1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2016.
2. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r effaith a gaiff trefniadau pensiwn gwladol trosiannol Llywodraeth y DU ar fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny? OAQ(5)0011(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus y bydd effaith Deddfau pensiynau 1995 a 2011 yn effeithio’n anghymesur ar nifer o fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi’i godi’n sylweddol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Byddwn yn parhau i ddwyn y pryderon hyn i sylw Gweinidogion y DU, sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn.
Fe fyddwch yn ymwybodol o’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sef grŵp o bobl ar draws Cymru, a bydd llawer ohonynt yn byw yn ein hetholaethau, a frwydrodd yn erbyn canlyniadau annheg iawn Deddf Pensiynau 2011. Mae’r ddeddfwriaeth, fel y dywedwch, wedi gadael degau o filoedd o fenywod a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1951 ar eu colled. Y ffigur swyddogol rwyf wedi’i weld yw £12,000, er i mi gyfarfod â’r etholwyr Janet Davies a Julie Peach yr wythnos diwethaf a ddywedodd y byddent hwy’n bersonol hyd at £38,000 yn waeth eu byd. Roedd gan fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad barn a lofnodwyd gan Aelodau trawsbleidiol, er i mi nodi na wnaed hynny gan Aelodau Ceidwadol. A wnewch chi ymuno â fy etholwyr a chytuno i barhau i ymgyrchu—rwy’n falch eich bod wedi gwneud hynny—a galw’n uniongyrchol, drwy ysgrifennu, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau teg?
Diolch i’r Aelod am dynnu sylw at ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n cynnal gwrthdystiad mawr heddiw ac sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn mor effeithiol. Ysgrifennodd Lesley Griffiths, a oedd â chyfrifoldebau cydraddoldeb yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, at y Farwnes Altmann, y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ar y pryd, ym mis Chwefror eleni, yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y ddwy Ddeddf bensiynau. Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod yr ymgyrch yn galw am drefniadau trosiannol teg ar gyfer pensiwn y wladwriaeth. Nid ydynt yn gwrthwynebu trefniadau teg; maent yn gwrthwynebu’r modd y cyflwynwyd newidiadau i’w pensiynau ddwywaith, yn eu rhoi dan anfantais ar y ddau achlysur, a hynny heb rybudd digonol. Dywedodd Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin y gellid ac y dylid bod wedi gwneud mwy i ddarparu gwybodaeth briodol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Dyna’n sicr yw safbwynt y Llywodraeth hon, ac mae’n un y byddwn yn parhau i’w wthio ar eu rhan.
Weinidog, cafodd cydraddoli graddol oedran pensiwn y wladwriaeth i 65 oed ar gyfer dynion a menywod ei nodi gyntaf yn Neddf Pensiynau 1995. Yn hytrach na chynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth dros nos, mae Llywodraethau olynol wedi cyflwyno newidiadau fesul cam. O ystyried bod y gyfradd gyflogaeth ymysg menywod yn uwch nag erioed, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod cydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod yn gam mawr tuag at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’i fod yn rhoi pensiwn y wladwriaeth ar sail gynaliadwy drwy ystyried bod disgwyliad oes yn cynyddu?
Wel, Lywydd, nid yw’r rhai sy’n ymgyrchu ar y mater hwn yn gwrthwynebu cydraddoli graddol fesul cam; yr hyn y maent yn ymgyrchu yn ei gylch yw’r modd uniongyrchol wahaniaethol y mae grŵp o fenywod a anwyd rhwng 1950 a 1953 wedi cael eu heffeithio’n andwyol ddwywaith gan y penderfyniad i godi eu cyfradd pensiwn y wladwriaeth heb wybodaeth na rhybudd digonnol. Mae’r ymgyrch honno’n ymwneud â cheisio dod o hyd i ffordd o liniaru hynny. Maent wedi cyflwyno cynnig ymarferol iawn ar gyfer gwneud hynny, ac mae’n un rwy’n credu y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno ei gefnogi.
Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo’r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i’r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU, yn enwedig Stephen Crabb yn ei swydd bresennol, y dylent ailystyried y trefniadau trosiannol hyn, sy’n ymddangos yn gwbl resymol ac na fydd yn costio mwy o arian o gwbl i’r trethdalwr?
Wel, Lywydd, rwy’n deall bod y Farwnes Altmann wedi cytuno i gyfarfod â’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dilyn y gwrthdystiad heddiw. Mae hi wedi dweud ar goedd ei bod wedi cael ei gorfodi i gadw’n dawel ar y mater hwn gan ei Hysgrifennydd Gwladol blaenorol, Iain Duncan Smith, ac rwy’n gwybod y bydd y menywod a fydd yn cyfarfod â hi heddiw yn edrych ymlaen at ei gweld heb y rhwystr hwnnw. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i lobïo ar ran menywod yng Nghymru y mae’r mater hwn yn un difrifol iawn iddynt.