yn aml iawn, pobl heb unrhyw angen cymdeithasol sy’n byw yn y tai hyn. Wedi'r cyfan, clywsom fod Frank Dobson, a oedd yn aelod o'r Cabinet Llafur, yn byw mewn fflat cyngor yn St Pancras ar rent bychan iawn. Pe byddai hwnnw wedi’i ryddhau ar gyfer tai cymdeithasol gwirioneddol, yna, wrth gwrs, gallai fod wedi diwallu angen gwirioneddol i rywun. Roedd Bob Crow yn un arall a fu’n byw mewn tŷ cyngor ar hyd ei oes ac yn ymfalchïo yn y ffaith, ac eto roedd yn cael ei dalu, fel ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur, ymhell dros £100,000 y flwyddyn. Nid yw'r rhain, o dan unrhyw gyfrif, yn bobl ag angen tai cymdeithasol. Yn wir, maent yn cyfateb i bobl sy’n blocio gwelyau, ac maent yn atal pobl â gwir angen am dai cymdeithasol rhag cael cyfle i fod â tho uwch eu pennau. O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hawl i brynu, mae miliynau o bobl yn y wlad hon wedi cael yr un rhyddid ag a fu gan bawb arall ers cenedlaethau, ac fe wnaeth eu rhyddhau o diwtoriaeth awdurdodau dan reolaeth Llafur a oedd eisiau’r rheolaeth wleidyddol y byddai perchnogaeth stoc tai yn ei rhoi iddynt. Felly, mae hwn yn gam yn ôl mewn amser, a bydd UKIP yn sicr yn gwrthwynebu hynny.
Ond mae yna Filiau eraill, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn achos anghenion dysgu ychwanegol, yr wyf yn siŵr y byddant yn ennyn cymeradwyaeth a pharch cyffredinol o bob rhan o'r Cynulliad hwn. Gallaf roi croeso cynnes i rannau o'r rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig hon. Ni fyddwn mor garedig tuag at eraill. Ond fel y dechreuais drwy ddweud pan ddaethom i’r Cynulliad hwn yn gyntaf, byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y dadleuon a’r trafodaethau ac yn helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo yn sgil y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei rhoi drwodd.
Wel, gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad oes neb yn fy etholaeth i sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol ac yn ennill £100,000 y flwyddyn. Gallaf warantu cymaint â hynny. Yr ymateb a roddaf iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn—mae'n sôn am un rhan o Lundain—yw Wandsworth a'r hyn a wnaethpwyd yno, lle cafodd pobl eu gorfodi allan o dai a fflatiau a lle cafodd y tai a’r fflatiau hynny wedyn eu gwerthu am elw enfawr i'r cyngor, i geisio llunio ardal yn gymdeithasol er budd gwleidyddol. Dyna sut y digwyddodd yn Wandsworth. Edrychwch, os yw pobl yn dymuno prynu tŷ, mae ganddynt hawl i wneud hynny, ond ni ddylent brynu tŷ sydd yna’n cael ei dynnu’n ôl o ran bod ar gael i bobl ag angen tai cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael wedi arwain at ddiffyg enfawr yn nifer y tai sydd ar gael i bobl. Am flynyddoedd lawer iawn, roedd cynghorau mewn gwirionedd wedi’u gwahardd rhag adeiladu tai cyngor a rhag gwneud iawn am y diffyg a oedd yn cael ei greu drwy werthu’r tai. Dyna pam mae gennym sefyllfa lle’r ydym yn ceisio dal i fyny drwy’r amser. Ni allwn ddal i fyny a darparu digon o dai i’n pobl os ydym yn gyson yn gwerthu tai ar yr un pryd, ac yn gweld, fel y mae Lloegr yn ei weld, nad yw’r swm o arian yr ydym yn ei gael fel rhan o'r gwerthu hwnnw yn ddigon i gael tŷ arall yn ei le drwy adeiladu tŷ newydd. Dyna'r ddadl y byddwn yn ei chael, rwy'n siŵr, yn y dyfodol, wrth i’r ddeddfwriaeth hon ddatblygu.
O ran treth trafodiadau tir—y dreth stamp—mae'n amlwg yn dreth sy’n mynd i gael ei datganoli. Hoffem ddefnyddio hynny yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl cyn belled ag y mae’r sector adeiladu dan sylw. Maent wedi bod yn rhan bwysig o'r trafodaethau yr ydym wedi bod yn eu cael. O ran biwrocratiaeth, mae'n stori gyfarwydd pan fydd pobl yn dweud, 'Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw lleihau biwrocratiaeth’, ond ni fyddant byth yn nodi beth y maent yn ei olygu wrth 'fiwrocratiaeth'. Un o'r pethau y mae’n rhaid inni ei ddeall yw, oni bai am yr UE—down yn ôl at hyn mewn eiliad— byddai amgylchedd Prydain mor wenwynig ag yr oedd yn yr 1970au a'r 1980au. Yr Undeb Ewropeaidd a lusgodd Prydain allan o'r syrthni yr oedd ynddo bryd hynny, lle y byddai un o'r afonydd yn Swydd Efrog yn mynd ar dân pe byddech yn taflu matsien i mewn iddi. Y gwir yw bod llawer o'r ddeddfwriaeth amgylcheddol wedi bod yn rym er daioni, ac mae pobl yn ei gwerthfawrogi ac eisiau gweld amgylchedd o'u cwmpas nad yw wedi’i wenwyno’n ddiangen.
Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd yr afon yn arfer bod yn lliwiau gwahanol gan ddibynnu beth oedd wedi’i daflu iddi yn uwch i fyny: du os mai’r pyllau glo; os oedd Revlon wedi taflu minlliw i mewn, yn eithaf aml byddech yn gweld hynny; weithiau, byddai rhai o'r gweithfeydd i fyny yno’n taflu llifyn i mewn a byddai'n edrych yn goch, gwyrdd—unrhyw liw yr hoffech. Nid yw hynny’n digwydd bellach. Nid yw honno'n sefyllfa yr hoffem ddychwelyd ati. Rwy'n clywed yr hyn y mae’n ei ddweud, wrth gwrs, am ei awydd i chwarae rhan adeiladol ac rydym yn edrych i weld beth fydd canlyniad hynny yn ystod y flwyddyn nesaf.
Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad. Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethpwyd ynghylch y posibilrwydd o Ddeddf awtistiaeth? Rwy'n falch o ddweud, hyd yn oed dim ond yn y mis diwethaf hwn, eich bod wedi newid eich safbwynt ers yr adeg hon ym mis Mai o ddweud eich bod yn gobeithio osgoi'r angen am Fil ar wahân, gan y gallai hynny gymryd mwy o amser, i’r safbwynt mwy deniadol yn eich ateb i Andrew R.T. Davies yr wythnos diwethaf, gan ddweud eich bod yn ystyried Deddf awtistiaeth ac yn credu bod angen ei hystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall. Felly, rwy'n falch o hynny.
Fodd bynnag, soniasoch wrth ateb Simon Thomas yn gynharach fod hynny’n rhannol, neu i ryw raddau, oherwydd y pwyllgor cyswllt sydd gennych gyda Phlaid Cymru ar hyn o bryd, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi egluro a yw'r pwyllgor cyswllt hwnnw wedi eich helpu i ddod i'r casgliad bod angen Deddf neu a yw’n ddylanwadol, mewn unrhyw ffordd benodol, ynglŷn â chynnwys y Ddeddf honno. Oherwydd os mai’r olaf o’r rhain sy’n wir, rwy’n meddwl bod hynny’n ein harwain at un o'r anawsterau cychwynnol â’r pwyllgor hwn, y tu allan i glymblaid ffurfiol, sef bod gan un wrthblaid gyfle i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth cyn iddi gael ei drafftio, pan nad yw’r gweddill ohonom yn cael gwneud hynny. Os yw hynny'n wir, a allwch chi gadarnhau y byddwch yn fodlon i unrhyw Ddeddf sy'n dod allan i ddrafft cyntaf, drwy'r broses hon, gael ei chyflwyno i'r pwyllgor perthnasol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, fel bod yr holl wrthbleidiau’n cael y cyfle i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth cyn ei drafftio?
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r hawl i brynu. Nid wyf yn bwriadu sôn am rinweddau a chamweddau hynny, ond yn ddamcaniaethol, pe byddai Llywodraeth y DU yn nodi pot o arian i helpu system hawl i brynu Lloegr i weithio'n fwy effeithiol, neu i helpu cymdeithasau tai i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth—mae'n ddrwg gennyf, y prosesau y maent yn edrych arnynt ar hyn o bryd, a fyddech chi’n disgwyl rhyw fath o Farnetteiddio o'r pot hwnnw o arian i ddod i Gymru? Rwyf wir yn gobeithio y byddwch yn dweud ‘na’. Rwy’n sylweddoli mai dim ond cwestiwn damcaniaethol yw hwn, ond rwy’n meddwl ei fod yn un sy'n werth ei ateb, oherwydd pe byddech yn dweud ‘byddwn’ i hynny, byddai hynny’n codi cwestiwn, oni fyddai, am y rheswm pam na fyddai Cymru'n codi ei harian ei hun dan yr amgylchiadau hynny, tuag at gyfrannu at ei stoc dai? Diolch.
Mae'r pwyllgor cyswllt wedi ei sefydlu rhwng pleidiau'r Llywodraeth a Phlaid Cymru. Nid oedd eich plaid chi yn dymuno bod yn rhan o drefniant o'r fath; eich dewis chi yw hwnnw yn y pen draw, felly does dim pwynt cwyno am y peth. Wrth gwrs, bydd y pwyllgor cyswllt hwnnw yn edrych ar ffurf bosibl y ddeddfwriaeth, ond bydd Aelodau pob plaid yn y Siambr hon yn cael y cyfleoedd arferol i graffu, o bosibl, os mai dyma beth sy'n digwydd, ar Fil drafft ac, yn wir, i graffu ar y Bil hwnnw wrth iddo fynd ar ei daith drwy'r Cynulliad. Ni fydd hynny, wrth gwrs, yn newid.
Doeddwn i ddim yn glir ynghylch y pwynt yr oedd hi’n ei wneud am Loegr. Y ffordd y mae’r pethau hyn bob amser yn gweithio, wrth gwrs, yw os caiff arian ychwanegol ei ddyrannu gan y Trysorlys i adran o'r Llywodraeth yn Whitehall mewn maes sydd wedi'i ddatganoli, rydym yn cael swm canlyniadol Barnett. Nid oes gofyniad i ni, fel y gŵyr yr Aelodau, ei wario yn yr un ffordd. Os caiff arian ei symud o gwmpas un o adrannau'r Llywodraeth, nid ydym yn cael swm canlyniadol Barnett, felly rydym ym maes rhagdybiaeth yma. Yr hyn yr wyf yn ei wybod yw nad wyf yn meddwl ei bod yn ddoeth i ddatblygu ein stoc tai cymdeithasol ar y naill law a’i werthu ar y llall. Rwy'n meddwl bod hynny'n ddigon clir; bydd hynny’n dod i’r amlwg yn ystod hynt y ddeddfwriaeth pan gaiff ei chyflwyno.
Brif Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf un eich datganiad ynglŷn â threthi datganoledig. Fel y dywedwch, mae Llywodraeth Cymru yn y broses ar hyn o bryd o sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru. Fe wnes i geisio iddo gael ei newid i 'Cyllid Cymru' yn y Cynulliad diwethaf, ond roedd hynny’n aflwyddiannus. Felly, mae gennym Awdurdod Refeniw Cymru, ac, fel y soniasoch, treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir.
A gaf i ddweud fy mod yn falch ei fod wedi ei wneud yn y drefn hon? Pan oeddem ni’n edrych ar hyn yn y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf, daeth yn amlwg, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu’r trethi neu’r ddeddfwriaeth ar gyfer y trethi cyn sefydlu Revenue Scotland, bod hynny wedi achosi problemau, felly rwy’n falch bod eich Llywodraeth wedi ei wneud yn y drefn hon. A allwch chi ddweud wrthym pa wersi eraill a ddysgwyd o brofiad yr Alban, oherwydd rwy’n meddwl bod ganddynt nifer o fanteision ac anfanteision i'r ffordd y maent wedi ei wneud a gobeithio ein bod wedi dysgu’r gwersi fel y gallwn gael dechrau da?
Soniodd Neil Hamilton, yn gynharach, am beryglon posibl ac rwy'n meddwl bod Neil yn sôn am beryglon diffyg fframwaith cadarn, yn enwedig o’i gymharu â fframwaith Lloegr. Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar hynny y tro diwethaf hefyd, ac, yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi sôn am y rheol gwrth-osgoi. Brif Weinidog, sut y bydd y ddeddfwriaeth a gyflwynir yn ddigon cadarn o ran pob un o'r trethi hyn ac yn sicrhau bod mecanweithiau gwrth-osgoi digonol ar waith ac, yn wir, pan eu bod wedi gweithio yn y DU yn gyffredinol dros y degawdau lawer diwethaf, bod y mecanweithiau hynny'n cael eu cadw? Rwy'n meddwl bod arweinydd y tŷ, ar ei hen wedd fel y Gweinidog cyllid yn y Cynulliad diwethaf, wedi dweud mai un o’r egwyddorion y byddech yn ei ddefnyddio fyddai na fyddai dim gwyro oddi wrth norm y DU oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol ac o fudd i Gymru. Ond nawr bod y cyn Weinidog wedi symud ymlaen, a yw safbwynt Llywodraeth Cymru’n dal i fod yr un fath? Rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol cael eglurder am hynny.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, sut y caiff hyn i gyd ei gyfleu i randdeiliaid ac i'r cyhoedd? Rwy’n meddwl y byddai dweud bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o ddatganoli treth sydd ar ei ffordd i Gymru yn 2018 yn danddatganiad. Mae'n sefyllfa waeth na hynny. Gwn fod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn flaenorol ar ffyrdd y gallem godi ymwybyddiaeth o drosglwyddo neu ddatganoli trethi i'r lle hwn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn, gan fod gennym ddwy dreth ger ein bron yn awr a bydd trethi pellach yn dod yn nes ymlaen? Mae'r sefyllfa hon, fel y mae Aelodau wedi’i ddweud, yn mynd i fynd yn fwy a mwy cymhleth, ac mae'n bwysig ein bod yn mynd â nid dim ond Aelodau, ond y cyhoedd gyda ni hefyd.
Yn gyntaf oll, bydd y trethi y byddwn yn bwriadu eu cyflwyno yn briodol i Gymru, fel yr ydym yn gweld pethau. Yn amlwg, bydd angen mesurau gwrth-osgoi cadarn o fewn y ddeddfwriaeth, a bydd yr Aelodau'n gallu gweld y ddeddfwriaeth a'r hyn sydd wedi’i gynnwys ynddi pan gaiff y ddeddfwriaeth ei chyflwyno.
O ran dysgu gan yr Alban, ydy, mae'n amlwg i mi bod arnoch angen yr awdurdod codi refeniw ar waith i sicrhau y gellir codi’r dreth, neu'n sicr cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae’r Aelod eisoes wedi sôn am yr anawsterau a gafodd yr Alban yn hynny o beth.
O ran cyfathrebu â rhanddeiliaid, yr hyn a wyddom—dylai’r rhai sydd ag angen gwybod am y dreth trafodiadau tirlenwi pan gaiff ei chyflwyno gael eu hysbysu drwy eu cymdeithasau proffesiynol drwy eu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’n ddyletswydd arnynt beth bynnag i sicrhau eu hunain eu bod yn deall y system drethi newydd yn llwyr. Ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gadw ac adolygu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu’r newidiadau. Cyn belled ag y mae’r cyhoedd dan sylw, maent wedi arfer â threth stamp, felly maent wedi arfer â’r syniad o dalu treth neu doll wrth i drafodiadau eiddo ddigwydd, ond mae'n amlwg yn bwysig gwneud yn siŵr bod y gweithwyr proffesiynol yn deall sut y bydd y dreth yn gweithio ac, yn arbennig, sut y caiff ei chasglu a'r rheolau sy'n berthnasol i’r dreth honno. Yn amlwg, byddwn yn gwneud yn siŵr bod popeth ar waith y gellir ei roi ar waith i sicrhau bod gwerthwyr tai, er enghraifft, a chyfrifwyr, i roi dwy enghraifft, yn ymwybodol o'r newidiadau.
Yn olaf, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, ac rwy’n croesawu’r camau yr ydych wedi’u cyhoeddi heddiw. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith eich bod yn symud yn ddi-oed i ddiddymu agweddau ar y ddeddfwriaeth undebau llafur, sef, yn hytrach nag unrhyw ymgais i fodloni'r undebau llafur, ein hymgais ni, ar draws y Cynulliad hwn, i wireddu ein cred y dylem fod yn amddiffyn hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roeddwn hefyd yn awyddus i roi croeso arbennig i'ch cadarnhad y byddwch yn cyflwyno Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n gwybod, o fy ngwaith achos fy hun, pa mor hanfodol yw ein bod yn cael y fframwaith deddfwriaethol hwnnw’n iawn. Rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw yma, o ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol ddigynsail i’r ddeddfwriaeth hon, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc. Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi craffu ar y Bil drafft ac wedi ymateb i'r ddeddfwriaeth, ac un o'r prif bryderon a oedd gennym oedd nad oedd y Bil drafft yn gwneud digon mewn gwirionedd i gynnwys y gwasanaeth iechyd. Rydym i gyd yn gwybod o'n gwaith achos ein hunain bod hynny'n gwbl sylfaenol—y cysylltiad rhwng iechyd ac addysg. Hoffwn ofyn pa sicrwydd y gallech chi ei roi y byddai hynny'n cael sylw yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod.
Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, wrth ddweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ac addysg o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwybod, er enghraifft, ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, i roi enghraifft, nad yw edrych ar eu cyflawniad addysg yn unig ar wahân i bopeth arall byth y ffordd iawn o weithio, a dyna pam yr ydym wedi defnyddio’r ymagwedd gyfannol hon. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd y ddeddfwriaeth yn ceisio bod mor realistig ac mor gynhwysfawr â phosibl.
O ran y Bil undebau llafur, wrth gwrs, ar y meinciau hyn mae gennym wrthwynebiad ideolegol i gynnwys y Bil hwnnw, ond mae gennym broblem gyfansoddiadol ehangach yma, sef bod elfennau’r Bil undebau llafur y byddwn yn ceisio eu diddymu, yn ein barn ni, yn bendant o fewn ein pwerau datganoledig—mae yma fater cyfansoddiadol hefyd. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cael cyngor gan gyfreithwyr bod hynny'n wir hefyd, oherwydd gwelsom fod y cyngor cyfreithiol wedi’i ddatgelu heb ganiatâd—nid gennym ni, wrth gwrs, ond gan eraill—ac y dywedwyd wrth Lywodraeth y DU bod eu hachos yn wan o ran dadlau nad oedd hyn o fewn cymhwysedd datganoledig. Felly, ar wahân i fater pwysig ein barn ni am y Bil ei hun, mae gennym broblem gyfansoddiadol, sef ein bod o’r farn mai mater i'r Cynulliad benderfynu arno yw hwn, ac nid y Senedd.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.