<p>Trafodaethau â Chwmnïau Angor</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n trafod yn rheolaidd â chwmnïau angori a chafodd yr Ysgrifennydd dros yr economi gyfarfod ag Airbus ddydd Gwener diwethaf. Byddwn yn ysgrifennu at gwmnïau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys y cwmnïau angori, gyda'r bwriad o gynnal fforwm ymgysylltu â busnesau yn canolbwyntio ar faterion a godwyd gan y canlyniad.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:04, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel Aelod Cynulliad yn y gogledd-ddwyrain, mae llawer o’m hetholwyr yn cael eu cyflogi mewn gweithleoedd mawr fel Airbus. Mae’r bleidlais i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i'r bobl hyn a'u teuluoedd yn ogystal â’r cannoedd a gyflogir drwy'r gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y safle awyrofod hefyd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r gweithlu a'u teuluoedd y bydd y Llywodraeth hon yn ymladd dros eu bywoliaeth yn y dyfodol a’r trysor diwydiannol yng nghoron y gogledd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Gallaf sicrhau hynny’n ddiamod. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw Airbus fel cyflogwr yng Nghymru. Rwy’n gwybod, yn enwedig ym Mrychdyn, y bydd y miloedd sy'n cael eu cyflogi yno yn ansicr am y dyfodol, fel y mae pob gweithgynhyrchydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Maen nhw’n aros i weld beth fydd canlyniad y trafodaethau, yn enwedig ar fynediad at y farchnad sengl. Os nad ydym ni’n cael mynediad at y farchnad sengl, yna bydd anawsterau aruthrol i’n gweithgynhyrchwyr a byddwn yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod cwmnïau fel Airbus yn parhau i elwa ar fynediad at farchnad o 500 miliwn o bobl.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:05, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn ymlaen o'r pwynt hwnnw, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i gynnal dadansoddiad cychwynnol o leiaf o rinweddau cymharol y gwahanol ddewisiadau Brexit—amrywiaeth ddryslyd iawn, o bosibl—sydd wedi cael eu crybwyll: Norwy, y Swistir, Canada a Singapore, hyd yn oed, yn rhyfedd iawn? Yn enwedig oherwydd pwysigrwydd cadw mynediad at y farchnad sengl, fel y mae newydd ei ddweud, a yw wedi dod i'r casgliad, fel y mae llawer yn y gymuned fusnes, mai EFTA AEE sy’n edrych fel y dewis lleiaf gwael ar y bwrdd ar hyn o bryd o bosibl?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

O ystyried y byddai hynny'n sicrhau mynediad at y farchnad sengl, ac mai dyna'r unig fodel sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, mae'n rhaid mai ‘ydw’ yw’r ateb. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni dderbyn y byddai hynny'n golygu symudiad rhydd pobl ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio ar y mater hwnnw, uwchben y mater o swyddi, a dweud y gwir—fe’i clywais ar garreg y drws—yn y refferendwm wythnos i ddydd Iau diwethaf. Yr anhawster yw: ar hyn o bryd, nad oes model sy'n cael ei gynnig a fyddai'n caniatáu mynediad at y farchnad sengl heb gael symudiad rhydd pobl hefyd. Nid yw Norwy wedi ei wneud; nid yw’r Swistir wedi gallu ei wneud. Y model AEE yw hwn yn syml. Y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad gwirioneddol o ba fath o fodel allai weithio yn y dyfodol, sy'n dangos ansicrwydd yr oes yr ydym ni’n byw ynddi, a dyna pam yr ydym ni eisiau rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac, yn ail, pa sicrwydd y mae angen ei roi cyn gynted â phosibl ar lefel y DU.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:06, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, fel Aelod etholaeth yn Aberconwy, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwerthfawr Airbus ym Mrychdyn gyda’r swyddi—6,000 o swyddi—y maen nhw’n eu darparu. Gwn eu bod wedi dweud mewn datganiad ar ôl refferendwm eu bod wir yn gobeithio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i’w gweithwyr ac, yn wir, i barhau â'u gweithrediadau yma. Sut y byddwch chi, fel Prif Weinidog, a’ch Llywodraeth Cymru yn rhoi'r sicrwydd y mae’n debyg sydd ei angen arnynt ar hyn o bryd? A ydych chi wedi ymweld â nhw? A ydych chi wedi dod i fyny i’r gogledd ac ymweld ag Airbus er mwyn cael y trafodaethau lefel uwch reolwyr hynny, fel eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw y byddwch yn gweithio yr un mor galed â Llywodraeth y DU i'w cynorthwyo?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Cefais gyfarfod â llywydd Airbus yn ystod wythnos y refferendwm. Gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfarfod ag Airbus hefyd. Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag Airbus i wrando ar eu pryderon. Mae’r holl weithgynhyrchwyr yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu am fynediad at y farchnad sengl. Maen nhw’n weithrediadau Ewropeaidd, ac os yw'r DU y tu allan i'r farchnad y maen nhw’n gwerthu ynddi, ceir canlyniadau o ran buddsoddiad yn y dyfodol. Nid yw'n golygu y gallent eu cau dros nos—nac ydy, wrth gwrs—ond os ydych chi’n gwmni rhyngwladol, rydych chi'n fwy tebygol o fuddsoddi y tu mewn i farchnad nag y tu allan iddi. Dyna pam mae’n hynod o bwysig ein bod yn parhau i gael mynediad am ddim at y farchnad sengl, heb dariffau. Ni allaf ddychmygu beth fydd ein ffermwyr cig oen Cymreig yn ei wneud os gorfodir tariff o 15 y cant ar y cig oen y maen nhw’n ei gynhyrchu ac sy'n cael ei werthu yn y farchnad Ewropeaidd, a dyna pam—wrth gwrs, dur hefyd: byddai'r tariffau dur yn uwch fyth—mae'n hanfodol bwysig, waeth beth fo’r materion eraill, o gofio’r ffordd y gwnaeth pobl bleidleisio, bod mynediad i'r farchnad sengl heb dariffau yn parhau.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:08, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, ac nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eich bod chi’n rhan o hynny, yn ystod y 1970au, bod Ffrainc a Phrydain wedi cydweithio i adeiladu Concorde? Rwy’n credu mai 'entente cordiale' oedd ei enw, ymhell cyn i ni ddod yn aelodau o'r UE. Y casgliad o hyn, wrth gwrs, yw y bydd materion yn Airbus yn parhau yr un fath a bod y ddadl hon nawr yn enghraifft arall o godi bwganod, a gawsom ni cyn Brexit ac sy’n parhau nawr ar ôl Brexit.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Gallaf sicrhau'r Aelod yn bendant nad oedd gennyf ddim i'w wneud â Concorde—roedd ei thaith gyntaf pan oeddwn i’n ddwy, felly gallaf ddweud hynny. [Chwerthin.] Ond, cofiwch, wrth gwrs, fod Concorde yn enghraifft o gydweithrediad rhwng y DU a Ffrainc a oedd yn fethiant, mewn gwirionedd. Fel prosiect, ni weithiodd—ni weithiodd erioed ar sail fasnachol. Mae’n rhaid iddo gofio bod y DU yn ysu i ymuno â'r farchnad gyffredin ym 1973—yn ysu i ymuno—gan fod economi'r DU mewn cyflwr gwan. Mae'r syniad hwn, rywsut, bod y DU wedi cael ei gorfodi i ymuno yn erbyn ei hewyllys yn gwbl anghywir—roedd yn ysu i ymuno am flynyddoedd lawer. Bydd cydweithredu, wrth gwrs; rydym ni’n deall hynny. Nid yw’r bont godi yn mynd i gael ei thynnu i fyny’n sydyn, ond mae'n rhaid i ni ddeall ein bod ni’n rhan, ar hyn o bryd, o farchnad o 500 miliwn o bobl. Os oes rhaid i ni dalu pris i fynd i mewn i’r farchnad, honno, yna bydd ein cynhyrchwyr yn talu pris i fynd i mewn i'r farchnad ac, yn y pen draw, bydd pris o ran swyddi. Dyna'r peth olaf, does bosib, y mae unrhyw un eisiau ei weld.