1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Hydref 2016.
Cwestiynau nawr i lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â phrosiect Cylchffordd Cymru?
Gwnaf. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Cylchffordd Cymru a fy swyddogion.
Iawn. Deallaf fod deiseb wedi’i chyflwyno i’r Ysgrifennydd gan etholwyr lleol yn mynnu rhywfaint o symud gan y Llywodraeth. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar hyn?
Gallaf. Rydym wedi cael y ddeiseb gan y Pwyllgor Deisebau, ac mae fy swyddogion wedi’i gweld, ac rydym wedi ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn ôl y gofyn.
O ystyried bod y prosiect hynod gyffrous hwn wedi cael ei gyhoeddi gyntaf oddeutu wyth mlynedd yn ôl, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod etholwyr ledled rhanbarth Blaenau’r Cymoedd yn hollol iawn i leisio’u rhwystredigaeth, o gofio nad yw’r penderfyniad terfynol i roi golau gwyrdd i’r prosiect hwn wedi’i wneud eto, heb sôn am ddechrau ar y gwaith adeiladu mewn gwirionedd?
Gobeithiaf yn fawr y gall y datblygwyr gadw at eu haddewid o allu cyflawni’r prosiect gyda’r cyllid angenrheidiol o’r sector preifat. Fel y dywedais, mae trafodaethau’n parhau gyda fy swyddogion. Pan drafodais y mater gyda’r datblygwyr dros yr haf, roeddent yn hyderus o allu bodloni’r meini prawf a osodwyd, ac rydym yn aros am gyflwyniad ffurfiol ganddynt er mwyn i ni ei ystyried.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Mae’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu masnachfraint rheilffyrdd ddielw newydd i Gymru. Ni chredaf mai fi yw’r unig un sydd wedi ceisio deall, ac wedi methu deall hyd yn hyn, beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Dywedodd cyfarwyddwr polisi Arriva Cymru, wrth siarad â’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ddiweddar,
Nid wyf yn teimlo fy mod erioed wedi gweld esboniad o’r cysyniad hwn.
Ar hyn o bryd, mae pedwar cwmni er elw yn paratoi i wneud cais am fasnachfraint rheilffyrdd Cymru pan ddaw’r cyfnod presennol i ben. A ydynt yn gwastraffu eu hamser, ac ai bwriad y Llywodraeth yw defnyddio Trafnidiaeth Cymru, sef tua phump o bobl yn Nhrefforest ar hyn o bryd, i wneud cais fel rhan o’r gystadleuaeth am y fasnachfraint?
Mae Trafnidiaeth Cymru ei hun yn sefydliad dielw a fydd yn gyfrifol am bob elfen o’r fasnachfraint, gan gynnwys yr holl gonsesiynau. Fel gydag unrhyw elusen, neu yn wir, unrhyw sefydliad, megis Transport for London, byddant yn gallu rheoli’r fasnachfraint mewn modd sy’n sicrhau rhaniad rhwng y partner cyflenwi ei hun a’r consesiynau eraill megis lluniaeth a thocynnau i sicrhau, lle y bo’n bosibl, y gallwn gael sefydliadau dielw i weithredu’r consesiynau hynny, ond lle y gallem gael elw wedi’i gapio hefyd, er mwyn i hynny atal colledion gyda’r partner cyflenwi.
Ymddengys i mi, Lywydd, fod hyn yn debyg i’r toriad treth a gynigwyd i ni’r diwrnod o’r blaen. Cwmni dielw mewn enw’n unig yw hwn. Un o’r ymrwymiadau eraill yn y rhaglen yw creu banc datblygu Cymru, a ddeilliodd o anfodlonrwydd â’r ffordd y câi Cyllid Cymru ei weithredu. Gwyddom bellach fod Cyllid Cymru yn gwneud cais i ddarparu banc datblygu newydd Cymru. Un feirniadaeth o’r fath gan y grŵp adolygu mynediad at gyllid oedd bod Cyllid Cymru yn rheoli cyllid yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru, gan ddargyfeirio eu sylw oddi wrth eu prif ddiben a gweithredu fel cwmni lled-breifat i bob pwrpas. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n ymwybodol fod Cyllid Cymru yn gwneud cais ar hyn o bryd i weithredu cronfa fuddsoddi Northern Powerhouse? Onid yw hyn yn gwbl anghyson â’r argymhellion o ran y banc datblygu y mae yn awr yn gwneud cais i’w weithredu hefyd? A wnaiff ailgynnull y grŵp gorchwyl mynediad at gyllid fel y gallant adolygu’r cynllun busnes y mae Cyllid Cymru yn ei gyflwyno, er mwyn i ni allu gweld a yw’n gyson â’r argymhellion a gefnogwyd mewn gwirionedd gan benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad hwn?
Yn gyntaf, i ddychwelyd at Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn adlewyrchu model Transport for London, ac rwy’n siŵr na fyddech yn dadlau nad yw hwnnw’n unrhyw beth ond sefydliad dielw.
O ran Cyllid Cymru, mae’r aelod yn beirniadu Cyllid Cymru, ond os edrychwn ar y ffigurau ar gyfer Cyllid Cymru am y cyfnod mwyaf diweddar sydd ar gael, fe welwn mai y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed a’u bod wedi buddsoddi £45 miliwn mewn busnesau yng Nghymru. Eleni, maent eisoes yn nodi y byddant yn rhagori ar hyn, ar ôl buddsoddi dros £17 miliwn hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, o’i gymharu ag ychydig dros £13 miliwn y llynedd. Dengys hyn fod perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn 28 y cant yn uwch na’r targedau.
O ran perfformiad mewn perthynas â chreu swyddi, dengys perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn ei fod 153 y cant yn uwch na’r llynedd a’u bod ar y trywydd iawn i ragori ar eu targed o 3,186 o swyddi. Dyma’r perfformiad gorau erioed gan Cyllid Cymru o ran swyddi.
Byddwn yn dweud yn gwrtais wrth Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n ddefnyddiol pe bai’n ateb y cwestiynau a ofynnir iddo yn hytrach nag adrodd ei nodiadau. Rwy’n cymryd o’i ateb nad oedd yn ymwybodol fod Cyllid Cymru yn mynd yn groes i ysbryd yr argymhellion yn adolygiad ei Lywodraeth ei hun o fynediad at gyllid drwy wneud ceisiadau cyson i weithredu cronfeydd y tu allan i Gymru.
Bydd yn ymwybodol ein bod mewn cyfnod economaidd heriol—[Torri ar draws.] Byddwn yn ildio i Ysgrifennydd y Cabinet pe caniateid i mi wneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog. Bydd yn ymwybodol ein bod mewn cyfnod economaidd heriol iawn. Onid yw’n bryd i Lywodraeth Cymru roi ei throed ar y sbardun yn hytrach na’r brêc? Clywsom am yr oedi gyda Cylchffordd Cymru. Ymddengys bod y Llywodraeth yn pwyso a mesur a yw’n dymuno cefnogi prosiect Egin yng Nghaerfyrddin. Ddwy flynedd a hanner i mewn i raglen cronfeydd strwythurol 2014-20, nid ydym wedi gweld yr un bunt o fuddsoddiad cyfalaf ar lawr gwlad yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r un peth yn wir yn y rhan fwyaf o Gymru, am fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn dal i barhau â’r un llesgedd biwrocrataidd ag o’r blaen. Bu sôn am ganolfan arloesi dur—sydd ei hangen ar frys o ganlyniad i’r newyddion a glywsom o Gasnewydd. Ond ble mae honno? Nawr, clywn y gallai’r cysylltydd trawsiwerydd a addawyd fel rhan o’r cynnig ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe fod mewn perygl hefyd. Pwyll ar lefel macro, hunanfodlonrwydd ar lefel micro, oedi rhag gwneud penderfyniadau mawr a gwneud llanast o’r rhai bach. Onid yw Cymru’n haeddu gwell?
Roeddem yn aros am y cwestiwn. Roedd yn fyr yn y diwedd, ond gyda chyflwyniad hir. Yr wythnos hon, cyflwynodd yr Aelod strategaeth ei blaid ar gyfer buddsoddi a seilwaith gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Croesawaf y papur, ond yr un gwall amlwg iawn ynddo yw nad yw wedi gallu nodi ble yng nghyllideb refeniw’r Llywodraeth y gellid dod o hyd i £700 miliwn. O ble fydd hwnnw’n dod? Iechyd? Addysg? Mae hwnnw’n gamgymeriad amlwg dros ben. Rydych yn dweud, ‘Byddwch yn uchelgeisiol’—mae gwahaniaeth rhwng bod yn realistig a thwyllo’ch hun. Mae gallu hudo £700 miliwn o’r awyr yn anodd iawn.
Mae’r panig a welsom ers y bleidlais i adael yr UE ar feinciau’r Aelod wedi bod yn eithaf amlwg. Maent wedi bod yn awyddus i gefnogi pob prosiect a ddaw dros eu desgiau—pob prosiect—biliynau o bunnoedd o addewidion. [Torri ar draws.] Uchelgais? Dyna ni; rydym ni’n ei alw’n hunan-dwyll, gan na allwch roi cyfrif am yr un geiniog o’r hyn yr hoffech ei fenthyg. ‘Run geiniog. Pan ofynnwyd ble y byddech yn dod o hyd i £700 miliwn, nid oeddech yn gallu ateb y cwestiwn. Ni allech ateb o ble y byddech yn talu’r ddyled. Nid yw prynu mewn panig heb unrhyw ateb ynglŷn â sut y byddech yn gallu fforddio’r prosiectau hyn rydych chi’n eu galw’n uchelgeisiol yn drywydd cyfrifol i unrhyw Lywodraeth ei ddilyn.
Pan fyddwch yn ymosod arnom mewn perthynas â phethau fel mewnfuddsoddi neu gymorth i fusnesau, eich ateb bob amser yw ailwampio rhaglen o’r gorffennol, boed yn Awdurdod Datblygu Cymru neu—beth oeddech chi’n ei ddweud am adael yr UE? Mai Cynllun Marshall ydoedd gyfer yr unfed ganrif ar hugain, heb ei fwriadu i gynnig unrhyw sylwedd, ond fel cyfle i greu pennawd yn unig.
Pan edrychwch ar hanes y Llywodraeth hon yng Nghymru, fe welwch fod gennym y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Gennym ni y mae’r cynnydd canrannol mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat o gymharu â’r 12 o wledydd a rhanbarthau eraill. Ers datganoli, mae nifer y bobl mewn gwaith wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn y DU. Ers datganoli, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 rhanbarth y DU. Oes, mae mwy i’w wneud, ond ni fyddai’n cael ei gyflawni, ac ni fyddai uchelgeisiau’n cael eu cefnogi drwy fenthyca’r hyn na allwch fforddio ei ad-dalu.
Ysgrifennydd y Cabinet, gan Gymru y mae’r trenau hynaf sydd ar waith yn y DU, gyda rhai ohonynt bron yn 40 mlynedd yn oed, ac mae eu gallu i gynnig gwasanaeth effeithlon ar gyfer yr oes fodern yn prysur leihau. Clywais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweithredwr trenau nesaf yng Nghymru yn darparu gwasanaeth gwell a mwy modern?
Mae gennym ddull gwahanol o benderfynu ar y fasnachfraint a fydd yn weithredol o 2018 ymlaen, lle’r ydym yn nodi’r canlyniadau ac yna bydd y cynigwyr yn cyflwyno’u cynigion ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hynny. Rydym yn cydnabod nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben. Nid oes digon o gerbydau ac maent yn rhy hen. Mae’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn dangos i ni fod teithwyr yn teimlo bod y trenau’n heneiddio, nad oes digon o wasanaethau trên ac nad yw’r gorsafoedd yn ddigonol. O ran hygyrchedd, roedd cwestiynau hefyd ynglŷn ag a ellir darparu’n llawn ac yn briodol ar gyfer symudedd cyfyngedig. Felly, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, rydym wedi gwneud yn siŵr fod ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi’n briodol—dros 190 o ymatebion—cyn gosod y canlyniadau hynny yn erbyn dymuniadau’r cyhoedd.
Diolch am eich ateb manwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Erbyn 2020, mae’n rhaid i bob gorsaf a thrên fod yn gwbl hygyrch. Ar hyn o bryd, 53 y cant yn unig o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod contract Trenau Arriva yn dod i ben yn 2018, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni’r gwelliannau hyn. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r gwelliannau hyn ac i ddiwallu’r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod pobl anabl ledled Cymru yn cael mynediad llawn a hygyrch at y rhwydwaith rheilffyrdd?
Lle y gallwn fuddsoddi mewn gorsafoedd, rydym wedi gwneud hynny. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o enghreifftiau ledled y wlad lle’r ydym wedi gallu defnyddio ein hadnoddau i wella profiad teithwyr. Mae gan Network Rail gyfrifoldebau hefyd yn hyn o beth. Yn hanesyddol, nid yw Cymru wedi cael y gyfran y dylem ei disgwyl o gyllid Network Rail. Fy ngobaith, yn y dyfodol, yw y byddwn yn gweld yr adnoddau angenrheidiol yn cael eu buddsoddi, nid yn y rheilffyrdd yn unig, ond hefyd yn y gorsafoedd. Bydd disgwyl i’r gweithredwr rheilffyrdd newydd, y partner cyflenwi, fuddsoddi yn y seilwaith hefyd, nid o ran y cerbydau yn unig, ond yn yr elfennau o’r gwasanaeth y maent yn gyfrifol amdanynt mewn gorsafoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru o ran y fasnachfraint reilffyrdd ddielw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y bydd yn rhaid i’ch Llywodraeth ddysgu gwersi gan fasnachfreintiau’r gorffennol ac y bydd yn rhaid iddi reoli’r risgiau wrth gaffael yr hyn sy’n fuddsoddiad sylweddol i Gymru yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, gyda hynny, a ydych yn gwbl hyderus ar y cam hwn eich bod yn y sefyllfa orau i ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gaffael y fasnachfraint nesaf? A allwch gadarnhau pa un a fydd masnachfraint Cymru yn ddarparwr hollol ddielw? Yn olaf, a ydych yn credu bod gennych ddigon o adnoddau a sgiliau yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru i ddarparu masnachfraint Cymru?
Ydw. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn, yn arbennig am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn hynod ddefnyddiol o ran sylweddoli a deall yr hyn sydd angen ei ddysgu ar gyfer y fasnachfraint nesaf. O ran adnoddau dynol, rwy’n hyderus fod yr arbenigedd gennym o fewn Trafnidiaeth Cymru. Mae llawer o wersi y mae angen i ni eu dysgu, ac mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, yn cadarnhau’r hyn a ddywedwyd gan lawer o’r ymatebwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori.
O ran yr hyder sydd gennyf mewn perthynas â’r fasnachfraint nesaf, mae yna drafodaethau sydd angen eu cael o hyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â theithiau trawsffiniol ac mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i amserlenni, ond rwy’n hyderus y byddwn yn cadw at yr amserlen, ac wrth sicrhau bod meincnodau ar waith ar gyfer cychwyn y fasnachfraint nesaf, disgwyliaf y bydd yn darparu lefel uwch o wasanaeth nag y mae teithwyr yn ei chael ar hyn o bryd.