– Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar y cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau 2016-18, a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch o agor dadl heddiw sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau fel y’u nodir yn ein cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau 2016-18.
Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd pwysig sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Roedd adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 'Gwneud Gwahaniaeth' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dangos maint problem camddefnyddio sylweddau, sy'n dangos yr heriau parhaus sy'n ein hwynebu.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y bygythiad y mae camddefnyddio alcohol yn ei beri i iechyd cyhoeddus yng Nghymru; mae’n un o brif achosion marwolaethau a salwch ac mae’n costio llawer i'r GIG, i gymdeithas ac i'r economi. Er enghraifft, mae alcohol yn gysylltiedig â mwy na 6,000 o achosion o drais domestig bob blwyddyn. Yn ogystal â phryderon cynyddol am effaith camddefnyddio alcohol, mae'r newidiadau cyflym i dirwedd camddefnyddio cyffuriau’n cyflwyno heriau newydd i wneuthurwyr polisi, comisiynwyr, ac asiantaethau triniaeth.
Fel Llywodraeth, rydym yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', a gyhoeddwyd yn 2008. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yn seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod bod dibyniaeth yn fater iechyd a gofal, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Mae ein strategaeth gyffredinol wedi'i hadeiladu o amgylch pedwar nod allweddol: atal niwed, cymorth i gamddefnyddwyr sylweddau, cefnogi ac amddiffyn teuluoedd, a mynd i'r afael ag argaeledd sylweddau ac amddiffyn unigolion a chymunedau drwy weithgarwch gorfodi. Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau er mwyn helpu i wneud dewisiadau doeth a gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, help a chymorth, os oes angen.
Ers inni lansio ein strategaeth, rydym wedi gweld gwelliannau parhaus mewn amseroedd aros am driniaeth cyffuriau ac alcohol a chanlyniadau eraill i’r grŵp hwn o bobl sy'n agored i niwed ac yn anodd eu cyrraedd, ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm hwn. Ni allwn wneud y cynnydd yr hoffem ei wneud heb gefnogaeth ac arbenigedd pobl eraill. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gref â’r trydydd sector, y maes iechyd, llywodraeth leol a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae'r cynllun cyflawni diweddaraf yn nodi'n fanwl y camau penodol a gymerir dros y ddwy i dair blynedd nesaf i ategu ein strategaeth i wneud y cynnydd pellach yr hoffem ei wneud ar yr agenda heriol hon sy'n symud yn gyflym.
Mae hwn yn gynllun sy’n rhoi mwy o bwyslais ar atal, ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chydnabod y rhan y gall gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach ei chwarae i ddod o hyd i unigolion sy'n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac ymateb iddynt. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i weithredu’n llwyddiannus, ac mae ein saith bwrdd cynllunio ardal yn allweddol i ddatblygu'r gwaith hwn drwy barhau i gomisiynu a darparu’r ystod o wasanaethau yn eu hardaloedd lleol mewn cysylltiad ag ymdrin â chamddefnyddio sylweddau.
Mae'r cynllun hwn yn parhau i adeiladu ar yr ystod o fentrau codi ymwybyddiaeth yr ydym wedi'u sefydlu, fel DAN 24/7, ein llinell gymorth camddefnyddio sylweddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd ledled Cymru. Bydd hon yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad ag unigolion sy'n defnyddio’r sylweddau neu'n ystyried eu defnyddio yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth angenrheidiol.
Mae ymyrryd yn gynnar ac addysg yn hanfodol yn yr agenda hon, a thrwy ein rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, rydym yn gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i addysgu disgyblion am ystod o faterion personol a chymdeithasol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac ecsbloetio rhywiol. Cynhelir y rhaglen ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd ledled Cymru ac mae penaethiaid ac eraill mewn ardaloedd lleol yn falch ohoni.
Mae datblygiadau diweddar yn awgrymu pryder cynyddol am y defnydd o gyffuriau sy’n gwella delwedd a pherfformiad. Felly, mae addysg ynglŷn â goblygiadau defnyddio’r cyffuriau hyn hefyd yn bwysig, yn enwedig mewn cysylltiad â chwaraeon. Byddwn yn cynnal y cylch trafod amlasiantaethol cyntaf i dynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon a’r materion cymdeithasol ehangach cysylltiedig cyn bo hir. Bydd hyn hefyd yn cysylltu â'r gwaith ehangach y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, sydd wedi ei anelu at ddarparu tystiolaeth o natur a graddfa camddefnyddio steroidau a chyffuriau sy'n gwella delwedd a pherfformiad, a’r niwed sy'n gysylltiedig â hynny.
Ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid yn ystod ei ddatblygiad, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar ein cynllun cyflawni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Cafwyd pedwar deg naw o ymatebion gan ystod eang o sefydliadau, ac mae'r rhain wedi llywio'r cynllun terfynol a welwch ger eich bron heddiw. Fel y gwelir yn y cynllun, rydym yn glir ynghylch y cyfraniad y gall ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ei wneud i gyflawni'r nodau a amlinellir yn y Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydym wedi datblygu’r cynllun diweddaraf hwn yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd arloesol honno. Mae canlyniadau lefel uchel camddefnyddio sylweddau wedi cael eu mapio yn erbyn y nodau perthnasol fel bod y cysylltiadau’n glir ac yn eglur.
Mae'r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion iechyd a gofal darbodus, ac mae hwn yn faes lle gellir dangos enghreifftiau da o ofal iechyd darbodus ar waith. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn hyn, a gynhaliodd ddau ymchwiliad ar gamddefnyddio sylweddau, ac mae'r cynllun newydd yn ymgorffori holl argymhellion yr ymchwiliadau hynny.
O ganlyniad i'r dull partneriaeth cydweithredol a chynhwysol a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu'r cynllun, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cytuno â'r canlyniadau a ddisgrifir dan bob un o'n hamcanion. Roedd nifer o ymatebion yn amlygu meysydd y gellid rhoi sylw iddynt er mwyn cryfhau'r cynllun cyflawni ymhellach, ac un enghraifft o hyn yw'r angen i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth posibl, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. O ran lleihau niwed, teimlai rhai bod angen sicrhau y gwneir rhagor o waith i hyfforddi pob gweithiwr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd i adnabod arwyddion o broblemau camddefnyddio sylweddau. Hefyd, roedd rhai o’r farn bod ymdrin â'r newid diwylliannol sydd ei angen i leihau yfed niweidiol yn flaenoriaeth. Nododd ymatebwyr hefyd fod angen mwy o weithredu ar atal gorddos o gyffuriau yn y lle cyntaf. Rydym wedi cyflwyno ein rhaglen naloxone, ond teimlwyd y dylid hyrwyddo dulliau lleihau niwed eraill hefyd, fel helpu pobl sy'n camddefnyddio sylweddau i ddeall y risgiau, arwyddion gorddos, peryglon defnyddio cyffuriau lluosog, ac i annog defnyddio dulliau llai peryglus o gymryd cyffuriau. Cafwyd yr awgrymiadau defnyddiol hyn ac eraill yn ystod y broses ymgynghori, ac rydym wedi eu hymgorffori er mwyn cryfhau ein cynllun ymhellach.
Felly, i gloi, rwy’n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr ac rwy'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Paul Davies. Ar y gwelliant cyntaf, rwy’n cytuno bod rhaid inni gydnabod y problemau sy'n gynhenid wrth ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac ystyried cymhlethdodau cefnogi rhywun sy’n wynebu’r materion hyn. Dangosir hyn gan y ffaith nad yw pob unigolyn o reidrwydd yn rhydd o gyffuriau neu alcohol ar ddiwedd eu triniaeth, oherwydd, i lawer, bydd yn frwydr gydol oes.
O ran yr ail welliant, byddwn yn ystyried y data diweddaraf. Rydym yn defnyddio ac yn parhau i ddefnyddio'r data o'r gronfa ddata genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i roi cynlluniau ar waith i ymdrin ag unrhyw bryderon neu feysydd datblygu. Felly, rydym yn falch o gefnogi'r gwelliant hwn hefyd.
Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau yn y ddadl. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Mae ein gwelliannau 1 a 2 yn adlewyrchu'r ystadegau diweddaraf o gronfa ddata genedlaethol Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau, gan ddangos mai dim ond 13 y cant o unigolion yr ystyriwyd nad oeddent yn defnyddio dim sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o 6,084 o atgyfeiriadau i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Cyrhaeddodd nifer y marwolaethau o wenwyno cysylltiedig â chyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau y lefelau uchaf erioed yng Nghymru a Lloegr y llynedd. Roedd marwolaethau o wenwyn cyffuriau i fyny 65 y cant yn Lloegr, ond 153 y cant yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion yn 1993. Er bod marwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau yn Lloegr wedi codi 192 y cant, roedd y cynnydd yng Nghymru yn 409 y cant.
Mae alcohol hefyd yn parhau i fod un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru, gyda thua 1,500 o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn—.9 y cant o'r holl farwolaethau. Mae cyfraddau marwolaethau’n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.
Roeddwn yn falch o gyflwyno elusen adsefydlu cyffuriau ac alcohol CAIS sydd wedi’i lleoli yn y gogledd i Ystafell Fyw Caerdydd, y ganolfan adsefydlu yn y gymuned ar gyfer Caerdydd a’r de, ac yna siarad yn eu lansiad uno swyddogol i ddod yn un o ddarparwyr therapi dibyniaeth mwyaf Cymru yma yn 2014.
Mae cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru 2016-18, yr ydym yn ei drafod heddiw, yn cydnabod bod y gwaith partneriaeth rhwng y sector statudol a’r trydydd sector yn ganolog i gyflawni ei nodau allweddol. Ond er mwyn i hyn ddigwydd rhaid iddo gael ei gyd-gynhyrchu, ei ddylunio a'i gyflwyno gyda'r trydydd sector. Sefydlwyd byrddau cynllunio ardal tua phum mlynedd yn ôl i oruchwylio’r gwaith o gomisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Ni chafodd trefn lywodraethu’r cyrff hyn erioed ei sefydlu’n briodol ac maent wedi esblygu mewn ffyrdd gwahanol iawn, gan arwain at amrywiaethau mewn arferion ledled Cymru. Yn fwy diweddar, mae'r gwahaniaeth wedi tyfu, a rhai bron wedi diflannu, ac asiantaethau arweiniol statudol wedi cymryd eu lle. Mae'r trydydd sector, a hepgorwyd, nawr yn absennol i raddau helaeth o gynllunio strategol.
Mae'r cynllun cyflawni yn eithaf tawel o ran y byrddau cynllunio ardal, ac felly mae angen inni wybod barn y Llywodraeth am y trefniadau llywodraethu disgwyliedig, cynwysoldeb aelodaeth, comisiynu ar y cyd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yn ymchwiliad 2015 y pwyllgor iechyd i gamddefnyddio alcohol a sylweddau y dylent fapio darpariaeth canolfannau dadwenwyno yng Nghymru, canfod bylchau a nodi sut y bydd y rhain yn cael sylw. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd hefyd y byddai’r cynllun cyflawni hwn yn ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen yn ganolog i gefnogi gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu preswyl haen 4 yn genedlaethol. Fodd bynnag, yn lle hynny, yr unig beth y mae'r cynllun cyflawni’n sôn amdano yw byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phartneriaid i amlinellu cynllun ar gyfer sut y maent yn bwriadu ymdrin â bylchau mewn gwasanaethau, a haen 4 wedi’i rhestru’n olaf. Yn wir, mae'n naw mlynedd ers i’r adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau haen 4 yng Nghymru gael ei ryddhau i mi a'i wneud yn gyhoeddus ar ôl iddynt geisio ei gladdu. Roedd yn sôn am nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu, er mwyn gallu cael eu dadwenwyno yn y carchar, ac am dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd dadwenwyno cleifion mewnol nac adsefydlu preswyl ar gael. Galwodd yr adroddiad am gynnydd sylweddol mewn capasiti, am uned gyfeirio ganolog i Gymru gyfan ac am ddatblygu tair uned dadwenwyno cyffuriau ac alcohol ac adsefydlu ledled Cymru, gan weithio gyda darparwyr y trydydd sector.
Cafodd y neges hon ei hatgyfnerthu mewn adroddiad pellach yn 2010 a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu’r tair uned. Yn lle hynny, mae toriadau Llywodraeth Cymru i gyfleusterau dadwenwyno preswyl ddegawd yn ôl yn dal i fod ar waith, ac er bod fframwaith haen-4 Cymru wedi’i gynhyrchu ar ôl i’r Gweinidog iechyd blaenorol gyhoeddi llythyr yn cynghori comisiynwyr i gefnogi cyfleusterau yng Nghymru, mae nifer y lleoedd adsefydlu yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, beth yw barn y Gweinidog am hyn, ac, o gofio bod 50 y cant o'r lleoliadau adsefydlu preswyl a ariannwyd mewn cyfleusterau y tu allan i Gymru, sut mae lansiad y fframwaith yn 2015 yn effeithio ar hyn?
Roedd ymchwiliad y pwyllgor iechyd yn 2015 yn disgrifio gweithio mewn seilos, a dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd cadeirydd bwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd wrthyf fod gormod yn cael ei wario ar ddiffodd tanau a dim digon ar ymyrraeth ac atal, lle mae tua 75 y cant o'r bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys dros 50 y cant sydd â phroblemau alcohol, hefyd yn cael problemau iechyd meddwl. Ond mae'r bylchau sy'n parhau mewn darpariaeth diagnostig ddeuol yr oeddwn yn tynnu sylw atynt ddegawd yn ôl yn golygu bod y drws troi’n parhau, gan greu costau enfawr i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Oni bai bod y materion hyn yn cael sylw o'r diwedd, bydd y cynllun cyflawni hwn yn parhau i fod y bennod ddiweddaraf mewn hanes hir o frad.
Mae camddefnydd sylweddau yn rhywbeth sy’n gadael ei ôl ar unigolion, ac yn gadael ei ôl ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’n effeithio ar iechyd y rheini sy’n camddefnyddio–neu’n waeth, wrth gwrs: mae nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau wedi treblu mewn 20 mlynedd. Mae yna effaith ar yr economi hefyd, wrth gwrs, o ran colled incwm i unigolion ac i fusnesau drwy absenoldeb o’r gwaith. Mae’r gost ar yr NHS yn drwm iawn yn amlwg, ond felly hefyd y gwasanaethau cymdeithasol a’r system gyfiawnder troseddol, ac mae awdurdodau lleol, drwy eu gwaith glanhau bob bore Sul os nad drwy ddim byd arall, yn cario baich ariannol hefyd.
Cyferbynnwch y gost honno efo’r rheini sy’n elwa, pa un ai’r rheini sy’n gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon, neu, yn fwy yn yr agored, os liciwch chi, y diwydiant diodydd, sy’n lobïo i geisio perswadio’r Llywodraeth i beidio â chymryd camau i daclo camddefnydd drwy osod lleiafswm pris ar alcohol, er enghraifft.Er bod y lobi honno wedi llwyddo i berswadio ambell blaid wleidyddol yn y Siambr yma, mae’n rhaid inni beidio â thynnu’n ffocws oddi ar yr angen i daclo camddefnydd sylweddau.
Mae sawl menter wedi bod o’r blaen gan y Llywodraeth yn y maes yma, wrth gwrs, ond mae’n rhaid inni farnu llwyddiant y rheini yn erbyn y canlyniadau, yn erbyn yr hyn a gafodd ei gyflawni. Yn anffodus, mae’r gyfradd marwolaethau o ganlyniad i gamddefnydd alcohol wedi aros yn ei hunfan am ddegawd. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnydd cyffuriau. Clywsom nifer o ffigurau yn cael eu dyfynnu gan Mark Isherwood. Mae hi’n waeth mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Mi fues i’n darllen erthygl yn y ‘South Wales Evening Post’ a gafodd ei chyhoeddi dros y Sul yn codi pryderon yn benodol am y sefyllfa yn y ddinas honno. Felly, mae’r ffeithiau yn dangos inni, yn sicr ar y lefel o atal marwolaethau, sy’n gorfod bod yn flaenoriaeth, fod y strategaeth flaenorol wedi methu ac felly fod angen ei diweddaru hi.
Pam yr ydym ni’n methu llwyddo i ennill tir yn y maes hwn? Mae diffyg pwerau cyflawn mewn perthynas ag alcohol yn sicr yn un rhwystr. Allwn ni ddim, yma yng Nghymru, roi cyfres o gamau yn eu lle ar y cyd, fel gosod lleiafswm prisiau, atal hysbysebu, newid y limit yfed a gyrru, er enghraifft, fel ymdrech strategol a thraws-lywodraethol i daclo’r broblem honno.
Nid yw’r arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon cadarn wrth weithredu strategaethau. Mae darpariaeth wedi amrywio gormod o ardal i ardal, yn enwedig o ran gwasanaethau preswyl, i ferched yn unig ac ati. Nid canfyddiadau Plaid Cymru yn unig ydy’r rhain—rwy’n eich atgoffa chi o hynny; dyma ganfyddiadau'r pwyllgor iechyd blaenorol hefyd. Felly, rwy’n falch iawn bod argymhellion y pwyllgor hwnnw wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod yr argymhellion o leiaf wedi dylanwadu ar y cynllun newydd sydd gennym ni o’n blaenau rŵan.
Mae gen i ambell sylw a chwestiwn am y cynllun, y cyntaf yn atseinio’r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood. Mae’r cynllun yn cynnwys bwriad i fapio gwasanaethau camddefnydd sylweddau, ond nid yw’n sôn am wasanaethau preswyl yn benodol. A wnaiff y Gweinidog, os gwelwch yn dda, roi sicrwydd y bydd y broses mapio yn cynnwys hyn, a rhoi ymrwymiad i lenwi’r tyllau sydd yna o ran darpariaeth gwasanaethau ar hyn o bryd? Mae’r cynllun yn sôn, ac yn wir yn brolio, am wario ryw £50 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau camddefnydd sylweddau, ond o ystyried maint y broblem a’r goblygiadau i wariant cyhoeddus mewn gwasanaethau eraill o beidio â thaclo’r broblem, a ydy’r Gweinidog wir yn meddwl bod y swm hwnnw’n ddigon i allu arwain at y lleihad mewn camddefnydd yr ydym ni gyd yn dymuno ei weld?
Er fy mod i’n croesawu bod y cynllun gweithredu yn cynnig dangosyddion i fesur llwyddiant neu fethiant, mi fuaswn i wedi dymuno gweld mwy o fanylder o ran targedau, er enghraifft. Nid oes bwriad i ddweud pa mor gyflym y dylem ni fod yn gweld pethau’n gwella. Nid oes dyddiadau yn cael eu gosod ar gyfer cyrraedd y nod, ac mi fuasem ni’n dymuno gweld targedau ac amserlenni mwy penodol, ac mi wnaf i groesawu sylwadau gan y Gweinidog ar hynny.
Yn olaf, rydym ni’n nodi bod y cynllun yn methu â chrybwyll yr angen i sicrhau bod mwy o bwerau ar gael i Lywodraeth Cymru allu datblygu cynllun mwy holistig—y diffyg pwerau y gwnes i gyfeirio ato fo yn gynharach. Lle mae yna dystiolaeth glir bod y setliad datganoli gwan sydd gennym ni yn niweidio pobl Cymru yn gorfforol felly—ac mae’r pwyllgor iechyd diwethaf yn cytuno â hyn, gyda llaw—rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu’n gryf y dylai hi fod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn gwthio am y pwerau angenrheidiol—profi terfynau’r setliad presennol a thynnu sylw at y gwir gost i safon bywydau ein trigolion, yn ogystal â’r gost ariannol, o ddatganoli gwael. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, ein bod ni’n cael y ddadl yma heddiw ddiwrnod ar ôl i Dŷ’r Cyffredin fethu â chymryd cyfle i gryfhau’r setliad yn wirioneddol sylweddol efo’r Bil Cymru newydd.
Mi oedd maniffesto Plaid Cymru yn gynharach eleni yn cynnwys ymrwymiadau sefydlu rhwydwaith o ganolfannau preswyl ar gyfer camddefnyddwyr alcohol a chyffuriau, mwy o hyfforddiant i staff NHS a lleiafswm prisio, ac mi allwch chi fod yn sicr na fuasai Plaid Cymru yn goddef setliad datganoli gwael; mi fyddwn ni wastad yn brwydro i sicrhau bod Cymru yn cael y pwerau sydd eu hangen i ddelio efo materion pwysig fel camddefnydd cyffuriau. Wrth gwrs, mi fyddwn ni—
Mae eisiau i chi ddod â’ch sylwadau i ben nawr.
Diolch yn fawr. Rydym ni’n nodi’r adroddiad yma heddiw. Mi gefnogwn ni y gwelliannau gan y Ceidwadwyr hefyd. Rwy’n edrych ymlaen i glywed ymateb y Gweinidog i rai o fy nghwestiynau, ond yn bennaf oll at allu edrych yn ôl ar lwyddiant yn y maes yma ar ôl gormod o fethiant yn y gorffennol.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a’n cymunedau. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yfodd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm nag oedolion yn y grŵp incwm isaf. Mae pobl hŷn yn tueddu i yfed yn amlach na phobl iau, ac mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd cyffuriau na phobl hŷn. Mae un o bob person 16 i 24 mlwydd oed wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu ag ychydig dros un o bob 50 yn y braced 55 i 59-mlwydd oed. Mae dynion canol oed yn fwy tebygol o fod yn gaeth i gyffuriau lleddfu poen sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gaeth i feddyginiaeth dros y cownter.
Mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio am driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi codi'n sydyn yn y 12 mis diwethaf, ac mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau’n uwch nag erioed. Felly, mae'n hanfodol bod gennym y polisïau cywir ar waith i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae UKIP yn croesawu cynllun cyflawni diweddaraf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y pwyslais a roddir ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl sy’n bodoli ar yr un pryd. Mae timau iechyd meddwl yn adrodd am gynnydd yn nifer y cleifion sy'n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd, ac mae defnyddio’r sylweddau hyn yn endemig ymysg y boblogaeth yn y carchar, lle mae gan hyd at 90 y cant o garcharorion ryw fath o broblem iechyd meddwl. Mae’r drws troi’n broblem, ac nid yw’n ymddangos bod y materion hyn yn cael eu datrys mor gyflym ag yr hoffem.
Mae croeso eithriadol i benderfyniad Llywodraeth y DU i wahardd cyffuriau anterth cyfreithlon fel y'u gelwir, ond mae'n rhaid inni wneud mwy i hysbysebu'r cyhoedd am beryglon sylweddau seicoweithredol newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y niwed sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd ymysg y cyhoedd? Mae eich cynlluniau cyflawni yn cynnwys hyfforddiant i staff, ac, er bod hyn i'w groesawu, mae angen inni addysgu'r cyhoedd os ydym am wrthdroi'r cynnydd mewn defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd a'i niwed cysylltiedig. Mae angen inni hefyd weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymdrin â'r mewnlifiad o sylweddau seicoweithredol newydd yn ein carchardai a sicrhau y gallwn ddarparu gofal iechyd meddwl digonol i garcharorion Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd cyflawni eich strategaeth camddefnyddio sylweddau yn cyfateb i’w bwriadau, ac rydym yn gobeithio y gwnaiff y strategaeth wrthdroi'r cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau, ac y bydd nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau’n lleihau. Diolch.
Canfu arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol eleni fod bron 14 y cant o oedolion yng Nghymru wedi cyfaddef iddynt yfed yr un faint o alcohol mewn diwrnod â’r hyn yr argymhellir gan yr arbenigwyr na ddylech yfed yn fwy nag ef mewn wythnos. Felly, mae strategaethau i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau i'w croesawu. Mae'r Llywodraeth wedi mynd i drafferth fawr i reoli neu anghyfreithloni pob math o sylweddau, gan gynnwys tybaco. Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan wneud y gwrthwyneb yn achos alcohol, un o'r sylweddau mwyaf peryglus o ran niwed a chaethiwed, a rhyddfrydoli'r deddfau trwyddedu i'r fath raddau nes bod alcohol bellach ar gael ym mhob cornel fwy neu lai. Cerddwch i lawr y stryd fawr i mewn i'r archfarchnad, i siopau cornel a hyd yn oed i orsafoedd petrol ac mae alcohol yno, ar gael 24/7. Nid oedd yr heddlu o blaid y rhyddfrydoli, nac ychwaith y cymunedau na’r landlordiaid tafarndai cyfrifol. Yr unig bobl o’i blaid oedd y cwmnïau diodydd, y tafarnau cadwyn ac wrth gwrs Gordon Brown yn y Trysorlys. Felly, er mwyn y derbyniadau trethi, creodd Llywodraeth Lafur, cyd-deithwyr llawer o'r bobl sydd nawr yn eistedd yn Llywodraeth Cymru, fersiwn o Gin Lane i’r unfed ganrif ar hugain, gan anghofio mai’r rhannau o'r gymuned oedd yn debygol o ddioddef fwyaf oedd plant rhieni sy’n gaeth i alcohol. Dylem gofio hyn pan fydd aelodau o Lywodraeth Cymru yn canmol eu hunain am y modd y maent yn ymdrin â symptomau’r rhyddfrydoli gwallgof hwnnw.
Ni allwn roi'r wy yn ôl yn ei blisgyn dros y bobl sy'n cael eu niweidio gan eu camddefnydd nhw eu hunain o alcohol neu gamddefnydd pobl eraill, ond gallwn ddod o hyd i ffyrdd o wneud alcohol yn llawer llai hygyrch. Ni allwn roi'r ŵy yn ôl yn ei blisgyn dros y bobl sy'n cael eu niweidio gan eu camddefnydd nhw eu hunain o alcohol neu gamddefnydd pobl eraill, ond gallwn ddod o hyd i ffyrdd o wneud alcohol yn llawer llai hygyrch. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng Nghymru ac yn San Steffan am hyn? Diolch.
Ac rwy’n galw ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gwnaf fy ngorau i ateb cynifer o'r pwyntiau hynny ag y gallaf yn yr amser sydd ar ôl imi. Dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ac mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau wrth gwrs yn drasig. Ond mae'r niferoedd mor isel nes bod rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ddehongli amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y ffigurau hynny. Rydym ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych yn fanwl iawn ar yr ystadegau diweddaraf. Rydym yn credu bod heroin mwy pur, a'r ffaith bod pobl hŷn a allai eisoes fod â rhai cyflyrau yn ei gymryd, yn ffactor yn hyn, a hefyd camddefnyddio amryw o gyffuriau—felly, mae cymryd heroin ochr yn ochr â chyffuriau eraill hefyd yn gwneud pethau'n llawer mwy cymhleth. Rydym yn dal i ariannu'r rhaglen naloxone, sef y cyffur sy'n gwrthdroi effeithiau gorddos o opiad dros dro, ledled Cymru ac yn ein carchardai hefyd. Ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phob dalfa ac adran damweiniau ac achosion brys i’w gyflwyno hyd yn oed ymhellach, oherwydd mae hon yn fenter sydd wedi cael ei defnyddio gan gannoedd o bobl eisoes ac rwy’n credu ei bod yn achub bywydau.
Rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, ac rwy'n cytuno’n llwyr â chi ar hynny. Yn arbennig, a dweud y gwir, mae'n rhaid inni gyd-gynhyrchu gyda’r defnyddwyr gwasanaeth eu hunain. Felly, mae ein fframwaith defnyddwyr gwasanaeth yn mynnu bod byrddau cynllunio ardal yn mynd ati i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth hefyd, oherwydd credwn fod ganddynt y profiad byw a’r arbenigedd i’n helpu ni i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau llwyddiannus.
Cyfeiriodd Mark Isherwood a Caroline ill dau at broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau. Mae ein fframwaith trin camddefnyddio sylweddau, 'Bodloni anghenion Pobl â Phroblemau Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl sy'n Cyd-ddigwydd', wedi ei ddiwygio i gynnwys hynny’n union a chynnwys datblygiadau allweddol sydd wedi digwydd ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf—gan sôn am bethau fel defnyddio cyffuriau lluosog a sylweddau seicoweithredol newydd ac yn y blaen hefyd.
Dywedodd Mark Isherwood fod ymyrraeth ac atal yn gwbl allweddol ac mae hynny’n gywir. Mae ein rhaglen gyswllt ysgolion Cymru gyfan yn gweithredu ar draws pob un o'n hysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac mae hyn yn rhan hanfodol o'n strategaeth. Rydym yn adolygu cynnwys y rhaglen yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol defnyddio cyffuriau, gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar sylweddau seicoweithredol newydd ac addysgu plant mewn ysgolion am beryglon hynny.
Soniodd Rhun ap Iorwerth a Michelle Brown am isafswm pris uned—neu am alcohol, a soniodd Rhun am isafswm pris uned—fel ffordd o ymdrin â phroblem camddefnyddio alcohol, oherwydd mae tystiolaeth sylweddol bod pris alcohol yn wirioneddol bwysig ac mae ein cynnig i gyflwyno isafswm pris uned am alcohol yn gynnig effaith uchel i ymdrin â'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. Byddai'n gosod pris gwaelodol ar gyfer alcohol, gan olygu na ellid ei werthu dan y lefel honno. Rydym yn gwybod y byddai hyn yn ein helpu i ymdrin â’r broblem o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru, ond mae problemau yma. Mae cynnig tebyg ar hyn o bryd yn y llysoedd yn yr Alban, felly rydym yn gwylio hwnnw’n agos iawn i ddeall pa bwerau allai fod gennym yma.
Y pryder pellach a amlinellodd Rhun yw bod y Bil Cymru drafft hefyd yn cynnwys, fel pŵer a gadwyd yn ôl, werthu a chyflenwi alcohol, a fyddai'n rhwystr mawr inni i gyflawni ein huchelgais. Felly, rydym yn edrych ar yr amserlenni dan sylw i weld beth allai fod yn bosibl o ran ein Bil iechyd cyhoeddus a'r Bil Cymru yno. Ond rwy’n rhannu eich pryderon. Roeddech yn sôn am bwerau’n ehangach, felly byddai hynny'n cynnwys trwyddedu alcohol. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid—dylai trwyddedu a gwerthu a chyflenwi alcohol a darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr yn y nos fod yn fater a gedwir i Lywodraeth y DU. Rydym yn credu ac wedi argymell yn gryf y dylai Deddf Trwyddedu 2003 ystyried iechyd y cyhoedd. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau trwyddedu alcohol i'r Cynulliad.
Soniodd Caroline am bobl hŷn. Mae ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yn cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â materion alcohol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau penodol i ymarferwyr i wella eu dulliau o ganfod gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau i bobl hŷn a defnyddio’r gwasanaethau hyn. Rydym hefyd wedi cynnwys alcohol yn y profion iechyd ar-lein sydd gennym i bobl dros 50 oed. Rwyf wedi gofyn i'r panel ymgynghorol ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar faterion camddefnyddio sylweddau ymysg poblogaeth sy'n heneiddio hefyd. Bydd y gwaith hwnnw'n dod ag arbenigwyr ym maes camddefnyddio sylweddau ynghyd ag arbenigwyr ar bobl hŷn, a cheir adroddiad ar hyn yn y dyfodol agos.
Soniasoch hefyd am feddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter a sut y cânt eu camddefnyddio’n aml. Rydym wedi datblygu pecyn e-ddysgu ar gyfer staff fferyllfeydd i'w helpu i nodi a chynnig ymyriadau byr i bobl sy'n camddefnyddio meddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter. Mae data presgripsiynau ar gael fel mater o drefn i fyrddau iechyd lleol a meddygon teulu yng Nghymru, gan ganiatáu inni fonitro arferion rhoi presgripsiynau. Felly, mae hyn yn cynorthwyo byrddau iechyd lleol i nodi amrywiadau a newidiadau i arferion ac mae hynny’n helpu i dargedu cymorth i wella diogelwch ac effeithlonrwydd rhoi presgripsiynau hefyd.
Roedd y ddadl yn cyfeirio at sylweddau seicoweithredol newydd, ac, wrth gwrs, daeth Deddf Llywodraeth y DU, yr ydym yn gefnogol yn fras iddi, i rym ar 26 Mai eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal amrywiaeth o fentrau codi ymwybyddiaeth drwy ein gwasanaeth DAN 24/7. Rydym hefyd wedi creu deunyddiau cymorth i rieni a gofalwyr ynglŷn â sylweddau seicoweithredol newydd ac wedi ystyried pob un o'r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â hyn. Mae hynny’n sicr wedi'i ymgorffori yn ein cynllun. Roedd yn sicr yn sail i'n meddyliau ar hynny. Ar ôl adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae rhaglen hyfforddi genedlaethol hefyd wedi cael ei datblygu a'i darparu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ystyried modiwlau e-ddysgu ar sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau eraill fel y gall atal camddefnyddio sylweddau ac ymateb i hynny gael eu hintegreiddio’n fwy ym mhrif ffrwd ein darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.
Yn olaf ar hyn, rydym yn gwybod bod gweithlu rheng flaen â’r sgiliau a’r wybodaeth addas yn allweddol er mwyn gwella addysg ac atal risgiau sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd. Felly, mae cynllun bwrsariaeth hefyd ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r gweithlu ymhellach.
Felly, i gloi, rwy’n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ymuno â mi i ddiolch i bob un o'n rhanddeiliaid ymroddedig sydd wedi gweithio gyda ni ar yr agenda hon. Mae'n agenda heriol, ac mae eu gwaith caled nhw, eu hymroddiad a’u tosturi yn hanfodol wrth inni geisio ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ledled Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, ac felly fe dderbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn sy’n weddill, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd?
Cynnig NDM6082 fel y’i diwygiwyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.
2. Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.