1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Medi 2016.
Galw nesaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnes sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd bellach yn cael ei ymestyn ar gyfer 2017-18. Mewn ymgais, efallai, i guddio’r ffaith eich bod yn camu’n ôl rhag un o brif addewidion eich maniffesto yn yr etholiad diweddar, cafodd hyn ei gyflwyno fel toriad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Nawr, ‘does bosibl fod parhau â’r rhyddhad ardrethi cyfredol, pa un a yw’n ei wneud yn barhaol neu fel arall, yn doriad treth? A allwch chi gadarnhau i mi heddiw pa un a ydych yn dal i gredu mai toriad treth yw hwn, neu, yng ngeiriau’r Ffederasiwn Busnesau Bach, ai hwn yw’r math gwaethaf posibl o sbinddoctora a dim mwy nag estyniad o’r gyfundrefn dreth waethaf yn y DU i fusnesau bach?
Mae’n sicr yn doriad treth, Lywydd. Roedd y cynllun presennol i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Pe na bai wedi cael ei ymestyn, ni fyddai gwerth £98 miliwn o ostyngiad yn y dreth ar gael i fusnesau bach. Buasent wedi bod yn talu’r dreth honno. Ni fyddant yn talu’r dreth honno yn awr. Mae’r dreth y buasent wedi gorfod ei thalu, pe na baem wedi gwneud y cyhoeddiad hwn, wedi cael ei thorri. Mae’n doriad treth, ac nid oes amwysedd ynglŷn â hynny.
Nid wyf yn siŵr os yw hyn yn Orwelaidd neu’n Kafkaésg, ond nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi. Rydych yn talu’r un trethi yn union; nid yw ond yn doriad treth yng Nghymru yn awr yn ôl pob golwg. Mae yna bethau eraill y gallech fod wedi eu gwneud fel Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi busnesau o ran ardrethi. Gallech fod wedi mynegeio’r lluosydd ardrethi busnes i’r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na’r mynegai prisiau manwerthu er mwyn sicrhau biliau ardrethi mwy cywir ac osgoi gadael i fusnesau ddioddef dirywiad yn eu hincwm. Mewn gwirionedd, gallech fod wedi cyflwyno lluosydd dwbl, lluosydd deuol, gan adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng busnesau mawr a busnesau bach fel y maent wedi’i wneud yn yr Alban ac yn Lloegr. Pam na wnaethoch chi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Lywydd, yr hyn a gyhoeddais yw hyn: byddwn yn ymestyn y cynllun. Pe bai’r Aelod yn gwybod fod ganddo fil o £100 i’w dalu y flwyddyn nesaf a fy mod i’n cyflwyno cynllun sy’n dweud wrtho na fyddai angen iddo dalu’r £100 hwnnw wedi’r cyfan, rwy’n credu y byddai’n ei ystyried yn doriad yn y rhwymedigaeth y byddai’n rhaid iddo ei chyflawni fel arall, a dyna’n union rydym wedi’i wneud. Hefyd, yn ogystal ag ymestyn y cynllun am flwyddyn arall, cyhoeddais y bydd yn cael ei wneud yn barhaol wedi hynny. Felly, mae’n doriad treth parhaol i fusnesau bach yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio’r 12 mis nesaf i weithio gyda’r sector busnesau bach ac eraill i weld a oes ffyrdd y gellid gwella’r cynllun ymhellach i gynnig rhagor o gymorth eto. Yn sicr, gall y syniadau y mae’r Aelod yn eu cyflwyno gyfrannu at y drafodaeth honno.
Fe wnaf fy ngorau gyda hwn felly: yn dilyn ailbrisiad ardrethi busnes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a ddaw i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, mae rhagfynegiadau cyfredol gan y sector manwerthu a busnesau eraill yn dangos y gallai’r puntdal ardrethi a ragwelir ar gyfer Cymru lamu i fyny’n syfrdanol 10 y cant, a fyddai’n golygu mai Cymru fyddai’r lle sydd â’r dreth uchaf a’r lle lleiaf deniadol i wneud busnes ym Mhrydain os bydd eich Llywodraeth yn penderfynu gwneud iawn am y gwahaniaeth a gollir mewn refeniw drwy newid y lluosydd ardrethi busnes unffurf. Yn rhyfedd iawn, gallem fod mewn sefyllfa lle bydd gennym y dreth uchaf a’r cyfraddau gwacter busnes uchaf yn y DU gyfan. A allwch gadarnhau heddiw na fyddwch yn newid y gyfradd fusnes unffurf mewn ymateb i ostyngiad posibl yn refeniw’r Llywodraeth?
Wel, bydd yn rhaid i’r Aelod aros nes 30 Medi, fel pawb arall, i weld beth fydd ailbrisiad ardrethi annomestig Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei ddweud mewn gwirionedd yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn dyfalu y gallai ei ddweud. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol nad cynyddu swm yr arian sy’n cael ei gymryd gan fusnesau mewn unrhyw fodd y mae ailbrisio yn ei wneud, ond sicrhau yn hytrach fod dosbarthiad y cyfraddau hynny’n adlewyrchu’r set ddiweddaraf o amgylchiadau economaidd. Fe welwn beth fydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i’w ddweud ar 30 Medi.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffigurau a ryddhawyd heddiw gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos mai ôl-ddyledion y dreth gyngor mewn gwirionedd yw’r ffactor unigol mwyaf sy’n achosi dyled yng Nghymru o hyd. Yn eich rhaglen lywodraethu, mae sôn am weithio gyda llywodraeth leol i adolygu’r dreth gyngor. Sut yn union rydych chi’n bwriadu cyflwyno hwn ac a ddylem ragdybio efallai y gallai un o’r modelau sydd i’w hystyried, fel yr awgrymodd Plaid Cymru, fod yn rhan o’ch ‘cydweithio’ dros y tymor nesaf hwn?
Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffordd rwy’n bwriadu mynd ati i ddatblygu’r dreth gyngor yn rhannu’n ddau gyfnod gwahanol. Rwy’n credu bod rhai camau gweithredu uniongyrchol y gallwn eu cymryd i wella gweithrediad y cynllun sydd gennym ar hyn o bryd ac i’w wneud yn decach i unigolion. Ond rwyf am i ni feddwl yn ehangach na hynny. Rwy’n credu bod yna nifer o ffyrdd y gellid diwygio trethi lleol. Cafwyd cyfres o adroddiadau sy’n ailadrodd manteision ac anfanteision y modelau hynny ar lefel ddamcaniaethol. Rwy’n bwriadu dechrau gwaith yma yng Nghymru a fydd yn edrych yn fanwl ar sut y gallai’r gwahanol fecanweithiau hynny weithio yn y cyd-destun Cymreig. Wedyn, byddwn yn gallu cael trafodaeth gymhwysol, fwy gwybodus i weld a oes unrhyw un o’r modelau hynny yn cynnig ffordd well ymlaen i ni gyda golwg ar y dreth gyngor.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe eich bod yn bwriadu cael 22 o awdurdodau lleol, ond yn awr gyda chydwasanaethau rhanbarthol. Rwy’n credu y bydd hyn newyddion i sawl un, ac nid ydym wedi cael unrhyw fanylion o gwbl am hyn o hyd. A wnewch chi roi’r Siambr ar ben y ffordd heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn cyflwyno hyn? A fydd cynrychiolwyr etholedig yn arwain y cydwasanaethau hyn fel sy’n digwydd mewn awdurdodau cyfunol rhanbarthol yn Lloegr, a pha fesurau strategol sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau cydwasanaethau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus?
Wel, Lywydd, nid wyf yn credu y bydd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn peri syndod i lawer a fu’n dilyn y trafodaethau sydd wedi bod yn datblygu dros y misoedd diwethaf ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i’r Aelod am ei pharodrwydd i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Ymwelais â phob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru dros y misoedd hynny ac rwy’n credu bod cyfres o syniadau allweddol newydd yn dechrau cadarnhau. Bydd yr Aelodau wedi gweld, o’r datganiad busnes, fy mod i fod i ddod gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref gyda datganiad ar ddyfodol llywodraeth leol ac rwy’n bwriadu amlinellu’r hyn y gobeithiaf y bydd yn ffordd ymlaen ar rai o’r materion hyn i’r Aelodau ei hystyried bryd hynny.
Diolch. Mae eich rhaglen lywodraethu hefyd yn nodi addewid i ddarparu cyllid gwaelodol ar gyfer cyllido llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sôn am gynghorau gwledig nac ystyriaeth ohonynt, a thros dymhorau blaenorol, pwysolwyd yn eu herbyn yn gyson mewn perthynas â’r setliad llywodraeth leol. A wnewch chi ymrwymo i gynnal adolygiad ar unwaith o’r fformiwla ariannu er mwyn sicrhau bod y setliad llywodraeth leol hefyd yn ystyried ac yn cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu ein cynghorau gwledig?
Lywydd, mae’r fformiwla ariannu yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae grŵp o bobl sy’n arbenigo yn y maes, gan gynnwys cynrychiolaeth o lywodraeth leol, yn edrych ar y fformiwla bob blwyddyn. Maent yn edrych ar ei holl gydrannau: demograffeg, daearyddiaeth, economi a ffactorau cymdeithasol a phob blwyddyn, maent yn cyflwyno cynigion, ac mae llywodraethau, yn fy mhrofiad i, yn derbyn y cyngor y maent yn ei gael—a’r cyngor hwnnw’n dod gan lywodraeth leol ei hun.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod, yn yr ymweliadau â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, fod gan bob un o’r awdurdodau hynny stori i’w hadrodd ynglŷn â pham nad yw eu hamgylchiadau unigryw yn cael eu hadlewyrchu’n gywir yn y fformiwla ariannu, pa un a ydynt yn awdurdodau gwledig sy’n credu nad yw eu natur wledig yn cael ei hadlewyrchu’n briodol neu’n awdurdodau trefol sy’n dadlau nad yw’r problemau sy’n deillio o ddwysedd poblogaethau yn cael eu cydnabod. Mae gan bawb rywbeth unigryw mewn perthynas â’u hamgylchiadau. Dyna pam y mae’n rhaid i ni ddibynnu ar y cyngor arbenigol gorau i wneud yn siŵr fod ein fformiwla mor deg ag y gall fod wrth gydbwyso’r holl ffactorau gwahanol hynny.
UKIP spokesperson, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Mae’r Gweinidog yn ôl pob tebyg yn ymwybodol ein bod yn wynebu problem yn y DU mewn perthynas â chasglu gwastraff. Yn fyr, mae llawer o sbwriel o gwmpas y lle. Yng Nghymru, mae gennym Gyngor Conwy yn cyflwyno casgliadau bob pedair wythnos, ond mae’r math hwn o gynllun eisoes wedi methu ar draws y ffin yn Bury ym Manceinion Fwyaf. Felly, beth yw safbwynt y Gweinidog ar gylchredau casglu bob pedair wythnos?
Lywydd, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael ein perthynas ag awdurdodau lleol yn iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau ac uchelgeisiau allweddol y disgwyliwn i awdurdodau lleol weithio tuag atynt a’u cyflawni. Wedyn, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain, a etholwyd yn ddemocrataidd ac sydd â chyfrifoldebau democrataidd eu hunain, yw gwneud y penderfyniadau y maent yn credu sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u hamgylchiadau lleol yn y ffordd orau. Byddant yn cwrdd â’u hetholwyr ym mis Mai eleni. Os nad yw etholaethau lleol yn fodlon â pherfformiad eu hawdurdodau lleol, yna bydd yn rhaid iddynt eu dwyn i gyfrif am hynny. Nid fy nghyfrifoldeb i, fel Gweinidog, yw microreoli pob awdurdod lleol a rhoi fy hun yn lle’r etholwyr lleol hynny y mae’r cynghorau’n atebol iddynt.
Diolch i chi, Weinidog, am y datganiad hwnnw. Rwy’n derbyn eich bod yn gweld gwahaniad rhwng eich pwerau eich hun ac awdurdodaeth yr awdurdodau lleol. Fodd bynnag, efallai y gallem chwarae rhan fwy arweiniol yn y Cynulliad mewn meysydd o’r fath. Nodaf mai llawer o’r ysgogiad i leihau casgliadau sbwriel oedd er mwyn cydymffurfio â thargedau’r UE ar ailgylchu a thirlenwi. Gan ei bod yn ymddangos bellach ein bod yn mynd i adael yr UE, a oes achos i’r Cynulliad wasgu am ddiwygio’r targedau hyn?
Rwy’n falch o glywed yr Aelod yn cydnabod y gwaith ardderchog a wnaeth yr UE yn y maes hwn yn arwain rhai o’r gwelliannau amgylcheddol a welsom ar draws y Deyrnas Unedig. Yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am lusgo’r Deyrnas Unedig i gyflawni rhai o’r camau gweithredu hynny sydd wedi gwneud cymaint i wella ein hamgylchedd lleol. Heb yr Undeb Ewropeaidd—mae’n gwneud pwynt pwysig, wrth gwrs—bydd yn rhaid i ni gynllunio ein dulliau polisi ein hunain yn y maes hwn, ac mae’n iawn i nodi y bydd hynny’n rhywbeth y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.
Diolch i chi, Weinidog; diolch i chi am gydnabod y gallai fod rôl yn y Cynulliad i’r ddadl honno. Nodaf hefyd fod rhan fawr o ddeddfwriaeth yr UE yn y maes hwn—mae’n ddrwg gennyf am rygnu ymlaen ar y pwynt hwn—wedi cael ei hysgogi gan yr Almaen a Denmarc, dwy wlad nad oedd ganddynt lawer o safleoedd tirlenwi ar gael. Yn y DU, mae gennym lawer o chwareli a phyllau gro nas defnyddir, felly nid oes angen i ni gydymffurfio â’r targedau hyn, nac oes? Beth yw eich barn ar hynny?
Fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod, ein huchelgais oedd lleihau, a hyd y bo modd, dileu’r defnydd o safleoedd tirlenwi, ac ni welaf unrhyw atyniad o gwbl mewn gwrthdroi ein safbwynt ar y mater hwnnw.